Trwbleth ac adfyd, a wasnaethant
i 'n treio, ac i 'n profi ni. Gorthrymder ac adfyd, sy yn
profi, yn addyscu, yn sicrhau,
ac yn cadarnhau y ffyd', yn ein cymell, ac yn ein annog i weddiaw: yn
ein gwthiaw ac yn ein cynhyrfu i
wellant buched', i ofni duw, i vfud'dod, ymyned', dianwadalwch, tiriondeb, sobrwed', cymedroldeb, ac i
ddylyn bob rhinwed': ac ydynt achosion o lawer o ddaioni, yn gystal
trancedic, a thragwyddol, yn y byd
hwn, ac yn byd a ddaw. Drwy orthrymder ac adfyd, i praw duw, i craffa, ac irr edrych ddyfndwr dy galon
tuac atto ef: pa gymeint a ddichon dy
ffyd' di i ddioddef a 'i dderbyn: ac a
elli di ymwrthod a thi dy hunan, a oll
greadurieit y byd, er i fwyn ef. ac, i
ddoedyd mewn byrr eirieu: e fynn
wybod, pa fod' ir ymwreddi di dy
[td. 53] hun, pann ddygo ef yn ollawl oddiarnat, ac allan o 'th olwg yr hynn i
ddoeddyt ti yn ymddigrifhau fwyaf
ynthaw, ac yn i hoffi yn bennaf ar y ddayar: fe wyr duw yn ddigon da
ymlaen llaw pa wed' i cymeri di hynny, a beth a fyd' dy oddef: ond er hyn
ef a ddengys ac a eglurheiff i ti, ac i 'r
byd hefyd, beth sy ynot: cans yn fynych, pobl a ganmolant wr, ac a wnant
y fath ffrost o honaw ef, (sef) i fod ef,
yn ddoethaf, yn gallaf, yn wrolaf, ac
yn onestaf gwr mewn gwlad, &c.
ond pan d'elo 'r amser y 'w brofi ef, nid
oes dim o 'r fath beth ynthaw, a 'r a
oeddyd yn tybied fod, ne a 'r a oeddyd yn i ddiscwyl am dano: ni ddichon
gwr adnabod y milwr cryf calonnawg, yn amser heddwch, ond mewn
amser rhyfel, pann fyddo y creulon
elyn, yn gorthrymu ac yn rhuthro i
gapten ef. Pan gyfodo temestl aruthrol
ar y mor, yno i gwelir, a fyd' meistr
y llong gyfarwyd' i lywio 'r llyw, ai
[td. 54] na bo y rheini sy onestaf a diweiriaf
wraged', rhain pan i temptier, pan i
dener, ne pann i llithier i anwired',
a gadwant er hynn i gyd i cred briodas y 'w gwyr yn ddihalog: yn 'r vn
mod' ni ddichon neb wybod yn gwbl
pa fod' y mae yr eglwys Gristnogaid' yn cadw i chred a 'i ffyddlondeb tuac at i gwr priod Crist Iesu,
nes i Antechrist i hamgylchu, a 'i themptio, a gau-ddysceidiaeth, creulondeb
ag erlid. Ni ddichon angerddol
wres yr haul friwo, na niweidio y
prennieu sy a 'i gwraid' yn gryfion ac
yn ddyfnion yn y ddayar, ag a digon ynthynt o sugn naturiol, ond y
rhai a gymynwyd ac a dorrwyd i
lawr, a wyfant [~ wywant ] yn fuan, gan wres 'r
haul, fal y gwelltyn hefyd, yr hwn
a fedir i lawr, ac yn brysur a ddiflanna.
Felly, yn yr vn mod', ni ddichon
trwblaethae, nac adfydau eraill,
wneuthur niwed i 'rr rhai ffyddlon,
[td. 55] 'rhain a wreiddiwyd ynghrist Iesu: Hwy a dyfant ac a flagurant yn
iraidd bob amser: ond yr anffyddlonieit, a 'i bradychant i hunain, ac a
ddangosant beth ydynt, cynn gyflymed ac i gwelont wres ne angerdd trwbl, ac erlid yn dyfod.
A 'r vn ffust i curir y cyrs a 'r tywys, ac i dyrnir, yr Yd: yn yr vn
modd, drwy yr vnrhyw drwbleth ac adfyd, i glanheir, y ffyddlonieit, ac irr anogir i weddio duw,
y 'w foli, ac y 'w fawrygu ef: a 'r anffyddlonieit i furmur, ac y 'w felldithio ef, ac felly i profir ac irr adwaenir y ddau.
Pann ddyrnir yr yd, y gronyn
syd' ynghymysc a 'r vs, a gwedi hynny i nailldu-ir hwy a 'r gwagr ne a 'r gwyntell: felly y bobl yn yr
eglwys, yn gyntaf a glywant bregethu gair duw, yr awrhonn rhai a
dramgwyddir, ac a rwystrir o 'i blegyt, ac eraill ni rwystrir, ac etto
[td. 56] hwy a drigant ynghyd, y naill gida
'r llall: ond pan nithir ne pan wyntellir y ddau, a ffann ddechreuo awel o drwbleth, ne erlid chwthu, yno
i byd' hawd' adnabod y naill, rhagor y llall, sef, y ffyddlon rhagor 'r anffyddlon. A wyd ti yd pur? Pam gan
hynny irr ofni y ffust, ne 'r gwynt?
Wrth dy ddyrnu a 'th nithio, i 'th dynnir ac i 'th nailldu-ir, oddiwrth yr
vs, ag i 'th wnair yn burach nac oed'it o 'r blaen: ofned y sawl sy vs, rhain
ni allant oddef y gwynt, rhag i chwthu a 'i taflu ymaith 'n dragowyd'.
Henn duy, serfyll a sai dros
amser, ond cyn gynted ac i del gwynt
a chwthu, e fyd' eglur i bawb, mor
wael oed' i rowndwal a 'i afael, felly, mae cristnogion rai, heb sylfain
a growndwal, rhai tra fyddo pob
peth yn dda ac yn llwyddiannus, ydynt gristnogion da, ond pann ddel
gwythen o flinfyd a chledi, fe ymddengys ei ffuant, ac a dyrr allan yn eglur.
[td. 57] Fal i profir 'r aur yn y ffwrnais,
lle i toddir, felly i praw ac i pura
duw hwy, ac a 'i derbyn fal perffaith
ffrwyth aberth. Yr awrhon os ydwyd
aur, pam mae rhaid i ti ofni 'r tan,
rhwn a wnaiff i ti fwy lles, nac afles
a niwed?
I 'rr perwyl hwn hefyd i perthyn
y ddihareb wir hon: cymdeithion a
adweinir mewn adfyd: siample o hyn.
Yr ollalluog dduw a demptiod' ac a
brofod' Abraham, gan erchi iddaw
ef offrymmu a llad' i vnic genedic
fab: yno irr oed' Abraham mewn cledi, cyfyngdra a thrymder mawr,
gwell oed' gantho golli i hol' dda, a 'i
feddianeu, a chwbl oll a 'r a fedde ef
ar y ddayar, na llad' i anwyl fab: etto er bod hynn yn erbyn natur, ac
yn beth anioddefus, ef a ddyg i fab
allan, ymddaith tridiau y 'w lad' a 'i
law i hun: ef a orchfygod' i gnawd
trwy ffyd', ac a vfuddhaod' dduw:
yna i doedawd' duw wrthaw, yrawron
[td. 58] i gwnn dy fod yn ofni duw,
ac nad arbedaist dy vnic a 'th anwyl
fab er fy mwyn i. Cofia (med' Moeses.) 'r hol' fford', 'n yr hon yr arweiniodd yr Arglwydd dy dduw di y
deugain mlynedd hyn, trwy 'r anialwch er mwyn dy gystuddio di,
gann dy brofi, i wybod yr hyn oedd
yn dy galon, a gedwit ti ei orchymynnion ef, ai nas cedwit.
Gosod Pharao a Dafydd ynghyd, y naill yn erbyn y llall: dau
o frenhinoedd ardderchawc: Pharao yn sefyll, ac yn parhau, yn gildynnus, yn wrthryfelgar, ac yn
wrthnysig, yn ei fwriad anuwiol,
er yr oll ddialeddae, a syrthient ac
a ddescynent arnaw.
Ag yngwrthwyneb i hynn: mor
fuan irr ymrod' Dafydd, gann dorri allan mewn vfudd-dod, a gostwngeiddrwydd, ymynedd, a chydnabod o 'i buteindra, pann ffoawdd ef
rhag Absalon a Shimei ddrygionus
[td. 59] yn i wradwyddo ac yn ddilorni ef, yn gwylyddgar.
Iob a drawyd a llawer o ddialeddae gofidus, fal nad oedd vn fann
iach diddolur arnaw o wadn i droed
hyd yngwastadedd i benn, nid am
iddaw hauddu y cyfryw gosbedigaeth, mwy na gwyr eraill, ond fal
i galle dduw eglurhau i 'rr byd, ei
ymynedd a 'i ffyddlondeb ef, eythr i
wraig ef a ddangosodd y pryd
hynny i gwann ffydd a 'i natur lygredig. Pwy ffyddlonach na brytach
mewn zel na Phetr? Etto ef a wadodd ac a wrthododd Ghrist, i feistr a 'i athro o flaen morwynig ehud.
Pwy gann hynny ni ddyl ofni
am danaw i hun, oddiethr i brofi a 'i
gaffael ef ymlaen llaw yn ffyddlon,
yn ddisigl ac yn safadwy?
Yn yr vn mod' mae arfer beunyd'
i 'n dyscu, i adnabod y ffyddlon, oddiwrth yr anffyddlon, mewn erlid ac
[td. 60] adfyd: rhai a lynant wrth yr Efangyl dros amser, ond pan welant na
allant gael, y peth ir oeddynt yn edrych am dano, yna hwy a 'i gadawant, ac a gwympant oddiwrthi
drachefn: ie yn amser profedigaeth
hwy a gablant y sancteiddlan Efangyl: ond y rhai duwiol, rhai a 'i
plannasont hi yn ei calonnau, a safant yn ddiyscog trwy dduw mewn
bowyd ag angeu.
Pen. 8.
Gorthrymder ac adfyd, a 'n helpiant, ac
a 'n cynorthwyant, i 'n adnabod
ein hunain, a duw hefyd,
ac yn anwedic a ddyscant ddoethineb. HEb law hynn, mae yn fuddiol
ac 'n ddaionus i wr, i adnabod
i hun yn dda. Llwyddiant a dedwyd'wch a ddallant wr, eythr pan fyddo
ef dan y groes, ef a ddechreu ystyr
[td. 61] gwaeled' ei gorff, ansiccrwydd i
hoedl, gwendid i ddeall, methiantrwyd' a muscrellwch i nerth, a 'i allu
i hunan. Ef a gaiff weled a deuall
pa bellder ir aeth ef, mewn ffordd
rinwed', a ffa fod' i sai pob peth,
rhwng duw, ag ef, a ffwy vn yw ef
ai milwr i dduw ai i ddiawl: cans
dyn yn fynych a 'i tybia i hun 'n gryf,
ac yn gadarn, ond yn amser profedigaeth ef a wel mor hawd' ac mor
ddiboen i chwthir ac ir escydwir
gann bob awel o wynt.
Hefyd trwy orthrymder ac adfyd, y rhyd' duw di, mewn cof, pasawl [~ pa sawl ] mil o beryglon sy yn crogi
vwch dy benn, rhain a ddigwyddent, ac a ddescynent arnat, oni bae
i fod ef 'n dy gadw ac yn dy ymddyffyn oddiwrthynt. A 'r vnrhyw
dduw yma a ddywaid wrthyd fal
hynn: y gelyn anwir a 'th amgylcha
ac a wilia am danat, i 'th orchfygu
ag i 'th lyncku i fynyd' a lliaws, ac a
[td. 62] ffentwr anfeidrol o ddrygau a dialeddau, ond myfi a osodais iddaw ef
i derfynau, dros bwy rai ni ddichon
ef fyned.
Pwy hwyaf i byddych dann y
groes wellwell i dysci oll rinweddae a daioni duw; a 'i iawn farnedigaethau, a 'i wir gyfiawnder ef, drwy
bwy rai i dengys ef i ddicllondeb, a 'i
ddigofaint, yn erbyn yr anwir,
a 'r pechadurus, gann anfon plaee
ofnadwy, a 'r ei gyddfe hwy; a 'r
gwrthryfelgar a 'r anydifeiriol [~ anedifeiriol ], ef
a 'i cyfergolliff 'n dragwyddol.
Hefyd mewn adfyd i dysci ei anfeidrol fawredd ef, drwy bwy vn
y dichon ef dy helpio, a 'th gynorthwyo, yn y trueni a 'r anghenion
mwyaf.
Hefyd mewn adfyd i dysci ei annewidiol wirioned' ef, drwy bwy vn
i cyflawna ef i oll addewidion 'n ffyddlawn, ag i cwpleiff ef i fygythiadae. Hefyd ti a ddysci ei anfeidrol
[td. 63] drigared', a 'i fawr ras ef, drwy bwy
rai i rhagflaena ef bob drwg a ddigwydd tu-ac attom, ac ni odde ef yn
dala, ne 'n gorthrymmu, gan afrifed, ac aflwyd'.
Hefyd ti a ddysci ei ddidranc, a 'i
dragwyddol ragordeiniad ef, drwy
rhwnn megys tad i gofala ef trosom, ac i llywodraetha ef bob peth
yn synhwyrol.
Hefyd i ogoniant, ei fawredd, a 'i
fawl, am y rhagddoededic rinweddau, rhain a lewychant yn ddisclaer, mewn ing ac adfyd: erwyd'
paham S. Bernard a escrifenna
fal hynn: Pa fodd i gwyddom fod
'r hwnn sy 'n preswylio yn y nefoedd yn ein mysc yma ar y ddayar? Yn ddiau wrth hynn, am yn
bod mewn blinder, ac adfyd; can's
heb dduw pwy a alle i goddef a 'i
derbyn.
Mae 'n angenrhaid i wr bob amser wrth ddoethineb, gofal, synwyr
[td. 64] a sobrwyd': ac fal i mae llwyddiant 'n cau, ac 'n dallu golwg gwyr,
felly i mae adfyd a blinder yn i egoryd hwy eilwaith.
Megys, ac i mae 'r eli rhwnn sy
'n iachau 'r llygaid, yn gyntaf yn
merwino, ac yn llosci y golwg, ac
yn peri yddynt ddyfrhau, eythr
gwedy hynny ef a wnaiff y golwg
yn disclairiach, ac yn llonnach nac
ydoed' o 'r blaen, felly blinder ac adfyd a boenant ac a flinant wyr yn
aruthr y tro cyntaf, ond yn y diwed' hwy a gynorthwyant ac a lewychant olwg y meddwl, gann i wneuthur yn rhesymolach, 'n ddoethach,
ac yn fwy gofalus: can's adfyd a
ddwg wybodaeth, a gwybodaeth
ddoethineb.
Gwialen a chosbedigaeth a fagant ddoethineb, ac ar hynny y tyfod' y diharebion hynn gyntaf: pwy
llawna 'r tir gwaetha 'r bobl ac hefyd, adfyd a wnaiff i wyr edrych o 'i
[td. 65] deutuy ymhell ac 'n agos. Hefyd:
nid yw gall ond a gollo. Hefyd: pann fo 'r dwr hyd 'r en,
fe ddyscir nofio. A 'r Proffwyd Dauydd a ddywaid: O Arglwyd' mor ddaionus,
ac mor fuddiol, yw i mi, gaffael fyngheryddu, a 'm darostwng genyt,
fal i gallwn ddyscu dy gyfiawnder
a 'th orchmynion.
Pen. 9.
Gorthrymder ac adfyd, a 'n cynorthwyant, ac a 'n helpiant, i iawn adnabod
ein pechodae, ac i fod' 'n edifeiriawl drostynt. MAe duw yn erfyn ac yn wyllysio, gynyddu a thyfu ynom,
wybodaeth o 'n gwenwynig a 'n llygredic naturiaeth, ac o 'i ddigofaint
ef yn erbyn pechod, fal i gallom alaru ac edifarhau, yn ein caloneu tros
ein pechodae, ac gwellau, beunyd'
[td. 66] yr awrhon gwir yw, fod o naturiaeth 'n aros yn ein caloneu ormod
diofalwch, a difrawch, o herwydd
pwy rai, nid ym yn ystyr nac 'n prisio ond ychydic aflendid ein caloneu oddifewn: yn anwedic, pryd
na wyddom, beth yw adfyd, a chledi, nid ystyriwn faintioli ein dialeddus bechodae, na chyfiawn farnedigaeth duw, a 'i aruthrol ofnadwy geryd' ef, dledus o 'i plegit: Eythr pann fo duw 'n darostwng neu
'n tynny i lawr, ryw rai espysol, ne oll gynylleidfa, yno i cofiwn, faintioli a thrymder ein pechod, ac nad yw digofaint a dicllonder duw 'n rhydrwm, nac
heb yspysawl a chyfraithlawn achosion. Yno i torrwn allan i 'r cyfryw
eirieu a rhain, O Arglwyd' ni a haeddasom y plaee hynn fil o ffyrd',
O ddaionus a chyfiownaf dduw, ti a
obrwyi gamweddau a throseddau
[td. 67] y tadau ar y plant, os hwy a ganlhynant lwybrau i tadau, hyd y
drydedd a 'r bedwaredd genedlaeth.
Mal i mae y copr caled a 'r elydn yn toddi yn y tan, felly mewn
adfyd, ing, a blinder, caloneu
caled, geirwon, afrowiog, a doddant: gann gashau a ffieiddio, ei
pechodae.
Troseddwr y ddeddf, a gydnebyd' i feieu, pann i dyger i 'rr farn y 'w
gosbi, a phann i barner ac i bwrier
yn euog o angeu.
Ac yn gystal cyffredinol ac anghyffredinol blaee a dialeddae, a
ellir i galw, yn rhann o gyfraith
dduw, neu megys pregethae
duw, 'rhain a dystiant ac a fanegant i ni, fod duw 'n ddigofus aruthr, wrth bob bath ar anwired' a ffieidd-dra, a deyrnasant
yn y byd: fal i bydde i bawb i vfuddhau a 'i darostwng i hunain i
[td. 68] dduw, nadu ac vdo am ei pechodae,
a chystuddiedic a gwir edifeiriol galon, gann ddisyf i ras a 'i drigared'
ef.
Ac er ecsampl. Brodur Ioseph
yn gyntaf amser a welsont ei beieu
'rhain a wnaethent 'n erbyn i brawd,
pann i gorthrymwyd gann wir angen a chledi mewn gwlad estron.
Pann anfonodd 'r Arglwyd' i 'r anialwch ymhlith 'r Israelieit, Seirff gwenwynig, y 'w brathu, ac y 'w
gwenwyno, yno i daethant gyntaf
at Foeses, gann ddoedyd, ni a
bechasom am i ni ddoydyd yn erbyn yr Arglwyd' ac 'n d' erbyn ditheu.
Pann ydoed' y nodau 'n difa ac 'n
ysu 'r cwbl, yno i doedod' Dafydd
wrth yr Arglwyd': myfi a bechais
eythr beth a wnaeth y defaid hyn:
Os yw gann hynny yn fuddiol ac
yn angenrheidiol i ni gydnabod ein
pechodae, a 'n anwired' a bod yn
[td. 69] edifeiriol o 'i plegyd, ni allwn ni yn
dda hebcor trwbleth ac adfyd.
Pen. 10.
Trwbleth ac adfyd a 'n helpiant ac a 'n
cynorthwyant i feithrin ac i
chwanegu 'n ffydd. FE ddangoswyd ymlaen, i profid
'n ffyd' ni drwy 'r groes, ac adfyd: yr awrhon fe brofir yn eglur,
mae cyntaf amser i cadarnheir, i
meithrinir, ac i chwanegir 'n ffyd'
ni, pann ddel adfyd i 'n gorthrymu.
Yr iawn a 'r wir ffyd' Gristnogaid'
a sylfaenir yn vnic, ar ras, trigared', gallu, a help dduw trwy Grist,
rhwnn beth ni ellir i ymgyffred
drwy ofer feddylieu, gwag fwriadae, ne vwchelddysc ddynol, eythr
duw a dywallt bentwr o ddialeddae
ar bechadurieit.
Pa beth bynac a fwriadant, a
ymcanant, ne a gymerant mewn
[td. 70] llaw, nid aiff ragddo ganthynt, a 'i
holl fywyd, a wnair 'n chwerwach
yddynt na 'r bustyl, fal na allant
gael dim esmwythdra: a ffa ham? 'n
ddiau er y perwyl hwnn: sef er
yddynt hwy 'n ollawl ddirmygu,
a distyru pob cyngor, cymorth, a
chysur gann ddyn, ac fal i tynnid
hwy oddiwrth bob gobaith, mewn
dichellion, a gallu bydol, ac fal na
obeithient help mewn vn creadur,
yn y byd.
Ac yn lle hynn, er yddynt osod
a roddi i caloneu, 'n vnic ar dduw,
ac fal na byddo dim oll 'n aros ynthynt ond vwchneidieu a dagreu
an-t-raethawl att duw, 'n deilliaw o wir ffyd', ynghymorth pwy
vn 'n vnic mae trigared' 'n sefyll 'n
gwbl.
Testimoniae o hynn allan o 'r
Scrythur lan. Moses a destioleithiff, fod duw 'n goddef, dwyn 'r
Israelieit, i amryw drallodae, ac
[td. 71] i gyfyngderae mawrion, ac etto i
fod ef 'n i gwaredu hwy 'n rhyfeddol, er hynn, sef pann ddelent i dir y
gaddewid na allent ddoedyd, fyngallu i fy hun, a nerth fy nwylaw i
a ddygasont hynn i benn: eythr
meddwl o honynt am yr Arglwyd'
i duw, cans ef a rydd y cyfryw
allu, fal i galler cyflowni a gwneuthur pob peth: ac felly i gwnaeth
duw gwedi hynny a phlant 'r Israel, rhain o 'i dyfais ac o 'i synwyr i
hun, a geisient help a chymorth
gann frenin 'r Assirieid, a brenin
'r Aipht, rhain gwedi hynn, a 'i amgylchynasant hwy, a 'i lladdasont,
ac a 'i caethgludasont ymaith 'n
garcharwyr. Yno i gwelsont ag
i gwybuont hwy, nad oed' vn a alle
i helpu a 'i cynorthwyo, ond yn vnic
'r Arglwyd', i bwy vn irr vfuddhaesont, ac irr ymroesont o 'r diwedd,
gann ddoedyd: nid oeddem 'n edrych am
ddim oll, ond marwolaeth. Eythr
[td. 72] hyn i gyd a wnaethwyd er y perwyl hwnn, sef er i ni na obeithom
ynom ein hun, eythr ynnuw, 'r
hwnn a gyfyd i fyny y meirw eilwaith. Hefyd beth bynac a gynhyrfiff ac
a faethdriniff ein ffyd' ni, ni ddylem
ni ofni, eythr 'n hytrach gorfoleddu
yn hwnnw. Tra fyddom yn byw
mewn seguryd, ymhob trachwant
a ffleser, mae diawl yn cael gwall
arnom, ac yn dallu ein gwendid, fal y tybiwn nad yw duw yn
prisio ynom, a bod holl bethau y byd
yn digwyddo heb i ordeiniad, a 'i
ragwelediad ef, ond ymhob rhyw
gledi yn gystal anghyffredinol, a
chyffredinol, mae i ni fwy a dwysach achosion i faethdrino, ac i arferu ein ffyd'.
Duw sy 'n goddef i ti gwympo
mewn tlodi, ne i angeu ddwyn oddiarnat dy anwyl gymdeithion, ne i
ryw aflonyddwch arall ddamwain
[td. 73] iti, a 'r pryd hynny hefyd, mae i ti
achos mawr i feithrin ac i arferu
dy ffydd. Ac 'n gyntaf i gofio gaddewidion duw, a ysbyswyd yn i
air ef, ac yno i alw arnaw am i
ras a 'i help, ac felly gwrthnebu a
sefyll 'n erbyn pob rhyw angrediniaeth ac anobaith, 'rhwn sy o naturiaeth yn y cnawd, er maint fyddo dy angen, ac er pelled i tybia
pob dyn droi o dduw i wyneb oddiwrthyt, ac na chynorthwya ef
ddim o honot. Yn 'r vn mod', mewn
oll angenion cyffredinol, hynn yw
'r iawn arfer o ffyd', a sancteiddiaf wasnaethu duw, sef, bod i ni 'n
gyntaf feddwl ac ystyriaw yn ddilys, oll beryglon a gorthrymderae a ddigwyddant i 'r eglwys,
neu i 'r wlad: gwedi hynny gweddio ar dduw a ffyd' fywiol, ddiyscog, ar iddaw ef waredu, a chadw, 'r eglwys oddiwrth gauddysceidiaeth, gwag argoelion a ffuant:
[td. 74] Ac, ar iddaw ef i rhwoli a 'i llywodraethu, yn rasusol. Ac hefyd
ar iddaw ef gadw 'r wlad mewn
rhwol dda, ac mewn heddwch
gann roddi wybren iachus, towyd'
rhesymol, a hefyd dofi a rhwystro,
anystywalld ac anosparthus amcanion a bwriadau y gwerin bobl:
gann ganiadhau [~ caniatau ] hefyd, mantimio, a chadw, crefyd' Cristnogaid',
iawn ymwreddiad, a gonestrwyd',
fal i mawryger, ac i molianner,
i dduwiol a sanctawl enw ef, ac i
chwaneger, i'r helaether ac i siccraer i deyrnas ef: ac fal i diwraiddier
ac i gwradwydder teyrnas y cythraul.
A chofia hynn hefyd: pa bryd bynac i'r ystyri dy adfyd, na Anghofiach erfyn gann dduw obaith, o 'i ddiddanwch, help, a chymorth: gann
ymlad' ac ymdrech 'n nerthoc ac
'n wrawl, yn erbyn pob angrediniaeth: a dod ymaith hefyd, bob anobaith,
[td. 75] er maint y chwanega dy adfyd a 'th gledi ac fal hynn i'r iawn
arferi ac i maethdrini dy ffyd': Er
ecsampl.
Oddi ar y Sainctaid' wr Iob,
y dygwyd cwbl oll a alle ddiddanu,
a chonfforddio gwr: gwraig, plant,
da, cyfeillion, ac vn trwbl, tristwch,
a drwg newyd' a ddoe ar vwchaf
y llall: ac nid ydoed' defnyn o waed
o fewn i gorff ef heb sychu a darfod: ac ef a eistedde yngolwg 'r oll
fyd, ac ef oed' 'n wattorgerd' [~ watwargerdd ] yddynt, ac felly i'r arfereu [~ arferai ] ef i ffydd,
gann ymroi i hun 'n vnic, ac 'n gwbl
i dduw.
I Abraham i gaddawyd had,
mewn rhif megys tywod y mor, a
megys ser y nefoed', ac etto i wraig
ef ydoed' amhlantadwy ac anffrwythlawn, ac ynteu hefyd, oed'
hen ac mewn oedran, fal wrth reswm naturiol, nad oed' bossibl gyflawni a dwyn 'r addewid hynny i
[td. 76] benn, a 'i wirhau ynthaw ef: etto Abraham drwy hynn a faethdrinod'
a arferod' ac a brofod' i ffyd'.
Ac fal hynn i bu Ioseph, Davyd'
Daniel yr holl Batriachiaid, Proffwydi ac Apostolion, yn gystal
mewn cyffredinol adfyd 'r eglwys,
ac yn i blinderoed' i hunain, yn arferu, ac yn meithrin i ffyd'.
A hynn ydoedd i gwasanaeth
mwyaf tu-ac at dduw, drwy bwy
vn ir anrhydeddent, ac i gwasnaethent ef: Erwyd' paham, yn ein
amser ninneu, mae duw 'n rhoddi i
ni achosion mawrion, rhyfeddol,
drwy drwbl ac adfyd, i ddeffroi, i
gynhyrfu, ag i arfer ein ffyd': A
thrwy y cyfryw arfer, i chwanegir
ac i cadarnheir y ffyd', ie, ac i tewyniff [~ tywynniff ] yn ddisclairiach, ac i gwnair 'n brydferthach ac 'n fwy gogoneddus canys pa beth bynag a
brofod' ac a dreiod' gwr i hun ymlaen llaw, hynny a grediff ef yn ddiamau:
[td. 77] yr awrhon y neb syd' Gristion yn fab, ne 'n ferch, a braw, ac a
wybyd' yn ddiau, i rhwolir, ir ymddeffynnir, i cysurir ac i cedwir
ef gann duw, ynghanol i dristwch
a 'i adfyd: can's gobaith ni chwilwyddia.
Ac am hynny y Christion, a 'r ffyddlon ddyn drwy adfyd a gorthrymder, a wnair 'n hyfach, ac yn fwy hyderus, ac a gred ynthaw i hun fod
duw 'n prisio ac yn gofalu yn enwedic am y sawl syd' mewn adfyd, a
thrueni, ac i cynorthwyiff, ac i gwarediff ef hwy, allan yn rasusol.
Megys ac i mae gwr 'rhwn a fynych hwyliod' ar y mor, ac a siglwyd
gann forgymlad' y tonneu, ac a ddiangod' rhag llawer o demestloed'
rhyferthawc, enbydus, yn fwy Hyderus, ac 'n hyfach eilchwel, i fyned
i 'rr mor, yn gymeint ac iddaw ddiainc vnwaith, a chael rhyde teg
ymlaenllaw; felly, y gwr Cristnogaid',
[td. 78] 'rhwn a fynych flinwyd ac a
siglwyd gann y groes, yn gymeint
ac iddaw gael diddanwch, help, a
chymorth gann dduw bob amser, yn
ol hynny a obeithiff dduw 'n dda,
(ac y 'n wellwell pwy hwyaf i maethdrinir dann y groes) er i 'r cyfryw
adfyd 'rhwnn a fu vnwaith arnaw,
ddyfod drachefn: ac i 'r pwrpas yma gwrando ac ystyr ddau ecsampl
odidawg, arbennig, vn o 'r hen, arall
o 'r testament newyd'.
Pann ydoed' Dafyd' yn i barotoi
i hun i ymlad' 'n erbyn y nerthoc
gawr Goliah ef a ddywod fal hyn: 'r
Arglwyd' 'rhwnn am achubod' i, o
grafanc y llew, ac o balf yr Arth, ef
a 'm hachub i o law y Philistiad hwn.
A thrachefn, Paul a ddywaid: yr
hwn a 'n gwaredod' ni oddiwrth gyfryw ddirfawr angeu, ac sy yn ein
gwaredu; yn 'r hwn yr ydym yn
gobeitho y gwared ef rhag llaw.
Ac i 'r vnrhyw berwyl, i perthyn
[td. 79] hynn hefyd; sef ystyriaw fod y groes
'n sicrhau y sawl a 'i dygant yn 'r Arglwyd', o ras, a ffafr gann dduw
drwy bwy rai i gwyddont 'n ddiameu, i bod o neirif [~ aneirif ] yr etholedigion
ac yn blant i dduw, yn gymeint ac
iddaw ef edrych arnynt yn dadawl,
er i gwellau a 'i ceryddu hwy: can's
fal hynn i scrifennir. Yr oll rai, a
ryngasont fod' i dduw, a brofwyd,
ac a dreiwyd drwy amryw flinderoed', ac a gaed yn safadwy ac yn ddiyscog yn y ffyd': hefyd.
Pawb oll a 'r a chwenychant fyw 'n
dduwiol ynghrist Iesu, sy raid
yddynt oddef erlid lawer ac adfyd.