Adran o’r blaen
Previous section

[td. 125v]
hwnw a wnaythodd iddaw wisg o
grwyn barvay brenhinoedd / a
thwyssogion / ac a ddanvonyssai
genadav at arthur / dan erchi
iddaw ef vlingo kroen i varf ai danvon
iddaw ef / i orffen i bilis / ac
ef ai roddai yn ychaf ar i bilis / er
parch i arthur / ac onis roddai
erchi iddaw ddyvod yn ddianod i
ymladd ac ef / gan ddwedyd y
kryva o honom i yr amser hwnw
kymred groen barf y llall / ai
bilis hevyd / ac ymgyvarvod a
wnaythant ar vwlch y groes / rwng
mowddwy a ffenllyn / yn yr hwn
le ir ymladdyssant yn grevlon
gan dyny Barvav i gilidd / ac
yn y diwedd i lladdodd Arthur
bytta gawr ac er hyny hyd heddiw
er kovedigaeth am hyny / i
gelwir y lle hwnw rhiw /r/
Barvay / ac yn ymyl yno
dan y rriw honno i mae bedd
Bytta gawr iw weled
heddiw ar ymgyvarvod hwnw

[td. 126r]
a vyssai dalm o amser kyn lladdiad
yr anghenvil vchod / am Elen nith
howel / ar howel hwnw a barodd
gwneythyr ylysendy [~ elusendy ] ywch benn
bedd Elen ar y mynydd hwnw /
ac wedi manegi i Arthur vod
lles amherawdyr rhyvain / wedi
pobilliaw or ty arall ir avon /
ac yna anvon kenadav a oric Arthur
at yr amherawdr / ac erchi iddaw
adaw ffrainc ai thervynav yn llonydd
ne roi kad ar vaes i Arthur
dranoeth / ac onide ni chadwai gyfraith
arvav ac ef / Sef oedd y
kenadav / Gwalchmai / Bosso Iarll
rhydychen / Geraint Gaerwys or
ysbaen a bedwyr bentrilliad a
llawen vy gan lu Arthur vyned
Gwalchmai yno / dan dybied i
kymhellai ef hwynt i frwydro / ac
wedi manegi i les ddyvod kenadav
oddiwrth arthur / ac ystyried o
honaw i madrodd hwynt / yr amherawdr
a ddyvod / mae Iownach oedd i
Arthur liwiaw ynys Prydain
na myned ymaith ac yna i

[td. 126v]
dowad Gaynus nai yr Amherawdr
a ddyvod hwy
o lawer yw ych tavodav chwi /r/
brytaniaid nach kleddyddav chwi
Sef a oric Gwalchmai / yn chwimwth
tyny i gleddav / a lladd
Gaynus gar bron yr amherawdr
ac yn esgid myned ar i mirch ill
pedwar a wnaythant / a gwyr
rhyvain yn i hymlid / i geisio dial
y gwr arnynt / Sef geraint oedd
olaf / ac yn vlayna or ymlidwyr ir
oedd Marcinicus / i ddial
y gwr / a Bosso Iarll a droes atto
ef / ac a drawodd Marcinicus ar
i benn ai gleddav / oni holldodd hyd
i ddwyvron / gan erchi iddaw vanegi
iw gydgymydeithion yn yffern
vod yn hwy kleddyddav y brytaniaid
nai tavodav / ac o gyngor gwalchmai
/ aros yn gytyn a wnaythant
yr ymlidwyr / a lladd pawb i wr
or rhai braynaf o honynt / ac val i
ddoeddent velly yn gyvagos i

[td. 127r]
goed nychaf / chwech mil or brytaniaid
yn rhoi kri ar y rhyvainwyr / ac ai
lladdyssant yn greylon / a dala eraill
a wnaythant / ac yn y diwedd i kymell
i ffo / a ffan glyby pentraink /
Seneddwr o ryvain hyny / i doeth yntav
a dengmil o wyr Ryvain / yn borth
ir rhyvainwyr / ac ar y rhythyr
kyntaf / gyrry ffo ar y brytaniaid / ai
hymlid ir koed i byassent or blaen /
ac yna i llas llawer o bobty / ac
ar hyny Edyrn ap nydd / a ffymp
mil o wyr arvog a ddaeth yn borth
ir brytaniaid a kynal i klod ai
syberwyd a wnaythant a gwrthneby
y rhyvainwyr a wnaythant / a
pentraink.. Seneddwr / yn anog i
wyr i gyrchy yn grevlon / a ffan weles
Bosso Iarll rhydychen hyny / galw
a oric anivair / a myned ar i kyvair a
galw Gwalchmai atto / a dwedyd
wrtho / ar y rhan waytha / ir ym i / a
rac ofn kael ohonom i gerydd gan y
brenin / moyswch i ni gid geisio gorvod ar
Bentraink / trwy i ladd / ney i ddala
ac ar vrys i daethant trwy vyddinoedd
gwyr rhyvain / a thyny

[td. 127v]
Pentraink oddiar i varch / ai rwymo
yn sickir / ac yno i by vrwydyr galed
o bobty / ac yn y diwedd i gorvy /r/
brytaniaid arnynt / gan ddwyn
pentraink ganthynt / yw byddin
i hvn / ac o newydd myned i ymladd
a gwyr rhyvain / ac yn y diwedd i
gyrry i ffo / ar rhai ni bv wiw i
dala / i lladd ai hysbeilio / ac velly
i daeth y brytaniaid ar karcharorion
ganthynt / hyd y lle / i
roedd arthur / a manegi iddaw
gwbwl or damwain / a llawen vy
gan Arthur mor rwydd viassai
ragddynt yn i absen / ef / ac yno i
gorchmynodd Arthur i Bedwyr Ben
trilliaid / twyssog Normandi / Syr
lamcelot du lac Kattwr Iarll
kerniw / Borel Twysog / ac eraill
hebrwng y karcharorion hyny i
baris / ac yna pan glowes gwyr
Rhyvain hyny / deffol trigain mil
o wyr arvoc / ai hanvon ar hyd
nos i ragot y

[td. 128r]
karcharorion ac yw rhyddhav ac o vlaen
yr aniver hyny Seneddwr ryvain
a elwid Qintus / Evander Brenin
Siria / ac Sertornus o bilia / ac velly
aros a wnaythant mewn lle dirgel a
thranoeth i daeth gwyr Arthur ar
karcharorion hyny hyd y pant
koedawc / lle i roedd y rhyvainwyr
yn aros / a chodi a oric or ryvainwyr
yddynt ai gwasgary yn ddrwc / sef
a oric y brytaniaid / a rhanyssant yn
ddwy ran / nid amgen Bedwyr a
Richard o baldwn / i gadwr karcharorion
/ ac o vlaen y vyddin i roedd / kattwr
Iarll kerniw / Syr lanncelot a
Borel dwysog yn ymladd / ac yn llidioc
y rhyvainwyr a gyrchodd y brytaniaid
ac nid oedd ohonynt ywch ben dengmil
ac yna i daeth Gwidiart Twysog
poytyers / a thair mil yr borth ir
brytaniaid / ac yna dial i twyll
arnynt a wnaythant / ac yna i
llas Borel Dwysog / kans

[td. 128v]
Evander Brenin Siria / ai brathodd
ef / a gwaiw oni vy ef varw / a
ffedwar o varchogion da eraill a
las yno / o wyr arthur nid
amgen / hirlas o Eiliawn meiric
 ap kattwr Iarll kerniw
halidys o dingol / a khai ap Ithel
ac er kolli hyny ni adodd y
brytaniaid vn or karcharorion i
ddianc / Namyn gyrry ffo ar y
rhyvainwyr / ac ar y ffo hwnw
i llas Evander ychod / a viltanus
Seneddwr o ryvain / ac wedi y
gorvod hwynt / i doeth y
brytaniaid ar karcharorion
i baris / gida rhai a ddaliwyd
hevyd y dydd hwnw / ac oddyno yn
llawen i daethant adref at
Arthur / a manegi iddaw ef i
damwain / ac yna i kymerth
lles / yr amherawdyr dristwch
mawr yndo i hvn / ddryced a
vysai i ddamwain ef / a myned
yn i gyngor a oric i wybod [

[td. Llst 129, 44v]
pw vn a wnai,
ai myned i geissiaw nerth iddaw adref ai peidiaw. Yna i cafas
yn i gyngor fyned i'r lle a elwir Licris, ag yno
i buant y nos honno. A ffan glybu Arthur hynu, myned
a wnaeth hud y lle a elwyd y Glyn Ancessia, canys yno
y doe'r emerawdr dranoeth. Ag yno ir arhoes
Arthur hwynt, a rhoi i farchogion o'r naill tu a Morydd,
iarll Caerloiw, o'r blaen. A beddino i lu a wnaeth yn wyth

[td. Llst 129, 45r]
byddin, ag ir oedd bum cant a chwe mil o wyr ymladd
profadwy ymhob byddin. Ag yna, wedi i parattoi hwynt
yn gymhedrol, a'i dysgu a wnaeth Arthur i gyrchu
ag i aros cyfle. Ag ymlaen pob byddin ir oedd dau
farchog clodfawr, profadwy. Ag o flaen y kyntaf ir
oedd Aron ap Kynfarch, brenin yr Alban, [a] Chattwr, iarll
Cerniw, a'r fyddin honno oedd o'r tu deau. Ag o'r tu arall ir
oedd Rosso, iarll Rhydychen, a Geraint Caerwys o'r Ysbaen.
Ag o flaen y trydydd fyddin ir oedd Achel, brenin Denmark.
Ag o flaen y pedwerydd fyddin ir oedd Howel Ymber Llydaw
a Gwalchmai ap Gwyar. Ag yn ol y pedair byddin hynu
ir oedd pedair eraill a dau farchog o reolwyr ar bob vn
ohonynt. Ymlaen y kyntaf ir oedd Cai Hir ap Cynyr
marchog a Bedwyr iarll, ymlaen yr ail ir oedd Holidnys
twysog Rydain, a Gwidiart, twysog Poytyers, ymlaen
y trydydd Owain o Gaerllion a Gwinwas o Gaer Gaint,
ag ymlaen y bedwerydd ir oedd Irien o Gaer Vaddon a
Gwrsalen o Gaerdor, a elwir heddiw Dorchester. Ag yn ol
hynu ir oedd Arthur a lleng o wyrda gidag ef, ag o'i
flaen ir oedd delw a draig euraid yn arwydd noddfa
i bawb o'r brathedig. A rhyfedi Arthur i hun oedd chwech
o wyr, chwe chant a chwe mil. Ag yna i pregethodd ]

[td. 129r]
arthur yw wyr val hyn / ha wyr
da heb ef / hysbys yw / may och nerth
chwi ach kyngor i kavas ynys
Prydain vod yn benna ar ddeg tyrnas
arhigain / ac etto trwy ych
nerth chwi ni a orvyddwn ar wyr
Rhyvain / ac a ddialwn arnynt
geisio ein kaethiwo ni am ein ryddid
/ koffewch yr awr hon / am eich
segyryd ers talm o amser / trwy
ymddiddan a gwragedd / a choffewch
i ennynny yn eych glewder ach
milwriaeth / a byddwn ni gyttyn i
gynyny gwyr rhyvain megis
anveiliaid / kans ni thebygynt hwy
i rroem i gad ar vaes yddynt
ac os chwchwi / wyr da / a wnaf 
vynghyngor / mi ach anrhydeddaf chwithav
wrth eych bodd o bob da a thiroedd
/ a vytho yn vy meddiant i / a ffawb
onaddynt oedd yn wllyssiawl / i wneythyr
kyngor arthur / a ffan glyby
yr amherawdyr / vod Arthur yn kynghori
i wyr / Sef a oric ynte / pregethy
yw lu / a manegi yddynt
i dylai /r/ holl vyd vod yn

[td. 129v]
ostyngedic ney yn yfydd i ryvain
a choffewch mai eych teidiav chwi
a gedwis ryvain yn benna lle or
byd / o ddewrder milwriaeth a ffyniant
/ na wrthodwch chwithav
angav / er kadw braint rhyvain /
ac ymleddwch yn gadarn / megis
i gallom ni ovyn tyrnged o ynysoedd
eraill / O wyr da koffewch / na
ddoythom ni yma er ffo / namyn ymladd
yn gyttyn / an gelynion / a
chyd ac i bont hwy glewion ar y
dechrav / Safwn i ynghyd yn
ddewrwych / ac velly i gorvyddwn
ni arnynt / a ffan ddarvy iddaw
yr ymadrodd hyny / ef a vyddinodd
i lu yn ddavddeg byddin /
ac ymlaen pob byddin / lleng o
varchogion arvoc / a dav varchog
yrddol glodfawr yn ryolwyr /
ymlaen y gyntaf ir oedd flaidd
ac aliffantus Brenin yr ysbaen /
ymlaen yr ail vyddin ir oedd /
Irtagus Brenin parcia /

[td. 130r]
a morffilipus Seneddwr o ryvain / ac
ymlaen y drydydd vyddin ir oedd
Boctus Brenin medveddwr a
Seneddwr arall o ryvain / ac
ymlaen y bedwerydd vyddin ir oedd
Borex Brenin Bilia / a kampus
mibernus o ryvain / ac yn ol y
pedair hyny ir oedd pedair eraill
ymlaen y gyntaf i roedd Serus
brenin y twr / a ffentrassus Brenin
yr aipht / ymlaen yr ail ir oedd
ddav Seneddwr o ryvain / ymlaen
y drydydd ir oedd / Politus Brenin
affrica / a thwysog arall / ymlaen y
Bedwerydd / ir oedd Tenitus Twysog
Sirinia / a Seneddwr arall / ac yn
ol yr hain ir oedd pedair byddin
eraill / ymlaen y gyntaf ir oedd
Penitus Seneddwr o Ryvain / ac ymlaen
yr ail ir oedd Siprus Twysog
ac ar y drydydd vyddin ir oedd Siprus
Twysog arall / ac ar y drydydd
vyddin i roedd meiric or coed / o
vlaen y bedwerydd vyddin

[td. 130v]
ir oedd Rain Seneddwr o Ryvain / ac
yn ol hyny / ir oedd yr ymherawdyr
yn dysgy i wyr lle i gwelai
reitiaf ac ynghanol y vyddin
i peris ef roi / Eryr o Aur / mewn
ystondardd / yn arwydd ir neb a bai
berigl arno / ymgyrchy a oric / ac
yn gyntaf / i kyvarvy byddin
Brenin yr ysgaen / a byddin / Aron
ap kynvarch / a khattwr Iarll
Kerniw / a dechrav / ymladd yn
grevlon a wnaythant / ac yno
geraint Gaerwys a Bosso Iarll
rhydychen / ai byddin hwyntav yn
tylly byddin gwry rhyvain / ac
ymffystio yn grevlon a wnaythant
blith drafflith / oni glowid i
twrf yn cyffroi /r/ ddaiar / gan
drwst Saledav y milwyr / yn
ffystio /r/ llawr / ac yna i llas llawer
o bobty / val ir oedd vlin i drythv
ac yna i brathodd Boctus Brenin
Medveddwr / kai hir ap kynar
varvoc yn i Anghevawl
oni vy ef varw / ac er

[td. 131r]
hyny y vyddin a ddyc i gorff ef
oni garvyant a byddin brenin bilia
a hono ai gwasgarodd hwynt / ac
er hynny y brytaniaid
a ddygassai i gorff ef hyd
y lle i ddoedd y ddraic auraid / Sef
a oric hirlas nai Bedwyr bentrilliaid
pan weles kai hir / gwedi
ladd / kymryd gidac ef drychant
marchog arvoc grymys provedic / ac
megis baedd koedawl ymysg
llawer o gwn / rhythraw yn i mysg
ac ymladd oni gavas ef gwrdd a
Boctus vchod / ai dyny gidac ef
ar gefn i varch hyd yn ymyl
korff kai hir / ac yna i drylliwyd
ef yn ddrylliav man / ac yna i daeth
hirlas at i vyddin i hvn / ai hanoc
i ymladd / ac yno i kolled llawer o
bobty ac i llas or ryvainwyr
aliffantus Brenin yr ysbaen / ac milinus
Seneddwr o ryvain / ac i llas
o wyr arthur holdnys twysog
Rydain / a Leodegar o vlwyn
a thri thwysog o ynys

[td. 131v]
Prydain / nid amgen gwnwas o gaer
gaint / wallon or mwithig / ac yrien
o gaer vaddon / ac yno gwahaodd
blaena or brytaniaid / ai hencil hyd
at howel ymber llydaw / a
gwalchmai / ac yna ymgryvhav /
a oric / ac yn wychr kyrchy i gelynion
o newydd / ar neb a gyffyrddai a
Gwalchmai / ac vn dyrnod i lladdai
ac velly ni orffwysodd gwalchmai
oni ddaeth ef i vyddin yr amherawdr
ac yna i llas kynvarch twyssog
 Teygr / a dwy vil gidac ef
ac yna hevyd i llas trowyr da
eraill / nid oedd waeth i gwrhydri
na thwysogion / Sef a wnaeth howel
a gwalchmai ymgadw ynghyd a
lladd a gyffyrvai a hwynt / ac or
diwedd i kavas gwalchmai yr
hwn oedd ef yn i ddamyno / nid
amgen / nad kwrdd a lles amherawdr
rhyvain / ac nid oedd dim
well gan yr amherawdr nac
ymgaffel a

[td. 132r]
Gwalchmai a newidiaw dyrn
ac yna i daeth aniveiri o wyr rhyvain
am benn howel a gwalchmai
oni vy raid yddynt ffo hyd at
arthur ai vyddin / a ffan weles
arthur hyny / llidio yn vawr
a rhythro i wyr rhyvain / ai
kymyny ai gledfwlch / a dwedyd
yn ychel wrth i wyr nac oediwch
nac oediwch wyr da / ddial
kamav yn teidiav ar y gwyr
hyn / rhowch yddynt ddyrnodav
llidioc / a gelwch ych ffyniant
attoch / val i gwnaythoch erioed
ac ni byddwn ni wrthynt / ac o
vlaen i wyr kyrchy i elynion
a wnaeth Arthur / val llew
krevlon / ar sawl a gyffyrvai ac
ef / ar vn dyrnod i lladdai / ac
am hyny i ffoes pawb rhagddo
val i ffoe y devaid rhac y llew newnawc
kans ni thyciav i neb
arvay rhac i ddyrnodav ef / ac yna
i kyvarvy Arthur / a Sertoruus
Brenin bilia

[td. 132v]
a ffeltesus Brenin Bettania / ac ef
a laddodd y ddav hyny / ar ddav
ddyrnod / ac yna pan weles pawb
arthur yn digoni / Enyny a wnaythant
hwyntav / i ymladd o hyny
allan / trwy ddysg i harglwydd vrenin
ac yna gwyr rhyvain yn anog i
gwyr hwyntav / ac ni ellid rhivedi ar
a las o bobty / ac yna i daeth morydd
Iarll caer loiw / a lleng o wyr da
gantho / ac o newydd kymyny gwyr
rhyvain / ac yna i daeth vn or brytaniaid
/ ac a vrathodd / les yr amherawdr
/ oni vy ef varw / ac ni
withis pwy ai gwnaeth / ac yna
kymell gwyr rhyvain i ffo yn wradwyddys
/ lle i llas or rhyvainwyr
ynghylch kant mil / ac yna
i llas Brenin yr aifft / a davnaw
Brenin eraill o amrevailion ynyssoedd
o barth yr amherawdr / a thrigain
o Seneddwyr Ryvain / a dala tri
onaddynt yn vyw / ac

[td. 133r]
yna i peris Arthur wahanv kyrff / i
wyr ef / o ddiwrth y rhyvainwyr / ai
kladdy yn anrhydeddys yn y mynachlogydd
nessaf ar Eglwisi / ac a
ddygbwyd korff Bedwyr Bentrilliaid
Twysog normandi / hyd y dinas a
wnaethoedd ef i hynan yno / a
khorff kai hir / a ddycbwyd / hyd y dinas
oedd iddo ef i hvn / o vewn angioy /
ac yno i kladdwyd ef / a holdnys
Twysog Rydain / a ddycbwyd i fflanndres
/ ac yna i kladdwyd ef / ac
yna i parodd Arthur amdoi korff
yr amherawdr / ar Brenhinoedd eraill
o Seneddwyr Rhyvain / yn anrydeddys
/ mewn gweoedd o blwm / ac a roes
ef vaddeyant / ir tri Seneddwyr
byw ychod / ai rhyddhav hwynt / o
bob perigl a khaethiwed / dan ammod
yddynt hebrwng y kyrff ychod i ryvain
yw kladdy / a dywedyd wrth y penaithiaid
yno / ar vrys yn gorfforol gan
hysbyssy yddynt / mae honno oedd y dyrnged
a gaent hwy gantho ef / ac o
byddai hynny yn ry vychan / hwy
a gaent ymhwaneg or

[td. 133v]
kyffelib / pan ddelai ef yno / a gorchymyn
yddynt / na ddelent eilwaith i
ynys Prydain i geisio tyrnged /
ac wedi traythy y geiriav hyny
ymado a wnaeth y Seneddwyr ychod
ar kyrff ganthynt / nid amgen rhai
o naddynt ar gartweiniav / eraill
ar gerbydiaid / tya rhyvain / ac
ar gorff yr amherawdr ir oedd
arvay yr ymerodraeth / ac ar
bob vn or kyrff eraill / yr arvay
a oedd yn parthyny yddynt / pawb
yn i alwedigaeth / ac yn ol hyny
arthur aeth ai varchogion / ac ai
lu gantho i burgwyn / i ddarostwng
y wlad honno / ac yno i trigodd ef y
gaiaf hwnw / a dechrav y vlwyddyn
rhacwyneb / ir aeth Arthur drwy
wledydd Lorayn / Braband
fflanndres / almayn / Lombardi / oni
ddaethant at dinas oedd o vewn twsk
yr honn ddinas a wrthnebodd Arthur
ond or diwedd ymroi a wnaythant bawb
i Arthur / wedi lladd o

[td. 134r]
honynt / Syr fferant marchog yrddol
ac ynghylch vgain mil o wyr y gwledydd
hynny / ar amser hwnw wrth ymgyrchy
ai gilidd / i daliodd gwalchmai yno
Syr priamus / marchog or gwledydd hyny
ac wedi ddala ef / i damynodd ef ar
walchmai ddywedyd iddo ef i enw /
a ffa beth oedd ef ai marchog ai gwas
ac yna ir attebodd Gwalchmai ef
ac i dowad wrth priamus / mai gwas
Ivanc oedd ef o gegin y brenin arthur
O dydi / heb priamus / o dydiw bechgin
a choegwyr arthur / kyn wched a
thydi / mae /n/ rhaid yw varchogion
ef vod yn wrolwych / ar amser
hwnw hevyd i llas yno Syr
Gherrard / marchog or brytaniaid / a
llawer eraill / ac yna / Arthur a
ddanvones twyssog y dinas ychod o
wlad Twsk / yn garcharor i gastell
doral a elwir heddiw kastell
dovyr / ac wedi darvod i arthur
wneythyd ryolwyr / a dosparth [yn]
y gwledydd hynny /

[td. 134v]
myned a wnaeth ef tya rhyvain / a ffan
glyby pawb wroldeb Arthur / dowad
a wnaythant penaithiaid pob gwlad
or tyedd hynny Imroi i arthur
a myned tan dyrnged iddo ef / ac velly
I daeth holl Seneddwyr a ffenaithiaid
rhyvain Imroi i arthur / ac
velly i roedd Arthur yn myned
tros vynydd mynnav tya rhyvain /
ac ai elwir yn yr Estron Iaith
Alpes / i daeth at Arthur genadav
o ynys Prydain / a manegi iddo a wnavthant
/
ddarvod i vedrod / i nai vab i
chwaer wisgo koron y
brytaniaid / am i benn / a khymryd
Gwenhwyvar yn wraic iddo / ar i
wely / ar koweth oll / ar amser
hwnw i gorvy ar vedrod / ollwng
Selix i wahawdd y saysson o germania
/ I ddyvod i ynys I ynys
prydain / y maint mwiaf ac ellynt / yn
borth iddaw ef / gan addaw yddynt
Gimint ac a roesai wrtheyrn /

[td. 135r]
nid amgen nac o hwmber hwnt a swydd
kent hevyd / ac wrth y dymyniad
hwnw / I daeth saith o longav
gantho i ynys Prydain / yn llawn
o baganiaid arvog / ac erbyn i dyvod
velly o Germania / vo ddarvyssai i
vedrod gael vndeb y ffeichtiaid / yr
yscotiaid / ar gwiddil / a ffob rhyw
genedlaeth ac oedd gas ganthynt
arthur / oni gavas Medrod / gidac
ef / bedwar vgain mil o wyr ymladd
a dyvod a wnaeth medrod ar aniver
hyny gantho / hyd Doral / a elwir
heddiw dovyr / i geisio Rhacot Arthur
ir tir / ac velly i daeth ar y tir
ac arthur ai lynges ar y mor / yn
ceisio dyvod i dir / a llawer a las
yna o bobty / ac yna i llas Aron ap
Kynvarch a Gwalchmai / a thrwy
lavyr mawr / a cholli aniveri o wyr
da / i daeth Arthur ir tir / ac yna
kymell a wnaeth ef vedrod i ffo / ac
yna i parodd Arthur gladdy aron
ap kynvarch / a gwalchmai yn anrydeddys
/ o vewn capel oedd o vewn kastell
doral / heddiw dovyr yn yr

[td. 135v]
hwn le i mae asgwrn penn gwalchmai
yw weled hyd heddiw / ac ol dyrnod
arno or hwn y by ef varw / ac yna
hevyd i peris Arthur gladdy / i
wyr eraill yn y manachlogydd / ar
eglwisi nessa ac yn lle Aron ap
kynvarch / i rhoes Arthur / yrien
ap kynvarch i vrawd ef / yn
vrenin Alban / a ffan wyby
wenwyvar hynny / myned a oric
hi / i gaer llion Arwysg / a chymryd
Abid mantell am deni gida
/r/ mynachessav eraill / yn eglwys
Giliws verthur / ac wedi /r/ ffo
hwnw / galw a wnaeth Medrod i
wyr atto / a myned i gaer wynt /
a chadarnhav / y dinas arnynt /
ac ar ben y trydydd dydd gwedi
hynny / ac wedi iddo gladdy i
wyr / i daeth Arthur / i gaer
wynt / ai lu gant / ac i daeth
medrod / ai lu / i maes or gaer
ac a roes gad ar vaes i Arthur
ac yna i by ymladd kreylon
ac i llas llawer o bobty /

[td. 136r]
ac yn y diwedd i ffoes medrod / ai lu
gantho / ac a aeth tya kherniw /
ac nid ymbwyllodd Arthur / i gladdy
i wyr / namyn / ymlid / medrod dwyllwr
/ ac yn drist am i ddianc ddwy
waith oddiarno / ac velly / ar avon
gamlan / ir arhoes medrod / Arthur /
Sef rhivedi llu Medrod / khechgwr
a khwechant / a thrigain mil / ac
am hynny / gwell a vy gantho / aros
Arthur / na ffo o le i gilidd / a byddino
i wyr a oric medrod / yn naw byddin
Sef rhivedi ymhob byddin / lleng o
wyr arvog / ac yna / ir addewis
medrod / yw wyr / os ef a orvyddai
wneythur i bodd oll / o dir a daiar
a da / ac yn i erbyn yntav / i byddinodd
arthur i wyr yntav / ac i dowad
wrthynt / ha wyr da / nid ymladd
y bobl / draw yn gytyn / kans pob
kasgal ysgymyn anghyvreithlon ynt
ac nid vn galonav / a khristnogion da
ffyddlon /

[td. 136v]
a minav hevyd y sydd / ar yr iawn /
a hwyntav ar y kam / ac velly gan
ddysgv i wyr / i kyrchodd / Arthur
i elynion / ac ymladd / ef ai lu
yn grevlon ac yn orthrwm /
val na welsid i kyffelib / or blaen
onid oedd rhai byw / yn myned oi
pwyll / gan gri a llef / yr rhai lled
veirw / ac yno / wedi treilio
llawer y dydd hwnw / i kyrchodd
Arthur y vyddin ir oedd medrod yndi /
ac ar vrys gwasgarv /r/ vydin
ai thylly / megis llew newnawc
ymlit eniveilied dof / ac ar y
rhythr hwnw / i lladdodd ef vedrod
a miloedd gidac ef / ac er i ladd
ef / brwydro a wnaythant / ac
ymladd y vrwydyr fwiaf ar a
vy erioed / ac yn y rhythyr
hwnw / i brathwyd arthur yn i
gavdawd / ac ni widdis pwy ai
brathodd / ac ni ddiengis or gad
hono / ond rivedi bychan /

[td. 137r]
henway twysogion medrod a las yno
nid amgen Eiaes Bryt a Bassynt
or saysson / ac or gwiddil kilamwri
Gilaffadric / Gilasgwrn / ac Ilarch
or werddon / y ffeichtiaid ar yscotiaid
oll / ac o barth arthur i llas
yno Ebras Brenin llychlyn /
achel Brenin Denmarck kattwr
leineing Iarll kerniw / a chaswallon
lawhir / arglwydd
Gwynedd / a llawer o viloedd gida
hynny / ar ymladd hynny oedd
ddyw llyn y drindod /
henway marchogion Arthur / a
ddiengis yn vyw or gad hono /
nid amgen dervel gadarn / wrth
i gryfder / kariadog vreichvras
o nerth i waiw / padarn beisrydd
wrth i bais / y vagddy hyll / rhac
i hacred / Sandde bryd angel
rhac i deced / ac o hyny hyd
heddiw i gelwir y gad hono y
gad gamlan / o achos i bod hi ar
avon gamlan / ac oddyno i daeth

[td. 137v]
Arthur i ynys avallach / ar ynys
hono y sydd yn gyvagos at vynachlog
glassenburie yw
venignaethy / a ffan wyby arthur
na doedd amddiffin iddo / ond marw /
anvon a wnaeth ef i gleddav gledvwlch
gidac vn oi varchogion / a gorchymyn
iddo / i vwrw / ir llyn dwfr / oedd yn
gyvagos at ynys avallach ychod
ac velly ir aeth y marchog tya /r/
llyn hwnw / a chan dybiaid i gallai
ef gadw /r/ kleddav iddo i hvn / i
gyddio a wnaeth ef mewn lle dirgel
a ffan ddaeth y marchog eilwaith
at Arthur / govyn a wnaeth ef ir
marchog a vwriyssai ef y kleddav ir
llyn / a ffa ryveddod a welsai / ar
marchog attebodd ac a ddowad / ddarvod
iddo vwrw kleddav ir llynn / ac na
welsai ef ddim ryveddod / ond yn
vnic tonnav or dwfr ar y llynn
nid yw hyny wir heb y Brenin
Arthur / ac or achos hynny does
... eilwaith ar vrys / a

[td. 138r]
gwna di vyngorchymyn / val ir wyti
yn ovalys am danaf / ac ar hyny
ir aeth y marchog hwnw
eilwaith at y kleddav ychod / ac a
welai ef mai pechod a cholled oedd
vwrw y kleddav hwnw ir llynn / ac
ai kyddiodd ef eilwaith / ac velly
i daeth ef eilwaith at arthur
gan ddwedyd i vod ef wrth y llynn
a gwneythyr o hono ef i orchymyn /
am y kleddav / ac Arthur a ovynodd
ir marchog pa beth a welsai ef / y
marchog attebodd ac a ddowod / na welsai
ef ddim yno / ond y dwfr yn kyffroi
yn donnav gwlldion / ar hynny i dowod
Arthur wrtho ef O tydi varchog
anffyddlon anghowir / dwy waith I
twyllaist vi / yngwrthwyneb vymddiried
i ti / lle ir oeddyt yn dy
gymryd ti / yn varchog anrhydeddys
ac am hyny / heb /r/ arthur wrth y
marchog / does ar vrys

[td. 138v]
dracheven / a bwrw /r/ kleddav hwnn
ir llyn / val i gorchmynais i ti / gan
ddwedyd ymhellach / os ef ni wnai
hynny / i lladdav ef y marchog / o chai
ef i weled eilwaith / ac yna / ir
aeth y marchog at y kleddav / ac
i kymerth ef y kleddav / ac ai taflodd
ymhell ac gallodd ir llynn / ac ar
hynny i doeth llaw a braych
allan or dwfr / ac a dderbynodd
y kleddav / ac velly troi y kleddav
deirgwaith ywchbenn y dwfr a
Syddo ir dwfr / ac wedi hyny i
daeth y marchog at Arthur /
ac a draythodd / val i gwelsai / ac
yno i dwedodd Arthur wrtho ef
fod hynny yn wir / ac yngwydd y
rhai a oeddent yno / yn bressenol
i gorchmynodd Arthur / goron y dyrnas
 i Gystenin ap kattwr i gar ef
ac a vy varw / wedi iddo ef dyrnassy
chwech blwyddyn arhigain
ac ai kladdwyd ef

[td. 139r]
o vewn mynachlog Glassenburi /
hevyd i mae o vewn pall Edward
Sant / o vewn mynachlog
Westmestr / Sel y Brenin Arthur
yn i khadw / ac yn ysgrivenedic
oi hamgylch y geiriav hynn /
patritius Arthurus / Britanie
Gallie / Germanie / Dacie
Imperator / yr hwn Sel oedd wedi
i gwneythyd / ynghyd / o vlaen
i Arthur ladd lles amherawdr
ryvain / enwav rhai o varchogion
Arthur / ac or vort gronn / nid amgen
/ tri o varchogion aur Davodiawc
/ Gwalchmai ap llew / drydwas
ap dryffin / aliwlod ap
Madoc ap ythur / ac nid oedd vn
Brenin na thwyssawg ar ir elai
yr hain attynt / nas gwrandawent
a ffa neges bynac a geisient ni
ffallai neb yddynt / a thri o varchogion
 Gwyry  / nid amgen Bwrdd
ap Bwrdd / Predyr ap Evroc

[td. 139v]
Iarll / a Galahad / ap Syr Lanncelot
du lac / a ffa le bynac ir elai /r/ heini
ni allai na chawr / na milwr i haros
hwynt / er kadarned a vai / a thri
khad varchog oedd yno / kattwr Iarll
kerniw / lanncelot du lac / ac
Owain ap yrien Reged / yr hain
ni khilient / ac nid mogelynt /
nac er gwaiw / Saeth / na chledde
mewn brwydr / ar dydd i kai
Arthur i gweled hwynt / ni khai
ef ddirmig / na chwilidd /
ac am hyny i gelwid hwynt /
kad varchogion / a thri lledrithiog
varchogion oedd yno / Meny ap
Tegwared / Trystan ap talwch
a chai hir ap kynar varvog
kans ymrithio a wnaent / drwy
ddierth Gelvyddydon / yn y ffyrf i
mynent pan vai galed arnynt
ac am hynny / anodd oedd i neb i gorvod
rwng i kryfder / i dewrder / i hvd
ai lledrith / Tri brenhinawl

[td. 140r]
varchogion oedd yno / nassiwn a elwir yn
yr estron iaith / achel Brenin Denmarck
howel mymber llydaw / a medrod ap
llew ap kynvarch / kans nid oedd na
Brenin nac amherawdyr a ballai
yddynt oherwydd i tegced ai doethed
pan ddeleynt mewn heddwch / na
milwr na ryssw allai i haros pan
ddelynt i ryvel / ac am hynny i
gelwid hwynt yn varchogion Brenhinawl
/ a thri kyviawn varchogion
oedd yno / Blas Iarll llychlyn
kattwr ap gwrlliw / a phedrod
baladrddellt / kyneddvay yr hain /
oedd pwy bynac a wnelai gam ar
gwan / hwynt a maylent yn i gweryl
ar y kyviawnder / ac er gwched vai
hwynt ai lladdent / ne beri ir gwan
i gyviownder kans ymroi a wnaethent
i gadw kyviownder / ar gwan
hwy ai helpynt ymhob kyvraith / Blas
yn y gyvraith vydol kattwr yn y
gyvraith eglwys / a phedrod ....

[td. 140v]
yn y gyvraith arvay / ac am hyny
i gelwid hwynt khyviawn varchawg
tri Gwrthnebys varchogion oedd yno /
Morvran ap Tegid Sandde bryd
angel / a glewlwyd gavelvawr / kans
Gwrthnebol oedd gan bawb
bally yddynt / nid amgen Morvran
gan i hagred / Glewlwyd gan i
vaint ai gryvder / ac am hyny i
gelwid hwynt gwrthnebis varchogion
/ Tri kynghoriaid varchogion
oedd yno / nid amgen Kynan ap
Kledvai Eiddyn / Aron ap
kynvarch Brenin yr alban / a
meiriawn ap llowarch hen / y
tri hyn oeddent kynghorwyr
Arthur / pa ryvel na bygwth a vai
arno / hwynt ai kynghorent / val na
chai neb y gore arno / ac am hynny /
i gorvy ef bob kenedleth trwy dri pheth
oedd yn i galon ef nid amgen gobaith
da / arvay kysegredig a rinwedd

[td. 141r]
i vilwyr / ac am hynny i roedd ef vrenin
ar ddeg tyrnas arhigain / ac yn
amherawdr yn rhyvain / hevyd yn ol
marvolaeth y Brenin arthur / llawer
oi varchogion ai vilwyr ef aethant
yn grevyddwyr / ac a rivir ymysg
aniver y Saint / ac a gysegrwyd / ac
a gysegrwyd llawer o eglwisi yn i
henw hwynt / nid amgen / llanddervel
o vewn penllyn yngwynedd / yn enw
dervel gadarn / llanpadarnvawr
llanpadarn odyn / llanpadarn drefegloys
/ yn enw padarn beisrydd
o vewn Sir abertivi yn y deav / ac
eraill o eglwisi / mewn manav eraill
nid amgen llan pedroc o vewn llynn
yngwynedd / a gysegrwyd yn enw
pedroc baladyrddellt

Tervyn
Gwnaethpwyd â / Made with Concordance