[4. Cyngor Huw Wmphreys i'w Blant (1669)]
Cyngor Huw Wmphreys i
'w Blant
Y Mesur Cwymp y Dail
Arwŷdd attoch' ŵy 'n ei ddanfon
Nid o Aur nag arian Gwynion
Nid Twrci styff, nid Perl o
'r India
Nid Em'rald [~ emrald] Onyx Thus na Chasia
Nid rhôdd o Ddefaid, Mintau o Wartheg
Ond pêth ŷw brissio ganwaith chwaneg
Bŷw 'n grefyddol Dadol gyngor
Gwerthfawroccach na 'r hôll drysor
Ofnwch Dduw, ag ef gwasnaethwch
A hôll Nerth eich Calon weliwch
Er Da na Drŵg na ddigiwch mono
Yn ddiragrith glynwch wrtho
Yn ddyfal cedwch ei Orch'mynion [~ orchmynion]
Nad ânt fŷth o 'ch Co [~ cof] na 'ch Calon
Byddant i chwi 'n Riwl i weled
Bêth i wneuthŷd, bêth i
'w wilied
Hŵy a ddyscant i chwi allu
i adnabod Duw a
'i garu
Fal y galloch gael ymwared
Lle mae nawdd i gael, a Nodded
Ymarferwch weddi 'n ddyfal
Rhag Temtasiwn cymrwch ofal
Crŷ ag anial ŷw 'r Gelynion
A Chwithe 'n Ehud ag yn Wirion
Wrth ddŵys ystyried hŷnn, Gweddîwch
Yn ddibaid ar Dduw yr Heddwch
Cadarn ydi Gweddi wresog
A mawr yn Llyfrau 'r Hôll-alluog
Iago, Moses ysbŷs ydi
a dreisiasant Dduw a Gweddi
Ysbŷs hefŷd gadw o Weddi
Y Tri Llangc yn tân rhag llosgi
Grasol ŷw, a llawer ddichon
Taer ag ystig weddi 'r Cyfion
Trywanu wneiff hi 'r Nefoedd uchod
Ag ni ddescŷn heb ei cherdod.
[td. 305a]
Gair Duw 'n gyfan cofiwch wrando
Nad âed o 'ch Co [~ cof], myfyriwch arno
Fo fŷdd ichwi 'ch cadw 'n Darian
Ag yn Gledde i frathu Satan
I 'r Traed yn Llusern, goleu i 'r llygaid
Ymborth bywiol, bŵyd i
'r Enaid
Mewn Ing a blinder, Cyssur parod
Rhybŷdd da i ochelŷd pechod
Rhinwedd ŷw i wneuthŷr mowrlles
Fal Dau-finiog Gledde Achilés
Taro a brifo a wneiff yn ffyrnig
Ag i Iachau 'r un briw, mae 'n Feddŷg
Fe bâir ddychrŷn, fe bâir Syndod
Ar y Galon, ar Gydŵybod
Dŵg Bechadur o wann obaith
i
'w achub oddiwrth Borth Marwolaeth
Ar ôl hynny f' a
'i bywocca
Cyfŷd, cynnal, llawnycha [~ llawenycha]
Fo a hiachêiff a
'i addewidion
Sŷ 'n rasol pêr o Ene inion
Na Arfer Gelwŷdd, rhag cael drygair
Nag o ddifri nag o gellwair
Y Celwyddog diras difri
O Ddiawl y mae, ei Blentŷn ydi
Ymhôb Stât gochelwch falchder
Rhyfŷg, Rhodres, Traha, uchder
A ymdderchafo, a ostyngŷr
A
'r Gostyngedig a dderchefŷr
I 'ch Gwell rhowch barch, i 'ch Cydradd ynta
Rhowch iddo barch yn ôl yr haedda
Na ddiystyrwch mo
'r Cardottŷn
Rhowch iddo barch dros Dduw yn echwŷn
Eich Gwell a ddisgwŷl eich anrhydedd
Rhowch i 'ch Cydradd Barch yn weddedd
Rhowch i
'r Tlawd yn ôl eich gallu
Descynniff Bendith Duw 'chwi 'm [~ i chwi am] hynnŷ
Na adewch i Satan Rudo monoch
i gymerŷd ond yr eiddoch
Os tlawd yn bŷw, os C'waethog [~ cyfoethog] fyddwch
O
'r eiddo arall dim na cheisiwch
Byddwch Onest, gwiliwch bechu
Drŵy Butteindra, a Godinebu
Na adewch arnoch eisie ymgroesi
Am air Gogan a Thylodi
Nid oes ond Mesur bŷrr o amser
i alw 'r pechod hwnnw 'n bleser
Ond y Gwarth a ddêl oddiwrtho
Ceiff yr heppil rann ohono
Gochel gyfle, cymmer Gyngor
Cyfle sŷ 'n dŵyn Drŵg i Esgor
Dihareb wîr, a dwydiad hynod
Gochel gyfle, Gochel Bechod
[td. 305b]
Yn Fâb, yn Ferch Gochelwch yfed
i
'r naill a
'r llall y mae cin rheittiad [~ cyn rheitied]
Yn Fâb yn Ferch ger bronn yr haeldad
Y mae Meddwdod yn fai anfad
Cynnwr Penn, anrheithiad Wyneb
A llawn dorriad gwîr ddiweirdeb
Terfŷsc Tafod, cochni llygaid
Anrhaith meddwl, lladdiad Enaid
Colled amser, C'wylŷdd [~ cywilydd] buchedd
Bryntni Moeseu, gwarth anrhydedd
Difetha ei wraig a
'i Bland [~ blant] drŵy gamwedd
A wneiff y Meddw, brwnt ei fuchedd
I gadw nid ŷw 'r Meddw happlach
Nag ydi 'r Gogor, ei Gyfrinach
Na gwasanaeth ni wneiff aelod
Llâw na Throed, na chlust na Thafod
Doede Homer fôd i Circes
Droi yn Fôch Gwmpeini Ulŷsses
Wits a troadd, bêth oedd hi 'nd [~ ond] Diod?
A Droes yn Fôch aflendid Pechod.
Alexander a wnaeth Lofruddiaeth
Yn ei Wîn, gann lâdd ei Frawdmaeth
Ond pann ddefrôdd o
'r meddwdod allan
O
'r achos mynne lâdd ei hunan
Noah 'n Swrth ar Wîn a feddwodd
Ag yn ei Babell a ymddinoethodd
Lot gan feddwi anwarthus pechodd
Ac o 'i ddŵy Ferch, dau Fâb a 'nillodd [~ enillodd]
Y Cynta o
'r rheini y Bŷd a orchffygodd [~ orchfygodd]
A Noah rhag y Diliw ' ddiengodd
Rhag Tân Sodom, Lod a gadŵyd
A
'r tri gann feddwdod a orchffygwyd [~ orchfygwyd]
Cymrwch boen, gochelwch ddiogi
Ni bŷdd i Ddiog ddim daioni
Oni anŵyd Dŷn i lafur?
Y mae segurdra 'n erbyn Natur
Er i
'r Arglŵydd blannu Eden
Yn llawn o ffrŵyth yn Nhîr y Dŵyren
Oni osododd o Adda ynddi
i Lafurio, ag nid i ddiogi?
Y mae segurdra yn dra enbŷd
Fo fŷnn y Segur waith i wneuthŷd
Eiste dann y Prenn 'r oedd Adda
Pann y temptiŵyd efo 'g [~ ac] Efa.
Na chynhyrfed bŷth mo 'ch Calon
Er eich geni 'n Wenidogion
Ni roes Duw i Nêb mo
'r Cyweth
Yn rhâd, heb iddynt wneuthŷr rhywbeth
Gwasnaethodd Iacob ddau saith mlynedd
I
'w chwegrwn Laban am ei Wragedd
Dyna 'r môdd y bu i
'r Hael Dad
Roi 'ddo [~ iddo] Godiad, Parch a Chariad
O Garchar trîst, o drwmm gaethiwed
O Wasnaethu 'n wâs dann Feistred
Y Daeth Ioseph i anrhydedd
Ag anferth rŵysg, a chodiad rhyfedd.
[td. 306a]
Bêth oedd Moses ond bugeilio
Praidd ei Dâd ynghyfraith Iethro
A dyna 'r prŷd drŵy fawr lawenŷdd
Yr ymddangosodd Duw 'n y Mynŷdd
O Fugeilio 'r Defaid gwynion
O fewn Corlannau Iesse ffyddlon
Y dug Duw ei gu wâs Dafŷdd
O fôd ar Israel yn ben-llywŷdd
Bêth oedd Esther wenn ond alltud
Yn bŷw 'n y bŷd mewn Coegni ag adfŷd
Pann y cododd Duw gorucha
Hi 'n Frenhines Media a Phersia
Mae Duw etto yn 'r un allu
Hawdd y dichon o dderchafu
Y sawl a gwasnaetha 'n ffyddlon
I
'w osod gida Phendefigion
Yfi [~ Myfi] sŷ 'n mynd i ffordd fy Nhadau
Ag yno ar fyrder chwi ddowch chwithe
Attolwg gwnewch fy hôll orch'mynion [~ orchmynion]
Gwasnaethwch Dduw, 'nrhydeddwch [~ anrhydeddwch] Ddynion
Huw Wmffreys Person Trefdraeth
a
'i Cant. 1669