FY ffrin am cymydogion clowch hanes Dyn lled wirion,
Fel y cefais gryn ysport ynghylch pop shiort o ddynion.
Codi a wneis ifynu ar ddydd yr Arglwydd Jesu,
A myned i ystyried yn fy mryd ar gwrs y byd o bobty.
Mi welwn gwmni grymus yn cyrchu att ddrws yr Eglwys,
Er nad oeddwn ond dyn ffol mi eis ar i hol yn hwylys.
Ag yno'r oedd yr offeiriad oi blaene i gid yn dwad,
Gwedi gwisgo am dano yn Lanc oddi allan yn i Ddillad.
Mynd ar i ol yn Amlwg a phawb yn ddigon di ddrwg
Mi dybiais fine fod ger bron Angylion yn fyngolwg.
Dechreuau ddwyd i bader ar boble ar i gyfer,
Nid oedd o honyn myfi a wn yn gwrando ar hwn mor hanner.
Rhai oedd yn cysgu yn drymion ai clystiau yn gaead ddigon,
A rhai yn Edrych yno yn ffri ar degwch i cymdogion.
A rhai yn dweyd yn usswydd y botho ych dillad newudd,
Dechrau holi yn ddigon ffraeth er mwyn dyn pwy a wnaeth y deynudd
A rhoi yn chwerthin weithie yn llygaid i caride,
A rhai yn ddigon mawr i bryd ar drin y byd ai bethe.
Pan ddoe nhw gynta allan yr oedd pawb yn llawn o ffwdan,
Er oed ni chlowais yr fath floedd ar morol oedd am arian,
Y person oedd yn gynta yn
rhybyddio yr holl gynlleidfa,
I dalu yr Degwm cyn nos ne ddechrau yr wythnos nessa.
Yr oedd pawb yn rhiw ymofyn rhai ag eisio merwyn,
Rhai am weision ddau ne dri rhai yn hagar weiddi am hogyn.
A rhai yn gweiddi i gore am degwch iw descidie,
Ar lleill yn gweiddi yn arw i nerth am wair ar werth yn rhuwl[e]
Mi glown y gwyr bonddigion yn cyd poerpasru ar person,
Am gaeu o ddynion ddryssau i tai yn erbyn rhai tylodion.
Yr oedd yno rai yn dyscissio lle bae dyn gwan yn llithro,
Am alw ei feistar atto yn glir I fynd ar tir oddiarno.
Dweyd wrth hwnw yn wisgi un anghariadus ydi.
Edrychwch am ych rhent wr llon cyn iddo yn dirion dori.
[td. 5]
A hwnw iw ddysgrasio o chwant ir tir oedd ganddo,
Cynhygie ir aer tan curo i frest rhiw arian ernest arno.
Medd rhai or cybyddion a werthasoch chwi yr ddau eidion,
[D]o mi gwerthes nhw ar i hunt am ddeuddeg punt ond coron.
O hynu o gwmni gole a welswn oll yn yr unlle,
[N]i dduethe neb i demel Duw heb geisio rhuw Negesse.
Ni ddoe mor person yma oddiar ddwywaith tan glangaua,
Oni bae gael Arian glouwon glan gan fawr a manc or mwyna.
Ni ddoe mor clochydd hoeuw ir golwg byth er galw,
Ond er cael gweled pawb or plwy I ymorol pwy su yn marw.
Yr oedd pawb yn cyd ymgomio yn ol y tyb oedd ganddo,
A rhai yn Drogan yn ddiwad fe gwyd y farchnat etto.
Or fynwent pan gychwnen aeth pawb iw ffordd i hunen,
Ychydig oedd mewn moddion ffel iw dilyn fel y dylen.
A rhai oedd yn trin tobaco nhw aent ir shiop iw geisio,
A rhai am lwch iw trwyne tip nid possible mor bod hebddo.
Rhai yn yfed bir a brandi rhai yn galw am lan bibelli,
[R]hai yn tyngu a rhegu gweiddi heb gel rhai yn curo fel y cowri.
Rhai yn chwilied am brydyddion i wneuthyr cerddi newddion
[I] fynd iw lledu hyd pob lle oddi yma i dre gaernarfoen.
A rhai oedd yn ymofun pa newydd sydd o Ruthun,
Medd yr llall yn Dipin is beth ydiw pris yr eullun.
Rhai aeth ir tafarne i wario i bara oi penne,
Wrth yfed cwrw a chal un tant ar wraig ar plant mewn eisie.
Yr oedd rhai ar ol i cinio yn mynd i ganu a dounsio [~ dawnsio],
A rhai yn prynu eiddo ar goel ae r lleill ir foes i fowlio.
Ar lleill yn mund ir parlwr i yfed te a shiwgwr,
[A]g yno clowais ddwyd o hyd holl gwrs y byd yn bowdwr.
Lladd ar bawb oi cyre a Dweydyd pob straue,
[A] phwnio nes darfyddo yr dydd beth myrdd o gelwydd gole.
Nid oes mo well yr rheini am actio pob ysteri,
[O]nd ymbell brydydd ar i din a rhai sy yn trin baledi.
Wel dyna 'r dull ar moddion ei gwelais amriw ddynion,
Nid oedd nemawr ofewn ei ffair yn cofio gair y person.