Adran o’r blaen
Previous section

Barddoniaeth rydd allan o lsg. Caerdydd 6

Cynnwys
Contents

Y Gwr Kadarn, Caerdydd 6, 59–78.
Llyma yr ymddiddan a fv rrwng yr henwr a'r gwr ifaingk, Caerdydd 6, 83–4.
llyma ymddiddan a fv rrwng yr ysbrvd a'i gydymaith, Caerdydd 6, 85–7.
Mair Fadlen a'r kreiriwr, Caerdydd 6, 100–101.
llyma ymddiddan yr enaid a'r korff, Caerdydd 6, 101–106.
ymddiddan y gwas ifangk a'r dryw, Caerdydd 6, 124–5.



[Y Gwr Kadarn, Caerdydd 6, 59–78. ]


[td. 77]


y prolog ne flaenddwydiad

Vy ngwir anwyl gredigion [~ garedigion]
o chychwi sy bobol ffyddlon
ydolwg byddwch fodlon
i 'r geirie a 'r madroddion [~ ymadroddion]
na fyddwch i mor atgas
a 'i kymrvd nhw yn ddiflas
o eisie wllvs a thvedd
i wrando ar wirionedd
kewchi glowed travthv tro
dowch yn vfvdd i wrando
na fyddwch i ry wamal
gwrandewch yn ddistaw ddyfal
yscowch [~ osgowch] oddiwrth bob aflwydd
nid ta [~ da] gormod gwamalrwydd
na farned neb ar y llall
o bydd o 'i ben ddysc a deall
doyded o 'i frawd i feie
a chynghored yr hyn gore
ni fynwn amlesio neb
na doydvd dim gwrthwyneb
ond i 'ch lles a 'ch daioni
ni chynhalia gwrteisi
byddwch bvr yn ych klone [~ calonnau]
a llednais heb fawr eirie
yn gwrtais ych arfere
a distaw ych tafode
doetho a ddwyto leia
ag a gelo 'r hyn gwaetha
o hyny ynill fwy klod
a mwy kariad trwy orfod
nid ydiw gair svr ond gwynt
mae fo allan o helynt
yn kythrvddo y gwirion
nid ta [~ da] mo 'r tafod krevlon
gwyn i fyd a fetro diodde
yfo ynill y chware
fal dioddefodd krist iesv
ymhob peth yfo orfv
rrowch i ffordd bob gwlldineb
ymgroeswch rrag gwrthwyneb
na ddeliwch i grevlondeb
duw a roddo ini rwydddeb
dangosa o 'm meddwl beth
hyd rrydd duw vm ysbrydolieth
drwy dwytsio y kwthogion [~ cyfoethogion]
y kedyrn a 'r gwyr gwchion
sy 'n rroi i goglvd tra ffol
ar goweth a da bydol
yn ysclyso [~ esgeuluso] y nefol
a 'r llywenydd tragwddol
rraga beth ar y ffeiriaid
am na helpen y gweiniaid

[td. 78]
haera i bod yn fydol
gwyn i fyd a fo duwiol
nid oes yma ond enyd
pei kaem gwbwl o 'n gwnfyd
mae 'r gwych yn bragio i goweth
yn ol rryw i natvrieth
yn kanmol i feistr y byd
yr hwn ydiw i wnfyd
yr yffeiriad yn pregethv
ag arno fyth yn ragv
ymhob pwynt o 'i wrthnebv
a hyn nid ydiw garv
yn keisio i droi i 'r ffydd
i difeirwch [~ edifeirwch] tragowydd
ynte heb wrando arno
ar i bregeth yn blino
oni ddoeth ange yn hy
ato i draed i wely
kydnabod yno yn drwch
a chrio ydifeirwch [~ edifeirwch]
galw ar dduw am faddevant
am gybydddra a thrachwant
gweled fod pawb o 'i sclvso [~ esgeuluso]
a 'r byd yn i roi heibio
yn oed i wraig a 'i holl blant
i genedl a 'i ddigoniant
fy nghariadvs gymdeithion
er mwyn duw byddwch gyson
n' edwch i 'ch klonav [~ calonnau] gangkrio
ond yn eglyr ddiscleirio
sefwch meawn kariad perffaith
kryfhewch meawn ffydd a gobaith
gellwch yma ddyscv marw
erbyn deler i 'ch galw
trwy bvr ffydd yngrist iesv
daw ange i 'ch dychrynv
Ymdyrasom yma i 'r vnlle
ar feder datgan chware
ydolwg i chwi hawyr
ysy yma wrandawyr
gael ych ffafr a 'ch wllvs da
dyma 'r enterlvwt gynta
am bob peth a 'r a ddoytwy
i gymrvd yn ddyfadwy
na fwriwch arna far
ond gwrandewch yn wllyscar
i mae 'n esmwyth gwaith gwrando
nid rraid i neb mo 'r digio
er fy mod yn twytsio peth
ar y byd a 'i natvrieth

[td. 59]


Y datganwyr
yr yffeiriad / ne 'r pregethwr
i was / y gwr kadarn g....
mwndws /. i wraig ef . gwsnaythwr
y gwr kad[arn]


yr ff[eiriad]
Pwy ydiw 'r gwr draw gwych
mae 'r merched arno 'n edrych
sy yn gwisco ffwr bevnvdd
brethyn ffein melfed newydd
kadwen [~ cadwyn] avr a modrwye
nid arno ond chware
a 'i wyr ffrolig ar i ol
y llyna rrwygo heol

y gw[as]
Gwr yw a ddoeth o loeger
fo wyr i bedwar chwarter
a 'r kort i bv 'n ymarfer
fo wyddis ar i faner

yr ff[eiriad]
Awn oddima hyd ato
pei medrwm [~ medrwn] gyfarch iddo
o 'i groesafv i 'r wlad
ag i wrando ar i siarad

y g[was]
ni wddosti [~ wyddost ti] mo 'i arfer
mae 'n ffiwmvs llawn o falchder
kymer gyngor gwyl dy barch
na ddos ato i gyfarch
mae 'n ddigon diystyr gantho
dydi n wir a 'th holl groeso

yr ff[eiriad]
ni na [~ wnaf] ar hyn mo 'th gyngor
mae geny synwyr ragor
nid ydiw 'r gwr mor gry wych
ag i mae ef yn edrych

[td. 60]
dy ar ddalld ichwi wyr
nad ydiw 'r byd ond antvr

y g[was]
wel kymer a ddel atat
nid rraid mo 'r brys i ddrwg farchnad
nid ta [~ da] ar saint mo 'r kellwer
ni chymran ddim yn ofer

yr yff[eiriad]
Drwy 'ch kenad y meistr gwych
mae 'n groeso yma wrthych
a llawen gan fy nghalon
gael klowed ych madroddion [~ ymadroddion]
i gael vm ddysc o newydd
ymhob pen i mae menydd [~ ymennydd]
ag ar hyny rro ichi 'r gwinn
er anhowsed ych meithrin

y gwr k[adarn]
gyrmarsi vt y kydymaith
dros dy lendid yr vnwaith
am dy win mi a 'i kymra
nid ydwyd ti ond iown dda

yr ff[eiriad]
ni byddem waeth rwy 'n tybio
nyni ylldav er y mendio
maneg vmv nid ofer
thelw [~ pa ddelw] gelwyr dy feister
para liw siar i lifre
mae 'n rraid i gynen ddechre

y gwr k[adarn]
mastr mwndws pawb a 'i alw
mae 'n ddigon teg i henw
a 'i wsnaythv mawr yw 'r elw
ag o 'i fodd ni bydd o marw
i lifrei o symvd liw
gwcha seked sy heddiw

[td. 61]
yr ff[eiriad]
gweddvs iddo liw 'r lifre
ansafadwy fal ynte
nid abal neb er arfer
a dichell ddal y lopster
twyllodrvs yw dy feister
ag anwadal bob amser
gwae a roe arno i bwys
ag a wrthode baradwys

y gw[r] k[adarn]
nid ydwyd ond athrodwr
fy mestr yw fy swkwr
fy mwkled i a 'm kyscod
i wnevthvr kam a 'i wrthod
doethvm ato yn dra noeth
yn fab pychan [~ bychan] trvan llednoeth
heb vn ede amdana
wrthvti i kyffesa
ag yr owran rwyf y llyn
iddo i diolcha fy ffortvn
yn gwisco melfed sidan
gwnaed pawb imi i hamkan
ar fy holl genedl yma 'n ben
ag ni chymrir fi amgen
i rwy yn ddigon drythyll
gwilied pawb ar i gewill [~ gewyll]
ni wn i beth yw eisie
am hyny rwy yn chware
kefais gantho orchafieth
digon o avr a choweth
mae 'm bryd ine i ddilid
heb geisio mo 'i gyfnewid

yr ff[eiriad]
er maint dy goel di arno
fo fydd tebig a 'th dwyllo
a rroir koweth i arall
rwyd yn hir heb i ddeall
a 'th ollwng di oddiwrtho
megis i doethosti ato

[td. 62]
y gwr k[adarn]
na bych di hapvs dafod
am ddyrogan [~ ddarogan] drwg i ddowod
yty hvn del dy frevddwyd
nid ydwyd ond ffals broffwyd
nid klayar vm dy siarad
dy menydd [~ ymennydd] nid yw astad [~ wastad]
kasa dyn yn y farchnad
ydiw geny yffeiriad [~ offeiriad]
ni alla mwy mo 'th aros
fo las kant yn llai achos

yr ff[eiriad]
y ddihareb ysy eirwir
pen rros pawb lle ni cherir
kas gen ffol ddysc a chyngor
rraid i ynfvd gael i ragor
a ddoeto gwir yn rrowiog
knawd [~ gnawd] iddo gael pen drylliog
fal i mae 'n eglvras [~ egluraf] son
siampal vnn o 'r bostolion [~ apostolion]
mae 'n rraid iti gonsidrio
a hyn mi a safa wrtho
na elli di mo 'r hyder
chwith tra mawr ar dy feister
sef nid ydiw ond ffalswr
a thebid [~ thebyg] iawn i baentiwr
ag nid wyt tithe ond ffol
am wsnevthv yr hvdol
yniwedd [~ yn niwedd] pob peth barnv
kyffelib fydd a 'th wadv
mwya gobrwy vt a thal
ni chysci nos ddiofal
ond ty [~ dy] svddo meawn bydding [~ byddin]
o drafferth fawr a heldring [~ heldrin]
pob ydeilad [~ adeilad] sy serfvll
a wnelir yn y towyll
o dduw dduw nid wyti ddyn
am wsnavthv dy elyn

[td. 63]
y g[wr] k[adarn]
fel gelyn i kymra i di
os wrthi felly i doydi
ni havdda arna amgen
ond kael tori dy dalken
a 'th nevthvr [~ wneuthur] di yn siampel
pyt fae [~ pedfai] heb fwy 'r gost na 'r drafel
mi a nefais [~ anefais] i rwy 'n ffywmio [~ ffiwmio]
lawer dyn yn llai o gyffro

yr ff[eiriad]
ymgroes di ag na lafvr
a chosba dy ddrwg natvr
nag arfer a chrevloni
mae iti beth o 'i golli
na ddod dy ddawn dros ddireidi
gwen [~ gwyn] i fyd a ffetron gosbi
os dy dda gymri 'n dduw
bydd y difa kai ymliw

y g[wr] k[adarn]
tra feddwy avr a thrysor
nid rraid vm wrth dy gyngor
medda ddeg o hafodvdd
i rydwy a 'r dda 'n ddedwydd
ag ynddvn fil o wartheg
ie pe dwydwn achwaneg
ni wn pwy miawn [~ mewn] pwy allan
mae geny avr ag arian
ag o ddefaid aneiri
ni wyr neb mo 'i rrifedi
a hobiod gwnion mawr
llestri arian a thrysawr
a da 'r byd mwy na digon
wrth fodd wllvs fy nghalon

yr ff[eiriad]
taw a 'th wagffrost rrwysc rryddid
nid yw koweth ond benthig
mae fo 'n eiddoti heddiw
nid hwyrach i kai ymliw

[td. 64]
yforv 'n eiddo arall
nid ydwyti ond angall
krist a 'i galwodd ef yn ddrain
nid rraid vt ormod koelfain
nid oes llonyddwch meddwl
lle mae koweth ond trwbwl
gida gofal a thristwch
o 'r tv miawn [~ mewn] heb gael heddwch
gan gvr a thrafferth y byd
ni chwsc kwaethog [~ cyfoethog] hvn hyfryd
mae krist yn hayrv hefvd
llyma ddoydiad sy enbvd
fod yn haws i fawr gamel
fynd trwy 'r grav 'r nydwydd [~ nodwydd] chwarel
nag i gwaethog [~ gyfoethog] fynd i nef
mae 'n orthrwm iawn y geirie
gwell kyflwr y tylawd diolchgar
o bydd bodlon vfvddgar
o 'i brinder ag sy kantho [~ gantho]
a diolch i dduw am tano [~ amdano]
doydiad krist drachefn heb dro
dylem bawb i gofleidio
keisiwch i wlad ternas nef
o flaen dim dyma i eirie
a chwi a gewch yma wrth raid
bob peth a fo anghenrraid
bwriwn ar grist bob gofal
da 'r byd y sydd anwadal
ni thal dim mo 'i anwylo
na rroi koel na thrvst arno
byddwn fodlon o 'r hyn fo
diolchwn i dduw amdano
ag yn ddiddig bob amser
os bychan fydd os llawer

[td. 65]
y gwr k[adarn]
myfi pie yr holl gwesti
nid rraid i neb ond tewi
mae 'n pyrthynv [~ perthynu] vm ddigon
o wyr a dyng ynvdon [~ anudon]
o koda myfi ar amnaid
fo ffrymiff [~ offrymiff] pawb i enaid
mawr yw y gras a 'r ffortvn
fo roed vm hyn o dokvn

yr ff[eiriad]
nid yw hyn beth o 'i ffrostio
ond peth trwm o 'i mofidio [~ ymofidio]
am anog gwyr i nvdon [~ anudon]
sy drvain fal alldvdion
wrth d' archiad a 'th orchymyn
gwae dydi rrag anffortvn
gelyn wyt o 'i eneidie
kymer di yn lle chware
i 'th enai dy hvn hefvd
i kweiriaist wely enbvd
yscylerach [~ ysgelerach] yw 'r anogwr
a daywaeth na 'r nvdonwr [~ anudonwr]
wyti 'n tybiaid i diengi
rrag kael am hyn dy gosbi
mae dialedd duw ywch dy ben
di a ddyg i ddrwg ddilen
krist a fydd barnwr krevlon
ddydd farn ar bob anvdon
ni ddowaid y gwir mo 'r kelwydd
tv ag vffern mae d' ogwydd
o teimla dy gydwybod
n 'ad i chwant y byd dy orfod
ag anog neb i nvdon [~ anudon]
o hyn allan bydd inion
sa [~ saf] di gida 'r kyfiownder
o nevthvr [~ wneuthur] kam nag arfer

[td. 66]
Ond syrthia i difeirwch [~ edifeirwch]
O myni gael dy heddwch

y g[wr] k[adarn]
fo 'm tvedda pob merch wych
o daw arna i chwenych
o drachwant im avr llydan
ka [~ caf] fy wllvs a 'm amkan

yr ff[eiriad]
gwych ir wyti yn gweithio
tros d' anlladrwydd yn ffinio
vffern dowyll a 'th avr kv
ir ydwyd o 'i ffwrkasv
am dwyllo merched gwragedd
a 'th avr mawr i anwiredd
llwybvr kyfing sy mynd i nef
llydan ffordd i vffernlle
haws yw mollwng [~ ymollwng] i wered [~ waered]
na dringo 'r alld a 'i hvched
ar vffern saith borth mowrion
heb wikiede [~ wicedau] rry rwyddion
sef balchder llid kynfigen
chwant kybydddra wrth angen
glothineb godineb dwys
a bair kolli paradwys
trwy bob vn o rhain ar led
i vffern gellir myned
nid oes ond vn porth ar ne
hwnw yw krist yn ddie

[td. 67]
yn wir ni all neb yno
ond trwyddo fo mo 'r pasio
nid oes dehallwn ine
yma neb mo 'r kartre
kawn fynd naill ai i lywenydd
ne i vffern dragowydd
yn harglwydd grist i 'n helpv
fo ddychon yn gwaredv
kredwn gobeithwn ynddo
rrown yn koel a 'n pwys arno
klodforwn ni i enw
a diolchwn am yr elw
ynyllodd tynodd ni allan
o gaeth kythiwed [~ caethiwed] satan
anrrydeddwn grist iesv
ni a ddylem i garv
kanwn iddo wiw salme
a moliant drwy ganeve
ni ddyl neb ond yfo fawl
na gogoniant gwastadawl
iddo perthyn ternas ne [~ nef]
dyged ni i 'r pradwysle [~ paradwysle]
doyded pawb yma amen
n' ato duw choedel amgen

y g[wr] k[adarn]
doydaist yrwan yn dda
yn ddyscedig mi a 'th glowa
pe gwnaet yn ol dy ddwydiad
gwnawn fwy o goel i ffeiriad [~ offeiriad]
o rroi genad ni ddigi
kai ddwydvd peth o 'm ffansi
pwy sy yrwan mor fydol
a chwchwi 'r gwyr ysbrydol
yn llawn chwant a chybydddra
llawn o falchder a thraha
o drachwant modd pryd a gwedd
yn priodi rrianedd

[td. 68]
ni ellwch hyb gymysceth
briodi neb ysoweth
chwchwi pie 'r merched gwchion
oddiarnom i y llygion
o chwant perchill ag wydde
ych kymdeithas chwi sy ore
yr ydech [~ ydych] i yn rrydrwm
yn drvdwerthv ych degwm
trwy goffri da a 'i gelkio
ni chaiff dim fyned heibio
heb roddir trvan tylawd
nag ylvsen [~ elusen] na cherdawd [~ chardod]
dylech i y personied
helpv peth ar y gweinied
chwi a ddoedwch yn dda dros ben
achi a newch [~ wnewch] ymhell amken
ych merweddiad [~ ymarweddiad] a 'ch arfer
a ddyle fod yn lanter
i ni yma y llygion
i ddangos y ffordd inion
ych gweithredoedd yn discleirrio
i bawb wrth fyned heibio
ag yn ateb ymhob lle
yn kydgordio a 'ch geirie
nid rrwymo 'r beichie trymion
ai rrai ar gefne 'r gweinion
a chwi chvnain [~ eich hunain] yn gryfion
yn dwyn y beichie yscafnion
ydrychwch [~ edrychwch] i ar ych siars
ni thal dim gwnevthvr migmars [~ nigromans]
ni fyn duw byw mo 'i fokio
gwiliwch i fod yn digio
ef y yscrywtatotor mennsiwn

[td. 69]
fo wyr ddial yn rrydrwm
fo feder hir ddiodde
ag a feder dalv adre

yr yff[eiriad]
diryfedd i 'r byd fethv
ai 'r llwynog sy 'n pregethv
gwiliwch bawb ar ych gwydde
a chychwch ynhw adre

y g[wr] k[adarn]
ymhob gwlad i megir glew
gwnevthvm vt siart rrylew
kyrfvm [~ cyfarfum] yn rry dost a 'r briw
ag am hyny mae 'r ymliw
nid ydwy fi 'n rryfygv
yn d' erbyn di bregethv
i geisio gochlvd dy gas
a drachefn vt ymhwrpas
ka [~ caf] ffafr yr holl swyddogion
medra 'r kymal yn inion
nid oes arna mo 'r gofal
ka [~ caf] nevthvr [~ wneuthur] kam heb ddial

yr ff[eiriad]
Gwir tebig ydiw 'r gyfraith
mae 'n drvan hyn ysoweth
i rwyd gwe y pry kopvn
ni chotyma a 'i dylyn
gwybed man a ddeil ynddi
a 'r ednog a dyr drwyddi
kymorthet duw 'r tylawd gwan
y kwthogion [~ cyfoethogion] a 'mdrawan

y g[wr] k[adarn]
Ka rwy 'n llawn tarth a gwres
ddigon o win o 'i wtres
pvr ddaenterthfwyd [~ ddanteithfwyd] llysevlvd
a ffopeth wrth fy ngwnfyd
mae geny ddeg o weision
yn gwisco lifreie gleision

[td. 70]
yr ff[eiriad]
hawdd yw geni dy gredv
i bod yn dechre glasv
o eisie bwyd a diod
ni rydd kybyd chwaith gormod
kefaist ne [~ nef] ar y ddayar
kyfion yw duw a somgar
gwilia golli 'r vchelfyd
wrth gael yma dy wnfvd
o deall hyn dy hvn
ni chaiff neb vn ne [~ nef] ond vn
nid oes vt o 'th holl goweth
ond ty [~ dy] ddillad a 'th linieth [~ luniaeth]
a hyny mae i bob tylawd
a 'r ysydd wrth i gardawd

y g[wr] k[adarn]
ai nghyfflybv [~ fy nghyffelybu] i feger
rraid vt ddyscv gwell arfer
sy 'n swyddog mawr yn yngwlad [~ fy ngwlad]
na fid mwy mo 'r fath siarad
on'd e markia fy ngeirie
mi a 'th ro erbyn dy sodle

yr ff[eiriad]
nid oes arna fi rwan
fawr o 'th ofn gwna di d' amkan
rraid vt a 'r byd ymadel

[td. 71]
mae ar derfyn dy hoedel
dy goweth di waeth ar ben
fo geir rran o 'th flonhegen [~ flonegen]
gwela ange yn dowod
nid oes yma ond diwrnod

y g[wr] k[adarn]
och fine mi a ddychrynis [~ ddychrynais]
amdano son pen glowis [~ glywais]
anrrigarog [~ annhrugarog] was krevlon
gelyn oedd bradwr kalon
ysbia ydiw 'n agos
nid rraid prvddhav heb achos

y wraig
o f' enaid kymrwch gysvr
chwi arfyddwch ych dolvr
gwae fi f' anwyl gydymaith
na chawn farw ar vnwaith
i gael rran o 'th bridd wely
a maint ir wy 'n dy garv
ni fydda fyw fawr yn d' ol
ni rodia 'n iach mo 'r heol
ni chair gwen ar fy ngenav
fy newis wr yw angav
ni ffeirioda [~ phriodaf] neb ond tayar [~ daear]
a ffridd a fydd fy nghymar

y g[wr] k[adarn]
O tynwch hi oddiwrthy
lleisteiriwch at yngwely [~ fy ngwely]
rrag ofn iddi lesmeirio
trymed genthi ymado
gydawa [~ gadawa] hi 'n sykvtor [~ secutor]
o 'm holl goweth a 'm trysor
rryglyddodd arnai hoffi
ni naeth [~ wnaeth] erioed mo 'r koegni

[td. 72]
i gwsnaethwr a 'i chariad
Ow f' enaid tewch i a son
ag na thorwch i mo 'ch kalon
Pa les i chwi er krio
siriwch peidiwch a 'ch wylo
chwi a gewch i 'ch gwsnavthv
sawl a fvoch o 'i garv
a 'ch rryscvr [~ rhysgyr] ar wyr gwchion
a 'r byd wrth fodd ych kalon

y wraig
Taw a son ag nag yngan
i fordd [~ ffordd] a th'di [~ thydi] yrwan
kyn glymed darffo i gladdv
tyrd ata i rysymv [~ resymu]

yr ff[eiriad]
mae 'n dowod yma garllaw
ni fyn freiber mynd heibiaw
nid a adre yn seithig [~ seithug]
rraid iddo gael dy fenthig

y g[wr] k[adarn]
rro avr mawr i bysygwr [~ physygwr]
imi er bod yn helpwr
i gel [~ gael] enyd fy hoedel
gorfod arna madel [~ ymadael]

yr ff[eiriad]
na lafvr nistynir d' oes
duw a ran hyd yr einioes
am dy bechod fo 'th gymrwyd
rraid myned tv a 'r lochwyd

y g[wr] k[adarn]
a ga fine fy nghoweth
i fynd gida m'fi [~ myfi] ymeth
mi a ddvgvm boen a gofal
wrth i gasclv yn ddyfal

yr ff[eiriad]
na chai ddim ond a gymraist
rraid i adel lle kefaist
a 'i roi i fynv i 'th feister
ar hwn i roedd dy hyder

y g[wr] k[adarn]
o gwae ar draws ag ar hyd
a gascle ormod golvd
pen ddel ato y kledi [~ caledi]
fo fydd anodd rroi kyfri

[td. 73]
och fi dduw mae 'n ydifar [~ edifar]
wrth fy nigwydd i 'r ddayar
na baswn i well i 'r tylawd
o drigaredd a chardawd
na helpaswn bob dyn gwan
wrth fyned o 'r byd allan
na naethwn [~ gwnaethwn] i lai o ddrwg
fy ngelyn fv fy ngolwg

yr ff[eiriad]
rrowyr vt ydifarv [~ edifaru]
ers talm dylasvt hyny
pen oeddvti yn grevlon
yn kosbi y tylodion
dwyn da 'r trvan a 'i chwenych
a gwnevthvr drwg yn fynych
kam arfer dy fawr goweth
trwy wnevthvr trwm ansirieth
rraid vt heb rymedi [~ remedi]
fynd yn inion i boeni

y g[wr] k[adarn]
Krist iesv o 'th ddaioni
tostyria wrth fy ngledi [~ nghaledi]
ystyn [~ estyn] dy law moes dy nerth
ag na choll di mo 'th bridwerth
o llawn wyt o drigaredd
pob kadarn gwan i ddiwedd

yr ff[eiriad]
bvost gybydd kwaethog [~ cyfoethog]
ag erioed yn anrrigarog [~ annhrugarog]
ti a gai rwan wrth d' angen
ryn [~ yr un] mesvr a 'r vn llathenn

y g[wr] k[adarn]
archa i dduw fy helpv
y gwir nid neges gwadv
mi a fvm yn ddigon drwg
ag i 'r tlawd yn dal kilwg
trech yw duw a 'i drigaredd
a 'i ddioddefaint no 'm kamwedd
er dowod arna bechv
duw na ddoro [~ ddyro] fi fynv
wrth fy nghyflwr tostiria [~ tosturia]
na ddal fi ar y gwaetha
gollwng trosto fy mhechod
yr hwn a brynaist na wrthod

[td. 74]
a 'th wrthfawr waed trwy ddiodde
archollion nid trwy chware
gedaist hoelio traed twylo
dy brikbrenv a 'th yscyrsio
gyrv 'r pige drain i 'th ben
er helpv dyn wrth angen
a 'i dynv o gaethiwed
ond krist nid oes ymwared
o dduw kymer fy mharti
llvdd fi rrag mynd i boeni

yr ff[eiriad]
yn d' angen ing a 'th gledi [~ galedi]
ar dduw tra fedrvt weddi
a griddfan wrtho 'n drwm
tros dy bechod trwch orthrwm
yn dy rwydddeb a 'th iechid
amdano ni fyddylyt [~ feddylit]
mae 'r meistr anwyl heno
a 'r hwn roedd dy goel ynddo
pan na elwi ar hwnw
yma i lester yt farw
ti a wddost i henw
meistr mwndws llawn o elw
yfo ydoedd dy swkwr
dy arglwydd di a 'th helpwr
dy anwylvd a 'th feistr
dy oham a 'th holl hyder

y g[wr] k[adarn]
O rwan rwy 'n kydnabod
och y drvan wy a 'm pechod
ag na ddychon mo 'm helpv
estalm [~ ers talm] fo 'm rroes i fynv
pob arglwydd gwan gwe i was fydd
fo las ni chymerth rybydd
a gwae fi rrag anffortvn
fo aeth y byd yn f' erbyn
pen oedd wrtho vm reitia
ifo [~ efo] droes i gefn ata
mae fy mlant [~ mhlant] i 'm ysclyso [~ esgeuluso]
gwddon fy mod ar basio
fy ngwraig yn esmwyth gyscv
ni ddaw ynghyfyl fy ngwely
a 'm holl ffrinds ymynd [~ yn mynd] heibio
heb ymarddel ohono

[td. 75]
fy ngredigion [~ ngharedigion] sy i 'm gwadv
pwy trosa sy 'n gofalv
ni ddwg neb ran o 'm penyd
na 'm pechod mae 'n ddeink[ryd]
discwyl mae pawb o 'm da ran
bychan gan bawb a gaffan
rrowyr ganthyn fy ngladdv
i gael fy na o 'i ranv
nid oes neb yn rroi vm gysvr
na chyngor yn fy nolvr
ond mae pawb yn f' ysclvso [~ esgeuluso]
ni alla i mwy ond wylo
o krist sa [~ saf] di 'n fy mlaid [~ mhlaid]
ag ymddiffin fy enaid
archa ran o 'th drigaredd
gollwng tros go [~ gof] fy nghamwedd
dod ti rr[y]ngo fi a 'r tan
dy farfolaeth ddigon glan
athioddefaint [~ a 'th ddioddefaint] a bwysa
fy mhechod i gobeitha
trwch yw mhechod [~ fy mhechod] a 'm kamwedd
trech ydiw dy drigaredd

yr ff[eiriad]
rwyti rwan o ffydd dda
a gobaith mi a 'th glowa
wedi syrthio i difeirwch [~ edifeirwch]
ar feder kael dy heddwch
ni wn pathelw [~ pa ddelw] i tykia
gras yr arglwydd sy bena
sef yn d' iechid a 'th bechod
ni fedrvti ymwrthod
pob peth sy dda 'n i amser
ar y byd ni ellir hyder

y g[wr] k[adarn]
O rrenwch hyn i 'r tylodion
ydolwg byddwch gyfion
fal i gorffo i chwi ateb
i bawb i daw gwrthwyneb

yr ff[eiriad]
Pan na ranyt hwy yn gyfion
dy dda a yn amryson
yn dy fowyd a 'th iechid
nid yrwan yn d' ofid
rwyti yma fal gwr marw
ag nid oes dim ar dy helw
fo 'th roed allan o feddiant
o bydd rran yn gwarant
ond a rroddaisti o 'th law
nid oes vt ddim yn ffrwythaw

[td. 76]
y g[wr] k[adarn]
O duw / duw fo gida mi
mae arna ormod kyfri
o blegid f' ystiwardeth
diwin [~ diwyn] i bawb i goweth
kymred pawb ohono i siampel
bydded fyw yn ddimrafel [~ ddiymrafael]
a rroed i 'r tlawd ychydig
wrth i raid o 'r da benthig
nid meddv ymyrodreth [~ ymerodraeth]
y sy fwya gorchafieth
gwaetha gormod o goweth
oni fedrir i lyfodreth
na cheisied neb mo 'i ryddig
da 'r byd nid yw ond benthig
wrth bob kledi [~ caledi] a diffig
gwir dduw sydd ore meddig
archa iddo fod i 'm plaid
krist fo meddig i 'm henaid

yr ff[eiriad]
Kymraist drwm ydifeirwch [~ edifeirwch]
duw a roddo vt heddwch
ag a 'th gatwo rrag blinfyd
rrag kael o 'th gas di wnfvd
kedwid duw di rrag myned
i vffern bwll i wered [~ waered]
wy yn gorchymyn dy ened
i 'r ne [~ nef] fry i gael nodded
at i geidwad a 'i brynwr
onid krist nid oes helpwr
duw a fo yn i blaid
ag yn llawen wrth i enaid

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section