Adran o’r blaen
Previous section


Yr oedd gynt wr kyweythawc yn roi kardodav
ac elyssennav val yr oeddit yn tybiait
y vod ef yn sant Eithr pan vy varw ef ymddangosses
yn kyn ddyet a 'r dim dya yn y
byd y vn a gare ac na allai ddim vod mor
ddrewedic ac ef Ac y dywad ef wrth y gwr
hwnnw ydd ywchwi yn tybiaid vy mod i yn
sant Eithr yr wyf i val y gwely di || Mae
y kardode a roaist di heb y gwr hwnnw ||
ef a 'i chwthoedd [~ chwythodd ] y gwynt hwynt kans er
kael klod bydol y roesswn A phwy bynnac a 'i
gwnel ef a gyll rinwedd y gardod a 'r kythroylaid
[~ cythreuliaid ] wybrol a 'i distrywa hwynt A hefyd
y neb a roddo y gardod y 'r neb a wypo y vod
mewn pechod marwol ac a 'i mintaino hwynt
yn y pechod vn ffynyd yw a ffai hay ti dy
had mewn tir karregoc nev mewn ryw le
ni aller kael ond gwyddwely a dryssi ac velly
y kyll ef y had Pwy bynnac hevyd a roddo

[td. 105]
y dda y gyfoethogion yr hai nid raid yddynt
wrtho a gollassant y gwaithredoedd Eithr
pwy bynnac a roddo y gardod y wainion a thlodion
kans hwynt y mae duw yn i karv
ac o 'r had hwnnw y tyf rinweddav da ar y
gannved ac a berv yn y llawenydd tragwddol
Y bob dyn a 'r a wnel alwissenn [~ elusen ] yn ddirgel
y mae yn raid iddaw gassav pechod a ffo
ragddo yn gymaint ac y gallo A phwy
bynnac a gasshao y pechod y mae
duw yn i garv ac yn y ganlyn Kans kas
yw gan dduw y pechod yn gymaint ac y
kymerth ef ddialedd ar yr holl vyd am
bechod godineb ac yn enwedic yn erbyn
natyriaeth pan welas duw y pechod hwnn
yn amlhav trwy yr holl vyd o vy arglwydd
y drindod o 'r nef paham y gwnaethost di
ddyn er Ioet Ac yno y dywad ef wrth noe
________________________
gwna di yt long val y dysgwyf i y ti
o hyd a lled a gwna siambre yndi a chymer
gyda thi gwpwl o bob amryw anifailiait
wrthynt ehvn a dwyn bwyd a diod gidac
hwynt Ac velly y gwnaeth noe y llong
honn val y herchis yr arglwydd yn ysgwar
yn y gwaelod a thrychad kyfyd o hyd a llet

[td. 106]
a xxx a oedd y hychder A chant mlynedd
y by noe yn gwnaythyr y long er dangos
bod yr arglwydd yn drygaroc ac y edrych
a mendie y bobyl kyn gwnaythyr y dialedd
arnynt Eithr nid oeddynt yn mendio
dim Ac velly drwy help engylion
pob kyfryw adar ac anifailiaid a ddyckbwyd
at noe Eithr pan ddygwyd kwbyl
y 'r llong y herchis y noe a 'i wraic gymryd
y trimaib a 'i tair gwragedd a myned i 'r
llong wrthynt ehvn ac nad ai neb
o 'r gwyr ymlith y gwragedd ac velly
pan gawssant hwynt y mewn ac velly
y klossiodd duw y drws arnynt
_________________________
Ac velly y gwnaeth hi law hyd ymhenn
xl niwarnod oni ddyc y dwr y llong
yn ywch noc vn mynydd o xl kyfyd
ac y safodd hi yn i hvn lle gan niwarnod
Ac velly y boddes yr holl vyd dynion
ac enifailiait ond yr hai a athoedd y 'r
llong Eithr yr oedd gwr yn Armania
yn dywedyd vod mynydd a elwir barws
yn ywch noc y by y dwr hwnn ac o 'r achos
hwnnw y mae llawer y bobyl yn

[td. 107]
dala piniwn ac yn dywedyd ymddiffin
llawer o bobyl Ac velly y by noe
vlwyddyn heb weled tir Ac yna y danvones
ef y gigvran y edrych a estyngasse
y dwr ac ni ddayth hi mwy drychefn
Ac yno y danvones ef y glomen ac y
dayth hi yr eilwaith a chaingen [~ changen ] vlodoyoc [~ flodeuog ]
yn i ffic y 'r llong Ac yno y gwyby ef
drayo y mor yn ryw le Ac val y herchis
duw iddo noe aeth allan ac y kymerth ef
serten o anifailiaid nid oeddynt byredic
ac y llosgodd hwynt yn aberth y dduw A
hynny a vy gymeradwy gan dduw hynny
yn gymaint ac y roes ef genad yddynt
y vwytta kic pob anifail a 'r a berthynai
y lladd ac y yved o bob gwinn Ac o vlaen
y morgymlawdd hynny nid oedd y bobyl yn
yfed ond dwr ac nid oedd raid yddynt ddim
ond a ddelai o ffrwyth y ddayar Ac yrywan
y gellwch chwi weled vaint y dialedd a gymerth
duw ar y byd am y pechodav Ac velly
y mae yrywran lawer yn pechu mewn amrafael
 raddav yn vwy noc yr oeddynt yr
amsser hwnnw Ac am hynny yr wyf inev

[td. 108]
yn tybiaid y kymer duw ddialedd arnom
am yn pechodav ac y gwnathoedd duw
ddialedd er ystalym oni bai vod gweddi
yr eglwys a 'r saint bycheddol ac yn vnwedic
drwy weddi yr arglwyddes vair vorwyn
A hynny chwchwi a gewch y glywed mewn
ynsampyl o saint domnick val yr oedd ef
yn i weddi y gwelai ef yr arglwydd Iessu
grist ac yn i law dri gwayw yn barod y
saythv yr byd hwnn yn ddialedd am y
pechod Ac velly y dayth yr arglwyddes vair
ac y gestyngodd ar y gliniav ger bron y
harglwydd vab gan ddywedyd pa beth yssydd
y 'th vryd ti y wnaythyr || O v' arglwyddes
vam y mae y byd yn kyn lawned o valchder
a chenvigen a ffechod godineb ac y mynwn
i saethv y tri gwayw hynn trwy ddialedd
ar y bobyl Ac velly y ddlygoedd
hi y harglwydd vab aros ennyd a gwnaythyr
trygaredd ac hwynt O achos y mae
y mi rai yn wassnaethwyr a bregetha
y 'r bobyl y troi hwynt oddiwrth y pechodav
Ac velly yr esbariodd yr arglwydd
hwynt ved ynn hynn ac y by drygaroc
wrthynt Eithr yn wir y mae y byd yr
ywan yn kyn lawned o drais a lledrad

[td. 109]
a dychwant gan bawb ar y gilydd ac
y mae y gwainiaid yn krio ar dduw am
help a swckwr Kans y mae yn debic
y 'n trewir ni ac vn o 'r tri gwayw hynn
Nid amgen drydaniaeth nev glefyd
nev laddvae Ac rac hynny gristnogion
da moesswch y ni weddio ar yr arglwyddes
vair val y gallo hithav weddio at y harglwydd
vab megis yr arweddo ef ni y 'r llawenydd
a berv yn dragwddawl Amen

Vy ngharedic bobyl ysbyssv ychwi mae
heddiw yw y sul a elwir __________
A hyny yssydd mewn rifedi o ddec a daygain
yr hwnn rifedi yssydd yn diweddy mewn
llawenydd a gogoniant Achos yn yr
hen ddeddyf gynt a 'r gyfraith pawb a 'r a
vai mewn rwymedigaeth arglwydd dros
sserten o amsser nev mewn dysgyblaeth llawen
a vyddai ganto ddyfod allan oe amod
Eithr gristnogion da am y rwymedigaeth
hwnn y mae y ninav lawenydd tragywydd
amdano ac yssydd heddiw yn dechre
ac yn diweddy dduw pasc ac er dangos

[td. 110]
y bob kristion a 'r yssydd mewn klwyfe a
dolyrie nid amgenach noc mewn pechod
marwol ac ymwrthod ohonynt ac y
ddyfod y 'r llawenydd a 'r digrifwch mwyaf yn
hyrnas gwlad nef A hevyd y mae y tad
o 'r nef o 'i vawr drygaredd a 'i ras yn kenady
y bob kyfryw gristion gwbyl o ellyngdod
yn i ddydd diwedd o chadwant hwy driffeth
yn y byd hwnn nid amgenach no chyffes ac
edifairwch a gwnaythyr Iawn y bawb o 'i
dressbasswyr Ac yn vnwedic kyffes lan o 'th
enav a chwbyl edifairwch athwc [~ a 'th ddwg ] di y dyrnas
gwlad nef A hevydd gwybydded pawb
y vod mewn kariad pryffaith heb lettro yn
y byd yndo ac oni byddy velly ni chai di
ollyndod mewn lle o 'r byd Ac am hynny or
mynnv gael gollyngdod gan y tad o 'r nef
a 'th wnaythyr yn lan kymer edifairwch am
dy bechode a meddylia na wnelych bechod
mwy A ffawb a 'r a wnelo hynny ef a vaddav
duw yddynt y pechodav kans dilev pechodav
a ordainiwyd yddaw Ac o herwydd hynny
y gallwn nni gymryd ennsampyl o bedr
a wadodd y arglwydd dair gwaith drwy anydon
Eithr ef a gymerth edifairwch mawr
_____________ ac a wylodd yn dost ac
y mae duw mor gyflawn o drygaredd ac

[td. 111]
y bydd llawen ganto weled dyn pechadyrys
y erchi trygaredd iddaw

Mi a gaf mewn llyfr a elwir legenda auria
vod gwr kyfoethoc gynt a bod hwnnw
yn gynddrwc y vychedd ac yr oedd bob dyn
yn tybiaid ac nad oedd iddaw obaith trygaredd
ond myned y yffern Ac velly ef a hapiodd
y 'r gwr hwnn glefychv o glefyd gorthrwm
megis y tybiodd ef ehvn y byddai varw
Ac yno y meddyliodd ef yndo ehvn mor ddrwc
y dygassai ef y vychedd yn y byd hwnn ac y
kymerth ef edifairwch kalhon a blinder a
gofal am y bechode ac y hwylai ef am bob
gwaith ac y delai yn i gof am y bechodav Ac
velly y by ef yn gorwedd saith niwarnod
a saith nos ac y kyffessoedd ef yn lan ac
y kymerth ef wir edifairwch yn i galhon ac y
galwoedd ef byth am drygaredd val yr oedd
yn dost gan bob kristion o ddyn y wrando
Ac yna y by ef varw || Eithr ef a hapiodd
yn yr amsser hwnnw varw manach a oedd
yn trigio mewn manachloc oedd ger llaw
Ac ydd oedd y mynach hwnn mor vycheddol
ac y mynne y abad ef y gerdded gwedy
y bai varw a mynnv o 'r abad y gred ar

[td. 112]
ar ddyfod ymddiddan ac ef Ac velly
y dayth ac y dywad wrtho || syr yldyma vyvi
yn dyfod y gadw vy addewid ac ydolwc
ychwi roi y mi gennad y vyned ymaith kans
mi a gaf vynet y 'r llawenydd || Ac yno
y gofynnodd yr abad a aeth y 'r llawenydd
neb a 'r a vy varw yn yr amsser hwnnw ond
tydi Ac y dywad y mynach do vn arall
heb ddim mwy a hwnnw oedd enaid y gwr
hwnn ac a 'i henwai erbyn y henw Ac
yna y dywad yr abad Nid tydi yw vy
mynach i ond ryw ysbryd yn kaissio gwall
arnaf kans mi a wnn yn hysbys od oes
enait yn y byd yn y poenav vod y enait
ef yn vn onaddynt || O heb y mynach
bychan o griston o ddyn a wyr hannes
enait tyn [~ dyn ] gwedy yr el o 'r korff kans ef a
gymerth y gwr hwnnw gymaint edifairwch
ac y hwylodd ef y dwr hallta yn i galhonn
am y bechodav oni wlychodd y holl ddillad
hyd y ddayar megis y gwrandawoedd duw
ar y weddi ac yr aeth y enait ef y 'r drygaredd
Ac yna y diolches yr abad y dduw
a 'r saint o 'r dangossiad hwnnw ac y pregethoedd
yr abad y enairif o bobloedd o 'r edifairwch
hwnn ac o drygaredd dduw Ac velly
gristnogion da nyni a ddlywn ystyriaid
yr edifairwch a gymerth y gwr hwnn val

[td. 113]
y gallon ni gymryd edifairwch y ddodi y 'r
llawr yn pechodav ninev A gwybydded bawb
vaint yw yr help yssydd y 'r enaid or diellir
Ac yn wir ni a ddlywn vod yn yr amsser
bendigedic hwnn yn vwy yn edifairwch
noc amsser arall yn vnwedic y daygain
niwarnod val y mae salm dd broffwyd
yn dywedyd ____________________
Arglwydd dduw trygaroc dy drygaredd a thrygarha
wrthyf Ac yn wir pan vo dyn
yn edifar ganto y bechode y mae duw yn
gwrando arno O meddylia ef na syrthio ef
mwy yndynt Eithr mendio a byw mewn
kariad pryffaith heb lettro o 'r byd yndo Ef
gaiff dyfod y 'r llawenydd tragwddawl heb dranck
a heb orffen Ac yn wir onis gwna
ef a vydd kolledic yn dragwddol

Mi a gaf yn ysgrifenedic vod y wr
gynt bymaib [~ bum maib ] o vaibion ac ef a 'i kostassai
wynt mewn ysgol yn hir o amsser Ac
velly ddiwarnod ef a elwis y vaibion
ger y vronn ac a ddywad wrthynt val
hynn Vy maibion mi a 'ch kostais chwi y
ddysgv mewn ysgol ac a droylais [~ dreuliais ] wrthych
lawer o dda arnoch ac ni welaf i broffit

[td. 114]
o 'r byd er hynny Eithr onid atebwchwi
yr kwestiwn hwnn yn ych plith ychvn ni chostiaf
i mwy o 'm da arnoch ac ni lafyria
wrthych Ac velly gofyn a wnaethant y tad
beth oedd y kwestwn Ac yntav a ddywad yn
wir myvi yssydd hen a gwann ac yn gwybod
na allaf i vyw yn hir a mi a vynnwn
wybod beth orav ar les y 'r enait y wnaethyr
o waithredoedd da yn y byd hwnn Ac
yna yr ateboedd y mab hynnaf ac y dywad
yn wir vy nhad pregethv a dysgv y ffydd
gatholic a ddwc yr enaid y 'r nef o vlaen
dim da Heb y dad beth a ddwedy dithav heb y
dad wrth yr ail mab || Ac yntev a ddywat
ffydd dda a chywirdeb a ddwc yr enait y 'r nef
ymlaen dim Beth a ddywedy dithav
wrth y trydydd mab Ac y dywad yntev
gweddiav da a lewissennav a ddwc yr enait
y orychelder nef yn gynt no dim yn y
byd Beth a ddywedy dithav wrth y pedwrydd
mab am y kwestwn hwnn Yn wir gwnaythyr
perindodav a chwplav y benyd a
hynny a ddwc yr enait y 'r nef yn gynt
noc vn o 'r llaill || Beth a ddywedy dithav
wrth y pvmed mab || Yn wir vy nhad heb ef
y mae peth a ddwc yr enait y 'r nef yn

[td. 115]
gynt noc vn o 'r hai eraill Beth yw hynny
heb y dad Yn wir vy nhad kymryd o
ddyn gariad pryffaith ryngto a 'i gid gristnogion
Kans er gwnaythyr o ddyn bob rin
dda oni bydd ef mewn kariad pryffaith
ni vaelia dim iddo ty ac at vyned y 'r nef
Er gwnaythyr o ddyn bob rinwedd dda
roi kardode ac elwissene myned y berindode
a bod yn dda y ffydd a ffregethv a
dysgv ac wylo yn dost ni chlyw duw ddim
ohonno oni bydd ef mewn kariad pryffaith

Ai ffai bewn ni mor vycheddol ac y
ssydd o engylion yn y nef
___________________________
ac er gwybod ohonaf i yr holl gelvyddyd
a chyfrinach yr arglwydd
___________________________
a ffai bai vy ffydd i kyn gadarned ac y
gallwn i wastattav y mynyddoedd
_____________________________
a roddi vy holl dda byd y dlodion er mwyn
yr arglwydd
ac ymroddi ohonof i vy hvn y 'mlosgi [~ ymlosgi ] mewn
tan
ac oni byddy di mewn kariad pryffaith
ychydic a ffrwytha yt hynny Kans angenrait

[td. 116]
yw y bob kryadyr o ddyn garv duw a bod
mewn kariad pryffaith Ac yn wir o chery
di dduw kar di dy gid griston ac oni wnav
di hynny yr wyd ti yn dy dwyllo dy
hvn
Kans kariad pryffaith a gydd dy bechode
di Ac yn wir y neb a vo marw mewn
pechod marwol kolledic [vydd] Ac o bob rinwedd
dda ar ddyn gore yw kariad pryffaith Ac
yn wir gristnogion da raid y ni vod yn
ffyddlon y 'n meddwl a 'n gwaithred heb letro
o 'r byd val y mae yr eglwys yn i erchi nit
amgenach no chredy y 'r tad a 'r mab a 'r
ysbryd glan vn duw tair persson A hevyd
kredy y eni ef o vair vorwyn trwy eire
yr angel heb achos kyd knawd a 'i eni ef
mewn knawd a chic a gwaed a chredy y
varw a 'i gladdy
_____________ a 'i godi ef y trydydd dydd
o vairw y vyw
ac I ymddrychafodd y 'r nefoedd dduw Iav drychafael
[~ dyrchafael ]
ac a ddaw ddydd y varn y varnv ar vyw a
mairw Eithr gristnogion da val y dywad
yr arglwydd wrth abram y kai ef etifedd
o 'i wraic sara drwy ysbrydoliaeth yr
ysbryd glan pan oeddynt hwy yll dav

[td. 117]
wedy passio y hoedran Eithr ef a
ddywad yr arglwydd wrth abram y kai ef
etifedd a vydde kyn amled y weled a 'r ser
yn yr awyr Eithr pan anet y mab y gelwid
ef Eissac a phan oedd ef yn bymlwydd
ar hygain y dywod yr arglwydd wrth abram
dos di y 'r mynydd a 'th vab gyda thi ac offrwm
ef val ydd oedd yr arver yr amsser
hwnnw Ac velly i edrychodd abram ar y
vab ac y by othrwm ganto Eithr ef
a beris y vab Eissac gymryd ffagode o
wrysc ar y gefn a 'i losgi ehvn A phan ddoythant
y benn y mynnydd ef a wnaeth
abram allor megis yn goed y gyd ac a
ddechroyodd roi tan yndi Ac ef a gymerth
y vab Eissac ac a vynnai y ladd a 'i offrwm
Ac yna y klywai ef lais angel yn dywedyd
ac yn erchi iddaw baidio a chymryd
y vab A myned ac ef y 'r llong oedd ger
llaw ac offrwm dros Eissac Eithr gristnogion
da ni allwn ni wnaythyr kefflybiaet
o 'r arglwydd Iessu ac Eissac yr ysbryd
gan yr hwnn nid esbariodd ef ehvn
Eithr godde yr iddewon y gably a fferi
iddaw ef ehvn ddwyn y groes ar y gefn
a 'i arwain hyd ymynydd kalvarei ac

[td. 118]
yno y roi ef erni y ddioddef gloes angav
dros yn Iechyd ni ar y groes A 'r groes
honno a wnaethbwyd o bedwar rwyogaeth
o goed nid amgenach no sydyr [~ sedr ] cypyr [~ seipr ] pren
oliff a phren helic Ac velly y gellir galw
Iessu yn debic y eissac Kans llawer o enaitav
a dynnoedd ef o yffern a 'r a athoedd
yno dan wylo a gridvan yn dost ||
Eithr gristnogion da yn yr vn ffynyd
y gwnaeth ef val y mae ef heddiw yn
tystolaethv yn yr evengil
_______________________
_______________________
Ac yn y modd y dalwyd ef ac ysgyrssiwyd
ac y poered yn i lygaid A chwedy y
ysgyrssio y roi ar y groes ac velly i yrrv
i loes angev Ac ef a godes y trydydd
dydd o vairw y vyw Ac yn dystiolaeth
ar hynn ef a hapiodd y longiws gwr
dall ni welssai ddim er Ioed a phan ddoyth
ef ger bronn a dywedyd y gairiav hynn
___________________________
Iessu mab duw trygaroc trygarha wrthyf
Ac y dywad yr arglwydd wrtho beth a vynny
di ymi wnaythyr yt

[td. 119]
o arglwydd roi vy ngolwc ym Ac y dywod
yr arglwydd wrtho yn wir dy ffydd di
a 'th amddiffynnodd Ac y kafas ef y
olwc ac y diolches ef hynny yr arglwydd
Velly yn wir y mae y ninav bob kyfryw
ddyn a vyno kael maddeyaint gan dduw
raid iddaw vod mewn adifairwch [~ edifeirwch ] kalhon
ac yn lan gyffessol a gwnaethyr Iawn y
dressbasswyr a bod mewn kariad pryffaith
heb lettro yn y byd A hevyd gristnogion
da er dwyn mwy o ennsampyl ychwi

Mi a gaf yn esgrivenedic vod esgob santaidd
gynt yr hwnn nid oedd yn yr holl ynys
vn gwr a allai vod yn well y vywyd a 'i
vychedd noc ef na gwell ysgolhaic A phann
oedd ef yn i glaf wely ef a ddoyth atto
ef aneirif o anysbrydoedd er profedigaeth
arno ac y argo ac ef yn erbyn y ffydd
yn gymaint ac y by agos yddynt a 'i
droi ef allan o 'r ffydd a 'i roi mewn anobaith
Eithr yr oedd yr arglwyddes vair
yn gymaint ac y byassai ef yn wassnaethwr
kywir iddi hi yn barod y 'w achyb ef

[td. 120]
ac a ofynnodd iddo a wyd ti yn kredy
val y mae eglwys duw yn i erchi yt ac
yno y gwyby ef mae profedigaeth ydd oeddid
yn i gaissio arno || ac y dywad yntev
ydwy v' arglwyddes yn gwir gredy pob peth
a 'r a berthyn ty ac at yr eglwys ac
val y mae hi yn dysgv y mi Ac yno
y roes yr ysbrydion drwc aramlais garw
gadarn ac yr aethant drwy benn y ty allan
ac y gorchmynnodd ef yr enaid y 'r tad o 'r
nef ac yr aeth ef y 'r llawenydd tragwddawl
I 'r hwnn lawenydd yr elom ninnav
poet gwir Amen

Vy ngharedic bobyl ysbyssv ychwi mae
heddiw yw y sul kyntaf o 'r grawys glan
ac yssydd mewn kyfrif xl diwarnod o heddiw
hyd dduw pasc Ac o 'r achos hwnnw
y dyly pob kyfryw gristion bycheddol wnaythyr
Iawn y dduw am y dressbas val y
mae pob kyfryw gristion yn rwymedic
ac yn gyfraithlon y ymprydio y daygain
niwarnod hynn onid yr hai y mae y
gyfraith yn kenettav yddynt baidio wrth
orchymyn yr eglwys Sef ynt yr hai

[td. 121]
hynny yr hai Iefainck heb vod mewn
oedran a 'r llafyrwyr a 'r perinion a 'r gwragedd
baichogion a 'r hen ddynion gwedy passio
y hoedran a phobyl glaifion - yr haini y
mae y gyfraith yn roi ar y kidwybod Ac
yn gymaint ac nad ydiw duw sul yn
ddydd y dychon [~ dichon ] bod ympryd arno Eithr y
mae pob kristion yn Rwymedic y ymprydio
bob mercher a gwener drwy y grawys a
dyfod dduw mercher nessaf y eglwys
duw y wrando gwssanaeth ac y gymryd
llydw ac i ystyriaid y gairav a ddyweter wrthych
yr amsser hwnnw
_________________
Meddylia ddyn mae o 'r pridd y doythost ac
y 'r pridd ydd av Eithr y mae amrafael
achossion pan it ymprydir y daygain niwarnod
Val y mae yr evengil yn dywedyd
heddiw
__________________
val yr aeth yr arglwydd wrth orchymyn
yr ysbryd glan y ddinas karissalem a
gwlad sierigo ac oe demto gan y kythrel
Ac yno y by ef yn y diffaith vynydd yn
ymprydio xl niwarnod a xl nos er yn
mwyn ni er dangos y bob kyfryw gristion
y gobrwy a 'r tal yssydd yt am y dyrwest yr

[td. 122]
hwnn y mae ef yn dwyn ar ddyall yn y
proffes o 'r yfferen o 'r dydd heddiw ac yssydd
yn arver yn vwyaf o hynn hyd basc
_________________________
_________________________
val y mae dy lan ympryd di yn gostwng
y lawr dy anwiredd di ac yn kodi y vynydd
dy waithredoedd da di ac yn i amlhav yr
hynn y kai di anrydedd mawr yn y nef ac
a berv yno yn dragywydd Ac val y mae
gwyr o ddysc yn dywedyd rinwedd y dyrwest
a wnelych di yma yssydd obrwy yt ger bronn
duw Eithr gristnogion da ymogelwn ni
rac yn twyllo a chael gwall arnom val y
gwnaeth y kythrayl ac Eva Kans trwy
brofedigaeth y kythrayl y twyllodd ef hi y
dorri y gorchymyn oblegid yr vn aval ac
o 'r achos hwnnw yr aeth pymoes byd y
yffern Velly gristnogion da y dayth y kythrayl
ar lvn dyn y gaissio yr arglwydd Iessu
grist val y mae yr efengil yn dywedyd
________________________
Ac velly y byassai Iessu yn ymprydiait
xl niwarnod Eithr wrth nattyr dayarol ef
a godes newyn arno ac yna y doyth y
kythrel atto ac y dangosses y kerric iddo
ac y dywad wrtho

[td. 123]
os tydi yssydd vab duw o 'r nef gwna di
y kerric hynn yn vara Yn y modd hwnnw y
kawssai ef wall ar Eva pan vwytawssai hi yr
aval y tybassai yntav y kymerai Iessu y bara
o 'r kerric ac y bwyttae kans pechod glothineb
yssydd yn ewllys y knawd dayarol Ac y dywod
yr arglwydd wrtho
_______________________________
___________________________
yn wir nid yr ymborth dayarol yw yr ymborth
a berv yn dragwyddol Eithr o rinwedd
y gairav a ddel o enav yr arglwydd Ac
yna y kymerth y kythrel ef ac a 'i roes
ar binagl ychel ac y dywad wrtho os tydi
yssydd vab dyw dyred y 'r llawr heb help
dim o 'r byd yn ddieniwed ar dy gorff val
y gallwyf i addnabod [~ adnabod ] mae tydi yssydd vab
duw Ac yna y dywod yr arglwydd
______________________________
Kerdda di ymaith ni themty di ddim o 'th dduw
etto Ef a ddayth y drydedd waith at yr arglwydd

_______________________________
Ac yna y kodes y mynydd dan draed y
kythrayl ac y safoedd yntev ar y benn ac
y dangosses iddo yr holl vyd a 'r holl gyfoethogrwydd
y byd || Yn wir heb y kythrayl hynn

[td. 124]
a rof i y ti er ymestwng ac addoli y myvi
Ac yna y dywod yr arglwydd
____________________
kerdda di satan vydyr y mae yn ysgrifenedic
yn yr esgythyr lan ac y mae hi yn dywedyd
vod yn raid y ti addoli dy arglwydd dduw
a 'i wssnaethv Ac yna yr aeth y kythrel ymaith
________________________
Ac yna y dayth yr engylion ac ymborth
yr arglwydd Ac yn wir gristnogion da y mae
y kythrel yn esgydach y daygain niwarnod hyn
noc vn amsser y annoc ar y bobyl yn vnwedic
y tri ffechod hynn nid amgen balchder a chwant
y 'r byd a glothineb Eithr
gristnogion da y mae yn raid y ni gael
triffeth y Iachav yr hai hynny nid amgen
yn erbyn glothineb noc ymprydio yn yfydd ||
yn erbyn balchder yfydddod y 'th gid gristion
yn erbyn chwant y byd kymryd yr eiddom
nyhvn yn ddigonol a ranv peth y 'r tlodion
ac y 'r gwainiaid A hefyt bod heb gymryd ar
yn bwyd a 'n diod ond yn ressymol ac ymprydio
y dydd a 'r nos val y gwnaeth krist
Eithr y mae ohonom ni lawer a ddaw y 'r dafarn
ac a eistedd ar hyd y dydd a 'r nos er
llenwi y vola ac y syrthio mewn glothineb
A ffan eloch y vwytta roi arwydd y groc ar
ych bwyd a 'ch diod a dywedwch ych pader a 'ch

[td. 125]
aue maria a 'ch kredo y ddiolch y 'r arglwydd
y llyniaeth a ddanvones ywch ac ar ol ych
bwyd yn yr vn modd ac velly y mae y chwi
diolch y dduw am ych bwyd angenraidiol
ac velly y mae raid ywch ymweglyd rac
glothineb Ac yn erbyn balchder
yr hwnn yssydd bechod anorbaid yr enait ef
a vydd raid ychwi vwrw chwant y byd ymaith
oddiwrthych ac yfyddhav yn ostyngedic
y dduw a meddyrio pa vodd y ganet
pob dyn ac mor dlawd y dayth y 'r byd
a 'i vod yn siwrnaio boynydd [~ beunydd ] ty ac at y
ddydd diwedd Ac yna angav a ddaw ac a 'i
bwrw ef y 'r llawr yn i glaf wely dan gwynvan
a gridvan yn dost Ac yn wir
anodd vydd gan y mwyaf a 'i karai ef yn
y blaen ddyfod yn i gyfyl Ac velly yr annsywa
yr anadl ac y dya y gwefyssav ac
kylhaa yr wyneb ac y melyna y llygait
ac y bloesga y tafod ac y wastia dy holl
gorff ac o 'r diwedd roi yr enait y vynydd
Beth gwedy hynny a wnay di nac a elly
y wnaythyr yn wir dy hebrwng y 'r vynwent
a 'th roi yn y ddayar
Ac yn wir byan yr av di dros gof ac
os tydi a veddwl am hynn yr wyf i yn
tybiait na veddyly di am valchder || Ac yn
erbyn chwant y 'r byd ymgosba val y roddo

[td. 126]
duw yt y da a diolch y ddyw pa vodd bynnac
y danvono yd || Ac y mae yn raid yt
roi kyfrif am bob gorwyl a 'r a veddyliech y
wnaythyr ac er duw meddyliwch am dy
y tlodion a 'r gwainiaid a weloch ac eissav arnynt
a gwnewch val y mae yr evengil
yn i erchi
rowch chwi a duw a ranna y chwithav yn
ddigonol Kans val y mae saint awstin
yn dywedyd y galhon ni chlywo ar y law roddi
kardod nev elwissenn y dlawd nid ydiw ef
dailwng y ofyn trygaredd dduw a phwy bynac
a 'i roddo er mwyn yr enaidiav y mae yn
vodlon gan yr arglwydd ef ac y mae yn
llawenychy yn vawr ar yr enait
__________________
Kans y gardod yssydd yn achyb yr enait val
y mae saint grygor yn dywedyd
___________________
val y mae y dwr yn dyffoddi y tan velly y
diffydd y gardod y pechod Val y mae y proffwyd
yn dywedyd
rowch beth a duw a rydd y chwithav ddigon
_____________________
Maddav y 'th gid griston a wnaeth y 'th erbyn
a duw a vydd trygaroc wrthyd tithav
Eithr gweled yr wyd ti nad oes genyd ti

[td. 127]
ddim y roi vn amsser Beth a wna hynny
yn wir yr ysbryd drwc yssydd y 'th ganlyn bob
amsser ac yn llestair yt roi

Mi a gaf yn ysgrifenedic vod marchoc
yrddol kadarn Eithr yr oedd ef yn anllywodraethv
y gorff ehvn a bwydydd a diodydd a
ffob peth a 'r a vai ddeinteth ef a 'i mynnai
Eithr o 'r diwedd ef a vy varw ac a gladdwyd
mewn kist o vaen Ac yr oedd y 'r gwr
hwnn vab yn wr kadarn ac yr oedd ef yn
arver bob dydd o ddywedyd y broffwnndis rac
enait y dad Ac velly ddiwarnod ef a
wnaeth gwledd y bob gwr o stat yn y wlad o
bob ty iddo Ac velly pan ddoethbwyd a dwr
yddaw y ymolchi ef a ddayth yn i gof ddywedyd
y broffwndis a gwnaythyr y weddi dros
enait y dad ac y daissyfoedd ar y bob aros
ac y dywedassant hwynte yr aent
gydac ef Ac yno ef a ddoyth ynddo veddwl
ar weled bedd y dad yn agored ac oni chai
ef hynny ef a vyddai varw yn i veddwl ehvn
Ac y gwnaeth ef y 'r gwaission agori y bedd
ac y kanvy ef lyffan yn y bedd kyn ddyed
a 'r ddim dyaf ac a alle vod yn y byd a 'i
lygaid yn ddwy olwyn o dan A hwnn oedd
a 'i grafangav ynglyn ynghalhon y dad ef

[td. 128]
ac yn bwytta y galhon y ffesta ac y galle
Ac y dywad y vab wrtho o vy nhad llawer o
vwyd a diod a gymeraist wrth dy chwant Ac
yr owran y gwelaf i vythaiad y kythrel yn i
gael ef ar dy galhon di yr hwnn yssydd annvaidrawl
y weled Ac yno y kayodd ef y gist
vaen arno A phan ddarvy iddaw wassnaethv
ar y bobyl ef aeth yn gyddiedic ac adewis
y anrydedd bydol a chwbyl o 'i vowyd ac aeth
y gaerissalem Ac yno y by ef tra vy vyw yn
y gwssnaethv tlodion a chlaifon ac mewn
tlodi tra vy vyw A phan welas duw amsser iddo
[va]rw y kyrchodd yr engylion y enait ef y 'r
[llawen]ydd tragwddawl

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section