Adran o’r blaen
Previous section

‘Cronicl Hywel ap Syr Mathew’, Peniarth 168 (1568 (ms. 1589-90)), 198r-237r.

Cynnwys
Contents

Wiliam Gwnkwerwr weithian 198r
Wiliam Rüphws 199r
Harri y kynta 200r
Brenhin Stephan 201r
Henry yr ail 202r
Richard gyntaf 203r
Brenhin Sion 204r
Harri y trydydd 205v
Edwart gyntaf 206v
Edward yr ail 207v
Edward yr ail. 208r
Edward y trydydd 208*r
Richard yr ail. 210v
Henri y .4.ydd 212r
Harri y pümed 212v
Harri y chweched. 214v
Edward y pedwerydd 218v
Edward y pümed 221r
Richard y trydydd 221r
Harri .7.ed 221v
Harri wythued 222v
Edward y chweched 230r
Brenhines Mari 233r


[td. 198r]

Wiliam Gwnkwerwr weithian


Wiliam Bastart oedd vab i Robert Dük o Normandi
ap Richard y .3. ap Richard yr .2. ap Richard ddiofn
ap Wiliam ap Rollo vchod yr hwnn a elwid
Robert gwedi i vedyddio o Arled merch i bannwr
o dre Phalais i vam Ac Wiliam Gwnkwerwr
i gelwid ef

Wiliam Gwnkwerwr a ddaüth ir ynys honn y 15ed
dydd o vis Hydref oedran Crist .1067. ac a wledychodd
.21. ac vn mis ac a orchvygodd y Saesson ac
a ddyrrodd rhai i Gymrü a rhai or Deyrnas ac
a wnaeth gyfreithe er i brophid ehün ac amhrophid
y Saesson. Y Wiliam hwnn a wnaeth gestyll
a threfydd ac a roes Normandiait ynddünt
ac a beris i ddaü Gardinal o Rüfain ddyfod ir ynys
honn a thrwy i archedigaeth ef i tynnysson Esgyb

[td. 198v]
ac Abadoedd a Phrioried Saesson oi krefydddai
allan ac a roessant Normaniaid ynn i lle./

Y .4. vlwyddyn oi wledychiad ef i dinüstrodd y Dans
lawer ar y North ac ynnill tref Iork. ond ni
bü hir hyd pann dyrrwyd ymaith ac ef a anrheithiodd
y brenhin o Iork i Dürham o gwbl lid a
dicter wrth yr ardalwyr am vddünt ddioddef ir
Dans ddyfod val na hewyd grwn .9. mlynedd./

Ac ynghylch yr amser hwnnw i bü drafais
rhwng archesgob Iork a Lanphranc Archesgob
Canterbüri am yr orüchafieth ynn Lloegr ond
Archesgob Cawnterbüri ai hennillodd ac Archesgob
Iork a dyngodd llw darostwngedigaeth iddo./

Y .10. vlwyddyn i kyfododd Iarll Herphordd a Raph
Iarll Norpholk ynn erbyn y brenhin./ ar brenhin
ai herwriodd ac ai deholodd or Deyrnas ac a
dorrodd penn Iarll Walryf./

Ynghylch y .15. vlwyddyn oi goroniad ef Robert
Cwrteis i vab hyna ef drwy nerth brenhin
Phraink Philip a ryfelodd ai dad yn Normandi
 lle i clwyfwyd Wiliam Gwnkwerwr yn ddrwc
ond heddwch a wnaethbwyd./

Wiliam Gwnkwerwr a wnaeth phorest newydd
yn Hamsir ac a ddinüstrodd yr eglwyssi .30. milltir
o gwmpas ac ynn i amser ni chafas Sais
na swydd na gorüchafieth vchelwridd yn Lloegr
Ynn i amser ef i bü dreth ynn Lloegr nid amgen
ar bob .20. kyfeir o dir chwe swllt yr .19. vlwyddyn
oi wrogeth

Yr Wiliam hwnn a ryfelodd a Phraink ac a
wnaeth lawer o ddryge a cholledion yno ac a glevychodd
ar clevydd hwnnw a ddüc i vywyd ac ynn

[td. 199r]
i glefyd ac i gwnaeth i Destament ac i rhodd
ac i gorchmynnodd Deirnas Loegr ai choron
i Wiliam Rüphws i ail mab rhai ai galwai
Wiliam Goch.

[Wiliam Rüphws]


Wiliam Rüphws nei Goch oedd ail mab i Wiliam
Bastart ac a goroned yn Westmestr wyl
Gosmws a Damian ac wedi gwledychü o hono .14.
mlynedd i lladdodd Water Tyrel ef a saeth yn keissio
saethü llwdwn yn y phorest newydd a wnaeth
ef ac i dipheithyssai ef .52. o eglwyssi plwy yw
gwneüthür ac yngaer Wynt i claddwyd ef
heb neb ynn wylo ar i ol Dechreü Wiliam Goch
vü y .17. dydd o vis Medi oedran Crist 1089.

A Robert Cwrteis i vrawd a ddaüth o Normandi
i Loegr i Borthampton ar vedyr bwrw  Wiliam
i vrawd allan oi vrenhiniaeth. Eithr heddwch
a wnaethbwyd nid amgen y vrenhiniaeth
i Wiliam Goch dan dalü i Robert Düc o Normandi
i vrawd bob blwyddyn .300. o vorkie a
phob vn ynn aer iw gilydd pann vai marw
yr llall

Yr ail vlwyddyn oi vrenhiniaeth i cyfododd swrn o
arglwyddi Lloegr yn erbyn y brenhin ac a roessont
wrth rai o drefi Lloegr ond brenin Wiliam
ai gwahanodd ac ai dyrrodd or Deyrnas allan./


[td. 199v]
Ynn y .3.edd vlwyddyn i rhyfelodd yr y Scottied a Lloegr
ar brenhin a ordeinodd lü ac aeth yno ac yn
ol llawer Scirmais a rhyfel i gwnaethbwyd
heddwch ac ar Valcolyn brenhin Scotlond dyngü
llw vfüdddra i vrenhin Lloegr

Y 4edd vlwyddyn i bü wynt angyrriol ynn Llündain
ac i byrrodd ir llawr gant o dai a phenn Bow
chwrch ac a wnaeth lawer o anrhaith ynn Winchestr
ac mywn lleoedd eraill Ac yn yr amser
hwnnw i rhyfelodd y Cymrü ac i lladdwyd Rhys
i blaenor ac i gorchvygwyd hwynt. Ar Rhys
hwnn a elwid y brenhin diwaethaf o Gymrü
Malcolyn brenhin y Scotlond a llü mawr gantho
a ddaüth i Loegr ond Iarll Northymyrlond ai kymerth
i vynü ac yno i lladdwyd Malcolyn brenhin
y Scottlond./

Y .6. vlwyddyn oi wrogeth ef i gwnaethbwyd trwy
holl Gred lü dirvaür o chwechant o viloedd i
vyned i ynnill Kaerüsalem ai capten ai penn
arweddwr oedd Gotphre Dük o Lorayn ai ddaü
vrodür a llawer o bennaethied Kred am benn
hynny ac ynn yr amser hwnnw i gwystlodd  llawer
mil o wyr i tir i vyned ir siwrnai honn./
Ac y mysc yr rhain vn oedd Robert Cwrteis düc
o Normandi a wystlodd i dir iw vrawd Wiliam
brenhin Lloegr er kann mil o bünne./

Ynghylch yr 8ed vlwyddyn oi wrogeth ef i bü  drethe
dirvawr mawr ynn Lloegr a Normandi a
marwolaeth vawr hyd na allwyd haü na llafürio
yr vlwyddyn honno megis i bü newyn a phrinder
y vlwyddyn ar ol


[td. 200r]
Ynghylch yr vnfed flwyddyn ar ddec oi wrogeth i
gwnaethbwyd Westmestr hal ac ir ennillwyd Kaerüsalem
ac i gwnaethbwyd Gotphre capten y
Cristnogion ynn vrenhin ynghaerüsalem./

Marw fü yr Wiliam hwnn heb etifedd oi gorph
ac ynn Winsiestr i claddwyd gwedi gwledychü
.12. mlynedd a .10. mis medd y Saesson./

Harri y kynta


Harri brawd Wiliam Goch a elwid Harri Yscolhaic
.3.edd mab i Wiliam Gwnkwerwr a goronwyd
ynn vrenhin Loegr y .5.edd dydd o Awst oedran Crist
.1101./ vlwyddyn./

Y vlwyddyn gyntaf oi vrenhiniaeth i rhodd ef vesüre
Lloegr ynn i lle gwedi i bod ynn hir o amser o
vaes i lle Ai vrenhines Mawd chwaer Edgar
brenhin y Scotlond.

Y 4edd vlwyddyn i rhyddhaodd y Düc o Normandi y
brenhin oi drybed o .300. o vorke [bob blwyddyn]
Ac er hynn o waith drwc dafode ac ethrodion ir
aeth yn anghyfündeb mawr rhwng y brenhin
ar Düc o Normandi i vrawd a rhyfel mawr ac
or diwedd dala yr Düc Robert ai roi yngharchar
ynghaer Ddydd tra fai vyw a meddiannü or brenhin
 Ddügiaeth Normandi./

Y .6.ed vlwyddyn or brenhin Harri gyntaf i rhyfelodd
Iarll y Mwythic ac ef a Iarll Cornwel a chwedi
hynny hwynt a ddalwyd ac a roed yngharchar tre
vüont vyw./

Ynghylch yr amser hwnn i gwnaeth y brenhin

[td. 200v]
gyfreith galed ynn erbyn lladron a threiswyr ac
anghyfiownder ac a wnaeth execüssiwn arnün
wrth ei gweithredoedd rhai meirw rhai tynnü i
llygaid, rhai i hysbaddü./

Ynghylch y .13.ec oi wrogeth i krynodd y ddaiar ynn
y Mwythic ynn arüthür ac afon Drent aeth
ynn isbydd megis i gellid myned yn droetsych
drwyddi

Ynn y .17. ir aeth ymrafel rhwng Lewys brenhin
Phrainc a Harri gyntaf brenhin Lloegr ac
i bü vaes creülon rhyngthün ar Saesson a gafas
y gore A brenhin Phrainc a gilodd a heddwch
a vü ond Wiliam mab hynaf y brenhin a dyngodd
i vrenhin Phrainc lw kowirdeb./

Yr .20. vlwyddyn i kwnnodd Wiliam Düc o Normandi
y mab hynaf ir brenhin a Richard i vrawd
a Mari i chwaer hwynte a Richard Iarll Chestr
ai arglwyddes nith y brenhin ac i gyd hyd ynn
chwech a chant y dyfod o Normandi i Loegyr
y boddyssant ond vn dyn

Ynghylch y .26. or brenhin hwnn i kynhalwyd Parlemant
yn Llündain yn vn peth ymysc [ereill]
i wneüthür cosb ar Opheiriaid am i cam vywyd
a hynny ar swyddogion y brenhin i kosbi./

Ynn 22 or brenhin harri hwnn achos heb etifedd
gwriw oi gorph i gwnaeth i verch Mawd Amherodres
i lywodraethü y vrenhiniaeth ar i ol

Ynghylch yr 28. vlwyddyn or Harri hwnn i priododd
Mawd amherodres Siephre Plantagenet
Iarll Angeow a mab a vü iddo o honi a elwid

[td. 201r]
[Harri] ar Harri hwnn gwedi Stephan a vü vrenhin
ynn Lloegr ar .25. vlwyddyn oi goroniad yr .2. dydd
o Ragvyrr oedran Crist .1135. i bü varw ac yn
Reding i claddwyd./

Brenhin Stephan


Stephan Iarll Bolayn a mab Iarll Bloys o
Adela merch Wiliam Bastart i vam a nai i
Harri gyntaf drwy gyngor swrn o arglwyddi
ac Ieirll Lloegr yn erbyn i llw i vrawd yr Amherodres
a wnaethbwyd ynn vrenhin ac a goronwyd
 ddydd gwyl Sant Stephant oed Crist .1135.
Yn yr amser hwnn ir oedd anghyfündeb mawr rhwnc [~ rhwng ]
arglwyddi Loegr Achos rhai oedd ar rann yr
amherodres ac ereill ar rann Stephant y brenhin


Brenhin Stephan a oresgynnodd gestyll a thai Escobion
ac a roes i wyr ehünan ynddünt ar veddwl
dala yn erbyn yr Amherodres yr honn ir oedd yn
i phryderü yn wastad./

Yr ail vlwyddyn ir aeth y gair varw y brenhin a
chynnwrf aeth ynn Lloegr ac anodd vü i gostegü
Ar vyrder gwedi hynny ir aeth brenhin Stephan
a llü mawr gantho i Normandi ac yno i bü  rhyngtho
ryfel mawr ac Iarll Angeow gwr Mawd Amherodres
ac aer kyfreithlon coron Loegr./ A
phan ddarfü iddo ddarostwng yno i gwnaeth Instans
i vab yn Ddüc yno./

Ynn y .6. vlwyddyn i daüth Mawd Amherodres i Loegyr
drwy gyngor Iarll Kaer Loiw ac Iarll Chester
nei gaer Lleon ac a wnaethant ryfel creülon

[td. 201v]
ar y brenhin ac or diwedd i dalwyd y brenhin ac i
gorchvygwyd i lü ac i danfonwyd ef at yr Amherodres
ac i danfonodd hithe ef i Vrüsto yngharchar.


Gwedi hynny Kent a Llündain a gwnnodd yn erbyn yr
Amherodres ynghweryl y brenhin ac a roessant
vaes iddi ynn Winsiestr ac a gilodd yr Amherodres
i gaer Loiw ac Iarll caer Loiw a ddalwyd ac ybolüdd
y brenhin ac Iarll a yllyngwyd o gyfnewid./
Gwedi hynny i kynnüllodd y brenhin bower mawr ar
Amherodres a gilodd i Rydychen ac yno i rhodd y
brenhin i wyr wrth y dref ond yr amherodres
a gonveiwyd allan ar hyd nos a hi aeth i Walingphord
ac wedi hynny ir aeth i Normandi heb
vawr gid a hi

Amgylch y .10.ed vlwyddyn o goroniad brenhin Stephan
ir rhoes yr Iüddeon vachgen ar y groes ar Ddüw
Pasc o ddirmic ac o watwar ar Grist ac ar y
phydd gatholic.

Yr .11.ec vlwyddyn o wrogeth brenhin Stephan i bü
varw Siephre Plantagined Iarll gwr Mawd Amherodres
gwedi ynnill eilwaith o hono ddügiaeth
Normandi ar vrenhin Stephan ac i diweddodd i
vowyd a Harri i vab ynn i le a ddaüth.

Harri düc o Normandi ynghweryl Mawd amherodres
i vam a ddaüth i Loegr ac a ennillodd gastell
Malmzbri ac yno y Twr gwynn a thre Nottingham
a llawer o gestyll a chadernyd a llawer maes
a vü rhyngthün./

Yn y .17. vlwyddyn o vrenhin Stephan i gwnaethbwyd
heddwch rhwng yr amherodres ai mab ar
brenhin Stephan dan amod bod Stephan yn vren hin

[td. 202r]
tra fai vyw ar brenhin y .15. o vis Hydref
a vü varw oed Crist .1154. yr hwnn ni bü ddidrwbl
ynn i oes ynn Pheversham i claddwyd.

Henry yr ail


Henri yr ail mab i Siephre Plantagined
Iarll Angeow a Mawd Amherodres yr .20. dydd
o vis Rhagvyrr oedran Crist .1155. Ar brenhin
hwnn a ehangodd i vrenhiniaeth ac a ennillodd
drachefyn a gollysse eraill ac oi wroleth i amylhaodd
y Deyrnas o Scotlond, Iwerddon, ynys Orcades,
Brütaen vechan, Poytou, Gion a Phrovins
ereill o Phrainc

Yr ail vlwyddyn i byrrodd ef i lawr y kestyll a wnaethyssid
yn amser brenhin Stephan. gwedi hynny
efo aeth ir North ac a gafas gan yr y
Scottiaid Gwmberlond, a Northwmberlond a
roesse Mawd amherodres vddünt meddent hwy./

Y .3.edd vlwyddyn i daüth ef i Gymrü a dirvawr lü
gantho ac a ryolodd yno ac wedi hynny i hadeilodd
gastell Rhüddlan

Ynghylch y .5.ed vlwyddyn i dechreüwyd treth a byrhaodd
.20. mlynedd a llawer o drwbwl a ddaüth ar ol

Yr .8.ed vlwyddyn i dalwyd Wiliam brenhin yn y Scottied
ac wedi gwneüthür homags a llw kyweirdeb
i vrenhin Harri i gyllyngwyd. Ar .10.ed vlwyddyn
ir aeth Saint Thomas Archesgob Cawnterbüri
ynn keissio ymddiphin kyfiownder yr Eglwys ar

[td. 202v]
gil or deyrnas i Rüfain i gwyno wrth Bab Rhüfain
rhac y brenhin ac i ddowedüd y pynke ir oedd
ynn i codi ynn erbyn kyfreith a chyfiownder ar y
Deyrnas Eithr wrth dretment y Pab a Lewys
brenhin Phrainc i canhiadodd y brenhin iddo i Archesgobeth
drachefyn ac ni bü hir gwedi hynny hyd
pann laddwyd

Y .18.ed or brenhin hwnn i danfonodd y brenhin herots
at Bab Rhüfain i ervyn i ryddhaü ac i ymesgüso
am laddiad Saint Thomas Ac y mysc pethaü ereill
i rhoed y brenhin dan i benyd bod ynn gyfreithlon
ir holl deyrnas gwyno at y Pab ac na
bai vrenhin yn Lloegr hyd pann i pwyntie y
Pab./ Y vlwyddyn honn ir aeth y brenhin i Iwerddon
ac i darostyngodd ac i rhwymodd wrth vrenhiniaeth
Loegr./

Y .22. vlwyddyn o vrenhiniaeth Harri yr ail i
peris ef goroni i vab hynaf a elwid Harri ai
briodi a Margred merch brenhin Phrainc./

Ar benn y chydic wedi hynny wrth annogieth [~ anogaeth ]  brenhin
Phrainc a brenhin y Scotlond a llawer ychwanec
y rhyfelodd ynn erbyn Harri i dad a rhyngthünt
i bü lawer maes ond y tad oedd ynn ei
hynnill ac ir mab i gorfü plygü a deissif
heddwch. Ac yn y rhyfel hwnn i dalwyd Wiliam
brenhin Scotlond ac i carcharwyd ac i rhoes
am i illyngdod dre Gaerleil a nüw castel
vpon Tein a thyngü byth lw kowirdeb ir brenhin
efo ai ganllynwyr [~ ganlynwyr ] ynteü a gwneüthür homaets
pann ovynnid/ Ynghylch yr amser hwnn
ir oedd lawer o Iüddeon yn Lloegr ac ynghylch

[td. 203r]
y Pasc yn arfer o roi plant ar y groes y ddynwared
marwolaeth Crist ac o ddirmic ac o watwar
arno ac ar phydd y Cristnogion./

Yn y 23. vlwyddyn oi wrogaeth i bü varw Harri
y mab hynaf i Harri yr ail Ac yno drachefn
ir aeth yn rhyfel rhwng brenhin Philip o Phrainc
ynghylch Piteow a chastell Gisowrs ar
24. o Harri yr ail Richard Iarll Piteow a
ryfelodd yn erbyn brenhin Lloegr i dad ac a gymerth
rann brenhin Phrainc ac a ennillodd ar i
dad lawer phortres a chastell Ac ybolüdd  gwedi
i bü varw brenhin Harri yr ail oed Crist
yno .1188./

Richard gyntaf


Richard gyntaf yr ail mab i Harri yr ail
a goronwyd yn vrenhin Lloegr y .3. dydd o vis Medi
oedran Crist .1189. y Richard hwnn a elwid Richard
Cwrdeleion. Y vlwyddyn gyntaf o Richard
Gwrdeleion daü vaeli oedd lywodraethwyr ar
Lündain. Yr amser hwnn y cwnnodd tervysc
rhwng gwyr Llündain ar Iüddeon oedd ynddi gan
vaint i rhyfic ai balchedd ac i sbeiliwyd ac i
dyrwyd phwrdd

Y vlwyddyn gyntaf honn i daüth brenhin Scotlond
i Gawnterbri i wneüthür gwrogeth i vrenhin
Richard. Ynghylch hynn o amser holl  vrenhinoedd
Cred a'mbyrratoodd [~ a ymbaratodd ] ddirvawr lü i vynd i
ynnill Kaerüsalem ac i gynorthwyio y Cristnogion
yn yr Assia. Ar drydedd vlwyddyn oi
wrogeth ir aeth brenhin Richard a dirvawr lü
gantho tü a Chaerüsalem ac ar y phordd i

[td. 203v]
kwnkweriodd Ynys Ciprws Ac ynn Assia ir
ymgyfeillachodd a brenhin Phrainc/ ac ef a gwnkweriodd
Acton ond ar vyrder gwedi hynny ir
aeth travais rhyngtho a brenhin Phrainc. A
Philip brenhin Phrainc a drodd adref ac a
ddipheithiodd Normandi ac a gynghorodd Sion
brawd brenhin Richard i gymryd llywodraeth
teyrnas Loegr yn absen i vrawd. Gwedi
hynn brenhin Richard a ennillodd ir Cristynogion
dre Ioppe ai hamgylchion ac a roes y
Twrk mewn llawer maes ynn y kwilydd./

Y .4. vlwyddyn o goroniad brenhin Richard ac
ynte yn Assia ir aeth rhwng arglwyddi Lloegr
a Wiliam Esgob Eli yr hwnn a ydowsse [~ adawsai ] y brenhin
i lywodraethü y Deyrnas tra vai ynte
allan ac yno i newidiodd brenhin Richard gaerüsalem
a Gwi o Lessingham am Ciprws a
chwedi hynny ynn hir o amser i gelwid yn
vrenhin Kaerüsalem

Y .5. vlwyddyn o Richard vrenhin Lloegr a Chaerüsalem
pan glybü yrrü Esgob Eli ar pho or
Deyrnas a bod Iohn i vrawd oi benn i hün
ynn kymryd llywodraeth y Deyrnas a bod
Philip brenhin Phrainc gwedi anrheithio
Normandi i gwnaeth drettis rhyngtho ar
Twrk mawr a chyngrair dair blynedd ac
i troes tü a Lloegr ac ychydic o wyr gid ac
ef Ac ar y phordd ynn emyl Thrasia i daliodd
y Düc o Awstrits ef ac aeth ac ef yn garcharor
at yr Amherodr. Ar Amperodr

[td. 204r]
Harri ai kadwodd yngharchar vlwyddyn a phüm
mis Ac ynn i garchar i troed llew atto ac i
tynnodd ynte galonn y llew oi gorph ac i lladdodd
ef y llew./

Yn y .6./ o wrogeth brenhin Richard i gillyngwyd
oi garchar ac i talodd i arianswm yr hwnn
oedd gann mil o bünneü. ac yna i rhyfelodd
ar vrenhin Phrainc ac a Sion i vrawd a llawer
o ddrwc a cholled o bob tü. Yr wythued
vlwyddyn ir aeth kyngrair rhwng Phrainc a
Lloegr ac a ymroes Iohn iw vrawd./

Yn y .10. vlwyddyn o Richard gyntaf i peris ac
i hordeiniodd Innocent Bab gyphessü ac i gwaharddodd
roi yr aberth yn y ddaü nattür ir Llygion.
Ac ar vyrder yn ol hynny drychefn
rhyfel [a ddigwyddodd] rhwng Phrainc a Lloegr./
a brenhin Lloegr a vordwyodd i Normandi ac
yno weithie ynnill o vrenhin Phraink howlds
a chestyll ynn Normandi ac weithie brenhin
Lloegr yn ynnill yn Phrainc. Ond brenhin Richard
aeth i ossod wrth gastell Gaelart ac vn
or castell ai harganvü ac ai trewis yn i benn
a gwnn ac ai lladdodd./ A marw [vü] heb ettifedd
oi gorph oedran Crist 1200. ar .12. vlwyddyn
oi wrogeth ac a gladdwyd ynn Phont Euerard

Brenhin Sion


Sion gwedi marw Richard heb ettifedd oi
gorph a goroned ynn vrenhin ac a gwenwyn
i llaas [~ llas ] ac ynghaer Wrangon i claddwyd./


[td. 204v]
Yn amser brenhin Iohn i dechreüwyd y brodür düon
ynn rhe Dolosanws oed Crist .1205. A .4. blynedd  gwedi
hynny i dechreüodd Saint Phrancis grefydd y brodür
 llwydion ynn emyl Dinas Asilij. Ar vn vlwyddynn
honno i gwaharddwyd opherennaü dros gwbwl
o Loegr oblegid amrysson am ddewis Archesgob
ynghaer Gaint. Ar gwahardd hwnnw a byrhaodd [~ barhaodd ]
.7. mlynedd./ Ynghylch yr amser hwnnw i gwaharddodd
Sion vrenhin Lloegr awdürdod a threth a
phower y Pab or Deyrnas honn peth ni wellaodd
ddim Ac ynn ol hynny Philip brenhin Phrainc
ynghweryl Arthür dük o Vrüttaen yr hwnn a
enwyssai rai o arglwyddi Loegr yn vrenhin a ryfelodd
ar vrenhin Sion ac ai gyrrodd o Normandi
ac a ennillodd arno lawer o gestyll a threfydd./
Ond gwedi colledion mawr o bob tü heddwch a wnaethbwyd
yr amser hwnn i daüth brenhin y Scotlond
i dyngü llw kowirdeb i vrenhin Sion o Loegr. y
Cymrü ai galwai Ieuan vrenhin.

Yn yr ail vlwyddyn i gwelad yn Swydd Iork bümp
lleüad ar vnwaith ar yr awyr ar ail gayaf
i daüth tymhestloedd a thowydd garw a chenllysc kymaint
ac wye iair./

Arthür o Vrüttaen y .3. vlwyddyn a ddalwyd a llawer
o wyr o vrddas i gyd ac ef ac a ddaüth ynn garcharor
i Loegr./

Yn y .6. vlwyddyn ir interditiodd y Pab vrenhiniaeth
Loegr ac ir ysgymünodd vrenhin Sion achos
na ydawe [~ adawai ] ef Stephant Laughton yn Archesgob
ynghaer Gaint.

Y .7. vlwyddyn Philip brenhin Phrainc a oresgynnodd
Normandi yr honn ni büysse dan vrenhiniaeth

[td. 205r]
Phrainc er ys trychan mlynedd kynn hynny./
Ynghylch yr amser hwnnw i rhyfelodd y Cymrü
ar Gwyddyl ar brenhin Sion ai gyrrodd i brynü
heddwch er llawer o aür ac arian a da./ Ac ynghylch
yr amser hwnnw i mwrdrwyd Philip Amperodr
yr Almaen./

Yn y .9. vlwyddyn o vrenhin Sion i gwnaethbwyd
maer a Sieryddion yn Llünden gyntaf erioed./
Ar maer a elwid Henri phyts Alwynn ar
Sieryfied kyntaf ar a vü yn Llünden a elwid
Pityr Dük a Thomas Neel./

Ynghylch y .13. i rhyfelodd Philip brenhin Phrainc
ar Loegr yn gymaint ac i gorfü ar vrenhin
Sion ymroi i bab Rhüfain ac ymrwymo drosto
ef ai rac gynllynwyr [~ ganlynwyr ] vrenhinoedd ddala dan goron
Bab Rhüfain a thalü bob blwyddyn vil o vorke
o arian./

Yr .16./ o vrenhin Sion i bü drafes mawr rhwng
pennaethied Lloegr ai harglwyddi a chyphredin
y Deyrnas ynn gymaint ac i gorfü ar y brenhin
ddanvon i Phlawndrs am nerth ac arglwyddi
Lloegr a ddanvonodd at Lewys vab Philip brenhin
Phrainc ac ai kymerson ynn lle brenhin
arnün ac ai kadarnhaüsson i ryfela yn erbyn
brenhin Sion. A chynn diwedd y rhyfel hwnn
i clefychodd y brenhin ac i bü varw yn Nywark
vpon Trent y .19. o vis Hydref oedran Crist
.1216. Ond rhai y sydd ynn teürü mae Mynach
ai gwenwynodd ef ynghaer Wrangon ac yno
i claddwyd./


[td. 205v]

Harri y trydydd


Harri drydydd y mab hynaf i vrenhin Sion a goroned
yn Westministr drwy nerth rhai o arglwyddi
 Lloegr yn .9. mlwydd o oed./ Yn i amser ef
i bü y vattel yn Lewys yn Sowthsex a battel
y barrwnnied yn Ewsam oed Crist yna
1265. yr 48. o vrenhiniaeth ac wedi gwledychü
o hono .55./ o vlynyddoedd i bü varw ac yn
Westministr i claddwyd./

Yn ol hir ryfel rhyngtho a Lewys mab Philip
brenhin Phrainc yr wrth amodeü rhai o arglwyddi
 Lloegr oedd yn cleimio coron Loegr ond
or diwedd yn heddwch ir aeth ac i Lewys [i gorfü]
vyned i Phrainc ac am i draül iddo vil
o vorke./

Y vlwyddyn gyntaf o Harri drydydd ymysc kyfreithe
da ereill i gwnaethbwyd vawr a elwid
Magna Charta a llawer ychwanec. Y 4.
vlwyddyn i priododd Alexander brenhin Scotlond
Ioan chwaer Harri y .3. vrenhin Loegr./ Ar
vlwyddyn honn i gorchmynwyd ir dieithred voedio
y Deyrnas achos Phowks Debrent oedd
yn cadw castell Betphord yn erbyn ywyllys y
brenhin. Y .5. vlwyddyn i daüth crefydd y brodür
 llwydion gyntaf i Loegr ac a elwid ordr
Saint Phrancis

Y .13. vlwyddyn ir aeth y brenhin a llü mawr gantho
i Vrütaen yn erbyn Lewys prins Phrainc
ac yn ol anrheitho y tir yn heddwch ir aeth./

Yr .16. vlwyddyn ir aeth rhwng y brenhin ac
arlgwyddi Loegr achos efo a roes oi wassaneth

[td. 206r]
allann y Saesson ac a gymerth yn i wassaneth
ddieithred ac yn i gyngor

Y .19. vlwyddyn i priododd y brenhin Elenor merch
Iarll Provins./ Ynghylch yr .21. vlwyddyn oi wrogeth
ef holl Phrainc yn vn a gyvün a vnodd na
bae i vn gwr eglwyssic dan boen o bechod marwol
gael dwy eglwys./

Yn yr .31. vlwyddyn i dad wnaeth y brenhin Phransies
 Llünden achos cam varn a roessant yn erbyn
Margred Vyel Wydow./ Yn yr 38 Prins
Edward y mab hynaf i Harri a briododd Elenor
merch brenhin Castil ac iddo i rhoes dowyssogeth
Gymrü a llywodreth Gwien ac Iwerddon ac yna
gyntaf i henwyd Prins Cymrü

Yn yr 48. vlwyddyn i bü yr maes yn Lewys rhwng
brenhin Harri y .3. ac arglwyddi Loegr ai chyphredin
ac i collodd y brenhin y maes ac i kafas mywn
amodeü i illwng a Richart i vrawd brenhin
Rhüfain a Syr Eduard i vab ac eraill .25. a ddalwyd
o wyr mawr
Ac vgein mil o gyphredin ar brenhin ai vrawd
a ymrwymyssant ar ganhiadhaü [~ ganiatau ] vddün y kyfreithe
 a sierten o acts a wnaethoeddid yn y Parlmant
yn Rhydychen kynn no hynny ac a roes
Prins Edward yngwystyl ar hynny

Ar vyrr gwedi hynny ir aeth rhwng Iarll Kaer
Loiw ac Iarll Lecester a Phrins Edward a
gymerth rann Iarll Kaer Loiw ac ynghilingworth
i bü vaes angyrriol rhyngthünt
ar maes a ennillodd Prins Edward ai barti./
Ar vyrr gwedi hynny Simond Montphord
Iarll Lecester a wnaeth lü mawr ac a ym

[td. 206v]
gydfarvü a Phrins Edward ynn Ewssam lle y
lladdwyd yr Iarll a llawer oi barti./ Ynghylch
y .54. oi vrenhiniaeth i kymerth y brenhin gymeint
o ddigofeint wrth wyr Llünden ac i gwaharddodd
vddünt i rhydddab [ac i dalodd] yn i law
ehün Eithr drwy gymodreddwyr rhyngthün
i prynyssont y rhydddab ai libertis ac i talyssont
ir brenhin vgen mil o vorke./

Yn y .55. or brenhin hwnn i kymerth Edward vab
Harri drydydd i siwrnai tü ar tir bendigaid
ac yno i nerthodd ef Dref Acrs yr honn ir oedd
Sawden Swrrey gwedi rhoi siets [~ sij ] wrthi./ A
thra oedd Edwart yn y siwrnai honno brenhin
Harri drydydd i dad a vü varw yr .16. o vis
Tachwedd oedran Crist yna 1272. ac yn Westministr
i claddwyd./

Edwart gyntaf


Edwart gyntaf or henw vab Harri .3.edd pan
glybü varwolaeth i dad mis Awst nessaf at
hynny a ddaüth i Loegr ac a goroned yn vrenhin
ac a wledychodd .35. mlynedd gwedi dyfod or
tir bendigaid ac yn Westmestr i coronwyd
yr .19. dydd o vis Awst oed Crist yna .1274. ac
yn y lle ir oedd Alexander brenhin y Scotlont
ac yno i gwnaeth lw obediens i vrenhin Edwart

Yr ail vlwyddyn oi goroniad ir aeth y brenhin
i Gymrü ac i gwnaethbwyd heddwch rhwng a
Llywelyn Prins Cymrü ac ar Lywelyn dalü ir bren hin

[td. 207r]
vgein mil o vorke./ Y .10. vlwyddyn i bü
vaes yng Cymrü rhwng Llywelyn prins Cymrü ar
brenhin. ar brenhin a ddüc yr orüchafieth a Llywelyn
ai vrawd Davydd a giliodd. Ac ar vyrr gwedi
hynny i dalodd Syr Edmwnd Mortimer yr hwnn oedd
vab i Syr Raph Mortimer o Wladüs Ddü verch Llywelyn
ap Ioreth Drwyndwnn modryb yr arglwydd Llywelyn
chwaer i dad o vrad gwyr Büellt ac i torrodd i
benn ac i danvonodd ynn amser ir brenhin oed
Crist 1284. A chwedi hynny i vrawd a gwarterwyd./


Y .13. vlwyddyn or brenhin hwnn i gwyharddwyd i rhydddab
i Lünden ac i kymerth y brenhin yw law  ehün
achos ir Maer gymryd gwabr gan y pobyddion
am i dioddef i wneüthür bara dann y Seis.

Y 24. vlwyddyn i rhyfelodd yr y Scottied ar y brenhin
ar brenhin a roes sawt wrth Verwick ac yno
i bü vaes creülon ar Saesson a gafas y gore ac
a ennillodd y Dref ac yno i lladdwyd or y Scottied
bümp mil arhügein ar brenhin a ymroes gwedi
hynny i Edward./

Y .26. vlwyddyn ar brenhin Edward yn Normandi i daüth
y Scottied ai brenhin newydd a elwid Walkes
i Northwmberlond i dir. Eithr yr ail vlwyddyn gwedi
hynny ir aeth brenhin Edwart gyntaf i Scotlond
ac ynn Phankyk ir ymgyfarvü a brenhin
Scotlond ac i bü vrwydyr chwerwdost rhyngthün
ac or diwedd brenhin Lloegr aeth ir maes ac a laddodd
or y Scottied ynghylch 32. o viloedd, a Walkes
i brenhin newydd a gilodd, ar kyphredin a ymroes
yngras y brenhin Edward./

Ynghylch y .32. or brenhin Edward i gwnaeth i vab
hynaf ef lawer o anllywodraeth ar brenhin ai

[td. 207v]
rhoes yngharchar a rhai oi gyfeillach./

Ynghylch y 33. Walks brenhin Scotlond a ddalwyd
ac a ddaüth i Lünden ac yno i bü varw y bolüdd  gwedi
hynny i daüth llawer o arglwyddi ac Esgyb o Scotlond
i ymroi i vrenhin Edwart a chwedi hynny
ir aeth y brenhin i Scotlond ac ir ymgyfarvü
a Robert de Brüce ynn emyl tre Saint Iohnes
lle i bü ymladd arüthür Ond brenhin Edward aeth
ar maes ac a laddodd .7. mil or Scottied a Robert
de Brüce a gilodd i Norway a llawer o arglwyddi
Scotlond a ddalwyd ac a ddanvonwyd i Lünden ac
yno i büont veirw

Yn y .35. i bü varw Edward gyntaf y .7.ed dydd o vis
Gorphennaf oedran Crist 1307. Ac yn Westmestr i
claddwyd./


Yn amser Edward gyntaf hwnn i kyvodes Madoc
a Morgan yn erbyn y brenhin ac i lladdyssont Syr
Roger Püleston Liftenant y brenhin ac i daüth
y brenhin i Gymrü i dir Mon ac yno i gwnaeth
gastell y Düw Mares a chestyll eraill ar vordyr
y mor ac y chydic gwedi hynny i dalwyd Madoc
a Morgan ac yn Llünden i colled eill daü ac
i rhoes Brenhin Edwart y kyntaf i Edwart yr
ail yr hwnn a elwid kaer yn Arvon,
Dwyssogaeth Cymrü ac Iarllaeth gaer Lleon./


[td. 208r]

Edward yr ail.


Edward yr ail vab i Edward y kyntaf a elwid Edward
Kaer yn Arvon Prins Cymrü a ddechreüodd wledychü
y 24. o vis Chwefrol oedran Crist yna 1307. ac
vgein mlynedd i gwledychodd ac ynghaer Loiw i claddwyd./
Yr Edward hwnn a briodes Isabel merch ac etifedd
Philip Brenhin Phrainc gwedi hynny ef a
ddanfones y vrenhines at Edward i mab i wneüthr
heddwch rhyngtho a brenhin Phrainc oedd yn cadw ac
yn meddiannü i dir ai gyfoeth ef or parth draw
ir mor a thra vüont yno i peris y brenhin drwy
ddryg kyngor grio yn Llünden i wraic ai vab ynn
draetüried iddo ef ai Deyrnas. A phann ddoeth y vrenhines
ai mab ir tir ef a gilodd y brenhin hyd ynghastell
Nedd ac yno i dalwyd ef ac i dügpwyd i gastell
Kenelworth ynghylch kalan Gayaf. Yn yr
vn vlwyddyn gwedi yr Ystwyll i kynhalwyd Parlment
yn Llünden ac yno i tynwyd ef oi vrenhiniaeth
a gwyl Vair y kanhwylle nessaf at hynny i
koroned Edwart .3.edd i vab ef yn vrenhin yn .15. mlwydd
o oedran. A mis Ebrill hynny i dügpwyd yr
hen vrenhin i gastell Barklay ac yno i llas ef a
beer [~ ber ] brwd ynn i din./

Ynghylch y chweched vlwyddyn Robert le Bruce pan
glybü vod anvndeb rhwng Edward kaer yn Arvon
ac arglwyddi Lloegr a ddaüth drychefn i Scotlond ac
yno i kymerpwyd ynn vrenhin. Ac yno ir aeth
Edward Kaer yn Arvon a llü mawr gantho ac yn
ymyl Banockisborn i kyfarvü ar y Scottied ac i
bü vrwydyr greülon rhyngthünt ond Lloegr a
gollodd y maes./ A llawer o arglwyddi Lloegyr

[td. 208v]
a laddwyd ac a ddalwyd ar brenhin a ddiangodd i Verwic.


Ar .9. vlwyddyn oi wrogeth ir ennillodd yr y Scottied
Verwik ac ychydic wedi hynny ir entrysson ynn
Northwmberlond a lladd gwyr a gwragedd a phlant
yno./ Ynghylch yr amser hwnnw ir oedd  ddrüdyn nwch
a phrinder ynn Lloegr o bob peth ac ynn
hynny marwolaeth y cornwyd ac er hynn o ddialedd
ac advyd ni wellhai y brenhin nai gydwybod
nai gonsiens nai vowyd anllywodraethüs

Yn yr .11. oi goroniad i bü vrwydr rhyngtho ar
Scottied yn Swydd Iork yn lle a elwid Mytton ar
Saesson a golles y maes ar brenhin oedd i gyd wrth
lywodraeth Hügh Spencer y tad ar mab ac
ni charent hwy nar kyphredin nar kyphredin
hwynteü

Y .12. vlwyddyn o wrogeth Edward kaer yn Arvon i
gwyharddwyd y deyrnas i Hügh Spencer y tad ac
i hugh Spencer y mab trwy Barlment./ Eithr
ni bü hir gwedi hynny hyd pan ddanfonodd y brenhin
ynn erbyn y gyfreith honno ynn i hol ai rhoi
ynn vchelwried ac awgtoritie [~ awctoriti ] drychefn./ gwedi
hynny i bü vrwydr rhwng arglwyddi Lloegr ar
brenhin ynn lle a elwir Browghbridg ac yno i
lladdwyd llawer o varwnnied Lloegr ac wedi
hynny Iarll Lancastr a llawer o varwnnied ereill
a marchogion a ddienyddwyd ynn anrhügaroc./

Yn y 17.ec vlwyddyn i kilodd y vrenhines rhac malais
yr y Spencers ac Edwart i mab gid a hi
i Phraink at i brawd Siarls ac ar vyrr gwedy
hynny rhac ofn y Pab y gwyharddodd Siarls vrenhin
Phrainc ei chwaer ac ei mab deyrnas Phrainc
ac heb gynnal a hi yr hynn a addowssei./


[td. 208*r]
Yn y .19. vlwyddyn o Edwart kaer yn Arvon i dalwyd
y brenhin megis i dywetpwyd or blaen ar
y Spencer ac Iarll Arndel a Robert Baldoc
a llawer y chwanec a roed i veirw. am ei gweithredoedd

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section