Adran o’r blaen
Previous section

[Pandar]
Y molianys Dduwie mewn uchelder llawenychwch
yr anrhydeddys bobloedd ar y ddaiar gwnewch ddivyrrwch
tidi [~ tydi]  [Fenws] a 'th unmab diedliw
gwnewch i 'n mysc ddydd gwyl o 'r dydd heddiw
Pes gwnem i a ddylem
yr holl glyche a genem
am hynn o ryfeddod
a ddigwyddodd yn barod

[td. 97]
Vy nygosa [~ negosaf] arglwydd a 'm anwyl vrawd kyfion
vo wyr duw a chwithe vaint a ddygym o ofalon
pan welais chwchwi yn hir nychu mewn kariad
a thrymder govalon yn chwanegu /n/ wastad
Rhois vy mryd yn gwbwl
ar esmwythau ych meddwl
a throi ych tristwch
i hynn o ddivyrrwch
vy ngwir dduw kyfion yn dyst ir wy yn dy alw
nas gwneuthum i hynn er mwyn chwant ne elw
ond yn unic er esmwythau dy bruddder a 'th gledi
achos yr hwnn bethau bu dy einioes ar golli
Er mwyn Duw yr owran
kadw i henw yn ddiogan
synhwyrol yw dy gymdeithas
a chadw yn lân i hurddas./
Da i gwyddost vod i henw da hi mor barchedic
ymysc y bobl megis morwyn vendigedic

[td. 98]
ni aned un dyn a wyr i hamau
ne wyr ar honn unwaith veiau
Kann och ym a erchais
vy anwyl nith a dwyllais
yr ewyrth y 'w anwylyd
yn gwneuthur twyll a bradfyd
Meddwl [Troelus] pa ddrygau vu ar gerdded
am wneuthur bost o 'r kyffelib weithred
a pha gam ddigwyddiad sydd beunydd yn digwyddo
o ddydd i ddydd am y weithred honno.
Am hynn i doeth yn dduwiol
y ddihareb ddwys synhwyrol
kynta rhinwedd ydiw gwybod
yr ail yw dal y tafod./
O yr tafod rhy vynych yr wyt yn rhy helaeth
pa sawl gwaith i gwnaethost i lawer arglwyddes loywbleth
ddoedyd gwae vyvi o 'r diwrnod trist i 'm ganed
ac i lawer morwyn ddwyn trymder trwch o 'i thynged

[td. 99]
A 'r kwbl yn ddychymic
o waith kalon wenwynic
ni thal bostiwr ddim i garu
ond y doeth a vedyr gelu./
Bellach vy anwyl vrawd ni a syrthiwn i 'r achosion
a chymer y 'th helpy a ddoedais o gynghorion
kadw hynn yn ddirgel bydd lawen dy galon
dros vy holl ddyddiau mi a vydda ytt yn ffyddlon
Gobeithia dy yr hynn gore
ar obaith dda mae gwrthie [~ gwyrthiau]
y pethau hynn sydd i ddowad
val i mae dy ddamuniad./
[Troelus]
Myn vy ngwir Dduw kyfion ir wyf i yn tyngu

[td. 100]
hwnn val i mynn yr hollvyd sy /n/ llyfodraethu [~ llywodraethu]
os kelwydd a ddoeda [Achilles] a 'i waiwffon [~ waywffon]
a bod ym vowyd tragwyddol a hyllt vy nghalon
Os byth ir addefa
y dirgel chwedlau yma
i un dyn bydol
er koweth [~ cyfoeth] daiarol./
Kynt i dygwn i vavolaeth [~ farwolaeth] drom boenedic
trwy aros mewn karchar towyll kaeth ffyrnic
mewn bryntni a phryved yn bwytta vy nghalon
ac yn gaeth garcharwr i greulondeb [Agamemnon]
A hynn a dyngaf i
yn yr holl eglwyssi
ar yr allore
i gwbwl o 'r Duwie
Ir wyf yn deisyf arnat o wir wllys vy nghalon
na veddwl vod ynddo vi y vath veddylie gweigion
a thybied vod ynddod lawer o ddiflasrwydd

[td. 101]
am wneuthur rhyngom hynn o gredicrwydd
Nid yw chwaith [Gressyd]
hanner mor ynvyd
ac i meddylie
amgenach na 'r gore./
Y neb a elo i 'r chwant i 'r aur rhuddgoch
i 'r un negessau gelwch hwnn val i mynnoch
y peth a wnaethost mae /n/ tyfu o voneddigeiddrwydd
o drugaredd kymdeithas a chredicrwydd
Vo ddowaid y dysgedic
nid oes koel i bethau tebic
mae llawer mewn naturieth
rhwng pethau tebic o ragorieth./
[CRESSYD]
[td. 102]
O dduw pa beth yw /r/ glendid bydol
hwnn mae dysc ar gam yn i alw yn beth dedwddol [~ dedwyddol]
kymysc yw a llawer o chwerwder beunydd
yn llawn ofer anwadalaidd lywenydd./
Od oes lawenydd
pwy heddiw a wyr i ddeunydd
oes a wyr yn wastadol
oddi wrth lawenydd bydol
O yr vrau olwyn i lawenychu dyn yn anwadal
i bara ddyn bynnac i bych di yn arddal
naill ai vo a wyr oddi wrth dy lawenydd darfodedic
ai nis gwyr ddim oddi wrth dy gylennic [~ galennig]
Os gwyr i mae yn gelwydd

[td. 103]
mor anwadal yw /r/ llawenydd
sydd yn tyfu o 'i ystyriaeth
o dywyllwc anwybodaeth./
O gwyddys vod llawenydd a thramgwyddiad diffygiol
y modd y mae yr holl bethau daiarol
am bob gwaith i bo yn ofnus yn i veddwl i golli
dros hynny o amser i bydd sikir o 'i veddiannu
Nis gall un dyn wneuthur deunydd
ar dwyllodrus lawenydd
wrth i gadw mae /n/ ovalys
wrth i golli mae /n/ beryglys./
Beth a all yr Hedydd truan i wneuthur
pan vo yngrhafank y gwalchaidd eryr
beth all morwyn wann ond ochain
pan vo kryfdwr mawr y 'w harwain
Kynn sikred ac y 'm ganed
mae /n/ rhaid ymroi i dynged

[td. 104]
a 'th dynged titheu [Cressyd]
ydiw dwyn y govalvyd./
[Cressyd neu Pandar] ar hyn yn myned ymaith:,
a [Throelus] yn dyfod i mewn wrtho ei
hvnan./
[Troelus]
O digwyddodd ar vy ngenedigaeth y vwynaidd [Fenus]
drwc edrychiad o [Fars] neu o [Satwrnus]
ne nad oeddyt ti yn yr amser hwnn yn rheoli
ar dy dad damuna droi heibio vy nrigioni [~ nrygioni].
O [Fenws] vwythys

[td. 105]
bydd i mi yn gysyrys
er y kariad ffyddlon
a ddygaist i [Adon]
O [Iou] er mwyn y kariad i [Europa] a ddygaist
er mwyn honn yn rhith tarw di a 'mrithiaist [~ ymrithiaist]
tithau [Mars] helpia o nerth dy arfau gwaedlyd
er mwyn kariad [Cipria] honn vy ytt anwylyd
O [Phebus] er mwyn [Daphne]
bydd ddaionus i minne
honn yn wir a ofnodd
a rhwng y rhisgl a 'r prenn a 'mguddiodd [~ ymguddiodd]
O [Mercuri] er mwyn kariad ar ddyn dirion
achos honn bu [Pallas] wrth [Aglauros] yn ddigllon
moes ym help [Diane] arnat /r/wy /n/ damuno
n' ad i hynn o siwrne yn over vyned heibio
Chwithe y tair chwioredd hevyd
sydd yn tynnu ede /r/ bowyd
moeswch ym ych help yn amser
n' edwch hynn o siwrnai yn ofer

[td. 106] [Pandar]
Kyffelib ir melys yr owran yn velysach ddywad
o herwydd hir chwerwder a byrhadd [~ barhaodd] yn wastad
o bruddder i lawenydd mawr a syrthiodd
ir pan i aned y vath lywenydd nis digwyddodd
Er Duw ir wyf yn damuno
ar bob morwyn lan vy ngwrando
ac n' adawed yn ymddifad
i ddyn truan varw o 'i chariad./

[td. 107]
Gwelais ar ol boregwaith pruddaidd niwloc
yn kalyn byrnhawngwaith [~ brynhawngwaith] eglur gwressoc
ac ar ol byrddydd Gaiaf blin glybyroc [~ gwlybyrog]
yn dyvod hirddydd glanmai [~ Galanmai] yn dessoc
Ar ol pruddder a thristwch
i daw yr holl ddivyrwch
ac ar ol kavodau [~ cawodau] heleth
yn siwr i daw gorchafieth
Amhosibl y 'm tafod ally yn iawn dreuthu
y divyrrwch a 'r llawenydd y sydd o bob ty
siarad ir wy ar vy amkan chwedlau diniwed
y neb a vu yn y vath wledd ohoni barned
Ir wyf yn ervyn ac yn erchi
ar gael o rai rann o 'm gweddi
na chyvervydd neb a garo
a bargen byth waeth no honno./
O noswaith ddivyrr hir i bued i 'th ymovyn
llwyr y dygaist ddivyrrwch mawr i 'th galyn

[td. 108]
llawer gwas glan a roe i hoedl mewn tristwch
er kael dwy awr o 'r vath ddivyrrwch
Os mawr y byd a 'i gwmpas
dau kimin yw dy urddas
os mawr iawn yw /r/ mynydd
dau kimin yw /r/ llywenydd
O v' arglwydd allei ddrewiant chwanoc kenvigennys
a vai /n/ goganu kariad ac o gariad yn ddibrys
gael noswaith ddigwyddiad o lywenydd perffaith hyvryd
val yr owran i digwyddodd i [Droelus] a [Chressyd]
Yn wir yr wyf vi yn kredy
a 'm kredinieth i sydd velly
y vath ddigwyddiad arwydd
i vydredd nis gall ddigwydd
Duw a drefno i bob budredd siaradys anynad
a vo /n/ greulon yn dirmygu ufydd wasaneth kariad
klystiau hirion [Midas] anferth didlws
ac anavys ddychwant y brenin [Crassws]

[td. 109]
I ddyscu uddyn gydnabod
mae ynhwy i hunain sydd mewn pechod
a bod y kariad ddynion
a 'i buchedd yn dda ddigon
Chwi a glowsoch o 'r noswaith ddifyrr ddigwyddiad
rhaid ywch glowed peth o 'r trwm ymadawiad
medd doeth ni all yr un peth barhau /n/ wastad
pob peth sydd a dechre rhaid iddo gael diweddiad
Y noswaith a blygeiniodd
a 'r plygain yn ddydd a 'mrithiodd [~ ymrithiodd]
a 'r pethau yn hynn a ddigwyddodd
dallted y sawl a garodd.
Pan ddoeth y kelioc [~ ceiliog] astrologer y kyffredyn
dan guro y esgyll a rhybydd vod y nos ar dervyn
a 'r seren Luwsiferr kennad y gloywddydd yn kody
yn y deau, a 'i phelydr dros yr hollvyd yn llywyrchy [~ llewyrchu]
Honn i 'r neb adweynir
ffortuwna maior i gelwir

[td. 110]
yno i doede [Cressyd]
wrth [Droelus] i anwylyd
[Cressyd]
O v' enaid yn vy nghalonn vy nghoel a 'm holl divyrrwch
och y 'r amser y 'm ganed i ddigwyddo ym y vath dristwch
pan allo un boregwaith yn dosparthu ni oddyma
bellach rhaid yw 'madel [~ ymadael] ne vo ddarfu amdana
O noswaith pan nas byddi
yn gyd [~ gyhyd] heb ddarfod i mi
ac i buost i [Almena] vwythys
pan oedd [Iau] gan i ystlys
O towyllnos vo 'th wnaed yn hud dros loywddydd perffaith
ar amserau a 'th hagr alarwisc ddiffaith
a thros dy amser mae pob peth y 'w esmwythdra mewn bwriad
dynion ac aniveiliaid yn hawdd all achwyn arnad
Y dydd yn rhoi travel yma
tithe 'r nos yn rhoddi esmwythdra
tydi yr owran o lawer
a ffoist yn gynt na 'th amser

[td. 111]
[Troelus] tostur eirie [Cressyd] pan glowodd
heilltion ddagre ar hyd i ruddie a ollyngodd
megis yn rhyveddu o 'r vath lywenydd a difyrrwch
mor ddisymwth yn dowad y kyfriw drymder a thristwch
Ychenaid [~ ochenaid] trwm a rodde
a 'r geiriau hynn a ddoede
ow [Cressyd] vy anwylddyn
aeth y byd i gyd yn v' erbyn
O kreulon ddiwrnod melltigedic i lywenydd hyfryd
lleidr y nos a lleidr kariad wyd hevyd
o kenvigennus ddiwrnod melltigedic ddyfodiad
o vewn kaerev [Troea] heb unwaith yrru am danad
Pa achos ir wyt yn ysbienna
a gollaist ddim ffordd yma
Duw a wnel i ti golli
dy lewyrch a 'th oleuni
Och beth a wnaeth kariad ddynion yn dy erbyn
pan wyt bob amser mor genfigennus uddyn./

[td. 112]
rhwystraist lawer glanddyn trwy dy waith yn ysbienna
ni chan aros mewn un lle poene uffern a 'th ddivetha
Pa achos ir wyt yn kynnic
dy lewyrch i ni i venthic
gwerth i 'r rhai ni 'th amau
sydd yn kerfio y man bethau./
O [Teitan] goganus i bob glanddyn dy weled
pan ollyngyd oddi wrth dy ystlys [Aurora] kyn gynted
i darddu ymaith y kredigol ddynion
ac i vod ar wasgar yn dwyn hiraeth kalonn
Am dy brysyrdeb yn kodi
dydd drwc digwyddodd i ni
yn lle dydd da a mowredd
dydd drwc vo i chwi ych deuwedd
[Troelus]
[td. 113]
O Kressyd beth bellach a wnaf gan hiraethus gariad
yr owran mae /r/ amser o 'r trwm ymadawiad
hir vyw nis gallaf yn y vath drymder
oes byth ym obaith ond arwain pryddder
Nid oes vodd nas daw hiraeth
arna vi yn ddigon helaeth
pen wy yr owran yn ymwrando
a hiraeth kynn ymado
Yn wir v' arglwyddes loyw eurbleth
hynn pes gwyddwn yn ddiweinieth
vod ych uvudd was a 'ch marchoc kowir
wedi i ossod yn ych meddwl mor sikir
Ac ydd ych chwi v' arglwyddes

[td. 114]
yn vy meddwl i a 'm mynwes
digwyn yw genny ymarfer
a hiraeth trwm a phryddder
Kressyda./
O kowir galonn a chwbwl o 'm ymddiried
mae /r/ chware hwn kynn belled wedi myned
val i kaiff yn gynta yr Haul syrthio i lawr o 'r wybren
a 'r gwalchaidd eryr ymgymharu a 'r glomen [~ golomen]
a phob kraic ysmudo [~ symudo]
o 'r tir a 'r vann i bytho
kynn darffo i Droelus symyd
o gowir kalonn Cressyd

[td. 115] Kressyd yn ymadel a Pandar a
Pandar yn dyfod at Troelus
Troelus  a Pandar./
O kydymaith o 'r kymdeithion y gore i drugaredd
a vu ermoed ac a vydd byth mewn gwirionedd
vy meddwl i a ddygaist i esmwythtra nevol
o Fflegeton y tanllyd afon uffernol
Pes gallwn i roddy
vy einioes i 'th wasneuthy
ni vydde hynn y 'w wneuthyd
ddim wrth a ryglyddyd./

[td. 116] Pandar./
vy ngwir gedymaith [~ gydymaith] erddot ti ddim pes gwnaethwn
vo wyr Duw mae velly y mynnwn
o 'r geiriau a ddoetwy na chymer ddic na chystydd
gochel i gyd hynn sydd o aflywenydd [~ aflawenydd]
Yr owran mae dy dyedd
at lywenydd a mowredd
na bych dy hunan itti
yn achos o ddrygioni
Gwaethaf yw hynn o holl anffortun a drigioni [~ drygioni]
bod unwaith yn oludoc a syrthio mewn tylodi
mae hwn yn synhwyrol a gatwo i elw
mawrhad yw kael twrnda mwy mawrhad i gadw

[td. 117]
Yn rhy ddiofal na vyddwch
er bod yr hin mewn tawelwch
rheittia yw kymryd ordor
pan vo yr yd yn ysgubor
Od wyd yn esmwyth dal dy hun o gaethiwed
kynn sikred a bod pob tan yn goch i ' w weled
mae mwy dichell i gadw peth na 'i ynnyll [~ ennill]
llawenydd bydol sy ynglyn ar linin kandryll
Mae /n/ ddigon hawdd provi
rhac mynyched i mae /n/ torri
rhac torri hwnn mewn adwyth
rhaid y 'w gymryd yn esmwyth./
[Troelus]
Kariad mae ytt ar dir a mor reoly
kariad mae ytt orchymyn y nevoedd obry
kariad mae ytt rydid [~ ryddid] mawr a gollyngdod
ow kariad i ti mae /r/ holl uvudddod
Dydi kariad sy /n/ klymu
pob kyfraith a chwmpeiny

[td. 118]
kwlwm hynn o gytundeb
rhac dyvod byth orthwyneb [~ wrthwyneb]
Kariad i 'r byd mae /n/ dwyn karedicrwydd
i bob peth yn i ryfogaeth [~ rywiogaeth] i mae /n/ digwydd
mae hwnn yn naturiol i 'r pedwar deunydd
y rhain sy wrthnebys bob un y 'w gilydd
Y lleuad sydd dros noswaith
yr Haul dros loywddydd perffaith
pob un a 'i dyfodiad
o achos rhinwedd kariad
Hwnn i 'r mor er maint yw trwst i donne
sy /n/ gwneuthur iddo gydnabod a 'i derfyne
hwnn sy /n/ dwyn avonydd a phrydiau digwyddiad
i ffrwythau tiroedd a meilliondir gwastad
howsa peth i hepkor
bob amser ydiw kyngor
anhowsa peth yn wastad
y 'w hepkor ydiw kariad./

[td. 119]
Ervyn yt arglwydd o 'th drugaredd yn enwedic
roddi rhwym ar gariad a chwlwm karedic
a phlanny yn i kalonnau hir kytundeb
lle bo unwaith gariad na bo byth anghowirdeb
A thyfu o gariad ffyddlon
a 'i gwreiddin yn y galon
na bo achos uddyn dybied
byth o anghyredic [~ angharedig] weithred./
Ac fal hynn y terfyna y rann
yma o 'r llyfr hwnn die merchur
y /14:/ dydd o fis Chwefror yn
y vlwyddyn o oedran Krist /1613/

[td. 120]


Yn yr
amser yma
y digwyddodd
i Groegwyr
wrth fod yn
wastadol
yn ymladd
tann wallie Troea ddala Antenor
un o arglwyddi Troea yn garcharwr:
yn hynn fo godes hiraeth
mawr ar Galkas am ei ferch
Kressyd ac ofn rhac dywod tramgwydd
i 'r dref Troya mewn amser
disymwth ac yn hynn kolli ei ferch
yfo a syrthies ar ei linie gar bronn
Agamemnon ac eraill o frenhinoedd
[td. 121]
Groec i ddeissyf kael Antenor i 'w
roddi yn gyfnewid am Gressyd
ac a ddangosses yr ewyllys mawr
a dduc tu ac attunt fal y kafodd
ei ddamuniad, ar hynn Diomedes
a yrwyd i Droeaf i
edrych a fydde brenin Priaf
fodlon i 'r gyfnewid yr hwnn
a gytunodd iddi./ Diomedes sydd
yn dwyn Antenor i Droya ac yn
dwyn oddi yno Gressyd: mae
byd mawr yr owran ar Droelus
rhac gorfod ymadel: yn y diwaethaf
fo a syrthiodd ar gytundeb
i Gressyd golli y ddecfed
nos oddi wrth y Groecwyr a
dyfod i Droya./


Ac ar hynn y mae y .4. llyfr
yn kerdded./


[td. 122]


Rhag ymadrodd y pedwerydd llyfyr.

Tydi loywbryd arglwyddes unverch Diane i 'th varned
dy un mab dall ysgelloc [~ asgellog] Syr Kupid gwrandawed
Chwithe chwiorydd naw sy /n/ aros yn Helicon
y mynydd Pernassus klowch chwithe v' achwynion
Vo ddarfu i chwi hyd yma vy nghyvarwyddo kynn belled
onis kyfrwyddwch vi yr owran yn bellach nis medra vyned
I ddangos a ddigwyddodd i Droelus o 'i wasanaeth
sydd bellach o hynn allan yn myned waethwaeth
Diolched i Ffortyn ychydic a barhaodd y llawenydd yna
honn sydd vwy twyllodrys pen dybir i bod gowira

[td. 123]
Ar y naill nis mynn edrych ac i 'r llall hi wnaiff groesso
mae /n/ chwerthin ar Ddiomedes ac ar Droelus yn kuchio
Gwae vi ddyvod arna dreuthu yr owran gorthwyneb [~ gwrthwyneb]
merch mor lan a Chressyd a dangos i hanghowirdeb
Gwell oedd gennyf ddoedyd o ffyddlondeb Alceste
ne o vuchedd teilwng brenhines Penelope
O chwchwi Herines tair merched y towllnos [~ tywyllnos]
sy /n/ achwyn yn dragwyddol ac mewn penyd yn aros
Megera // Alecto a hevyd Tisiffone
hebryngwch tros unawr ych pryddder i minne
Tithe Mars rhyfelwr kreulon a thad Quireinus
moes dy help i orffen o Gressyd a Throelus./

[td. 124] Kalkas  wrth y Groegwyr/
Gwybyddwch v' arglwyddi mae Troian yw 'y [~ fy] ngenedigaeth
gwybyddwch mae ymfi [~ myfi] a ddyg i chwi gynta orchafieth
gwybyddwch mae ymvi [~ myfi] yw /r/ arglwydd Calcas
yn ych holl vlinder a wnaeth i chwi urddas
Mi a vum yn proffwydo
bob amser i 'ch kysuro
i dinystrych chwi a rhyfel
tref Droya kynn ymadel

[td. 125]
Doythym vy hun attoch mewn malais
i roddi i chwi vy holl gyngor a 'm dyvais
heb edrych unwaith am ddim ar a wyddoch
ond rhoddi i gyd v' ymddiried ynddoch
Y kwbwl i gyd a gollais
o vewn Troya ar a veddais:
digwyn gennyf trwy veddwl
er ych mwyn chwi golli /r/ kwbwl
Ond unverch honn yn wirion gartref a edewais
(pan gollais i o Droya) yn i gwely yn ddivalais
annaturiol dad a chreulon iddi oeddwn
honn gyda mi yn i hunkrys nas dygasswn
Gan hiraeth a govalon
a hir ddygais i 'm kalonn
nis gallaf vy arglwyddi
yr owran mo 'r byw hebddi./
Pan vum yn aberthu i Apolo ddiwaetha
o 'r rhyfel govynnais a 'i atteb oedd hynn yma

[td. 126]
vod y dialedd yn agos ar ddigwyddo iddi
hynn a wnn hevyd trwy reol Astronomi
I bydd tân a gwreichion
dros Droya yn greulon
a 'r dialedd hynn sydd agos
kynn penn y nawed [~ nawfed] wythnos
Hevyd mae Neptun a Ffebus y duwie
y rhain a wnaeth o bobty Troya y kaere
yn ddigllon iawn wrth genedl Droya
oblegid hynn bydd haws i divetha
O herwydd nas telyn
i rhain y pethe a ddylyn
kaere honn a losgir
a 'i phobl a ddistrowir
Llawer yr owran o garcharwyr a ddalied
o 'r Troians mae /r/ rhain mewn mawr gaethiwed
pes kawn un o 'r rhain yma i gyfnewyd
a brenin Priaf am vy unverch Kressyd.

[td. 127]
Ydolwc i mi gaffael
un o 'r rhain yn vy ngafel
a disyf kael Antenor
hwnn nid hawdd mo 'i hepkor./
Agamemnon  wrth Ddiomedes./
Diomedes i Droe at vrenin Priaf kerddwch;
disyvwch [~ deisyfwch] arno roddi un tair wythnos o heddwch
val i gallwn nine yn karcharwyr gyfnewyd
ni a rown uddyn Antenor er kael Kressyd
Llai o amser nis gwasnaetha
trwm vu /r/ ymladd diwaetha
i venyginiaethu [~ feddyginiaethu] y rhai a vriwyd
ac i gladdu y rhai a laddwyd./

[td. 128] Diomedes  ar hynn yn myned
at y Troiaid ac yn doedyd
fal hynn./
Anrydeddus [~ Anrhydeddus] Priaf mae /n/ dy annerch Agamemnon:
mae /n/ disyf amser i gladdu a meneginiaethu [~ meddyginiaethu] i ddynion
mae hevyd yn vodlon am Antenor i gefnewyd [~ gyfnewid]
am unverch arglwydd Kalcas hon ydiw Kresyd
Os bodlon i 'r heddwch
yr owran i doedwch
ac i 'r gyfnewyd
am Antenor roi Kressyd
Yr owran yr oedd Priaf yn
eiste ar y senedd

[td. 129] Ector./
Diomedes mae /n/ rhyvedd gennyf ych damyniad
am Antenor roi Kressyd yn gyfnewidiad
karcharwr yw Antenor karcharwr a gewch amdano:
rhydd yw Kressyd nid iawn mo 'r gyfnewid honno
Kamgymryd ych kynhaia
nid arfer Groec sydd yma
yn rhef [~ nhref] Droia nis gweled
ermoed werthu merched./
Eneas./
[td. 130]
Peidiwch Hector na sevwch yn hynn yn ddibrys
i wrthod marchoc gwrol kynghorys
yn gyfnewid am wirion vorwyn ddimadverth [~ ddiymadferth]
a ninne ac eisie gwyr arnom yn yn trafferth
Priaf yn brenin reiol
na vyddwch ansynhwyrol
yn meddwl ni a 'n kyngor
i chwi ddewis Antenor
Priaf./
Ni a glowsom Diomedes ddisyviad [~ ddeisyfiad] Agamemnon./

[td. 131]
i gyflowni hynn o 'i wyllys ir ydym yn vodlon
(a thrwy rym y Senedd honn a 'i chyngor)
yn kyfnewidio a chwi Kressyd am Antenor
A phan ddygoch yma
Antenor i Droya./
chwithe gewch Cressyd
hwnn yw yn addewyd
Ir oedd Troelus yn y senedd honn i hvnan a heb lyfasv [~ lafasu] doedyd dim yna y
doede wrtho i hvnan.
Troelus./
O ffortyn anffortunys beth yr owran a 'th gyffrodd
beth a wneuthym yn dy
[td. 132] erbyn nac o 'm bodd nac o 'm anvodd
pa vodd i gellid vy somi rhac pechodrwydd
oes dim trugaredd ynot na gonestrwydd
Os klowi arnat hynn yma
ddwyn Kressyd oddi arna
anrhigaroc a chreulon
ydyw meddwl dy galon./
Oni ddarfu yn dy anrhydeddu hyd yn hynn o 'm bowyd
yn vwy no 'r holl ddywie eraill i gyd
paham ir wyt yn yngholledy o 'm holl ddivyrrwch
O Troelus pa vodd i 'th elwir bellach ond tristwch
Pawb a 'th eilw di yn vydredd
wedi kolli dy anrhydedd
nes kolli ytt dy vowyd
nis kyll trymder trwm am Gressyd
O ffortun od wyt yn dwyn i mi genfigen
o ran vy mod yn dwyn vy myd yn llawen
dwyn einioes y brenin a 'm tad a ellyd

[td. 133]
dwyn enioes [~ einioes]  'y [~ fy] mrodyr a 'm enioes [~ einioes] inne hevyd
Sy /n/ trwblio yr owran
y byd i gyd a 'i gwynvan
am vyrvolaeth [~ farwolaeth] yn nychu
a marw yn iawn heb vedru./
O Kressyd pes biasswn i heb dy weled
ffortyn nis gallase imi mo 'r niwed
trwy /r/ golwc hwnn i kafodd arna vantais
yr owan [~ awron] vy niveddiannu o 'r vwya a gerais
Ai gorchafieth gennyd
nychu gwann am i vowyd
gad i ffordd hynn yma
a gwna i mi dy eitha./
O arglwydd: o kariad: o yngwir Dduw inau
a wyddost drymder kalonn a thrymder meddyliau
beth a wnaf y 'm pruddder a 'm kaethiwed
ai ymadel a Chressyd a brynnais kynn ddrudted .
Kymerwch drugaredd
ar anffortunys vuchedd./

[td. 134]
hir aros nis gallaf:
yn y trwm veddylie ymaf [~ yma]./
Onid ef mi a wnaf y peth a allaf i wneuthud
byw /n/ unic mewn pryddder a chreulon benyd
achwyn vy hunan ar yr anffortunys ddigwyddiad
lle ni ddaw na glaw na haul na lleuad
Vy niwedd a vydd amlwc
val Edippe mewn tywllwc [~ tywyllwg]
dwyn pryddder yn vy mowyd
a marw o 'r diwedd mewn adfyd
O ysbryd dyn sy /n/ tramwy i vynu ac i wared
paham ir wyt yn aros mewn hir gaethiwed
o yr enaid sy /n/ nychu mewn nych o drymder
does ymaith gad i 'r galon dorri mewn amser
Bellach kalyn Kressyd
dy arglwyddes a 'th anwylyd
nid oes ytt drigva kyfion
i aros yn y galon.

[td. 135]
O yr trymion lygaid ermoed bu ych divyrrwch
i edrych ar Gressyd i glendyd a 'i howddgarwch
beth a wnewch bod yn anghysyrys i minnau
ai sevyll am ddim i ollwng heilltion ddagrau
Ewch ymaith trymion lygaid
nid oes obaith i chwi amnaid
nid oes mo 'r rhinwedd arnoch
ych rhinwedd a gollasoch./
O Kressyd Kressyd o arglwyddes anrhydeddus
pwy ym a rydd unwaith un gair kysurus
neb nid oes pan ddarffo i 'm kalonn dorry
yn lle /r/ korff gad y 'm ysbryd dy wasneuthu.
Y 'm korff anrhigaroc i buost
anrhigaredd mawr a wnaethost
o hynn allan Kressyd
bydd drigaroc i 'm ysbryd
Chwchwi gariadau sy /n/ aros ar dop yr olwyn beraidd
duw a drefno i chwi ych kariadau /n/ dduraidd

[td. 136]
fal y gallo bod ych bowyd mewn hir ddifyrrwch
ar fy medd pen y deloch amdanafi meddyliwch
A doedwch yn hwnn vedd
mae /n/ kydymaith ni /n/ gorwedd
i garu bu ei ddigwyddiad
er nas rhyglyddodd gariad
Och i 'r henddyn anheilwng kynn ei amser wedi ei eni
och i 'r hên Kalkas pa beth a ddarfod i ti
yr owran yn Roegwr yn Droian ermoed i 'th weled
O Calcas mewn amser drwc i mi i 'th aned./
Gwae fi na chawn afael
arnad Kalkas mewn kornel./
mi a wnawn i ti na chyrchyd
ymysc Groegwyr mo Gressyd

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section