Adran o’r blaen
Previous section

‘Rhyfeddode'r Ynys’, Peniarth 163 ii (1543), 1-55.

Cynnwys
Contents

Gossodiad yr ynys 1
Ragorav yr ynys 1
Ryfeddode yr ynys 4
Rannav yr ynys 7
o rac ynyssav ystlysawl yr ynys bellach 10
O briffyrdd Brenhinol yr ynys 12
Y prif avonydd penaf 14
O brif ddinessydd yr ynys 15
Gwledydd a Siroedd yr ynys 22
Kyfreithiav yr ynys bellach 23
Or kenedlaeth a wladychassant ynys brydain 25
Or ssaith brenhiniaeth vchod ai tervynav ac oi dechrevad a phar hyd y parhassant 27
Ysteddvae Penaf yr ynys i archesgyb 33
Or kenedlaethav a wladychassant yr ynys honn a phamsser y doethant pob un ir ynys 39
Or Ieithoedd ar kenedlaethav natvriav 43

[Peniarth 168, 1r-2r]



[td. 1r]
Kyntaf henw a vu ar yr ynys honn oedd
Albion sef oedd hynny y wenn ynys achos
y creigiau gwynnion a welid o bell gann
lann y moroedd nev ynteu o henw Albion
verch Danaws val y dywaid Ovydd Canys
dau vrodyr a vuant nid amgen Danaws
ac Egistws. Ac i 'r Danaws hwnnw
i bu ddeg merched a deugein ac i Egistws
i vrawd i bu deg a deugein o veibion. A 'r
Danaws hwnnw drwy dwyll a brad a roes
i verched oll ynn wreikae i 'r meibion hynny
o hynaf i hynaf ac a orchmynnodd
vddunt ladd o bob vn i gwr y nos gyntaf./
Canys ofni ydd oedd i bwrid ef i lawr o 'i
kadernid hwy rhac llaw./ A 'r merched a
gyflawnassant i ewyllys ef oddieithyr
Hippermestra y verch ieuangaf a drugarhaodd
 wrth Leinws i gwr ac a gedwis i
vywyd iddo./ Ac am hynny i daliawdd i thad
hi ac a 'i carcharodd mewn heirn trymion
arnei/ A 'r neb a vynno gwybod i chwynvann
a 'i geiriau hi ynn i charchar edryched
lyfr Epistolarum a wnaeth Ovydd.
Ac wedi diank o Linws ar y modd hwnnw
rhac i ladd ef a ddaliodd y naw merched
a deugein vchod ac a 'i rhoes mewn llong
voel heb hwyl na llywydd arnei ac wedi

[td. 1v]
hir hwylio moroedd onaddunt, hwynt a ddoethant
drwy dynghedvenn i 'r ynys honn. Ac oblegid
bod henw y verch hynaf ynn Albion y
gelwid yr Ynys o 'i henw hi Albion./

Orosiws sydd ynn kytuno ac Ovydd ac yn dywedud
mae brodur oedd Danaws ac Egistus
a lladd o 'r merched i gwyr val i dywetpwyd
vchod./ Ac wedi trigaw o 'r merched
hynn ennyd ynn yr ynys phrwythlawn
honn heb wyr, hwynt a varchogassant pawb
i gilydd/ A phann weles yr ysbrydoedd
a elwid Incubos hynny hwynt a ymrithiassant
ynn rhith dynion ac a gydiassant
ac hwynt./ Ac val hynny y caad
y kowri a 'r gwiddonod mawrion trysglion
kreuliaid a lledynvydion. Yr rhai a gynhaliassant
yr ynys o gylch yr amser y
doeth Plant yr Israel o gaethiwed yr Aipht
hyd pann ddoeth y Brutaniaid y 'w chyvanneddu./


Socrates a ddywaid bod yr ysbrydoedd ynn
trigo rhwng y ddayar a 'r lleuad a chyfran
vddunt o nattur y dynion a chyfrann arall
o natur angylion A 'r rhai hynny a
gynnullant annian dynion a goller A
phann vynnant hwynt a gymerant vddunt

[td. 2r]
gyrph o wybyr wedi i dewychu ac ynn rhith
dynion a gydiant a gwragedd Ac velly y
caad y kowri val i dywetpwyd vchod./

Gwedi hynny y goresgynnodd Brutws yr
ynys ac a beris i galw o 'i henw ef e hun
Brutaen a dileu yr henw a vuassei arni
o 'r blaen. O dechreu byd hyd pann ddoeth i bu
3151. o vlynyddoedd nev val hynn y ddarlleodronn
annysgedic tair mil a chant ac vnarddec
a deugeint. Canys o ddechreu byd hyd
pann gymerth Crist gnawd y bu V,M C.
a lxxxxix o vlynyddoedd./

[Peniarth 163 ii, 1-16, 21-55]



[td. 1]


Gossodiad yr ynys


Gossodiad yr ynys honn ssydd Rwng y gorllewin a 'r
gogledd yn yr eigiawn megis peth a ossodid allan o 'r byd
ac o hyd yn estyn o 'r deav i 'r gogledd ac o 'r tv dwyrain iddi
y mae Ffraink / o 'r tu deav y mae ysbaen / o 'r tu gogledd llychlyn,
ac o tu gorllewin iddi y mae Ywerddon / Ac am vod
I gossodiad hi mor agos att y gogledd, ef a vydd y nos kyn oleved weithie
megis na wyppo dyn: pa un yw ai bod y wawrddydd yn
ymddangos, ai na ddoeth y tywyllwg y nos o gwbl ac o 'r
achos hwnn y bydd hirddydd haf a hirnos y gayaf o
XVIII awr — 
Hwy yw yr ynys hon, noc yw i lled
a meithach yn i ffenau noc yn i chanol / VIII C milldir
yw I hyd pwy bynac a 'i messuro o le a elwir
penwhitster ynghernyw [~ yng Nghernyw ]: hyd ymor [~ ym mor ] kadnes yr hwnn
a elwir werydd yn iaith vryttanec a mwy no dev C
milltir yn i lled nid amgen o / Fynyw hyd Iermowth
yn Northfolk —

Ragorav yr ynys


Ragorol yw yr ynys honn Rac gwledydd eraill kans
hi a all ymwasnevthu ynthi I hun heb gynhorthwy
gwledydd eraill / o aniffygedigaeth ffrwythlonder
o bob peth a 'r a vo Raid,
Ffrwythlawn yw o bob
Rryw anifeiliaid ac adar gwyllt a dof. Meyssydd
llydain ehang [sydd ynddi] a bryniav eglvr gorvchel addas I bob
Rryw ddiwyll / yn y rhai i devant amrafaelion ffrwythav
o ffrwythlonder y dywarchen yn eu amsseroedd /


[td. 2]
Ynddi mae koedydd a fforestydd kyflawn o amrafelion
wistviloedd ac yn eithafoedd y Rrai hyny lleoedd
addas I borveydd aniveiliaid gwyllt a dof A
chyvlawn o amrafaelion vlodevoedd amrywliwiawc
addas I wenwyn gynvllaw I ffrwythau a thann y
mynyddoedd hynny y mae ffynhonnav eglur ac
yn i kylch hwyntav: gweirgloddiav gwastad kyflawn
o flodau drwy yr rrai hynny dwfr o ffynhoniau
yn kerdded yn ffrydiav dann lithraw o araf odwrdd
Gann ddiddanu a orweddai ar i glanau ac ardymherynt
eu kylchyn kyflawn yw hefyd o afonudd a ffysgodlyne
o bob rryw bysgod perthynol i ddwfr kroyw a 'r
mor Sydd yn i chylch o gylch yn yr hwnn y kair pysgod
a elwir Dolffiniaid Moelrroniaid lloe y mor a
ffob rrywigaeth [~ rhywiogaeth ] bysgod a 'r a berthynont i 'r dwfr hallt

Yno y kair hevyd ymrafaelion rywiogaethav ar
greigiav yn yr rrain I kair main perls o bob
lliw hayach kochion a rrvddion ac yn vynychaf
Rrai gwynnion
Mae yno hevyd vath ar gregin
o 'r Rrai y gwnair lliw Sangwyn tekaf o 'r byd
yr hwnn nid ystaenia er gwres havl na gwlybwr
glaw
Mae yno hevyd ffynhonnav hallt
a Rrai gwressawc ac aberoedd twymun yn
Rredec ohonunt yn Enaint i bawb a 'r

[td. 3]
a 'r a 'i dissyvo ac yn gymhessur I bob oedran o ddyfnder mewn
amrafaelion leoedd
Yr ynys honn hevyd Sydd gyflawn o wythi
metteloedd arian / plwm / ysten / pres / a hayarn /
Yno I
kair dann donnav y ddayar Rowiogaeth bridd a elwir marl
a phann vo braster y ddayar wedi 'r [~ ry ] Sychv ac yn myned yn
ddiffrwyth o bwrir y pridd hwnw arnei Ef a 'i gwna yn well
I ardymyr noc i bu o 'r blaen hyd ymhen [~ ym mhen ] y pedair blynedd
ar hugaint
Mae yno Rrywiogaeth arall ar bridd a Elwir marl
Gwynn yr hwnn a rywioka y tir LXXX mlynedd
Yno hevyd y mae
main a Elwir Muchudd ac o govynir am I tegwch: po dduaf
Tekkaf ynt O gofynir am I nattur Y dwr a bair iddaw losgi
ar oel a 'i diffydd / Os I veddiant pann dwymner drwy I hogi
neb I rwbio ar vrethyn: Sugno a wna atto bethav ysgavyn
Os o 'i ddaioni Ef a wna les Rrac bolwstr i 'r neb a 'i harweddo
hefyd I vwc ef pan losger a yrr Seirff ar ffo
Amlder
o ddefaid a hyddod Sydd yn yr ynys honn eb ddim bleiddiau
ac am hynny y gellir gadu yn hyfach y nos yny korddlanau

Yno hevyd y kair main mynor o amrafaelion liwiau a cheric
kalch / a chlai gwynn a choch I wneuthur llestri pridd / a
brik / a theils i doi tai
Gwinwydd hevyd Sydd ynddi mewn
llawer o leoedd yn tyvu val I gellir kael digon o win I
wassneuthu yfferenav [~ offerennau ] trwy gwbl o 'r ynys
Saffrwm ac
amravaelion llyssevoedd garddau eb rif arnunt a ffob
peth a 'r a vo rreidiol a damunedic I vywyd dynion
y Sydd ynthi yn ddigonol eb orvod gwest ar
le arall o 'r byd


[td. 4]


Ryfeddode yr ynys


Llawer o anrryveddode y Sydd yn ynys brydain Eissios
mae pedwar onaddunt yn Rragorawl Rrac eraill
Y
kyntaf yw Twll yn y ddayar lle gelwir y pec a 'r Saesson a 'i
geilw ef tin diawl o 'r pek, ac o hwnw y daw gwynt allan
kyn gadarned ac i chwytte allan gapiav trymion o bwrid
I mewn
Ail yw kor y kowri ar vynydd ambri ger
llaw kaer garadawc yr honn a elwir heddiw Salsbri
yn y lle i kladdwyd twyssogion y bryttaniaid, a laddyssid
drwy dwyll a brad hengest ysgymun twyssoc y Saesson lle
mae anveidrol vain o vaint gwedi 'r [~ ry ] ossod ar lun pyrth
pob un ar ucha I gilydd: ac ni wyr neb yn ysbys
pa vodd I gossoded hwynt yno
Trydydd yw gogof a elwir
sherd hol a gogofav eraill lle 'r aethant ddynion yn vynych
I mewn ac a welsant adeiladav ac avonydd ynthunt
ac Er hyny nid oes neb yn gallv myned y 'w diben hwynt

Pedwerydd yw gweled y glaw yn ymddyrchafel o 'r mynyddoed,
Rryngtho a 'r awyr ac eboludd yn disgyn
ar hyd y meyssydd
Mae hevyd yn y gogledd yn ynys
brydain lle gorvu arthvr ar y ffichdiaid a 'r ysgottiaid
llynn a elwir llynn llymonwy ac yntho yr oedd LX ynys
a thrugain avon o avonydd prydyn yn dyvod i 'r llynn
ac nid oes ond un yn rredec i 'r mor a llefyn yw i henw
ac ymhob ynys onaddunt y mae karec uchel vawr
ac ymhob karec nyth Eryr A phann ddelont hynny
o Eryrod I weiddi i gyd ar ben yr un garec diau
oedd gann wyr y wlad vod gormes yn dyvod am i phenn


[td. 5] Ryveddode yr ynys (cont.)
Mae yno hevyd lynn ac XX troedvedd yn i hyd ar kymaint
yn i led a phump yn i ddyfnder a chevlenydd uchel yn i gylch
a IIII Rryw bysgod Sydd yntho ymhob kongl o 'r llynn y mae un
ac nid ymwasg yr un a 'i gylydd ac ni chae yr un onaddunt
yn Rrann y llall erioed
Mae llynn arall yn ymyl
kymru ar lann Havren a llynn lliwon I gelwir / a phann
lanwo y mor: y llwnk yntau y mor megis mor gerwyn
ac ni chudd y glanau er a el yntho o ddwfr / a ffan dreio
y mor y lleinw yntau / ac I chwydda megis mynydd mawr
dan daflu tonnau a phwy bynac a vai yn Sefyll
ar lann y llynn a 'i wyneb attaw: Ef a Sugnai I mewn
o 'i anvodd ac er nessed i 'r llynn ir ai ddyn / a 'i wyneb
o iwrtho, nid ar gyweddai arno ddim /
Llynn arall Sydd
a mur maen yn i gylch, lle bydd pobl yn ymdrochi yn vynych
a hwynt a geffynt y dwfr yn yr ardymyr I damunynt ai 'n oer ai [yn] dwym[yn]

Mae ynthi hevyd ffynhoniau o ddwfr hallt ymhell o iwrth y mor
 ar dwfr a vydd yn heli drwy yr wythnos, hyd bryd gosber
dduw Sadwrn: ac o hynny hyd gyfryw amser dranoeth
y bydd yn groyw ac o 'r heli hwnw y kair halen gwynn
man. ac Ef a gyrchir ymhell y 'w roi mewn Salterau
ar vyrddav arglwyddi a gwyr o stad
Ac mae hevyd
yn ynys brydain, glawdd yr hwnn y daw gwynt kyn
gadarned val nall neb Sefyll ger bronn y klawdd

Mae hevyd yno lynn a wna prenn yn garec or bydd
yntho vlwyddyn ac am hynny y bydd dynion yn naddu
prenniau, ar lun main hogi ac yn i bwrw I mewn

Gerald a ddowaid bod koed yn ymyl manachloc wynbwrn
ger llaw y badd ac o Syrth kaink yn y dwfr neu yn y
ddayar y Sydd dann y koed: Ef ai yn garec erbynn

[td. 6]
pen y vlwyddyn a 'r un Gerald a ddywaid bod dann gae[r]
lleon, avon yn rredec a Elwir Dyfrdwy yr honn Sydd yn
Tervynu Kymru a lloegr heddiw mewn rryw loeodd ac
arver oedd genthi newidio I chwrs a 'i rrydav bob blwyddyn
ac I ba du bynac ai tu a lloegr ai tu a chymru
y torai ac I pwyssai hi vwyaf: diav oedd gan bawb
o 'r wlad honno, pannyw y tu hwnw a gai y gwaetha[f]
ar llall y gorav y flwyddyn honno A 'r avon honno
Sydd yn dyvod o lynn tegid ac Er bod amlder o
leissiaid yn yr avon ni chad yr un yn y llynn a
hwy a las yn vynych yn y rryd nessaf i 'r llynn ac
Er bod amlder o bysgod yn y llynn a elwir gwniaid
ni chad yr un yn yr avon A phann vo gwynt mawr
ar hyd y llynn a ddywetpwyd uchod: llivo a wna yr
avon, gan ffrydiav a thonnav o 'r llynn megis pe bai
dymestl vawr o law a hi a leinw hyd pann el dros
y doludd a 'r meissydd ac amser kynhayaf hi a wna
ddrwc mawr ar wair ac yd o 'r llynn hyd lle mae hi
yn mynd i 'r mor Er na bo un dafn glaw o 'r wybyr
o bydd y gwynt oddi ar hyd y llynn
Mae bedd ar benn
brynn yn yr ynys honn, yr hwnn Sy gymhessur i bob
dyn a 'r a 'i provo o hyd ac o gostwng dyn blin ar i linie
Ef a vydd diflin yr awr honno mal pe kaffai hir
orffowys


[td. 7]


Rannav yr ynys


Gwedi marw brutus y brenhin kyntaf a oresgynodd yr ynys honn
y Rranwyd yr ynys yn Dair Rrann Rrwng I drimaib nid amgen
lokrenvs, Kamber / ac Albanaktus /
Lokrinus
yr hynaf a gavas yn i rann / O Vor Ffraink o 'r nailldu
/ a havren o 'r tu arall, hyd avon hwmbr ac a 'i
gelwis o 'i henw I hun Loegr / Eissioes mae lloegr
heddyw o hwmbr / hyd avon Duedd /
Albanaktus a
gavas yn i rann yntav: o hwmyr hwnt hyd ymor [~ ym mor ]
llychlyn ac a 'i gelwis o 'i henw I hun yr Albann —

Kamber y trydydd mab a gavas yn i ran yntau o hafren I vynu
ac a 'i gelwis o 'i henw I hun Kymru eissioes mae
hi yn llai no hyny heddiw / kanys y Saesson a oresgynassant
lawer o 'r tir
Ac offa vrenhin mers
a wnaeth klawdd anveidrol I vaint a 'i hyd / yn
dervyn Rwng kymru a lloegr ac a Elwir heddiw
Klawdd Offa a 'r klawdd hwnw Sydd yn estyn
o Emyl brusto hyd lle tery dyfrdwy yn y mor gerllaw
mynachloc ddinas bassing Yn arwydd ar hyny
mae henw Seissnic, ar y trefi is law y klawdd o 'r
penn bwy gilydd iddaw nid amgen Mortun /
Westun / Silattun / ac eraill mwy er yn bod
ni o Eissie gwybod yr iaith yn dywedud tunn
ar y penn ol I henwav y trefi hynn lle dylem
ddywedud town Sef yw hyny tref ac o 'r
tu vchaf i 'r klawdd y mae kristionydd / kyssylle /
hendregeginan / krogen Iddon / krogen wladus y
bydd y Saesson yn i hanod i 'r kymru gan i galw
Walis grogen / a mwy yw 'r anod a 'r kywilydd iddynt
hwy: kans yno y llas llawer onaddunt / ac
I kladdwyd hwynt mewn adwy ar y klawdd offa a
Elwir adwyr beddav/ ymhenn [~ ym mhen ] park kasstell y waun

[td. 8]
Ac or bydd henw kymreic ar dref is law y klawdd ef a vydd
arnei henw Seissnic hevyd / Megis y waun a elwir
Sirk / tref y klawdd ymeilienydd [~ ym Maelienydd ] a elwir Knychton /
llan andras a elwir presten / ac uwchlaw y klawdd
anaml y kair y kyfryw — 
Tir kymry Sydd ffrwythlawn
yn y gwastatir a 'r kymoedd i ddwyn pob rrywiogaeth
yd / ac aml yw koedydd ynthi a ffynhonau oerion
ac afonydd kyflawn o bysgod / Mynyddoedd mawr
Sydd ynthi, kyflawn o borfa I vagu pob rrywigaeth [~ rhywiogaeth ] anifeil
iaid Gwyllt a gwar / ynddi y kair mwyn pob metel / a
morlo / a main nadd / a main llifo / a main melinau
a gair yn aml o leoedd / Hevyd kic a ffysgod mor
a dwfr kroyw / a gwin / a meddyglyn / a chwrw / a ffob
peth a 'r a vai reidiol i vywyd tynion [~ dynion ] ac anifeiliaid
mae 'r ddayaren yn i rroi vddynt drwy radau dvw
mor gyflawn / ac i ddywedvd ar eiriau byrion ddaioni
a Rragorau yr ynys honn Mae hi gwedi gossod ynghanol
[~ yng nghanol ] y mor val pe bai dduw gwedi ordeinio yno gell a
bwtri i 'r holl ddayar
Tair llys frenhinawl oedd ynthi
gynt nid amgen un yn aberffro ymon [~ ym Môn ] / arall
Ynghaer vyrddin / a 'r drydedd ymhowys [~ ym Mhowys ] lle gelwir
dinas Pengwern / yr honn a Elwir heddiw Ymwythic
a honno a smudwyd [~ symudwyd ] i Vathrafal ynghaer Einion ar
honn o gaer vyrddin a smvdwyd [~ symudwyd ] I ddinevwr

Llawer o ryveddodau Sydd yn y wlad honn / y mae
ynys ymorganwc [~ ym Morgannwg ] yn ymyl mor hafren ac
ynthi dwll bychan yn y ddayar ac o rrydd dyn i glvst
wrth y twll hwnw Ef a glyw sain rryvedd yntho / weithie
megis gwynt mawr mewn koed / weithiiau

[td. 9]
Eraill meigis llivo arvau neu hogi / gweithiau eraill val
trwst tan mawr mewn ffwrnais
Hefyd mae gwlad yn
Swydd benfro y bydd ysbrydoedd yn vynych yn blino
y bobl ac yn I kuro a thom ac a thywairch dann
ymsserthu a hwynt / a phann welwynt hyny hysbys
yw gann wyr y tir vod blinder mawr yn dyvod
uddynt / ac ni Ellir gyru yr ysbrydoedd hyny ymaith
drwy na chrefft na gweddiau
Hevyd yn y deau lle gelwir
y kruc mawr y mae bedd kymhessur o hyd a lled
I bawb / ac o gedy dyn yno I arvau kyfan dros nos ef
a 'i kaiff hwynt yn ddryllie dranoeth
Hevyd yngwynedd [~ yng Ngwynedd ]
y mae ynys vechan a elwir Enlli / a chynhonwyr [~ chanonwyr ] krefyddol oedd
yn i chyvanheddv a 'r hynaf onaddunt a vyddai varw yn
gynta ac velly o hynaf i hynaf / ac yn yr ynys honn
I kladdwyd Merddin vab morfrynn herwydd a ddywedir

Gerllaw Rrvddlan y mae ffynon vechan a Rrvw amser yn y
dydd y bydd digon o ddwfr ynthi / a rruw amser arall ni bydd un
dafn
Hevyd yn ynys von y mae kareg gymaint a
morddwyd gwr ac Er pelled y dyker hi o 'i lle hi a vydd
erbyn tranoeth yn yr un mann ac i dyked ohonaw

Hvw iarll ymwythic yn amser hari y kyntaf frenhin a beris rrwymo
y garec honn a chadwyn hayarn wrth garec arall
a 'i bwrw yn y mor ac erbyn tranoeth yr oedd hi yn i lle
I hun / Gwr o 'r wlad hono a rwymodd y garec wrth i esgair
a heb ohir ef a ddrewodd y goes wrth y korff a 'r garec aeth
i 'w lle / o gwnair pechod godineb yn agos att y gareg honn
hi a chwssa [~ chwyssa ] ac ni chair ytifedd [~ etifedd ] o 'r weithred hono

Hevyd mae yno garec lle gelwir y brynn byddar am ymyl bod ychen er maint vai drwst a wnelid a chyrn nev
a genevav o 'r naill dv iddi ni chlywid tim [~ dim ] yn y tu arall —


[td. 10]
Ac i mae ynys ynys y llygod ar gyfair llan elien yn gyvagos att hynny lle 'dd [~ ydd ] oedd vevdwyaid
gynt ac o Syrthie ymrysson neu gynddrygedd Rrwng neb
onaddunt a 'i gilydd, ef a ddoe aneirif o lygod i ddiffrwytho
I lluniaeth: ac ni ffeidynt mewn modd o 'r byd hyd pann
vai gymod a chytundec [~ chytundeb ] rryngthunt
Pobl y wlad honno
y Sydd anioddefys a dryganianys a hawdd ganthunt wnevthvr
dialedd am a wneler yn i herbyn / kanys nattur y malankolia
Sydd yn meistroli ynthynt Ac ar yr un modd
y mae Saint o 'r genedlaeth honn, haws ganthun wnevthyr
dialedd no Saint Eraill — 
Gerllaw manachloc ddinas
bassing y mae ffynon wenfrewy: a 'i dwfr kyn ffested yn berwi
o 'r ddayar a chyn gadarned ac y teifl allan bethau
trymion / a 'i ffrwd y Sydd gymaint val I gwssnaethai holl gym[ru]
pettynt yn agos atti / a gwyrthvawr yw rrac llawer o
glefydeu / ac ynthi y kair keric a mannau kochion val gwaed
I arwyddokav y gwaed a golles gwenfrewy Santes pann
dored i ffen / ac yn ddialedd ar y gwr a dores i ffen / Ef
a vydd plant o 'i lin Ef yn kyvarch val kwn hyd pann
ddelwynt yno i offrwn neu i mwythic lle mae I hesgyrn
hi yn gorffowys — 
Klych a baglau Sydd gymaint I
hanrrydedd yn y wlad hon ymysc yr ysgolheigion a llygion
val i Mae haws ganthvnt dyngu anvdon i bedwar llyfr yfengil,
noc ar un o 'r rrai hynn — 
Ac ymrecheinioc [~ ym Mrycheiniog ] y mae
pysgodlyn kyflawn o amrafaelion Rywigaethau [~ rhywiogaethau ] pysgod
ag amravel liw arnaddunt ac ar y dwfr weithiau
a phan vo oer yr hin Ef a glywir Seiniau rryvedd dann y llynn
ac o daw twysoc i 'r tir yno ac erchi i adar ganu hwyn[t]
a ganant yn ddiohir ac nid yngenant er arch dyn arall —


o rac ynyssav ystlysawl yr ynys bellach


Tair rrac ynys ystlysawl y sydd i 'r ynys honn y rrain Sydd
yn perthynu i 'r tair rrann a ddywetbwyd vchod nid amgen
o 'r tu deav i loegr y mae ynys wicht O 'r tu gogledd i gymru mae

[td. 11]
Ynys von Ac o 'r tu gorllewin i 'r alban y mae manaw / ar
tair ynys hynn y sydd un vaint haiachen / Deng milltir ar hugain
yw hyd ynys wicht o 'r gorllewin i 'r dwyrain a devddec yw i lled / chwe
milltir ysydd rryngthi a 'r tir yn y penn tu a 'r dwyrain / a thair yn y
penn tva 'r gorllewin / Braich byrr o 'r mor ssydd yn tervynu rrwng
Kymry a mon a Elwir menai / ac yno y mae mor gerwyn a lwnk
ac a Svgyn longau atti megis CARYLDIS A SYLlA Sevyll a wna llongau
oni hwylir ffordd yno ar lanw XXX milltir o vessvr
y sydd o hyd yn yr ynys honno a XII o led / Manaw ssydd yn Sevyll
yn y mor Rrwng prydyn ac y werddon megis hanner y ffordd
Rryngthvnt / ac yn ddwyran y mae val dwy ynys / ar honn
Sydd tu a 'r deau yw 'r vwyaf a 'r ffrwythlownaf / am yr
ynys honn I bu gynt ymrysson i ba un y gweddai iddi berthynv
ai i ynys brydain yntav i ywerthon [~ Iwerddon ] / ac am oddef o honi
ynthi bryfed gwenwynic y rhai a ddukbwyd yno yn brofedigaeth
arni: I barnwyd hi yn byrthynas [~ berthynas ] i ynys brydain —

Mawr oedd arfer o Swynion a chyvareddion gynt yn yr ynys
honn / kanys gwragedd a vyddynt yno yn gwnevthur
gwynt i longwyr gwedir gav mewn tri chwlm [~ chwlwm ] o edav
A phan vai eissie gwynt arnynt dattod kwlm o 'r edav a naynt [~ wneynt ]
Yn yr ynys honn y kair gweled lliw dydd bobyl a vuessynt
veirw / Rrai gwedi tori pennav / eraill gwedi torri i haelode /
Ac os dieithred a ddissyfynt i gweled hwynt, Sengi
ar draed gwyr o 'r tir ac velly hwynt a gaent weled
yr hyn a welssynt hwyntau / Ysgottiaid gyntaf a wladychassant
yr ynys honno — 
Mae ynys vechan gerllaw
Kent a elwir tanet a ffrwythlawn yw a rrinweddol

[td. 12]
y ddayaren honno yn gymaint ac na bydd byw pryf gwenwynic
ynthi / ac os pridd oddyno a ddygir i le arall Ef a ladd pob
pryf gwenwynic yno / ac yddys yn kredv i bot hi yn
ffrwythlonach ac yn vwy i rrinwedd oblegid beindith awsti[n]
Sant / kanys yno y tiriodd ef gyntaf pann ddoeth i droi
y Saesson i 'r ffydd y rrai oeddynt yr amser hwnw byganiaid
[~ baganiaid ] ysgymvnedic anffyddlonion heb gredv i dduw —

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section