Adran o’r blaen
Previous section

Groniosaw, James Albert Ukawsaw. Berr hanes o'r pethau mwyaf hynod ym mywyd James Albert Ukawsaw Groniosaw, tywysog o Affrica: Fel yr adroddwyd ganddo ei hun (Aberhonddu: Argraphwyd dros y Parch. Mr. W. Wiliams, gan E. Evans, 1779), testun cyflawn / entire text.

Cynnwys
Contents

Y Rhagymadrodd at y Darllenydd. iii
HANES James Albert, &c. 5


[td. iii]


Y Rhagymadrodd at y Darllenydd.


Yr hanes hon o fywyd a phrofiad ysprydol James
Albert
, a gymmerwyd o 'i enau ef ei hun, ac a
roddwyd ar bapur gan bin ysgrifennu pendefiges ieuangc
o dref Llanllieni (Leominster), er ei difyrrwch
ei hun, ac heb un diben ar y cyntaf i 'w wneud yn
gyhoeddus. Ond fe gafwyd ganddi yn awr ei roddi
mewn argraph-wasg, o un diben (fel yr ydys yn
meddwl) bydd yr hanes fechan hon i gynnwys sylwedd
deilwng o sylwiad a gwrandawiad pob darllenydd
Crist'nogol.——Fe allai fod gennym ni yma, mewn
rhyw radd, agoriad o 'r cwestiwn hwnnw ag a flinodd
feddyliau cynnifer o ddynion prysur: sef ymha [~ ym mha ] ddull y
delia Duw â 'r rhannau tywyll hynny o 'r byd lle na's
daeth erioed mo Efengyl Iesu Grist? Yn awr mae
yn ymddangos oddi wrth brofiadau y dyn hynod hwn,
nad yw Duw yn achub heb wybodaeth y gwirionedd;
ond am y rhei'ny ragwybu efe, er iddynt gael eu geni
tan bob anfantais allanol, ac yn yr ardaloedd o dywyllwch
ac anwybodaeth mwya dudew, rhaid iddo
weithio yn rhyfeddol ar, ac effeithio eu meddyliau, ac
mewn gwryd o ragluniaethau doeth a mwya rhyfeddol
wedi eu happwyntio, mae efe yn eu dwyn hwynt at
foddion o ysprydol gyfarwyddiad, yn agor yn raddol
i 'w golwg lewyrch y gwirionedd, ac yn rhoddi iddynt
lawn berchennogaeth a mwynhâd o fendithion anchwiliadwy
ei Efengyl.—Pwy all ammau na ddaeth yr argyhoeddiadau
ag oedd yn cael eu cymmell mor nerthol
ar feddyliau Albert, pan oedd yn fachgen, fod Bod
yn uwch nâ 'r haul, y lloer, a 'r ser
(gwrthddrychau [~ gwrthrychau ]
addoliad pobl Affrica) oddi wrth Dad y goleuni, a 'u
bod, mewn perthynas iddo ef, yn flaenffrwyth o lewyrchiad
gogoniant yr Efengyl? A ystyriwn ni ei
siwrnai faith beryglus ef i oror Guinea, lle y gwerthwyd
ef yn gaethwas, ac felly y dygwyd ef i dir Crist'nogol,
yn unig fel effaith tueddiad astud, ymofyngar?
A gawn ni wrth roi cyfrif ohono ei roi ef i ddim sydd
uwch nag unig ddamwain, neu amgylchiad digwyddiadol?
Pa beth bynnag feddylio Deistiaid ac Athistiaid,
[~ Atheistiaid ] yr wyf yn gobeithio y bydd i 'r darllenydd Crist'nogol

[td. iv]
yn hawdd ganfod trefniad a chyfarwyddiad
ddoeth a hollalluog yn yr holl ysgogiadau hyn. Yr
oedd ef yn perthyn i Waredwr pechaduriaid colledig;
pwrcas ei groes ydoedd; am hynny yr Arglwydd gymmerodd
arno ei dywys ef ffordd ni's adnabu, o dywyllwch
i 'w ryfeddol oleuni
, fel y gallai ei arwain
ef i iachusol galon-adnabyddiaeth ac undeb â 'r Tri yn
Un Duw yng Nghrist yn cymmodi 'r byd ag ef ei
hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau.
—Fel yr oedd
ei alwad ef yn anarferol iawn, felly mae rhai pethau
neilltuol yn hynod iawn yn ei brofiadau ef. Duw
ddododd anrhydedd neilltuol arno yn arferiad ei ffydd
a 'i amynedd, yr hon yn y treialon a 'r cystuddiau mwya,
cyfyng a thruenus a gafwyd er clod a gogoniant i 'r
Arglwydd. Pa mor ddwfn mae 'n rhaid ei fod yn
effeithio ar galon dyner i gael ei droi nid yn unig i 'r
cyfyngder eithaf ei hunan, ond bod ei wraig a 'i blant
ar ddarfod amdanynt o flaen ei lygaid! Etto ni
ddiffygiodd ei ffydd ef; fe obeithiodd yn yr Arglwydd,
ac fe waredwyd. Ac yn y funud hon, er
iddo gael ei eni o waedoliaeth uchel, ac yn awr tan
bwys amrywiol ragluniaethau cystuddiol, yr wyf yn
credu (canys yr wyf yn adnabod y dyn) y byddai yn
well ganddo gofleidio 'r dommen â Christ yn ei galon,
nâ rhoi fynu ei feddiannau ysprydol a 'i fwynhâd
i lanw gorseddfaingc brenhinoedd. Fe allai nad yw
ddim maes o le i ddal sulw i James Albert ymadael
â 'i wlad enedigol (mor belled ag allaf ddeall oddi
wrth rai amgylchiadau) pan oedd ef ond 15 mlwydd
oed; mae yn ymddangos yn awr ei fod wedi troi ar
drugain [~ drigain ]: o ddeall naturiol da iawn; yn bur gyfarwydd
yn yr Ysgrythurau, a phethau Duw, ac yn
berchen tymmer garuaidd a thyner; a 'i ymddygiad da
ellir dystio nid yn unig yn Kidderminster, lle mae ef
yr awr hon yn aros, ond hefyd gan amryw bersonau
credadwy yn Llundain a lleoedd eraill. Ddarllenydd,
gan gyflwyno yr hanes hon i 'ch darlleniad, ac yntef
yr hwn yw y testun ohoni i 'ch parch cariadus,


Yr wyf eich ffyddlon a 'ch ufudd was er mwyn Crist,
W. SHIRLEY.


[td. 5]


HANES
James Albert, &c.


FE 'm ganwyd yn ninas Bournou; fy
mam oedd ferch henaf brenhin Zaara,
dinas bennaf pa un yw Bournou.
Myfi oedd y ieuangaf o chwech o
blant, ac yn cael fy ngharu yn neilltuol
gan fy mam, a fy nhaid oedd
ymron ynfydu o gariad attaf.

Yr oedd gennyf o fy mebyd fath o feddwl ymofyngar;
yr oeddwn o dymmer mwy prudd a distaw
nag un o 'm brodyr na 'm chwiorydd. Mi a 'u blinwn
hwynt yn fynych â holiadau na's gallent eu
hatteb: am ba achos yr oeddent yn diflasu arnaf,
am eu bod yn tybied fy mod naill ai yn ynfyd neu
allan o 'm pwyll. Diau fy mod ar rai prydiau yn
bur annedwydd ynof fy hun: yr oedd e 'n gwasgu
yn gryf ar fy meddwl fod rhyw Ddyn mawr o allu
yn cyfaneddu uwch yr haul, y lleuad a 'r ser, y rhai
oedd gwrthddrychau [~ gwrthrychau ] ein haddoliad ni. Hi ddioddefai
fy mam anwyl dirion gennyf ragor nâ neb
arall o 'm cyfeillion.—Yn fynych mi ddyrchafwn fy
llaw tu a 'r nef, ac a ofynwn iddi pwy oedd yn byw
yno? ac anfoddlon iawn oeddwn pan dywedai hi
wrthyf, yr haul, y lloer a 'r ser, gan fy mod yn
credu yn fy meddwl fy hun fod yn rhaid bod yno
ryw Allu mwy.—Yr oeddwn yn suddo yn fynych
mewn rhyfeddod wrth edrych ar waith y greadigaeth:
ofnus ac anesmwyth oeddwn, ac ni's gallaswn
ddywedyd am ba beth. Eisiau oedd arnaf i gael fy

[td. 6]
nghyfarwyddo am bethau ag na's gallasai un dyn
roi gwybod i mi; ac yn wastad yr oeddwn heb
gael dim boddlondeb. Yr argraphiadau rhyfeddol
hyn a ddechreuasant yn fy mebyd, ac a 'm dilynasant
I yn wastadol nes gadewais fy rhieni; yr hyn
sydd yn rhoddi i mi achos o ryfeddod a diolchgarwch.—
Yn y modd hwn mi dyfais yn fwy fwy anesmwyth
bob dydd, fel ar un dydd Sadwrn (yr hwn
yw 'r dydd ar ba un yr y'm [~ ŷm ] ni yn cadw 'n Sabbath)
yr ymdrabaeddais mewn blinderau ac ofnau na's
gellir eu manegu, a 'r hyn sy 'n fwy anghyffredin,
ni's gallaswn roi rheswm amdanynt. Mi gyfodais
ar ol ein harfer ni, o ddautu tri o 'r gloch (fel yr
y'm [~ ŷ ] ni yn rhwym o fod yn ein lle addoliad awr cyn
codi haul) nid ydym yn dweud dim yn ein haddoliad,
ond yn para ar ein gliniau gan ddal ein dwylo
i fynu, heb yngan gair nes bo 'r haul ar ryw uchder,
yr hyn wyf yn feddwl allai fod o ddautu 10 neu 11
o 'r gloch yn Lloegr: pan wrth ryw arwydd wnair
gan yr offeiriad yr ydym yn codi i fynu (am fod
ein haddoliad wedi darfod) ac yn ymadael bawb i 'w
le neilltuol ei hun. Lle ein cyfarfod sydd tan bren
palmwydden fawr lydan; yr ydym yn rhannu ein
hunain i amryw gynlleidfaoedd [~ gynulleidfaoedd ]; am fod yn amhosibl
i 'r unrhyw bren i orchguddio trigolion yr holl ddinas,
er eu bod hwy yn fawrion iawn, yn uchel a
godidog rhagorol: defnyddioldeb a thegwch pa rai
ni's gellir ei ddisgrifio; mae 'n gwasanaethu trigolion
y wlad o fwyd, diod a dillad;* mae corph y balmwydden
yn fawr iawn; ac ar ryw amser o 'r flwyddyn
maent yn gollwng ymaith ei sudd ef, ac yn dwyn
llestri i dderbyn ei win ef, o ba un maent yn tynnu
allan gyflawnder mawr, nattur pa un sydd yn hyfryd

[td. 7]
felus: dail y pren hwn sydd o nattur sidan; maent
yn fawr ac yn dyner; pan b'ont [~ bônt ] wedi sychu a 'u tynnu
yn ddarnau oddi wrth eu gilydd, maent yn ymddangos
fel llîn Lloegr, ac y mae dinasyddion Bournou
yn ei weithio ef yn ddillad, &c. Y pren hwn
sydd hefyd yn dwyn planhigyn neu sylwedd ag sydd
yn ymddangos fel cabbage, ac yn gyffelyb iawn iddi,
mewn blas bron yr un fath; mae yn tyfu rhwng y
canghennau. Y mae ef hefyd yn dwyn cneuen, yn
agos yn gyffelyb i cocoa, yr hon sy 'n cynnwys cnewyllyn
ym mha un y mae llawnder mawr o laeth,
yn hyfryd iawn ei flas: y plisgyn sydd o sylwedd
galed, ac o ymddangosiad têg iawn, ac sydd yn
gwasanaethu yn amrywiol fath o lestri, &c. Ond
i fyned ymlaen; ar ol i addoliad ein Sabbath fyned
heibio (y diwrnod yr oeddwn yn fwy trallodedig a
chystuddiedig nag erioed) yr oeddem bawb ar ein
ffordd adref fel arferol, pan darfu i gwmmwl du
anghyffredin gyfodi a gorchguddio 'r haul; yna canlynodd
gwlaw trwm iawn a tharanau mwy dychrynllyd
nag a glywais erioed o 'r blaen: y nefoedd a
ruodd, a 'r ddaear a grynodd gan eu swn: hyn a
weithiodd arnaf yn ddwfn ac a 'm taflodd i lawr;
fel yr wylais yn druenus, ac fel na's gallaswn ddilyn
fy nghyfneseifiaid a 'm cyfeillion i dref.—Gorfu arnaf
aros, a theimlo yr oeddwn fel pe buasai fy nghoesau
wedi eu rhwymo, a chrynu yr oeddent tanaf: felly
mi safais yn llonydd, gan fy mod yn ofni yn fawr y
Dyn o allu ag oeddwn I yn gredu ynof fy hun ei fod
yn byw uwch ben. Un o 'm cyfeillion ieuaingc, yr
hwn oedd â chariad neilltuol attaf fi a minnau atto
yntef, a ddaeth yn ol i edrych amdanaf: fe ofynodd
i mi paham yr oeddwn yn sefyll yn llonydd yn
y fath wlaw creulon? ni's dywedais wrtho ond yn
unig bod fy nghoesau I yn weinion, ac na's gallaswn
ddyfod yn gynt: fe effeithiodd yn fawr arno wrth
fy ngweled I yn wylo, ac fe 'm cymmerodd I erbyn
fy llaw, ac a ddywedodd y dygai efe fi adref, yr
hyn a wnaeth. Fy mam a gyffrôdd yn fawr am i

[td. 8]
mi aros allan yn y fath dywydd creulon; hi ofynodd
i mi amryw gwestiynau paham y gwnaethum
felly, ac a oeddwn I yn iach? Fy anwyl fam, ebe
fi, attolwg pwy yw y Dyn mawr o allu ag sydd
yn gwneuthur y taranau? hi ddywedodd, nad oedd
un gallu ond yr haul, y lloer a 'r ser; ac mai hwy
wnaeth ein gwlad ni oll. Mi ofynais eilwaith o ba
le y daeth ein holl bobl ni? Hi 'm hattebodd, un
o 'r llall; ac felly hi 'm dygodd yn ol dros amryw
genhedlaethau. Yna ebe fi, Pwy wnaeth y dyn
cyntaf?
a phwy wnaeth y fuwch gyntaf, a 'r llew
cyntaf, ac o ba le y mae 'r gilionen [~ gylionen ] yn dyfod, am
na's gall un dyn ei gwneud hi? Fy mam a ymddangosodd
mewn gofid mawr; hi ofnodd naill ai
bod fy synhwyrau i wedi adfeilio, neu fy mod yn
ynfyd. Fy nhad ddaeth i mewn, a phan welodd
efe hi mewn galar fe ofynnodd iddi yr achos, ond
pan adroddodd hi iddo ef ein hymddiddanion ni,
yr oedd ef yn anfoddlon iawn i mi, ac a ddywedodd
wrthyf y cospai efe fi yn chwerw os byddwn fyth
mor aflonydd ond hynny; fel y bwriadais na ddywedwn
ddim rhagor wrtho byth mwyach. Ond
mi dyfais yn annedwydd iawn ynnof fy hun; fy
mherthynasau a 'm cydnabod a gynnygasant trwy
bob moddion ag allent fy nifyrru, trwy fy nghymmeryd
I i farchogaeth ar eifr (yr hyn sydd arfer
gyffredin yn ein gwlad ni) ac i saethu â bwa a saeth;
ond ni's cefais ddim boddlonrwydd yn un o 'r pethau
hyn; ac ni's gallaswn fod yn esmwyth trwy un
moddion pa beth bynnag: a 'm rhieni oedd yn bur
anesmwyth fy ngweled mor brudd a melancholi.

O ddautu yr amser hwn fe ddaeth marsiandwr
oddi wrth y Gold Coast (goror aur) y drydedd dinas
yn Guinea, fe fasnachodd â thrigolion ein gwlad ni
mewn ifori, sef dant yr elephant, &c. Fe ddaliodd
sulw mawr ar fy nghyflwr annedwydd I, ac a ofynodd
yr achos ohono; fe ddangosodd drueni mawr
drosof, ac a ddywedodd, os byddai i fy rhieni ymadael
 â mi dros ychydig amser, ac iddo ef i 'm cymmeryd

[td. 9]
adre' gyd ag ef ei hun, fe fyddai hynny yn
fwy o wasanaeth i mi nâ dim ag allent wneud troswyf.—
Fe ddywedodd wrthyf os awn gyd ag ef, y
cawn weled teiau ag adenydd ganddynt yn rhodio ar
y dwfr, ac y cawn weled dynion gwynion; a bod
ganddo ef amryw feibion o 'm hoedran I, y rhai
fyddai yn gyfeillion i mi; ac fe ddywedodd hefyd
wrthyf y dygai efe mi yn ol drachefn yn fuan.——
Fe 'm boddlonwyd I yn fawr â hanes y fath le dieithr
a hwn, a dymuniad oedd ynwyf i fyned.——
Mi deimlais ryw gynhyrfiad dirgel ar fy meddwl, yr
hwn nas gallaswn ei wrthwynebu, ag oedd fel pe
dywedasai wrthyf fod yn rhaid i mi fyned. Pan
gwelodd fy mam anwyl fy mod yn foddlon i ymadael
 â hwy, hi chwedleuodd â fy nhad, fy nhaid,
a 'r lleill o 'm perthynasau, y rhai oll a gyttunasant i
mi fyned gyd â 'r marsiandwr i 'r Gold Coast. Yr
oeddwn yn fwy boddlon am fod fy mrodyr a 'm
chwiorydd yn fy niystyru, ac yn edrych arnaf gyd â
dirmyg ar gyfrif fy nhymmer annedwydd; ac hyd
yn oed fy ngweision oeddent yn fy nibrisio, ac yn
diystyru 'r cwbl a ddywedwn. Yr oedd gennyf un
chwaer yr hon oedd bob amser yn dda iawn ganddi
amdanaf, a minnau a 'i cerais hithau yn hollol; ei
henw oedd Logwy, yr oedd hi yn hollol wyn, a
thêg, a gwallt têg golau, er fod fy nhad a mam yn
dduon.—Yr oedd arnaf hiraeth mawr i ymadael a 'm
hanwyl chwaer, a hithau oedd yn llefain yn alaethus
i ymadael â mi, yn plethu ei dwylaw, ac yn dangos
pob arwydd o alar ag ellid ddychymmygu. Yn
wir pe buaswn I yn gwybod pan ymadewais â 'm cyfeillion
ac â 'm gwlad na fuaswn fyth yn dychwelyd
attynt drachefn, fy nhrueni ar yr achos hynny fuasai
yn anrhaethadwy. Trist oedd fy holl berthynasau
i ymadael â mi; daeth fy anwyl fam gyd â mi fwy
nâ thri chant o filltiroedd ar gamel; y rhan gyntaf
o 'n siwrneu ni oedd yn gorwedd trwy goedydd: yr
oeddem yn amddiffyn ein hunain yn y nos oddi wrth
fwystfilod gwylltion trwy gynneu tân gylch cwmpas

[td. 10]
i ni; a ni a 'n camelod oeddem yn cadw o fewn
i 'r cwmpas, neu ddioddef cael ein torri yn ddarnau
gan y llewod a chreaduriaid rheipus eraill, y rhai
oedd yn rhuo yn erchyll mor gynted ag y deuai y
nos, ac a barhaent felly hyd y borau.—Nid oes le
i ganmawl ond ychydig ar y wlad y daethom ni
trwyddi; yn unig dyffryn o farble y daethom trwyddo,
yr hwn sydd yn hardd anrhaethadwy. O bob
tu i 'r dyffryn hwn mae mynydd uchel iawn ac agos
yn anhygyrch. Mae rhai darnau o 'r marble hwn
o hyd a lled anferth, ond o amryw faintioli a lliwiau,
mewn amrywiol luniau, ac o ddull rhyfeddol. Y
mae 'r dyffryn hwn gan mwyaf ohono â gwythiennau
aur wedi ei gymmysgu â lliwiau bywiol a thêg;
fel pan bo yr haul yn tywynnu arno, mae yn olwg
mor hyfryd ag allo un ddychymmyg. Y marsiandwr
a 'm dygodd I o Bournou, oedd yn bartner â
gŵr bonheddig arall yr hwn oedd yn dyfod gyd â
ni; hwn oedd yn anfoddlon iddo fy nghymmeryd
o dre', fel y dywedodd ef, ei fod yn rhagweled llawer
o beryglon ddeuai o i mi fyned gyd â hwynt.
Fe gynnygodd berswadio y marsiandwr i 'm taflu I
i bwll dwfn iawn ag oedd yn y dyffryn, ond ni's
gwrandawodd arno, ac a ddywedodd ei fod yn amcanu
cymmeryd gofal amdanaf: ond y llall oedd
yn bur anfoddlon; a phan y daethom at afon, yr
hon oeddem yn rhwym i fyned trwyddi, fe bwrpasodd
i fy nhaflu i lawr a 'm boddi; ond ni's cydsyniai
y marsiandwr ag ef, felly cefais fy achub.

Ni a deithiasom hyd o ddautu pedwar o 'r gloch
bob prydnhawn, ac yna dechreuem barottoi erbyn
y nos, trwy dorri i lawr nifer fawr o goed i gynneu
tân i 'n cadw rhag y bwystfilod rheipus.——Siwrneu
anfoddlon ac annedwydd iawn a gefais, gan fy mod
mewn ofnau gwastadol y byddai i 'r bobl ag oedd
gyd â mi i fy lladd. Mi feddyliwn yn fynych gyd
ag eitha gofid am y cymdeithion hawddgar ag adewais
yn ol, a choffadwriaeth o 'm hanwyl fam a dynnodd
ddagrau yn fynych o 'm llygaid. Ni's gallaf

[td. 11]
ddim cofio pa cŷd [~ cyhyd ] y buom yn myned o Bournou i 'r
Gold Coast; ond fel nad oes dim llongau yn agosach
i Bournou nâ 'r ddinas honno, blinedig oedd i deithio
mor belled ar hyd y tir, gan ei bod yn fwy nâ mil
o filltiroedd. Llawen oeddwn pan ddaethum i ben
fy siwrneu: Mi wag-ddychymmygais fod fy holl
ofidiau a 'm haflonyddwch yspryd yn diweddu yma;
ond pe buaswn yn edrych ar amser i ddyfod mi fuaswn
yn canfod fod gennyf lawer rhagor i ddioddef
nag a brofais I etto, ac nad oeddent ond prin ddechrau.

Yr oeddwn yn awr fwy nâ mil o filltiroedd o dre',
heb gennyf gyfaill nag un moddion i bwrcasu yr un.
Yn union ar ol i mi ddyfod i dŷ 'r marsiandwr mi
glywais y drymmau yn curo yn gryf eithus [~ aethus ], a 'r utgyrn
yn seinio. Y personau sydd arferol o wneud
hyn sydd raid iddynt dderchafu [~ ddyrchafu ] i ryw adeiliad uchel
at y perwyl hynny, fel y bo y swn i gyrraedd ymhell:
maent yn uwch nâ 'r clochdyau yn Lloegr.
Yr oeddwn yn pleseru yn rhyfedd mewn swn mor
hollol ddieithr i mi, ac ymholi yr oeddwn yn fawr
i wybod yr achos o 'r fath lawenydd, ac a ofynnais
lawer o gwestiynau yn ei gylch: fe 'm hattebwyd
mai annerchiad i mi ydoedd, am mai ŵyr oeddwn
i frenhin Bournou.

Yr hanes hon a roddodd i mi bleser dirgel; ond
ni's goddefwyd fi yn hir i fwynhau hyn o hyfrydwch,
canys yr un prydnhawn daeth dau o feibion y marsiandwr
(bechgyn oddi amgylch fy oedran fy hun)
tan redeg attaf, a dywedyd, fod yn rhaid i mi farw
drannoeth, am fod y brenhin yn meddwl torri fy
mhen I. Mi ddywedais fod yn sicr gennyf mai nid
gwirionedd ydoedd, o ran mai i hynny y daethum
i yno i chwarae â hwy, ac i weled teiau yn rhodio
ar y dwfr ag adenydd ganddynt, a 'r dynion gwynion;
ond yn fuan cefais wybod fod y brenhin yn
dychymmygu i mi gael fy nanfon yno gan fy nhad
fel yspiwr, ac y gwnawn y fath ddatguddiadau ar fy
nychweliad yn ol ag a 'u galluogai hwy i wneud rhyfel
gyd â mwy mantais i ni ein hunain; ac am y rhesymmau

[td. 12]
hyn ei fod ef yn resolfo na's dychwelwn I
byth yn ol i 'm gwlad fy hun. Pan clywais hyn
mi ddioddefais gystudd na's gall neb ei ddesgrifio [~ ddisgrifio ].
Mi ddymunais fil o weithiau nad ymadawswn fyth
â 'm ffryns ac â 'm gwlad. Ond fyth yr Hollalluog
oedd yn gweled bod yn dda i weithio gwyrthiau
trosof.

Y borau yr oeddwn i farw, fe 'm golchwyd, a 'm
holl addurnau aur a wnaed yn loyw ddisglair, ac yno
y 'm dygwyd i 'r palas, lle yr oedd y brenhin i dorri
fy mhen ei hun, ar ol arfer y lle hwnnw. Yr oedd
ef yn eistedd ar orsedd ym mhen uchaf cyntedd mawr
ehang iawn, yr hwn sydd raid myned trwyddo i fyned
i mewn i 'r palas, y mae ef mor ehang â chae
mawr yn Lloegr. Yr oeddwn yn myned rhwng
dwy res o life-guard. Yr wyf yn meddwl ei bod
o ddautu pedwar cant o latheidiau. Fe 'm harweiniwyd
gan fy nghyfaill, y marsiandwr o ddautu hanner
y ffordd i fynu; yno ni's gallasai efe ddyfod dim
ymhellach: mi aethum i fynu at y brenhin fy hunan.
Mi a aethum gyd ag yspryd calonnog, ac fe
welodd Duw fod yn dda i doddi calon y brenhin,
yr hwn oedd yn eistedd â 'i scymitar neu gleddyf cam
yn ei law yn barod i dorri ymaith fy mhen; etto fe
effeithiodd y peth gymmaint arno ei hun fel y gollyngodd
ef i lawr o 'i law, ac a 'm cymmerodd I ar ei
lin, ac a wylodd drosof. Minnau a osodais fy neheulaw
o ddautu ei wddf ef ac a 'i gwesgais wrth fy
mynwes. Fe 'm rhoddodd i eistedd i lawr ac a 'm
bendithiodd; ac a ddywedodd na laddai mohonof,
ac na's cawn fyned adref, ond cawn fy ngwerthu yn
gaeth-was, ac yna y 'm harweiniwyd yn ol drachefn
i dŷ 'r marsiandwr.

Y dydd nesaf fe 'm cymmerodd i long o Ffraingc;
ond ni fynnai 'r capten ddim fy mhrynu, fe ddywedodd
fy mod yn rhy fychan; ac yna cymmerodd y
marsiandwr fi yn ol i 'w dŷ drachefn.

Y partner yr hwn a ddywedais amdano fod yn
elyn i mi, oedd yn anfoddlon iawn i 'm gweled I yn

[td. 13]
dychwelyd, ac a bwrpasodd eilwaith wneud diben
ar fy mywyd; canys fe osododd allan i 'r llall y
byddai i mi eu dwyn hwynt i lawer o drallod a chyfyngderau,
a 'm bod i mor lleied nad oedd neb a 'm
prynai.

Bwriad y marsiandwr a ddechreuodd chwarae, ac
ofn yn wir oedd arnaf y rhoid fi i farwolaeth: ond
p'odd [~ pa fodd ] bynnag fe ddywedodd y gwnai brawf ohonof
un waith yn rhagor.

Ymhen ychydig ddyddiau daeth un o longau 'r
Dutch i 'r abar [~ aber ], a hwy a 'm dygasant i 'w bwrdd tan
obaith y pwrcasai y capten fi. Fel yr oeddent yn
myned, mi clywais hwynt yn cyttuno, os na's gallent
fy ngwerthu, yna y taflent fi i 'r môr. Yr
oeddwn mewn cystudd dirfawr pan clywais hyn;
ac mor gynted ag y gwelais gapten y Dutch, mi
redais atto, ac a roddais fy mreichiau amdano, ac
a ddywedais, Dad, cadw fi: (canys gwyddwn os na
phrynasai efe fi, yr ymddygid attaf yn greulon iawn,
ac o bosibl y 'm lladdasid). Ac er nad oedd ef yn
deall fy iaith I, etto gwelodd yr Hollalluog fod yn
dda iddo dueddu o 'm hochr, ac fe 'm prynodd I am
ddwy lathen o check, yr hyn sy o fwy pris yno nag
yn Lloegr.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section