Adran o’r blaen
Previous section



[td. 108v]


Arthur ap Ythur


Ac wedi hyny y Brytaniaid a ddiessyyssant
arthur ap ythur yn vrenin
arnynt / a dyvric Archesgob caer
llion arwysg ai kyssegrawdd ef / ac
a wisgodd koron y dyrnas am i ben ef
ac yna yn ddianod i kynyllodd Arthur
lu mawr / ac a ddaeth hyd ynghaer
Evroc / a ffan glowas kolgryn ar
saysson hyny / kynyll llu mawr a
wnaythant / o honyn i hynain
or scotiaid ar ffeichtiaid / a rhoi cad
ar vaes i Arthur / ar lan avon
ddylais / ac yna i by ymladd creylon
a lladd llawer o bobty / ac yn y
diwedd i kavas Arthur y vyddegoliaeth
gan yrry ffo ar Golgryn / hyd ynghaer
evroc / ac yno i meddyliodd Arthur
i kadw hwynt / heb na bwyd na diod /
a ffan glyby baldwrf brawd
kolgrin hyny / ef a ddaeth a chwech
mil o wyr arvoc gantho / hyd o
vewn deng milldir at gaer Evroc
Sef i byssai ynte yn aros kledric /
twyssog o Germania / ai nerth
ynte / ir saysson ac yna / ir ymgyvarvyant
ac wedi yddynt

[td. 109r]
ymgyvarvod / ai kytyndeb / ac vn veddwl
dwyn kyrchnos a wnaythant
am ben arthur / a ffan wyby arthur
i meddwl hwynt / anvon a wnaeth
ef kattwr Iarll kerniw a chwechant
marchog gantho / a thair mil o bettyd
yw rragod hwynt / ar y fford / ac
wedi kyvarvod / ymladd o gattwr
Iarll / yn llidiawc / a gwasgary
a lladd llyossowgrwydd o naddynt ai
kymell i ffo / ac yna tristav a oric
Baldwrf / am na allodd rryddhay
i vrawd / a meddylio a oric / pa
vodd i gwnai ef hyny / Sef yna
peri a wnaeth ef powlio i ben ai
varaf / a myned yn rhith arest ddyn
ofer / a thelyn gidac ef trwy lestav
y brytaniaid / oni ddaeth ef dan
ystlys y gaer / a chany a wnaeth ef
y delyn oni attebed ef or gaer / ac
yna i tynwyd ef i mewn / a rraffav
dros y gaer / ac wedi hyny meddylio
a wnaythant ef ai vrawd / pa ddelw
i gallent ymryddhav oddyno ac
val i roeddent velly nychaf
genadav yn dyvod o Germania

[td. 109v]
A chwech igain llong ganthynt / yn llawn
o wyr arvoc at kledric / i vod yn dwyssog
arnynt / ac yn disgin yn yr alban / a
ffan glowes arthur hyny / gado caer
Evroc / a oric / a myned i gaer lydd
ac yno dyvyny i benaithiaid atto /
Imgynghori a hwynt / Sef oedd i
kyngor / danvon at howel mymber llydaw yr
hwn oedd vrenin llydaw / a mab llew
ap kynvarch / nai ap i chwaer i
Arthur / i ervyniaid nerth gantho /
Sef i daeth howel a ffymtheg mil
o wyr arvoc gidac ef i Southamton /
i dir / a llawen vy Arthur wrthaw /
ac oddyno i gid i daethant / hyd ynghaer
ludcoed / a elwir heddiw lincoln
kans yno i roedd y saysson / ac
ymladd krevlon a vy yno /
rhyngthynt / a rwng i lladd ai
boddi i kolled chwech mil or saysson /
ac a ddiengis o naddynt / aethant
hyd ynghaer Kelyddon / ac Arthur
yn i hymlid / ac yno i by vrwydyr
vawr a lladdva o bobty / cans o
gysgod y deri i brethynt

[td. 110r]
hwy y brytaniaid / a ffan weles
Arthur hyny / i peris ef dorri y deri
ai roi ar gyffion / ychel / ynghylch y
saysson / ac velly i
gwarhawd hwynt / dri diwarnod a
thair nos / heb na bwyd na diod / ac
yna rhac meirw o newyn / i rroes y
saysson / i holl Swllt / a thyrnged
o Germania hevyd i Arthur / er i
gollwng iw gwlad i rroddi / gwystlon
/ ar hyny / ac Arthur ai kymerth
ganthynt / ac wedi ir saysson / vyned
hyd yngheven y weilgi tiai gwlad
adivar vy ganthynt / i hamod ac
Arthur / ac yna i troyssant i hwiliav
dracheven / ac i borth tovnes i
Dir lloiger i daethant / gan
anrhithio y gwledydd hyd yn
hafren / ac oddyno hyd ynghaer vyddai
ac amgylchy y gaer / ac ymladd a
hi / ac ar brytaniaid oedd yndi a ffan
wyby Arthur hyny / i peris ef
grogi y gwystlon / heb ohir / ac
ef a oric a ymydawodd ar ffeichtiaid
lle ir oedd ef yn yr Alban / a gado howel
i nai yn glaf o orthrwm / glevyd
ynghaer Arclyd /

[td. 110v]
Ac amgylchy I Elynion a wnaeth
Arthur / a dyvod hyd ynghaer vyddai
am ben y saysson / a dwedyd wrthyn
val hyn / O chwchwi dwyllwyr
lladron / ni khadwassoch ammod a mi
ni chadwaf vinav ammod a chwithav
ac ar hyny i raeth dyvric archesgob
caer llion / i ben mynydd ychel
oedd garllaw / a dwedyd o hyd i ben /
ha wyr da heb ef y sawl y sydd
o honoch o gredigawl ffydd / koffewch
heddiw ddial gwaed ych rieni ar y
saysson / a thrwy nerth duw ar
llafr a gymeryssoch / ar angav / ef
a ylch ych pechodav chwi yn lan /
a chwi a gewch orvod a byddegoliaeth
ar ych gelynion / ac wedi traythy y
geiriay hyny / arthur a wisgodd am
dano / lirric / a oedd deilwng i vrenin
ac am i ben helm euraid / a llyn
Draig o dan erni / a delw arall a
elwid prytwen / ac ynddi hithav i
roedd delw yr arglwyddes vair [yn]
ysgrivenedic / a hyny a ddygai
Arthur gidac ef pen elai ef mewn
perigl brwydrav / ai gleddav a
gymerth ef a elwid

[td. 111r]
kledvwlch / ac yn yr Estroniaith a elwir
Excalibur / yr hwn a gowsai Arthur yn y
garrec / ac oedd kyssygredig / a gwaiw yn i
law / yr honn a elwid bron gymyniad / ac
wedi i bawb wisgo am dano / drwy vendith
yr archesgobion / kyrchy i gelynion a wnaythant
/ yn greylon / oni vy nos a wnaythant
ai lladd / ac o hyd y nos i kyrchodd y
saysson i ben brynn ychel / gan dybiaid i
gallent ymgadw yno / a ffan vy ddydd dranoeth
i duc Arthur gyrch ir mynydd arnynt /
ac er hyny ymladd yn greylon a wnaythant
ac yno llidio a oric Arthur / a thyny
kledvwlch gan goffay duw a mair a
rhythro i elynion / ar sawl a gorvyddae
ac ef / ar vn dyrnod i lladdai ef hwynt
ac ni orffwyssodd Arthur / oni laddodd ef
ddeg a thrigain / a ffedwar kant oi
elynion / ac yno trwy dwyll / er hyny / kymryd
a wnaythant hwyntav / ogoniant a llywenydd
ynddynt / a chyd ymladd a cherdded ac
ef hyd yn y diwedd i llas kolgrin a
Baldwrf i vrawd / a llawer o viloedd
gida hwynt / ac a ffoes kledric / ac
a ddiengis ai lu / ac yna i herchis
Arthur i Gattwr Iarll cerniw

[td. 111v]
a dengmil o wyr arvoc gidac ef iw hymlid
hwynt / ac Arthur a gymerth i ffordd tya
chaer arclyd / cans ef a glowsai fod [y] scoti[aid ar ffeichtiaid]
yn keissio howel allan or gaer / Sef a
wnaeth kattwr Iarll ai lu / kyrchy
hyd yn llongav y saysson / ai llenwi
hwy oi wyr i hyn / ac arthur ar rhan
arall oi wyr ai hymlidiodd hwynt
val llew koedawc / oni ffoessant / ac yna
i llas kledric i twyssawc hwynt
ac wedi gorvod o Arthur a khattwr
Iarll / ar y saysson / drwy ladd y
naill ran / a chymell y llaill yn gaeth
dragowydd / kattwr Iarll / a ddaeth tya
khaer arclyd lle i ddoedd Arthur / ac
ynte oedd wedi cymell y ffeichtiaid hyd
y mor / kans hwnw oedd y trydydd ffo /
a wnaythodd Arthur a howel / ar yr
ormessol genedl honno / ac oddyno / rrhai
or saysson / a ffoessant hyd yn llyn linononwy
/ ac ir llyn hwnw mae yn dyvod
drigain a thrychant / o avonydd y rrai
yssydd yn llithro / o vynyddoedd prydain
ac or llyn hwnw i mae vn avon yn
myned ir mor / a elwir llefn / ac ym hob
mynydd or heini i mae craic vawr
ychel / a nyth Eryr ar ben

[td. 112r]
pob kraic / a ffan ddelai yr heini oll
i weiddi ir vn graic / i doe ormes o ryw
wlad ir ynys honno Sef a oric Arthur
peri gwneythyr llongav a badav yno /
i ymgylchy y llyn / a chroni / a chadw
y bobol hyny yno / oni vy veirw miloedd
o honynt o newyn / yr hwn lyn / yw
vn or ynyssoedd / a elwir yn yr estroniaith
ont Iles / ac val i ddoeddent
velly nychaf Gilamwri brenin y
werddon / yn dyvod yn borth ir ffeichtiaid
ac i scotiaid / cans or vn genedleth
i rhanoedd hwynt / a ffan
weles Arthur hyny / ymado ar ffeichtiaid
 ac ar scotiaid / a dechrav ymladd
ar gwiddil / a gyrry ffo arnynt /
hyd ywerddon / ac yno ar vrys i daeth
Arthur eilwaith i ymladd ar ffeichtiaid
ac ar scothiaid / yn yr hwn
amser i daeth archescobion essgobion
ar abadoedd kyssygredic / ac eraill
o benaithiaid y ffeichtiaid ar scotiaid /
i ymroi i arthur / gan ostwng ar i
gliniav / ac ervyniaid tangnhevedd
yddynt / trwy i kymryd yn gaeth iddaw
ef ai etiveddion / a hyny a
gymerth arthur ganthynt / er mwyn
i gwyr da hwynt

[td. 112v]
ychod / ac wedi hyny i raeth howell
mymber llydaw / i edrych ansawdd
y llyn ychod / ai amgylch ac yna i dywad
arthur wrth howel mai yma lyn sydd
ryveddach na hwn / ac vgain troydvedd
yn i lled a ffymp troydvedd yn i ddyfndwr
a ffedwar o amriw bysgodryw yndo vn ymhob
kornel ir llyn ac nid ynt yn gymyssgedic
vn ai gilidd / ac yna i raeth
Arthur hyd ynghaer Evroc / i gynal
i lys erbyn ddydd natalic / ac yna
tost a drwg vy gan arthur weled y
reglwys wedi i d..strowio or saysson a
lladd y gwyr llen / ac yna i gwnaeth
ef Ipper yffeiriad yn archesgob
kaer Evroc / a fferi gwneythyr yr
Eglwys o newydd / ar mynachlogydd
a rhoi kovent yndynt / a gwsnaythy
dyw yn Deilwng / ac velly / rhoi i
bawb i gwir ddyled / a wnaeth Arthur /
yr hwn / a ddygyssai y saysson oddiarnynt
ac a roes Arthur i aron ap kynvarch
brawd llew ap kynvarch / ir alban a
Elwir heddiw scotland / ac i Elw ap
Kynvarch i vrawd arall Iarlleth
lindesai / ac velly i roedd yrien ap
kynvarch / ac wiar verch 

[td. 113r]
kynvarch mam gwalchmai / ac wedi
darvod i Arthur wastatav ynys brydain
yn y modd gorav i byssai erioed /
i gwreicawdd Arthur a gwenhwyvar
verch gogvran gawr / a mam honno
a hanodd o ddyledogion Rhyvain a
chattwr Iarll kerniw ai magyssai
hi / a thegach oedd hi / na gwraig
yn ynys prydain / ac i paratoes
Arthur i lynges / erbyn yr
haf nessa at hyny / i vyned i werddon
/ a ffan ddaeth ef yno / i roedd
Gilamwri / ai lu gantho yn barod
i ymladd / ac yn yr ymladd hwnw
i dalwyd Gilamwri / ac i llas
llawer oi wyr / ac eraill a ffoessant /
ac o hyny allan / i bv raid i gilamwri
warhav i Arthur / ef ai
werin / ac oddyno i ddaeth Arthur
i wlad yr ia / Sef Iseland / ac
goressgenodd ef honno ar hynt / ac
wedi hyny pan glyby yr ynyssoedd
eraill / vod arthur yn goresgyn /
ffordd i kerddai / ac na allai neb
i lyddias / nai wrthneby / Sef a
oric doldwrf Brenin y ffeichtiaid
a gwynwas Brenin orck dowod
yno oi bodd i warhav i

[td. 113v]
Arthur / ac i roddi tyrnged iddo ef /
bob blwyddyn / Ar haf nessaf at hynny
i daeth Arthur i ynys prydain /
ac yna i by ef ddayddeng mlynedd
yn ol hyny / yn gorffwyssaw ac yn
kynal i lys ynghaer llion arwysg /
kaer wynt / ac ynghaer lydd / ac o
vewn y blynyddoedd hyny / ar bob
gwyl arbenig i ddyvyny atto i
holl dwyssogion penaithiaid / ai
wyr da provadwy klodvawr / o
bob gwlad i amalhav i deyly ef / ai
aniver / ac yna i gwnaeth Arthur
Drefn ar i varchogion / ir vort gron / ai
vilwyr / gan roi i bawb o honynt raddav
a galwedigaethav Savadwy yw
ydnabod yn dragowydd / yr hwn a oleva
i lawer o honynt / yn ol hyn / yniwedd
yr ystori hono / a hevyd / vn rinwedd
ragorawl oedd ar arthur / o ran ffydd
gadarn gref / a gobaith diballedig / ac
nid ymswynodd ef yn amser oi vowyd
ond yn vnic vnwaith y dydd / i koronwyd
ef yn vrenin / ac wedi hyny i
hedawdd i glod ef ai vilwriaeth ef ai
vilwyr / o ddewrder a haelder /
o voes ac arverav / oni oedd yn
honaid [yn] yr ynys hono /

[td. 114r]
megis na doedd vn Brenin / a ellid i
gyfflyby i Arthur / ac val i roedd ar
bob Brenin / oi amgylch ofn Arthur /
rhac iddaw ef oresgyn i kyvoethav
hwynt / a ffan glyby Arthur hyny /
meddylio a wnaeth ef / am gwplav
i weithredoedd / i glod royssyd iddaw /
ac ar vrys ni wnaeth ef lai / na
goresgyn holl Europia / Sef oedd
hyny / traian y byd / ac nid oedd
na Brenin / na thwyssawg galleys
na bai yn keissio dysgyblio / wrth
voes ar arverav / y brenin Arthur
ac yna i paratoes Arthur lynges
i vyned i lychlyn / kans marw a
vyssai assychlyn Brenin prydain,
yr hwn a gymynyssai i vrenhiniaeth
i lew ap kynvarch i nai ef / a
brawd ynghyvreth arthur / ac ni
vynai wyr llychlyn hyny / ond gwneythur
Riclwff yn vrenin arnynt /
amgadarnhav yn i kestill / i geissio
kadw /r/ wlad arnynt / ac yno i
roedd gwalchmai ap llew ap
kynvarch / yn trigo / yngwsaneth pab
Rhyvain / lle i danvonyssai

[td. 114v]
Arthur / i ewyrthyr / i ddysgv moes
ac arverav a marchogeth meirch
ar pab hwnw a roes arvay
i walchmai gyntaf / ac velly / pan
ddoeth Arthur i lychlyn i ddoed
Riclwff yno / a llu mawr gantho /
yn erbyn Arthur / ac ymgyrchy a
oric a lladd llawer o bobty / ac yn
y diwedd Arthur a laddodd Riclwff
/ ac a oressgenodd y wlad / a
Denmark hevyd / a chymell y
bobl i warhav iddaw ef / ac adawodd
lew ap kynvarch yn vrenin llychlyn
ac Achael yn vrenin Denmarck / ac
yna ir hwiliawdd arthur parth
a ffrainc / ai lynges / a dechrav
goresgyn yno / ac yn i erbyn ef i
daeth ffrolho vrenin ffrainc / dan
lyvodraeth ymerodraeth Rhyvain /
ac ymladd ac Arthur / ac ni
thykiawdd iddaw ef kans amlach
a dewrach oedd marchogion Arthur
ac yna i ffoes ffrolho hyd ymharis
a galw atto / i lu mwiaf ac a
allodd i gael / Sef a oric arthur
ai lu / dan ymgylchy y dinas / ai
kronni yno vis or vnty / oni veirw
llawer o honynt o newyn /

[td. 115r]
a dolyrio a wnaeth / ffrolho yn vawr
a chynic myned ef ac ac Arthur
i ynys oedd garllaw mewn Avon
vawr yr hon a elwid Sain / yr hon
a lithir o ddinas paris / ac yr
vn a orffo ar i gilidd kymered
gowoeth i llall ac ado y llyoedd
yn llonydd / ac nid oedd ddim well
gan Arthur na hyny / ac yno ir
aethant illday ir ynys honno / yn
gyvlawn o veirch ac arvay / mewn
amravailion vaday / ar dday lu
yn edrych arnynt / ac yno i rhwymodd
ffrolho i vad ef / ac a llyngodd Arthur
i vad yntav yn rhydd / ac yna i
dwedai ffrolho wrth Arthur / mae
drwg oedd i obaith ef / pan ollyngodd
ef i vad yn rhydd / ac ar hyny ir
attebodd Arthur / gan ddwedyd wrtho ef
ddarvod iddo ef wneythur yn sicir vn
bad / ac i gwiddiad ef / i lleddid vn o
honynt hwy illday yno / ac mai
digon oedd vn bad / ir vn a gai y
vyddegoliaeth / ac yn ddianod kyrchy
Arthur a wnaeth ffrolho / a gwaiw
/ Sef a wnaeth Arthur / i ochel
ac ar hyny i kyrchodd

[td. 115v]
Arthur ffrolho / ac i rhoes ef dan dor i
varch / a thyny i gleddav i geissio i ladd
yna i kodes ffrolho yn ffrolig ac a
laddodd varch Arthur / ac ar hyny i
i raeth Arthur ai varch ir llawr a
ffan weles y brytaniaid hyny anodd
a vy ganthynt gadw kryngrair / ar
ffrancod / ac yna yn llidioc i codes
Arthur gan droi i darian rhyngtho a
ffrolho / ac ymarvodi ac ef / a newidio
dyrnodav yn greylon / o bob vn tyac
at i gilidd / ac yna ffrolho a vwriodd
ddyrnod i arthur / ac ai trewis ef
ar i dalken / onid oedd i waed ef /
yn ffrydio ir llawr / drwy i helmed
/ ac ar hyny i llidiodd Arthur
ac yna i dowad vod yn ddrwc gantho ef /
vod angav brenin kyn laned a
dewred a ffrolho kyn nessed / a thrwy
lid ai nerth i kodes Arthur i
Gledvwlch ac a roddes dyrnod kreylon
i ffrolho / ar warthaf i benn
hyd pan holldes i gorff ef hyd i
wregis / ac yno i syrthiodd ffrolho /
ir llawr yn varw / ac yno i
gwarhaodd yr holl ffrancod i
Arthur ac wedi hyny Arthur
a ranodd i lu yn dday haner
ar naill haner a llyngodd

[td. 116r]
ef / gida howel i nai / i oresgyn
poytyerys / ac a gymerth y rran arall
gidac ynte i oresgyn Gasgwin / a geien
ar amser hwnw i kynyllodd twyssog
poytyers / i holl wyrda / ai benaithiaid
i warhav i Arthur / a naw
mlynedd i by ef yn goresgyn y gwledydd
hynny / ac wedi iddo ef i goresgyn
hwynt oll / i daeth Arthur i
gynal i lys i Baris / ac yna i
gwahoddes ef atto holl dwyssogion
penaithiaid / a rhan vwia o gyffredin
yr ynyssoedd hynny oll / ac o gytyndeb
/ yr holl aniveroedd hyny / i
gwnaythbwyd cyfreithiav da / yr
amser hwnw dros yr holl ynyssoedd
hyny / ac yna i rhoddes Arthur / i
bedwyr bentrilliaid oi lys ef / nid
amgen / pen butler Iarlleth normandi
/ ac i kai hir ap kynar ben
swyddwr / Iarlleth Angioy / ac
i bawb oi wyr da eraill / megis i
rheglyddai yddynt / ai rhwymo hwynt
a oric / ai haelder gariad / a ffan
ddarvy iddo wastatav y gwledydd
hyny y gwanwyn rhac wyneb i daeth

[td. 116v]
Arthur i ynys Brydain dracheven /
ac a gavas yn i gyngor ddal i lys /
ynghaer llion Arwysg / kans tecaf
lle oedd hwnw a chyvoethocaf / ac
addassa i vrenin / ddal i wylva yndi /
o herwydd / or naill dy i roedd avon
vawr a elwid wysg / ac aber / val
i gallai longav ddyvod o eithavoedd
byd iddi ac or ty arall ir dinas ir
oedd tir teg gwastad sych / ac o amgylch
/ yr hain i roedd bryniav teg vchel
ac yn agos at y dinas i roedd ffridd
ne fforest deg addas i hela bwystviliaid
/ ac o vewn y gaer / i roedd
tai teg Brenhinawl / ac am
hyny / i kyfflybid hi i ryvain /
hefyd yn y dinas honno / ir oedd dwy
Eglwys Arbennig / ac vn onaddynt
/ a gyssegrwyd yn enw Silius
verthur / ac yna i roedd mynachlog
y mynachessav / ar eglwys
arall a gyssegryssid yn enw Aron
verthur / a mynachlog y kannonwyr
oedd honno / hevyd yno i roedd
yr archesgobty penaf / or tri
archesgobty oedd yn ynys brydain
a hevyd aniveiri oedd yn y dinas
honno / amrevailion 

[td. 117r]
gelvyddydav / a ffenna lle a
dinas yn y dyrnas oedd kaerllion
arwysg yn yr amser hwnw / ac
yna i peris Arthur arlwyo a
gwneythur yno gwledd anveidrawl
o vaint / i wahadd holl vrenhinoedd
a ffenaithiaid o ysgolheigion
megis na allent rivedi
arnynt i ddywad i wledd caer
llion ar wysg / i roi breiniav
yddynt megis i darparent o
herwydd i braint ai bonedd / ac velly
or alban i daeth Aron ap kynvarch
vrenin yno / yrien ap kynvarch
arglwydd Reged kaswallon
lawir / arglwydd gwynedd / meiric
Brenin Dyved / kattwr Iarll kerniw
a thri Archesgob ynys brydain / a
ffenna o naddynt / oedd archesgo caer
llion arwysg / kans braint legat
oedd iddaw / a gwr santaidd oedd
hwnw / ai enw ef oedd dyvric / ac ir
wledd honno i daeth morydd Iarll
kaer loiw / moriarll kaerangon Dr
Anharawd arglwydd ymwythig
Madog o gaer wayr / owain o gaer

[td. 117v]
vallawg Sowlesbri a gwrsalen /
o gaer gynvarch / Yrien o gaer vaddon /
Bosso Iarll rhydychen / a kida hyny
llawer o wyr da a vyddai rry hir
i traythy / ac [o] ynyssoedd eraill / i
daeth Gilamwri Brenin ywerddon
a gilamwri arall Brenin alannt
Doldwrf vrenin y ffeichtiaid / gwynwas
vrenin / orck llew ap kynvarch
vrenin llychlyn / achel vrenin
denmarck / ac o ffraink Eldyn /
Twyssog Rwyton Bottel Twyssog
kenonia a Leodegar o volwyn /
Bedwyr Twysog ne Iarll Normandi
a khai hir ap kynyr Twyssog
Angoy / a gwidiart Twyssog poytyers
/ ar davddeg gogyvwrdd
a geraint garwys or ysbaen / a howel
mymber llydaw Brenin llydaw / a
llawer o bondeddigion gida hyny
Rhy vlin i manegi / val na
ddaeth i vn wledd erioed i gymint
o wyr da / a gwragedd / meirch
Adar / kwn a thlyssav mawrwrthiog
arian lestri / a
gwisgoedd godidawc / o Bali a
ffwrffwr ac a ddaeth yno /

[td. 118r]
kans vn or tair gwledd arbennic
ynys prydain oedd honno / ac nid oedd vn or ty draw
ir sbaen / ar a vynai dda / na ddaeth
ir wledd honno / i gymryd amravailion
roddion ar a vynai bawb / a
llawer hevyd a ddaeth yno / i edrych
y wledd / heb i
gwahawdd / ac wedi i dyvod i
gid yno / galwed y tri archesgob
ychod yno i wisgo yn vrenhinawl
koron am ben arthur a dyvric
archesgob a ganodd yr yfferen a ffan
aethant ir eglwisi i roedd y ddav
archesgob arall yn arwain Arthur
yn i vrenhin wisg / ac yn i vlaen
ef i roedd bedwar o dwyssogion yn
dwyn pedwar kleddav yn noethion
kans hyny oedd braint Amerodr
henway y pedwargwyr hyny oedd
Aron ap kynvarch Brenin yr
alban / kaswallon lawhir arglwydd
gwynedd / meiric Brenin dyved / a
kattwr Iarll kerniw / ac i roedd
kyvysinaid a chledwyr tannav
yn kanv yno amravailion

[td. 118v]
ganiadav / ac organ o bobty yddynt
ac or ty arall i roedd y vrenhines
Gwenhwyvar yn myned ir Eglwys
ac addyrn brenhines am deni / ai
khoron am i ffen / ac esgob a manachessay
gida hi a ffedair gwragedd y
pedwargwyr ychod / a chlomen wen
yn llaw pobvn / onaddynt / ac
wedi myned hi ir Eglwys / i
dechreywyd y gwsaneth trwy
/r/ ysgolheigion gorav ar pynciav
gorav tecaf ar a brydoedd dyn erioed
/ ac yna i gwelid rhedegain
amyl o eglwys pa gilidd i wrando
amrevailion ganiadav / ac wedir
fferenav dyvod ir llys a wnaythant
a diosg i dillad parch / a gwisgo
eraill am danynt / a myned ir
neyadd i vwytta / ac or parth
arall i roedd gwenhoyvar / ai
harglwyddessay gida hi / megis
i roedd arver Brenhinessay /
ac velly / wedi rhoi pawb i
eisde megis i dylent / i kodes
kai hir marchog

[td. 119r]
penswyddwr / a mil o wyr gidac ef
a gwsnaythy or gegin / a gwisg o
ermin melyn amdanaw ef
ac am bob vn oi wyr / ac i kodes
Bedwyr bentreilliad ne benbwtler
Arthur / a mil o wyr gidac ef / or
vn rhyw ddillad i wasnaythy llestri
aur ac arian / ac nid oedd lai o
aniver yn gwsnaythy ar y vrenhines
nac ar yr amherawdr Arthur / ai
wyr da yntav / ac am hyny / ni
doedd vn dyrnas yngrhed a allai
ymgyfflyby ac ynys brydain o
bob da moesay a devodav / o herwydd
vn arver oedd holl wyr llys arthur
ai gwragedd /ac vn air oeddent /
ac ni vynai gwraic na morwyn o
lys arthur / na gwr na gordderch
ond milwr kampys provedic / ac am
hyny dewrach a vyddai y gwyr /
a diweirach a vyddai /r/ gwragedd /
ac wedi darvod y kinio ychod / i daeth
pawb allan / oddigerth y dinas / i
edrych amravailion chwareoedd /
nid amgen / marchogion / yn torri
ffynn / ac yn benna ar ymwan / a
hevyd / ni doedd dychymig

[td. 119v]
chware na bai yno / ar vrenhines
ar arglwyddessay / ar vylcher gaer /
yn edrych ar hyny / a ffob vn o honynt
yn dangos y gwyr mwiaf ar a garent
ac i roedd y marchogion yn gwneythur
i gwrhwdri mwiaf ac a ellynt / ar
neb a gai vyddegoliaeth y chware /
ef a gai dros i dravel / ar gost y
Brenin / ac wedi darvod yddynt dreilio
y wledd honno / mewn tridiav a thair
nos / y pedwrydd dydd i rhodded i rhai
a vyssai yn gwsnaythy / dros i llavyr
ney i travel / nid amgen / i rhai o
naddynt i rhodded dinessydd / a chestyll
ir rhai eraill / ac yno / i raeth
dyvric archesgob caer llion yn
veydwy / ac a wrthodais [~ wrthodes ] yr archescopaeth
/ o herwydd gweled vaint a
vy armerth y wledd honno / ar
gynylleidva / ai darvod mewn tri
diav / ac am hyny ystyried / a oric
ef / mae darvodedig yw pob peth yn
y byd hwn / ac amrodd i geisio peth
parhays / tyac at dyrnas gwlad
nef / ac yn i le ynte i rroed dewi /
yn archesgob kaer llion arwysg
kans gwr dysgedig bycheddawl oedd
ef / ac ewyrth i arthur / ac

[td. 120r]
yn lle Sampson archesgob kaer efroc
a vyssai varw yno / ir roed Teilaw
Esgob llandaph / drwy Eiriol howel
mymber llydaw / a gwr dysgedig
bycheddol oedd yntav / ac wedi lliniaethy
pob peth i gwelent / ddavddeg
marchog yrddol / yn dyvod / a diadell o
wyr gida hwynt / a chainc oliwydd
yn llaw pob vn o naddynt / yn arwydd
i bod yn genadav / a ffan ddaethant
ir llys kyvarch gwell i arthur
a wnaythant / gan i anerch oddiwrth
lles / amherawdyr rhyvain / i roi
llythyr yn i law ef ar geiriav
hyn ynthaw / lles amherawdyr
rhyvain / yn anvon anerch at
arthur vrenin y brytaniaid / megis
ir haeddodd / kans rhyvedd yw
geni vi dy greylonder di
ath ynvydrwydd / o anian ffolder
kans ynvyd i soraist di vy vi
amherawdyr rhyvain / a rhy hwyr
i rwyti yn gwneythyr Iawn I
ryvain / ai brenhinoedd / lle i mae
yr holl vyd yn

[td. 120v]
ddarostwngedig i ryvain /
ond tydi a thithav sy yn attal y
dyrnged / yr hon syddyledys i ryvain
 i chael o ynys brydain / yr hon i by Ilkassar
yn i chael / ac amheraodrion eraill
wedi hyny / kans yr holl ynyssoedd sydd
dan ryvain / ond ynys prydain / ac
eraill / a ddarostyngaisti iti dy hyn
a dwyn braint gwyr rhyvain oddiarnynt
/ ac am hyny senedd
rhyvain / a varnodd iti vod yn rhyvain
erbyn Awst nesaf / ac oni ddoi di yno
y dydd hwnw / gwybydd di i doyn
hwy ith ovyn di / hyd dy gartrav /
am i sorhad hwynt / val i barno y
kleddav rhyngoti a hwynt / a ffan
wyby arthur ystyr y llythur / ef
aeth yn i gyngor / am daly atteb i
wyr rhyvain / a chattwr Iarll kerniw
yn gyntaf i dywad / val hyn / Arglwydd
vrenin heb ef / mae arnafi ofyn i
lesgedd / a diogi / gael gorvod arnomi
y brytaniaid / gan hvd i byomi yn
segyr / gwedi ymroi i wleddav / ac
ymddiddan gwragedd er ys pymp
mlynedd / a hyny a dduc yn
dewrder ni an ffyniant

[td. 121r]
ac ny ni a ddylem ddiolch i wyr
Rhyvain / am yn kyffro ni / ar hyn o
amser / ac yna i dywad Arthur
ha wyr da / vynghyd varchogion /
chwi a royssoch imi hyd yn hyn gynghorav
da / ar awrhon / i mae yn rhaid
imi wrthynt / ac am hyny / meddyliwn
bawb gyngor da ir ynys / ac o bydd da
/r/ kynghorav / ni a orvyddwn / ar wyr
rhyvain / Sef er kael o honynt hwy
gam dyrnged or ynys honn / er dyvod
ai lluoedd iw ymddiffin hi / rac estron
genedl / ar awr honn / ni ddylant i
ni ddim / ac i maent hwy yn i holi
ini / beth anledys [~ annyledus ] / ac am hyny /
ninav a holwn yddynt hwythav beth
dledys / ar kadarnaf o honom / kymered
gan y llall / kans yn rhieni ni a
orvy arnynt hwy / nid amgen / Beli
a Bran / meibion dyfnwal moel myd /
o herwydd hwynt a ddygyssant vgain o
voneddigion Rhyvain / yn wystlon
ganthynt i ynys Prydain / am
dyrnged / a nerth / ac wedi hyny i by
Kystenin / ac Elen / ac wedi hyny
maxen weledig / ac Elen

[td. 121v]
dyledogion ynys brydain / ar hain
a oresgennodd hyd yn Rhyvain /
a rhyvain oll / ac a vyant amherodron
yno / bob vn yn ol i gilidd / ac
or achos hyny / ni attebwn ddim
yddynt hwy / ond holwn ni y dyled
yddynt hwy / ac yna i dowad howel
ymber llydaw / rhyngofi a dyw / pa
[dwede]mi bawb ar neyldy / ni bydde gystal
ac i dowad yr amherawdyr Arthur /
ac am hyny / Arglwydd heb ef / awn
i Imddiffin ynys Brydain i dyrnas
rhyvain / a ddechreyodd holi peth
anledys i ni / a fferthynol i ti holi
pethav dledys yddynt hwy / kans
Sibli ddoeth a ddraganodd / i byddai
dri amherawdyr or brytaniaid
yn rhyvain / Sef ni by ond dav hyd
yn hyn / a thithav a vydd y trydydd
ac am hyny / bryssia di ir hynt
honno / o herwydd kyttyn yw dy
wyr a thi / a mi a roddaf i ti o
gymorth / ddengmil o varchogion
arvog / ac a ddowad Aron ap
Kynvarch / rhovi a

[td. 122r]
dyw arglwydd heb ef / ni vedra vi
draythy vaint yw vy lliwenydd i / am
yr amadrodd a ddwedaist am ryvain
ac am hyny hyvryd yw geni vi
gymryd dyrnodav / gan wyr rhyvain
am yr hai a roddwn inav yddynt
hwythav / er dial yn teidiav / an
hen rhieni arnynt / ac er kodi dy vraint
dithav arglwydd vrenin / A mi a
roddaf i ti i vyned yno / ddavddeg mil
o varchogion arvoc a phetid hevyd
a ffan ddarvy i bawb / dervyny i
ymadrodd / ar maint / a roddai bawb
iddo ef o wyr arvoc i vyned i ryvain
arthur a ddiolches i bawb o naddynt
ar neillty / ac i kyvrivwyd i Arthur
y rhyvedi a roisid iddaw / a thrigain
mil o varchogion arvog provedig
oeddent heb law a roddes howel
iddaw / o lydaw / ac a gavas ef
or chwech ynys eraill / o betyd /
chwechigen mil / Sef oedd henway
yr ynyssoedd hyny / Iwerddon / ynys
yr ia scotland / orck llychlyn
a denmarc / ac o ffrainc 

[td. 122v]
Bedwar vgain mil o varchogion arvog /
a chan y davddeg gogyvwrdd a chida
Geraint garwys or ysbaen / i daeth mil
a dav kant o varchogion arvoc / ac
velly i kad oll o varchogion arvog
ddav kant / a davddeg mil / a ffedwar
vgain mil / ac ni wyddiad neb y rhif
ar y petit / ac velly gwedi gweled o
arthur ywyllys pawb tyac atto / roddi
kennad yddynt oll / i vyned adref a
wnaeth ef / i ymbratoi [~ ymbaratoi ] erbyn awst
nessa at hyny / ac ef a vanegawdd
hyny i genadav gwyr rhyvain / oedd
yno yn aros atteb / ac na thalai ef
vn dyrnged yddynt / ac i raeth y
kenadav ymaith / parth [a] rhyvain / wedi
yddynt gael rhoddion mawr / a thlyssav
a rhyddhav / oddiwrth pob trayl / a
thaledigaethion / a chattwr / twysog
kerniw aeth gida hwynt / wrth
orchymyn Arthur / oni ddaethant
ir borthva / a elwir heddiw
Sandwych / kans yno i kymersant
i llongav / a ffen glyby lles
amherawdyr rhyvain hyny / ir
aeth ef yn i gyngor / ef a Senydd
rhyvain / Sef oedd yn i

[td. 123r]
gyngor anvon at vrenhinoedd y dwyrain
i erchi nerth ganthynt yn erbyn arthur
a chida hyny / twyssogion Ieyrll
Barwniaid / ac llawer o wyr da eraill
a oedd ddarostwngedig i ryvain / ac
o Senydd rryvain / i daeth at yr
amherawdyr / meiric or koed / ac eraill
o Seneddwyr rhyvain / Sef oedd yryvedi
yr aniver a gas lles gan i wyr hynny
oll / deigain a ffedwar kant o viloedd
/ ac wedi darvod yddynt / liniaythy
pob peth erbyn awst / yna i kodyssant
tyac ynys Brydain / a ffan glyby
Arthur hyny / kynyll i lu a oric
ynte / a gorchymyn i vedrod / nai vab
i chwaer / liwio a llyvodraythy yr
ynys yn dda / a gwenhwyvar yn ddidwyll
/ oni ddelai ef adref / ac wedi
hyny / i kyrchodd Arthur borthva Southamton
/ a ffan gavas vnion wynt / hwiliaw
tya ffrainc / ac wedi i vyned ef i
ganol y weilgi / ef a syrthiodd kysgy
ar arthur / am dalam or nos / ac yna
i gwelai ef vreiddwyd / nid amgen /
Arthur a welai yn hedeg / o
ddiwrth y deav / gawr mawr / a garw
lais gantho / ac yn disgin ar vordor
ffrainc / ac a welai / ddraic yn dyvod
or gorllewin / a goleydair [~ goleuder ] i llyygaid

[td. 123v]
yn goleyo /r/ mor / ac ef a welai y
ddraig ar kawr yn ymgyrchy / ac
ymladd mawr rhyngthynt / ac wedi
ymladd / yn hir o amser / ef a welai y
ddraig / yn bwrw tan ar y kawr / oni
losges ef / yn vlw oll / ac ar hyny
i deffroes ef / a rhyvedd a vy gantho
a vreyddwyd / ac i manegodd ir
kymydeithon / i weledigaeth / ai
ddeongl a wnaythant val hyn / tydi
arglwydd / amleddi a rhyw anghynvil
o gawr / ac ai gorvyddi ef / kans ty
di / arglwydd ywr ddraig / ac ni
kredodd Arthur ddim o hyny / namyn
tybiaid / mai rhyngtho ef / ar amherawdyr
rhyvain / vyddai hyny / ac
erbyn dydd dranoeth / i ddoedd Arthur
ai lynges / ymhorth Barilio yn
Normandi / ac yno aros a wnaeth
ef gwbwl oi wyr / or ynyssoedd
eraill / addowsai borth iddaw / ac
val i roeddent velly / nychaf genadav
yn dyvod atynt / ac yn manegi
i Arthur / ddyvod kawr mawr o
ddiwrth ysbaen / a dwyn Elen i
drais nith howel ymber llydaw
o ddigan y gwarcheidwad

[td. 124r]
a myned i ben mynydd a hi a marchogion
y wlad ai hymlidiodd / ac ni thyciodd
yddynt ymladd ar anghynvil hwnw /
kans ni vmiv vn araf arno / ac
velly pan vy nos i daeth Arthur
Syr bedwyr / a Syr kai hir ap kynar
gidac ef wrth gyvrwyddyd gwr or
wlad hono / yn agos ir mynydd / lle ir
oedd y kawr / ac yna i gwelynt hwy
ddav dan / yn gyvagos at i gilidd
ar ben mynydd mawr / ac a ddanvones
Arthur bedwyr i edrych pa vn or
ddav le ir oedd y kawr / ac a aeth
ef ir mynyd lle i roedd y naill
dan / ac yno i klowai ef wreigiawl
gwynvan / ac yno ef a welai hen
wraic yn eistedd wrth y tan / a
bedd newydd gar i llaw / a
hithav yn hiravthy ywch ben y bedd / a
ffan weles hi Bedwyr / i dowad hi
wrtho o tydi ddirieitia or dynion / beth
a wneidi yma / ef ath leddir di yr
awrhon / o angav tervynedig / kans
yr anghenvil melldigedig / a dduc
nith howel yma / ai lladdodd hi / yn
keisio kydio a hi / ac am vymod
Inav yn vamaeth iddi i duc

[td. 124v]
vinav yma / gan ddangos bedd Elen iddo
ac om tyb i ef a ddaw yma etto
ac am lladd inav / ac ath ladd
dithav hevyd / o chaiff ef dy weled / ac
ar hyny i daeth bedwyr at Arthur
a manegi a wnaeth iddaw / gwbwl ac
a welsai / a drwg vy gan Arthur
hyny o ddamwain / am Elen / ac
yna i daeth Arthur ar vrys yno
ac erchi yw varchogion aros yn
llonydd / oni welent yn Ing arno
ef / ac i kanvy Arthur y kawr
wrth y tan arall / yn pobi moch
gwlldion / ac yn i bwytta yn lled
amrwd / ac yna pan weles ef
Arthur yn dyvod / kymryd ffon
haiarn yn i law a wnaeth
y kawr / yr hon oedd anveidrawl
o vaint / ac a hono taro Arthur
ar i darian / oni glowid i swn
ymhell / ac yna llidio yn vawr
a oric Arthur

[td. 125r]
tharo /r/ kawr ar i dalken / oni
lithrodd y gwaed o amgylch i lygaid
ef / ac yno i llidiodd y kawr / a
khyrchy ar ycha kleddav Arthur
val i kyrchai y baedd koedawl
yr heliwr / ac ymavel mewn
Arthur / ai dyny oni syrthodd
ef ar dal i liniav / ac yna i
troes arthur yn llidiawc a
tharo /r/ kawr / a chledvwlch
hyd yr ymynnydd / ac yna roi
garm a wnaeth y kawr / a syrtho
i lawr val derwen / a hyrddai
wynt mawr / ac yna i khwarddodd
Arthur / gan erchi i bedwyr
Dori pen y kawr / ai ddwyn
gantho i ddangos rhyveddod ir
llu / ac yna i dowad Arthur
na chyrvyssai ac ef erioed anghenvil
mor gadarn a hwnw /
namyn bytta kawr or Ryrry
o vewn gwynedd /

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section