Adran or blaen |
Y Bardd fry ebrwydd ei frôch, Elisa,
Gan na lysaf monoch,
E weddai (er na wyddoch,
Druan!) nad yw'ch cân ond côch.
Yn fardd os chwi a fynn fôd, o hirddysg
I harddu Eisteddfod,
I hwylio Clêr a hel Clôd,
Ceisiwch yr holl Drecc isod.
Hyd rhaff rawn o lawn linyn, y Seiri
I fesuro'ch Englyn,
A Rhasgl a dyrr bob rhisglyn,
Llif frâs, a Chwmpas, a Chŷn.
Os hir y gwelir y gân, y llafur
Yw llifio darn allan;
Wrth y Cwmpas gloywlas glân,
Cofiwch, rhaid rhasglio'r cyfan.
Dylech, mewn Prifodl, ei dilyn, rhagoch,
Megis rhigol Corddyn;
Heb wyro lled gwybedyn,
A'r Twybil, wiw gynnil Gŷn.
Yn fardd glân buan y bôch, Elisa
Hwylusaidd y dysgoch,
Doed a ddêl, bid da gwneloch,
Anhepgor Gyngor Huw Gôch.
Ond Deliwch Sulw. —
Os rhaid i Byliaid gaboli, Rhigwm
(Rhag i'm ebargofi)
[td. 334]
Gorau o'r Gêr am beri
Cyweirio Cân yw Croen Ci. Y Bardd Côch a'i Cant.
Ir brig | Adran nesaf |