Adran o’r blaen
Previous section

Theophilus Evans (1693-1767). Drych y prif oesoedd (Y Mwythig: gan John Rhydderch tros yr Awdur, 1716), 64-102, 116-23, 230-49.

Cynnwys
Contents

Rhan i., Pennod 4, 64-102. 64
Rhan i., Pennod 5, 116-23. 116
Rhan ii., Pennod 5, 230-49. 230


[td. 64]


PEN. IV.


Yr achos y galwyd y Saeson i Frydain. Llythyr
y Brutaniaid attynt. Hwythau'n dyfod yn ewyllysgar,
ac ym mhen yspaid yn troi'n fradwyr.
Y Brutaniaid a'r hynny yn eu hymlid hwy adref.
 Rhonwen y Saesones yn gwenwyno Gwrthefyr
fendigaid y Brenin. A'r Saeson a'r hynny
yn dyfod drachefn i Frydain. Twyll y Cyllill
hirion. Marwolaeth echryslawn y brenin
Gwrtheyrn. Y Saeson yn myned adref o'i gwir
fodd, Ac yn cael groesaw hagr a'r eu dyfodiad
eilwaith. Lladd Hengist eu Tywysog. Gosod
cebystr am wddf pob Sais. Gwrthryfel Pasgen.
Sais yn gwenwyno Emrys wledig y Brenin.
Y Drwg a wnaethpwyd ganddynt a'r hynny, ac
yn cael eu hymlid gan Uthr Bendragon. Anghyttundeb
ym mysc y Brutaniaid eu hun. Dynion

[td. 65]
drwg yn eu chwerwder yn gollwng Swyddogion
y Saeson yn rhyddion o'r Carchar, a hwythau
yn myned i Germani i godi gwyr. Yr ymddiddan
a fu rhyngddynt a'i cydwladwyr yno.
Yn dyfod a châd luosog i Frydain ac yn gwenwyno
 Uthr ben-dragon. Y modd y câs Arthur
y Goron. Ychydig hanes a'm ei weithredoedd. Y
Saeson yn goresgyn Lloegr wedi marwolaeth
Arthur. Tywysogion Cymru. Ychydigyn o gyfraith
 Howel-dda. Yr amser y daethant i ufuddhau
Cyfraith Loegr.


WEdi dangos eusys i ba gyflyrau gresynol
y dycpwyd ein Hynafiaid gan
y llofrudd-enaid hwnnw PEChOD,
bellach mi a âf rhagof i ddangos eu
hynfydrwydd di-gymmar wrth
ddeisyf porth gan y Saeson. Etto
nid oedd hyn onid y peth y mae Duw yn fwgwth
yn erbyn anufudd-dod. Oni wrandewi a'r lais yr
Arglwydd dy Dduw, Yr Arglwydd a'th dery di
ag ynfydrwydd, ac a dallineb, ac a syndod calon.
Deut. 28, 15, 28. Ofnasant y Saeson o'r blaen
yn fwy nag angau ei hun. Etto dallwyd hwy yn y
cyfryw fodd, fel y danfonasant gennadon attynt, i'w
gwahawdd hwy trosodd. Mae etto beth anghyttundeb
ym mysc Historiawyr am ba achos y galwyd y Saeson
yma gyntaf. 1, Rhai a ddywedant ddarfod eu galw
yn borth yn erbyn y Ffichtiaid, a hyn sydd debyccaf
i fod yn wirionedd, gan nad yw Gildas ei hun

[td. 66]
yn crybwyll am un achos arall. 2. Eraill a
ddywedant fod Amgylchiadau y Brutaniaid fal hyn
y pryd hwnnw. Fe ddescynnodd Coron y Deyrnas
i wr graslawn a elwid Constans, yr hwn a
ddycpwyd i fynu mywn Monachlog, ac o'r achos
hwnnw, yr oedd ef yn anghydnabyddus ag arferion
y Llŷs, a'r gyfraith wladol. Felly efe a
osododd Ddistain, neu oruchel Stiwart tano i
lywodraethu'r Deyrnas. Y Distain hwnnw a elwid
 Gwrtheyrn, a dyn balch, rhodresgar aniwair
oedd efe. A gwedi cael awdurdod brenhinawl
yn ei law, efe a feddyliodd ladd ei feistir. Felly
efe a roddes aur ac arian i ryw ysgerbydiaid ofer,
a'r iddynt ruthro am ben ystafell y Brenhin a'i
ladd ef. Ac yn ddiattreg hwy a aethant, ac a waeddasant
hyd yr heolydd, Gwrtheyrn Sydd
Frenin Teilwng o deyrn-wialen ynys
Brydain, a Chonstans Sydd Anheilwng.
Ac yn ddianoed cychwyn a wnaethant
a'm ben ystafell y Brenin, a'i ladd a orugant,
a dwyn eu ben ger bron Gwrtheyrn. A
phan welodd ef hynny, tristau megis wylaw a
wnaeth, ac eusys ni bu erioed lawenach yn ei galon.
A gwedi ei eneinio ef yn Frenin, efe a alwodd
y Saeson atto, rhac i gyfnesyfiaid Constans
ymddial arno: Ond nid yw hyn wirionedd, gan
na bu Constans erioed yn Frenin ym Mhrydain,

[td. 67]
can's efe a laddwyd yn yr Ital. 3. Eraill a
ddywedant fod Amgylchiadau Gwrtheyrn fal hyn.
Ni bu dim trefn neu lywodraeth weddaidd ym
mysc y Brutaniaid wedi'r Rhufeiniaid ddilyssu'r
deyrnged iddynt. Eneinid Brenin heddyw, ac a'i difreinid
ysgatfydd yr ail ddiwrnod, a dewisid un arall
yn ei le: Ac y mae'n ddiddadl eu bod yn anwadalfarn
jawn yn eu llywodraeth, canys y mae Gildas
(y Brittwn dysgedig hwnnw) yn siccrhau hynny.
Ac yno Gwrtheyrn (rhac y gwneid yr un castiau
ag ynteu) a fwriadodd i siccrhau ei orseddfaingc
yn gadarn fal y tygasai ef. Felly efe a alwodd
a'm y Saeson i amddiffyn ei goron, os cynnygid ei
ddifreinio ef. Hyn a allai fod yn ddiau yn
beth achlysur, ond i ymladd a'r Ffichtiaid oedd
y prif ddiben i alw'r Saeson i Frydain, can's nid
yw Gildas (fal y dywedais eusys) yn crybwyll
am un achos arall.

Felly Gwrtheyrn a alwodd ei ben-cynghoriaid
a'i Uchel-Swyddogion atto, a gwedi eu dyfod, efe
a dywedodd wrthynt fal hyn, " Chwi wyddoch
f'Arglwyddi fod y Rhufeiniaid wedi ein gommedd
er ys talm, a ninnau yn llwyr anigonol i
roddi câd a'r faes i'n gelynion, ynteu anghenrheidiol
ydyw i ni ddanfon at ryw genedl a'm
borth. Ac yr ydwyf fi yn barnu fod y Saeson
yn bobl wychr, lewion, galonnog. Ac os bydd
gwiw ganddynt i wneuthur ammod a ni, yr wyf
yn gobeithio y bydd raid i'r Ffichtiaid
a'r Scotiaid gymmeryd eu Coryglau tua'r Iwerddon

[td. 68]
etto. (‡), A hwy a attebasant gan
ddywedyd, O Arglwydd frenin pwy all dy luddias
di rhac gwneuthur y peth sydd dda yn dy
olwg? Wele ni oll (fal y gweddai i ddeiliaid
ufuddhau gorchymmyn eu brenin) yn llwyrgyttuno
a thydi am y peth a ddywedaist, sef danfon
cennadwri at y Gwyr da y Saeson, os bydd
gwiw ganddynt ammodi a ni. Ac yno yr ysgrifennwyd
Llythyr i ddanfon at y Saeson yn yr ystyr
hyn nid amgen.

Y SAESON Ardderchoccaf.
Nyni y Brutaniaid truain wedi'n harcholli
a'n dugn-friwio gan hygyrch ruthr ein gelynion,
ydym yn danfon y llythyr hwn attoch chwi
y Saeson anrhydeddus (sŵn eich gweithredoedd
enwog sydd wedi ehangu cymmaint) i ddeisyf
porth gennych y cyfamser hwn. Ein gwlad
sydd ehang ddigon, fflwch mywn pob peth perthynasol
i'n cynhaliaeth, digon yw hi i ni a
chwithau. Hyd yn hyn y bu'r Rhufeiniaid yn
ymgeleddwyr tirion i ni, nessaf at ba rai ni adwaenom
neb a ddangosodd brawf mo'r helaeth
o'i grymysdra a chwychwi. Boed 'ich harfau
ddatcan allan eich hanghyfartal galondid yn yr
ynys hon, ac ni fydd flin gennym ddwyn un
gwasanaeth a esyd eich hardderchawgrwydd
chwi arnom. Hoff a dymunol jawn a fu'r
wahawdd hon i'r Saeson: Felly attebasant, Gellwch
hyderu Frutaniaid anrhydeddus, y bydd
y Saeson yn gyfeillon cywir i chwi, ac yn barodol
i'ch cynnorthwyo yn yr ing a'r trallod
mwyaf.
Hengist a'i frawd Hors Arglwydi Germania.


[td. 69]
PAn ddychwelodd y Gennadwri adref i Frydain,
bu gorfoledd a llawenydd mawr ym
mhlith y Brutaniaid, ac yn ddiattreg hwy a
ddechreuasant arlwyo a pharottoi danteithion a
melus-bethau'r ynys i'w groesawi hwy i mywn.
Ac yn y flyddyn o oedran Christ 449, y tiriasant
ym Mhrydain tan y ddau Gad-pen uchod Hengist
a'i frawd Hors. ‡ Derbynniwyd hwy yn
anrhydeddus gan y Brutaniaid, a gwedi iddynt
wledda a bod yn llawen dros yspaid, tynnwyd
Ammodau'r Gyngrair rhyngddynt, sef yw hynny,
y Saeson a addunedasant trwy lw i fod yn ffyddlon
gwas'naethgar ac ufudd i'r Brutaniaid: A'r Brutaniaid
hwythau a gymmerasant lŵ o'r tu arall i wobrywo
'r Saeson yn ol y cyttundeb. Ac ni bu'r
Saeson yn swrth neu legenraid a'r y cyntaf.
Canys ymladdasant yn hoyw-brysur, ac ynillwyd
trwy eu porth hwy, Fuddugoliaeth enwog a'r
y Ffichtiaid a'r Scotiaid.

Ond ffyddlondeb y Saeson onest a wiwodd pan
welsont mo'r flodeuog oedd ein gwlâd. Felly
hwy a ddanfonasant adref at eu cyd-wladwyr i
gwahawdd hwythau trosodd i fod yn gyfrannogion
o'r un moethau da. Y wlad, (eb'r hwy)

[td. 70]
Sydd yn ffrwythlawn a llawn o bob danteithion
a'r a all calon dyn ewyllysio, ond y trigolion
ydynt lwrfion llesc a diofal. Os ydych gall,
na arhoswch gartref i newynu, ond deuwch i
Frydain i fod yn gyfrannogion o'n moethau da
ni. Canys ni a wyddom pa luniaeth sâl foldwyllog
sydd gartref ond chwi a gewch yma
eich digoni a'r Fara gwyn a chig a chwrwf da.
. . . . . Ond i draethu'n meddyliau wrthych
chwi'n ddirgel, yr ŷm yn bwriadu i ruthro
trwy frad a'r y trigolion diofal hyn, fal y byddo
y wlad yn eiddo ein hunain. Ac am hynny
deued y gwrolaf o honoch chwi trosodd, ond
gwybyddwch fod eich harfau yn gywrain ac yn
dacclus. Byddwch wych.

Pan ddarllenasant y llythyr hwn, prin na threngasant
gan lawenydd wrth glywed y fath hapusrwydd
a gadd eu cyd-wladwyr. Ond yn anad
dim pan ystyriasant eu diragrithiol ewyllysgarwch
i gwahawdd hwythau trosodd i gael rhan o'i
moethau da. Ac yn ddiattreg bryssio a wnaethant
ac a hwyliasant tua gwlad yr Addewid.
Gyd-a'r fyddin hon y daeth Merch Hengist trosodd
a elwid Rhonwen, ac herlodes weddeidddlos
lân ydoedd hi. Ac yno y ceisiodd Hengist
y Sais gan Wrtheyrn y Brenin ryw Gastell neu
ddinas Fal y byddwyf [eb'r ef) yn anrhydeddus ym
mhlith y Tywysogion. Ond attebawdd Gwrtheyrn,
Ha ŵr da nid yw hynny weddus, canys estron a
Phagan ydwyt ti, a phe i'th anrhydeddwn di megis
Dluedog o'm gwlad fy hun, y Tywysogion
a gyfodent i'm herbyb. Ond Arglwydd [eb'r

[td. 71]
Hengist] caniattâ i'th wâs gymmaint o dir i adailadu
Castell ag yr amgylchyna Carrai. Di a gei
gymmaint a hynny yn rhwydd, eb'r Gwrtheyrn.
Ac yno y cymmerth Hengist groen tarw, ac a'i
holltodd yn un garrai, ac yn y lle cadarnaf, efe a
amgylchynodd gymmaint a chae gweddol o dir,
ac a adailadodd yno Gaer hoyw, yr hon a elwid
yn Gymraeg gynt Caer y garrai, eithr yn-awr
gan y Saeson, Dancastre, i. e. Thong-chester.

Ac yno Hengist a wahoddodd Gwrtheyrn y Brenin
i weled y Castell a wnaethpwyd, a'r Marchogion
a ddaethai o Germani. A gwnaethpwyd
gwledd fawr yno, a gwybu Hengist fod Gwrtheyrn
y Brenin yn wr mursennaidd, felly efe a archodd i
Ronwen ei ferch, i wisgo'n wych odidog am dani,
ac i ddyfod i'r Bwrdd i lenwi gwin i'r Brenin.
A daeth ystryw Hengist fal yr ewyllysiodd, canys
Gwrtheyrn aniwair a hoffodd yr Enaith, ac a ddymunodd
gael cyscu gyd-a hi y noson honno, a phan
geryddwyd ef am hynny gan Esgob Llundain a
elwid Fodin, efe a'i trywanodd a'r cleddyf,
ac a gymmerth Rhonwen yn gariad-ferch iddo,
yr hon er tecced oedd, oedd lawn o bob ystryw
drwg. Geiriau'r Chronicl sydd fal hyn, A Gwedi
meddwi Gwrtheyrn, neidiaw a orug Diawl yntho,
a pheri iddaw gytsynniaw a'r Baganes ysgymmun
heb fedydd arni.

A'r ol hyn y Saeson a geisiasant amser cyfaddas
i ruthro a'r y Brutaniaid, ac yn gyntaf hwy a
achwynasant i fod eu gwobr yn rhy brin, a chawsant
'chwaneg gan y Brutaniaid, yr hyn a'i

[td. 72]
distawodd dros ennyd. Ond canasant yr un
Dôn yn ebrwydd eilwaith (er nad oedd hynny
ddim ond lliw ac escus) ac a fwgythasant i anrheithio
'r cwbl o amgylch. A allwn ni [eb'r
hwy] ymddwyn y fath lafur a lludded am sothach
a ffylbri? A raid ini fentro'n hoedlau i'ch cadw
chwi'n ddiogel a difraw a'm fawach a choeg-bethau
di-fudd? Nid ym ni y cyfryw ffyliaid. Ac yno
heddychasant a'r Ffichtiaid, cyd-ymgynnullasant
eu byddinoedd, a rhuthrasant dros yr Ynys or
Dwyrain i'r gorllewin. Prin y gall Tafod fynegi
Dywalder y Lladdfa echryslawn honno; cyffelyppach
oedd Gwedd yr ynys hon i Fynydd lloscedig
megis Etna nag i wlad ffrwythlawn mal y
buasai hi o'r blaen; canys y Saeson a gynneuasant
dan ym mhob Llannerch, yn y Dinasoedd, yn yr
ŷd, nes oedd y wlâd oll megis Goddaith; A'r
trigolion a leddid pa le bynnag y cyfarfyddid a
hwy, ac a'i gadewid yn dorfeydd rhyd y maesydd
yn borthiant i adar ysglyfaeth! Byddei'r
cestyll a'r tai annedd yn bentwr o gerrig, ac aelodau
drylliedig y Merthyron yn gymmysc a hwy!
Byddei'r Afonydd megis cynnifer gwythen goch
gan waed y lladdedigion oedd yn ffrydio iddynt!
Byddei'r Ogofau yn llawn o gelaneddau meirwon,
sef, y rhai a ffoesant yno, ac a drengasant
gan Newyn. A'r fyr eiriau Ni adawsant
na thŷ na thwlc heb ei losci, na dyn nac anifail
heb ei ladd y ffordd y cerddasant, Eu bwau a
ddrylliasant y gwyr ieuaingc, ac wrth ffrwyth

[td. 73]
bru ni thosturiasant, Eu llygaid nid eiriachasant
y rhai bach.

Wedi'r Ffeilson digred o'r diwedd flino lladd a
llosci, y rhan fwyaf o honynt [ansicr am ba achos]
a ddychwelasant adref i Germani. Dywed
rhai mae'r achos o'i mynediad adref oedd, o herwydd
iddynt lwytho eu cylla yn rhy lawn, ac
iddynt ddewis, er mwyn cael eu cynnefinol jechyd,
fyned tuag adref er cael lheshad y Fôr-wybr. Ac
ni ddylai y rheswm hwn gael ei wawdio gan neb,
canys siccr ydyw fod * Gartrefol fuchedd y Saeson
yn arw-fŵyd Sâl ddigon, ond wedi cael prawf
o ddanteithion Brydain, pwy all dybied amgen
oni fwyttausant nes cael bolwst neu Surffet?
A arbedai y fath farbariaid newynog ddanteithion,
pethau amheuthun, a melus-fwydydd? Ac i ba
ddiben y dychwelent hwy i Germani y pryd hwnnw,
pe ni fuasent yn swrth a bol-gleifion? Ond
boed yr achos o'i mynediad adref beth a fynno,
mae'n sicr na chawsant onid groesaw hagr a'r eu
dyfodiad eilwaith i Frydain. Can's y Brutaniaid
a ddifreiniasant Wrtheyrn felltigedig, ac a etholasant
ei fâb a elwid Gwrthefyr yn frenin yn ei le;
a gŵr duwiol arafaidd, etto dwys a glew oedd
hwnnw, ac a gyfenwir o ran ei sancteiddrwydd,
Gwrthefyr Fendigaid. Felly'r Brutaniaid a
ddychwelasant yn edifeiriol at yr Arglwydd eu
Duw, gan alw arno yn egniol, yn wresog ac yn
ddifrifol. Ac yno hwy a ymgynnullasant at
eu gilydd o bob parth, fal y Gwenyn i'r cwch

[td. 74]
a'r dymmestl, a gwedi parhau yspaid mywn gweddi
ac ymbil, hwy a wersyllasant eu gŵyr, ac
a gyrchasant eu gelynion, ac nid allodd y Saeson
er lluosocced oeddynt eu gwrthsefyll, canys buan
y ffoesant, a'r Brutaniaid a'i herlidiasant ac a laddasant
nifer fawr o honynt. Cad-pen y Brutaniaid
yn y frwydr honno a elwid Emrys, yr hwn oedd
wr pwyllog arafaidd. Bl. yr Argl. 464, y bu hynny.

Y Saeson a ollyngasant eu pennau'n llibin
a'r hyn o aflwydd, Ond cymmerwn gyssur etto (eb
'r hwy) nid yw hyn ond damwain. Felly anfonasant
adref i Germani i ddeisyf a'r eu cyd-wladwyr
i'w cynnorthwyo a gŵyr ac arfau i oresgyn ynys
 Brydain; a danfonwyd iddynt yn ddianoed
lû mawr o wyr arfog cedyrn, ac a ymladdasant
bedeir brwydr a'r Brutaniaid, ond y Brutaniaid
trwy borth Duw a ynnillasant y maes ym
mhob un o honynt; canys Gwell yw Duw yn Gâr na
llu Daear. A gorfu a'r y Saeson fyned i Dîr eu
gwlâd, heb fwriad i ddychwelyd fyth drachefn i
Frydain. Bl. yr Argl, 467 y bu hynny.

Er gyrru y gŵyr arfog fal hyn a'r ffo, etto
chwith fu gan y Brutaniaid i ruthro a'r y gwragedd
a'r plant a adawodd y Saeson a'r eu hôl.
Eithr yr addfwynder hynny a fu achlysur o'i dinistr
hwy, sef y Brutaniaid. Canys pan wybu
Rhonwen y Saesones felltigedig (Llys-fam Wrthefyr
y Brenin) i'r Saeson golli'r maes, a'i hymlid
adref, hi a lidiodd yn ddirfawr, ac a ddychymygodd
ynddi ei hun p'odd y gallai hi ladd
Wrthefyr y brenin. Ac o herwydd nad oedd bossibl
iddi hi ei hun gyflawni ei hystryw drwg, hi a
fynegodd ei bwriad, i un o'i gwas'naethwyr ffyddlonaf.

[td. 75]
Ac am Swm o arian efe a gyttunodd a hi,
a'r Melltigedig du a wenwynodd Wrthefyr clodfawryssaf
o holl frenhinoedd y Brutaniaid namyn
un sef Arthur ab Uthyr Bendragon. Pan
wybu Wrthefyr ddarfod ei wenwyno, efe a barodd
alw ei holl dywysogion atto a chyngori a orug
bawb o naddynt i amddiffyn eu gwlad, a'i gwir
ddlêd rhag estron-genhedl. A rhannu ei Swllt
[i. e. cyfoeth] a wnaeth i bawb o'r tywysogion,
a gorchymmyn llosci ei gorph ef, a rhoi y lludw
hwnnw mywn Delw o efydd a'r lûn gŵr yn y
porthladd lle bai estron-genedl yn ceisio dyfod i
dir, gan ddywedyd, Mae diau oedd na ddeuent
fyth tra gwelynt ei lun ef yno. Ond wedi marw
Gwrthefyr, ni wnaeth y Tywysogion megis yr
archasai efe iddynt, ond ei gladdu ef yng NghaerLudd
yr hon ddinas a elwir heddyw Llundain[.]


Llyma Rhonwen loyw-wen lon
Lawn ystryw o lin Estron.
Hwyr y tybir gwir gofiad
Mywn peth teg bod breg a brad!
Gorug [gwae ni] y Garan
Gwymp i ddynion glowion glân
Sorrodd y llances sarrug:
Torrodd hi wên llên a llug.

Naill yr ydoedd y Brutaniaid yn ffyliaid digymmar
y pryd hwnnw, neu Ynys Brydain oedd
wedi ei rhag-ordeinio i'r Saeson. Canys wedi
Wrthefyr fendigaid farw, hwy a etholasant

[td. 76]
Wrtheyrn felltigedig yn frenin eil-waith, yr hwn
a ddifreiniasant ychydig o'r blaen am ei ysgelerdr
a'i ddrygioni. Ac nid oedd Rhonwen yn ewyllysio
ond hynny, canys wedi ei eneinio ef yn frenin
drachefn, hi a anfonodd Gennadon hyd yn Germani
i yspysu i'w thâd fod Gwrthefyr ei elyn
marwol wedi marw. Ha, ha eb'r Hengist wrth
ei ŵyr, Y mae i ni obaith etto. Ond attebasant
yn lled athrist, Gobaith ansiccr jawn ydyw, canys
ni a ddirmygasom ormod a'r y Brutaniaid eusys,
a phobl lewion ydynt hwythau wedi llidio. Ffi,
Ffi, ebe Hengist, na soniwch chwedl cyfryw a
hwnnw, yr ydym ni yn gyfrwysach na hwy, Pan
ballo nerth, ni a fedrwn wneud castieu. Ac yno
Hengist a gynullodd atto dri chan mil o ŵyr arfog,
ac a hwyliodd i Frydain; Ond pan welodd y Brutaniaid
y fath Lynges fawr yn hwylio parth ag attynt,
hwy a siccrhausant y Porthladd fal nad allent
dirio. Ac yno y gosododd Hengist arwydd tangneddyf
i siommi'r Brutaniaid, ac a ddanfonodd
gennadon i fynegi i'r Brenin, mae nid er molest
yn y bŷd y daeth efe i Frydain y waith honno
a'r fath lu ganddo, ond i gynnorthwyo'r Brenin i
ynnill ei Goron yr hon a gippiwyd yn anghyfiawn
oddiwrtho: Canys ni wyddem ni ddim amgen,
[eb'r hwy,] onid oedd Gwrthefyr dy fab yn fyw
etto. Cymmerodd Gwrtheyrn y brenin hoffder
yn yr ymadrodd hwnnw, ac a ddiolchodd
iddynt am eu cariad. Ac yno hwy a ofynnasant
i'r Brenin, o byddai gwiw gan ei Fawrhydi ef
i appwyntio rhyw ddiwrnod fal y cai Hengist eu
harglwydd siarad ag ef. Efe a gaiff yn rhwydd
hynny o ffafor, ebe Gwrtheyrn. Eithr o Arglwydd

[td. 77]
frenin [eb'r hwy etto] fal yr ymddangoso etto'n
eglurach ein bod ni yn wir ewyllysio tangneddyf
nid cynnen, deued pawb yn ddiarfog i'r lle gosodedig
a wêl eich mawrhydi chwi yn dda i'w
appwyntio. Da y dywedwch (ebe Gwrtheyrn)
ac ni a gyfarfyddwn ddydd calan-mai nessaf yng
wastadedd Caer-Caradoc.

Wedi hyn gymmeryd affaith Hengist a alwodd
ei farchogion atto ac a archodd iddynt i wneuthur
fal y cynghorai efe. A gwedi iddynt addaw
a'r wneuthur hynny, Hengist a aeth rhago
gan ddywedyd, Dydd calan-mai nessaf yr ŷm yn
cyfarfod y Brutaniaid tan rith i heddychu a hwy,
ond mywn gwirionedd i'w lladd. Canys wedi i ni
ladd y Pennaethiaid, ê ddyd hynny gymmaint o
fraw yn y Gwerinos, fal na bo gan un o naddunt
galon i'n gwrthsefyll. Ond i affeithio hyn o
orchwyl yn gyfrwys, Dygwch bob un o honoch
gyllell awch-lem flaen-fain (megis cyllill y cigyddion)
yn ei lawes; A phan ddywedaf i wrthych
Nemet eour Saxes lladded pawb y nessaf atto.
Hynny a fydd yr Arwydd. Ac a'r y dydd
'pwyntiedig cyfarfod a wnaethant yn heddychlon ac
yn gariadus, ac a eisteddasant Frittwn a Sais blith
draphlith o amgylch y byrddau: Ond wedi eu
myned yn llawen, cododd Hengist a'r ei draed,
ac a waeddodd Nemet eour Saxes. Ac yn ddiattreg
hwy a dynnasant eu cyllill hirion allan, ac a
laddasant ynghylch tri chant o bendefigion y
deyrnas yn dosturus jawn. Ac ni ddiangodd
neb o Dywysogion ynys Brydain ond Eidiol Jarll
Caer-loyw yr hwn a ddiangodd o nerth trosol a

[td. 78]
gafas ef dan ei draed, ac a'r trosol hwnnw, efe a
laddodd ddeng ŵr a thriugain o'r Saeson, canys
gŵr glew oedd hwnnw Ystyr y geiriau
Nemet eour Saxes, yw Cymmerwch eich cyllill.
Bl. yr Argl. 473 y bu hynny.

Fe ddamweiniodd i mi weled un o 'r cyllill hirion
hynny, ac un hagr hell ydoedd hi; Y llafn
oedd ynghylch 7 modfedd o hyd, ac yn 'chwaneg
na hanner modfedd o lêd, ac yn ddau finiog
5 modfedd o'r saith. Ei charn oedd
Elephant, a manyl-waith cywrain arno, a llun
gwraig noeth, a bŵl crwn yn y llaw afrwy, a'r
llaw ddeheu a'r ben ei chlun. Ac yr oedd llun
gwâs ieuangc wrth y tu deheu o honi, a'r Haul
o amgylch ei ben. Ei gwain oedd Elephant hefyd,
wedi ei gweithio yn gywrain jawn: Ac meddant
hwy, yr oedd y Gyllell hon yn un o'r rhai
fu gan y Saeson yn lladd Pennaethiaid y Cymru.
Ac wrth ystyried y drwg a wnaeth hi, nid allaf
lai na doydyd.


Gwae ni ddydd anedwydd Haf!
Gwell oedd blîn guch-hin gauaf:
Gwae rhag Gwrtheyr' gwr gwrthun!
A gwae fawr rhag gwe ei fun!
A gwae fwy etto tro trist!
Angau trwch rhag llafn Hengist!
Pa ddifriaeth gaeth geithiw
Haeddai'r gyllell hell ei lliw?
Mîn Judas yn lliasu;
Dant ci crôg cyndeiriog du;
Cilwg anfad y fad fawr;
Colyn sarphes gelain-sawr;


[td. 79]

Swch ellyll ddigellwair;
Saeth hagr hell fel cyllell wair;
Dagr garnwen, gethren gythrawl;
Neddai ddu a naddai Ddiawl.

Er mwyn rhoddi i'ch ystyriaeth siampl hynod
o farnedigaeth y Goruchaf a'r Bechod a Rhyfyg,
tybiais yn addas i osod yma hanes o farwolaeth
Echrys-lawn Gwrtheyrn y brenin, can's ni laddasant
mo'no ef yn y wledd waedlyd honno, eithr
cadwynasant ef dros ychydig ddyddiau, ac o herwydd
ei fod yn fab ynghyfraith i Hengist, gollyngasant
ef yn rhydd i fyned pa le y mynnei ei hun.
Ac yn ddiattreg efe a aeth a'r encil tua Gwynedd,
ac i ddeleu coffadwriaeth ei wynfydedigrwydd
gynt, a dugn-frad y Saeson, efe a fwriadodd i
adailadu o fywn Eryri yng Gwynedd Gastell i
fyw'n ddiogel tua ei Butteiniaid yno. * Ond
cymmaint a adailadid y Dydd a Syrthiai'r nos, ac
ni ellid mywn modd yn y bŷd i beri'r gwaith
sefyll. Synnu a wnaeth pawb yn ddirfawr i
weled y fath ddamwain ryfeddol a honno, ac o'r
diwedd y Brenin a ymgynghorodd a'i ddauddeg
prif-fardd am yr achos na safai'r gwaith. Ond
ni allent mywn modd yn y byd chwilio allan yr
achos. Ac yno y dywad y Synwyrolaf o honynt,
Rhac i'n celfyddyd fod yn watworgerdd, dywedwn
beth amhossibl i fod Felly hwy a ddywedasant

[td. 80]
wrth y Brenin, Pe ceid gwaed mab heb
dad iddo, a phe cymmyscid hwnnw a'r dwfr ac
a'r calch, fe saif y gwaith. Ac yn ddianoed y
Brenin a anfonodd ei Swyddogion i bob man o
Gymru i ymofyn pa le y ganesid un mab heb Dad
iddo. A gwedi tramwyo gan mwyaf yr holl
wlâd, y daeth dau o'r cennadon i Dref a elwid
wedi hynny, Caer-fyrddin, ac ym mhorth y
y ddinas hwy a welynt ddau langc ieuangc yn
chwarau pêl; enw'r naill oedd Myrddin, ac enw'r
llall oedd Dunawt. A'r llangciau hyn (fal y mae
hi'n damweinio etto yn y fath achos) a ymryssonasant
a'i gilydd, a Dunawt a ddwad wrth
Myrddin, Pa achos ydd ymryssoni di a myfi ? Canys
dyn tynghetfenawl wyt ti, heb Dad, a minnau
sydd o lin brenhinawl o ran Mam a thâd. Pan glybu
y Cennadon yr ymadrodd hwnnw, hwy a
edrychasant yn graff a'r Myrddin, ac a ofynnasant
i'r dynion oedd yn sefyll o amgylch, pwy oedd
y gwas ieuangc hwnnw? Hwy a attebasant na
wyddent hwy pwy oedd ei Dâd, ond ei fam oedd
ferch i frenin Dyfet ac yn Fynaches yn y Dref
honno. Ac yn ddianoed hwy a aethant at Gwnstab
y ddinas, ac a archasant iddo trwy awdurdod y
Brenin anfon Myrddin a'i fam at ei Fawrhydi
yng-Wynedd.

A gwedi eu dyfod ger bron y Brenin, y gofynwyd
i Myrddin pwy oedd ei Dâd ef? A'i fam
a attebodd Na's gwyddai hi Pwy? Pa fodd y
gall hynny fod, eb'r Brenin? Un ferch oeddwn
[eb'r hi] i frenin Dyfet, a'n nhad a'm rhoddes i
yn Fynaches yng Nghaerfyrddin; Ac fal yr oeddwn
yn cyscu ryw noswaith rhwng fy nghyfeillesau mi a
dybiwn yn fy hûn fod rhyw was iefangc teccaf yn y byd

[td. 81]
yn ymgydio a mi, eithr pan dduhunais i nid oedd yno
neb namyn fi am cyfeillesau; A'r amser hwnnw y
beichogais i ac y ganwyd y mab rhaccw, ac i'm cyffes i
Dduw ni bu i mi achos gwyr ond hynny; A rhyfeddu
yn fawr a wnaeth y brenin i glywed hynny, ac a archodd
ddwyn Meugan ddewin atto, ac a ofynnodd
iddo, a allai hynny fod? A Meugan a attebodd,
Gall o Arglwydd frenin, ac a draethodd ei resymmau
i brofi hynny. Ac yno y dywad y
Brenin wrth Myrddin, Mae'n rhaid i mi gael dy
waed. Pa les a wna fy ngwaed i mwy na gwaed
dyn arall ebe Fyrddin? A'm ddywedyd o'm dauddeg
prif-fardd y pair dy waed di i'r gwaith sefyll
yn dragywydd, eb'r Brenin, Ac yno y gofynnodd
 Myrddin i'r prif-feirdd, Pa beth oedd yn
llestair y gwaith? Ac ni allasant roddi atteb
iddaw. Ac yno y galwodd Myrddin hwy yn,
Dywyllwyr, a Bradwyr celwyddog. Felly efe a barodd
gloddio y ddaear yno, ac yn ebrwydd y
cafwyd llyn o ddwfr, a gwedi dyhyspyddu'r llyn
trwy ei arch ef y cafwyd yn ei gwaelod ddeu
faen geuon, a dwy ddraig, un wen, a'r llall yn

[td. 82]
goch yn cyscu ynddynt. A hynny oedd yr achos
na safai'r gwaith. Felly y Brenin a roddes anrhydedd
mawr i Fyrddin, ond efe a laddodd y
Dauddeg Prif-fardd o herwydd iddynt eu siommi
ef, ac y mae eu beddau i'w gweled yno hyd heddyw
yn adnabyddus wrth enw Beddau'r Dewiniaid.
Pa un a wnaeth y Gwaith a sefyll gwedi'n
neu syrthio, ni's gwn i, ond y mae 'n siccr i'r Brenin
symmud oddi yno i Ddeheubarth, ac a'r lan
Teifi y gorphwysodd mywn lle anial yno, ac a
wnaeth Gastell hoyw. Ond wedi iddo efe fwynhau
ei rodres aniwair tua ei Butteiniaid yno ryw
dalm o amser, y daeth Gwr duwiol * heibio yn
galon-ofidus jawn i weled y fath ddiystyr ac amharch
a'r gyfraith Duw ac ydoedd yn Llŷs y
Brenin Gwrtheyrn, ac efe a'i ceryddodd a'm
ei bechodau ffiaidd. Ond pan ddeallodd na thycciai
ei argyoeddiad, efe a weddiodd Dduw o ddifrif
na adawai efe y fath ffieidd-dra 'Sceler i lwyddo
rhac bod yn gwymp a thramgwydd i eraill. Ac
yno, gwedi iddo barhau dri niwrnod a thair nôs
mywn gweddi, y syrthiodd tân o'r wybr yn y
bedwaredd nôs, ac a loscodd y Castell a'r Brenin
a'i holl Gyfeillion yn ulw. Digwyddodd
y farnedigaeth hon Bl. yr Argl. 480. Ac y
mae Relyw y Castell yn weledig hyd heddyw yn
adnabyddus wrth enw Craig Wrtheyrn. Y lle
hwnnw sydd bedair milltir is-law Llan-petr PontStephan
yn Sîr Gaerfyrddin a'r Lan Teifi.


[td. 83]
Ond i ddychwelyd etto at amgylchiadau'r Brutaniaid
wedi lladd y Dluedogion. Bu hi gyfyng
arnynt dalm mawr o amser wedi hynny, ac nid
oedd nawdd ond y Diffaithwch a chromlechydd y
Mynyddoedd, canys cyn ffyrnicced oedd y Saeson,
fal na ddiangai neb a'i fywyd ganddo ag a ddeuai
o fywn eu crafangau. Ond y prif-achos o hyn oll,
oedd pechodau ffiaidd a drwg-fuchedd y Brutaniaid,
ac am hynny Pawb a'r a'i cawsant a'i difasant,
a'i gelynion a ddywedasant Ni wnaethom ni
a'r fai, canys hwy a bechasant yn erbyn yr Arglwydd,
trigle cyfiawnder sef yr Arglwydd gobaith
eu tadau. Jer. 5, 7. Ac o'r diwedd ein Hynafiaid
ninnau a ystyriasant hynny o ddifrif, ac a
ddychwelasant yn Edifeiriol at yr Arglwydd. Ac
yno, yr Etholasant Wr duwiol a elwid Emrys
wledig * yn Frenin arnynt, yr hwn a fuasai yn Gadpen
o'r blaen yn amser Gwrthefyr fendigaid, ac
a lwyddodd fal y darllenasoch eusys. Ond y
waith hon wedi ei goroni ef yn frenin, efe a ddyrchafodd
Fraint y Brutaniaid hyd y Nen, ac a ostyngodd
greulonder y Saeson hyd y llŵch. Canys
mywn brwydr a ymladdasai a hwy, y gwasgarwyd
eu holl lu, a daliwyd Hengist eu tywysog
yn garcharor; a'r Milwyr a'i llyscasant gerfydd
ei farf i'w ladd ef, eithr rhai o'r pennaethiaid
nid y gwyr callaf) a ewyllysiasant ei arbed ef,
ond yno y dywad Esgob a elwid Dyfrig, Pettai
bob un o honoch chwi am ei ryddhau ef, myfi, ie myfi,
ag wyf yn Esgob, a'i drylliwn ef yn chwilfriw,

[td. 84]
canys mi a ganlynwn Siampl y Prophwyd Samuel
yr hwn pan oedd Agag Brenin Abimelec yn ei law
a ddywedodd, Fal y diblantodd dy gleddyf di wragedd,
felly y diblentir dy fam ditheu ym mysc
gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag ger
bron yr Arglwydd yn Gilgal. 1. Sam. 15, 33.
Gwnewch chwitheu Anwylwyr yr un ffunud i
Hengist, yr hwn sydd megis ail Agag: Ac yno
Eidiol Jarll Caer-loyw brawd Dyfrig yr Esgob,
a ddrylliodd Hengist, yn dameidiau. A thyna
ddiwedd am y Bradwr hwnnw. Bl. yr Argl-
489 y bu hynny.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section