Adran o’r blaen
Previous section


[24. Roger Wiliams, Galar Gŵr am ei Gariad a Gollase (1689)]
Galar Gŵr am ei Gariad a
Gollase: Y Gŵr oedd Meister
Roger Wiliams Person Aber
a 'r Ferch oedd Meistres Alis
Huws chwaer M.r Owen Huws
o 'r Beaumares, yr honn oedd
y Prŷd hynnŷ yn Wraig Weddw
M.r Davŷdd Llŵyd Siencŷn o
Lysdulas, a gorfod arni briodi M.r
Tomas Fychan o dros yr Afon yn
erbŷn ei hŵyllŷs.

Cerais Lodes gynnes geinwedd
Feinir Ifangc fŵyn arafedd
Dygais nychdod gwastad gystŷdd
Fal Dŷn Gwirion dann ei gerŷdd
Yr oedd fy Meddwl ar ei Meddu
Na chae Dwstan fariath Lydan mo 'm colledu
Mae 'n rhaid Diodde pôb Digwyddiad
Heb drugaredd yn y diwedd ymadawiad

[td. 318b]
Nid oedd Nemmawr chwaith yn ammeu
Nad oedd Meinir bur i Minneu
Serch ag 'wyllŷs [~ ewyllys] cofŷs Cyfan
Galleu honn a 'i Llâw ei hunan
Ond bôd eraill yn ei gyrru
I le amgen rhai a goethan i phregethu
Am fy Seren Irwen Eurwawr
Och i Gyweth a hudolieth fŷth hŷd Elawr
Fe aeth y Geiniog fechan weithie
Gann lawer un yn Gant o Bunne
A rhai eraill er bôd mawrdda
Yn Mynd o Ganpunt i gardotta
Ffynnŷ a Ychydig, methu a llawer
Ffôl anianol, a mawr hudol roi morr hyder
Ar y Bŷd na dim sŷdd ynddo
Golŷd ammal a ddŵg ofal gida'g [~ gydag] efo
Tra gallŵyf ar y Ddaiar Symmŷd
Yr ŵy 'n dŵyn alar am fy 'nwylŷd [~ anwylyd]
Och i 'r sawl a luniodd athrod
Yhi [~ Hyhi] 'n Bur a minneu 'n barod!
Am na chowsom drŵy Lawenŷdd
Yn ddigwerylon, roi 'r ddŵy Galon gida 'i gilŷdd
Ni wnn i mhlê gwahenŷr bellach
O Glŵy traserch bŷth ar Lannerch ddau ffyddlonach
Deled iddi 'r ŵy 'n Dymuno
Fôd i 'w ffortŷn Loyw-ddyn lŵyddo
Nid yhi [~ hyhi] oedd yn fy llysu
Ond ei Chynghorwŷr, am fy ngharu
O Eisieu ' môd [~ fy mod] yn Perchen golŷd
A Mawr Gyweth, o naws barieth ansyberŵyd
Y Sawl a Gretto yn ei Galon
I 'r Goruchal, yn ddiogal fe geiff ddigon
Ped fae genni Loned Crochan
O Ragorol Aur ag Arian
A Hitheu yn ei Chrŷs a 'i Ffedog
Rhannu a wnawn hŷd at y Geiniog
Nid Dâ 'r Bŷd ŵy yn ei Chwennŷch
Ond ei Chorph Iredd, Meinir Luniedd Lân lawenwŷch
I 'w Gowleidio drŵy Hawddgarwch
Y Mâb a 'i caffo, nid rhaid iddo mŵy Dedwyddwch
Nid Gwiw i mi ddisgwil bellach
Gael mo 'm hwllŷs fynd yn holliach
Am y Gefais o 'i Chwmpeini
Melus oedd y Gwenwŷn imi
Tromm uchenaid wrth ymadel
Am Winwdden gain hôff Irwen ganu ffarwel
Geirie Pŵysol diwedd Passio
Cwlwm hirfaith oer iâs ymdaith aros amdo
Nid ar fy Mun yr ydŵy 'n beuo
Gann fôd Ceraint i 'w phrocurio
Dewis golud mŵy y Galle
Calon inion oedd gin inne
Ond y rwan hi aeth yn Blymmen
Drom boenydiol anfesurol am fy Seren
Gwayw foddion heb gyfaddeu
Nid ŵy 'n gweled fôd un Dynged imi ond Angeu.

Roger Wiliams a 'i Cant 1689


[td. 320b]

[27. Wiliam Lewis et al., Ymddiddan rhwng Meister Wiliam Lewis o Gemlŷn, a 'i Fâb ynghyfraith... (1663)]
Ymddiddan rhwng Meister Wiliam
Lewis o Gemlŷn, a 'i Fâb ynghyfraith
M.r John Huws y Telyniwr a 'r Cantwr
Mŵyn; ag Owen Lewis y Taliwr. Yr achos
oedd fal hŷnn; Ni fynne M.r John Huws i
Nêb i alw yn fachgen pann bassiodd o
Bymtheg oed, ag am fod M.r Lewis yn ei
alw yn fachgen, y tyfodd y ffray.

Nid ewch yn Ŵr er maint eich Gwŷn
Nes bôd yn un ar hugian
Nid ŷw Pymtheg gŵyr pôb Gwann
Un flŵydd ond oedran Bachgan

J.H.
Mae rhai 'n un ar hugian Llawn
Fal Bechgin mewn Maentioli
A Minneu 'n f' oedran doydai 'n siwr
Bôb Dŷdd sŷdd Wr yn profi

[td. 321a]
W.L.
Chwi ellwch fôd yn Ŵr mewn prŷd
Nid oes Nêb yn doydyd amgen
Ond nid ydŷch John yn awr
Ond Llabwst mawr o Fachgen

Taliwr
Ni fynne 'Nhâd [~ fy nhad] mo 'm galw 'n awr
Ond Llabwst mawr o Fachgen
R'ŵy [~ Yr wyf] prwfio 'n Ŵr fal Hector dêg
O Bymtheg hŷd yn Nhrigien.

W.L.
Fe eiff i wneuthur Gŵr stowt ffrî
O Dalwŷr Drî neu Chwaneg
Ag fellŷ lle bo garw Drîn
Yr eiff o Fechgcŷn [~ fechgyn] Bymtheg.

Taliwr
Yn Daliwr Gwnn fal 'r oeddwn gŷnt
Yn dda fy helŷnt hoywlan
Mewn garw Drîn yn prifio 'n siwr
Yn Ŵr o 'm Nerth fy hunan
Os rhowch chwi Meister Lewis Lân
Im Ogan heb ei Phrwfio
Mae John i 'ch atteb Brydŷdd ffel
'R'ŵy [~ Yr wyf] finneu 'n abel etto

W.L.
A Glowch chwi 'r Taliwr lledpen Hŵch
Attolwg byddwch lonŷdd
Y'marn [~ Ym marn] y Wlâd mi ddoyde 'n siwr
Nad y'ch na Gŵr na Phrydydd

J.H.
Y Sawl a ddoyto hŷnn yn Siwr
Nad ydŵy 'n Ŵr diammeu
Er Hên, nag Ievangc, gwann na chrŷ
Mi wna 'ddo [~ iddo] wadu 'r Geirieu

W.L.
Rhwng dŵy glun Merch mae ffynnon Lonn
Cael gwaelod honn os Medrwch
Cewch fôd yn Wr gann Lug a Llen
Os Methwch; Bachgcen [~ bachgen] fyddwch.

J.H.
Bêth a wna pan elŵy 'n Hên
A 'm penn a 'm Gên i Lŵydo
Ai ni fyddai 'n Ŵr mewn Oedran maith
Nes treio 'r Gwaith ffordd honno?

W.L.
Os bŷdd Gŵr heb ddim o 'r Serch
Na wneiff i Ferch Wasanaith
Digon Siwr pann êl o 'n Hên
A bŷdd o 'n Fachgen eilwaith

J.H.
Er Dŷn yn fŷw, er dim a fo
Er Maint a ddoyto ungwr
Ni byddai 'n Fachgen myn dail ôd
Ped f'arnai fôd yn Sawdwr.

Ar Redeg y gwnaed y Gân, yn
Eistedd wrth y bwrdd lle 'r oedd y
Taliwr yn gweithio, a Chyd rhyngddynt
y gwnaed y Gan. 1663.


[td. 321b]

[28. Rhisiart Abraham, Cerdd yn achŵyn ar Ŵr Bonheddig (1673)]
Cerdd yn achŵyn ar Ŵr Bonheddig am
dŵyllo 'r Crwner o 'r Chwaen Ddu am ei Forwŷn

Mae 'r Crwner yn cwyno 'm y dŵyll a wnaed iddo
Am Forwŷn o 'r eiddo wawr raddol ei bri
Gann ddoedŷd o 'i wirfodd i 'r Gŵr a 'i Cyflogodd
Mae 'r fŵyna 'r y bisodd ŷw Besi
Y Forwŷn ddifarwedd a 'gore [~ agorai] iddo 'n g'wiredd
Pann ddoe at ei Annedd yn Niwedd y Nôs
Os Oer, os têg fyddeu yr Hîn yn ddiameu
Ni chae ar fŷrr Eirieu fawr aros
Darllenad Paun Cemlŷn y Degfed orchymŷn
Mae yno 'n gwarafŷn drŵy Grefŷdd glau
Bôd yn rhŷ Chwannog i forwŷn ' Gymydog [~ ei gymydog]
Sŷdd Bechod afrowiog ei friwiau
Nid rhyfedd i 'r Forwŷn chwenychu bŷw ' Nghemlŷn [~ yng Nghemlyn]
Dymma iawn Destŷn a dystieu pa hamm
Pe cerddit Tîr Holl Gred am Farchwr i Ferched
Nid ellid bŷth weled bâth Wiliam
Na uwsiwch mo Fesi yn ail i Ferch Sladi
Os happiwch feichiogi 'r Fun weisgi fŵyn wêdd
Na rowch mo 'i Melys-fun er tolwg aur Dilŷn
I Lipprin fal Gwigin Fol gwagedd.
Cyflogi Gwawr Serchog heb fôdd i Pherchennog
Oedd Dŵyll am Weinidog i 'r Bowiog ŵr Bâch
Ond ei throi heibio heb achos, a 'i rhuso
Ei Hudo, a 'i thŵyllo oedd waith hyllach.

Rhisiart Abraham a 'i Cant 1673.


[29. Huw Bwccleu, Cân yn achŵyn ar Henaint (1660)]
Cân yn achŵyn ar Henaint

Fy nglân Gymdeidion [~ gymdeithion] gweddol
A 'm gwelodd gŷnt yn 'r ysgol
Nis gwnn i amcan bêth a wnâ
'm [~ am] eich Cyngor Dâ Naturiol
Mi gollais lân Gydymaith
Amdano 'r ŵy 'n dŵyn Hiraith
Gweddol, grasol, mŵyn di lîd
Hwnn ŷw Ieviengctid Perffaith
Yr oedd o 'n Landdŷn hefŷd
Hawddgarwch oedd ei Benprŷd
Ymlhe bynnag ar y bâe
'R oedd gantho Gampau hyfrŷd
Fe gerdde 'n Lystu 'r Ffeiriau
B'âe [~ Bai] 'n Droedsŷch iawn drŵy 'r Pyllau
Ar ei ysgŵydd dŵyn Ffonn Bîg
Fe Hede 'n ddiddig Gloddiau
Fe gare Lendid Geneth
Fe waria 'mhôb [~ ym mhob] Cwmnhieth
Nid Arsŵyde Nôs na Dŷdd
Gwnâe beunŷdd rŷw Wrolieth
Yn Sydŷn swrth fo gollodd
Ni wnn i Bêth a 'i perodd
Rhŷw Westwr Brwnt nis gwnn o b'le
A ddâeth i 'w Le fo 'm hanfodd.

[td. 322a]
A hwnn ŷw Henaint Difrŷ
Ni Châr ond rhai mo 'i Gwmni
Gwedi Grogi y bo fo 'n ffast
Gwnaeth a m 'fi [~ â myfi] Gast o Gnafri
Am wylltio Glanddŷn ymaith
A f'ase [~ fuasai] imi 'n Gydymaith
Y mae o 'n pŵyso arnai 'n drwmm
Ffei hono [~ ohono] Horswm diffaeth
Os awn at Glawdd i 'w ddringo
Ar feder Myned trosto
Y Naill Droed ai yn glîr ddiball
Ni wnâ y llall ond llithro
Os awn at Langces Serchog
A 'i Llygad Du Cynffonnog
Teimlo 'r Fun pa bêth a wnâ?
I Dduw a chwimia 'r Falog
Fy Ffrins oes môdd yn unlle
Mewn Sessiwn neu mewn Dadle
I gospi Henaint drŵy fawr Lîd
I gael f' Ieviengctid adre?
Am hŷnn nid gwiw mo 'rr gwingo
Rhaid im ag e gyttuno
Ffei o Henaint brwnt ei Fâr
Ffarwel a 'm câr dros heno.

Huw Bwccleu o Lanfechell
a 'i Cant. 1660.


[td. 323a]

[31. Dafŷdd ap Huw, Cwmnhiaeth Merched Dinbech (1649)]
Cwmnhiaeth Merched Dinbech.

Gwrandewch hanes tair o Ferched
Aeth mewn môdd ufŷdd i gŷd yfed
Sôn am waith y rhain yn fynych
Y Mae Bagad o Wŷr Dinbŷch
Mynd i 'r Tŷ lle 'r oedd eu hamcan
Eiste ' wnae 'r ddŵy ag ar y ddau Bentan
A 'r llall alwe 'n ddiwan am ddîod
Llenwi 'r Chwart fal pette fo Bligŷn
Doyda i 'r Chwedel bôd y Tippŷn
Mae Gwinedd rhŷ gethŷn ginn Gathod
Ar ôl eiste yno Ennŷd
Gwraig y Tŷ yn cael ei Gwynfŷd
Dechreu Sôn am Gwrs Carwriaeth
Fal y Meibion wrth Gwmnhiaeth
Fe ddoeda 'r Drydŷdd, o ddaead oedd ginni
Gael pêth Cyssur fal Llangcesŷ
G'dewch [~ Gadewch] inni rowiogi wrth y Bragod
Uwch benn y Tân hi lleda ei Llowdwr
Dann droi ei Brattieu i fynu 'n Bentwr
A Dangos ei Chwthwr i 'r Cathod.
Y Gâth Ievangc pan i cannŷ
Rhŷw bêth towŷll ar i fynŷ
Hitheu a neidia o dann y Gader
Yno, os happie i gael ei Swpper
Cyrchu a wnae at Arffed Meinwen
Yn lle cydio at Lygoden
Cael C'lommen [~ colomen] rhwng Dolen dau aelod
Hitheu a wasga ynghŷd ei Deulin
Brathe 'r Dittw Bedwar Cimmin
Mae Gwinedd rhŷ gethin ginn Gathod
Hitheu dynna 'r Gâth o 'i Gaflach
A 'i Llâw burwen yn ddi'meiriach
Ag a 'i trawe hi wrth y Pentan
Hŷd onid oedd ei 'Mennŷdd [~ ymennydd] hi allan
Doeda 'r Wreigdda fŵyn ddigynnwr
Llâdd fy Nghatt mi af att Gyfreithiwr
Gwna it' dalu am hôll Lygwr y Llygod
Hitheu a ddoeda, pŵy a wneiff gimmin
A thalu am Giwrio fy Mriwia gerwin?
Mae Gwinedd rhy gethin ginn Gathod

Dafŷdd ap Huw 'r Gô o Fodedern a 'i Cant 1649


[td. 323b]

[32. Dafŷdd ap Huw, Ymddiddan rhwng Dŵy Chwaer (1657)]
Ymddiddan rhwng Dŵy Chwaer.

Gwrandewch ymadroddion pur tirion pêr taer
O achos Priodi, fy rhwng y ddŵy Chwaer
Un o 'r Ddŵy rheini ni fynna hi 'n Gŵr
A 'r llall a 'i cynghorodd i gymryd o 'n Siwr
Codwch a cherddwch fy Mhroppor Chwaer Dlŵs
Drŵy foliant anrhydedd a rhodiwch i 'r Drŵs
Mae accw rŷw Henddŷn fal Ewŷn Dŵr llî
Yn dyfod drŵy 'ch Cennad a Chariad i chwi
Codwch, a Cherddwch a Chym'rwch [~ chymerwch] o i chwi
Am ffoledd a Maswedd na Soniwch wrth i
Er maint o Genadeu rhwng Tiroedd a Dŵr
Siaradan a fynan, ni fynne i un Gŵr
Ni choeliwn i monoch, pe tyngech fy Chwaer
Eich Corph chwi sŷdd Nŵyfus, a 'r Meibion sŷ' daer
Mi 'ch gwelais chwi 'n caru er 'styddie [~ er ys dyddiau]; ffei tewch!
Ai tybied mae 'n Lleuan, lliw 'r Wylan yr Ewch?
Yn Lleuan 'r ŵy 'n myned, er gwaetha 'r hôll wlâd
Ag fellŷ mi 'm gwela yn rhŷ dda fy Stâd
Nhw ddoedan gann hynnŷ fôd ginni Ffŷdd Grê
Ynghyflwr Merch Ievangc mi a 'n inion i 'r Nê.
Nage, nid ŷw Bosibl; y Prenn na ddŵg ffrŵyth
Fe teflir i Uffern, fe llosgir yn llŵyth
Rhowch fŵynder am fŵynder ar fyrder yn frau
Pann gaffoch chwi gynnig, gochelwch naccau.
Nid ydi Priodas bŷth ginni 'nd [~ ond] pêth gwael
Bargen difantas ŷw 'r Feiats S'ŷw gael
Casglu gofalon i 'm Calon igŷd
Mi arhose 'n Ferch Ievangc tra bŵy yn y Bŷd
Mi ddaliaf ath ydi y byddi di 'nglŷn [~ ynglŷn]
Yn Brîod a rhŷw Ddŷn cinn bo'ch [~ bych] di fawr hŷn
Fe 'th Drwssia, fe 'th daccla, fe Lunia iti Lês
Di Ildi 'Mun [~ fy mun] Lariedd fal Eira 'mronn [~ ymron] Tês
Gwedi i Fâb unwaith gael ei 'wyllŷs [~ ewyllys] ar Ferch
Derfŷdd ei Afieth, a 'i fŵynder a 'i Serch.
Siwrl ag afrowiog, yn donnog mae 'n Dŷnn
Gwell na phriodi, bŷw 'n heini fal hŷnn
Nid Possibl mo hynnŷ drŵy 'mpiniwn y Pâb
Mi fedrwn yn ddirgel henwi i chwi 'r Mâb
A 'ch troe fal y Mynne wrth ei Lewŷrch a 'i Lun
Di ceru cinn bured a 'th Enaid dy hun
Yr Y'ch yn gwenheithio i geisio fy Nhroi
Eich Dwndwr a 'ch Dadwrdd sy wedi ' nghyffroi [~ fy nghyffroi]
Os ydŷch yn tybied ' gwnae ŵr i mi Lês
Cyrchwch yr Henddŷn a 'i 'nwylddŷn [~ anwylddyn] yn Nês
Cerdda Di 'r Llattai, Canlyn dy Daith
Drŵy 'r Boen a gymerais, mi luniais y gwaith
Nôs da fo iti heno, darfu fy Nghân
Canlynwch y Twmned, mae 'r Haiarn yn Tân.

Dafŷdd ap Huw 'r Gô o Fodedern a 'i Cant 1657.


[td. 324a]

[33. Rhisiart Abraham, Senn i Forgan Sion o Benn y Groes Fawr yn Llanfechell, am gadw Puttain (1676)]
Senn i Forgan Sion o Benn y Groes Fawr yn Llanfechell, am gadw Puttain.

Annwr ŷw Morgan; na Lleban yn llai
Ymwrthod a 'i Brîod Sŷdd ormod o Fai
Er gwnned ŷw Dorti Liw 'r Weilgi Loer Wenn
Gwell iddo fo Farged, er ffoled ŷw Phenn
Ceiff weled, dilyned ei Gowled ddigwrs
Yr Arian yn Genlli ni pheri 'n ei Phwrs
Danfon am Farged, er Hyned ŷw Hi
Mae Hi 'n rhydda Swccwr Butteinwr iti
Os Cym'rŷd [~ cymryd] dy Gariad Anynad a wnei
I 'w gwneuthŷr yn ffolog, Fŵch oriog ni chei
Gwna 'r Fargen a fynnŷch am Dîr Penn y Groes
Hi gerriff ei Thraean yn llawn am ei Hoes
Mae Honn yn rhagorol a Nefol ei Naws
Am wneuthŷr Ymenŷn wŷch Enllŷn a Chaws
Am fagu glân Loea, a meithrin Hŵy Dsiâ
Nid oes un Wraig o 'r Gwledŷdd mawr ddedwŷdd mor dda
Cymmer dy Briod ymerod ei Mawl
A Glŷn wrth ei Hasen, gâd Ddolen i Ddiawl.

Rhisiart Abraham a 'i Cant 1676.
Y Mesur Jinni Jin-nî


[td. 324b]

[35. Anon., Ymddiddan rhwng Hên Ŵr Musgrell ag anllad a Llanges Ievangc Nŵyfys ]
Ymddiddan rhwng Hên Ŵr Musgrell
ag anllad a Llanges Ievangc Nŵyfys
Y Mesur. Follow your fancy.

Nôs da i 'r Fun, y lana ' luniŵyd
Nôs da i Chwithe 'r Henwr Penllŵyd
I b'le Meinir yr ŵyt ti 'n Myned?
Lhe mae goreu cael fy Ngweled.
I b'le gann hynnŷ 'r ei di heno?
Lle bum i Neithiwr 'rŵy 'n gobeithio
Oes Cydnabyddiaeth iti 'n agos?
Nid ŵy Dierth, lle 'r ŵy 'n aros
Ŵyt di 'n Sengal Gangen gu, ag heb Briodi 'n rhagor?
Ydw 'r Henwr da 'r ei Lês, ag ni fenthygies Nemmor
Bêth ŷw 'ch Oed Wynwdden dêg, Ireidddeg liwdeg Lodes?
Tair ar ddêg er Mîs o Hâ, llawn oedran Gwra gwiwres.
'R'ŵyt [~ Yr wyt] di 'n anial Ievangc iawn, Di dyfŷ 'n llawn mewn afieth
Yr ydŵy 'n ddigon hên fy rhŷw, gann Daerad ŷw Naturieth
Prinn y gŵyddost têg ei phlêth, bêth ŷw 'r Naturieth Daera
'R'ŵy [~ Yr wyf] Gyfarŵyddach f' Ewŷrth bâch na chwi sŷ 'n Gelach Gwla.
Gwell a gŵyr yr Hên er hynnŷ
Bêth a dâl gŵybod pŵyll, heb allu?
Mae ginni allu i ddal allan
Efo gwrâch (ni chŵyrach) fal chwi 'ch hunan
Gwell ŷw 'r gwydŷn Hên, na 'r Ievangc Meddal
Gwell ŷw 'r îr a ddeil, na 'r Crîn nis cynnal
Mi gynhaliwn yn y Gwelŷ
Os Caech chwi ennŷd ginn Bysychŷ
Mae ginni Aur ag arian Gwenn, Stocc diddiben ddwbwl
Mae gennŷch ddŷll sŷ' orchŷll gaeth, Cybŷdd gwâeth na 'r Cwbwl
Mi fyddwn hael pe cawn liw 'r cann o Wreigan, hi 'm rhowioga
Byddach donnog chwannog chwi, i chware hên Gi 'chena.
Mi fyddwn rowiog fal yr Oen heb arnai boen na phenŷd
Fal chwerw Flaidd chwi roddech floedd, creulonech oedd bôb Munŷd
Mae hynnŷ 'n gam-gymeriad pur, Dôd i mi o Gyssur Gusan
Erioed ni fynnodd yn gwâs glân Cymera hwnnw ei hunan
Oes nemmawr eurdro o ffordd iti adre?
Oes lîd Cae, neu ddau oddiymme.
Ai bŷw eich Tâd a 'ch Mam lloer oleu?
Yr oedd pôb un yn iach y boreu
. . .
. . .
. . .
. . .

[td. 325a]
A rowch chwi gennad gangen ffrî
A lle 'mi 'orphwyso [~ i mi i orffwyso] heno?
O 'ch blaen mae Tafarn fawr neu Inn
Cewch am eich arian groeso
Gwell na Gwîn na Bîr gan i
A'th Di 'mgynhesu [~ Â thydi ymgynhesu] Noswaith
Mae 'n well gann inne 'ch gweled ffrind
Mewn Munŷd yn Mynd ymaith
Bêth ŷw Cynhysgaeth Eneth fŵyn
Naturiol fŵynedd Fenws
Corph Di-ana Stout as steel
Sŷdd well na Mêl o 'r Mwnws
Os dyna 'r Cyfan gwiwlan gnawd
'R'ŵyt [~ Yr wyt] di 'n dylawd fy Lodes
Nid oes mo 'rr Help, y Môdd yr Ŵy
A mŵy o Nŵy 'n fy Monwes
Y fi ydi 'r Degfed o 'r Plant Tylodion
Rhoed eich Tâd a 'ch Mam chwi 'r Person
Nhw 'm rhôn i chwi Sŷ 'n Hên Ddŷn hawddgar
Yn Wîr yr Ŵyt ti 'n Gowen gynnar
Cym'rwch [~ Cymerwch] fi drŵy draserch heb ddim o 'r trysor
Tâw a 'th ffôl auen, yr ŵyt ti 'n hawdd dy hepcor
Ar lês eich Enaid gwnewch Eluseni
Tâw, gâd lonŷdd, na wna y Leni
Bwytta 'r Bara Gwynn yn Sŷch
Gwnn gellwch, nid yw galad
Er garwad y bô 'r Dorth lliw 'r Hâ
Gŷrr Enllŷn da hi gerdded
Ni fynnwch chwi ynte mono i
'n un Gelach ddigri 'ch canlŷn
Na fynne uwch benn fo hôll dda Bŷd
Etto heb olŷd attŷn
'R ŵy finneu 'n unferch Tâd a Mam
Heb drais na chamm na chymmell
Mi allwn ddyblu 'ch Da chwi hŷd lawr
Y Cybŷdd mawr ei ddichell
Di ge'st [~ gefaist] fy Nghefn lliw blodeu 'r drain
Gâd i mi ail ymofŷn
Ni roe 'm brŷd, tra bô i 'n y bŷd
Ar fynd tann Gwrlid Cerlŷn.


[36. Ifan Jones, Cŵyn a Chyffes Gŵr am ei Fenŷw (1698)]
Cŵyn a Chyffes Gŵr am ei Fenŷw
Y Mesur Triban Chwith.

I bawb o 'r Bŷd mae pur wybodaeth
Mae trêch Natur, na Dysgeidiaeth
Naturiaeth Pôb Gŵr Ievangc llawen
Yw hoffi i 'w fynwes Eneth feinwen
Tentasiwn ŷw Cynhesrŵydd caru
Cynhyrfu 'r Cŷrph wrth hîr ymwasgu
A hŷnn Sŷ 'n anafu 'r rhai nŵyfus
Weithie Ffŵl a ynill fowrdda
Weithie colli a wneiff y calla
Wrth fynd ar eu hucha 'n rhŷ awchŷs
O rann tegwch fy Nghymdoges
Ei Pherl ei hun i 'r Fun a ' fynnais

[td. 325b]
Y Gair Sŷ 'n llydan hŷd y Gwledŷdd
Fy môd i 'n Llannerch ei Llawenŷdd
Darfu i Nghariad i Feichiogi
Bêth bynnag a ge's [~ gefais] nis gwades i gwedi
Gann Lili gnŵd heini gnawd hynod
Holed pawb ei hun yn gynta
I fôd yn ddi-fai, myfi a faddeua
Ceiff roi Cerŷdd arnai cur ddyrnod.
Ni ŵyr un Ferch o 'r Bŷd mo 'i thynged
Ni ŵyr chwaith un Mâb a 'r Aned
Rhai Sŷ 'r Ddoldir têg yn trippio
A 'r lleill ar Lwybŷr Serth heb syrthio
Wrth fynŷch sippio ei Mîn Melysber
A wnaeth i mi hoffi Cyflawn bleser
Bodlonder, a mŵynder y Feindw
Mae 'r un Ffasiwn mi Gonffessa
Yn trîn y Trâd yngwlâd Europa
Erioed, er oes Adda, i 'r Oes Heiddŷw
Y mae Part a farnant arna
Fal goganu 'r Bŵyd a 'i Fŵyta
Pe Cae 'n Nhw Langces Wenn mewn Cyfle
Ni ymgosbant hŵy ddim mŵy na Minne
Nid oes ond Ffŵl o Ddŷn di-ddeunŷdd
Dwl ei Anian di-lawenŷdd
A rŷdd i mi gerŷdd am garu
Nid y Fi mo 'rr Campiwr Cynta
Mêdd Gwŷr Doethion, na 'r Diwaetha
A roes Ferch yn Isa 'i Chynnesu.
Am a wneuthŷm i 'r Wenithen
Tŷst a ddengŷs, tôst oedd Angen
Nid 'ŵy [~ wyf] 'n gwneuthŷr Bôst o 'r Weithred
Rhaid i Bawb groeshafu 'i Dynged
Mae 'n ddrŵg ginni dros fy Mun Garedig
Ag am ei Mŵynder yr 'ŵy [~ wyf] 'n rhŵymedig
Ni byddai 'n aniddig 'r ŵy 'n addo
Ag am y fu, rhaid imi Ddoydŷd
Mae trŵy Ffansi a Ffortun hefŷd
Pŵy yn ei hôll Fowŷd all feio?
Na farned Nêb y Lodes liwdeg
Am iddi daro ei Throed wrth Garreg
Ag wrth geisio 'r Briffordd ddeheu
Syrthio i 'r llwybŷr chwithig Nhŵytheu
Mi ddygaswn fôd fy Nghariad
Morr Sownd a 'r Dur, morr Bur ei bwriad
Daeth iddi ddigŵyddiad i ogŵyddo
A Minne wrth gael ychydig fantais
Yn Calonnog, mi a ganlynais
Ar y Neges a gefais i 'w gofio

[td. 326a]
Pe gŵybaswn fôd Llangcesu
Pêr yn prifio ond prinn ei Profi
Ni b'ase [~ buasai] fy Meddwl bŷth morr Fentrŷs
A Bargeinio Bargen Nŵyfŷs
Bŷth nid alle i cinn hyfed
Yn fy Mreichie drîn mo 'rr Merched
Os byddan gain addfed gynheddfol
Pôb Gwâs glân a gâr gowleidio
Rhag digŵyddo 'r un pêth iddo
Rhaid iddo Fo beidio 'n Wybodol.

Ifan Jones o 'r Berth Ddu a wnaeth y
Gân ar Gyffes. 1698.


[37. Anon., Cerdd yn Dychanu pôb mâth ar Bobl a gymmerase Arfeu ymhlaid Parliament Lloeger ]
Cerdd yn Dychanu pôb mâth ar Bobl a
gymmerase Arfeu ymhlaid Parliament
Lloeger yn y Flŵyddŷn 1643 i ymddiffŷn
Rhydddŷd y Bobl oedd yr amser hwnnw
yn debŷg i gael i sengi lawr gann y Brenin
Siarlas I. Y Mesur. Restauration: ond
yn gyffredinol y gelwir. The King shall
enjoy his right again:

Fe aeth y Ddair gronn yn graith
Pa hamm rhaid mŵy mo 'rr sôn am waith?
Fe aeth y Gweision bôb yn Fîl
A 'r Morwynion yn eu sgîl
A phawb a 'th brâd ar gôst y Wlâd
Yn rheoli 'n anial draws
Yn well eu hŷnt na 'th Meistrŷd gŷnt
Y mae nhw 'n gweled hynnŷ 'n haws.
Y Mae 'r Dyrnwr truan Prŷdd
A ddyrna gŷnt am ddimme 'r Dŷdd
Y rwan taflu 'r ffŷst ymhell
A 'i Rapper fawr yn Nrŵs ei Gell
De-ffŵg De-ffaeg, heb ddim Gymraeg
Yn Cornelu Gwrachan Hên
Tann dyngu 'n dôst y mynn Gîg rhôst
Ag onide, fe 'scyttie [~ ysgytiau] ei Gên.
Y mae 'r Brettŷn Bigael Môch
Yn ei scarff a 'i Sgarlat côch
Ag yn tyngu ofer Lŵ
Er ni ddâw i 'w Go fo. Hwy-dsa-hw.
A 'i Hunger gamm, fo lladde ei Famm
Am un geiniog heb ddim chwŷth
Gwae Asgwrn Penn yr Hên Iâr Wenn
Fe a 'i difetha oddiar ei Nŷth
Y Mae 'r Go a 'r Siecced Lomm
' Fu [~ a fu] 'n sychŷ traed y Meirch o 'r Domm
A 'i ddau Lygad fal y Tân
Yn bygwth llâdd ei Ostes Lân
Moes im' Dobâg, a dîod frâg
A Chais arian Chwipp i mi
Onidê Mynn Diawl, mi dafla 'r Cawl
Am benn Cŷrn dy Gwccwalld di
Y mae 'r Gwehydd seimlŷd ei Dîn
A 'i farclodŷn croenŷn crîn

[td. 326b]
A welais i gŷnt yn wael ei stâd
Yn dŵyn Melldithion Gwragedd Gwlâd
Ni chae fo fŷth mo 'i wal o Sŷth
I wneuthŷr brwchan da 'r ei Lês
Mae o a 'i gledde o hŷd, a 'i Fwtties clŷd
Yn lle gwennol Pistol Prês
Y Mae 'r Pannwr troedtraws trwmm
A fu gŷnt yn cneifio 'n llwmm
Ag a gweiria glyttŷn glâs
I bôb Hên wrâch o frethin brâs
Y Roring Boy fal Iarll Montjoy
Yn hoyw rwan myn fy ffŷdd
Yr Arrant Rôg sŷ 'n gwisgo Clôg
A fu gŷnt yn lleidr fal y Gwehydd
Y mae 'r Taitiwr Simple siw
A fu 'n ystitsio am ffordd i fŷw
Os cae o fŵyd ag Ede lîn
Fe roe glyttŷn ar eich Glîn
Fe drwsia 'r Hwrdd cin mynd i ffwrdd
Ar Gŵd halen Gwraig y Tŷ
Fe gneua 'r Cî os mynna Hi
Mae 'n awr mewn Siwt o Sattŷn Du.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section