Adran o’r blaen
Previous section



[td. 39]


O 'r kenedlaethav a wladychassant yr ynys
honn a ph' [~ pha ] amsser y doethant pob un i 'r ynys


Brytaniaid gyntaf ar ol y kewri a wladychassant
yr ynys honn yn y drydedd oes o 'r byd XVIII
mlynedd gwedi dechrav o heli Effeiriad a browdwr
plant yr yssyrael: dyrnassv / ac yn amser Siluius
postvmus brenhin yr Eidal Tair blynedd a ddevgaint
wedi distrywedigaeth kaer droya vawr / kynn adeilad
rrvfain /432/ o flynyddoedd A chynn dyvod krist ynghnawd
[~ yng nghnawd ] /2051/ nev val hynn dwyvil ac un ar ddec
a devgaint o flynyddoedd
Gwedi hyny y damweiniodd
yn amsser Vasbassian twyssoc rrvfain: i 'r ffichtiaid
o Seithia ddyvod ar hyd y mor, a thrwy ev kymell
o wynt hwynt a diriassant yn y werddonn
lle yr oedd y gwyddeliaid yn trigo ac a ddamunassant,
gael lle I bresswylio gida hwynt:/ a 'i nackav
a wnaethbwyd / herwydd na allai y tir dderbyn
na fforthi y ddwy genedl / a 'i kyvarwyddo
a wnaethant I ogledd ynys brydain ac addo
I kynhyrthwyo yn Erbyn y brytaniaid o cheissynt
i gwrthladd o 'r tir ac velly y doethant i 'r alban a rrodric ev twyssoc o 'r blaen
ac a wnaethant ryvel mawr drwy dan a hayarn
ar y bryttaniaid A phann glybv mevric
brenhin y brytaniaid hyny: Ef a ddoeth a llv
mawr gantho ac a 'mladdodd [~ ymladdodd ] a hwynt lle gelwir
westmerlond

[td. 40]
ac yn y vrwydr honno y llas rrodric tywyssoc y ffichtiaid
a rrann vwyaf o 'i lu / a rrann arall a ymroddassant
yn gaethion i 'r brenhin ) ac yntev a roddes
uddvnt le yn yr alban I drigo a Elwir Gattnes
a phan nackawyd hwynt o gael merched y brytaniaid
yn wreikae uddunt: hwynt a gymerssant verched y
gwyddyl, dann amod o Syrthiai ymrysson am frenhiniaeth:
ddewis onaddunt I brenhin neu i twysoc
o vamwys yn gynt, noc o dadwys / ac am hynny
y gelwir hwynt gwyddyl ffichtiaid ac yn hir o amsser
wedi hynny y doeth Rrenda Twyssoc yr ysgotiaid
i 'r albann a llawer kanto [~ ganddo ] o 'i gwlad y werddon I ysgotlond a Rrwng bodd ac anvodd Ef a vynodd le i drigo
yn ymyl y phichtiaid / honno oedd y drydedd genedl
a wladychassant ynys brydain
A phann oedd
oed krist /449/ neu val hynn CCCC XLIX o flynyddoedd
/ yr ail vlwyddyn o frenhinaeth gwrthefyrn gwrthenav
/ y doeth hors a henssiest tywyssogion y Saesson
i 'r tir drwy i gwahodd o 'r brenhin hwynt y gynhorthwy
iddo yn Erbyn y ffichtiaid a 'r ysgottiaid
herwydd a ddywaid ystoria y Saesson / a thrwy
nerth a 'i kynhorthwy hwynt: y kavas y brenhin
y vuddygolaeth arnunt mewn llawer o gyfrangav
a brwydrav kaled / kanys tywyssogion y

[td. 41]
y brytaniaid a oeddynt Soredic wrth y brenhin achos
lladdedigaeth konstans vab kystenin
Gwedi hynny
hwynt a wnaethant heddwch a chytvndeb yn gyfrinachol
 Rryngthvnt a 'r ffichtiaid ac a 'r ysgottiaid
Ac yn ddiSyvyd o undeb hwynt a ryfelassant ar
y brytaniaid hyd pann Enillassant bob ychydic holl
dir lloegr ac a wnaethant y bedwaredd genedl yn
yr ynys — 
Gwyr denmark a vuant agos i ddev kant
mlynedd nid amgen o amsser Egbert frenhin hyd
yn amser Saint Edwart konffessor yn rryvelv
ac yn gwladychv y deyrnas a hwyntav fu 'r bvmed
genedlaeth a wladychassant ynys brydain —

Ac wedi hynny pann oedd oed krist /1066/ o flynyddoedd
y goresgynodd wiliam bastart dvc normandi
holl loegr ac a wnaeth y chweched genedlaeth ynthi

Ac yn amser hari gyntaf vab william bastart
y doeth Rrivedi mawr o fflemissiaid i 'r tir achos goresgyn
o 'r mor lawer o dir Fflandrys ac a gawssant
le i drigo dros yr amsser yn wyrain yr ynys ger llaw
mail rros ac a wnaethant y Seithved genedlaeth
yn yr ynys / Eithr drwy orchymun yr un brenin
hwynt a ssmudwyd [~ symudwyd ] hyd yn Rros a ffenfro oddyno
yn y lle y maent Etto yn trigo Er hynny
o amsser


[td. 42]
Ac velly pump kenedlaeth y ssydd yn gwladychv
heddyw / gwedi diffygio llin y ffichtiaid / a gwyr
denmark / nid amgen Ysgottiaid yn yr albann Bryttaniaid
 ynghymry [~ yng Nghymru ] a chernyw Fflemissiaid yn Rros
a phenfro Normaniaid a Saeson wedi 'r [~ ry ] gymysgv
yn holl loegr — 
Hysbys yw ymysc ystoriawyr y
modd y diffygiodd meddiant gwyr denmark yn yr ynys
val nad rraid I ysgrivenv yma Namyn
y modd y dyffygioedd llin y ffichtiaid nid amgen
pann oedd y Saesson yn meddianu lloegr i gyd a heddwch
gwastad wedi 'r [~ ry ] gadarnhav rryngthunt a 'r yscottiaid
a oeddynt yn trigo yn un wlad / a hwynt a ymarverassant
o 'i hen vrad a 'i twyll yr hynn nid oedd afryw
uddunt / ac a arwyliassant wledd vawr / ac a wahoddassant
holl arglwyddi a boneddigion y ffichtiaid
A hwynt a ossodoed i Eiste ar veinkiav kevon o
vewn y byrddav wedi 'r [~ ry ] wnevthur o ystyllod ar vodd
koffrav a 'r ysgottiaid a Eisteddassant o 'r tv allan
i 'r byrddav a phann oeddynt lawenaf wedi kyfeddach
yn dda a dechrav brwysgo: y Tynwyd yr hoelion
a roessid i ddal yr ystyllod uwchaf o 'r meinkiav / ac
I gollyngwyd y ffichtiaid hyd ynghamedd [~ yng nghamedd ] i garav
ynghevedd [~ yng ngheuedd ] y meinkiav / ac yno y llas hwynt oll


[td. 43]
A 'r dryll arall o 'r genedlaeth honn a yrwyd o 'r tir allan
ac a gymhellwyd drwy yr ynys yn alltvdion ac yn gaethion
I arglwyddi a boneddigion / ac velly y genedlaeth
ddewraf a gwrolaf o 'r ddwy hynn a ddilewyd yn gwbwl
val nad oes un byw onaddunt yn yr ynys
honn na dyn a vedro gair o 'r iaith / ar honn oedd
wanaf a lleiaf, a gavas lles a buddygoliaeth drwy
I twyll a 'i brad / ac oresgynassant y tir i gyd
ac a 'i galwassant ysgottlond ar ol henw y genedyl


O 'r Ieithoedd a 'r kenedlaethav natvriav


Pob kenedlaeth o 'r Rrai a vuant yn gwladychv
yr ynys honn, gynt yr oedd iaith neilltvol
I bob un Y kymrv a 'r ysgotiaid y Sydd yn kynal
hayachen I ieithiav hen / y normaniaid a 'r fflemissiaid
a gollassant i hieithiav e hunain / ac
y Sydd yn dywedvd Saessnec a chymraec
Y Saesson a gollassant yr hen iaith / achos ev
kymysgv yn gyntaf a gwyr denmark / a gwedi
hyny a normaniaid / ac yn gwest a 'r Ffrangec
ac ieithiav Eraill / mewn llawer o Eiriav
ac yn anwedic mewn trwssiad / a dodrefn tai /
megis / kwfrlid / blanked / kyfrssi / Ewer / Siawmler /
ac Eraill mwy / a 'r llygriad hyn ar yr iaith a
ddamweiniodd vwyaf mewn dav vodd / kanys

[td. 44]
pan ddoeth Wiliam bastart gyntaf i 'r tir y kymhellwyd
meibion bychain yn ysgolheigion I ado Ieithiav i mamav
ac i gonstrawenv yn ffrangec / A hevyd meibion
boneddigion a ddysgid yn i hyvienktid i ddywedvd ffrangec
A 'r bobl gyffredin a geissiassant dybygu
uddunt hwyntav Val y byddynt mwy kymeradwy
a ddyssgassant yr un iaith kanys bryd a bwriad yr
un Wiliam, oedd ddwyn ffrangec i 'r tir a dileu
a diffodi y Saessnec o gwbwl / ac velly ni thrigodd
yr hen iaith namyn mewn ychydic o leoedd ymysc y bobl
gyffredin Ac y mae kymaint o amrafael heddiw
yn y Saessnec: val y mae anodd I wyr y deav
a 'r gogledd, ddeall I gilydd Eissioes gwyr mers
o ganol lloegr megis peth kanolic a vai
yn kyfrannv o nattvriaethav, yr Eithafoedd a
ddehallant yn well Ieithiav y deav a 'r gogledd
noc y deall y naill onaddvnt hwy y llall —

Amrafaelion arverav a natvriaethau oedd
i bob un onaddunt nid amgen no 'r kenedlaeth
a ddywetpwyd uchod
yr ysgotiaid yssydd bobl
anghywir twyllodrvs a ffob un onaddvnt a fradycha
I gilydd korff a da wrth nattvr Pobl ywerddon

[td. 45]
y wlad y doethant o honni — 
Fflemissiaid rros a ffenfro
y Sydd bobl chwanoc I wnevthur merssiandi a bargenie
ac I antvrio hwynt I hunain mewn perigl mor a
thir Er kael Elw ac ynill / ac yn tynnv heddiw mewn
popeth yn ol arfer Seissnic — 
Brytaniaid a oedd ddewrion
a chryfion a chedyrn / A thra vu unoliaeth a chyttundeb
Ryngthunt, ni bu hawdd gan un Estron genedl
wrthwynebu uddynt / namyn i bod hwynt yn vynych
yn goresgyn ac yn kymell Eraill i dalv tyhyrnged [~ teyrnged ]
uddunt val y kair yn ysgrivenedic yn ev ystoria /

Gwedi hynny y kodes kymaint o ryfic a balchder
ynthunt val na vyne neb o 'r gwaed brenhinol
ufuddhav i 'w gilydd na darostwng namyn pawb
a chwenychai y bendefigaeth / Ac o 'r achos hwnn
y kyvodes kiwdowdawl dervysc yn ev plith hyd pann
wanhawyd yr ynys yn vawr wrth Eiriau yr /
yvengil [~ efengyl ] 
Pob tyrnas wahanedic ynthi ehun a ddiffeithir
/ a phan weles duw na ffeidynt a 'r pechod hwnn,
ac a 'r pechodau Eraill y rrai val i dywaid eu
hystoria a beris uddunt golli eu tir nid amgen
Ysgeuluster y preladiaid / trais a gorddwy y kedyrn /
chwant browdwyr / llae anudon / gormodd amrafaelionn


[td. 46]
ar ddillad / a godineb y kyffredin / ac yn anwedic gwyr yr
Eglwys Ef a ddanvones newyn girad yn ddialaeth
arnun yr hwnn a barhaodd XI o flynyddoedd, val nad oedd
ddim yn porthi y bobl I gynal i bwyd ond a geffynt o gic
hely mewn diffaith goedydd a fforestav / a chida hynny
kymaint oedd y varvolaeth, val nallai y rrai byw
gladdv y rrai meirw A Gweddill y genedlaeth drvan
honn: a hwyliassant dros y moroedd I amrafaelion
wledydd, dann udaw ac wylofain / a dywedud wrth
dduw val hynn
Ti a 'n rroist ni yma val defaid
ymysc bleiddiav / ac a 'n gwasgeraist ymhlith estronion
genedlaethav / — 
Ac yntav gydwaladr brenhin
y bryttnaid a hwyliodd dros y mor i lydaw dann
chwanegu y kwynvan uchod val hynn Gwae ni
bechaduriaid Rac amled yn pechodav y rrai y koddassam
ni ddvw onaddunt: tra ytoeddymi yn kael ysbaid
y 'w penydiaw ac I ymwneuthur a duw amdanaddunt
/ ac am hyny y mae dvw i 'n deol ni, o 'n ganedic
le a 'nn gwir ddled, yr hynn ni allassant Rrufeinwyr
na ffichtiaid nac ysgottiaid na 'r twyllwyr y
Saesson I wneuthur Namyn goresgyn ohonam
yn ofer arnunt yn tir Gann nad oedd Ewyllys

[td. 47]
duw dernassu ohonam yntho yn dragywydd / A 'r goruwchaf
frowdwr kyfion pann welas ni heb vynnu ymado
a 'n henwiredd / ac na allai neb ddeol yn kenedlaeth
ni drwy gydernyd [~ gadernid ] o 'r ynys allan: Ef a vynodd yn kosbi
A Rroi arnom ddialedd / drwy 'r honn y gorvu yn ado
yn gwlad yn wac / Am hyny ymchwelwch ffichtiaid /
ac ysgottiaid / a 'r bradwyr Saesson / I ynys brydain kannys
diffaith a gwac yw o 'i ffobl ddyledoc / yr honn ni
allassoch chwi I diffeithio Nid ych kydernid [~ cadernid ] chwi a 'n deholes
ni / namyn gallu a chydernyd [~ chadernid ] yr holl gyvoethoc ddvw
yr hwnn ni ffeidiassam a 'i ddigio mewn llawer
o voddav Ac velly y Gwagkawyd [~ gwacawyd ] ynys brydain
o 'i holl ddeledogion [~ ddyledogion ] oddieithr ychydic o weddillion y
genedlaeth yr Rrai a ddianghessynt Rrac y vall a 'r
newyn girad a ddywetpwyd vchod ac ffoessynt I
goedydd a chreigiav kymry — 
Ac o 'r amsser hwnnw
y diffygiodd meddiant a gallu y brytaniaid
yn yr ynys / ac I gwladychodd y Saesson holl loegr
o 'r mor pwy gilydd / ac a ddechrevassant attgyweiriaw
y temlav a 'r dinessydd / ac adeilad Eraill
o newydd a chynal heddwch a thangnefedd
Rryngthunt yn hir o amsser, drwy eu doethineb
a 'i kydernyd [~ cadernid ] val yr oedd I nattur yn i roi uddunt
Eissioes o 'i hanwastadrwydd e hunain a thrwy Eiriol
Eraill

[td. 48]
hawdd yw I troi yn erbyn I hamkanion / anioddefus ganthunt
Seguryd ac Essmwythdra kanys pann orfyddynt
ar Estronion a ffeidio a Rryvelv, hwynt a mryssonynt
[~ ymrysonynt ] ynthunt I hunain ac a ymgnoant val
kyllae gweigion Gwylltach ac anwastattach yw
gwyr y gogledd no gwyr y deav Trevlgar a glythion
yw y Saesson ar ddillad a bwydav da / a 'r beiau
hynn a haerwyd arnynt
I kael yn amsser brenhin o ddenmark a vu yn
tyrnassu arnynt a Elwid Hartknott yr hwnn a
vynai ossod byrddav bedeirgwaith yn y dydd / ac
amylder o vwydav da arnunt a hynn a wnai Ef
I geissio bodd ac Ewyllys y Saesson ag Ef a wyddiad
panyw glythion oeddynt / gwell oedd ganto
weddillo o 'i wahoddwr Seigiav no gorvod arnyn[t]
I gofyn Eilwaith kywraint a dichellgar a chwanoc
yw 'r genedlaeth honn / a phen anerfid [~ phen yn erfid ]
kynn dechrav gwaith / a gwedi hynny kallach
yw / a gado yr hynn a ddechrevo yn hawdd a
wna / Mewn llyfr a Elwir policraticon y
kair yn ysgrifenedic ddywedud o Eugenius
o rvfain vod y Saesson yn abyl i wnevthur pob
peth yn rragorol rrac Eraill onis llesteiriai
 

[td. 49]
anwadalwch eu kalonnav uddunt / ac velly dwyaid
Hanibal vrenhin kartrago: na Ellid gorvod ar
wyr Rruvain ond yn I gwlad eu hun: Velly y Saesson
pann vont yn rryvelv mewn gwledydd Eraill
anawdd yw i gorvod / ac yn I gwlad e hunain haws
yw / a hyny oblegid I hanwadalwch a 'i brad a 'i twyll
kynhenid, yr hwnn yddys yn i anod uddunt mewn
llawer o lyfrav ystoriawyr / ac am hynny y kowssant
yn vynych y gwaethaf / Gan vryttaniaid / normaniaid
/ ysgottiaid / a gwyr denmark — 
O 'r genedlaeth
honn y proffwydodd ankyr Santaidd gynt
yn amser Egelred frenhin lloegr val hynn / achos
bod tai dduw wedi ymroddi I dwyll a medddod
ac ysgevlvstra y distrywir y Saesson / yn
gyntaf drwy wyr denmark / yr ail drwy normaniaid /
a 'r trydydd drwy ysgottiaid / y bobl Esgevlvssaf
a diystyraf ganthvnt / ac yna y bydd y byd mor amrafaelvs:
val ydd adweinir anwadalwch y kalonnav
wrth amrafael lun a lliw ar drwssiadau

Arnulphus yn y llyvyr kyntaf o 'r policronica
a ddywaid am y ssaesson val hynn / y genedlaeth honn a ffieiddia
ac a ogana yr Eiddo ehun / Ac a genmyl yr
eiddi

[td. 50]
arall / braidd y bydd bodlawn i 'w gradd e hun /
kanys yr hynn a berthyno i arall a ddamuna ac
a drefna iddo ehun / Megis gwreang yn keissio
yr hynn a weddai i ysgwier / ac ysgwier yr hynn
a weddai i varchoc neu I Iarll / ac Iarll yr hynn
a berthynai I dduck / a duck yr hynn a berthyn[ai]
I vrenhin
Ac wrth hynny y kair yn ysgrifenedic
a amgylchyno pob kenedlaeth, nid yw o un
genedlaeth o 'r byd / ac a gymero pob krefydd
nid yw mewn un krefydd Ac velly y Saesson
kanys mewn ymddygiad klerwyr y maent /
mewn ymborth glythion ynt / i geissio mantais tafarnwyr ynt yn eu trwssiad
marchogion ynt / ymhob ynill val argws / mew[n]
llafur val tantalvs o gowreindeb val dedalüs / mewn gwelae val Sardanapalws
/ mewn temlau val delwav / Ac mewn
llyssoedd val taranav / A chyda hynny y kodes
kymaint o amrafaelion luniav a lliwiav ar
ddillad / val nad ydweinid [~ adweinid ] neb rrac i gilydd

Ac am y beiav hynn ac Eraill a ddywetpwy[d]
uchod y Sores duw wrthynt mal y ssorassa[i]

[td. 51]
gynt wrth y brytaniaid / ac I goddefodd i 'r normaniaid
gael gorvchafiaeth arnynt a 'i kymell i ddarostwng
uddunt hyd heddiw / A 'r genedlaeth honn oedd dewr
a gwrol a mawr eu bwriad a 'i hystryw ymhob peth /
ac yn anwedic i geissio da / Ac ar ddyvodiad y normaniaid
i 'r tir hwynt a wnaethant gyfreithiau
drwy y dyrnas ac a 'i kynaliassant yn heddychol
dangnefeddus yn hir / val na bu vawr dervysc
Rryngthynt hyd pann godes Rryvel a chynddrygedd
Rrwng yr ail Hari vab yr ymerodres a 'i
veibion / ac o 'r amsser hwnw allan / mynych y
bu Rryvel a thervysc ymhlith y genedl nessaf o 'r
Gwaed brenhinol / Ac nid mawr rryveddod hynny
herwydd y kair yn llyfrav ac ystoriaeu /
Kanys
Iarll oedd gynt yn angiw, a hwnw a gymerth
wraic Ievank I blanta ohoni oblegid i ffryd
a 'i gosgedd ac anvynych y deuai hi i 'r eglwys /
A phan ddelai ni thrigai hi yno hwy noc ymronn
aberthu ac wedi i bod hi yn hir o amsser yn y
modd hwnn / hi a gyhuddwyd wrth yr Iarll am hynny
/ ac yntav a beris I bedwar marchoc I dal hi yn
yr Eglwys a phedwar o 'i phlant gyda hi / A phann

[td. 52]
Gyvodes yr aberth hi aeth drwy y ffenestr allan
a dau o 'i fflant yr Rai oeddynt dann yr ael assw
i 'w mantell gida hi ac ni weled hi na hwyntav
byth mwy / a 'r ddav Eraill a dewis hi yno / ac un
onaddunt oedd hynaif Geffrey plant aginet
Tad yr hari a ddywetpwyd uchod — 
A Richiart
vrenhin vab yr hari uchod a ddatkanai yn
vynych y chwedl hwnn / ac a ddywedai nad
oedd ryvedd bod pawb o 'r genedlaeth hon yn llad[d]
i gilydd, val pethav a ddelynt i wrth ddiawl
ac a Elynt att ddiawl
Sieffre I vrawd yntau
yn dyst ar yr un chwedyl: a ddyvod wrth
ysgolhaic a ddoethoedd I loegr o fryttaen lle
'dd [~ ydd ] oedd vo yn dduc I geissio trettio a heddychu
Rryngtho a hari i dad val hynn paham i doethost
di yma I geissio vy nietiveddio I o 'm Rrywiogaeth
Oni wyddyd ti nad oedd ryw i neb
ohonam ni garu I gilydd / ac am hynny
na lavuria yn ofer I geissio yn dinaturio
ni — 
Hevyd Saint bernet a broffwydodd o 'r hari

[td. 53]
hwnn pann I gwelas yn vab Ievank atgas yn llys
brenhin ffraink val hynn o ddiawl i doeth ac
I ddiawl yr a — 
Pann ddoeth Heraklius padriarch
kaer Selem I geissio nerth gann
yr hari hwn yn Erbyn y Sarssiniaid I ymddiffin
y dinas ar tir a gyssegrodd yn arglwydd
ni Iessu grist a 'i briod waed / ac i gynic ygoriadav [~ agoriadau ]
y dinas a bedd krist iddo / Ef a ymEsgussodes
ac a ddywad na allai vyned Rac kyvodi o 'i
veibion yn i absen a 'i yrru allan o 'r frenhinieth
A 'r padriarch a ddywad nad rryvedd bod yn
ddrwc rryngthunt / kanys Eb Ef o ddiawl I
doethoch ac i ddiawl i ddewch — 
Mam yr
hari uchod oedd vahallt verch hari gyntaf
ap wiliam bastart / a hi a briodes yn gyntaf
Hari bedwerydd ymerodr yr almaen yr hwnn a gymerth
 ydifeirwch [~ edifeirwch ] mawr am y kreulonder a wnaethoedd
yn Erbyn I vab a 'i dad ysbrydol / a 'i
dad knowdol hevyd / ac a ymadewis a 'i merodraeth
[~ ymerodraeth ] a 'i wlad / ac a ddoeth mewn abid meudwy I

[td. 54]
Gaer lleon / ac yno y trigodd yn penydio i gorff drwy
grefydd ac Edifeirwch mawr heb I adnabod o neb hyd
I ddiwedd gyffes / ac o vewn hynn o amsser y doeth yr ymerodres
att i thad I normandi / ac a 'i gwr kyntaf yn
vyw, hi a briodes Sieffre plantagined Tad yr hari vchod /
A 'r un hari a briodes Elenor verch Iarll pictayn
yr honn a vuassai o 'r blaen wraic I lewys brenhin
ffraink / yn Erbyn Ewyllys a gorchymun / Sieffrey I
dad / kanys pann vuassai ef yn ystiwart i 'r brenhin
I buassai iddo achos knowdol a hi
Tad yr Elinor
honn a dduc gwraic I Siryf ehun I drais / ac a 'i priodes
hi a 'i gwr yn vyw / a hono oedd vam Elinor / a 'r
anheilyngdod hynn herwydd tyb llawer o ddarlleodron
ac ystoriawyr: a beris Rryvel yn vynych a thervysc
mawr yn lloegr rrwng y bobl o 'r llin amherffaith
honn / O amsser yr ail Hari a ddywetpwyd
uchod: hyd att Hari Seithved yr hwnn oedd gymro
o dad i dad / Ac yn berigyl ganthunt Rac na bai Ewyllys
dvw hir dyrnassu no neb o 'r llin aneddvol
honn namyn gorvod uddunt ddarostwng a gwasnaethu
rryw genedlaeth arall, val i gorfu gyn[t]
I 'r bryttaniaid ar Saesson oblegid i henwiredd


[td. 55]
Oni bydd kanhiadu o dduw i 'r pedwerydd Edwart
vrenhin lloegr dyrnassu drwy I glaim a 'i gyfiownder i 'r
goron o du y bryttaniaid herwydd i vod Ef yn wir
Ettivedd I lywelyn ap Iorwerth drwyndwnn twyssoc gwynedd
ar un llywelyn yn Ettivedd nessaf i gadwaladr vendigaid
/ y brenhin diwaethaf o 'r bryttaniaid a veddianodd
koron ynys brydain, kynn i myned ymeddiant
[~ ym meddiant ] y Saesson val y kair yn Eglur mewn llyfrau
o 'r hen achau: Neu yntau I dduw vynnu i un o
lin hari Seithved deyrnassu yr hwnn oedd wir
Etivedd i 'r un llywelyn ap Jorwerth / val y kowssom I ddiolch
I dduw ar hari wythved I vab yr Iessu a gato i ras

A hevyd gobeithio vod y goruchaf dduw yn troi
y tu issaf i 'r Rrod yn uchaf / kanys duw a
ostyngodd y bryttaniaid am i pechodau a 'i henwiredd,
A duw a ddichin i drychaf hwynt darchefn
Megis I dywad yr angel wrth gadwaladr
vendigaid brenhin y bryttaniaid
Ac velly y terfyna
y pymthec kabidwl a ddoded yn y llyvyr bach hwnn
wedi troi o 'r llaidin ynghymraec [~ yng Nghymraeg ] Er diddanwch
ac ysbysrwydd i genedl y brytaniaid —

Myvi a 'm llaw vy hunan gruffyd hiraethoc
a ysgrivenais hwnn pann oedd oed krist 1543
o koronedigaeth hari wythved XXIIII yr 20ved dydd
o vis gorffena gogoniant i 'r tad a 'r mab a 'r
ysbryd glan

[Peniarth 163 ii, 17-20]



[td. 17]
Evroc kadarn hevyd a wnaeth dwy
ddinas eraill nid amgen un yn
yr alban neu brydyn yr honn a
elwid gynt kastell mynydd agnet
a gwedi hynny kastell y morynion
ac a elwir heddiw ednbrwch ar ol
henw Edan vrenhin y ffichtiaid yr hwnn a vu
yn i gwladychv a 'r llall a elwid alclud ac a oedd
gynt yn amser y brytaniaid a 'r
ffichtiaid a 'r Saesson urddassol ac
enwoc, a heddiw nid ysbys gan
neb pa le i bu kans pan oedd
wyr denmark yn rryvelv ar loegr
y diffeithiwyd hi a llawer o ddinessydd a
threfi eraill A pha le yngogledd [~ yng ngogledd ] ynys
brydain y bu y dinas honn mae
ymravael mawr ymhlith ystoriawyr


[td. 18]
Beda a ddywad i bod hi yn y gilvach
orllewinawl i 'r braich o 'r mor yr hwnn
oedd gynt yn tervynnv Rwng y brytaniaid
a 'r phichdiaid yn y penn tu a 'r
gorllewin i 'r mur a wnaeth Severüs
ruveinwr yr hwnn a elwir gwawl
yn Iaith vrytanec ac sydd ohyd yn
estyn o 'r mor dwyreiniol hyd ymor [~ ym mor ]
gorllewinol dwyvil a chweugeinmil o
o game Sef yw hyny CXXII o villtyr
oedd messvr a 'r dref honn a elwir
Kaer leil heddiw kans hono Sydd
yn y penn eithaf i 'r mur a ddywetbwyd
vchod Eraill a dywedant panyw
alclut a elwir heddiw aldbwrch Sef
yw hyny yr hen dref yr honn sydd
ar avon Ows gerllaw bwrch brids
XV milltir o Iork a 'i gwarant yw


[td. 19]
Gruff. mynwy yn Ystoria brenhinedd
y brytaniaid lle mae yn dywedud pann
aeth Elidir war brenin y brytaniaid I
hely I lwyn caladr gael o hono arthal
I vrawd yr hwnn a vuassai vrenhin
o 'r blaen ac a dynessid o 'i vrenhiniaeth
achos I anllywodraeth, yn
krwydraw yn y koed a 'i ddwyn o hono
gid ac ef I ddinas a oed gerllaw
hynny a elwid alclut ac ysbys
yw bod yllwyn kaladr yr hwnn a
Elwir yn Saesnec Salbris
yn estyn o ymyl iork heb law aldbwrch
XX milltir eithr bod llawer o
hono heddiw wedi ddiosg yn llavurdir
/ Eraill a ddywedant mae alclut
yw 'r dref a elwir heddiw bham yn
eithafoedd gogledd westmyrlont gerllaw
Kwmbyrlont ar avon eden


[td. 20]
ymrafel rrwng llyfr lewis ap Ed. a hwnn
Rrydychen. Kaer vymbyr. Kaer vosso
Kaer efroc ar lan afon dvedd yn y gogled
Kaer lil. Kastell y morynion
Exedr. Kaer vynydd

Fferyllt oedd benaf a 'r a fv erioed ar
gelvyddyd astronime
akal / llyfr lewys

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section