Adran o’r blaen
Previous section



[td. 69r]


Llyma ystori alexander a lodwig
yr hain a vyont gedmaithion [~ gymdeithion ] kywir
/ y 'w gilydd // val i dywaid yr
ystori sy 'n kalyn


Yr oedd gynt varchog / ag vn mab yddo yn vnig / yr
hwnn a garai ef yn vawr // a 'u dad a 'u danfones
ef i wlad bell / y 'w vaethv / ag y 'w ddysgi //
a chwedy bod y mab yno saith mlynedd / i dad a
ddanfonawdd kenadav at y mab / i erchi yddo ddyvod
adref / i ymweled a 'i dad a 'u vam / a 'u ffryns //
ag yntav a ddauth // ag ir oedd i dad a 'i vam yn
llawen o 'i weled ef // Kans ir oedd yn llvniaidd
o gorff / ag yn addfwyn o bryd / ag yn synwyrol
yn ddoeth / ag yn ddysgedig // ag ef a hapiodd ar ddiwarnod
/ vod i dad a 'i vam / a 'r mab gydag hwynt
yn eistedd wrth y vord / yn chwedlaua // ag yno i
dauth eos i vronn y ffenestr / ag a ganawdd kaniadav
teg // a ryveddy yn vawr a wnaethant // a 'r
marchog a ddywad / o hapvs yw y neb a wypai /
beth ody 'r eos akw yn y ganv // ag yna y dywad y
mab // o vy annwyl dad heb ef // mi a wnn ddeall
kaniad yr eos / a mi a 'u manegwn / ony bai rag
ofn i chwi ddigio // ag yna i dywad i dad // dywaid
yn eon [~ eofn ] vy mab / a thi a gav weled beth a wnelwyf /
 au [~ ai ] digio ai paido // ag yna i dywad y mab // i
mae 'r eos yn dwedvd yn y ganiad / i byddaf j arglwydd
galleog // val i kaffwyf j vy anrydeddv gan
bawb / ag yn vnwedig genychwi vy nhad / yr hwnn

[td. 69v]
a ddewch ag ewer a dwr i mi olchi vy nwylo /
a mam a ddaila twel [~ tywel ] i mi sychv vy nwylo //
a 'i dad a ddywad // ny ddaw yr amser arnad ti byth
i keffych di y gyfriw wasanaeth hynny genym ni //
a thrwy lid a digovaint mawr / kymeryd i vab a
orug ef ar i gefn / a 'u dawly [~ daflu ] ef i 'r mor / gan ddwedvd /
 trig yna deallwr kaniad yr eos // a 'r mab
[drwy wyllys duw] a noevawdd [~ nofiodd ] i benn rock a
oedd yn y mor // ag yno i by ef bedwar diwarnod / heb
na bwyd na diod // a 'r pvmed dydd i dauth llong dan
hwyl haibo // a phan welas ef y llongwyr // ef a
ddywad yn vchel wrthynt // ha wyr da heb ef / er
kariad ar dduw / tynnwch vi allan o berigl yr
angav hynn // a 'r llongwyr a welas i vod ef yn
jevank / ag yn deg / a 'u kyrchysant ef i 'r llong attynt
// ag authant ag ef i wlad yr Egip / ag a 'i
gwerthysant ef i ddvc o 'r wlad honno / er chwemork //
a 'r mab a dyvawdd mewn doethineb / a thegwch //
a 'r dvc a 'u karai ef yn vawr / ag a 'i gwnaeth
ef yn ystiwart dros i holl gyvoeth // ag yn yr amser
hwnnw / idd oedd brenin y dernas honno / a thair
bran yn y ddilyn ef / yn wastad / ywch i benn ef /
ag yn krio val ir oedd ef yn vlin o 'i klywed hwynt // ag
yna i parawdd y brenin alw geyr i vronn holl
wyr boneddigion yr ynys // a chwedy i dyvod / ef
a ddywad wrthynt // ha wyr / vy ffryns a 'm kenedl
heb ef / dyma 'r achos i perais j / ych galw chwi // nid
amgen na bod tair bran ywch vy mhen j bob

[td. 70r]
amser / yn llevain / val idd wyf j yn vlinedig
o 'i klywed hwynt // ag o bydd yma neb o wr jevank
sengl / a wypo deall / pwy achos i maent
hwy yn llevain arnaf j / a 'u tynny hwynt ymaith
oddywrthyf // mi a brwmaisaf / ag a dyngaf myn
vy nghoron / i kaiff ef vy merch j yn briod / a
bod yn gedymaith i mi / tra vwyf j byw // ag yn
ol vy mywyd j / ef a gaiff rioli [~ reoli ] yr holl vrenhiniaeth
i gyd i hvnan // ag nid oeddid yn kael o 'r holl
gynghoriaid i gyd / vn a vedrai ddeall yr achos
ir oedd y brain yn llevain // nag yn gwybod pa
vodd i tynnid hwynt oddiwrth y brenin // ag yna i
dywad y mab / wrth y dvc // arglwydd heb ef / a wddochwi
/ a gaidw y brenin / i air a 'u brwmais / os
myvi a ddychon / kyflenwi i wyllys ef // a 'r dvc
a ddywad / idd wyf j yn tybiaid i gwna // a 'r mab
a ddywad // mi a ddoda vy mywyd mewn gwystl i
kwpla j wyllys y brenin // a vynny di i mi ovyn
i 'r brenin / / hebe y dvc // Mynnaf hebe y mab // ag
yna idd aeth y dvc / at y brenin / ag a ddywad // V' arglwydd
  vrenin heb ef // dyma wr jevank / yr hwn
a sydd gall / a chyvarwydd / yr hwnn a sydd yn addo
kyflenwi ych wyllys chwi o blegid y brain / os
kyflenwchwithav bob peth / ag a ddarfv i chwi i
addo // a 'r brenin a dyngawdd myn koron i vreniniaeth
/ i kwplai ef i holl addewid // ag yna i dauth
y mab geyr bronn y brenin // a phan i gwelas y
brenin ef // ef a ddywad wrtho // O tydi vab teg / a

[td. 70v]
wddost di roddi ateb y 'm kwestiwn j // Gwnn arglwydd
hebe y mab // Ych kwestiwn chwi yw hynn
am y brain // Ar serten o amser / idd oedd dwy
vran // kymar a chymares // ag ef a aned yddynt
y drydydd vran // ag yn y lle hwnnw idd oedd
kymaint o brinder / val idd oedd yn anodd i ddynion /
 nevailaid [~ anifeiliaid ] / ag adar / gael i trwydded // val iddoeddynt
yn mairw o aisav trwydded // A 'r pryd
hynny / idd oedd y drydy [~ drydydd ] vran yn jevank yn y
nyth // ag yna / idd aeth y gymares / i gaiso trwydded /
ag ny ddauth hi yn y hol mwy i 'r nyth // a 'r kymar
a dryvaelawdd [~ drafaelodd ] / i gaiso trwydded i 'r vran jevank /
a 'u magv a orug ef / yny oedd hi yn abl i hydeg [~ ehedeg ]
gydag ef // a phan aeth y prinder haibo // i dauth y
vran gymares ailwaith / at y vran jevank // a hi a
vynn dala kedmaithias [~ cymdeithas ] a hi // a phan welas y vran wrw [~ wryw ]
hynny / ef a vynnai i hela hi ymaith o 'i kedmaithias
[~ cymdeithas ] hwynt // am yddi i gadael hwynt / pan oedd y
kiw yn jevank / yn egwan / ag yn anghenraid yddo
ef wrth help i gadw i vywyd // ag am hynny / ny chaiff
hi ddim o 'i kwmpniaeth hwynt // ag y mae hithav
yn pledo // ddarfod yddi hi oddef kur / a dolur mawr
ar i anedigaeth ef i 'r byd // ag am hynny / vod yn
jawnach yddi gael i gedmaithias [~ gymdeithas ] ef / na 'v dad // a
llyma 'r achos i maent hwy y 'ch dilyn chwi arglwydd /
i gaiso barn gyviawn / pa vn ohonynt
hwy / a ddyly kael y vran jevank yn y chwmpniaeth /

[td. 71r]
ag am hynny arglwydd i maent hwy yn gwnaethur
y kri hynn / a 'r trwbl arnochwi // ag ond i
chwi roddi barn vnion ryddynt / ny chewchwi i
gweled hwy byth y 'ch trwblo chwi // ag yna i dywad y
brenin // er yddy [~ i 'w ] vam ef / gael travael / ar i anedigaeth
ef i 'r byd // nid ody hynny / yn y helpy hi ddim // Kans
gwedy eni ef / idd oedd y trwbl / a 'r tristyd / gwedy
droi yn llawenydd yddi // ag am yddy vam i ado ef
pan oedd ef yn y nyth yn wann / ag yn jevank / pan
oedd raid yddo ef wrth help a swkr // a 'u dad yn
taring gyda 'i giw / i gaiso trwydded yddy vagv /
a 'u rekyfro ef // ag am hynny / idd wyf j / yn roi
barn / na bo i 'r vran jevank ddilyn dim o 'i mam /
eithr dilyn i thad // a phan glywas y brain hynny /
ef aeth dwy yr vn ffordd yn gytvn // ag vn i ffordd
arall dan levain // ag ny welad hwy byth yn y wlad
honno // ag yna i govynnawdd y brenin i 'r mab / pa
vodd i gelwid ef // a 'r mab a ddywad / mae alexander
oedd i enw ef // ag yna i dywad y brenin // Raid i ti o
hynn allan vy ngalw j yn dad i ti // a thi a gav
briodi vy merch j / ag yna i tariawdd alexander
gyda 'r brenin / ag idd oedd ef yn gariadys gan
bawb // kans idd oedd ef yn arfer i hvnan mewn
jawnder / glendid / a gwroldeb // val idd oedd ef yn
ennill y gair ar bawb o 'r wlad honno // a 'r amser
hynny / idd oedd amherawdr yn Ryvain a elwid
Taitvs / a hwnnw a oedd voneddigaidd / a gwrol / val

[td. 71v]
nad oedd nag amherawdr / na brenin / na phryns
yn yr holl vyd yn debig yddo ef // a phan glywas
alexander hynny // ef a ddywad wrth y brenin //
Vy arglwydd dad heb ef // mi a glywa vod amherawdr
gwych yn Ryvain // ag i mae arnaf chwant myned
i daring ennyd yddy lys ef / i ddysgi arferion
val i bewn j aravach // o bai vodlon genychwi
vy nhad i mi vyned // ag yna i dywad y brenin //
da gennyf j hynny heb ef // Ond mi a vynwn i
chwi amledd o aur ag arian / a phethav angenraidiol
am law hynny // A hevyd / mi a vynnwn i
chwi briodi vy merch j / kyn idd elych o dref // ag yna
i dywad alexander // o arglwydd dad heb ef / e vydd
bodlon genychwi / vy ffafro j yn awr // a phan ddelwyf
j adref ailwaith / mi a 'u priodaf hi trwy
anrydedd / val i darperid // ag yna i dywad y brenin //
val i bo ych wyllys chwi / am hynny heb ef // ag yna
i kymerth alexander i gennad oddiwrth y brenin /
ag aeth i lys yr amherawdr // ag ef a syrthiawdd ar
i linniav geyr bronn yr amherawdr // ag a 'u anrydeddawdd
ef // a 'r amherawdr a 'u kyvodes ef i vynydd
ag a 'i kysannawdd ef / gan ovyn / o pa le ir hanoedd
ef // ag yna i dywad alexander // Ydd wyf j
yn etivedd i vrenin yr Eifft // a mi a ddauthym
yma / i wnaethur gwsanaeth / y 'ch galleog ras chwi /
o bydd bodlon genychwi // ag yna i dywad yr amherawdr /
vod / yddo ef raeso // a 'r amherawdr / a 'u

[td. 72r]
pwyntawdd ef yn garfer yddo // ag a 'u gorchmynnawdd
ef i 'r ystiwart // a 'r ystiwart a ordainawdd ystavell
lan gyson yddo ef // a phob peth ag a oedd berthynys
gyda hynny // ag alexander / a ymddygawdd i hvnan
yn gall ag yn synwyrys // val idd oedd ef yn gariadys
gan bawb // ag ychydig gwedy hynny // i dauth yno vab i
vrenin Phraink / i wasnaethv yr amherawdr // i 'r
hwnn i govynnawdd yr amherawdr yddaw / pa vodd
i gelwid / ag o pa le i hanoedd // ag yntav a ddywad
mae lodwig oedd i enw // a mab i vrenin Phraink
oedd ef // ag yna i dywad yr amherawdr // Mi a
wnaethym alexander yn gyrfer i mi // a chwithav
a gewch vod yn dwyn vy ffiol j // val i bochwi
yn gwsnaethv vy mord j ych dav bob amser // ag
ef orchmynnawdd yddy ystiwart ordaino ystavell
yddo yntav // a 'r ystiwart a 'u gosodes ef yn yr vn
ystavell / ag alexander // a 'r ddav wr hynn / a oeddynt
gynhebyg y 'w gilydd o bryd ag arferon / val nad
oedd neb ag adwaenai vn onaddynt oddiwrth i gilydd /
ond bod alexander / yn gyfrwyddach / ag yn gallach i
waithredoedd na lodwig // a 'r ddav wr jevank hynn /
a gerynt i gilydd yn vawr // ag ir oedd i 'r amherawdr
vn verch yn vnig // yr honn a elwid Phlorenti // a
honno a gae vod yn etiveddes yddo ef / a 'r amherawdr
a 'u karai hi yn vawr // ag idd oedd i 'r verch
yma ystavell i hvnan / a gwaison yddi // ag iddoedd
yr amherawdr / yn arfer o ddanfon / saig

[td. 72v]
baenydd [~ beunydd ] oddiar i vord i hvn / gan alexander
yddy verch / er dangos i karai ef hi // ag ar ddiwarnod
/ ef a hapiodd vod alexander a bysnes
arno / ar bryd kino / val nad oedd ef yn gallv dyvod
i wasnaethv / na neb yn y le // a phan wybv lodwig
hynny / ef a wasnaethawdd yn lle alexander // a
chwedy darfod gwsnaethv / yr amherawdr o 'r gwsanaeth
diwethaf ar benn i linav / yr amherawdr a
orchmynawdd i lodwig / ddwyn y ddysgl i 'r verch /
gan dybiaid mae alexander oedd ef // a lodwig a
gymerth y ddysgl / ag a 'u dyg hi i 'r verch // a 'r verch
a adnabv / nad alexander oedd ef // a hi a ovynnawdd
yddaw pwy oedd i vab / a pha vodd i gelwid //
ag yntav a ddywad / mae mab i vrenin
Phraink oedd ef / a lodwig oedd i enw // ag yna i
dywad hithav // duw a dalo i chwi ych labr // ag
yna idd aeth ef ymaith // ag yn y vann / i dauth alexander /
ag i kwplawyd gwsnaethv ar y vord / ag
i darfy kino // ag yna idd aeth lodwig yddy ystavell
yn dryglaf // ag yn y vann i dauth alexander
yddy ystavell / ag arganfod lodwig yn y wely // ag
yna i govynnawdd alexander / o vy annwyl
ffrynd / a 'm kedymaith lodwig / b' wedd [~ ba wedd ] velly / a pham
yw dy dristyd ti // ag yna i dywad lodwig // ny wn
j pa achos yw / ond i mi gwympo mewn dolur /
ag idd wyf j yn tybiaid / na ddiangaf j rag angav //
ag yna i dywad alexander // mi wnn achos dy glevyd

[td. 73r]
ti // pan authost di heddiw a 'r saig y verch yr amherawdr /
wrth i gweled hi yn vwyn / ag yn serchog
i nynaist [~ enynnaist ] di o 'i chariad hi // ag yna i dywad lodwig /
o alexander / ny allai holl veddygon y byd / ddeall
vy nghlevyd j / yn gywirach na hynny // ond idd wyf j
yn ofni vy angav // ag yna i dywad alexander / Kymer
gynffwrt gwrol / mi a 'th helpa di yn orav ag
i gallwyf // ag yna idd aeth alexander i 'r varchnad
ag ef a brynawdd napgyn / yn llawn main gwrthvawr
[heb wybod i lodwig] / ag a 'u roddes ef i 'r
verch // a hithav a ovynnawdd yddaw / pa le i prynysai
ef y lliain kostfawr hwnnw // O arglwyddes
heb ef / mab y brenin mwynaf o griston / a 'i danfones
ef i chwi / o gariad arnochwi // ag er pan welas
ef chwi heddiw / i mae ef yn gorwedd yn glaf yn y
wely // ag os goddevwchwi ef i varw / vy [~ fe ] vydd arnochwi
beriglav mawr // ag yna i dywad hi // O alexander /
e gynghorwchwi vi velly / i golli vy morwyndod /
duw a 'm katwo j rag hynny // mi a dybiais na
byddychwi / y vath genadwr hynny dros neb ataf j /
ag am hynny / does ymaith o 'm golwg j / ag na ddywaid
wrthyf j drysto [~ drosto ] ef mwy // a phan glywas alexander
hynny / ef a wnaeth i ddywty yddi / ag aeth ymaith // a
thrannoeth idd aeth alexander i 'r varchnad / ag a brynawdd
 vydrwy [~ fodrwy ] vawrwaithiog // ag ef a ddauth a hi
at y verch / ag a 'u roddes hi yddi / heb wybod i lodwig /
ag ef a ddywad / mae lodwig a 'u danfonawdd hi //

[td. 73v]
a phan welas hi y rodd gostfawr honno // hi a
ddywad // Mae 'n ryvedd gennyf j / kyn vynyched ag
gwelsochwi vyvi / na bysechwi yn dwedvd drysoch [~ drosoch ]
ych hvnan / ag nid dros arall // ag yna i dywad alexander //
 O arglwyddes heb ef // nid ody vy meddwl j
tiag atochwi ar y vath beth hynny // am nad ody vy
ryw wn j yn abl ymgwmparo a 'ch bath chwi // ond
y neb a vo ganto gedymaith da // ef a ddyly gwnaethyr
drysto [~ drosto ] mal kedymaith kywir // ag am hynny / y galleokaf
brynses / kymerwch dryeni arno ef / a gwnewch ef
yn jach o 'i ddoluriav // ag yna i dywad Phlorenti //
ewch ymaith yr owron / ny rof j vn ateb i chwi //
ag yna ir aeth ef i 'r varchnad y trydy [~ trydydd ] dydd / ag a
brynawdd gwregis / yr hwnn a dalai vwy na 'r vydrwy /
ag a 'u roddes ef i 'r verch / yn arwybod i lodwig //
a phan welas hi yr arwydd kostfawr hwnnw // hi a
ddywad wrth alexander // dywaid wrth lodwig / am
ddyvod y drydydd awr o 'r nos heno y 'm ystavell j / ag
ef a vydd y drws yn agored // ag yna idd aeth alexander
at i gedymaith lodwig / ag a ddywad wrtho //
Vy nghariadys gedymaith lodwig / bydd lawen / mi
a droesym wyllys y verch atad ti // a heno mi ga vyned
a thi / yddy hystavell hi // a phan glywas lodwig
hynny / ef aeth yn holl jach // a 'r nos honno / idd aeth
ef eti hi // ag yno i bv ef drwy 'r nos mewn digryvwch
a llawenydd // ag o hynny allan i byont hwy
yll dav yn gariadys at i gilydd // ag velly idd oedd

[td. 74r]
lodwig yn arfer o gyrchv eti // val o 'r diwedd / i tybiawdd
marchogion o 'r llys // vod lodwig ynghvd a
merch yr amherawdr // a hwy a veddyliysant yndynt i
hvnain / pa vodd i gallent i ddala ef a 'u ladd // ag
yna i klywas alexander hynny // ag ef a 'u gwilawdd
hwynt yn vynych rag ofn yddynt ddala lodwig a 'i
ladd // ag yna i hadnabyont hwy / vod alexander
yn gado lodwig / i vyned at verch yr amherawdr
yn heddychlon // ag alexander / a oedd yn dodi hvnan
yn vynych mewn perigl o 'i vywyd / o 'i hachos hwynt
heb wybod i lodwig // ond ef a wyddiad Phlorenti //
ag ymhenn serten o amser / gwedy hynny // ef a ddauth
llythyrav at alexander / i ddangos marw i dad
yn y gyfraith // a bod yn raid yddo ef ddyvod yn ebrwydd
adref / i dderbyn i vreniniaeth / gydag anrydedd
a llawenydd // ag yna i dangoses ef hynny i
lodwig / ag i Phlorenti / yr hain a oedd drist am
hynny // ag yna idd aeth alexander at yr amherawdr
ag a ddywad wrtho // O 'r galleokaf arglwydd heb ef // mi
a gevais lythyrav o varwolaeth vy nhad // ag i
mae yn angenraidiol i mi vyned i gymeryd vy
mreniniaeth yn llaw / os kanedwchwi i mi
vyned // ond mi a allwn ymwrthod a 'm hynys / ag
a 'r maint da a sydd i mi yn y byd / a tharing gyda
chwi / yn gynt nag i digiochwi wrthyf j // ag yna i
dywad yr amherawdr // alexander heb ef / i mae yn
drwm gennyf j / ych bod chwi yn myned ymaith // am

[td. 74v]
ych bod chwi yn orav gwsnaethwr y 'm ty j // ond
ny ddyly amherawdr rwstro [~ rwystro ] neb yddy ddyvodiad
eithr yn gynt helpy i was i gael anrydedd a
gorchaviaeth // ag am hynny / ewch yn enw duw at
ych dyvodiad a 'm bendith j gyda chwi // ag yna i ymjachawdd
alexander / a 'r amherawdr // ag idd oedd llawer
o 'r llys / yn ddrwg gantynt i vynediad ef oddyno //
a lodwig / a Phlorenti / a aethant yddy hebrwng ef
saith milldir / ag nys gadai alexander hwynt i
vyned ymhellach // ag yna i kwympysant hwy yll dav
ar y ddaear o drymder // ag alexander / a 'i kodes
hwynt i vynydd / ag a 'i kynffwrdawdd hwynt / gan
ddwedvd / O lodwig / vy annwyl ffrynd heb ef // mi
a 'ch rybuddiaf chwi o blegid y peth a sydd ryngochwi
a 'r arglwyddes yma / i chwi i gadw ef / yn ddirgela
ag i gallochwi / ag nas dangosochwi i neb // Kans
mi wnn i daw arall yno y 'm lle j / a hwnnw
a 'ch gwila chwi ddydd a nos / i gaiso ych dala chwi
yn vaiys [~ feius ] / er mwyn kael ych kyhuddo chwi // ag
yno i dywad lodwig // O alexander heb ef / mi a 'u
kadwaf ef / yn ddirgela ag i gallwyf // eithr beth a
wnaf j / pan gollwyf ych kwmpniaeth chwi // ond
mi a ddaisyva / arnoch / gymeryd y vydrwy honn genyf
j / er vy nghovio j // ag yna i dywad alexander /
mi a gymeraf y vydrwy yn llawen o gariad arnoch
chwi // eithr a 'm bod j hebddi hi / ny ollyngwn j chwi
byth yn angof // ag yna i kymerth ef y vydrwy / a

[td. 75r]
chan ymvraichaido / a chusanv i gilydd ymjachae
a myned adref a wnaethant // ag ymhenn serten o
amser gwedy hynny / i dauth mab brenin Spaen [~ Ysbaen ]
yr hwnn a elwid Gwido i lys yr amherawdr i drigo //
a hwnnw a gavas myned i 'r vn ystavell a lodwig /
yn erbyn wyllys lodwig // a Gwido adnaby hynny // ag
am hynny i dalioedd ef gynfigen wrth lodwig / val
na baiddawdd ef vyned at y verch yn hir o amser
rag ofn Gwido // etto er hynny / idd oedd ef yn y charv hi
yn gymaint / ag idd aeth ef eti ailwaith val ir
oedd o 'r blaen // ag yna i adnabv Gwido / vod lodwig
ynghyvaillach [~ yng nghyfeillach ] merch yr amherawdr // ag ef a wiliawdd
yn kyhyd baenoeth [~ beunoeth ] / val ir adnaby ef o 'r diwedd / vod
lodwig mewn kyvaillach a hi // ag ef a hapiodd ar
ddiwarnod / vod yr amherawdr yn y nauadd / yn kanmol
alexander / am i voneddigaiddrwydd a 'u ddoethineb //
ag yna i dywad Gwido // arglwydd heb ef / ny thalai alexander
i ganmol velly // kans idd oedd ef yn drautur
yr hyd i bv ef y 'ch llys chwi // a 'r amherawdr a ovynnawdd
pa vodd // a Gwido a ddywad // nid oes i chwi
verch ond vn / a honno / i mae lodwig gwedy salwhae
hi / drwy help alexander // ag yna i digiawdd yr amherawdr
yn groelon [~ greulon ] // ag ar hynny / dyma lodwig yn
dyvod i 'r nauadd // a phan i gwelas yr amherawdr
ef // ef a ddywad wrtho // pa beth a glywaf j amdanad
ti gorff drwg anghywir // ag os gellir ei brwvo arnad
ti a gav ddioddef yr angav kroelonaf [~ creulonaf ] ag a

[td. 75v]
ellir i ddevaiso i ti // ag yna i govynnawdd lodwig //
 arglwydd beth yw 'r achos // ag yna i dywad
Gwido // idd wyd ti yn gorwedd baenoeth [~ beunoeth ] gyda merch
vy arglwydd j / ag yn y salwhae hi // a hynny / mi a 'u
gwnaf yn dda o 'm korff / ar dy gorff di // ag yna i
dywad lodwig // idd wyf j yn wirion / am y peth
hwnnw / a 'r kelwydd ir wyd ti yn y haerv arnaf j /
a hynny mi a 'u prwvaf mewn ymladd ar dy benn
di // a 'r amherawdr a bwyntawdd dydd yddynt i ymladd //
 ag yna i ddoeth lodwig at y verch / ag a ddywad
wrthi / val i daroedd i Gwido i kyhuddo hwynt
wrth i thad hi // ag i mae diwarnod gwedy 'r amherawdr
i osod i ni ymladd mi a Gwido // ag i
mae 'n raid i mi gael ych kyngor chwi // Kans
chwi a wddoch / nad wyf j yn abl i ymladd a Gwido
am i vod ef yn gryf / ag yn galed mewn arfav // a
minnav yn nawsaidd / ag yn wann // a 'r kweryl yn
ddrwg // ag os ymladd a wnaf j ag ef / nid wyf j ond
gwr marw / a hynny a vydd kwilyddvs i chwithav //
ag yna i dywad Phlorenti // gwnewch vy nghyngor
j // o 'r dydychwi yn gwann drysto [~ drosto ] ychvnan [~ eich hunain ] // ewch yn
ebrwydd at vy nhad / a dwedwch wrtho ef / ddyvod llythyrav
atochwi oddiwrth ych tad / yr hain a sydd yn dangos
i vod ef yn y wely angav // a 'u vod ef yn daisyf kael
ych gweled chwi / val i gallo ef osod i vreniniaeth
a 'u dda i chwi / kyn ir elo o 'r byd hwnn // a daisyvwch
arno gael myned i ymweled ag ef // ag yddo oedi y

[td. 76r]
dydd ymladd a Gwido // try vochwi yn myned / ag yn dyvod //
a phan gaffochwi gennad gan vy nhad // ewch
yn ddirgel / at alexander / a dangoswch yddo ef bob
peth / a 'r achos i dauthochwi yno // a daisyvwch arno ef
ddyvod i ymladd a Gwido drosochwi // a phan
glywas lodwig y kyngor hynny gan Phlorenti / ef a
vy vodlon i hynny // ag yna idd aeth ef at yr amherawdr
/ i ddwedvd i holl ddamwain // ag ef a gavas
kennad gan yr amherawdr i vyned i ymgais
a 'i dad / ag oedi y dydd ymladd yn hwy / yny ddelai ef
ailwaith yn y ol // ag ef a gymerth i gennad ag a
aeth parth ag Egipt // yny ddauth ef i lys alexander //
a phan wybv alexander / ddyvod lodwig yno // ef a
ddauth yn y erbyn ef / gan i rysewi ef yn anrydeddvs /
ag yn llawen // ag yna i dywad lodwig // O vy ngharedig
ffrynd / a 'm hanwyl gedymaith // i mae vy mywyd
j a 'm hangav ar dy law di // Kans ti a ddwedaist
i doi ataf j gedymaith / yr hwnn a 'm bradychai j /
ony bewn j kall // ag yna i dauth mab i vrenin
Spaen [~ Ysbaen ] / yr hwnn a elwir Gwido // a hwnnw a 'n
gwilwys ni / yny ddalawdd ef ni yn vaiys [~ feius ] // ag ef a 'n
kyhuddawdd ni wrth yr amherawdr // a 'r amherawdr
a bwyntawdd diwarnod i ni ymladd gorff dros
gorff / am y kweryl // ag i mae Gwido yn gryf / ag
yn galed // a minnav yn wann / ag yn nawsaidd / a 'r
kweryl yn ddrwg // ag am hynny / i kynghores Phlorenti
i mi ddyvod atochwi [kans hi a wyddiad ych bod chwi

[td. 76v]
yn ffrynd ffyddlon i ni] / i ddaisyf arnochwi ddyvod
i ymladd a Gwido y 'm lle j // am ych bod chwi yn debig
i myvi // ag yna i govynnawdd alexander / pa bryd
idd oedd y dydd ymladd gwedy bwynto // ag yna i dywad
lodwig / mae yr wythfed dydd i heddiw // ag yna i
dywad alexander // Yvory i bydd vy mriodas j / a 'm
naithor // ag ef a ddarfy i mi rybuddio vy ffryns
a 'm dailaid i 'r naithor // ag o tariaf j yma yvory /
ny allaf j vod yno erbyn y dydd hwnnw // os minnav
nid af yno / i ymladd ag ef // ef a ddarfy am Phlorenti
a thithav // ag am hynny / ny wnn j beth a wnaf // a
phan glywas lodwig hynny / ef a syrthiawdd i 'r llawr
gan ymovudio yn dost / a dwedvd // trymder / ag alaeth
a sydd bob ystlys i mi // ag yna i dywad alexander //
kyvod a bydd lawen / a chynffwrdys / nid ymwrthodaf
j a thi / o serch kolli vy mreniniaeth a 'm bywyd // Ond
hynn yw vy meddwl j // am yn bod ni yn debig / vn i 'r
llall / ag na all neb ond ni yn dav / adnabod vn ohonom
ni oddiwrth y llall // a phawb a 'ch kymer chwi
y 'm lle j // ag am hynny / teriwchwi yma i briodi
vy ngwraig j / y 'm lle j // a chynhelwch bob peth / val
pe bewn j yma vy hvnan // ond pan ddelochwi i 'r
gwely gyda vy ngwraig j // byddwchwithav gywir a
ffyddlon i minnav // a minnav af yno erbyn yr ymladd //
ag os duw a ry i mi y gorav / ar y gwr hwnw /
mi a ddawaf yma ailwaith yn ddirgel // a chwithav
a gewch vyned yno yn ddirgel // ag ar hynny / idd aeth

[td. 77r]
alexander / tia llys yr amherawdr // a 'r borav drannoeth /
i dauth lodwig i 'r eglwys / yr hwnn a oeddid
yn tybiaid / mae alexander oedd ef // ag ef a briodes
gwraig alexander / ag a gynhalioedd y naithor yn
llawen / gydag amledd o vwydav melys / a digonedd
o bob ryw winoedd // a phan aeth hi yn nos // ef aeth
lodwig i 'r gwely gyda 'r vrenhines // ag ef a ddodes i
gleddyf yn hoeth [~ yn noeth ] ryngto ef a hi / bob nos yn y gwely
nes dyvod alexander adref // ag yna i bv drwm
gan y vrenhines hynny / ond ny ddywad hi ddim
wrth lodwig // a phan ddauth alexander geyr
bronn yr amherawdr / ef a ddywad wrtho // O
arglwydd amherawdr heb ef // mi a edais vy nhad
yn glaf / ag a ddauthym yma i gadw vy anrydedd /
a 'm prwmaison // ag yna i dywad yr amherawdr //
 idd ychwi / yn gwnaethur yn debig i wr
gwych // a hap a ddaw i chwi o 'ch kweryl da // a
phan glywas Phlorenti / ddyvod alexander yno / hi
a ddanfones yn y ol ef // a phan ddauth ef eti / hi a 'u
brychaidawdd [~ breicheidiodd ] ef / ag a 'i kusanawdd ef / gan ovyn yddo
pa le i gadawsai ef i chariad hi lodwig // ag yntav
a ddywad yddo i ado ef yn vrenin yn yr Eigipt / yn y
le ef // ag yna idd aeth ef i ystavell lodwig / ag
nid oedd yn y llys / neb yn tybiaid nad lodwig oedd
ef / ond Phlorenti yn vnig // a thrannoeth kynn
myned i ymladd / i dywad alexander wrth yr amherawdr
[yngwydd [~ yng ngŵydd ] Gwido] arglwydd amherawdr heb
ef / i mae 'r Gwido yn ffalst / ag yn anghywir / y 'm

[td. 77v]
kyhuddo j wrthychwi / ag yn dwedvd vy mod j mewn
kyvaillach / a 'ch merch chwi / ag yn dianrydeddv i
chorff hi // ag am hynny / mi a dyngaf i 'r holl angylion /
na bv hi yn y vath gyddnabyddiaeth [~ gydnabyddiaeth ] hynny / gyda
myvi erjoed // a heddiw [gyda help duw] / mi a
wnaf hynny yn dda / ag a 'u prwvaf ar i gorff ef //
ag yna i dywad Gwido // minnav a ddwedaf / ag a dyngaf
i 'r angylion bendigedig / ag i bob peth ag a wnaeth
duw / vod kydnabyddiaeth ryngod ti a hi / ag i ti / i
salwhae hi // a mi a wnaf hynny yn dda ar dy
benn di // ag ar hynny / hwy authant ar i mairch / ag
a rythrysant ynghvd / yny dorres i dwy ffonn hwynt
yn ddryllav man // ag yna i tynysant hwy i kleddyfav /
ag a ymffystysant yn hir // ag o 'r diwedd alexander
gyda nerth mawr / ar vn dyrnod / a dorrawdd penn
Gwido oddi ar i gorff / ag a 'u dyg ef i Phlorenti / a
hithav a 'i dyg ef at i thad / gan ddwedvd wrtho /
dyma benn Gwido // ag yna i danfones yr amherawdr
yn ol alexander [yr hwnn oedd ef yn tybiaid
mae lodwig oedd ef] / ag a ddywad wrtho // O lodwig
heb ef / heddiw i amddiffynnaist di vy merch j / a
pheth bynnag a vo tailwng i ti i gael / ti a 'v kau //
ag yna i dywad alexander / vod duw yn helpy y
neb a vo ar gyviawnder // ag yn gwanhav y kynvigennwyr //
 Ond mi a ddaisyvaf arnochwi arglwydd
roddi kennad i mi / vyned i ymgais a nhad [~ fy nhad ]
yr hwnn a edais j yn glaf // ag yna i dywad yr amherawdr //
 ewch heb ef / a dewch ailwaith ar vyrr //

[td. 78r]
am na allaf j vod yn hir heb ych gwsanaeth
chwi // ag yna i kymerth alexander i gennad / ag
a aeth parth a 'u wlad i hvn // a phan i gwelas
lodwig ef // ef a 'u grysewis ef yn llawen / gan wnaethyr
yddo sir vawr // a dwedvd wrtho // O vy nghariadys
ffrynd o 'm holl ffrynds i gyd // pa vodd i darfv i chwi ysbydo [~ sbidio ]
ych siwrnai // a phwy ddiwedd a ddygysochwi // ag
yna y dywad alexander // mi a leddais dy elyn
a 'th gyhuddwr di // a does di i lys yr amherawdr i
wasnaethv // kans mi a enillais i ti vwy o gariad
yno / nag a vy i ti erjoed o 'r blaen // ag
yna i dywad lodwig // nid yn awr yn vnig i
kadwysochwi vy mywyd j // ond llawer gwaith kyn
hynn // ag am hynny / nid wyf j yn abl i daly i chwi /
eithr duw a dalo ywch // ag yna ir aeth lodwig i
lys yr amherawdr drychefn [~ drachefn ] // ag alexander y nos
honno / a aeth i 'r gwely gyda 'r vrenhines // ag yna
i dywad ef wrthi / airav teg serchawl / gan i
braichaido / a 'u chysanv // a hithav a ddywad / chwi
a vyoch yn hir / heb ddangos i mi ddim kariad /
na throi ych wyneb ataf j // a pham i dodysochwi
ych kleddyf yn hoeth [~ yn noeth ] ryngoch a mi yn y gwely // ag yna i
dywad ef wrthi hi // O vy arglwyddes / a 'm brenhines
heb ef // ny wnaethym j hynny / er dim drygoni
i chwi / ond o ragorol gariad atochwi // a hithav
a oedd yn tybiaid // mae o vick a hi i gwnathoedd

[td. 78v]
ef hynny // a hi a ddywad i byddai hi gymwys ag
ef // ag idd oedd yn y llys varchog / yr hwnn a vysai
hi yn y garv yn vawr o 'r blaen // ag o hynny allan
hi a ddechrauawdd karv y marchog hwnnw vwy vwy //
ag o 'r diwedd / hwy a veddyliasant / pa vodd i gallent
hwy ddiva y brenin alexander // a hwy a gawsant
wenwyn / ag a 'u roesant yddo ef // ag ony bysai i
vod ef yn gryf / ag yn dda i natur / marw a vysai
ef // eithr ef a waithawdd y gwenwyn oddy vewn
yddy gorff ef / yny aeth ef yn grach drosto / ag yn gripl
gwann glaf / na welad erjoed ar y ddaear i vath ef //
a 'r vrenhines / a 'r arglwyddi / a 'r gwyr boneddigion
o 'r ynys / a ddwedysant // nad oedd y vath gripl ag
oedd ef / yn weddvs i raeno arnynt // am na
allai ef ennill etiveddion glan // ag yna i gyrrwyd
ef i maes o 'i rialwch / ag o 'i ynys // ag yn y kyvamser
hynny / i bv varw yr amherawdr // ag i bv
varw tad lodwig brenin Phraink // a lodwig / a
briodawdd Phlorenti // ag yna idd oedd lodwig yn
amherawdr Ryvain / ag yn vrenin Phraink // a
phan glywas alexander hynny // ef a ddywad yndo
i hvn // i mae vy nghedymaith j yn awr / yn amherawdr
yn Ryvain / ag yn vrenin Phraink / a
gorav i mi vyned ato ef // Kans mi a ddodais vy
hvnan mewn perigl o 'm bywyd yn vynych er i
vwyn ef // a thrannoeth / ef a gymerth i ffonn a 'u
ddysgl / a 'u glapar / ag a aeth parth a llys yr amherawdr //

[td. 79r]
a phan ddauth ef geyr llaw y porth / ef a gwympawdd
i eistedd yno / ymlith [~ ymhlith ] kryplaid eraill / yr
hain a oedd yn aros yno gael kardodav // ag yn y
mann / ef a ddauth yr amherawdr i maes // a 'r kryplaid
a ffystysont i klapers // ag alexander a ffustawdd
i glapar yntav // ag yna i tariawdd alexander
wrth y porth / yny authant hwy yddy kino // ag
yna i tikawdd ef y porth // a 'r porthor / a ovynnawdd
pwy oedd yno // ag alexander a ddywad // mae yma
wr tylawd yn daisyf arnochwi ddwedvd wrth yr
amherawdr / vod yma grypl gwann / yn daisyf kael
bwyta i gardod / ar lawr i nauadd ef / er kariad ar
dduw ag alexander // a 'r porthor a ddywad / idd wyf j
yn kredy / na baiddy di gaiso hynny gan yr amherawdr /
am vod y nauadd yn llawn arglwyddi a
gwyr boneddigion / ag os gwelant hwy dydi / hwy
ymadawant a 'u bwyd // ond mi a wnaf dy neges [
er mwyn duw ag alexander / wrth dy ddaisyf di]
ag yna idd aeth y porthor geyr bronn yr amherawdr
ag a ddywad y neges wrtho / yn y modd i harchysai
alexander yddaw // a phan glyby yr amherawdr ef
yn enwi duw ag alexander brenin yr Egipt /
ef a erchis i 'r porthor / i ddwyn ef i mewn / er
anferthed a vai 'r olwg arno / a 'u ddodi ef ar lawr
y nauadd i vwyta i vwyd / lle gwelwyf j ef // ag yna
i dauth y porthor ag ef i mewn i 'r nauadd / ag a
roddes yddo ef vwyd yngwydd [~ yng ngŵydd ] yr amherawdr / a chwedy
yddo ef reffresio i hvnan yn dda / ef a ddywad

[td. 79v]
wrth vn o 'r gwaison // Vy annwyl ffrynd heb ef / mi
a ddaisyva arnad ti ddwedvd wrth yr amherawdr /
vy mod j yn daisyf arno ef / ddanfon i mi ffiolaid
o win / yn y ffiol ef i hvn / er mwyn duw / ag alexander //
a 'r gwas a ddywad // ny chredaf j / i kav di hynny /
Kans pan ddarffo i ti yved o 'i ffiol ef // nid yf / ef
o 'r ffiol honno mwy // ond er hynny / mi a wnaf dy neges
di hebe 'r gwas // ag yna idd aeth y gwas att yr
amherawdr / ag a ddywad / vod y kripl / yn daisyf kael
ffiolaid o win / o 'i ffiol ef i hvnan / er mwyn duw
ag alexander // a phan glywas yr amherawdr enwi
duw / ag alexander // ef a baroedd llanw i ffiol ef i
hvn o win / a 'u roi i 'r krypl // a phan gavas alexander
y gwin / ef a 'u dodes ef yn y botel / ag a vyrodd
y vydrwy a gathoedd [~ gawsai ] ef gan lodwig yn y ffiol // ag ef
a 'u danfones hi at yr amherawdr // a phan welas
lodwig y vydrwy / ef a adnaby mae honno a roesai
ef i alexander // ag ef a veddyliawdd yn y galon
varw alexander / ag ef a orchmynnawdd i 'r gwas i
ddodi ef mewn ystavell / yny gaffai ef chwedlaua ag
ef // a chwedy kino i dauth yr amherawdr at y dyn
klwyvys / ag a ovynnawdd yddo / pa le i kathoedd [~ cawsai ] ef y
vydrwy honno // ag alexander a ovynnawdd i 'r amherawdr
a oedd ef yn adnabod y vydrwy // adwaen yn
dda hebe 'r amherawdr // a wddochwi i bwy i roesoch
chwi hi / hebe alexander // gwnn yn dda hebe 'r
amherawdr // ag yna i dywad alexander // myvi
yw alexander / yr hwnn i roesochwi y vydrwy

[td. 80r]
yddo // a phan glywas yr amherawdr hynny / ef a
syrthiawdd i 'r llawr o drymder ag alaeth / ag ef a
wylawdd yn dost / gan ddwedvd // O alexander / tydi
yw hanner vy enaid j / pa le i mae y korff teg kryaidd
[~ caruaidd ] a welais j i ti // a wyd ti yr owron mor angryaidd
[~ angharuaidd ] a hynn // ag yna i dywad alexander // llyma
val i hapiodd i myvi / am i chwi ddangos kedmaithias
gywir i myvi yn vy ngwely gyda vy ngwraig
j / pan ddodysochwi gleddyf noeth ryngoch
a hi // ag am hynny / hi a gymerth digovaint wrthyf
j / val na vynnawdd hi / vy ngweled j o hynny
allan // a hi a vyrawdd serch ar varchog o 'r llys /
a hi a ymgyvaillachawdd ag ef / ag a 'm gwenwynysant
jnnav yn y modd hynn // ag a 'm gyrysant j
i maes o 'm hynys // a phan glywas yr amherawdr
hynny / ef a ymaelawdd / am i vwnwgl ef / ag a 'i
kusannawdd ef gan ddwedvd wrtho // O vy ngharedigol
ffrynd / mae 'n ddrwg gennyf j / ych gweled chwi
mewn klevyd mawr velly // ond er hynny vy annwyl
ffrynd / byddwch gynffwrdys ennyd / tra vwyf j yn
danfon i gaiso meddygon y 'ch jachae chwi // Kans
nid ysbariaf j / na thir / na daear / na da yn y byd
o bydd posybl [~ posibl ] gael help i chwi / y 'ch gwnaethur chwi
yn jach // ag yna i dygwyd ef i ystavell gyvoethog /
yr honn oedd gwedy thrwsio yn deg / a phob peth ag a
oedd yn angenraidiol tiag at i jechyd ef // a 'r amherawdr
a ddanfonawdd / kenadav drwy yr holl enysoedd /

[td. 80v]
i gaiso meddygon gorav ag a ellid i kael // a
chynn penn mis / ef a ddauth yno ddeg ar igain o 'r
meddygon gorav / a chyfrwydda ag a ellid i kael yn y
gelfyddyd honno // a phan welas yr amherawdr y meddygon /
ef a 'u grysewis hwynt yn llawen / ag a ddywad
wrthynt // ha wyr heb ef // mae ffrynd i mi / gwedy myned
yn grypl // a mi a vynnwn allv i jachae ef // ag nid
arbedaf j / nag aur nag arian / na dim da eraill ag
a sydd ar vy helw j // ond mi a 'u roddwn hwynt yn
llawen dros i jechyd ef // ag yna hwy authant
yddy weled ef // a chwedy i 'r meddygon ddeall i glevyd
ef // hwy a ddwedysant na allai neb help yddo
ef / ond yr vn duw // a phan glywas yr amherawdr
hynny / idd oedd ef yn glaf yn y galon // ag ef a
ddaisyvoedd help gan dduw // ag ef a alwodd atto wyr a
gwragedd tylodion / a gwyr duwiol eraill / ag a
ddaisyvoedd arnynt weddio ar dduw / ar ddanfon jechyd
yddy ffrynd ef // ag val idd oedd alexander ddiwarnod
yn y weddi // ef a glywai lavar ywch i benn
yn dwedvd / be lladdai yr amherawdr i ddav vab
o 'i law i hvnan / yr hain a ddygysai i wraig ef
i 'r byd yn vn grothaid // ag i ti gael i gwaed hwynt
i olchi dy holl gorff di drosto / ti a vyddyd holl jach //
a phan glywas alexander hynny // ef a dybiawdd na
byddai well yddo ef ddangos hynny // am vod yn erbyn
natur / i vn gwr ladd i vaibion i hvn / i
gaiso jechyd i wr dieithr // ag am hynny / ny ddangosawdd

[td. 81r]
ef ddim o hynn i neb // a 'r amherawdr oedd
yn gweddio / ag yn ymprydio baenydd [~ beunydd ] / gan ddaisyf ar
dduw ddanfon jechyd yddy ffrynd ef // ag val idd oedd yr
amherawdr ddiwarnod mewn devosiwn da // ef a
glywai lavar yn dwedvd // pa hyd i llevwchwi / ef a
ddarfv dangos i alexander / pa vodd i kaiff ef i
jechyd // a phan glywas yr amherawdr hynny // ef aeth
at alexander / yn llawen / ag a ddywad wrtho // O vy
annwyl ffrynd heb ef / bendigedig yw duw / yr hwnn
nid ody yn gollwng yn angof / y neb a vo 'n trysto
yddo ef / gan yr hwnn i kevais j wybodaeth / ddarfod
dangos i chwi / beth a 'ch gwnai chwi yn jach // ag am
hynny / mi a ddaisyva gael gwybod / val i gallom
ni gydlawenhav // ag o 'r bydd dim ag a allwyf j i
gael / nid arbeda j nag aur / nag arian / na dim ag
a sydd ar vy helw j // eithr mi a 'u roddwn hwynt yn
llawen / er kael jechyd i chwi // ag yna i dywad alexander /
 ny baiddaf j ddangos i chwi / pa vodd y 'm
iachair j / am i vod ef yn beth yn erbyn natur //
ag yna i dywad yr amherawdr // O alexander / trysta i
mi / a pha beth bynnag yw ef / ag a vo posybl [~ posibl ] i mi
allv wnaethur / mi a 'u gwnaf ef / er ych jachav chwi
ag am hynny / na chel ddim ragof j // ag yna i dywad
alexander / mi a gevais wybodaeth gan dduw / os
lladdechwi ych dav vab o 'ch dwylo ych hvnan / a 'm golchi
j o 'i gwaed hwynt / i byddwn j jach // ag am hynny
mi baidais a dangos y mater / am vy mod j yn

[td. 81v]
tybiaid vod yn erbyn natur / i vn gwr ladd i
vaibon i hvn / i gaiso jechyd i wr diaithr // ag
yna y dywad yr amherawdr // na ddwedwchwi
ych bod yn wr diaithr // Kans mi a 'ch
karaf chwi val vy hvn // ag am hynny a bod i
mi ddeg o vaibon / nid ysbariwn j vn onaddynt
yn vyw er kael jechyd i chwi // ag yna
i gwilawdd yr amherawdr / yr amherodres / a 'r
arglwyddesi / a 'r mamaethi / i maes o 'r ystavell /
ag yna idd aeth ef i mewn i 'r ystavell / lle ir
oedd i vaibion ef yn kysgi / ag ef a dynnawdd i
gyllell / ag a dorres archoll dan benn bronn pob
vn onaddynt / ag ef a erbynnawdd i gwaed hwynt
mewn kawg / ag ef a olchawdd alexander drysto [~ drosto ] /
o 'r gwaed hwnnw / yny oedd i gnawd ef kyn deked
ag i bysai dekaf erjoed // ag yna i kusannawdd
yr amherawdr ef gan ddwedvd / O alexander /
yr owron i gwelaf j di / val i gwelais j
di gynt / bendigedig yw duw / yr hwnn a ddanfonawdd
i mi y maibion hynn y 'ch jachae chwi //
ag ny wyddiad neb oddiwrth angav y maibion / ond
yr amherawdr / ag alexander // ag yna i gwisgawdd
yr amherawdr / am dan alexander / wisg vrenhinol /
gan ddwedvd wrtho // dewchwi ddeg milltir oddyma /
a mi a ddawaf y 'ch erbyn chwi // a da a vy
gan alexander y kyngor hwnnw // ag yna idd aeth
alexander ymaith yn ddirgel // ag yna i dywad yr

[td. 82r]
amherawdr wrth Phlorenti / ddyvod llythyre ato ef oddiwrth
yn ffrynd ni alexander // ag i mae ef yn dyvod
tiag yma / a mi af yn y erbyn ef // a 'r amherodres a
ddywad / dewch heb hi / a minnav a ddawaf ar ych ol chwi / a 'r arglwyddesi /
a 'r gwragedd boneddigion gyda mi / ag ny
wyddiad hi oddiwrth angav i maibion // ag yna ir
aethant / a chwmpaeni mawr gydag hwynt // a hwy
a granfyant ag alexander / ag a vy lawen ganthynt
i weled ef // a hwy authant ag ef i 'r llys // a
phan vy bryd kino / ef a ddodwyd alexander i eistedd
wrth y vord / rwng yr amherawdr / a 'r amherodres / a
hwy a wnaethant sir vawr yddo ef // ag yna i dywad
yr amherawdr / mae 'n dda gennyf j Phlorenti
ych gweled chwi yn llawen wrth alexander // ag
yna i dywad hithav / paham na bewn j lawen
o 'i weled ef // ag yn vnwedig chwchwi arglwydd a ddelyech
/ vod yn llawen o 'i gwmpniaeth ef / am na bysechwi
byth yn y gorchaviaeth hynn ony bysai ef / a llawer
pryd i kedwis ef ych bywyd chwi // ag yna i dywad yr
amherawdr wrth Phlorenti / a welsochwi y kripl a
oedd yma y dydd arall yn daisyf arnaf j roi diod yddo
ef / er mwyn duw ag alexander // gwelais yn wir
heb hi / a thosta oedd y gweled // beth hebe 'r amherawdr /
betfai [~ petái ] alexander yn y modd hwnnw / ag na bai ddim
a 'i gwnelai ef yn jach / ond gwaed ych dav vab chwi /
yr hain a ddygysochwi i 'r byd yma yn vn grothaid
ony roddychwi i gwaed hwynt yddy jachae ef // ag yna

[td. 82v]
i dywad hithav / paham arglwydd i govynwchwi hynny
i mi / yn wir heb hi / a bod i mi ddeg o vaibon / mi
a allwn i lladd hwynt o 'm llaw vy hvnan / er yddo ef
gael jechyd / ag a 'i golchwn ef o hwnnw vy hvnan / yn
gynt nag i bai ef yn y vath glwyf hynny // kans ef
a allai dduw ddanfon i mi blant ailwaith / ag
amhosybl [~ amhosibl ] yw kael y vath gedymaith kywir ag yw ef //
ag yna i bv dda gan yr amherawdr i chlywed hi velly //
ag ef a ddywad // O wraig heb ef ai gwell genychwi
vod ych maibion yn vairw / na bod alexander yn
grypl // am hynny / mi a ddwedaf y gwir / alexander oedd
y kripl a welsochwi yma y dydd arall / a mi a 'u gwnaetho
ef yn jach o gwaed ych dav vab chwi / ag i maent
hwy yn vairw yn y kawell // a phan glywas yr amherodres
hynny / trymhav a orug hi / val i bydd natur yn
peri // a phan glywas y mamaethi hynny / hwy aethant
dan levain ag wylo tia 'r ystavell / lle idd oedd y
maibon // ag idd oedd y maibon yn vyw yn chwarav
yn kanv / ag yn diolch i dduw / ddanfon i bywyd yddynt
hwy ailwaith // ag yna idd aeth kennad at yr amherawdr
ar ffrwst / i ddangos / vod i vaibion ef yn vyw /
a bod dan i bronnav hwynt [yn y lle i torysid arnynt]
ddwy graith / val edevyn aur // ag yna i bv lawenydd
mawr gan bawb o 'r llys / ag i roesant ddiolch
i dduw / am y gwrthav hynny // nid amgen / na bywyd i
maibion / a jechyd yddy ffrynd // ag yna i kasglawdd yr
amherawdr amledd o wyr // ag aeth gydag alexander

[td. 83r]
i 'r Eifft / ag a ryvelawdd a 'r vrenhines / a 'r marchog
yr hain a oeddynt ynghvd yn byw yn anghyfraithys /
ag a 'u daliawdd hwynt / ag a barawdd i llosgi hwynt
mewn powdr // ag idd oedd chwaer i 'r amherawdr / a
honno a roddes ef yn wraig i alexander // a chwedy
dodi alexander / yn y ynys / a 'u gyvoeth yn heddychlon
ag yn llonydd // ef a aeth yr amherawdr adref // ag
alexander / a dariawdd yno / ag a gynhaliawdd i
ynys yn wrol / ag a ddarostyngawdd i elynion dano
ef // a phan oedd ef yn y ogoniant yn esmwyth / ef
a veddyliawdd / am i dad a 'u vam / yr hain a oedd
yn trigo mewn gwlad bell // ag ef a ddanfones kennad
atynt / i ddwedvd i dawe vrenin yr Eifft / y
dydd hynn a 'r dydd yddy ty hwynt / i wnaethur yn
llawen // a phan ddauth y kenadwr i lys y marchog /
ef a 'i grysewis ef yn vawr // ag yna i dywad y kennadwr
wrth y marchog a 'u arglwyddes / i doi vrenin
yr Eifft yddy ty hwynt / i wnaethur yn llawen
ar y dydd hynn a 'r dydd // ag yna i dywad y marchog /
nid odym ni yn abl i rysewi gwr mor anrydeddvs
ag yw ef y 'n ty ni // ond y gwsanaeth gorav ag a allom
ni i wnaethur / ef a vydd parod i 'r brenin / er
pleser yddo ef / yn ol yn pwer ni // a 'r kenadwr a
aeth adref drychefn [~ drachefn ] / ag a ddywad wrth y brenin i
holl ddamwain // a 'i bod hwy yn barod bob amser i
wnaethur i chwi / yr hynn wasanaeth ag a vont hwy
yn abl yddy / wnaethur / wrth i gallv hwy / er pleser i
chwi // a 'r brenin a oedd vodlon i hynny // ag yna i

[td. 83v]
darparawdd y brenin parth a thy i dad / erbyn y dydd
i bysai brwmais yddo ef ddyvod // a phan ddauth ef
yno // hwy a 'u grysewysant ef yn anrydeddvs / gan
gwympo ar i glinav geyr i vronn ef // Kans ny
wyddynt hwy / mae i mab hwy oedd ef // a 'r brenin
drwy vawr gredigrwydd / a 'u kyvodes hwynt i vynydd
ag a 'u kusannawdd hwynt drwy lawenydd mawr // a
phan vy barod kino // i dauth i dad ef / a chawg a
dwfr / a 'u vam ef a thwel [~ thywel ] / ag a authant at y brenin /
gan ddwedvd wrtho / i bod hi yn bryd kino /
a govyn / a wyllysai ef ymolchi / a 'r brenin a ddywad
yndo i hvn // dyma gwplae yr owron / kaniad yr
eos yn gywir os goddeva j hwynt // ag yna i dywad
y brenin // ny vynnaf j vn gwr kyvoed a chwi i
ddala dwfr i mi ymolchi // nag vn wraig kyvoed a
chwithav i ddala twel [~ tywel ] i mi sychy vy nwylo // a
hwyntav a ddwedysant / i gwnaent yn llawen /
os mynnai ef // ag yntav a ddywad na vynnai ef
neb kyvoed ag hwynt yddy wasnaethv ef // ag yna i
dauth gwsnaethwyr eraill i wasnaethv ar y brenin
a phan authant hwy i eistedd wrth y vord // ef a
ddodawdd y brenin / i vam yr yslys [~ ystlys ] deav yddo / a 'i
dad yr yslys [~ ystlys ] aswy // a chwedy kino ef aeth y brenin
i ystavell / ag a elwis y marchog / a 'u arglwyddes ato /
ag ef a barodd i bawb vyned allan o 'r ystavell / ond
yll tri // ag yna i govynnawdd y brenin / a oedd dim
plant yddynt // a 'r marchog a ddywad nad oedd yddynt
hwy ddim plant // a 'r brenin a ovynnawdd / a vysai

[td. 84r]
yddynt ddim plant erjoed // bv hebe y marchog vab i
ni / ond ef a vy varw estalm [~ er ys talm ] o amser // a 'r brenin
a ovynnawdd / o pa ryw angav i bysai varw
ef // O angav naturiol hebe y marchog // ag yna i dywad
y brenin // O kaf j wybod i 'r mab ddioddef angav arall /
idd ychwi yn vaiys [~ feius ] // ag yna i dywad y marchog // paham
arglwydd idd ychwi yn ymovyn am yn mab ni // a 'r
brenin a ddywad / i mae i mi achos yddy ovyn ef i
chwi // a mi a vynnaf wybod / o pa ryw angav i bv
ef varw // ag ony ddwedwchwi y gwir wrthyf j / chwi
a gewch oddef angav kwilyddys // a phan glywsant y
gairav hynny / hwy a gwympysant i 'r llawr ar i
glinav / gan erchi i bywyd yddo ef // ag yna i kyvodes
y brenin i dad a 'i vam i vynydd // ag a ddywad // ny
ddauthym j y 'ch ty chwi / i vwyta ych bwyd chwi a 'ch
diod / ar vedr ych diva chwi // ond ef a ddwesbwyd
wrthyf j / i chwi ddodi ych mab i angav / ag o gellir
prwvo hynny / i mae 'n raid i chwi ddioddef
angav // ag yna i dywad y marchog // O arglwydd kenata
i mi vy mywyd / a mi a ddwedaf i chwi y gwir // ag
yna i dywad y brenin / nag ofnwch ddim os dwedwchwi
y gwir // ny wnaf j gam i chwi // ag yna i
dywad y marchog // idd oedd i ni vab / yr hwnn a oedd
ddysgedig / a da i gyddnabyddiaeth [~ gydnabyddiaeth ] // ag ar ddiwarnod iddoeddym
ni o bopty i 'r vord yn chwedlaua // ag ef a
ddauth eos i vronn y ffenestr / ag a ganawdd yn
velys / yr hwnn ganiad / a ddauth vy mab j yddy ddeall //
ag ef a ddywad vod yr eos yn dwedvd yn y ganiad / i

[td. 84v]
byddai ef arglwydd galleog anrydeddvs /ag i bydd
da genychwi vy nhad / ddala kawg a dwfr i mi
olchi vy nwylo // a mam ddala twel [~ tywel ] i mi i sychy
hwynt // a phan glywais jnnav hynny / mi a ddigiais
wrtho ef kyn belled / ag i kymerais j ef ar
vy nghefn / ag a 'u bwrais ef i 'r mor y 'w voddi //
ag yna i dywad y brenin // dyna ffolineb mawr
oedd i chwi wnaethur yn erbyn ordainad duw / a 'i
wyllys // ond mi a ddwedaf i chwi y gwir // Myvi
yw ych mab chwi / yr hwnn / a vyrysochwi i 'r mor /
a duw o 'i vawr drigaredd a 'm amddiffynnawdd j /
ag a 'm dyg j i 'r gorchaviaeth hynn // a phan glywas
i dad / a 'i vam ef y gairav hynny // hwy a syrthiasant
i 'r llawr rag ofn // ag yna i kyvodes ef
hwynt i vynydd / gan ddwedvd // nag ofnwch ddim
eithr byddwch lawen a sirys // ag yna i kusannawdd
ef hwynt / gan ddwedvd // chwi a gewch
vyned gyda mi / y 'm hynys j // ag yno i kewchwi
ych anrydeddv ywch vy llaw j / yn vy mywyd j //
ag yna idd aeth ef / ag hwynt gydag ef yddy
dernas ef // ag yno i byont hwy mewn llawenydd
ag anrydedd hyd y niwedd [~ yn niwedd ] i hoes

ag velly terfyna

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section