Adran o’r blaen
Previous section

John Mirk. ‘Darn o'r Ffestifal’, Hafod 22 (ms. 1550-75 (translated after 1525)), 80-155.

Cynnwys
Contents

Llyma lle mae darn or ffestival 80


[td. 80]


Llyma lle mae darn o 'r ffestival


Vy ngharedic bobyl ysbyssv ychwi mae
heddiw yw y sul kyntaf o 'r grawys
ayaf yr hwnn y mae eglwys duw yn
dwyn ar ddyall o ddyfodiad krist arglwydd
y 'r byd hwnn er prynv yr hollvyd
o gaethiwed y kythrel ac y ddwyn pob
gwaithredwr da y 'r llawenydd tragwddawl
a hevyd o 'r ail ddyfodiad yr hwnn a
elwir dydd brawd pan ddel ef i varnv
y gam waithredwyr y 'r poenav tragwddawl
Eithr oblegid y dyfodiad kyntaf
o grist y 'r byd hwnn ddwyn ohono ef
lawenydd nefoedd gidac ef Ac am
hynny y mae eglwys duw [yn arver] o gan o ddigrifwch
val y mae alalya A hevyd yr
ail dyfodiad y grist a vydd mor groylon
megis na ddychon [~ ddichon ] tafod y draethv ac
o 'r plegid hwnnw y mae yr eglwys yn
paidio a 'r kan nefol hwnnw ______
______ ac yn paidio a 'r priodassav o
blegid y dialedd yssydd yn dyfod rac llaw
Ac wedy y dyfodiad kyntaf o grist y 'r
byd val y mae saint awstin yn dywedyd

[td. 81]
mae Tripheth yssydd barod y 'r byd hwnn
bob amsser Nid amgen Ryfel a marvolaeth
a drydanian Eithr val hynn y roed
dyn a 'i genedlaeth a 'i eni mewn klefyd
a 'i vyw mewn trafel a 'i varw mewn gofal
Er hynny krist a ddoyth er help a swkwr
y ninev bechadyriaid ac ef a anet ac
ef a gymerth drafel mawr ac ef a vy
varw mewn gobaith Eithr ef a anet er
yn dwyn ni o 'n klefyd i 'r Iaechyd tragwddawl
ac o achos yn ynwedic yn dwyn ni
y 'r bywyd tragwddol y by varw ef A hynny
yw yr achos y dyfodiad kyntaf o grist i 'r
byd achos pawb a 'r a vo amddiffynnol o 'r varn
honno Ac o 'r eil dyfodiad y grist y mae
yn raid y bob ryw ddyn vwrw oddiwrtho bob
ryw enwiredd y lawr ac yn vnwedic balchder
kalhon ac ymgyddnabod ehvn yn bechadyr
dayarol a bod yn yfydd y gidgristion
a thrafaelv y gorff mewn gwaithredoedd da
ac ennill y vywyd yn gywir ac yn llafyrys
a bwrw oddiwrtho ymaith bob ysgaelvssrwydd
val y mae saint barnard yn dywedyd pwy
bynnac ni roddo y gorff y lafyrio yn y byd
hwnn ef a vydd raid iddaw lafyrio yn

[td. 82]
dragwddol gida chythroylaid [~ chythreuliaid ] yn y poenav
ac rac ofn angev ef a ddyly dyn vod yn
barod bob amsser erbyn danvon o 'r arglwydd
yn i ol ef Nid amgen no chyffessv yn lan
ac yn gwbyl y holl bechodav ac nid trigio
yndynt o ddydd i ddydd Eithr pan syrthio
yndynt myned at y dad enait a 'i
gyffessv ac velly y gelly dithav ddyfod i 'r varn
ac velly y kay dithav eurddyniant ddydd brawt
Ac val y dengys marchoc vrddol y dolyrio
a gaffo mewn batteloedd yn yr vn ffynyd
y kay dithav ddiolch am y pechodav a wnelych
ac a gyffessych ac y dykych dy bennyd
yr hain a vydd yn llawenydd ac yn ogoniant
ytti ac yn gywilydd y 'r kythrel A hevyt
pob peth a 'r ni chyffessych o 'th bechode a ddangossir
y 'r holl vyd yn gywilydd mawr ytti
A hynn ir ydis yn i ddywedyd oblegid y
dyfodiad kyntaf o grist eithr pan ddel
yr arglwydd y 'r varn

Ac yn wir y dyfodiad hwnnw a vydd mor
groylon ac y gwelir yr arwyddion hynn xv
diwarnod val y gallo pawb addnabod [~ adnabod ] vod
y varn yn dyfod yn agos Val y mae

[td. 83]
sain Ierom yn dywedyd y kyfyd y mor yn
ywch no 'r mynyddoedd ychaf o ddaygain kyfyt
Yr ail dydd ef a vydd y mor yn kynisset
ac y gellir gweled y graenyn llaiaf yn i
waelod || Y Trydydd dydd pob ryw byssgod ac
anifailiaid a 'r a vo yn y mor a wnant
ryw gri a chwynvan val na allo tafod y
draethv onid duw ehun || Y pedwrydd dydd
y llysc y mor a 'r holl ddyfroedd Y pvmet
dydd y koed a 'r llyssav a chwyssant waet a
phob amryw adar amgynhyllant ynghyd
ac ni wnant na bwytta nac yfet rac
ofn y varn yssydd yn dyfod || Y chwechet dydd
pob kyfryw adailiad Nid amgen kestyll
tyrre eglwyssi klochdyav a syrthiant y 'r llawr
ac a lysc hyt pan gotto yr haul drannoeth
|| Y saithvet dydd y kerric a 'r kraige
a ymffyst bob vn wrth y gilydd yny dorro pob
vn yn ddryllav gan y gilydd ac amrafel
laissiav hyd oni glywer hyd yn nef || Yr
wythved tydd [~ dydd ] y kryn y ddayar hyt na allo
neb sefyll erni eithr syrthiaw y 'r llawr || Y
nawfed dydd yr a 'r bobloedd y gogofav val pei
baynt yn amhwyllo ac heb ddywedyd o neb

[td. 84]
ddim wrth y gilydd Y degved dydd y bydd
gwastad y ddayar Yr vnved tydd [~ dydd ] ar ddec y
hagorant veddav y rai mairw ac y saif y
kyrff yn i sefyll yn y beddav || Y dayddegved I
syrth amrafael o dan a mellt ac amyl
wrychion val y bo gorthrwm y neb y gwelet
|| Y xiij dydd y bydd marw pawb a 'r a vo yn
dwyn enait yn yr amsser hwnnw xiiij dydd
y llysc y nef a 'r ddayar || Y xv dydd y gwnair
y nef a 'r ddayar o newydd a ffob dyn a gyfyd
yn oedran dengmlwydd ar hygain y 'r varn

Ac velly y daw yn harglwydd ni Iessu grist y 'r
varn a 'i engylion gidac ef ac y dengys ef
y archollion yn wir waedlyd val pai bae y dydd
hwnnw y roessid ef ar y groes ac y dengys ef
bob araf a 'r a vy yn i verthyry ef Nid amgen
no 'r goron ddrain a vy ar y benn ef a 'r esgyrssie
a 'r hoelion a 'r mwrthwl a 'r pinssiwns a 'r gwayw
a phob peth a 'r a vy yn i verthyr ef dros
dyn Ac velly y dychyn [~ dichyn ] pawb vod yn ofnoc
ac yn ofydys bawb a 'r a dyngoedd y ddioddifaint
duw a 'i archollion a 'i weliav yr hwnn y bydd
kyfymliw arnynt onid emendiant yn y byd
hwnn kyn angav Ac velly y diolch yr arglwydd
yn vawr y 'r neb a wnaeth trygaredd er y

[td. 85]
vwyn ef yn y byd hwnn a 'i gid gristnogion
ac y dywaid ef val hynn _____________
__________________ Dowch y bobyl y vrenhiniaeth
nef yr hwnn a ordainiwyd ywch er dechrav
byd Ac yna y datgan ef yddynt saith
waithred y drygaredd Nid amgen pan vym y
newnoc chwi a roessoch y mi vwyd pan vym I
sychedic chwi a roessoch ym ddiod pan vym heb
letty chwi a 'i roessoch ym Ac velly y henwa ef
bob vn ar llailldy o saith waithred y drygaredd
kans pan roddych di y neb ddim yn vy enw i
y mi yr wyd ti yn i roddi ef Ac yna yr rydd
yr arglwydd rebywck y 'r kywoethogion am na
wnaethant er y vwyn ve vn o 'r saith waithred
val y klwssoch yn y blaen ac y dywaid wrthynt
val hynn ________________
___________________________________
Ewch enifailiaid gwlldion melldigedic y 'r tan
yffernol Ac velly y gallant hwy vod yn aflawen
gael y rybywck hwnn gan yr arglwydd o
achos ni chaiff na chyfraithwr na daddloywr [~ dadleuwr ] y
atteb yno drosto nac er aur nac er aryan
nac er mawr roddion nac er maistr nac
er arglwydd Eithr yna y gorvydd roi pob peth
ty ac at anwiredd haibio ac val y gwnel
dyn yn y byd hwnn velly y kaiff Ac yno
y bydd y kythroylaid [~ cythreuliaid ] yn i gyhyddo ef rai is y

[td. 86]
draed a rai o bob ty iddaw Eithr ywch y
ben y bydd y brynwr a 'i varnwr Ac yno y
daw yr arglwydd heb drygaredd y 'r neb nis
gwnaeth ac velly y hymliw ef am y meddwl
llaiaf ac a veddylio dyn yngham Ac o 'r ty
dehav y 'r arglwydd y bydd yr engylion yn dy
gyhyddo am bob kamwedd a wnaethost Ac o 'r
ty arall y bydd anysbrydoedd yn kaissio gwall
arnad ac yn dy gyhyddo am dy bechode a thano
y mae yffern yn barod iddo or gorddiweddir
ef mewn pechod y dydd diwethaf y bernir ef
y 'r poenav tragwyddol Ac velly y dydd hwnnw
y heistedd y tlodion gida 'r arglwydd y varny ar y
kyfoethogion am y kamwedd a wnaethant a 'i
kid gristnogion ac am na ellynt gael Iawn
arnynt hyd dydd y varn ac yna y kaiff y
tlawd i ewllys ar y kyfoethoc kans pan wnel
y kyfoethoc gam a 'r tlawd kans ni allant
hwy ond erchi gwir varn ddydd brawd kans val
y mae yr arglwydd ehvn yn dywedyd kyhyddwch
chwi y baiav hwynt a mi a 'i kossbaf val yr
hayddont Ac am hynny vy ngharedic bobyl
emendiwch tra voch yma o 'ch kamwedd a gwnewch
y tlodion yn geraint ywch erbyn y varn
ac nac ymddiredwch yr hai adawoch ar ych ol
rac ych twyllo y 'r poenav tragwddawl


[td. 87]
Mi a gaf mewn bychedd saint vod hyssant da
a hwnnw a hapiodd iddo glefychy a marw a
bod yn varw o hanner y pyrnhawn hyd y bore
dranoeth Ac velly ef a godes y vynydd o varw
y vyw Ac ef a rannodd y dda yn dair ran ac
ef a roddes dwy rann y wraic a 'i blant a 'r drydedd
 rann ef a 'i rannodd y dlodion a gwainaid Ac
velly yr aeth ef y drigiaw y vanachloc a oedd yn
sefyll ystlys afon Ac velly y 'r dwr hwnn idd ai
y gwr hynny bob nos er oered vai y rin [~ yr hin ] ac
yno y safai ef y boeni y gorff yni vai ef yn
agos y varw A phan ofynnwyd iddaw paham
ydd oedd ef yn dwyn kymaint a hyny o benyd
arno Yn wir heb ef rac ofn poenav yssy vwy
yr hai a welais i Ac yn wir ni vwytai ef vn
dydd ond bara haidd a dwr tra vy vyw Ac yno
y dywad ef wrth ddav o 'r mynaich o 'r gwyr hyaf
a challaf a 'r a oedd yn y vanachloc y poenav
a welsai ac yr oedd yn anodd ganto y manegi
 rac mor groylon ac anverthet oeddynt
Ac yno y dywad ef y arwain o angel ef
y le oedd kyn wressocked y llaill dy ac na allai
neb y draythv vaint oedd y gwres ac o 'r ty
arall kyn oered megis na ellid kyfflyby oerni
yn y byd iddo Ac yno y gwelais i vwrw enaidiav
pechadyriaid o 'r llaill boen y 'r llall a
hynny a oedd benyd mawr yddynt Ac velly y

[td. 88]
dangosses yr angel y mi y tan yffernol
yr hwnn oedd gymaint y wres a ffai byrid y
mor am benn vn wrychionen nadd ddiffoddai
hi byth er hynny Ac yn y tan hwnnw y gwelais
i enaidav pobyl yn krio ac yn wylo
ac yn ochain yn dost ac y klywai ef gythrel
yn krio ac yn erchi brwnstdan [~ brwmstan ] a fflwm
brwd y vwyhav y poenav Ac velly yr oeddynt
yn kael y poeni O arglwydd dduw er dy vawr
drygaredd kadw ni rac y poenav hynny a dwc
di ni y 'r llawenydd tragwddawl heb dranck
a heb orffen yn oes oessoedd amen

Vy ngharedic bobyl dwyn ar ddyall ychwi
mae heddiw a elwir yn eglwys duw duw
sul ___________________________
o 'r achos y mae eglwys duw yn vam y bob
kyfryw gristion o ddyn yr hwn y mae hi
yn dala sylw val mam dda ar y fflant ac
val y mai hi y 'n gweled ni mewn pechod
ac wedy yn klwyfo o 'r diwedd ac angav Ac
yn vnwedic y nadolic diwethaf a roed er gogoniant
y bob kyfryw ddyn a weddio duw
drwy gwbyl o ewllys y galhon o achos dangos
o 'r arglwydd lawer o hyfrydwch yn yr
amsser hwnnw y bob kristion kans ef a anet
er mwyn kryadyr o ddyn ac mewn kic a chnawd

[td. 89]
a gwaed val vn ohonnom ninav
ac a vy vyw ac a vagwyd val vn ohonom
ninev ac ef a vedyddiwyd mewn dwr yn vn
ffynyt A hevyd ef a ordainiodd priodas y 'n
kadw ni rac pechodav ac y 'n gwnaythyr yn
santaidd ac yn vrodyr iddaw ef ac y ennill
tyrnas gwlad nef O achos yr achossion hynn
y dyly pob kristion vod yn llawen a gwnaythyr
selemniti a glendid enait a chorff oddiwrth
bob ryw bechod ac ymsantaiddio mewn glan
vychedd y ddyw a 'i gid gristion a roi kardode
ac elwissenne y 'r neb y bai raid yddynt wrtho
Eithr yrywan ysywaeth yr ydis yn troi yr wyl
honn yn ysgaelysrwydd ac mewn klwyfav yr
enait nev valchder o ddillad nev chwant y
bechod godineb nev lythineb nev ddiogi mewn
gwssanaeth duw nev ddywedyd rybaldiaeth ac
yn y lle y bo yr vn o 'r hain y bydd y kythrayl
A gwynn y vyd y neb a wnel y peth
gorav ac a vo ty ac Iechyd yr enait A
hevyd ychel wylav a ordainiwyd er anrydedd
i 'n harglwydd ni Iessu grist a holl saint nef
|| A hevyd o 'r achos hwnn yr ydis yn paidio
a 'r alelia ac amrafael ganyav eraill Ac
y maent hwy yn kymryd trackt yr hwnn
yssydd gan galarys A hevyd ysbyssv ychwi
ty ac at briodas yr amsser yma ac
yn yr addvent ydd ydis yn paidio ac hwynt

[td. 90]
a phwy bynnac a 'i gwnel nid er moliant
y dduw y mae yn i wnaythyr onid er chwant
y knawd ac yssydd ac ychydic o ofn angev
arnynt yr hwnn yssydd ddiogel y ddyfod y bawb
megis y mae ysgolhaigion yn darllain ac
yn dywedyd mae Iawnach yw y ddyn vynet
y dy lle bo korff yn i wylyo no mynet y
dy lle bo gwatwargerdd nev ganyav diffrwydh [~ diffrwyth ]
kans hynny a bair y ddynion ymwrthladd
a duw a 'i abergofi a 'i ysgaelysso Eithyr
ef a ddyly dyn pan welo ef gorff yn mynet
y gladdy veddylio amdano ehvn ac yn
vnwedic y vwrw ymaith y holl bechode erbyn
angav a masswedd y byd Achos val y mae
Salmon yn dywedyd __________
______________________
vy mab del yn dy gof y byddy di varw ac
ni ffechv yn varwol megis y mae eglwys
duw yn tostyrio wrth y fflant ysbrydol ac
yn ordainio tri amryw eli er help a
Iachav y ffland yr hai yssydd yn ofni
angav nid amgenach no llafyrio a
roddi y gorff mewn dyrwest Ac yn gyntaf
y veddwl am angav ac val y mae offis
yr yfferen heddiw yn echnaidio ac yn
tostyrio ac yn dysgv y bob dyn da gyleted
yw angav Kans yr ydis yn i amgylchv
ef ac angav o bob ty iddo

[td. 91]
yn gymaint ac na allo ef ddianck || ond
ef a ddyly pawb gymryd hynn yn y galhon
a bwrw oddiwrtho vasswedd ac enwiredd ac
na veddylio ef ddim am lywenydd y byd
yn ormodd Ac er dwyn ychwi yn sampyl mi
a gaf yn ysgrifenedic

Mi a gaf yn essgrivenedic vod
brenin gynt a 'r brenin hwnnw a vyddai yn
brydd bob amsser ac ni chaid ganto chwerthin
na bod yn llawen vn amsser Eithr bod yn
drist ac yn aflawen bob amsser ac am hynny
ydd oedd yn drist ac yn drwm gan y
wassnaethwyr y vod ef ar y dyll hwnnw Ac
yr oedd y 'r brenin hwnn vrawd yn wr yrddedic
ac atto yr aeth gwassnaethwyr y brenin y
rac y vrawd ac y ddywedyd na ellynt hwy drigiaw
gydac ef rac y bryddet a drycked vyddai
y sir ac o 'i gynghorri ef y baidio a hynny a
gwnaythyr llawenydd Eithyr yr oedd y brenin
hwnn yn ddoeth ac yn synnhwyrol ac ef a
veddylioedd gael y gorav ar y vrawd drwy ystrywaeth
ac yn llidioc ef a erchis y brenin y
vrawd vyned y dref a gwnaythyr y peth a vydde
raid iddo || Ac velly yr oedd arver y wlad honno
pan vai wr yn myned y gymryd y varvolaeth

[td. 92]
ef a ddai wyr a chlariwns ac a genyn wrth
y drws nev yn y porth Ac yna y herchis y
brenin yddynt vynet y ganv y klariwns hyn
a restio y gwr hwnn a 'i ddwyn rac y vronn
ef A phan ddoyth ef yno y gelwis y brenin atto
saithwyr o 'r hai y gallai ef ymddiried yddynt
Ac velly pan ddoyth y vrawd gair i vronn
y tynassant hwy y kleddyfav ac y roessant hwy
wrth y galhon ef Ac yno y herchis y brenin
y bawb chware dawns a gwnaythyr ryfel
ac ysbort gymaint ac a ellynt vwyaf Ac
velly y gwnaethant Ac yno y gofynnodd y
brenin y vrawd paham yr wyd ti yn brydd Kwyn
y vynydd dy benn a bydd lawen achos o 'th blegit
ti y mae hynn y gyd || Ac yna yr ateboedd ef
val hynn || Pa vodd y gallaf i vod yn llawen
ac yn gweled saith o gleddyfav a 'i blaene ti
ac at vy nghalhon ac na wnn pwy gyntaf
onaddynt vydd vy angav || Ac yno y herchis
y brenin wainio y kleddyfav Ac yna y dywad
y brenin wrth y vrawd velly y mae y saith
bechod marwol yn v' amgylchv innav am yr enait
yssydd yn y korff hwnn Ac o 'r achos hwnnw ni
allaf i vod yn llawen na gwnaythyr sir dda
Eithr bod yn ofnys am v' enait yr hwnn yssydd
gedernid y 'r korff || Ac yna y dywad y vrawd y
dduw ydd wyf i yn erchi trygaredd ni wyddwn

[td. 93]
i hynn hyd yrowran Eithr mi a vyddaf gallach
o hynn allan Eithr pwy bynnac a gymero
hynn yn i galhon ef a vydd haws ganto
wylo no chwerthin ac ychnaidio no bod yn
llawen Ac wrth hynny y daw yn i gof ef
am angev yr hwnn yssydd ddiwedd pob peth
Ac yn wir erbyn hynny ni a ddlywn veddylio
am varvolaeth vn harglwydd ni Iessu grist
val y dioddefoedd ef drossom ni yr hwnn yssydd
yn dwyn tystolaeth

Eithr yr ail eli y 'r enait yw llafyrio yn
ystic yn y byd hwnn val y mae saint pawl
yn dywedyd yn yr ebostol heddiw val hynn

redwch chwi val y galloch gael y chware Eithr
gristnogion da am yr redec hwnn dwyn ar
ddyall ychwi pwy bynnac a reto maen raid
iddaw roddi nerth y holl gorff y gaissio klod
Ac velly y dyly pob kristion drafaely y gorff
yn gadarna ac y gallo pa radd bynnac a
roddes duw iddaw A hevyd eglwys duw a
rodded y lafyrio ac y weddio ac y ddysgv kyfraith
dduw y 'r bobyl A 'r arglwyddi mawr a 'r gwyr
o vowyd a roed y mintaino hwynte ac y kadw
yn heddychlon A 'r kyffredin a roed y lafyrio

[td. 94]
ac y gaissio y bywyd y 'r graddav hynn ac yddynt
hwyntev bob anghenraid Ac rac
na chaffo neb esgyss am y llafyrio hynn y
mae krist yn dywedyd ehvn yn yr evengil ac
yn roi ynnsampyl
______________ Yr oedd gwr gynt a 'r gwr
hwnnw a ai y berllan y bore a hanner dydd
a ffyrnhawn ac y hvn ydd oedd ef yn llafyrio
ac yn kosti pobyl gidac ef Eithr dwyn ar
ddyall ychwi gwbyl o holl raddav y byd val i
mae Iob yn dywedyd pob dyn o 'r byd a roed
y lafyrio ac y drafaelv val ederyn y hedec
Ac y mae sain barnard yn dywedyd y neb ni
lafyrio yn y byd hwnn || Ef a orvydd iddaw ef
lafyrio gida chythroyliaid [~ chythreuliaid ] achos hynny yw y llywodraeth
adewis addaf y 'w holl genedlaeth
nid amgenach no llafyrio Ac oblegid y
llafyr hwnn y mae ef yn roi ensampyl ac
yn dywedyd y modd y gwnaeth addaf ac Eva
y lafyrio y gadw paradwys ac erchi yddynt
gymryd pob ffrwyth a 'r a oedd yno eithyr vn
prenn yr hwnn yr oedd ef yn i gadw iddaw
ehvn Ac y gorchmynnodd duw yddynt hwy
veddylio amdano ef ar bob gwaith a 'r y gwelynt
y prenn hwnnw a 'i addnabod [~ adnabod ] ef yn lle
y duw a meddwl am y bod yn kadw y orchymyn
Ac velly y kenvigennodd y kythrel wrthynt

[td. 95]
er mwyn y gweled hwynt mewn llawenydd
yn gymaint ac yr oedd yntav mewn poenav
a thristyd ac y dayth ef at Eva ac y
gofynnodd iddi paham nad oeddynt hwy yn
kymryd ffrwyth y prenn hwnnw ac y dywad
hithav am erchi o 'r arglwydd y ni gadw hwnnw
iddaw ef dan boen yn bywyd Ac yna y
dywad y kythrel ha heb ef mi a wnn hynny
pai chwi a vwyttae o hwnnw chwi a wyddech
ddrwc a da ac a vyddech debic y dduw
Ac or mynnwch chwi brofi hynny y edrych
a ydwyf i yn dywedyd gwir ac yna y
kymerth Eva vn o 'r yfale ac a 'i profes
ac a roddes peth y addaf ac yntav a 'i bwytaoedd
o achos maint y karai ef Eva ac
na vynnai ef y digio hi er dim || Ac yn y
mann gwedy yddynt vwyta yr afal y gwelsant
hwy y kywilydd Ac velly y byant gywilyddys
ac y kymersant ddail y ffigis ac
y kyddiassant y kywilydd Ac yna y dayth yr
arglwydd at addaf ac y dywad wrtho
___________________ paham y gwnaethost
di hynn || Ac y dywad yntev
_________________________________ y wraic a
erchis y mi Ac velly y dayth yr arglwydd
gan ofyn paham y gwnathoedd hi hynny

[td. 96]
_________________________ Am vy
nhwyllo o 'r pryf hwnn Ac velly am na
ellynt varw ymharadwys na dioddef penyd
y gyroedd ef hwynt y 'r byd hwnn ynoeth ac
yn dlawd dan gwynvan a llefain ac yn
brydd y ennill y bywyd ac y varw yn y diwedd
A phann welas addaf hynny y by ef drist a ffrydd
ac yr adlygodd [~ adolygodd ] ef yr arglwydd na wnele
ormodd ddialedd arnynt ac ystyrio wrthynt
o achos y twyllo o 'r kythrayl wrth valis a chenvigen
ac o herwydd na wyddynt beth yr oeddynt
yn i wnaythyr Ac yna y herchis yr arglwydd
yddynt vyned y lynn ebron ac y gwisgodd ef
hwynt mewn krwyn pilkys y drafaelio am
y bywyd Ac y dywad ef wrth efa mewn
gofid a blinder y plenti di ac y roes ef y
addaf bal yn i law y lafyrio Ac yno y gadewis
ef hwynt Eithr gristnogion da oblegid
y llafyr hwnn y gallwn ni gymryd ynsampyl
pai kadwssai addaf ac eva y gorchymyn
ni chawssai y kythrel y gorav arnynt Eithr ni
chais y kythrel vethel ar ddyn onid pan vo
ef yn segyr Ac yn wir gristnogion da hwnn
yw yr eli gore a chyfoethoka yn erbyn pechod
nid amgen no llafyrio

[td. 97]
Kans nid oes dim kyn chwannocked a 'r knawt
achos gwyllt yw y korff ac ewyllyssgar y 'r pechod
Ac yn wir raid yw waithiav y gosbi a
ffoen A hynny a wnaeth addaf ac Eva
er sampyl y bawb a ddelai ar y hol wnaythyr
y gyfryw Ac yn wir llawer blwyddyn kyn hyny
y byant hwy yn dwyn penyd mewn dwr hyd
y mynygle a phob vn ymhell oddiwrth y gilydd
hyd pan oedd y knawd kyn wrddet a 'r
gwydyr o oerder Ac yna y dayth y kythrayl
at Eva kyn decked a 'r angel teckaf yn y nef
ac a ddywad mae yr arglwydd o 'r nef a 'i danvonassai
ef etti y erchi iddi vyned at addaf a
dywedyd wrtho vod duw yn erchi iddo baidio
a 'i benyd kans maddavedic gan dduw iddo
y dressbas Ac velly y gwnaeth Eithr ef a
wyby addaf mae oddiwrth y kythrayl y dathoedd
ef ac nid oddiwrth dduw Ac y dywad
ef wrth Eva pan yroedd duw ni o baradwys
am yn pechod ac y tostyriodd wrthym achos
y ni wylo yn dost wrtho ef ac erchi iddo
ras a thrygaredd ac y roddes yntev ninav
yma y ddwyn yn penyd hyd pan alwo ef
arnnom ac am hynny dos di drychefen y
wnaythyr dy benyd Pa vwyaf a wnelom
mwyaf yw 'n diolch gan dduw amdano A thrychefyn
y dayth y kythrel at Eva yr ail

[td. 98]
waith ac y dywad wrthi val hynn y mae
gras yr arglwydd yn trygarhav wrthych o achos
ych penyd ir ydych yn i ddwyn ac yn maddav
pob peth ywch Ac velly eva aeth at
addaf ac a ddywad wrtho hynny || Yn wir y gwnn
ni heb y addaf y neb a ddywad hynny wrthyd
ti mae ef yw yn gelyn nni kans y mae
yn ofydiach ganto ef no chennym ni yn
bod ni yn dwyn y penyd hwnn Ac ef a
vynnai y ni baidio a 'nn penydiav kans nid
ydiw duw yn edrych ar ddechrav y peth onid
ar bob peth a 'r a ddiweddo yn dda || Eithr y
drydedd waith y dayth y kythrel at Eva
ac y dywad ef dos di at addaf a dywaid ti
wrtho ddechrav ohono ef yn ddrwc a diweddy
yn waeth || yn ynwedic yn gyntaf er pechy
ohono heb wybod y vod yn pechv drwy ddaissif
y kythrel Ac yrywran trwy wybod y vod
yn pechv ac ni wna ef val y mae duw yn
erchi iddo yr hwnn y mae ych gwaithredoedd
diwethaf chwi yn waeth no 'r hai kyntaf
ac yn waeth noc anobaith Ac yna ydd echnaidodd
Addaf yn dost ac y hwylodd ac y
dywad wrth eva o wraic anghynghorys
panid duw a 'th wnaeth di o vn o 'm assennav
i er kynffordd y mi ac er help ac yrowran
ydd wyd ti y 'm kwmro i drychefn wrth ddysg
y kythrel Eithr meddwl di yna mor ddrewedic

[td. 99]
yw y pechod kyntaf ger bronn duw
a hynny a vydd er gogan a lliwiant yn hyd
dydd brawd A phai gallem ni wnaythyr kymaint
o benydio a dyrwesste a 'r holl vyd ||
ry fychan oedd y ni y wnaythyr Iawn y dduw
am yn gwaithredoedd Eithr y mae yr arglwydd
o 'i vawr ras yn olywo y bob ewyllyssgar
ty ac at dduw y gamwedde || Ac velly yr aeth
Eva y wnaythyr y ffenyd val y herchis addaf
Ac yna y dywad addaf ef a ddenvyn yr arglwydd
y ni yr olew kyssegredic pan ddel yr amsser
Ac velly y gwnaethant y vyned o 'i penyd
ac y by vyw addaf naw kant o vlynyddoedd
a doyddec [~ deuddeg ] mlynedd ar hygain vwy ac y
by iddo xxx o vaibion a xxx o verched Ac
wedy hynny y byant vairw ar vn waith ac yn
yr vn lle y kladdwyd addaf ac Eva Ac yno
y dychon [~ dichon ] pawb wybod y bod hwynt yn santaidd
a meddylio ohonynt am y marvolaeth a
llafyrio ohonynt yn vawr ar y kyrff Ac
velly y dlywn ninav bawb a 'r yssydd yn dyfod
ohonynt ac a 'r a vynno dyfod i 'r llawenydd
paradwyssol Yr hwnn y mae y sul heddiw yn i
alw o gyfrif yn drygain yr hwnn sul yssydd
yn dechrav heddiw ac yn diweddy nos basc
ac velly y mae yr eglwys yn echnaidio o
heddiw hyd nos basc Ac wedy hynny y llawenycha
hi drychefn ac vn alelia ac vn tract

[td. 100]
y nos honno kans nid ydiw hi yn i nerth
hyt yni ddel _________ hynny yw duw pasc
bychan Ac yna y mae hi yn roi y lawr y
tract ac yn kanv dwbyl alelia y ddysgv y bob
kristion lafyrio a gwnaythyr y benyd yn
gywir hyd y sadwrn hwnn a hynny yw kwbwl
o 'th einioes di yn y byd hwnn hyd y dydd y
gwahano yr enait o 'r korff Ac yn wir ni chaiff
yr enait gwbyl orffowys oni ddel y sadwrn
in albys a hynny ydiw dydd y varn pan ddel
yr enait a 'r korff ynghyd ac y gwisgir hwynt
a gwisc wenn yr honn a vydd yn saith eglyrach
no 'r haul a 'r hai hynn a allant ganv dwbyl
alelia Yr hwnn lawenydd nyni adlygwn [~ adolygwn ] yr
arglwydd Iessu grist val y dioddefoedd ef ar y groes
drossom ni y 'n dwyn ni y 'r drygaredd Amen

Vy ngharedic bobyl ysbyssv ychwi mae
heddiw y sul a elwir ______ yr hwnn a
elwir ac yssydd mewn kyfrif o lx yr
hwnn y mae eglwys duw yn dysgv pob kyfryw
y veddylio vyrred yw chwedyl dynion || Eithr yn
ryfaint gynt mewn ryw amsser ydd oedd oedran
pobyl yn naw kant o vlynyddoedd ac yr
owran pedwar vgain nev drygain yssydd oes
hir Eithr y mae gras yr arglwydd y bawb yn
vnwedic y wssnaythv duw ac y wnaythyr y

[td. 101]
vodd ac yntav a rydd y ninnav  lawenydd
yn y nef gymaint ac a roes y adda
ac Eva a vy vyw gyd a hynny Eithr pwy
bynnac a vynno kael y llawenydd hynn raid
yw iddaw ef wnaythyr triffeth nid amgen
no chassav pechod a dioddef blinder yn yfydd a
roi kardode yn ewyllysgar Achos bod yn chwedl
ni yn vyrrach mwyaf oll y dlywn ni ddioddef
blinder yn ewyllyssgar a 'n kalonne yn yfydd i 'r
arglwydd Val y mae pawl ebostol krist yn
chwenychv y bob kvfryw ddyn gymryd ensampyl
o hanaw ef kans ef a ddioddefodd lawer o
drwbyl yn ewyllyssgar val y mae ef yn tystolaethv
o 'r ebostol ac yn dywedyd
___________________ mi a vym mewn llawer o
vlinder yn vynych mewn karchar gwedy vy rwymo
a chadwynav hayrn
______________ Pymwaith yn yr awr y 'm
yssgyrssiwyd ac a gwiail o ver helic ym
kyrwyd ar vy ngroen noeth
Ac vnwaith boynydd [~ beunydd ] y 'm kyrid a cherric
____________________________
Ac ef a 'm byrid i y waelod y mor vnwaith
bob nos
Am mynych ofni mewn ffrydiav o ddwr
_____________________________
mewn perigl lladron ac mewn perigl kydmaithion
 ffailstion yn kymryd arnynt vod

[td. 102]
yn gywir a hwyntev yn ffalst ac yn anghywir
______________ mewn newyn a
syched ________________ mewn ymprydie
a dyrweste _____________ yn gwylio yn hwyr
__________ mewn oervel ac mewn llawer
o berigle eraill hyd na ddychon [~ ddichon ] tafodeav pobloedd
y draythv I maint A hynn y gyd a gymerth
ef yn yfydd ac a ddioddefoedd yn ostyngedic
drwy ddiolch y dduw A chwbyl o hynny y gyd
a wnaethbwyd oblegid y pechod a wnathoedd
ef yn y blaen ac y amlhav y waithredoedd
da y 'r llawenydd a ddelai rac llaw Eithr para
drwbyl bynnac a 'r a vo ar ddyn na cholled
am dda na cholled ar ddynion nev glefyd ar
y gorff pa vn bynnac o hynny a ddel arnad
dioddef yn ewyllyssgar a meddwl di mae oblegid
y pechod a wnaethost yn y blaen y mae nev
oblegid y kav orchafiaeth yn y nef Kans oddiwrth
 ras yr arglwydd y mae hynny yn
dyfod kans ni char duw ond a gassao pechod
A diolch y dduw hynny ac arch y vynych drygaredd
Kans ef a wyr duw ewllys pob dyn
ac yn wir y mae ef yn roi trygaredd y bob
kriston a 'r a 'i harcho yn yfydd Ac val hynny
mae raid y ddyn ddioddef blinder yn ostyngedic
A roi kardode yn gyddiedic ac yn vnwedic
y daygain niwarnod hynn yr hwnn yssydd gyddiedic
yn yr amsser yma a hevyd y gadw y dec
gorchymyn ac y gadarnhav saith waithred y

[td. 103]
drygaredd yr hwnn a elwir roi bwyd i newnoc
diod y sychedic dillad y 'r noeth a roi lletty y
wann a llawenhav karcharor ac edrych klafon
a chladdy mairw A hynn yw y saith waithred
yr hwnn y dyly pob kyfryw gristion a vynno
bod yn amddiffynnol a chael trygaredd dduw
Kans heddiw y mae ________ yn dechrav
ac yn diweddy dduw mercher y brad yr hwnn
y mae yr eglwys yn tystolaethv ac yn dywedyd
_________
dowch chwi vy mlant [~ mhlant ] ysbrydol i y gymryd brenhiniaeth
nef yr hwnn a ordainiwyd ywch
yn dragwddawl Yn wir y gairav hynn a ddywait
yr arglwydd wrthych ddydd brawd ac wrth
bawb a 'r a roddes gardode yn gyddiedic ac
y 'r sawl a gyflewnis saith waithred y drygaredd
A ffawb a 'r a oedd dlawd yssydd raid yddynt
ddangos y ewllys val y mae yr evengil
heddiw yn tystolaethv ac yn dywedyd
_________________________
val yr oedd gwr yn mynned y hav y had ac
val yr oedd ef yn hav ve ddamhwainiodd vyned
 rai o 'r had dros y ffordd ac y beth arall
vyned mewn dryssi a myeri ac a gollassant
a rai aeth mewn tir da arhai hyny
a ddyc aml ffrwythav Ac val hynn y mae
krist ehvn yn dywedyd

[td. 104]
myvi yw y kyfiawnder a myvi arweddaf
wirionedd y 'r nef Velly y mae yr had hwnn
nid amgen no 'r hai nid ydiw
yn roi kardode || er mwyn krist arglwydd yn
gyddiedic ac nid o valchder nac er kael
klod y byd A hynny mi a 'i profaf drwy ennsampyl

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section