‘Cronicl Hywel ap Syr Mathew’, Peniarth 168 (1568 (ms. 1589-90)), 198r-237r.

Cynnwys
Contents

Wiliam Gwnkwerwr weithian 198r
Wiliam Rüphws 199r
Harri y kynta 200r
Brenhin Stephan 201r
Henry yr ail 202r
Richard gyntaf 203r
Brenhin Sion 204r
Harri y trydydd 205v
Edwart gyntaf 206v
Edward yr ail 207v
Edward yr ail. 208r
Edward y trydydd 208*r
Richard yr ail. 210v
Henri y .4.ydd 212r
Harri y pümed 212v
Harri y chweched. 214v
Edward y pedwerydd 218v
Edward y pümed 221r
Richard y trydydd 221r
Harri .7.ed 221v
Harri wythued 222v
Edward y chweched 230r
Brenhines Mari 233r

[td. 198r]

Wiliam Gwnkwerwr weithian

   
Wiliam Bastart oedd vab i Robert Dük o Normandi ap Richard y .3. ap Richard yr .2. ap Richard ddiofn ap Wiliam ap Rollo vchod yr hwnn a elwid Robert gwedi i vedyddio o Arled merch i bannwr o dre Phalais i vam Ac Wiliam Gwnkwerwr i gelwid ef
   
Wiliam Gwnkwerwr a ddaüth ir ynys honn y 15ed dydd o vis Hydref oedran Crist .1067. ac a wledychodd .21. ac vn mis ac a orchvygodd y Saesson ac a ddyrrodd rhai i Gymrü a rhai or Deyrnas ac a wnaeth gyfreithe er i brophid ehün ac amhrophid y Saesson. Y Wiliam hwnn a wnaeth gestyll a threfydd ac a roes Normandiait ynddünt ac a beris i ddaü Gardinal o Rüfain ddyfod ir ynys honn a thrwy i archedigaeth ef i tynnysson Esgyb [td. 198v] ac Abadoedd a Phrioried Saesson oi krefydddai allan ac a roessant Normaniaid ynn i lle./
   
Y .4. vlwyddyn oi wledychiad ef i dinüstrodd y Dans lawer ar y North ac ynnill tref Iork. ond ni bü hir hyd pann dyrrwyd ymaith ac ef a anrheithiodd y brenhin o Iork i Dürham o gwbl lid a dicter wrth yr ardalwyr am vddünt ddioddef ir Dans ddyfod val na hewyd grwn .9. mlynedd./
   
Ac ynghylch yr amser hwnnw i bü drafais rhwng archesgob Iork a Lanphranc Archesgob Canterbüri am yr orüchafieth ynn Lloegr ond Archesgob Cawnterbüri ai hennillodd ac Archesgob Iork a dyngodd llw darostwngedigaeth iddo./
   
Y .10. vlwyddyn i kyfododd Iarll Herphordd a Raph Iarll Norpholk ynn erbyn y brenhin./ ar brenhin ai herwriodd ac ai deholodd or Deyrnas ac a dorrodd penn Iarll Walryf./
   
Ynghylch y .15. vlwyddyn oi goroniad ef Robert Cwrteis i vab hyna ef drwy nerth brenhin Phraink Philip a ryfelodd ai dad yn Normandi  lle i clwyfwyd Wiliam Gwnkwerwr yn ddrwc ond heddwch a wnaethbwyd./
   
Wiliam Gwnkwerwr a wnaeth phorest newydd yn Hamsir ac a ddinüstrodd yr eglwyssi .30. milltir o gwmpas ac ynn i amser ni chafas Sais na swydd na gorüchafieth vchelwridd yn Lloegr Ynn i amser ef i bü dreth ynn Lloegr nid amgen ar bob .20. kyfeir o dir chwe swllt yr .19. vlwyddyn oi wrogeth
   
Yr Wiliam hwnn a ryfelodd a Phraink ac a wnaeth lawer o ddryge a cholledion yno ac a glevychodd ar clevydd hwnnw a ddüc i vywyd ac ynn [td. 199r] i glefyd ac i gwnaeth i Destament ac i rhodd ac i gorchmynnodd Deirnas Loegr ai choron i Wiliam Rüphws i ail mab rhai ai galwai Wiliam Goch.

<Wiliam Rüphws>

   
Wiliam Rüphws nei Goch oedd ail mab i Wiliam Bastart ac a goroned yn Westmestr wyl Gosmws a Damian ac wedi gwledychü o hono .14. mlynedd i lladdodd Water Tyrel ef a saeth yn keissio saethü llwdwn yn y phorest newydd a wnaeth ef ac i dipheithyssai ef .52. o eglwyssi plwy yw gwneüthür ac yngaer Wynt i claddwyd ef heb neb ynn wylo ar i ol Dechreü Wiliam Goch vü y .17. dydd o vis Medi oedran Crist 1089.
   
A Robert Cwrteis i vrawd a ddaüth o Normandi i Loegr i Borthampton ar vedyr bwrw  Wiliam i vrawd allan oi vrenhiniaeth. Eithr heddwch a wnaethbwyd nid amgen y vrenhiniaeth i Wiliam Goch dan dalü i Robert Düc o Normandi i vrawd bob blwyddyn .300. o vorkie a phob vn ynn aer iw gilydd pann vai marw yr llall
   
Yr ail vlwyddyn oi vrenhiniaeth i cyfododd swrn o arglwyddi Lloegr yn erbyn y brenhin ac a roessont wrth rai o drefi Lloegr ond brenin Wiliam ai gwahanodd ac ai dyrrodd or Deyrnas allan./
[td. 199v]    
Ynn y .3.edd vlwyddyn i rhyfelodd yr y Scottied a Lloegr ar brenhin a ordeinodd lü ac aeth yno ac yn ol llawer Scirmais a rhyfel i gwnaethbwyd heddwch ac ar Valcolyn brenhin Scotlond dyngü llw vfüdddra i vrenhin Lloegr
   
Y 4edd vlwyddyn i bü wynt angyrriol ynn Llündain ac i byrrodd ir llawr gant o dai a phenn Bow chwrch ac a wnaeth lawer o anrhaith ynn Winchestr ac mywn lleoedd eraill Ac yn yr amser hwnnw i rhyfelodd y Cymrü ac i lladdwyd Rhys i blaenor ac i gorchvygwyd hwynt. Ar Rhys hwnn a elwid y brenhin diwaethaf o Gymrü Malcolyn brenhin y Scotlond a llü mawr gantho a ddaüth i Loegr ond Iarll Northymyrlond ai kymerth i vynü ac yno i lladdwyd Malcolyn brenhin y Scottlond./
   
Y .6. vlwyddyn oi wrogeth ef i gwnaethbwyd trwy holl Gred lü dirvaür o chwechant o viloedd i vyned i ynnill Kaerüsalem ai capten ai penn arweddwr oedd Gotphre Dük o Lorayn ai ddaü vrodür a llawer o bennaethied Kred am benn hynny ac ynn yr amser hwnnw i gwystlodd  llawer mil o wyr i tir i vyned ir siwrnai honn./ Ac y mysc yr rhain vn oedd Robert Cwrteis düc o Normandi a wystlodd i dir iw vrawd Wiliam brenhin Lloegr er kann mil o bünne./
   
Ynghylch yr 8ed vlwyddyn oi wrogeth ef i bü  drethe dirvawr mawr ynn Lloegr a Normandi a marwolaeth vawr hyd na allwyd haü na llafürio yr vlwyddyn honno megis i bü newyn a phrinder y vlwyddyn ar ol
[td. 200r]    
Ynghylch yr vnfed flwyddyn ar ddec oi wrogeth i gwnaethbwyd Westmestr hal ac ir ennillwyd Kaerüsalem ac i gwnaethbwyd Gotphre capten y Cristnogion ynn vrenhin ynghaerüsalem./
   
Marw fü yr Wiliam hwnn heb etifedd oi gorph ac ynn Winsiestr i claddwyd gwedi gwledychü .12. mlynedd a .10. mis medd y Saesson./

Harri y kynta

   
Harri brawd Wiliam Goch a elwid Harri Yscolhaic .3.edd mab i Wiliam Gwnkwerwr a goronwyd ynn vrenhin Loegr y .5.edd dydd o Awst oedran Crist .1101./ vlwyddyn./
   
Y vlwyddyn gyntaf oi vrenhiniaeth i rhodd ef vesüre Lloegr ynn i lle gwedi i bod ynn hir o amser o vaes i lle Ai vrenhines Mawd chwaer Edgar brenhin y Scotlond.
   
Y 4edd vlwyddyn i rhyddhaodd y Düc o Normandi y brenhin oi drybed o .300. o vorke [bob blwyddyn] Ac er hynn o waith drwc dafode ac ethrodion ir aeth yn anghyfündeb mawr rhwng y brenhin ar Düc o Normandi i vrawd a rhyfel mawr ac or diwedd dala yr Düc Robert ai roi yngharchar ynghaer Ddydd tra fai vyw a meddiannü or brenhin  Ddügiaeth Normandi./
   
Y .6.ed vlwyddyn or brenhin Harri gyntaf i rhyfelodd Iarll y Mwythic ac ef a Iarll Cornwel a chwedi hynny hwynt a ddalwyd ac a roed yngharchar tre vüont vyw./
   
Ynghylch yr amser hwnn i gwnaeth y brenhin [td. 200v] gyfreith galed ynn erbyn lladron a threiswyr ac anghyfiownder ac a wnaeth execüssiwn arnün wrth ei gweithredoedd rhai meirw rhai tynnü i llygaid, rhai i hysbaddü./
   
Ynghylch y .13.ec oi wrogeth i krynodd y ddaiar ynn y Mwythic ynn arüthür ac afon Drent aeth ynn isbydd megis i gellid myned yn droetsych drwyddi
   
Ynn y .17. ir aeth ymrafel rhwng Lewys brenhin Phrainc a Harri gyntaf brenhin Lloegr ac i bü vaes creülon rhyngthün ar Saesson a gafas y gore A brenhin Phrainc a gilodd a heddwch a vü ond Wiliam mab hynaf y brenhin a dyngodd i vrenhin Phrainc lw kowirdeb./
   
Yr .20. vlwyddyn i kwnnodd Wiliam Düc o Normandi y mab hynaf ir brenhin a Richard i vrawd a Mari i chwaer hwynte a Richard Iarll Chestr ai arglwyddes nith y brenhin ac i gyd hyd ynn chwech a chant y dyfod o Normandi i Loegyr y boddyssant ond vn dyn
   
Ynghylch y .26. or brenhin hwnn i kynhalwyd Parlemant yn Llündain yn vn peth ymysc [ereill] i wneüthür cosb ar Opheiriaid am i cam vywyd a hynny ar swyddogion y brenhin i kosbi./
   
Ynn 22 or brenhin harri[1] hwnn achos heb etifedd gwriw oi gorph i gwnaeth i verch Mawd Amherodres i lywodraethü y vrenhiniaeth ar i ol
   
Ynghylch yr 28. vlwyddyn or Harri hwnn i priododd Mawd amherodres Siephre Plantagenet Iarll Angeow a mab a vü iddo o honi a elwid [td. 201r] <Harri> ar[2] Harri hwnn gwedi Stephan a vü vrenhin ynn Lloegr ar .25. vlwyddyn oi goroniad yr .2. dydd o Ragvyrr oedran Crist .1135. i bü varw ac yn Reding i claddwyd./

Brenhin Stephan

   
[3] Stephan Iarll Bolayn a mab Iarll Bloys o Adela merch Wiliam Bastart i vam a nai i Harri gyntaf drwy gyngor swrn o arglwyddi ac Ieirll Lloegr yn erbyn i llw i vrawd yr Amherodres a wnaethbwyd ynn vrenhin ac a goronwyd  ddydd gwyl Sant Stephant oed Crist .1135. Yn yr amser hwnn ir oedd anghyfündeb mawr rhwnc arglwyddi Loegr Achos rhai oedd ar rann yr amherodres ac ereill ar rann Stephant y brenhin
   
Brenhin Stephan a oresgynnodd gestyll a thai Escobion ac a roes i wyr ehünan ynddünt ar veddwl dala yn erbyn yr Amherodres yr honn ir oedd yn i phryderü yn wastad./
   
Yr ail vlwyddyn ir aeth y gair varw y brenhin a chynnwrf aeth ynn Lloegr ac anodd vü i gostegü Ar vyrder gwedi hynny ir aeth brenhin Stephan a llü mawr gantho i Normandi ac yno i bü  rhyngtho ryfel mawr ac Iarll Angeow gwr Mawd Amherodres ac aer kyfreithlon coron Loegr./ A phan ddarfü iddo ddarostwng yno i gwnaeth Instans i vab yn Ddüc yno./
   
Ynn y .6. vlwyddyn i daüth Mawd Amherodres i Loegyr drwy gyngor Iarll Kaer Loiw ac Iarll Chester nei gaer Lleon ac a wnaethant ryfel creülon [td. 201v] ar y brenhin ac or diwedd i dalwyd y brenhin ac i gorchvygwyd i lü ac i danfonwyd ef at yr Amherodres ac i danfonodd hithe ef i Vrüsto yngharchar.
   
Gwedi hynny Kent a Llündain a gwnnodd yn erbyn yr Amherodres ynghweryl y brenhin ac a roessant vaes iddi ynn Winsiestr ac a gilodd yr Amherodres i gaer Loiw ac Iarll caer Loiw a ddalwyd ac ybolüdd y brenhin ac Iarll a yllyngwyd o gyfnewid./ Gwedi hynny i kynnüllodd y brenhin bower mawr ar Amherodres a gilodd i Rydychen ac yno i rhodd y brenhin i wyr wrth y dref ond yr amherodres a gonveiwyd allan ar hyd nos a hi aeth i Walingphord ac wedi hynny ir aeth i Normandi heb vawr gid a hi
   
Amgylch y .10.ed vlwyddyn o goroniad brenhin Stephan ir rhoes yr Iüddeon vachgen ar y groes ar Ddüw Pasc o ddirmic ac o watwar ar Grist ac ar y phydd gatholic.
   
Yr .11.ec vlwyddyn o wrogeth brenhin Stephan i bü varw Siephre Plantagined Iarll gwr Mawd Amherodres gwedi ynnill eilwaith o hono ddügiaeth Normandi ar vrenhin Stephan ac i diweddodd i vowyd a Harri i vab ynn i le a ddaüth.
   
Harri düc o Normandi ynghweryl Mawd amherodres i vam a ddaüth i Loegr ac a ennillodd gastell Malmzbri ac yno y Twr gwynn a thre Nottingham a llawer o gestyll a chad<e>rnyd a llawer maes a vü rhyngthün./
   
Yn y .17. vlwyddyn o vrenhin Stephan i gwnaethbwyd heddwch rhwng yr amherodres ai mab ar brenhin Stephan dan amod bod Stephan yn vren[td. 202r]hin tra fai vyw ar brenhin y .15. o vis Hydref a vü varw oed Crist .1154. yr hwnn ni bü ddidrwbl ynn i oes ynn Pheversham i claddwyd.

Henry yr ail

   
Henri yr ail mab i Siephre Plantagined Iarll Angeow a Mawd Amherodres yr .20. dydd o vis Rhagvyrr oedran Crist .1155.[4] Ar brenhin hwnn a ehangodd i vrenhiniaeth ac a ennillodd drachefyn a gollysse eraill ac oi wroleth i amylhaodd y Deyrnas o Scotlond, Iwerddon, ynys Orcades, Brütaen vechan, Poytou, Gion a Phrovins ereill o Phrainc
   
Yr ail vlwyddyn i byrrodd ef i lawr y kestyll a wnaethyssid yn amser brenhin Stephan. gwedi hynny efo aeth ir North ac a gafas gan yr y Scottiaid Gwmberlond, a Northwmberlond a roesse Mawd amherodres vddünt meddent hwy./
   
Y .3.edd vlwyddyn i daüth ef i Gymrü a dirvawr lü gantho ac a ryolodd yno ac wedi hynny i hadeilodd gastell Rhüddlan[5]
   
Ynghylch y .5.ed vlwyddyn i dechreüwyd treth a byrhaodd .20. mlynedd a llawer o drwbwl a ddaüth ar ol
   
Yr .8.ed vlwyddyn i dalwyd Wiliam brenhin yn y Scottied ac wedi gwneüthür homags a llw kyweirdeb i vrenhin Harri i gyllyngwyd. Ar .10.ed vlwyddyn ir aeth Saint Thomas Archesgob Cawnterbüri ynn keissio ymddiphin kyfiownder yr Eglwys ar [td. 202v] gil or deyrnas i Rüfain i gwyno wrth Bab Rhüfain rhac y brenhin ac i ddowedüd y pynke ir oedd ynn i codi ynn erbyn kyfreith a chyfiownder ar y Deyrnas Eithr wrth dretment y Pab a Lewys brenhin Phrainc i canhiadodd y brenhin iddo i Archesgobeth drachefyn ac ni bü hir gwedi hynny hyd pann laddwyd
   
Y .18.ed or brenhin hwnn i danfonodd y brenhin herots at Bab Rhüfain i ervyn i ryddhaü ac i ymesgüso am laddiad Saint Thomas Ac y mysc pethaü ereill i rhoed y brenhin dan i benyd bod ynn gyfreithlon ir holl deyrnas gwyno at y Pab ac na bai vrenhin yn Lloegr hyd pann i pwyntie y Pab./ Y vlwyddyn honn ir aeth y brenhin i Iwerddon ac i darostyngodd ac i rhwymodd wrth vrenhiniaeth Loegr./
   
Y .22. vlwyddyn o vrenhiniaeth Harri yr ail i peris ef goroni i vab hynaf a elwid Harri ai briodi a Margred merch brenhin Phrainc./
   
Ar benn y chydic wedi hynny wrth annogieth  brenhin Phrainc a brenhin y Scotlond a llawer ychwanec y rhyfelodd ynn erbyn Harri i dad a rhyngthünt i bü lawer maes ond y tad oedd ynn ei hynnill ac ir mab i gorfü plygü a deissif heddwch. Ac yn y rhyfel hwnn i dalwyd Wiliam brenhin Scotlond ac i carcharwyd ac i rhoes am i illyngdod dre Gaerleil a nüw castel vpon Tein a thyngü byth lw kowirdeb ir brenhin efo ai ganllynwyr ynteü a gwneüthür homaets pann ovynnid/ Ynghylch yr amser hwnn ir oedd lawer o Iüddeon yn Lloegr ac ynghylch [td. 203r] y Pasc yn arfer o roi plant ar y groes y ddynwared marwolaeth Crist ac o ddirmic ac o watwar arno ac ar phydd y Cristnogion./
   
Yn y 23. vlwyddyn oi wrogaeth i bü varw Harri y mab hynaf i Harri yr ail Ac yno drachefn ir aeth yn rhyfel rhwng brenhin Philip o Phrainc ynghylch Piteow a chastell Gisowrs ar 24. o Harri yr ail Richard Iarll Piteow a ryfelodd yn erbyn brenhin Lloegr i dad ac a gymerth rann brenhin Phrainc ac a ennillodd ar i dad lawer phortres a chastell Ac ybolüdd  gwedi i bü varw brenhin Harri yr ail oed Crist yno .1188./

Richard gyntaf

   
Richard gyntaf yr ail mab i Harri yr ail a goronwyd yn vrenhin Lloegr y .3. dydd o vis Medi oedran Crist .1189.[6] y Richard hwnn a elwid Richard Cwrdeleion. Y vlwyddyn gyntaf o Richard Gwrdeleion daü vaeli oedd lywodraethwyr ar Lündain. Yr amser hwnn y cwnnodd tervysc rhwng gwyr Llündain ar Iüddeon oedd ynddi gan vaint i rhyfic ai balchedd ac i sbeiliwyd ac i dyrwyd phwrdd
   
Y vlwyddyn gyntaf honn i daüth brenhin Scotlond i Gawnterbri i wneüthür gwrogeth i vrenhin Richard. Ynghylch hynn o amser holl  vrenhinoedd Cred a'mbyrratoodd ddirvawr lü i vynd i ynnill Kaerüsalem ac i gynorthwyio y Cristnogion yn yr Assia. Ar drydedd vlwyddyn oi wrogeth ir aeth brenhin Richard a dirvawr lü gantho tü a Chaerüsalem ac ar y phordd i [td. 203v] kwnkweriodd Ynys Ciprws Ac ynn Assia ir ymgyfeillachodd a brenhin Phrainc/ ac ef a gwnkweriodd Acton ond ar vyrder gwedi hynny ir aeth travais rhyngtho a brenhin Phrainc. A Philip brenhin Phrainc a drodd adref ac a ddipheithiodd Normandi ac a gynghorodd Sion brawd brenhin Richard i gymryd llywodraeth teyrnas Loegr yn absen i vrawd. Gwedi hynn brenhin Richard a ennillodd ir Cristynogion dre Ioppe ai hamgylchion ac a roes y Twrk mewn llawer maes ynn y kwilydd./
   
Y .4. vlwyddyn o goroniad brenhin Richard ac ynte yn Assia ir aeth rhwng arglwyddi Lloegr a Wiliam Esgob Eli yr hwnn a ydowsse y brenhin i lywodraethü y Deyrnas tra vai ynte allan ac yno i newidiodd brenhin Richard gaerüsalem a Gwi o Lessingham am Ciprws a chwedi hynny ynn hir o amser i gelwid yn vrenhin Kaerüsalem
   
Y .5. vlwyddyn o Richard vrenhin Lloegr a Chaerüsalem pan glybü yrrü Esgob Eli ar pho or Deyrnas a bod Iohn i vrawd oi benn i hün ynn kymryd llywodraeth y Deyrnas a bod Philip brenhin Phrainc gwedi anrheithio Normandi i gwnaeth drettis rhyngtho ar Twrk mawr a chyngrair dair blynedd ac i troes tü a Lloegr ac ychydic o wyr gid ac ef Ac ar y phordd ynn emyl Thrasia i daliodd y Düc o Awstrits ef ac [sic] aeth ac ef yn garcharor at yr Amherodr. Ar Amperodr [td. 204r] Harri ai kadwodd yngharchar vlwyddyn a phüm mis Ac ynn i garchar i troed llew atto ac i tynnodd ynte galonn y llew oi gorph ac i lladdodd ef y llew./
   
Yn y .6./ o wrogeth brenhin Richard i gillyngwyd oi garchar ac i talodd i arianswm yr hwnn oedd gann mil o bünneü. ac yna i rhyfelodd ar vrenhin Phrainc ac a Sion i vrawd a llawer o ddrwc a cholled o bob tü. Yr wythued vlwyddyn ir aeth kyngrair rhwng Phrainc a Lloegr ac a ymroes Iohn iw vrawd./
   
Yn y .10. vlwyddyn o Richard gyntaf i peris ac i hordeiniodd Innocent Bab gyphessü ac i gwaharddodd roi yr aberth yn y ddaü nattür ir Llygion. Ac ar vyrder yn ol hynny drychefn rhyfel [a ddigwyddodd] rhwng Phrainc a Lloegr./ a brenhin Lloegr a vordwyodd i Normandi ac yno weithie ynnill o vrenhin Phraink howlds a chestyll ynn Normandi ac weithie brenhin Lloegr yn ynnill yn Phrainc. Ond brenhin Richard aeth i ossod wrth gastell Gaelart ac vn or castell ai harganvü ac ai trewis yn i benn a gwnn ac ai lladdodd./ A marw [vü] heb ettifedd oi gorph oedran Crist 1200. ar .12. vlwyddyn oi wrogeth ac a gladdwyd ynn Phont Euerard

Brenhin Sion

   
Sion gwedi marw Richard heb ettifedd oi gorph a goroned ynn vrenhin ac a gwenwyn i llaas ac ynghaer Wrangon i claddwyd./
[td. 204v]    
Yn amser brenhin Iohn i dechreüwyd y brodür düon ynn rhe Dolosanws oed Crist .1205. A .4. blynedd  gwedi hynny i dechreüodd Saint Phrancis grefydd y brodür  llwydion ynn emyl Dinas Asilij. Ar vn vlwyddynn honno i gwaharddwyd opherennaü dros gwbwl o Loegr oblegid amrysson am ddewis Archesgob ynghaer Gaint. Ar gwahardd hwnnw a byrhaodd .7. mlynedd./ Ynghylch yr amser hwnnw i gwaharddodd Sion vrenhin Lloegr awdürdod a threth a phower y Pab or Deyrnas honn peth ni wellaodd ddim Ac ynn ol hynny Philip brenhin Phrainc ynghweryl Arthür dük o Vrüttaen yr hwnn a enwyssai rai o arglwyddi Loegr yn vrenhin a ryfelodd ar vrenhin Sion ac ai gyrrodd o Normandi ac a ennillodd arno lawer o gestyll a threfydd./ Ond gwedi colledion mawr o bob tü heddwch a wnaethbwyd yr amser hwnn i daüth brenhin y Scotlond i dyngü llw kowirdeb i vrenhin Sion o Loegr. y Cymrü ai galwai Ieuan vrenhin.
   
Yn yr ail vlwyddyn i gwelad yn Swydd Iork bümp lleüad ar vnwaith ar yr awyr ar ail gayaf i daüth tymhestloedd a thowydd garw a chenllysc kymaint ac wye iair./
   
Arthür o Vrüttaen y .3. vlwyddyn a ddalwyd a llawer o wyr o vrddas i gyd ac ef ac a ddaüth ynn garcharor i Loegr./
   
Yn y .6. vlwyddyn ir interditiodd y Pab vrenhiniaeth Loegr ac ir ysgymünodd vrenhin Sion achos na ydawe ef Stephant Laughton yn Archesgob ynghaer Gaint.
   
Y .7. vlwyddyn Philip brenhin Phrainc a oresgynnodd Normandi yr honn ni büysse dan vrenhiniaeth [td. 205r] Phrainc er ys trychan mlynedd kynn hynny./ Ynghylch yr amser hwnnw i rhyfelodd y Cymrü ar Gwyddyl ar brenhin Sion ai gyrrodd i brynü heddwch er llawer o aür ac arian a da./ Ac ynghylch yr amser hwnnw i mwrdrwyd Philip Amperodr yr Almaen./
   
Yn y .9. vlwyddyn o vrenhin Sion i gwnaethbwyd maer a Sieryddion yn Llünden gyntaf erioed./ Ar maer a elwid Henri phyts Alwynn ar Sieryfied kyntaf ar a vü yn Llünden a elwid Pityr Dük a Thomas Neel./
   
Ynghylch y .13. i rhyfelodd Philip brenhin Phrainc ar Loegr yn gymaint ac i gorfü ar vrenhin Sion ymroi i bab Rhüfain ac ymrwymo drosto ef ai rac gynllynwyr vrenhinoedd ddala dan goron Bab Rhüfain a thalü bob blwyddyn vil o vorke o arian./
   
Yr .16./ o vrenhin Sion i bü drafes mawr rhwng pennaethied Lloegr ai harglwyddi a chyphredin y Deyrnas ynn gymaint ac i gorfü ar y brenhin ddanvon i Phlawndrs am nerth ac arglwyddi Lloegr a ddanvonodd at Lewys vab Philip brenhin Phrainc ac ai kymerson ynn lle brenhin arnün ac ai kadarnhaüsson i ryfela yn erbyn brenhin Sion. A chynn diwedd y rhyfel hwnn i clefychodd y brenhin ac i bü varw yn Nywark vpon Trent y .19. o vis Hydref oedran Crist .1216. Ond rhai y sydd ynn teürü mae Mynach ai gwenwynodd ef ynghaer Wrangon ac yno i claddwyd./
[td. 205v]

Harri y trydydd

   
Harri drydydd y mab hynaf i vrenhin Sion a goroned yn Westministr drwy nerth rhai o arglwyddi  Lloegr yn .9. mlwydd o oed./ Yn i amser ef i bü y vattel yn Lewys yn Sowthsex a battel y barrwnnied yn Ewsam oed Crist yna 1265. yr 48. o vrenhiniaeth ac wedi gwledychü o hono .55./ o vlynyddoedd i bü varw ac yn Westministr i claddwyd./
   
Yn ol hir ryfel rhyngtho a Lewys mab Philip brenhin Phrainc yr wrth amodeü rhai o arglwyddi  Lloegr oedd yn cleimio coron Loegr ond or diwedd yn heddwch ir aeth ac i Lewys [i gorfü] vyned i Phrainc ac am i draül iddo vil o vorke./
   
Y vlwyddyn gyntaf o Harri drydydd ymysc kyfreithe da ereill i gwnaethbwyd vawr a elwid Magna Charta a llawer ychwanec. Y 4. vlwyddyn i priododd Alexander brenhin Scotlond Ioan chwaer Harri y .3. vrenhin Loegr./ Ar vlwyddyn honn i gorchmynwyd ir dieithred voedio y Deyrnas achos Phowks Debrent oedd yn cadw castell Betphord yn erbyn ywyllys y brenhin. Y .5. vlwyddyn i daüth crefydd y brodür  llwydion gyntaf i Loegr ac a elwid ordr Saint Phrancis
   
Y .13. vlwyddyn ir aeth y brenhin a llü mawr gantho i Vrütaen yn erbyn Lewys prins Phrainc ac yn ol anrheitho y tir yn heddwch ir aeth./
   
Yr .16. vlwyddyn ir aeth rhwng y brenhin ac arlgwyddi Loegr achos efo a roes oi wassaneth [td. 206r] allann y Saesson ac a gymerth yn i wassaneth ddieithred ac yn i gyngor
   
Y .19. vlwyddyn i priododd y brenhin Elenor merch Iarll Provins./ Ynghylch yr .21. vlwyddyn oi wrogeth ef holl Phrainc yn vn a gyvün a vnodd na bae i vn gwr eglwyssic dan boen o bechod marwol gael dwy eglwys./
   
Yn yr .31. vlwyddyn i dad wnaeth y brenhin Phransies  Llünden achos cam varn a roessant yn erbyn Margred Vyel Wydow./ Yn yr 38 Prins Edward y mab hynaf i Harri a briododd Elenor merch brenhin Castil ac iddo i rhoes dowyssogeth Gymrü a llywodreth Gwien[7] ac Iwerddon ac yna gyntaf i henwyd Prins Cymrü
   
Yn yr 48. vlwyddyn i bü yr maes yn Lewys rhwng brenhin Harri y .3. ac arglwyddi Loegr ai chyphredin ac i collodd y brenhin y maes ac i kafas mywn amodeü i illwng a Richart i vrawd brenhin Rhüfain a Syr Eduard i vab ac eraill .25. a ddalwyd o wyr mawr Ac vgein mil o gyphredin ar brenhin ai vrawd a ymrwymyssant ar ganhiadhaü vddün y kyfreithe  <a> sierten o acts a wnaethoeddid yn y Parlmant yn Rhydychen kynn no hynny ac a roes Prins Edward yngwystyl ar hynny
   
Ar vyrr gwedi hynny ir aeth rhwng Iarll Kaer Loiw ac Iarll Lecester a Phrins Edward a gymerth rann Iarll Kaer Loiw ac ynghilingworth i bü vaes angyrriol rhyngthünt ar maes a ennillodd Prins Edward ai barti./ Ar vyrr gwedi hynny Simond Montphord Iarll Lecester a wnaeth lü mawr ac a ym [td. 206v] gydfarvü a Phrins Edward ynn Ewssam lle y lladdwyd yr Iarll a llawer oi barti./ Ynghylch y .54. oi vrenhiniaeth i kymerth y brenhin gymeint o ddigofeint wrth wyr Llünden ac i gwaharddodd vddünt i rhydddab [ac i dalodd] yn i law ehün Eithr drwy gymodreddwyr rhyngthün i prynyssont y rhydddab ai libertis ac i talyssont ir brenhin vgen mil o vorke./
   
Yn y .55. or brenhin hwnn i kymerth Edward vab Harri drydydd i siwrnai tü ar tir bendigaid ac yno i nerthodd ef Dref Acrs yr honn ir oedd Sawden Swrrey gwedi rhoi siets wrthi./ A thra oedd Edwart yn y siwrnai honno brenhin Harri drydydd i dad a vü varw yr .16. o vis Tachwedd oedran Crist yna 1272. ac yn Westministr i claddwyd./

Edwart gyntaf

   
Edwart gyntaf or henw vab Harri .3.edd pan glybü varwolaeth i dad mis Awst nessaf at hynny a ddaüth i Loegr ac a goroned yn vrenhin ac a wledychodd .35. mlynedd gwedi dyfod or tir bendigaid ac yn Westmestr i coronwyd yr .19. dydd o vis Awst oed Crist yna .1274. ac yn y lle ir oedd Alexander brenhin y Scotlont ac yno i gwnaeth lw obediens i vrenhin Edwart
   
Yr ail vlwyddyn oi goroniad ir aeth y brenhin i Gymrü ac i gwnaethbwyd heddwch rhwng [sic] a Llywelyn Prins Cymrü ac ar Lywelyn dalü ir bren[td. 207r]hin vgein mil o vorke./ Y .10. vlwyddyn i bü vaes yng Cymrü rhwng Llywelyn prins Cymrü ar brenhin. ar brenhin a ddüc yr orüchafieth a Llywelyn ai vrawd Davydd a giliodd. Ac ar vyrr gwedi hynny i dalodd Syr Edmwnd Mortimer yr hwnn oedd vab i Syr Raph Mortimer o Wladüs Ddü verch Llywelyn ap Ioreth Drwyndwnn modryb yr arglwydd Llywelyn chwaer i dad o vrad gwyr Büellt ac i torrodd i benn ac i danvonodd ynn amser ir brenhin oed Crist 1284. A chwedi hynny i vrawd a gwarterwyd./
   
Y .13. vlwyddyn or brenhin hwnn i gwyharddwyd i rhydddab i Lünden ac i kymerth y brenhin yw law  ehün achos ir Maer gymryd gwabr gan y pobyddion am i dioddef i wneüthür bara dann y Seis.
   
Y 24. vlwyddyn i rhyfelodd yr y Scottied ar y brenhin ar brenhin a roes sawt wrth Verwick ac yno i bü vaes creülon ar Saesson a gafas y gore ac a ennillodd y Dref ac yno i lladdwyd or y Scottied bümp mil arhügein ar brenhin a ymroes gwedi hynny i Edward./
   
Y .26. vlwyddyn ar brenhin Edward yn Normandi i daüth y Scottied ai brenhin newydd a elwid Walkes i Northwmberlond i dir. Eithr yr ail vlwyddyn gwedi hynny ir aeth brenhin Edwart gyntaf i Scotlond ac ynn Phankyk ir ymgyfarvü a brenhin Scotlond ac i bü vrwydyr chwerwdost rhyngthün ac or diwedd brenhin Lloegr aeth ir maes ac a laddodd or y Scottied ynghylch 32. o viloedd, a Walkes i brenhin newydd a gilodd, ar kyphredin a ymroes yngras y brenhin Edward./
   
Ynghylch y .32. or brenhin Edward i gwnaeth i vab hynaf ef lawer o anllywodraeth ar brenhin ai [td. 207v] rhoes yngharchar a rhai oi gyfeillach./
   
Ynghylch y 33. Walks brenhin Scotlond a ddalwyd ac a ddaüth i Lünden ac yno i bü varw y bolüdd  gwedi hynny i daüth llawer o arglwyddi ac Esgyb o Scotlond i ymroi i vrenhin Edwart a chwedi hynny ir aeth y brenhin i Scotlond ac ir ymgyfarvü a Robert de Brüce ynn emyl tre Sa<in>t Iohnes lle i bü ymladd arüthür Ond brenhin Edward aeth ar maes ac a laddodd .7. mil or Scottied a Robert de Brüce a gilodd i Norway a llawer o arglwyddi Scotlond a ddalwyd ac a ddanvonwyd i Lünden ac yno i büont veirw
   
Yn y .35. i bü varw Edward gyntaf y .7.ed dydd o vis Gorphennaf oedran Crist 1307. Ac yn Westmestr i claddwyd./

   
Yn amser Edward gyntaf hwnn i kyvodes Madoc a Morgan yn erbyn y brenhin ac i lladdyssont Syr Roger Püleston Liftenant y brenhin ac i daüth y brenhin i Gymrü i dir Mon ac yno i gwnaeth gastell y Düw Mares a chestyll eraill ar vordyr y mor ac y chydic gwedi hynny i dalwyd Madoc a Morgan ac yn Llünden i colled eill daü ac i rhoes Brenhin Edwart y kyntaf i Edwart yr ail yr hwnn a elwid kaer yn Arvon, Dwyssogaeth Cymrü ac Iarllaeth gaer Lleon./
[td. 208r]

Edward yr ail.

   
Edward yr ail vab i Edward y kyntaf a elwid Edward Kaer yn Arvon Prins Cymrü a ddechreüodd wledychü y 24. o vis Chwefrol oedran Crist yna 1307. ac vgein mlynedd i gwledychodd ac ynghaer Loiw i claddwyd./ Yr Edward hwnn a briodes Isabel merch ac etifedd Philip Brenhin Phrainc gwedi hynny ef a ddanfones y vrenhines at Edward i mab i wneüthr heddwch rhyngtho a brenhin Phrainc oedd yn cadw ac yn meddiannü i dir ai gyfoeth ef or parth draw ir mor a thra vüont yno i peris y brenhin drwy ddryg kyngor grio yn Llünden i wraic ai vab ynn draetüried iddo ef ai Deyrnas. A phann ddoeth y vrenhines ai mab ir tir ef a gilodd y brenhin hyd ynghastell Nedd ac yno i dalwyd ef ac i dügpwyd i gastell Kenelworth ynghylch kalan Gayaf. Yn yr vn vlwyddyn gwedi yr Ystwyll i kynhalwyd Parlment yn Llünden ac yno i tynwyd ef oi vrenhiniaeth a gwyl Vair y kanhwylle nessaf at hynny i koroned Edwart .3.edd i vab ef yn vrenhin yn .15. mlwydd o oedran. A mis Ebrill hynny i dügpwyd yr hen vrenhin i gastell Barklay ac yno i llas ef a beer brwd ynn i din./
   
Ynghylch y chweched vlwyddyn Robert le Bruce pan glybü vod anvndeb rhwng Edward kaer yn Arvon ac arglwyddi Lloegr a ddaüth drychefn i Scotlond ac yno i kymerpwyd ynn vrenhin. Ac yno ir aeth Edward Kaer yn Arvon a llü mawr gantho ac yn ymyl Banockisborn i kyfarvü ar y Scottied ac i bü vrwydyr greülon rhyngthünt ond Lloegr a gollodd y maes./ A llawer o arglwyddi Lloegyr [td. 208v] a laddwyd ac a ddalwyd ar brenhin a ddiangodd i Verwic.
   
Ar .9. vlwyddyn oi wrogeth ir ennillodd yr y Scottied Verwik ac ychydic wedi hynny ir entrysson ynn Northwmberlond a lladd gwyr a gwragedd a phlant yno./ Ynghylch yr amser hwnnw ir oedd  ddrüdyn nwch a phrinder ynn Lloegr o bob peth ac ynn hynny marwolaeth y cornwyd ac er hynn o ddialedd ac advyd ni wellhai y brenhin nai gydwybod nai gonsiens nai vowyd anllywodraethüs
   
Yn yr .11. oi goroniad i bü vrwydr rhyngtho ar Scottied yn Swydd Iork yn lle a elwid Mytton ar Saesson a golles y maes ar brenhin oedd i gyd wrth lywodraeth Hügh Spencer y tad ar mab ac ni charent hwy nar kyphredin nar kyphredin hwynteü
   
Y .12. vlwyddyn o wrogeth Edward kaer yn Arvon i gwyharddwyd y deyrnas i Hügh Spencer y tad ac i hugh Spencer y mab trwy Barlment./ Eithr ni bü hir gwedi hynny hyd pan ddanfonodd y brenhin ynn erbyn y gyfreith honno ynn i hol ai rhoi ynn vchelwried ac awgtoritie drychefn./ gwedi hynny i bü vrwydr rhwng arglwyddi Lloegr ar brenhin ynn lle a elwir Browghbridg ac yno i lladdwyd llawer o varwnnied Lloegr ac wedi hynny Iarll Lancastr a llawer o varwnnied ereill a marchogion a ddienyddwyd ynn anrhügaroc./
   
Yn y 17.ec vlwyddyn i kilodd y vrenhines rhac malais yr y Spencers ac Edwart i mab gid a hi i Phraink at i brawd Siarls ac ar vyrr gwedy hynny rhac ofn y Pab y gwyharddodd Siarls vrenhin Phrainc ei chwaer ac ei mab deyrnas Phrainc ac heb gynnal a hi yr hynn a addowssei./
[td. 208*r] [8]    
Yn y .19. vlwyddyn o Edwart kaer yn Arvon i dalwyd y brenhin megis i dywetpwyd or blaen ar y Spencer ac Iarll Arndel a Robert Baldoc a llawer y chwanec a roed i veirw. am ei gweithredoedd

Edward y trydydd

   
Edward vab Edward Kaer yn Arvon o Isabel verch Philip Lebeaw ai heyr a goroned yn vrenhin yn Lloegr yr ail dydd o vis Chwefrol oed Christ .1326.[9] ac efo oedd wr anrhydeddüs gwych dewr, trügaroc hael da wrth y sawl a garai a drwc wrth i gas, llywodraethüs ynn i weithredoedd ac oedd yn passio eraill mywn kyneddfeü da a gwell na neb mywn dilechtid rhyfel./
   
Yr Edward hwnn a roes arfeü Lloegr a Phrainc yn i vaner a phan oedd oed Crist yn 1346. yr vnved dydd arddec o vis Awst i bü y vrwydr Yngressi rhyngtho ef a Philip brenhin Phrainc ac i kilodd Philip ac i llaas brenhin Boem a brenhin Marorican a llawer o wyr mawr am benn hynny. Ar drydedd vlwyddyn gwedi hynny i bü i varwolaeth gyntaf or cornwyd. A dwy vlynedd gwedi hynny i gwnaeth Wiliam Edington tressyrer Lloegr gyntaf arian pedair ac arian dwy./ A phedeir blynedd gwedi hynny i daliodd Edward ap Edward y trydydd Iohn vrenhin Phrainc./
[td. 208*v]    
Y 10ed vlwyddyn o goroniad Edward y .3.edd i düc ef i ach ai edryd i goron Phrainc nid amgen nai vod yn vab i Edward yr ail o Isabel merch ac aeres ac etifedd Philip Lebeau brenhin Phrainc./ Yn yr amser hwnnw ir oedd newid [10] ar bob peth yn Lloegr na bü na chynt na chwedi i vath. Chwarter o wenith er ijd a gwyd er ijd a pharchell er jd ych tew er vjs ac viijd a davad vras er vjd
   
Yn y 12. vlwyddyn i gwnaeth llü dirvawr i vyned i Phrainc ac i gadarnhaü heddwch rhyngtho a Holant a Seland ac a Brabant ac i tiriodd yn Antwarp A thrwy gymolonedd yr Emperodr Lewys i criwyd ac i gwnaethbwyd yn vickar general drwy yr holl Emperodreth./ Y 13. trwy Barlment i galwyd ef yn vrenhin Phrainc ac yno i kydiodd arfeü Lloegr a Phraink val i maen yno ac etto./
   
Y 14. vlwyddyn a brenhin Edward y .3.edd yn mordwyo tü a Phlandrs i kyfarfü ar y mor yn emyl havyn Slüs a brenhin Phrainc ai lü ac yno i bü battel arüthür rhyngthün a brenhin Edward a ennillodd y maes a brenhin Phrainc a gilodd a phedwarkant o longe iddo ac oedd ynddün a ddistrywiwyd, a ddalwyd ac a voddwyd./ Ychydic gwedi hynny ir aeth Edward a llü mawr o wyr Lloegr a gwyr yr Emperodr ac i rhoes siyts wrth Dwrnai a Chowntes Henawlt mam brenines Loegr a chwaer brenhin Phrainc a wnaeth gyngrair rhyngthün vlwyddyn a brenhin Lloegr a droes adref./ Yn hynn o amser trwy waith brenhin Phrainc ef a ennillodd yr Scottied lawer o Loegr./
   
Y .18. vlwyddyn o goroniad Edward .3. ir ordeiniodd ef ac i dyveissiodd er anrhydedd a mowredd i Vair vam Grist a Saint Iorüs varchoc vrddol Patrwn y [td. 209r] Deyrnas honn .26. o varchogion ym mraint gradd ac ordr Saint Iorüs ac a elwir gradd marchoc or gardys ac yn Winsor i gwnaethbwyd./
   
Ynghylch y pryd hwnn i danfonwyd Iarll Derbi a llü gantho i Asgwin ac ir ennillodd gestyll a threfydd ac a laddodd dec mil o Phrankod a Gasgwyns ac a ddalodd Iarll Lay i penn Capten a llawer o wyr mawr
   
Yr 20. vlwyddyn i mordwyodd i Normandi ac i gorescynnodd y tir ac ai hysbeiliodd ac i danfonodd i Loegr yr ysbeil ac yno i bü yr maes ynghresse ar maes a ennillodd Edward y .3.edd ac yno i llaas brenhin Boem a phedwar vgein o Dwyssogion a .12. cant o varchogion vrddolion a dec mil arhvgein or kyphredin Gwedi hynny i rhoes Edward sawt wrth Galais ac i bü yno yr yspas o vlwyddyn Ac yn hynny o amser i daüth brenhin Phraink ar vedr kwnnü yr sawd ac ymddiphin y Dref ac ir aeth phwrdd heb roi maes ac yno i rhoed y Dref i vrenhin Edward y trydydd Yr amser i sowdiwyd Calais i daüth Davydd o Scotlond drwy annoc brenhin Phrainc i vordyr Lloegr ar vrenhines a wnaeth o opheiriaid a llygion [lü] ac yn agos i Ddürham mywn maes a ddalodd brenhin y Scotlond a llawer o arglwyddi ac Ieirll ac a laddodd yn y maes hwnnw or kyphredin bymthec mil./
   
Ynghylch y .22. vlwyddyn o vrenhin Edward y 3edd i bü newyn a marwolaeth trwy yr holl vyd ac yn Itali odid vn yn vyw am gant yn veirw./ Ynhre Baris yn Phrainc i bü varw dec mil a deügein mil. Ac yn Llünden yn y Chartyr hows heb law lleoedd ereill i claddwyd dec mil a deügein mil./
   
Yn y vlwyddyn honn ir ymkanodd kapten Calais draetüriaeth drwy roi yr dref ir Phrankod drychefn Yn yr amser hwnnw i gwrthododd Edward y .3.edd vod yn Emperodr./ Y .27. vlwyddyn i rhoed castell a [td. 209v] thre yr Geins i vrenhin Edward./
   
Ynghylch y .19. vlwyddyn ir aeth Edward Towyssoc Cymrü mab Eduard y .3.edd i Asgwyn ac i distrywiodd gestyll a threfydd ac a ennillodd gastell a thre Reche<m>orentyn ac ychwanec./ Yr amser hwnn yr aeth y brenhin i Galais ar vedr darostwng Phrainc ac a droodd i Loegr achos yr y Scottied oedd yn blino bordre Lloegr./
   
Yn y .30. vlwyddyn. Edward Prins Cymrü yn agos i dre Boitiers a roes maes i Iohn brenhin Phrainc ac arno i düc y maes ac yno i dalodd y brenhin ai vab Philip a naw Iarll ac Esgob Sen<s> a llawer y chwanec o Ieirll ac arglwyddi a barwnied a marchogion hyd vnkant arbymthec. Ac yno i llaas y Düc o Byrgwyn ar Düc o Athiens a Syr Iohn Clermont marsial o Phrainc a llawer o varwnnied a marchogion a gwyr o ryfel hyd yn .1700. a 3000 eraill or kyphredin./
   
Y .33. vlwyddyn ir aeth brenhin Edward y .3.edd ac Edward towyssoc Cymrü gid ac ef i Galais ac i Phrainc ac i distrywiodd y gwledydd heb drügaredd Ac ar vyr ir aeth yn heddwch dan i vrenhin Lloegr gael Gasgwyn Gien, Poitiers, Lymson Beleuil a llawer o arglwyddiaetheü a threfydd a chestyll ar holl  diroedd a berthyne vddünt ac ar vrenhin Sion dalü yn i rawnsswm dair mil o Ddükats yr [hynn] yw pümp mil o bünneü. Ac yno i rhyddhawyd brenhin Sion o Phrainc. Y 37. vlwyddyn y daüth i sportio i Lündain ac yn y Savoy yn Llünden i bü varw./
   
Yn y vlwddyn honn i kymerth Edward Prins Cymrü  wrogeth Gien ac Acqwitan ac a wnaeth ho[td. 210r] maets i Edward .3. edd i dad am hynny Ynghylch 40. vlwddyn o goroniad Edward y .3.edd Dampetyr o Spaen a vyriodd Harri i vrawd allan o vrenhiniaeth ac am hynny i diengis at Brins Edward oedd yr amser hwnnw yn y dre a elwid Bwrdeaux ar Petyr hwnn drwy nerth y Prins a roes maes i Harri i vrawd ac ai byriodd allan ac a laddodd büm mil oi wyr ac a gafas Petyr lawer o gestyll a threfydd drychefn yr rhai a ynnillyssai Harri i vrawd arno or blaen ac ychydic gwedi hynny i kynnüllodd Harri i lü ynghyd ac a ryfelodd ar i vrawd Pityr hyd pan i gorchvygodd hyd i varwolaeth ac heb wrthwyneb a veddiannodd  vrenhiniaeth Spaen./
   
Yn y 42. o Edward y .3.edd i dechreüodd rhyfel drychefn rhwng Lloegr a Phrainc ar düc o Lancastr a ddanvonwyd yno a llü gantho ac yn agos i Ard i paviliodd y Düc o Byrgwyn o vywn milldir at baviliwns Lloegr yr yspas o .18. diwrnod ac heb gynnic maes ond or diwedd mynd heb wybod ar hyd nos phwrdd./
   
Y 45. i tyddodd kynnwrf mawr rhwng Phrainc a Lloegr ar Saesson vynychaf yn colli yr maes ac ar y gwaetha. a thre Lymog ac ereill a ryfelodd ar Edward Brins ac yn hynny peth eisse arian peth gan glevyde a dryge ereill yr ymedewis Edward ar rhyfel ac i daüth i Loegyr, ac yno i gadewis yn i ol i vrodür y Düc o Lancastr ac Iarll Cambrids. Eithr ni hir dariysson hwy yno./ Y 46. Iarll Penvro a ddanfoned i gadarnhaü tre Rotsiel ac ar y [td. 210v] mor y kyfarvü yr y Spayniards ac i bü battel vawr rhyngthün ac Iarll Penvro a saith oi wyr a ddalwyd ar rhann arall a laddwyd ac a voddwyd Ac ychydic gwedi hynny i rhoed tref Rotsiel ir Phrankod./
   
Y 47. o vrenhiniaeth Edward Iohn o Gawnt düc o Lancastr aeth i Galais a thrwy Phrainc hyd Burdeaux dan dreisso ac ysbeilo ac anrheitho phordd i kerddodd heb gynnic ymladd ac ef ond vn ysskirmits i collodd .50./ o wewyr ac .20. o berchen bwae./
   
Yr .51. or brenhin hwnn i bü vath varwolaeth a chlefyde yn Itali ac yn Lloegr ac i bü veirw peth difessür o ddynion./ Y vlwyddyn honn i bü varw Prins Edward ac ynghawnterbüri i claddwyd./ hefyd yr .21./ o vis Myhefin oedran Crist .1377. i bü varw brenhin Edward .3.edd yr .51. oi goroniad ac i claddwyd yn Westmestr./ Pedwar mab a edewis Edward yn i ol pan vü varw nid amgen Leionel Düc o Glarens, Iohn o Gawnt düc o Lancastr, Edmwnd Langley düc o Iork, a Thomas o Woodstock Iarll Cambrits

Richard yr ail.

   
Richard yr ail vab Eduard ddü Prins Cymrü ap Edward 3edd yn oedran vn vlwydd arddec a goroned yn vrenhin yn Lloegr y pümed dydd o vis Gorphenhaf oedran Crist 1377./
   
Y vlwyddyn gyntaf i danfonodd brenhin Phrainc lynges ir mor ac i tiriysson hwynte yn Lloegr mywn swrn o leoedd ac i gwnaethont lawer o ddryge [td. 211r] ac i llosgyssont ddarn o dref [Re<i> a thref Hastings] ac aethant i Phrainc eilwaith
   
Ynghylch hynn o amser Thomas o Woodstock Iarll  Cambrits ewythr y brenhin ac wyth mil o lü gid ac ef [aethant] trwy Phrainc hyd yn Water Swm ac o ddyno i Droys ai hynnill ac o ddyno i Asgwyn ac o ddyno i Vrytaen lle ir oedd Syr Iohn Mowntphord düc o Vrytaen [yr hwnn] ai kressawodd yn llawen
   
Y .5. vlwyddyn i kwnnodd Kent ac Essex yn erbyn y brenhin ac i gwnaethont gaptenied arnünt a Siack Straw yn benn captenn yr hwnn a ddaüth ir Twr Gwynn ynn Llünden ac yno i dalyssont Archesgob Canterbüri ac arglwydd Saint Iohn a phrier yr hwnn oedd Gyphesswr y brenhin ac ar y twr hyl torri i penne a lladd ac ysbeilo yr holl ddieithred yn Sowthwerk a llosgi ty y Düc o Lancastr yr hwnn a elwid Savoy ac yn i harver ehünen yn rhyfeilch ac yn diddymü y brenhin eithr trwy wrolaeth a dilechtid Wiliam Walworth maer Lünden i gwyhanwyd ac i lladdwyd i capten Siack Straw./
   
Ac ynghylch yr amser hwnnw i crynodd y Ddayar yn Lloegr hyd na bü na chynt na chwedi mor vath./
   
Y .7. vlwyddyn Harri Spenser Esgob Norwits a llü gantho aeth i Phlandrs wrth orchymyn y Pab ac a ennillodd Ddwnnkyrk, a Graflyn ac a losgodd 40. llong a llawer o stwph oedd ynddünt ac i daüth i Loegr. Yr .8. vlwyddyn i prioded brenhin Richard a merch Vincelaws Emperodr yr Almaen. Y .10. vlwyddyn o Richard yr ail ir aeth Iarll Arndel i gadarnhaü  sawdwyr yn Gyen ac ar y mor y kyfarfü a Phlemings [td. 211v] ai llonge ynn llawn o win ai dala ac ynn i mysc i dalyssont admiral Phraink. Yn .11. i tyfodd grwyts a thrwbwl mawr rhwng y brenhin ac arglwyddi a gwyr Eglwyssic a chyphredin y Deyrnas trwy gyngor a help ewythredd y brenhin ac arglwyddi eraill nid amgen y Düc o gaer Loiw y Düc o Iork. Iarll Derbi ac Arndel a Nottingam a ddienyddiodd swrn o gynghoried a swyddogion y brenhin ac amkysson y Düc o Iwerddon allan or deyrnas./
   
Y .15. vlwyddyn Rhyw refel a wnaeth i Lünden golli i liberti ond gwedi hynny trwy dretmant y vrenhines a Doctor Gr<in>ssend Esgob Llündain i rhyddhawyd eilwaith
   
Y .18. vlwyddyn i siwrneiodd y brenhin Richard i Iwerddon  lle i cafas gywilydd mwy nac anrhydedd a cholled mwy noc ynnill./ Y 22. Harri Bolingbrok Düc o Harephord a mab y Düc o Lancastr ar Düc o Norpholk a vanissiwyd or Deyrnas ac ar vyrr gwedi hynny i gyrrodd y Llündeinwyr yn ol Henri Bolingbrok düc o Harephord lle ir oedd yn Phraink ac i Loegr i daüth ac ychydic gid ac ef ar kyphredin a ymgasglodd ynghyd ac ynghastell y Phlint i dalyssont vrenhin Richard ac i carcharwyd ynn y twr gwynn ac yna i delifrodd ac a assi<g>nodd ir Henri Bolingbrok düc o Harephord i holl bower ai vrenhiniaeth ai glaim a chyfiownder ynghoron Loegr a Phraink./
[td. 212r]

Henri y .4.ydd

   
Henri y .4.ydd mab Iohn o Gawnt düc o Lancastr y 4 mab i Edward y .3.edd a gymerth meddiant or vrenhiniaeth honn y dydd diwaethaf o vis Medi oed Crist 1399 nei val hynn mil a phedwarcant onid vn./ Y vlwyddyn honn i bü varw brenhin Richard yr ail, Yn y vlwyddyn honn i kytünodd rhai o Ieirll a dügied Lloegr i wneüthür chwaryeth mwming ynn y deüddec niwyrnod ac ynn y chware hwnnw divetha yr brenhin Eithr y brenhin a gafas rybüdd ac a ymgadwodd ac a aeth i Lündein ac a ddanfonodd yn ol y traetüriaid ac wrth y gyfreith ai difethodd./ Y vlwyddyn honn i danfonodd y brenhin Syr Thomas Persi a llü o sawdwyr gantho i Acqwitayn i gynorthwyio Syr Robert Knols oedd Lieutenant yno, ac i orchvygü y wlad honno./ Y vlwyddyn honn i gwnaethbwyd na bai i arglwydd nac i neb amgen roi lifre na gyne i neb oi tenantied ond ei gweission oi tai
   
Yr ail vlwyddyn o Harri y 4.ydd i danfonodd   brenhin Phraink arglwydd Siamys o Bowrbon a deüddeckant o varchogion ac ysqwieiriaid i gadarnhaü Owen Glynn Dwr ysgwier o Gymrü ac ynn erbyn y brenhin ac ym Plymowth i tiriyssont Eithr ni bü hir hyd pann orfü arnün droi drychefn achos y brenhin a gowse rybüdd ac Owen nis cowsse./ Y vlwyddyn honn Prior ac .8. Phrier a grogwyd yn heibwrn am Dresswnn./
   
Pann oedd oed Crist ynn .1401. yn amser Harri [td. 212v] y pedwerydd ir ymddangosses Seren angyrriol i maint ai goleüni val blassing sterr nei gomet Y vlwyddyn rhac wyneb i bü yr maes yn y Mwythic ar vlwyddyn nessaf at hynny i kwnnodd  traetüriaid yn Swydd Iork ac i dalwyd Richard Scrwp Archesgob Iork ac arglwydd marsial a Syr Iohn Lampley a Syr Robert Pluton wythnos y Sülgwyn a dorred i penne yn tre Iork. Y vlwyddyn honn i dalwyd towyssoc y Scotlond ac i bü ynn garcharor yn Lloegr./
   
Pan oedd oedran Crist 1412. mlynedd gwedi gwledychü .13. blynedd a .5. mis ac .21. diwrnod i bü varw Harri y .4.ydd yr 20. dydd o Vawrth ac yng Hawnterbüri i claddwyd

Harri y pümed

   
Harri bümed a ddechreüodd yr .21. dydd o Vawrth oed Crist 1412. ac a goronwyd yn Westm<ü>str y 9.ed dydd o Ebrill oed Crist 1413./
   
Y vlwyddyn honno i kynhalwyd kyphredin eisteddfod yn tre Gonstans ac i danvoned yno o Loegyr Richard Iarll Warwic a thri Esgob a llawer o ddoctoried a marchogion ac ysgwieiried hyd yn wythgant o veirch ac ynn yr Eisteddfod honn i barnwyd am heresi Iohn Wiclyph, Iohn Hwss[11] a Ierom o Braga
   
Pan oedd oed Crist 1414. i kynhalwyd parlment yn Leycestr ac yno i gwnaethbwyd llawer o acts da a chyfreith ac y mysc materion ereill i rhoed bil yn erbyn yr eglwysswyr ac yn debic [td. 213r] i gymryd lle./ A phann welas yr Eglwyswyr hynny ir aethont at y brenhin a dangos iddo vod y Deyrnas yn rhyfeddü nad oedd ef yn gofyn i gyfiownder yn Phrainc. Ac velly i gwnaeth ac ni chafas yn i amser ef mwy enkyd i eiste ar yr Eglwys./ Ac ir Rhyfel hwnnw i talodd i Lleniaid y kyfryw daliad ac na thalyssid i vath or blaen./
   
Pan oedd oed Crist .1415. i danvonodd y brenhin Lynghes o bymtheckan llong tü a Phrainc ar dydd kyn i mordwyaw o Sowth Hampton rhai o arglwyddi Lloegr a amkanodd ddifetha y brenhin./ Ac am hynn Richard Iarll Cambrits, arglwydd Scrwp a Syr Thomas Gray marchoc ar i marwolaeth a gyphessodd ac a addefodd mae brenhin Phrainc ai parysse vddünt. Ac wedi hynny ir aeth y brenhin ar i siwrnai ac i tiriodd nosswyl Vair gyntaf ynghid Ka<n>x yn Normandi ar ail dydd i rhoes ef sawd wrth dref Harphlüw ar .37. dydd gwedi hynny i rhoed y dref i vynü iddo
   
Y vlwyddyn honn vis hydref i bü yr maes yn Agincowrt trwy wyrthie Düw ai weithred i hennillodd gwyr Loegr ac nid oedd o lü gan vrenhin Harri bümed ond dwyfil o wyr meirch a deüddec mil o wyr traed o bob math. A chida brenhin Phraink ir oedd holl vrddas Phrainc a thrügeinmil o wyr meirch/ heb law gwyr traed./ Ac o dü Phrainc i llas mwy no dec mil ac or rheini ir oedd yn Dwyssogion ac yn Ddügied ac yn Ieirll ac yn varwnnied ac yn wyr yn dwyn banere gant a chwech arhügein ac yn varchogion ac yn esgwieried ac yn wyr boneddigion chwechant. Ac o dü Lloegr i llas Edward düc o Iork ac Iarll Swpholk. Syr Richard Burkley a Davydd Gam esgwier ac o bob rhai [td. 213v] hyd ymhümcant nei chwechant or mwyaf./
   
Pan oedd oed Crist 1416 y 4. vlwyddyn o Harri y 5.ed i daüth Sigismwndws Emperodr Rhüfain i Loegr i geisso heddwch rhwng brenin Loegr a brenhin Phrainc eithr ef a ballodd./ Y vlwyddyn honn i rhodd brenhin Phrainc sawd wrth dref Harphlüw o ddwr a thir Eithr Harri 5.ed a ddanfonodd y Düc o Betphord i vrawd a llü gantho ar y mor a gydiodd a llonge brenhin Phraink hyd yn rhif o bümkann  llong ac ai lladdodd ac ai boddodd ac ai dalodd i gyd a phann glybü y llü oedd ar dir hynny hwynt a ymadowson ai sawd ac ar dref
   
Pan oedd oed Crist 1417. ir aeth brenhin Harri ai vrawd y Düc o Clarens a Gloseter a llü  ganthün mawr ym mis Gorphennaf i Normandi ac i hennillyssont Gayn a chestyll gan mwyaf holl Normandi./
   
Oed Crist 1408 Iohn oldcastel marchoc ac arglwydd Cobham a grogwyd ac wedi hynny a losged ar vlwyddyn honn i sowdwyd Roon ar ddwr ac ar dir ar .19. o vis Ionor ir ymrodd y dre a chwedi hynny ir ymroes holl Normandi./
   
Y vlwyddyn honn i bü drafaes ac ymrysson rhwng arglwyddi Phraink ac ynn enwedic rhwng y Dolphyn Düc o Byrgwyn ar Düc o Oliawns a lle a mann a bwyntiwyd i ymgyfaruod ac i heddychü. Ac ir lle i daüth Dolphyn ar Düc o Byrgwyn/ ar Düc o Orliawns ar i liniaü yn dywedüd i chwedyl wrth y Dolphyn i daüth Tanaguy Dükastl ac a drewis y Düc ar i benn a hatsied ac velly yn waradwyddüs i mwrdrywyd y Düc o Orliawns. Ar vlwyddyn honno ir ennillodd y brenhin Harri .5.ed dref Bontoys ac i crynodd [td. 214r] Paris a holl Phrainc rhac ofn./
   
Pann oedd oed Crist 1420 vis Mai ir aeth yn heddwch rhwng brenhin Lloegr a brenhin Phrainc ac i priododd Harri y .5.ed brenhin Lloegr arglwyddes Gatherin verch brenhin Phrainc yn rhe Droys yn Siampayn ac yn ol y briodas honno i kriwyd Harri .5.ed yn aer i goron ac i vrenhiniaeth Phrainc ac yn Regent o Phrainc./ Y vlwyddyn honn i kynhalodd brenhin Harri .5.ed i natolic yn rhe Roon megis regent o Phrawns ac yn debic i Emperodr val i daüth atto lawer o wyr o vrddas Lloegr a Phrainc a theyrnassoedd ereill lawer ac ir aeth ychydic i dy brenhin Phrainc y natolic hwnnw A gwyl Vair y kanhwylle gwedi hynny i daüth y brenhin ar vrenhines i Loegr o Galais i Ddofr a dyddgwyl Vathew y coroned y vrenhines yn Wesmyster gwedi gadel y Düc o Clarens yn lieutenant ac yn llywodraethwr dano ef yn Phrainc ac yn Normandi
   
Pan oedd oed Crist yn 1421 ir aeth y Düc o Clarens i Angeow a Lwmbart a wnaeth i vrad ac velly i lladdwyd a llawer o wyr o vrddas gid ac ef Ar vlwyddyn honn vis Mai ir aeth y brenhin i Phrainc ac yr ymlidiodd y Dolphyn o Phrainc o le i le hyd nad oedd hawdd iddo gael lle i ymgüddiaw rhagddaw. Ar vlwyddyn honn i rhoes ef sawd wrth y dref a elwid Meax ym Bryttaen. A thra oeddid ynn y sawd honno i ganed mab ir brenhin Harri a Harri oedd  henw hwnnw./
   
Ar vlwyddyn honno i bü varw brenhin Harri .5.ed yr .21. dydd o vis Awst. y vlwyddyn o oedran Crist 1422. gwedi gwledychü o hono naw mlynedd a phüm mis
[td. 214v]    
Yn Westmestr i claddwyd./

Harri y chweched.

   
Harri .6.ed yn naw mis oed a ddechreüodd wledychü y dydd diwaethaf ond vn o vis Awst ar wythued vlwyddyn oi vrenhiniaeth ef i coroned ef yn Westmestr ar .10.ed i coroned ef yn Phrainc yn rhe Baris yn vrenhin Ar .24. vlwyddyn oi vrenhiniaeth i priodes ef verch brenhin Cicil a Düc o Angeow. A thra vü ieüank yn llywodreth i ewythredd i bü nid amgen y Düc o Betphord a Gloseter nei gaer Loiw./
   
Pan oedd oed Crist 1424. y Düc o Betphord regal o Phrainc a ryfelodd ar y Dolphyn o Phrainc ac a roes maes iddo yn Vernoyl ac a ddüc y maes lle i lladdwyd wyth mil or Phrancod./ Y vlwyddyn honn i gollyngwyd Siamys brenhin Scotlond o garchar Lloegr yr hwnn a wnaeth homaets dros vrenhiniaeth Scotlond i vrenhin Lloegr ac a briododd arglwyddes Sian verch Iarll Somersed a chares y brenhin./
   
Pan oedd oed Crist 1425. i danfonodd y Düc o Glosetr nei o gaer Loiw dec mil i Regal Phrainc i vrawd o help iddo i ryfela yn erbyn y Dolphyn o Phrainc Y vlwyddyn honn hefyd i bü vaes yn Vernoyl ynn Perch rhwng y Regal ar Düc o Alanson ar maes a ennillodd Lloegr ac ynddo i lladdwyd .9. mil a .7. kant o Phrancod ac y Scottied ac vn cant arbymthec or Saesson./
   
Pan oedd oed Crist 1428. i rhoed sawd wrth dref Orliawns a Syr Iohn Phostolph a llü gantho aeth o Baris tü ac yno a bwyd gantho ac yna ar [td. 215r] y phordd i kyfarvü llü or Phrancod ac ef ac yn ol hir ymladd i syrthiodd y maes ir Saesson ac yno i llas or Phrancod .25. cant ac i dalwyd xij cant yn garcharorion./
   
Pan oedd oed Crist 1429. i torrodd y sawd wrth Orliawns ac ir ennillwyd llawer o drefydd a chestyll nid amgen Geneuile Menin a Phort a .5. mil o wyr oedd gan arglwydd Talbot a their mil arhügein or Phrancod ac yno i dalwyd yn garcharorion arglwydd Talbot ac arglwydd Scals ac eraill ac or Saesson i llas hyd xij cant A hynny a vü lawen gan Ddolphyn ac eraill oi ran ef./ Y vlwyddyn honn i rhyfelodd Dolphyn ac ir ennillodd Droys yn Siampayn a thre Raynes a llawer o drefi eraill a chestyll./ Ac ynghamp Dolphyn ir oedd Iane a stont Ramp ar Phrancod ai galwai hi Pwsel de diew hynny yw merch Düw. Ac yn y vlwyddyn honn i gwnaethbwyd y Dolphyn ynn vrenhin yn Phrainc yn rhe Reymes yngolwc pawb oi bobyl ef./ A phan glybü y Düc o Betphord hynn ef a wnaeth lü angyrriol i vaint o Saesson a Normaniaid ac a ganllynodd y Dolphyn o le i gilydd hyd pan ddaüth i Semles barr lle y gwelai y llüoedd bob vn i gilydd ac yno ir arrhoessont  ddeüddydd a dwynos ac yno megis Capten  llwfr ar hyd nos i kilodd y Dolphyn i dre Bray. A phan [welas] Regal Phrainc [hynny] rhac na allai ymddired i wyr Paris ef a ymadewis a Dolphyn ac a ddaüth i Baris./
   
Y vlwyddyn honn drwy gynhorthwy Pab Rhüfain i danfoned Harri Benphor Cardinal o Winchestr ac a elwid yn gyphredin y Cardinal kyfoethawc a .4. mil o wyr gantho ac i Phrainc ir aeth [td. 215v] y gynhorthwyo[12] y düc o Betphord a Regal Phrainc yn erbyn brenhin Phrainc./
   
Pan oedd oed Crist 1430. yr .8.ed oi vrenhiniaeth i gydewis Regal Phrainc yr hwnn oedd y Düc o Betphord lywodraeth Phrainc ynn llaw Esgob Eli Siawnsler Phrainc. Ar Regal a gynhalodd  Barlment yn Ron ac a gynphorddiodd y Normaniaid i vfüddhaü ac i ddarostwng i vrenhin Lloegr. Ar amser hwnnw ir anfonodd brenhin Phrainc y düc o Alanson a Iane I wyts[13] Düwies vawr y Phrancod i ysgolio Paris ac o ddyno i kürwyd ac i gyrrwyd trwy gwilydd yn i hol a Iane i Düwies yn y clawdd ac i bü lownwaith ymddiphin i bowyd
   
Yr .8.ed vlwyddyn o wrogeth Harri .6.ed i priododd Philip Düc o Byrgwyn Isabel verch Iohn brenhin Portiugal modryb brenhin Lloegr ac yn y neithor honn ir ordeinodd y Düc Philip y golden phlis./
   
Pan oedd oed Crist 1432. y .10.ed vlwyddyn oi wrogeth i coroned Harri .6.ed yn vrenhin yn Phrainc yn rhe Baris trwy lawer o anrhydedd a gwychder a chrio heddwch rhwng Lloegr a Phrainc .6. blynedd/
   
Pan oedd oed Crist 1433. i torrodd y Phrancod yr heddwch ac i gwnaethbwyd llüoedd o bob tü ac i kadarnhawyd trefydd a chestyll a thrwy draetürieth i dünyssont a Phyrs Andebwph Constabl Ron gael dyfod o ddeücant or Phrancod i mywn i Ron mywn dillad Saesson a rhybüdd a gafad a rhai o honünt hwy a laddwyd ac eraill a grogwyd ac eraill a ransymwyd wrth ewyllys y Regal.
   
Pan oedd oed Crist .1434. y 12.ed vlwyddyn o Harri .6.ed i tyddodd terfysc rhwng Regal Phrainc ar [td. 216r] Düc o Byrgwyn yr hwnn a wnaeth drwc mawr i Loegr ac i Vyrgwyn
   
Pan oedd oed Crist 1435. i bü rew o ddydd gwyl St y Katrin hyd dydd gwyl Saint Valentein hyd na allodd na llong na bad rodio Temys./ Y vlwyddyn honn ir aeth yn heddwch rhwng brenhin Phrainc ar Düc o Byrgwyn. Y vlwyddyn honn i bü varw y Düc o Betphord Regal Phrainc ac yn Eglwys Vair yn Ron i mae yn gorwedd ac yn i le y dewisswyd Richard Düc o Iork./
   
Yn y vlwyddyn honn ir ennillodd y Phrancod dre Baris ac i lladdyssont lawer or Saesson oedd yn i chadw./ Y vlwyddyn honn i rhoes y Düc o _____ sawd wrth Galais ac arglwydd Croy sawd wrth y Geins. Ac ybolüdd gwedi hynn i daüth arglwydd Protector ac i llongodd tü a Chalais ar Düc ac arglwydd Croy ar hyd nos a gilodd ac yn i hol i gydowssont i tents ai paviliwns ai hordnawns./
   
Y vlwyddyn honn i gwnaethbwyd Iarll Warwic yn Regal yn Phrainc ac i diswyddwyd y Düc o Iork oed Crist yno 1438./
   
Pan oedd oed Crist 1440. y .17.ec o Harri .6.ed i bü ddrüdannieth mawr. Yr ail vlwddyn i gwnaethbwyd y Düc o Iork yn regal yn Phrainc drychefn ac yn i gyfeillach arglwydd Rhydychen ac yn Normandi i tiriodd. a phan glybü vrenhin Phrainc i ddyvodiaeth ir ymedewis ai sawd wrth Bontoys ac aeth ymaith ar hyd nos./ Ar vlwyddyn honn i rhyddhawyd y Düc o Orliawns a vüysse yngharchar yn Lloegr er ys .25. mlynedd ac yn i ranswm i talodd y Düc o Byrgwyn bedwar cann mil o gorone./
[td. 216v]    
Pan oedd oed Crist 1441. ir aeth daü lü ar vnwaith i Phrainc vn a ddanvonwyd i Bickardi ac arglwydd Talbot i roi sawd wrth dref Dip. Ar düc ehünan ac yn i gwmpeiniaeth y Düc o Somersed aeth i Angeow.
   
Pan oedd oed Crist 1442. i llosges klochdü Powls gan dan mellt ac ir aeth malais rhwng y Cardinal ac arglwydd Protector ac or achos honn i collodd llawer dyn i vowyd
   
Pan oedd oed Crist _____ i prioded Margred merch brenhin Cecil ar brenhin A chwedi hynny i koroned yn Westmestr ac ni wnaeth na phrophid ir Deyrnas nac Vrddas ir brenhin.
   
Pan oedd oed Crist 1449./ i rhoed Ron i vyny i vrenhin Phrainc a chann mwyaf holl drevydd Normandi Ar düc o Somersed ac arglwydd  Talbot a ymedewis./ Ar vlwyddyn honn ir aeth y Düc o Iork i Iwerddon yn Lieutenant dan y brenhin ac i ostegü y Gwyddelod gwylltion oedd yn rhyfela yn erbyn y brenhin
   
Pan oedd oed Crist 1450 ir ennillodd [y Phrancod] vn maes ar y Saesson. Syr Thomas Kiriel oedd y capten ac nid [oedd] gantho ond mil ac wythgant o wyr ac or Phrancod .4. mil./
   
Pan oedd oed Crist 1452. ar .30./ o wrogeth Harri 6ed i bü ymgyfaruod rhwng y brenhin ar Düc o Iork ar Vrent hieth yng Hent ond yn heddwch ir aeth. Y vlwyddyn ir ennillodd y Phrancod Aqwitayn yr honn a vüyssai Loegr er ynn amser Harri .3.edd nei drychan mlynedd ac ychwanec./
   
Pan oedd oed Crist 1453. ir ennillodd Iarll y Mwythic  Vwrdeaux a llawer o drefi yn Gasgwyn ac yn y maes yngHastylton i llas yr Iarll ai vab [td. 217r] arglwydd Talbot a llawer o gaptenniaid Loegr./
   
Y vlwyddyn Mahomet y Twrk mawr a gwnkweriodd Gonstantinobl ac a laddodd lawer o Gristynogion./
   
Pan oedd oed Crist 1454. Y vlwyddyn honn ir aeth rhwng y düc o Iork yr hwnn oedd yn cleimio yr goron ar Düc o Somersed oedd yn cadw yr brenhin Ac yn Saint Albons i bü vaes mawr rhyngthün ar düc o Iork ai ennillodd./ Ac o dü /r/ brenhin i llas y Düc o Somersed ac Iarll  Northwmberlond ac arglwydd Staphord ac wyth mil y chwanec ar Düc o Iork a ddüc y brenhin yn anrhydeddüs i Lündain ac yno i gwnaethbwyd y Düc o Iork yn arglwydd Protector y Deyrnas ac ar y brenhin./
   
Pan oedd oed Iessü .1455. yr .34. o Harri .6.ed wrth gyngor y Vrenhines y byrrwyd y Düc o Iork oi swydd yr hynn a wnaeth malais vawr a grwyts drychefn yn y Deyrnas./ Yr ail vlwyddyn i bü anllywodraeth a reiot yn Llünden o blegid y Lwmbards ar Italians./ Ar drydedd vlwyddyn i daüth dwy Long o Phrancod ac i tiriyssont yn y Downs ac ir ysbeilyssont dre Sandwits
   
Yn tre Vents yn Sermania i preintiodd Iohn Phawstiws gyntaf erioed ac efo a gafas y gelfyddyd honno gyntaf oed Crist 1458. A Harri .6.ed .36./ Y vlwyddyn honn i gwnaethbwyd heddwch rhwng y brenhin ar düc o Iork ond na hir byrhaodd./
   
Pan oedd oed Crist .1459. i bü yr maes ymlor hieth ynn Swydd y Mwythic rhwng arglwydd Awdley o rann y brenhin ac Iarll Salsbri o rann y Düc o Iork ar maes a ddüc Iarll [td. 217v] Salsbri ac arglwydd Awdley a laddwyd
   
Oedran Crist .1460. Harri .6.ed .38. i gwnaeth y Düc o Iork lü anveidrol o Gymrü a gwyr y Nordd ac Iarll Warwic a ddaüth a llü mawr o Galais ac yn agos i Lwdlo ymordyr Cymrü i bü rhyngthün vaes a thü ac yno i daüth y brenhin ar düc o Somersed a llü arüthür ganthün ar nos kyn y vattel i kilodd Andro Trolop o ddiwrth y Düc o Iork at y brenhin ar nos honno y kilodd y Düc ehün ac ir aeth i Iwerddon ac Iarll Warwic a Salsbri[14] i Ddefnsir ac o ddyno i Galais./ Y vlwyddyn honn I gwnaethbwyd y Düc o Somersed ieüank yn gapten yng Halais ond pan ddoeth ef yno ni chae ef ddyfod ir dref eithr [bod] yn dda gantho gymryd y Geins gan yr Iairll oedd yno oi vlaen ef./
   
Y vlwyddyn honn i daüth Iarll y Mars ac Iarll Warwic ac i tiriyssont yn Sandwits ac i daethan i Lündein lle i cressawyd yn anrhydeddüs A chwedi hynny ir aethont a phümp mil arhvgein o lü ganthün i gyfarvod ar brenhin yr hwnn oedd ai lü gantho yn emyl Norddhampton ac yno i bü yr maes ac yno i syrthiodd y maes i Iarll y Mars ai barti ac o dü yr brenhin i llas y Düc o Bwckingam ac Iarll  Salsbri a dec mil y chwanec o Saesson./ ar darn arall or llü a gilodd ac a ydewis y brenhin ehünan ar Düc o Somersed ar vrenhines ai mab a gilodd i Esgobaeth Ddürham Ac yn ol y maes hwnn ydd aeth Iarll y Mars ar brenhin i Lündein ac yno i gwnaethbwyd Parlment ac yn y Parlment hwnnw i gwnaethbwyd y Düc o Iork yn aer apparawns ai heyrs ynn i ol [td. 218r] yntaü./ Y vlwyddyn honn brenhines Margred a gynnüllodd gwyr y Nordd lü mawr ac yn Wakphild i bü yr maes ac i lladdodd y Düc o Iork ai vab, Iarll Rwtlond ac Iarll Salsbri a ddalwyd ac a dorred i benn ym Pwmphred ai benn a ddanfoned i Iork. Ar vrenhines ai llü aeth i St Albons ac a ymladdodd ac Iarll Warwic ac ar Düc o Northpholk ac a ryddhaodd Harri i gwr ac yn y maes hwnn i llas dwy vil a thrychant Ac vn Marchoc a wnaethoeddid yn varchoc y dydd kynn hynny ac a elwid Syr Iohn Gray./ Gwedi yr maes hwnn pann glybü y brenhin ar vrenhines ddyfodiad Iarll y Mars a Iarll  Warwic a llü arüthür o vordr Cymrü ganthün kymryd i siwrnai a wnaethont tü ar Nordd. Ar Ieirll aeth i Lünden ac yno drwy vndeb vrddas  Lloegr ar kyphredin Edward Iarll y Mars a griwyd ynn vrenhin y 4ydd dydd o vis Mawrth oed Crist .1460.[15]
   
Pan griwyd Edward yn vrenhin efo a ganllynodd vrenhin Harri .6.ed tü ac Iork ac a gyfarvü ai lü yn y lle a elwir Towton ac yno i bü vaes kreülon rhyngthün ond Edward ai hennillodd. Ac yn y maes hwnnw i llas chwe mil arhügein a seithgant[16] ac yno i lladdwyd Iarll Northwmberlond ac Iarll Westmerlond ac arglwydd Cliphord a llawer ychwanec ar brenhin Harri a gollodd i gyd ac a gilodd or Deyrnas gwedi teyrnassü dair blynedd arbymthec arhügein a chwe mis./
[td. 218v]    
Gwedi y maes hwnnw idd aeth brenhin Harri i y Scotlond ar gil ac ir aeth brenhines Margred ai mab at i thad y Düc o Angeow./
   
Pan oedd oedran Crist vn mab Mair Vorwyn  wyry brenhines nef amherodres vphern arglwyddes y byd hwnn .1461. y .29. dydd o vis Myhevin i coroned Edward .4.ydd yn Westmestr./

Edward y pedwerydd

   
Edward bedwerydd vab Richard düc o Iork ap Richard Iarll Cambrits ap Edmwnd düc o Iork y 4.ydd mab i Edward y .3.ydd brenhin Lloegr./
   
Mam Richard düc o Iork oedd Anna verch Roger Mortimer Iarll y Mars vab Philippa verch ac etifedd Leionel Düc o Glarens yr ail mab ir vn Edward .3.ydd vrenhin Lloegr ac wrth y claim hwnn i kafas vod yn vrenhin ai goroni Ddüw Sül y Drindod oed Crist mil a phedwarcant ac vn a thrügein o vlynyddoedd
   
Edward y 4ydd hwnn trwy eiriol Elsabeth i wraic a beris kwnnu gwyl Vair y Visitasion oed Crist 1480. ar vlwyddyn honno i peris Edward y 4.ydd vwstro kwbwl o Loegr a Chymrü / oi wrogeth ef yr .20.
   
Pan oedd oed Crist .1462. [Brenhin Harri] a brenhines Margred [a ddoethant] o Scotlond a llü mawr ganthün o Scottied a Phrancod ac yn Exam Sir [i daüth] arglwydd Montagüw capten y Nordd i ymgyfarvod [td. 219r] ac wynt. Ac a orfü ar vrenhin Harri gilo gwedi hir ymladd / ar Düc o Somersed a ymadowsse yn hwyr kynn hynny, a brenhin Edward a ddalwyd yn y maes a llawer gid ac ef ac a dorred i benn
   
Yr ail vlwyddyn brenhin Harri a ddalwyd ac a aethbwyd ac ef trwy Lünden ir Twr gwynn ar vrenhines aeth ai mab gid a hi i Phrainc at y Düc Rayner i thad./
   
Oed Crist 1464. i prioded Edward y 4.ydd a chwaer brenhin Phrainc ond tra fü Iarll Warwic yn keisso bona dros y brenhin Edward ynte a briododd heb wybod yng Graphton arglwyddes Elsabeth gwraic Syr Iohn Gray or blaen ac or achos honno i bü lawer o ddrwc rhwng y brenhin ac Iarll Warwic./
   
Yr ail vlwyddyn i ganed Elsabeth yr honn a vü gwedi hynny vrenhines Harri Seithued a mam Harri wythued
   
Pan oedd oed Crist .1466. i daüth bastard Byrgwyn i Loegr i geisso kyvathrach rhwng Siarls aer Byrgwyn a chwaer brenhin Edward ar gyfathrach a wnaethbwyd
   
Oed Crist 1467. I kwnnodd Iarll Warwic ynn erbyn y brenhin ar düc o Glarens brawd y brenhin gid ac ef. Ac Archesgob Iork Marküys Mowntagüw i vrodyr ar Iarll ar düc o Clarens aeth i Galais ac yno i priododd y Düc verch Iarll Warwic
   
Y vlwyddyn honn i gwnaeth gwyr Sir Iork a gwyr y Nordd gapten arnün ai alw Robin Ridistal ac yn agos i Vanbri arglwydd Herbert [td. 219v] ai vrawd Syr Richard Herbert a Thomas ap Rhosser a llü o seithmil ganthün a ymgyfarvüon a gwyr y Nordd a gwyr y Nordd a ddüc y maes./ Ac arglwydd herbert oed [sic]  Syr Wiliam Thomas Iarll Penfro a ddalwyd a Syr Richard Herbert ac a dorred i penne. a Thomas ap Rhosser a laddwyd ac Elen Gethin a gyrchodd i gorph ef adref ac ai claddodd yn Eglwys Gintün yn anrhydeddüs. a phüm mil o Gymrü yn y maes ym Manbri a laddwyd
   
Gwedi /r/ maes hwnn i daüth gwyr y Nordd i Warwic lle ir oedd yr Iarll ar Düc o Clarens gwedi kynnüll llü mawr a brenhin Edward ai bower ynte a ddaüth yn i herbyn ond yn ddirybüdd yr Iarll ar hyd nos aeth am benn camp y brenhin ac a ddalodd y brenhin, ac ai danfonodd i Vüdylham castel yngharchar yn Iork Sir at Archescob Iork brawd yr Iarll ac yno drwy gyngor a nerth Syr Wiliam Stanley a Syr Thomas Borowgh i diangodd or carchar ac i Lündein i daüth ac i kynnüllodd lü mawr Ac yno i kyfarvü ac arglwydd Wels a llü mawr gantho ynte ar brenhin a ddüc y maes ac yno i llas dec mil ynn y lleiaf a thorri penne arglwydd Wels a Syr Robert Wels i vab a Syr Robert Demok a llawer y chwanec ar maes hwnn a elwir los coat Phild. achos gwyr Lincol Sir a vyrrodd i siackedi ac a gilodd./
   
Y vlwyddyn honn ir aeth Iarll Warwic ar düc o Clarens i Phrainc ac yno i büon ynghylch [td. 220r] chwe mis ac yno i daüth Iarll Warwic ar düc o Clarens ac Iarll Penvro ac arglwydd  Rhydychen ar kyphredin a ddaüth attün ac Edward a gilodd i Phlandrs at y Düc o Byrgwyn a brenhines Elsabeth ai mab Edward a gymerth Seintwari ynn Westmestr _____ [17]
   
a Harri chweched ynn i vrenhiniaeth drychefn a chrio Edward yn Draettür, ond hynny ni bü hir byrhaodd
   
Oed Crist 1470. i kyfarvü vrenhin[18] a brenhin Harri yn i gwmpeniaeth ac Iarll Warwic Ddüw Pasc y Marnad Phild dec milltir o Lündein ac yno rhyngthün i bü vaes kreülon ar gore a gafas brenhin Edward ac yno i llas Iarll Warwic a elwid Richard Nevyl a Marküys Mowntagüw i vrawd a dec mil ychwanec./ Ac ar vyrr ynn ol y maes hwnnw i kymerth brenhines Margred Seintwari y Mewley yn Hamsir ac atti i daüth y düc o Somersed ac Iarll Defnsir a llawer y chwanec o lü a brenhin Edward a llawer llü mawr gantho a ymgyfarvü ac wynt yn emyl Tewksbri ac yno i bü vaes creülon rhyngthün ond brenhin Edward ai düc a brenhines Margred a ddalwyd ac a roed [iddo ef] ac Edward i mab gerr bronn y brenhin a vwrdrwyd yn gwilyddüs./
   
Ar maes yn Tewksbri [a vü] ar ddüw Sadwrn y 4ydd dydd o Vai a Düw llün gwedi hynny i torred penne Edmwnd Düc o Somersed a Phrior Saint Iohns o Gaerüsalem ac ychwanec ac i danfoned [td. 220v] brenhines Margred yngharchar i Lünden yr honn gwedi hynny a brynodd i Thad ac i danfoned i Phrainc./
   
Gwedi hynn i kwnnodd Bastart Phawconbrig a gwyr Kent ac Essex gid ac ef yn erbyn y brenhin ond hwynt a orvüwyd ar vyrder ac a roed i veirw./
   
Y vlwyddyn honn i bü varw y brenhin Harri .6.ed ac ai gorph i doüthbwyd or twr gwynn i Bowls ac yno i bü noswaith ac medd rhai Richard düc o Gloseter ai lladdodd a dager brawd Edward vrenhin oedd y Düc
   
Pan oedd oed Crist 1473. ir aeth brenhin Edward 4ydd i Phrainc ond eisse gallel ymddired ir Ddüc o Byrgwyn idd heddychodd ef a brenhin Phrainc ac ar vrenhin Phrainc dalü i vrenhin Edward bymthec a thrügein mil o gorone. A phob blwyddyn ymyw brenhin Edward dec mil a deügein o gorone./
   
Pan oedd oed Crist 1477. y vlwyddyn o wrogeth Edward y 4ydd y 17.ec i boddwyd Georg Düc o Clarens brawd y brenhin mywn tünnell o win yn y Twr gwynn./ Y vlwyddyn rhac wyneb i bü varwolaeth vawr yn Llünden a thrwy Loegyr
   
Pan oedd oed Crist 1482. i bü varw Edward 4ydd yn nechre y 23. vlwyddyn oi wrogeth ef y .9.ed dydd o Ebrill ynn Westmestr ac yn Winsor i claddwyd
   
Ac yn i ol y gydewis Edward i vab hynaf a Richard Düc o Iork a thair merched Elisabeth yr honn a vü gwedi hynny vrenhines, Ciceli a Chatrin./
[td. 221r]

Edward y pümed

   
Edward bümed a ddechreüodd meddiannü yr Ynys honn yr .11. dydd o Ebrill pan oedd oedran Crist 1483. ac nid oedd yr Edward hwnn ond .11. vlwydd nei ynghylch hynny ac ef ni choronwyd er ioed ond wrth orchymyn Richard y .3.ydd i mwrderwyd ar Richard hwnnw aeth ynn i ol ef yn vrenhin

Richard y trydydd

   
Richard y .3.ydd a ddechreüodd teyrnassü yr .21. dydd o vis Myhevin oedran Crist .1483./ ar .6.ed o vis Gorphennaf nessaf at hynny i coroned ynn Westmestr
   
Y vlwyddyn honno i torred penn y Düc o Bwckingam yn Salsbri./
   
Pan oedd oed Crist 1485. i bü yr maes yn Bossworth rhwng brenhin Richard a brenhin Harri seithüed y .22. dydd o Awst ac i gorfü Harri seithved ac i kafas y vyddygoliaeth yn vwy o nerth a gallü y gorüchaf Ddüw nac o vilwriaeth gwyr Ac yn y maes i llas Richard vrenhin y .3.edd vlwyddyn oi wledychiad ac arglwydd Lorel a gilodd ar Düc o Northpholk a las a llawer o arglwyddi eraill./
[td. 221v]

Harri .7.ed

   
Harri seithved a ddechreüodd wledychü pan oedd oedran Crist 1485. ar .13.ec dydd o vis Hydref i coroned ef yn Westmestr ar Harri hwnnw oedd vab Edmwnd Iarll Richmownt ap Owain ap Meredydd ap Tüdür ap Gronwy ap Tüdür ap Gronwy ap Ednyfed Vychan ap Kynwric ap Ioreth &c. ac a vü vrenhin anrhydeddüs clodvawr kadarn kreülon dewr trügaroc, kyfion, kelvyddüs anodd i berchen tafod draethü i weithredoedd da./
   
Pan oedd oed Crist .1486. yr ail vlwyddyn oi wrogeth i priodes ef Elsabeth verch brenhin Edward .4. a mis Medi nessa yn ol hynn i ganed Prins Arthür yn Winsiestr./ Y vlwyddynn rhac wyneb i coroned y vrenhines ynn Westmestr
   
Pan oedd oed Crist 1488. i lladdodd kyphredin y Nordd Iarll Northwmberlond. Ar vlwyddyn honno i vaes yn Phlawndrs rhwng arglwydd Dawbnee ac arglwydd Morley a las yno./[19]
   
Pan oedd oed Crist 1490. i ganed Harri yr ail mab i Harri .7.ed yn Grinwits vis Myhevin./
   
Oed Crist 1493. I bü yr bwyssel gwenith er chwe cheinoc yn Llünden ac yn y vlwyddyn honn i torred penn Syr Wiliam Stanley./
   
Oed Crist .1496. I bü yr maes ynn y Black hieth y .18. dydd o vis Myhevin./
[td. 222r]    
Oed Crist .1499. I torred penn Iarll Warwic ac ir aeth y brenhin i Galais at y Düc o Byrgwyn
   
Pan oedd oed Crist .1500. yr .16. vlwyddyn o wrogeth Harri seithved i tiriodd arglwyddes Katrin chwaer yr Emperodr merch brenhin Spayn ym Hlümwth./
   
Oed Crist .1502. I bü varw brenhines Elsabeth yn y Twr gwynn a hithe ar i gwely. Ar wythved dydd o Awst y priododd brenhin y Scotlond arglwyddes Margred y verch hynaf./
   
Oed Crist .1505. I byrrodd gwynt geiloc clochty Powls i lawr ac i byrrodd y Düc o Byrgwyn i dir ynn y West cowntri./
   
Oed Crist. 1507. I llosgodd llawer o dai yn Rhef Norwits./
   
Y vlwyddyn honno i bü varw brenhin Harri .7.ed yr .21. dydd o vis Ebrill yn Richmownt y bedwaredd vlwyddyn arhügein oi wrogeth ac yn Westmestr i claddwyd./
[td. 222v]

Harri wythued

   
Harri wythved a ddechreüodd teyrnassü y .22. dydd o vis Ebrill oedran Crist 1509. ac a goroned yn Westmestr ddydd gwyl Ieüan Vedyddiwr nessaf at hynny./ Y vlwyddyn honn i torred penne Empson a Dwdley./
   
Oed Crist 1510 i ganed mab i Harri yn Richmownt ar Ddüw Calan a dydd gwyl Vathew  nessaf i bü varw yr mab./
   
Oed Crist .1511. I daliodd arglwydd Haward Andro Berton a thrügein a chant o Scottied a dwy long dec./
   
Pan oedd oedran Crist .1512. I torred penn Edward Dela pwl ac i danfoned Marqwys Dorsed i Spayn a dec mil o lü gantho ac yno i gwnaeth lawer o ddrwc yn Gien ac ar ddydd gwyl Saint Lawrens i llosgodd y Regent ar Karrik y rhai oedd ddwy [long] arüthr o vaint./
   
Yr ail vlwyddyn ir aeth Syr Edward arglwydd Admiral Lloegr ac i llas ar ddydd gwyl Vark ym Brüttaen vechan./ Ar vlwyddyn honn i rhoes y brenhin sawd wrth Derwyn ac i gorchvygodd bower Phrainc ym boemye ac ir ennillodd Derwyn a Thwrney./
   
Ar vlwyddyn honn i daüth Siames brenhin Scotlond i Loegr a chan mil o lü gantho y nawed dydd o vis Medi ac i pwyntiwyd maes rhyngtho ac arglwyddi o Loegyr nid amgen arglwydd [td. 223r] Tressorer ac arglwydd Haward a marchogion vrddolion a boneddigion ambenn hynny ar maes a vü yng Krakmor dwy villtir o Northampton ac yno i llas Siamys brenhin Scotlond ac vnarddec o Ieirll y Scotlond a thri o Esgobion a phedwar arddec o varchogion vrddolion a deüddec mil o voneddigion a chyphredin am benn hynny o Scotlond./
   
A chwedi hynny i gwnaethbwyd xxx. o varchogion ynn Lloegr./
   
Weithian llyma henwaeü pendevigion o Scotlond a las ynn y maes nid amgen./
   
Ynn y ward gyntaf Iarll Lenog./ Iarll o Lewys / Iarll Argil / Iarll Castil / Iarll Egillton./
   
Yn yr ail ward Brenhin Scotlond./ Esgob Saint Andro / Iarll Morton / Arglwydd  Siamberlenn./ Iarll Angwys / Iarll Mowntres./
   
Yn y drydedd ward Esgob Catnais / Esgob Argil / Incastor of Angwys
   
Pan oedd oed Crist yn .1514. ir aeth yn heddwch rhwng brenhin Lloegr a brenhin Phrainc ac i priododd brenhin Phrainc arglwyddes Mari chwaer Harri wythüed./ A Düw Calan gwedi hynny i bü varw brenhin Phrainc ac i danfoned y Düc o Swpholk Syr Siarls Brandon iw chyrchü drychefn./
   
Pan oedd oed Crist .1515. I ganed arglwyddes Mari  verch Harri wythüed ynn Grinwits./[20] a mis y prioded y Düc o Swpholk Siarls Bran[td. 223v] don ac arglwyddes Mari brenhines Phrainc./
   
Y vlwyddyn honn i daüth arglwyddes Margred brenhines Scotlond a chwaer brenhin Lloegr i Loegr ac ynn Harbottel i ganed iddi verch a elwid Margred. A mis Mai i daüth i Lünden ac i tariodd vlwyddyn.
   
Oed Crist .1516. I bü rew kimaint ac i gellid myned a chenired o Westmestr i Lambeth a cheirr ac a cherti./ Ar vlwyddyn honn vis Mai i kwnnodd prentissied Llünden yn erbyn gwyr dieithr oedd yno ac am hynny i colled llawer o honün ac i daüth y rhann arall o honün i Westmestr a chebystre am i gyddfeü ac i pardynwyd. Ar .24. dydd o Vai ydd aeth brenhines y Scotlond tü ac adref./
   
Oed Crist .1517. I rhoed Terwyn a Thwrne i vrenhin Phrainc eilwaith. Yr ail vlwyddyn y dewisswyd Siarls bümed yn Emperodr Rhüfain. Ar vlwyddyn honn i danfoned Iarll Surrei i Iwerddon./
   
Y vlwyddyn rhac wyneb i kyfarvü vrenhin Lloegyr a brenhin Phrainc ynn y camp rhwng Ard ar Geinys./ Gwedi hynny i kyfarvü Harri .8.ed ar Emperodr ac ir aeth y brenhin gid ar Emperodr i Raflin ac o ddyno i Galais [i daüth yr Emperodr] gid ar brenhin Ac i daüth y brenhin adref./
   
Oed Crist .1520. I torred penn y Düc o Bwckingam y .22. dydd o Vai. Y mis yr aeth y Cardinal i Galais i geisso heddwch rhwng [td. 224r] brenhin Phrainc ar Emperodr ac yno i tarriodd hyd vis Rhacvyrr heb nes i heddwch
   
Oed Crist .1521. y chweched dydd o vis Mehevin i daüth yr Emperodr i Lünden ac o Lünden ir aeth i Winsor ac yno i gwnaethbwyd yn varchoc or gardys Ac o ddyno i Sowthampton a thross y mor y Yspaen ar amser hwnnw Iarll  _____ [21] arglwydd Admiral a losges Morlais ym Brüttaen ac yno i tiriodd yng Calais ac o ddyno i Bickardi ac yno i Llosges gestyll a threfi Ac a rodd wrth Heldyng[22] ond y min gayaf oedd i kwnnodd i sawd ac i daüth adref./
   
Y vlwyddyn honn i daüth y Düc or Alban i Loegr a llü mawr gantho a phann glybü mae Iarll y Mwythic oedd yn dyfod i ymladd ac ef trüws a gymerth dros chwe mis./
   
Oed Crist .1522. I daüth Crustern brenhin Denmark i Loegr vis Myhevin. Y vlwyddyn honn i llosgodd Iarll Swrrey _____ a llawer[23] o drefi a chestyll ac ynn bennaf o honün tref Iodworth ynn y Scotlond. Ar vlwyddyn honn ir oedd y Twrk y sowdio Rods a Düw Nadolic i rhoed i vynü iddo
   
Oed Crist 1523. y bymthegved o wrogeth Harri .8.ed ir aeth y Düc o Swpholk i Phrainc a dec mil o lü gid ac ef hyd tros Water Swm heb gynnic vn maes ac i dünüstriodd llawer o drefydd a chestyll. a mis Rhagvyrr i troes drychefn./
   
Y vlwyddyn honn ir oedd y Düc o Albani yn rhoi [td. 224v] sawd wrth gastell Wark. a phann glybü ef vod Iarll Swrrey yn dyfod a llü mawr gantho efo a gilodd./
   
Oed Crist .1524. I daüth Embasseters o Spaen ac y Scotlond ac o leoedd ereill i Loegr a heddwch rhwng Lloegr a Phrainc a Rebel ynn Norpholk a Swpholk a delifro brenhin Phrainc o garchar vis Mawrth./
   
Pan oedd oed Crist 1526. ir aeth y Cardinal i Phrainc ac i gwnaeth heddwch rhwng brenhin Phrainc a brenhin Lloegr ac yn vn ynn erbyn yr Emperodr a mis Medi i danfonyssont lü i Itali ac ir Rhüfeindir. Mis Hydref i daüth y great mastr o Phrainc i Loegr i sickraü ac i rwymo yr heddwch hwnnw./
   
Pan oedd oed Crist 1528. mis Myhevin ir eisteddodd Legat y Pab yn hy /r/ Phriers düon am briodas y brenhin
   
Y vlwyddyn honn ir heddychwyd rhwng y brenhin ar Emperodr.
   
Yr ail vlwddyn i coronwyd yr Emperodr ynn Bononi. Y drydedd vlwddyn i rhyddhawyd plant brenhin Phrainc ac i bü varw yr Cardinal./
   
Pan oedd oed Crist 1531. I dechreüodd y brenhin adeilad yn Westmestr ac ir aeth y brenhin i gyfarvod a brenhin Phrainc vis Hydref ac i torred penn Mr Rh ap Sr <g'.> Rh. [24]
   
Pan oedd oed Crist .1532. Ir ysgarwyd y brenhin a brenhines Katrin ac achos na chyttüne y Pab ar anghyfreithlonn ysgar hwnnw efo ai bower a nakawyd yn y Deyrnas [honn] ac ni bü ddim gwelliant ir ynys hynny./
   
Gwedi hynny brenhin Harri .8.ed a briododd Ann Bwlen yr honn a goroned Ddüw sül y Sülgwyn [td. 225r] gwedi hynny./ Dydd gwyl Ieuan gwedi  hynny i bü varw Mari brenhines Phrainc chwaer brenhin Lloegr a gwraic Syr Siarls Brandon Düc o Swpholk./
   
Oedran Crist pan aned arglwyddes Elsabeth yn Grinwits ar noswyl Vair y seithued dydd o vis Medi .1533.[25]
   
Pan oedd oed Crist 1533. y .23. o Harri .8.ed i llosged yr holi mayd o Gent a daü vynach a daü  phrier ac opheiriad a groged ac a dorred i benn am Dresson a blasphemi ac hyppocrisi ac ir aeth yn heddwch rhwng Lloegr ac y Scotlond./
   
Y vlwyddyn honn i byrrwyd y Pab ynn gweit ai bower or Deyrnas honn./ Yr ail vlwyddyn i kwnnodd arglwydd Kildar ac i rhyfelodd ynn erbyn y brenhin ac i lladdodd Esgob Dülün ac yno idd yrrodd y brenhin Syr Wiliam Skevington./
   
Y vlwyddyn honn i kanhiadwyd ir brenhin y phrwytheü kyntaf ar degued or phrwytheü yr Eglwyssi trwy Loegr a Chymrü./
   
Mis Myhevin i torred penneü Esgob Rochestr a Syr Thomas More am wrthnevo nei nakaü y brenhin yn benn ar Eglwys Loegr a thri mynach or Siartrhows am yr vn achos a varnwyd i veirw./
   
Pan oedd oed Crist .1535. I torred penne brenhines Ann Bwlen ac arglwydd Rochephord a Norrys, Weston a Brerton a Marks ac i priododd y brenhin arglwyddes Sian Seimer./
   
Y vlwyddyn honn i bü yn Swydd Iork ac ynn [td. 225v] Swydd Lincol ynvydrwydd mawr yn erbyn y brenhin o waith arglwydd Darci arglwydd Hwssi Syr Robert Constabl a Robert Ask ac o synnwyr y brenhin ai gynghoried heb golledigaeth gwaed i heddychwyd
   
Yr ail vlwyddyn i kwnnodd arglwydd Darsi Syr Phrawncis Bigot a Syr Robert Constabl yn erbyn y brenhin a hwynt a ddalwyd ac a vyrwyd i varw
   
Pan oedd oedran Iessü Grist .1537. o vlynyddoedd noswyl St Edward i ganed Prins Edward yn Hampton Cowrt ac ar i enedigaeth ef i bü varw brenhines Sian i vam ef ac yn Winsor i claddwyd
   
Pan oedd oed Crist 1538. i dechreüwyd casglü ir tylodion./ Mis Mai i colled ac i llosged Phrier Phorest
   
Y vlwyddyn honn vis Rhagvyr i torred penne y Markwys o Exeter ac arglwydd Mowntigüw a Syr Edward Nevyl
   
Pan oedd oed Crist .1539. vis Mai i mwstriwyd holl Lünden mywn harnes gwynnion a siackedi o sidan gwynn a brethyn gwynn a chadwyneü aür mywn tri maes o ryfel hyd pan oedd ynn rhyfeddod i lawer o ddieithred o amryfaelion Deyrnassoedd
   
Y vlwyddyn honn vis Rhagvyrr i daüth arglwyddes Ann Clif chwaer y Düc o Clif i Loegr ac ar ddügwyl Ystwyll gwedi hynny i prioded ar brenhin Harri wythued. A mis Gorphennaf ynn ol hynny i troes y brenhin y hi i phwrdd./
   
Mis Tachwedd y vlwyddyn honn i torred penne Abad Reading ac Abad Glassynbüri ac Abad Colchester./
[td. 226r]    
Pan oedd oed Crist 1540. yr .28. dydd o vis Gorphennaf Thomas Cromwel Iarll Essex ac arglwydd Water Hwngerphord a dorred i penne ynn y Twr hyl am dresson. Ac oni bai vynny o Ddüw hynny e drigse Richard ap hoel esqwier a Sersiant of arms a Sion Lloyd mab dd ap hoel ddü gwr bonheddic a Hoel ap Syr Mathew prydydd a gwr g. a deüddec ychwanec o wyr Dyphryn Tyveidad am ovyn i kyfraith ac yno i gwnaeth Hoel y ddaü Englyn hynn nid amgen./

Nid awn tüt on küt nim kar / Düw Iessü
Dowyssoc nef a Daiar
ni ddown i benn ddwyn i bar
nid oes vodd Düw sy vyddar
   
A phan ddarfü am Gromwel bwrw i ddüw  glowed ynn gweddie a chanü val hynn [yr Englyn arall] iddo ehünan

Na ddowed vned o nyn / ond wyd veddw
vod düw /n/ vyddar Hwlyn
nid yw vyddar Düw vowddyn
nac yw e glyw Düw bob dyn./
   
Y .30. dydd or mis hwnnw i llosged Barnes Gared a Sierom am heresi ar dydd hwnnw  Abel, Powel a Phederston a lüsgwyd a groged ac a gwarterwyd ynn Smythphild am dresson./
   
Sychdwr mawr oedd yr haf hwnnw yn gimaint ac i rhoid y naill vwyssel er malü yr llall. ar vlwyddyn honno i gellyngwyd Esgob Chichestr a Doctor Samson a Doctor Wilson or Twr wrth bardwn y brenhin./
   
Yr .8.ed dydd o Awst y prioded y brenhin ac arglwyddes Catrin Haward kares y düc o Norpholk [td. 226v] ond ni hir byrrhaodd honno hefyd ac yno i darfü y kasgyl ir tylodion
   
Y vlwyddyn honn i colled Egerton a Harmon am gowntyrphettio Seal y brenhin ar vlwyddyn honn i dechreüodd y brenhin adeilad ynghalais ac ynn y Geinys. Ac ynn swydd Iork i kwnnodd opheiriaid a Llygion ynn erbyn y brenhin ac ar vyrr i gorvüwyd ac i barnwyd i veirw mywn llawer lle./ Ac vn Leigh<t> a daü eraill a golled ynn Llünden y 27. dydd o vis Mai. ac am yr vn achos Syr Iohn Nevyl marchoc a lüsgwyd a groged ac a gwarterwyd yn Iork ddügwyl Grist ne i noswyl./
   
A .30. am ledrad ac ysbeil a groged
   
Y vlwyddyn honn y 6ed o vis Mai i bü orchymyn ordeinio /r/ beibyl yn Saessonaec ymhob Eglwys drwy /r/ Deyrnas honn yn barod i bawb ei ddarllen ac i wrando geiriaü Düw mywn amser kyfleüs
   
Y vlwddyn honn i torred penn Iarlles Salsbri yr .8.ed dydd arhügein o vis Mai ar 9ed dydd o Vyhefin i croged daü o Ard y brenhin am ysbeilo ynn siampl i bawb./
   
Y degved dydd o vis Myhefin y torred llaw Syr Edmwnd Knevet oni bai drügaredd a phardwn y brenhin./
   
Y 22. dydd o vis Gorphennaf i bü broclamasiwn yn Llünden na bai gadw dim gwiliaü ond gwilie Mair ar deüddec Abostol ar .4. Angel Ystor a gwyl Iorüs a Mair Vagdalenn ac na bai vmpryd ddügwyl Vark na noswyl St Lowrens na phlant wyl St Nicolas St y Katrin, St Clement na dügwyl y vil Veibion vyned [td. 227r] i gardotta o gwmpas./ Ar .28.en dydd i torred penn arglwydd Leonard Gray am lawer o draetüriaeth a wnaethoedd ef yn Iwerddon penn vüassai Ddebiti ir brenhin yno./ Ar dydd hwnnw i croged trowyr boneddigion a elwid Mantyl Roydon a Phrowds.
   
Hefyd arglwydd Dakers or dehaü a golled ynn nheibwrn a Chymro am bennill o brophwydoliaeth a ddowod Yr ail vlwyddyn i berwed merch yn Smythphild am wenwyno swrn o ddynion
   
Y vlwyddyn o oedran Crist .1541. I torred penn Katrin Haward y vrenhines am odineb ac arglwyddes Rochphord am gadw kyfrinach./
   
Y vlwyddyn honn yr ymrodd Iarll Desmwnt ar great Anel yn gras y brenhin ac i gwnaethbwyd y great Anel ynn Iarll Tyron ai vab yn Varwn Denkamen
   
Y vlwyddyn honn i llosged opheiriad a daü Lyg ynn Winsor ac i criwyd rhyfel rhwng Lloegr a Phrainc. Yr ail vlwyddyn i bü veirw  llawer yn Llünden ac i symüdwyd y term i St Albons.
   
Pann oedd oedran Crist 1544. ar .36. o Harri 8ed i danfonodd y brenhin lü i Lith ac y Scotlond ac i lladdyssont ac i dünüstryssont y wlad heb arbed na thref na chastell na dyn. Ac yn Lith i gwnaethbwyd pümp a deügein o varchogion. Ar vlwyddyn honn i danvoned llü i Phrainc ac i ddaüth y brenhin ehün yno
   
Y vlwyddyn honn i rhodd y brenhin sawd wrth Vwlen nid amgen y 14. dydd o vis Gorphenna idd aüth o Ddofyr i Galais ar .15.ed o Galais i Vorgeissyn ac yno i campiodd noswaith ar .16.ec wrth Vwlen ac yno i campiodd ar dü /r/ [td. 227v] Gogledd ir dref ar .17.ec Iarll Swpholk a rodd sawd wrth dre Vwlen ar dü Dwyrain. Ar 28ein or mis ir ennillwyd yr owld mann nei /r/ waets towr./
   
Yr .11.ec o vis medi i rhoed alarwm wrth y dref ar castell aeth ynn ddryllie gan ddeünaw  bariled o bowdwr gwnn a roessid dano ai gerric a laddodd gwyr a meirch villdir a hanner o ddi wrth y dref ac o gwmpas ac ni bü vychan y drwc a wnaethont i bawb yn amgylch y dre
   
Y .13.ec or vn mis i kwnkweriwyd tre Vwlen ac i hennillwyd ac o drügaredd y brenhin i kafas gwyr y dre gennad i vyned bag an bagaets ac velly i hymydowssont./
   
Y .14. dydd o vis Medi i hagored pyrth y dref ar dri ar y gloch gwedi hanner _____ ac yno i dechreüsson  ddyfod allan ac hyd yn saith ar y gloch or nos i pyrhaesson. Ac yno ir oedd o wyr a gwragedd a meibon a merched 4000. ac o hynny 1500. ynn abl i ymladd a chanthün ir aeth a allyssont i ddwyn ai kephyle ai gwarthec ac a allen i ddwyn. ar brenhin a roes vddün o nerth i ddwyn i heiddo ganthün .75. gwagen
   
Y .15.ed o vis Medi ir aeth y brenhin gyntaf i dre Vwlen ai holl wyr o Stad gid ac ef ac ynn y siwrne honn ir oeddwn i Howel ap Syr Mathew yn vn yn gweled hynn ac ynn i wybod./
   
Pan oedd oed Crist 1544. yr .36. o Harri .8.ed y dydd kyntaf o vis Hydref i'madawodd o Vwlen ac i daüth i Ddofyr ac ar lan y mor i gwnaeth ef 4 marchoc wrth fyned i phwrdd
   
Yr .8.ed dydd o hydref i daüth Dolphyn o phrainc [td. 228r] a phower mawr gantho a champio y Morgeisseyn a danfon i drwmpeter a chann march gid ac ef tü a Bwlen ac a ddeüthont lle büyssei y brenhin ynn campio ar Trwmpeter a ddaüth wrth Vwlen iat ac a ganodd i Drwmpet i geiso dyfod at arglwydd Debiti ac yno i tariodd o naw ar y gloch kynn hanner hyd daü ar y gloch gwedi hanner. ac i hagorwyd y porth iddo ac i daüth gerr bronn arglwydd Debiti ac a ddowod / Dolphyn v'arglwydd am meistr [am gyrrodd] ith ddyfynnü di, ar dref honn gerr i vronn ef./ Y Debiti ai gyngor ai depheiodd ef ai ddyfyn. Ar Trwmpeter ar Bwsment gwyr a ddaethoedd gid ac ef aeth drychefn i Vorgeissyn
   
Ar vyrder gwedi /r/ atteb hwnnw ir aeth y Dolphyn a llü arüthr gantho at Vwlen ac a wnaeth lawer skyrmaits ac or diwedd ar hyd nos i daüth am benn bas Bwlenn ac i llas gwyr a gwragedd meibion a merched ond a ddiangodd i hei Bwlen./ Gwedi hynn i daüthbwyd o hei Bwlen am benn y Phrancod i vas Bwlen ac i lladdwyd  llawer ac i dyrrwyd phwrdd y darn arall ac ennill eilwaith bas Bwlen
   
Ar degfed dydd o Hydref i danfonodd Dolphyn i Drwmpeter at arglwydd Debiti i wybod pwr gaptenied a phwr wyr o ryfel oi wyr ef a ddalyssid yn yr ymladd hwnnw a pheth oedd  yngharchar gan y Saesson. Ar arglwydd Debiti a ddowod nad oedd ond vn./ Ar Trwmpeter a ddowod golli wrth hynny or Phrancod o bob math wyth gant ac ychwanec. Ac arglwydd Debiti a [td. 228v] ddelifrodd yr vn hwnnw ynn rhydd ac i delifrodd ynte oedd gantho or Saesson./
   
Yr .11. dydd o Hydref i daüth toryf arüthr o longaü ar y mor i ymddangos ynghyfer tre Vwlen ac yno i harroesson ddaü ddiwrnod mywn golwc ir dref. Ac o ddiyno i hwyliysson rhwng Bwlen a Chalais i ymofyn am i meistyr y Dolphyn o Phrainc./ Y vlwyddyn honn i dalwyd o longeü Phrainc ynn y West Cwntre drychant ac ychwaneg
   
Y .26. dydd o Ionor i campiodd ar dü /r/ Gorllewin i dre Vwlen tü draw ir hafyn lü o ddeünaw mil o Phrancod ac yno i campiysson ddec diwrnod ar chweched dydd o vis Chwefrol i gyrwyd i gilo. Ac Iarll Harphord ai gwmpeini ai dyrrodd ac arglwydd Admiral oedd  Ddebiti y Mwlen ac heb ladd mawr o Loegyr a lladd llawer or Phrancod./ Ac ynn ol cael y goreü arnün i gwnaethbwyd Syr Thomas Poynings ynn arglwydd/ ynghylch yr .20. dydd o vis Gorphennaf i hentriodd y Phrancod yn yr Eil o Wicht ond ni bü hir nes i gyrrü ir dwr eilwaith a lladd llawer o honün./
   
Y vlwyddyn honn Eglwys St Geils o vaes Krüppül gat a losges./
   
Oedran Crist .1545. yr xxxvij vlwyddyn o wrogeth Harri .8.ed I rhwymwyd gwraic ynn y Smythphild wrth stak ar vedr i llosgi ond pardwn y brenhin a ddaüth iddi kynn rhoi yr tan wrthi
   
Pan oedd oed Crist .1546. I criwyd heddwch y rhwng Lloegr a Phrainc yn Rhe Lündein a phrophessi a diolch mawr i Ddüw am yr [td. 229r] heddwch a Bonpheir drwy y Dref a llawer o lawenydd./
   
Yr ail vlwyddyn y .27. dydd o vis Myhefin i recantiodd Doctor Crom ac i kyphessodd i ddryg lyfre a phals ddysc i dwyllo
   
Y vlwyddyn honn i llosged Ann Asgüw ynn y Smythphild a thri y chwanec am heresi ac i recantiodd Doctor Saxton
   
Y vlwyddyn honn i daüth i Loegr o ddiwrth vrenhin Phrainc Mownsier de Veneval vchel Admiral Phrainc a chid ac ef y Sacr o Ddip a .12. galei gwychaf ar a welsid yn Llündein er ys lawer dydd./ ac yn y Twr gwynn i tiriodd ac o ddiyno i blas Esgob Llündein i daüth ac i bü ddeüddydd a dwy nos. Yr 21 ar .22. dydd o Awst oed Crist .1546. ar .23. I marchokaodd i Hampton Cowrt lle /r/ oedd y brenhin ac ar y phordd kynn i ddyfod yno i kyfarfü y brenhin ac ef a thrügein a phümcant o wyr mywn siackedi o velued vn lliw gid ac ef a siacked y Prins gwedi i brodrio ac aür ai llewys o aür dilin. Ac yno i daethont i Hampton Cowrt at y brenhin Harri .8.ed a brenhines Gatrin a thrannoeth i torrodd ac i gwahanodd yr ost i ddangos bod heddwch
   
A chwedi hynny i trigodd arglwydd Admiral ar brenhin ynghylch .6. diwrnod i gydwledychü ac ni welpwyd na chynt na chwedi dreiwmph na bankets nar vath vwmings nar vath riolti hyd yn oed yr rhai oedd ynn dwyn y tyrtsie mewn brethyn aür. ac yno ir aeth yr Admiral i Phrainc, gwedi cael dirfawr lawenydd a chresso a rhoddion ac anrhegion iddo ef ac ei [td. 229v] gyfeillon ai gwmpeini
   
Pan oedd oedran Crist yn .1546. ar .38. o wrogeth Harri .8.ed I torred penn Iarll Swrrey
   
Y vlwyddyn honn yr .28. dydd o vis Ionor i bü varw brenhin Harri .8.ed terfysgwr kyfreith Ddüw a chyfreith ddyn
Llyma Englynion a wnaeth Howel ap Syr Mathew pann oedd y llü wrth Vwlen.

Kresso i Phrainc phraethgaink phrwythged/
kwrs o wyr / kresso Harri wythued
kresso i ddwyn kwrs eüddüned
kresso Düw groes Crist i gred./

Ni chair Bwlen gair gwirion / a gredir
heb grydwst ar ddynion
nid ymroes ond ymrysson
nid yma ir wyf ond ymronn
Llyma ddaü Englyn a wnaeth ef yno i Syr Thomas Iohnes./

Tro att Vwlen iatt vlaenwaiw on / tanllyd
hennllaw Iarll y phynnonn
torr a chwila trwy i chalonn
twyn i hais Syr Tomas Ion.

Braint Syr Rys dyrys derwen / Caerüw wyd
krydwst Phrainc ac Alben
bronn kawr parth brain kaer ai penn
Bran a Beli bronn Bwlenn.
Howel ap Syr Mathew ai cant./
[td. 230r]

Edward y chweched

   
Edward chweched gwedi marw Harri .8.ed i dad ef a ddechreüodd wledychü yr .31. dydd o vis Ionor oedran Crist .1546.
   
Y nowfed dydd o Ebrill i marchokaodd Edward brenhin  Lloegr Phrainc ac Iwerddon ai ewythr Syr Edward Seimer ac y Stat y Deyrnas am benn hynny or Twr i Westmestr trwy Lünden ar heolydd gwedi llenwi o gyfrlide a charpets, a thapitas a brethyn arian, a brethyn aür, a phali drwy Siebseid a phob kwndid ynn rhedec o win, a chwaryaü a phagiwns gann blant yn cressaü y brenhin trwy voliant a chanüaü, a Salme, a gweddie, a llawer ychwanec o ddigrifwch a llywenydd megis i chwarddodd oedd ynn i weled
   
Yr .20. dydd o vis Chwefrol yn Westmestr i criwyd yn vrenhin ac i enoyntiwyd ac i coronwyd yn vrenhin ac velly i treülwyd yr amsser hwnnw trwy lywenydd ac vchelwrtid ac vrddas ac anrhydedd
   
Yr .21. ar .22. Syr Thomas Seimer arglwydd Admiral Lloegr ynghefeillach Denelox Syr Antoni Kingston, Syr Pityr Carw. Knotts, a Sieley a galeinsiodd bawb at y Tylt ac yno i treiysson ehünen ynn debic i [wyr] o ryfel ac o worsib
   
Mis Mowrth y vlwyddyn honn Syr Andro Dwdley Veis neü Vnder Admiral Lloegr ar y mor a ddalodd ddwy long a llawer o garcharorion ac a ddaüth a hwynt i Orwel hafn ac yno i tariysson [td. 230v] wrth blesser y brenhin
   
Y vlwyddyn gyntaf o wrogeth Edward y .6.ed vis Awst ir aeth y Düc o Symersed ac Iarll  Warwic a dirvawr lüossogrwydd ganthün i y Scotlond ac yn agos i Edynbrow mywn lle a elwir Mwssebrowch i'mgyfarvü gwyr Lloegr a gwyr y Scotlond ac ynn y vrwydyr honno i lladdwyd pedeir mil arddec o Scottied ac a ddalwyd ynn garcharorion bymtheckant o arglwyddi a marchogion a gwyr boneddigion
   
Yr ail vlwyddyn i gorchmynnwyd kymryd y cominiwn mywn bodd keinds. Ar dydd diwaethaf o vis Gorphennaf i gorchmynnwyd Doctor Gardner ir Twr yngharchar Esgob Winsiestr [oedd]
   
Pan oedd oed Crist 1548. I gorchmynnwyd bwrw /r/ Delwe ir llawr ymhob Eglwys./
   
Y vlwyddyn honn i gwnaethbwyd yn gyfreithlon ir opheiried briodi trwy Act o Barlment./
   
Y vlwyddyn honn Doctor Boner Esgob Llündein a vyrrwyd oi Esgobaeth ac a garcharwyd a Doctor Rydley yn i le a ddaüth
   
Pan oedd oedran Crist .1549. I kyfododd yn erbyn y brenhin Defnsir a Chornwel ynghylch kanol y vlwyddyn ai kaptenied a ddalwyd ac a roed yngharchar yn y Twr yn Llündein ar .26. dydd o vis Ionor gwedi hynny i llüsgwyd i kwarterwyd ac i croged.[26]
   
Ac ynghylch yr vn amser i kwnnodd Norpholk a Swpholk a Chapten Keitt ai vrawd, ond ar vyr hwy a ddalwyd ac a varnwyd iw colli wrth Sibede ynn Norwits./
[td. 231r]    
Y vlwddyn honn i llas Kapten Gambald a Chapten or Spaniards a Chapten .3.ydd tü allan i Nywgat a Phlemyn ai lladdodd. noswyl Saint Pawl i croged yntaü a thri gid ac ef ynn Smythphild./ Ar chweched dydd o Chwefrol i daüth y Düc o Somersed or Twr
   
Yn y vlwyddyn honn i gwnaethbwyd heddwch y rhwng Lloegr a Phrainc ar .25. dydd o Ebrill gwedi hynny i delifrwyd tre Vwlen ir Phrancod ar holl phortressi a berthynai iddi./
   
Y vlwyddyn honn i llosged Siwan Knel am i bod yn nakaü i Grist gymryd knawd o Vair Vorwyn./
   
Ynghylch yr amser hwnn i kwnnodd yngHent swrn yn Draetüried ac y bolüdd i gostegwyd ac i colled am i tresbas yn Asphort Richard Leion, Godard a Goran ar ail dydd yngHawnterbri i kolled Richard Eyrlond am y trespas hwnnw
   
Yr ail vlwyddyn i krynodd y Ddaiar yn Sowthrey ac y Mydylsex./
   
Y vlwddyn honn ddügwyl Valentein yn Pheuersham yngHent i mwrdrwyd Arden gwr bonheddic drwy vndeb a gwarth i wraic ac am hynny hi a losged yngHawnterbri ac vn a groced mywn cadwyne yno a daü yn Pheuersham wrth gadwyne A gwraic a losged yn Smythphild ac yno hefyd Mosby ai chwaer a vygwyd am yr vn mwrdwr./
   
Y vlwyddyn honn Doctor Gardner Esgob Winsiestr a ddiesgobwyd ac ynn y Twr i rhoed yngharchar tre vü vyw brenhin Edward a Doctor Penet ynn i Esgobaeth yn i le ac nid oedd ond rhoi [td. 231v] koes ynn lle morddwyd
   
Y vlwyddyn honn i torrodd y mor allan yn Standwits ac i boddodd llawer o dda a dynion rai ac i gwnaeth golled vawr ir bordyr hwnnw./
   
Y vlwyddyn honn y .22. dydd o vis Ionor i torred penn y Düc o Somersed ar .25. dydd o Chwefrol gwedi hynny i colled Syr Raph Vanne a Syr Meils Pertrids ac i torred penn Syr Thomas Arundel a Syr Michael Stanhop am yr vn peth
   
Pan oedd oed Crist 1553. y chweched oi wrogeth y chweched dydd o vis Gorphennaf imadawodd Eduard chweched ar byd hwnn ac yn Winsor i claddwyd./
   
Y degfed dydd o vis Gorphennaf i criodd y düc o Northwmberlond ai barti ynte yn erbyn kyfraith arglwyddes Sian yn vrenhines yn Lloegr merch y Düc o Swpholk a gwraic arglwydd Gilphord Dudley ar Düc yn y man a wnaeth lü yn erbyn arglwyddes Mari kyfion aer y goron, ond o herwydd nad oedd gyfreithlonn i vryd ef ai bwrpas ni vynnodd Düw i vyned i ddiwedd da./ Eithyr pan oedd ef ynn tybied i vod yn gydarnaf ar holl gryfder a chadernyd Lloegr gid ac ef yr ymadawodd pawb ac ef ac yngHambrits i dalwyd efo ai veibion ac ychydic o wyr gid ac ef ac i danfonwyd ir twr gwynn ynn Llündein yngharchar.
Llyma /r/ kweryl ar pynke yr oedd wyr Cornwel a Defnsir yn i gofyn./
   
Yn gyntaf ni a fynnwn gael y gyfraith yn [td. 232r] gyphredin megis i kafas yn henafied ai chadw ai chynnal ar gyfreith Eglwys yn enwedic
   
2 Hefyd ni a vynnem gael kyfreith ac acts brenhin Harri .8.ed am y chwech articyl ai harver megis ir oeddid ynn i amser ef
   
3 Hefyd yr opheren yn Llading mal ir oedd yn y blaen ynn amser yn henafied achos nid ym i yn koelo bod yn vyw ysgolheigion kystal ar rhai a vü veirw a chymryd corph Crist ehünan heb y Llygion gid ac ef
   
4 Hefyd bod yn wastad y Sacrament yn wastad [sic] vch benn yr allor megis i bü arferedic./
   
.5. Hefyd kael corph Crist y Pasc ir Llygion ar amser hwnnw yn vn natüriaeth
   
6 Hefyd ir Eglwysswyr vedyddio ganol wythnos kystal ac amser arall or gwile./
   
7 Hefyd bendigo dwr a bara opheren bob Sül ar blode ar llüdw megis or blaen a rhoi /r/ delwe yn yr Eglwyssi i ddwyn cof am verthyrdod Crist ai Saint a phob pregeth gyfreithlon yn yr Eglwys lan Gatholic megis i bü arveredic yn amser yr hen bobyl
   
8 Hefyd ni vynnwn ni ddim or gwyssaneth Saesson newydd nar chware barrys nei Gristmas gams i mae /n/ hwy. achos ny ni a wyddom na bydd  abyl y bolüdd y Cristnogion i ymdaro ar Iddeon
   
9 Hefyd ni a vynnwn Ddoctor Moor a Doctor Crispin y sydd vn piniwn a ninnaü yn rhydd ai danfon yn gadwedic attom megis i kaphom hwynt i bregethü geirie Düw yn ynn mysc
   
10 Hefyd ni a vynnwn i ras y Brenhin ddanfon ynn ol Cardnal Pool i gar ef ehün ac nid yn vnic rhoi i bardwn iddo ond hefyd [td. 232v] wneüthür yn gyntaf nei yn ail oi gynghoried vchaf
   
11 Hefyd ni a welen yn gymwys na bai ond vn gwasnaethwr i wr dan ganmork o rent tir ac am gan mork vn gwr
   
12 Hefyd ni a ddisyfem ar ras y brenhin roi hanner tiroedd y tai o grefydd vddün drychefn i gynnal gwassanaeth Düw ynddün ynn enwedic i ddaü Dy o honün ymhob Sir i weddio dros i ras ef a thros vyw a meirw./
   
13 Hefyd am a wnaethbwyd o gam ar gwledydd yma ni a vynnwn gael llywodraeth a barn Hwmphre Arwndel a Harri Bray maer yn rhe Vodnam. A chael secwndid dan sel vawr y brenhin i vyned a dyfod. a dyfod a myned a Herod of Arm's i mywn ac allan
   
14 Hefyd ar gynnal a chadw a chwplaü pob pwynt o hynn Ni a vynnwn yngwystyl .4. arglwydd ac .8. Marchoc a .12. Ysgwier a 24./ o Yomyn gid a nyni A hynn trwy Barlment gwedi i ganhiadü./
   
Captenied yngHent a Chornwel./ Hwmphre Arwndel./ Iohn Bwrry Scoyman. Thomas Vnderhyl ac Wiliam Segar./
Llywodraethwyr y Camp oedd y 4 hynn./
[td. 233r]

Brenhines Mari

   
Gwedi marw Edward .6.ed brenhin Lloegr yr .20. dydd o vis Gorphennaf oedran Crist 1553. I dechreüodd arglwyddes Mari verch Harri .8.ed vab Harri .7.ed ap Edmwnd Iarll Richmownt ap Owen ap Merd ap Tüdr ap Gronwy ap Tüdür ap Gronwy ap Ednyved Vychan ap Kynvric ap Ioreth ap Gwgon./ O Gatrin verch Philip brenhin Spaen ap Maximilian vab Elnor verch Edward vab Philippa verch Iohn o Gawnt vab Edward .3. ap Edward yr ail ap Edward gyntaf. Mam Gatrin oedd Siwan brenhines Gastil verch Elsabeth brenhines Portiugal verch Iohn brenhin Castil vab Catrin verch Iohn o Gawnt ap Edward y .3../
   
Pan ddalwyd y Düc o Northwmberlond yn Norwits [27] ir oedd vrenhines Mari yn Phramingham yn Swydd Swpholk ac o ddi yno i daüth y trydydd dydd o Awst i Lündein ac ir Twr gwynn i gymryd meddiant. a thra oedd i gras hi yno hi a ryddhaodd o garchar y Düc o Norpholk a Doctor Gardiner Esgob Winsiestr ac arglwydd Cowrtney ac Esgob Dürham ac Esgob Sisiestr ac Esgob Caervrangon ac esgob Llündein a llawer y chwanec
   
Ac ybolüdd gwedi hynny hi a roes bob Esgob o honün ynn i esgobaeth ac a vyrrodd y llaill allan nid amgen Doctor Poynet o Winsiestr Doctor Rydley o Esgobeth Lündein Doctor [td. 233v] Scori o Esgobeth Sissiestr Doctor Hooper o Esgobeth Gaerangon, a Chofrdal allan o Esgobeth Exeter./
   
Y .22. o vis Awst yn y Twr hyl i torred penn Iohn Dudley Düc o Northwmberlond a phenne Syr Iohn Gats a Syr Thomas Palmer./ ar Düc wrth i varwolaeth a gyphessodd i vod er ystyddie mywn kam vywyd ac a'm wrthododd ac ef ac a erchys i bawb na chwilyddien droi ir phydd gatholic./
   
Ar dydd kynta o vis Hydref i coroned brenhines Mari yn Westmestr ac Esgob Winsiestr Doctor Gardner ai coronodd./
   
Thomas Cranmer Archesgob Cawnterbri oedd yn y Twr yngharchar am Dresson./
   
Ar vath reiolti na chimaint o ddynnion wrth goroni na brenhin na brenhines erioed ni welpwyd or blaen./
   
Y degved dydd o vis Hydref i dechreüwyd kynnal Parlment a sierten o Acts a wnaethoeddid yn amser Edward .6.ed a ddadwnaethbwyd./
   
Yn vn or Acts hynny priodi yr opheiriaid arall y gwassanaeth yn Saessonaec ar hen wassaneth Llading i ddyfod drychefyn./
   
Hefyd yn y Parlment hwnn i titiwyd o dresson Iohn Düc o Northumberlond. Thomas Cranmer Archescob Cawnterbri. Wiliam Markwys o Northampton Iohn Iarll  Warwic Syr Ambros Dwdley marchoc. Gilphord Dwdley esqwier a Sian i wraic / Harri Dwdley esgwier Syr Iohn Gat a Syr Thomas Palmer./
[td. 234r]    
Pan oedd oed Crist .1553. I daüth o ddiwrth yr Emperodr yn enw ty Byrgwyn yn Embassators yr Cownti de Egmont Cownti Dynlyn a Monsier Cwrrier
   
Y vlwyddyn honn y .15. dydd o Ionor Syr Thomas Weiat Georg Harper, Henri Isley a Leonard Diggs ac eraill a ddechreüodd ryfela yn erbyn y vrenhines ar goron yn Rhe Maedston yngHent./ Ac a roessont gri ymddiphynniant hwy y Deyrnas rhac yr y Spaeniards a dieithred eraill a thybied y kaen ganllyn a sevyll yn i hanghrediniaeth a goresgyn brenhines Mari a diley y phydd gatholic ac yno i daüth y Traetüriaid hynn i Rotsiestr ac yno i daüth attün yn gystal rai a anyssid o vaes Kent ac yngHent nid amgen Robert Rwdston. Cwtbert Vychan Water Mantels, Kneuet, Godphrey a llawer ychwanec ac er a ddaüth attün o bob tir etto er hynn Cawnterbri a vü gowir yn gymaint a thrwy borth Düw a synwyr a gwroleth Iohn Twein Maer ai gyd vrodyr ac aldermen y Dref a nerth a chynhorthwy kowiried eraill ymddiphynnwyd y Dre hyd nad aeth vn o honi erioed at Weiat nac at vn oi barti
   
Y .30. dydd or mis hwnnw i daüth y Düc o Northpholk i Strond ac a raeodd i [wyr ac aeth ai] lü yn erbyn Weiat [oedd] yn Rotsiestr eithr gwyr Lündein ai Captenied Breian Phits Wiliam a ddaüthe gid ar Düc yn erbyn Weiat a ddiangodd o ddiwrth y Düc at Weiat a braidd i diangodd y Düc./ yr ail dydd ir aeth Weiat i Cooling ac i dalodd arglwydd Cobham a Düw Iaü gwedi [td. 234v] hynny ir aeth y vrenhines ac arglwyddi Lloegr gid a hi i Ild hawl ac a wnaeth i deissif ar y Maer ac ar y dref ac a orchmynnodd vddünt vod yn gowir iddi ei nerthü hi ac ei chynorthwyo yn erbyn Weiat ai gyfeillon A phawb a gytünodd o wyllys i galon i vyw a meirw gida hi yn y kweryl./
   
A noswyl Vair y Kanhwyle Weiat ai barti a ddaüth i Sowthwerk dan dybied i herbynniyssei wyr Llündein ef y mywn val y hyddowssen Eithr y bont a godyssid yn i erbyn ef ac arglwydd Haward yn yr vn Comissiwn ar Maer megis i [bai] gryfach i ymddiphin y dref.
   
Y .6.ed dydd o vis Chwefrol ir aeth Weiat i Gingston dros y dwr ac yno ar nos kynn hynny i kilodd llawer o ddiwrtho ac ef aeth phwrdd ddüw merchyr y llüdw y .7.ed dydd o vis Chwefrol efo ai barti a ymlidwyd  rhyd y meyssydd ac a ddalwyd ond Weiat aeth kynn hynny i Siaring Cross ac i Phlit Strit kynn i ddala a vüassai yn Lwdgat a phan welas y porth yn gayad e droodd drychefn. a Chnevet megis traetür a saethodd gwnn at y Cowrt gat ar Rebel hwnn a ddechreüwyd yngHent a Defnsir trwy Syr Gawen Carw Syr Pityr Carw, Gibbs, Champernham ac eraill a Syr Pityr Carw a gilodd dros y mor./ ond Syr Gawen a Gibbs ac eraill a ddalwyd ac a vyrwyd am Dresson yn Westmestr y .17. o vis Chwefrol ac a ddioddefodd angeü ar y Twr hyl y .23. dydd o Chwefrol
   
Harri Islye yn dyvod at Weiat a gyfarfü  arglwydd Abergeyni a Mastr Warham a Wiliam Sentler ac ef ac ynteü a ddiangodd i Hamsir ac yno i dalwyd mywn dillad Llongwr ai wyneb gwedi anphürfo a glo ac a thom ac velly y daüthbwyd ac ef i Lündein./
[td. 235r]    
Y deüddegved dydd o vis Chwefrol i torred penn Gilphord Dwdley a Sian i wraic ef Y .14.ec dydd i colled ynghylch .30. rhai or Gard a rhai o wyr Kent./
   
A chwedi hynny Robert Rwdston Wiliam Cromer Brett Cutbert Vychan mab Siamys Vychan o Hergest. Harri Vain, Thomas Culpeper o Aelphort a Chnevet, a Water Mantels ac arglwydd Iohn Graye a Syr Leonard Diggs[28] a vyrwyd am Dresson ac ynn y man gwedi i bwrw ir aethbwyd a hwynt ir Twr gwynn yngharchar ac ir <o>edd arglwydd Gray a Syr Iams Cropht ynghyfeillach y Düc o Swpholk ynn y Rebel hwnnw./
   
Gwedi hynny y pardynodd y vrenhines .4. cant or kyphredin ac ychwanec a ddaüth i Westmestr ger bronn y vrenhines a chebystre am ei gyddfe Y bolüdd gwedi hynny y pwyntiwyd Parlment yn Rhydychen ac yn Westmestr i kynhalwyd./
   
Yr .11. dydd o Ebrill i torred penn Weiat yn y Twr hyl ac i kwarterwyd ac i danfonwyd o le i gilydd ai benn a roed ar y krogprenn yn Hay hyl
   
Y .18. dydd o Vai Wiliam Thomas a lüsgwyd a grogwyd ac a gwarterwyd yn Heibwrn am draettüriaeth nei dressyn./
   
Yr .20.ed dydd o vis Gorphennaf i tiriodd Philip ynn Sowthampton lle i herbynnodd kynghoried y vrenhines ef ac y Stad y Deyrnas yn anrhydeddüs ac ar ddodiad y droed ar dir Lloegr i gwisgwyd y gartyr am i esgair yr hwnn a ddanvonysse y vrenhines iddo./
   
<D>üw llün gwedi hynny i marchokaodd ef a gwyr [td. 235v] o vrddas Loegr gid ac ef o Sowthampton i Winsiestr ar .23./ o vis Gorphennaf i herbynnwyd i Winsiestr ac ir mynstr i ddaüth kynn kymryd i letty ac yno Esgob Winsiestr a thri o Esgobion eraill ar opheiriaid ar gwyr ar plant a phrophessi ai kope amdanünt a phedair croes oi blaen yn i erbynn y mywn./
   
Y .24. dydd ynghylch tri ar y gloch gwedi hanner i daüth ef oi letty ar i draed ac arglwydd Stiwart ac Iarll Derbi gid ac ef ac Iarll Penfro a llawer o Ieirll a gwyr mawr eraill oi vlaen ac ar i ol ac ynte wrtho ehün ynn y kanol ac velly ir aeth ir Cowrt ac yno i tariodd ychydic ac o ddyno ydd aeth ir Mynstr ar va<m> Eglwys i Osber./
   
Ar nosson honno i danfonodd yr Emprowr att Ras y Vrenhines bod i vab ef ynn vrenhin Napyls a darpar i gwr hithe a hefyd yn vrenhin Caerüsalem Ac velly i danvonodd dan i Sel vawr
   
Dügwyl St Iams yr hwnn oedd y .25.en dydd o vis Gorphennaf ynghylch .11. ar y gloch i daüth y brenhin ar vrenhines oi lletty tü ar Eglwys ar i traed a gwisgoedd brenhinol amdanün a phob vn a chleddeü noeth oi vlaen Oi blaen hi Iarll  _____ yn dwyn cledda. ac oi vlaen yntaü Iarll Penvro yn dwyn y cleddaü a chynn gynted ac i darfü yr opheren y brenhin Herod ar ostec yn yr Eglwys yngwydd y brenhin ar vrenhines ar arglwyddi ar arglwyddesse ar holl gynnülleidua a griodd ac a ddowod val hynn Philip a Mari trwy ras Düw brenhin a bren[td. 236r] hines Loegr Phrainc, Napyls, Caerüsalem Iwerddon ymddiphynniawdr y phydd Prins o Spaen a Sisil, Archddüc Awstrich, Düc Mülayn Byrgwyn a Brabant Cowntie Haspwrg Phlawndrys a Theirol./
   
A phann ddarfü y brenhin ar vrenhines aeth law yn llaw ar ddaü gleddaü oi blaen ac y Stad Lloegyr yn waetio arnün ir Cowrt. Ar .18.ed dydd o vis Awst i daüth y brenhin ar vrenhines i blas y Düc o Swpholk yn Sowthwerk ac i kinowsson yno a chwedi kinno yno i marchokaessont drwy bont Lündein./ Gid a hwynt i daüth y rhann vwyaf o vrddas Loegr./ A thrwy Lünden ac o gwmpas yr heolydd i rhoed brethynneü mawr werthoc a chloth o Raens a brethyn aür a brethynn arian a llawer o bagiwns a chwarye a chanüe o glod a moliant ac anrhydedd ir brenhin ar vrenhines ac yno i herbynnwyd i Eglwys Bowls ac yno Esgob Llündein ai cressawodd yn vchelwriedd ac yn anrhydeddüs a chwedi gwneüthür i gweddi i marchokayssont i Westmestr/.
   
Pan oedd oedran Crist 1554. I daüth yr hen wassanaeth ir Eglwys drwy Barlment drychefn./
   
Yr amser hwnn i daüth Embassators o bob ynys ynghred at y brenhin ar vrenhines./
   
Pan oedd oed Crist .1555. I daüth Cardnal Pool o Rüfein i Loegr ac i kressawyd yn anrhydeddüs ac i kynhalwyd Parlment yn Westmestr ac y mysc Acts a gweithredoedd eraill i dadwnaethbwyd y gwassaneth a llyfr y Cominiwn a phardwn ir Cardnal Pool a dad wneüthür pob peth ar a wneithid yn i erbyn kynn no hynny./
[td. 236v]    
Y vlwyddyn honn ir aeth Esgob Ili ac arglwydd Mowntigüw ynn Embassators i Rüfein dros Loegyr./
   
Pan oedd oedran Crist 1555. mywn llawer lle yn y Deyrnas honn llawer phordd ar y Cominiwn ac ar y Sacrament oedd ar sawl ni throodd gid ar hen wassaneth a losged mywn llawer o leoedd yn yr ynys. Yn Llündein Rogers. yngHaer Loiw Hooper lle ir oedd ef yn Esgob a Pharrer Ynhy Dewi lle ir oedd ef yn esgob Doctor Taylowr yn Hadley yn Swpholk a Bradphord yn Llündein a Bland opheiriad yngHawnterbri a llawer y chwanec
   
Y vlwyddyn honn arglwydd Siawnsler Lloegr, arglwydd Harri Iarll Arndel, arglwydd Paged aeth dros y mor i Galais ac yn agos i Vark i büon yn Embassators yn trettio am heddwch y rhwng yr Emprowr a brenhin Phrainc ac arglwydd Cardnal oedd yno ac adref i troessant a phallü yr heddwch
   
Y vlwyddyn honn yn niwedd mis Myhevin i bü  vndaneth yn rhith chwaryeth ynghylch Wadharst ynn Sowthsex ac i kafad ac ar vyrr i gostegwyd./
   
Y vlwyddyn honn yr .11. dydd o Awst i bü ymladd  angyrriol ar y mor rhwng y Phrancod ar Duchemenn yn agos i Rwmney Nasse lle llosged .xj. o longe a rhai a ddalodd y Phrancod
   
Y vlwyddyn honn ynn nechre mis Medi ir aeth brenhin Philip i Galais ac o ddyno i Vrüssels ym Brabant at yr Emprowr i Dad.
   
Pan oedd oed Crist .1555. yr aeth yn heddwch rhwng Siarls Emprour a Harri brenhin Phrainc./
[td. 237r]    
Y vlwyddyn honn y mis Tachwedd Nicolas Rydlei a Hugh Latimer a losged ynn Rhydychenn ar Grawys gwedi hynny Cranmer Archescob Cawnterbri or blaen gwedi iddo vnwaith recantio a losged./
   
Y vlwyddyn honn y .10.ed dydd o Vawrth ir ymddangosses Comet neü seren angyrriol i maint ac i ganed llawer o blant anafüs mywn llawer  lle ynn Lloegr
   
Ar vlwyddyn honn i gwnaethbwyd Cardnal Pool ynn Archescob yngHawnterbri./
   
Y vlwyddyn honn imkanwyd bradwrieth vawr ir brenhin ar vrenhines ar Deyrnas i gyd ac am hynny i dioddefodd Vdal, Throckmerton, Daniel, Pecham, Stanton, ac ychwaneg a llawer a ddiangodd or Deyrnas allan./
   
Pan oedd oed Crist .1556. I croged arglwydd  Sto <..> ton am vwrdro daü o wyr boneddigion [ac] ynn Salsbri [i croged ef] y chweched dydd o Vawrth
   
Oedran Crist .1557. Pan ddaüth Embassato <r> o ddiwrth Emprowr Rwssia at Philip a Mari
   
Y vlwyddyn honn i daüth y brenhin ar vrenhines o Rinwits trwy Lündein i Westmestr./

Nodiadau
Notes

1. harri underlined; on left margin: Harri, written by the same scribe.
2. Harri ar: Harri is missing, but the catchword on the bottom of the preceding page reads Harri ar.
3. On right margin at the beginning of the paragraph: .1135., written by the same scribe.
4. .1155. repeated on the right margin.
5. Rhüddlan underlined; on right margin: Rutlond, probably written by a later scribe.
6. .1189. repeated on right margin.
7. Gwien underlined; on right margin: Gien, possibly written by a later scribe.
8. Two subsequent folios both bear the number "208". The second of these has here been marked as "208*".
9. The number 6 in 1326 is obscured by a y in the preceding line and has been repeated, apparently for clarification, on the right margin.
10. newid, inserted from the left margin, may have been written by a later scribe imitating the script of the main text; the use of <w> in this word instead of <u> with a subscript dot is suspicious.
11. -ss (<ſſ>, ie, two long S) of Hwss underlined and corrected on margin to ſs, ie, long S + round S (meant to represent <ß>?).
12. y gynhorthwyo: the catchword at the bottom of the preceding page reads i gynorthwyo.
13. wyts corrected from or to wits.
14. ac Iarll Warwic a Salsbri: a small number '2' is written above Warwic and a number '1' above Salsbri.
15. 1460 repeated on right margin.
16. On right margin in later hand: 26,700.
17. The rest of the line and the following two lines are empty.
18. Read vrenhin Edward?
19. One line has been left empty between this and the following paragraph.
20. The text first read ynn Grinwits verch Harri wythüed. A small number '2' was written above Grinwits and a number '1' above Harri, correcting the text to verch Harri wythüed ynn Grinwits.
21. Into the gap after Iarll a later scribe inserted Surrey
22. -ld- of Heldyng underlined; on right margin, probably written by a later scribe: st.
23. There is a gap between Iarll Swrrey and a llawer, which has been filled, presumably by a later scribe but in very much the same spelling system as the original text, with: arglwydd Ros ac arglwydd Dacers or North dref Kelsey. The text would then read: Y vlwyddyn honn i llosgodd Iarll Swrrey arglwydd Ros ac arglwydd Dacers or North dref Kelsey a llawer o drefi a chestyll ...
24. Expansion of Mr Rh ap Sr g'. Rh. uncertain. One Sir Rhys ap Gruffydd, grandson of Sir Rhys ap Thomas, was executed on Tower Hill on 4 December 1531.
25. 1533 apparently corrected from or to 1532.
26. i llüsgwyd i kwarterwyd ac i croged: a small number '2' was written above kwarterwyd and there is a smudge which could be a number '1' above croged, possibly followed by a question mark. The text would then read i llüsgwyd i croged ac i kwarterwyd or, perhaps more likely, i croged i kwarterwyd ac i llüsgwyd.
27. Norwits underlined; on right margin, by the same scribe: Cambrits.
28. Diggs is partly smudged; it is underlined and repeated on the right margin, apparently by the same scribe for the sake of clarification.

© University of Cambridge 2004
Diweddarwyd: 
Last update: