Adran o’r blaen
Previous section

Thomas Edwards (Twm o'r Nant), 1738-1810.Tri Chryfion Byd, sef Tlodi, Cariad, ac Angau. Yn y Canlyniad o hyn, y dangosir y modd y mae r Tri yn Gryfion byd. (dim lle / no place: dim cyhoeddwr / no publisher, [1789?]), testun cyflawn / entire text.


[td. 1]


TRI
CHRYFION BYD,
SEF
TLODI, CARIAD, AC ANGAU.


Yn y Canlyniad o hyn, y dangosir y modd y mae r
Tri yn Gryfion byd.


TLODI,
Yn gwneud i holl ddynol ryw, gyffroi am gynnal eu bywyd,
Oblegid eu darostyngiad yn y cwymp fwyta bara trwy
chwys wyneb; sy 'n gosod pawb, i ryw alwedigaeth, &c.


ANGAU;
Yn awdurdodi ar bob creuadur [~ creadur] byw, trwy eu darostwng i
Farwolaeth, &c.


CARIAD;
Yn dderchafedi, yn yr Addewyd, ag ynghenedliad Natur;
Ac yn fwy neillduol, yn y Waredigaeth Rad; lle gorchfygwyd
Byd, ac Angau, &c.


A Chynnwysir ymhellach ychydig o ddull creulondeb cybydd
dod,
a Thwyll, a Thrawster, Offeiriadau, a Chyfraithwyr,
 &c. gyda dull o droedigaeth y cybydd wedi mynd
yn dlawd.


GAN ThOMAS EDWARDS, NANT.


[td. 2]

DdARLlENYDdION.


GAN fod yn Arferedig (braidd gan bob bwngler) Osod
Rhagymadrodd i Lyfr wrth ei argraffu - Minneu
(rhag bod yn gyffelib, i 'r un a wiscodd am dano heb gofio
am ei grys
) a wnaf ryw beth fel Rhagymadrodd; Ond
rwi 'n ffaelu deall pa ddull a gymeraf, Ni wiw imi
nghanmol [~ fy nghanmol] fy hun, oblegid fe wyr pawb mae celwydd
fydd hynny, Ni wiw imi dderchafu 'r Llyfr, mae 'n
sicir y bernir hwnnw yn wagedd i gyd; Yn enwedig
gan y cywion cigfranaidd a hedasant ar awel gwawr
ddydd Luciffer i orseddfaingc balchder, lle maent yn
barnu, na ddichon neb fwrw allan Gythrauliaid am nad
yw yn eu dilyn hwy. Er fe alle'i bod hwy fel Elias
gynt yn meddwl mae nhw 'n unig a ddiengasant - Ond
roedd yr hwn ac sydd yn barnu meddyliau a bwriadau'r
galon; yn canfod y llwybr na adnabu aderun, ac na
chanfu llygad barcut, yn gweled yn graffach nag Elias,
nid oedd ef yn gwel'd [~ gweld] ond ei hun, a Duw 'n gweld Saith
Mil, A chan hynny mi dawaf a Son, I 'w Arglwydd i
hun mae pob gwas yn sefyll neu yn Syrthio, &c. Cymered
y rhai a hoffant ymryson a rhagfarn eu fforddeu
hunain; mineu a ddymunaf, I 'r hwn Sydd a phob gallu
yn ei law roddi nerth i ymryson; ag i orchfygu, yr
Hunan a 'r trueni, Sydd yn fy Nghalon I ag eraill Amen.


Eich Gwasanaethydd distadl,

ThOMAS EDWARDS.

[td. 3]

Entr Sir Tom Tell Tro'th.
TRWY 'ch cennad heb gynnen a llawen ddull hoyw,
Dymuno ymma Silence ag i bawb ddàl Sulw,
Chwi gewch ddyfyrwch yn ddi fêth
Os torrwch beth, o 'ch twrw.
Mae 'n gofyn i bawb Sy am wrando,
Roi pob Ymddiddan heibio
Ni ddichon neb ddeall unrhyw ddawn,
Neu 'Stori heb iawn, Ystyrio.
Cymyscaidd Jaithoedd Babel
Sydd ymma fynycha 'n Uchel
Ni cheir lle bo gynnifer dyn,
Ond ychydig yn un, Chwedel.
Mae dyn wrth Naturiaeth wedi torri 'n druenus
A'i feddyliau 'n anwadal yn fach ag yn Wawdus
Yn ymlud [~ ymlid] fàl Canghenau pren a'r Wynt
Ryw helynt, Afreolus.
Fe dd'weydodd [~ ddywedodd] y Sarph or dechreu
Y bydde'i ddynion megis duwieu,
A 'r balchder hwnnw Sy 'n ffals ei Wên
Yn glynu mewn hen, galonau.
Can's fel hyn etto mae dyn wrth Nattur,
Yn dàl yn arw am wneud diawl yn eirwir,
Am fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun,
Mae braidd bob dyn, adwaenir.
An fynych [~ anfynych] y Clywir neb yn datcan
Histori neu hanes heb i ganmol ei hunan
D' oes [~ nid oes] dim yn derchafu ag yn Clymmu ymbob Clêr
Mor Suttiol a balchder, Sattan.
Mae balchder y Cymry ffolion,
I ymestyn ar ôl y Saeson
Gan ferwi am fynd o fawr i fach
I ddiogi 'n grach, fon'ddigion [~ foneddigion].
Os ca'n hwy ryw esgus o fod yn 'r ysgol
Ni wiw am air o Gymraeg Ymorol
They cannot talk Welch, nor understand,
Oni fyddir yn grand, ryfeddol.

[td. 4]
Y mae 'n gywilyddus clywed carpiau
Yn lladd ag yn Mwmian ar iaith eu Mamau
Heb fedru na Chymraeg na Saes'nag [~ Saesneg] chwaith,
Ond ydyw 'n waith, anethau.
Ac os bydd rhyw Hogenig wedi bod yn gweini,
Ynghaer neu 'r Amwythig dyna 'r cwbl yn Methi,
'Cheir [~ ni cheir] gair o Gymraeg ac os d'wed [~ dywaid] hi beth,
Oh! 'r ledi'eth [~ lediaith], fydd ar my Lady.
Chwedl mawr fod Mîs yn Lloegr
Fe ddysc merch Ifangc lawer o fedruster
Siarad modest a phlettio 'i mîn,
'R un fath a thwll tin. y Tanner.
Mae Ynghymru lawer Coegen
A roe [~ roddai] goron i Blayers Llundain
Ac ni all i Gymro fforddio o'i phwrs,
Un geniog [~ geiniog] heb gwrs, o gynnen.
Ac mae llawer crach gynffongi
Na hidiai fe gownen o 'r taflu Gini
Am le 'i Hwrio neu gambleio ar gais
Ynghwmni rhyw Sais, lled Sosi.
A rhyfedd fel y dywed Cwmni o Gymry
O the English Song is very pretty!
Ac yn egor eu Cegau a 'u Clemmau 'clws [~ tlws],
Ar gorws, yn gwehyru.
Dyna fel y byddant yn canu ag yn bloeddio
Heb air o gysondeb yn berwi ag yn Soundio
A phe baid am ganu Cymraeg yn Sôn
Ni ddeallei 'r gwyr Mwynion, Mono.
Mae hyn yn helynt aflan
Fynd 'r hen Gymraeg mor egwan
Ni cheiff hi mo 'i pherchi mewn bryn na phant
Heno gan ei phlant, ei hunan.

Entr Traethydd.
What is, thou Gibbriss, foolish Fellow?

Tom.
Dam i Sil Satan dymma Sais etto.

Traeth.
Doant talk Nonsense.

Tom.
Taw daccw Nancy,
Siarad Gymraeg neu ddôs i 'th grogi,

[td. 5]
'D oes ymma fawr o Saesonaeg glân,
Ond ychydig gan Sian, a Chadi.

Traeth.
Paham 'r wyt yn lladd ar Saes'neg [~ Saesneg] mor greulon.

Tom.
Lladd yr ydwyf fi ar Gymry beilchion
Sy 'n ceisio gwneuthur pob dyfeis,
I fod mor bressise, a 'r Saeson.
Ond ellir dyscu Saes'neg [~ Saesneg] ar goreu
Ac heb fynd yn feilchion goegion gegeu
I wadu na fedront ddim yn faith,
Mewn moment o Iaith, eu Mameu.

Traeth.
Mae 'marferiad [~ ymarferiad] oni chlywsoch yn llawer achlysur.

Tom.
Wel ydyw mi wn etto lle bo duedd mewn Nattur
Ond am fod yn dduw 'n ol gair yr hen Walch
A chodi mae balch, bechadur.

Traeth.
'D oes fai ar neb am godi 'n raddol,
Fel bo 'u Sefyllfau 'n gyfatebol,

Tom.
Ymhob Sefyllfau fe ddylau ddyn,
I adnabod ei hun, yn Wahanol.

Traeth.
Doethineb trwy degwch ymhob galwedigaeth,
Sy 'n tynnu 'n gysonaidd rai tan ei gwasanaeth
Lleferydd a gwyneb Sy 'n dangos gwahaniaeth
Mae dynion yn dirwyn at ddull ei Gwladuriaeth.

Tom.
Wel felly, nid celwydd caled
I'w [~ yw] barn dostaf y Methodistiaid
Mae gwladwyr y Cythraul yn hawdd eu Cael,
Wrth eu bywyd gwael, i 'w gweled.
Mae 'r meddwon a 'r lladron tan 'r un llywodraeth,
Y tyngwyr, a 'r Rhegwyr a phob rhywogaeth,
Dilynwyr pechod yn gyttun,
Yn deylu o 'r un, gwaedoliaeth,

Traeth.
Mae pob rhyw fasweddwyr mewn pechod yn Suddo,

Tom.
Wel beth ydyw maswedd rhag Ofn mod [~ fy mod] yn missio
Os oes genny reswm dod yn ei le,
Er Undyn mi Wna fine, Wrando.

Traeth.
Mae 'r enw gair maswedd fel hyn i 'w gymwyso
Am bob pethau allanol eill natur ei llunio,
Gwagedd o wagedd a maswedd mewn mesur
Heb Waith y dyn newydd iw [~ yw] pob peth dan awyr.

[td. 6]
Maswedd cnawd esmwyth Sy 'n adwyth niwaidiol
Yn Shi'o rhai 'n Si'on ar foddion Crefyddol
Canu a Gweddio, a gweithio pregethau
Fe gyfrif Duw 'n faswedd holl ffrwyth eu gwefusau.

Tom.
Os oes Maswedd mewn pregethau
Ni waeth y Ni, na 'n hwythau [~ nhwythau]
Os gallwn gario Cydwybod glir
I draethu 'r gwir, bob geiriau.
O ran mae 'r gair gwir drwy gariad
Yn haeddu beynydd bob derbynniad,
Mewn amser ag allan o amser llawn,
Mae 'n ddidwyll ag iawn, ei dd'weydiad [~ ddywediad].

Traeth.
Ychydig o gariad Sydd mewn geiriau
A draetho 'r ynfydion ar flaenau tafodau
Muriau Sychion yw 'rhai hynny
Heb fydd fel morter iw cyd tymheru.
Mae rhai'n [~ rhain] yn debyg o ran eu diben,
I fynediad y Wenfol ar Gornchwiglen
Yn troi o gwmpas er hynny eu Cartreu
Sydd un yn y Gors ar llall yn Sifneu.
Mae hitheu 'r Sgyfarnog enwog union
Yn cnoi chîl [~ ei chil] o egni ei chalon
Yr un droed a chi, yw hi er hynny
Felly mae buchedd rhai redant i bechu.
Mae eraill o ryw 'n fforchogi 'r ewin,
Hyd ffyrdd y duwolion y byddant hwy 'n dilyn
Heb ddim cnoi cil yn eu genau na'u Calon
I ddal neu fyfyrio ar dduwiol arferion.

Tom.
Wel Son am greaduriaid rwyt ti rwan,
A gwahanol gyflwr glan ac aflan
Oni ddaeth Llenlliain o 'r Nef i 'r llawr
Mewn gafael ddirfawr, gyfan
Ac roedd pob creaduriaid yn hon ymma
A glan oedd y cyfan cofia
Ac fe roedd cyhoeddus weddus wâdd,
Heb attal i ladd, a bwytta.

Traeth.
Y Llenlliain hon iw [~ yw] 'r Efengyl a 'i rhyddyd
Ond rhaid yw lladd cyn bwyta er bywyd
'Does cig na physcod na llafur yn fuddiol
Heb eu ladd a 'u torri o 'u Cyflwr naturiol.

[td. 7]
A dymma 'r porth cyfyng mae gafael y bywyd
Sef marweiddio Gweithredoedd y Cnawd trwy 'r ysbryd,
A dyscu Grist groes Egwyddor crefydd
Yn ysgol rad y creuadur [~ creadur] newydd.

Tom.
Gan dy fod mor ddoeth gad immi glywed?
Pa fodd roedd plant Israel yn ysbailio 'r Aiphtied
Yn benthycca tlysau ag yn dwyn ar duth,
Heb dalu byth, mo 'u dyled.

Traeth.
Yr aur a 'r tlysau ar gwiscoedd gwychion
Sydd deip o Dalentau a doniau dynion
Rhai ddylyd [~ ddylid] fenthyca Oddiar naturiaeth,
I Ogoneddu 'r hwn Sy berffaith.

Tom.
Wel os tâl benthyca felly
Gallwn nineu ddawnsio a chanu
Pe medre'm ni ganmol yr hwn Sy 'n llawn
Yn rhoi rhinwedd a dawn, i hynny.

Traeth.
Pob dysc a dawn pob llawn gallineb,
Mae gogoniant y Creuawdwr [~ creawdwr] trwyddo 'n ateb,
Ond Natur dyn trwy falchder Sattan
Sydd am Ogoniant iddo 'i hunan.

Tom.
Wel ni waeth i'ni [~ inni] dewi 'n ebrwydd
Na phe bae'm ni 'n ymddiddan ddauddydd
Profi pob peth, a dal 'r hyn Sy dda,
Ydyw 'r ffordd benna, beynydd.

[Exit.

Mynegair y Chwareu.

Traeth.
Wel bellach crybwyllaf mi dystiaf am Destyn,
O 'r dull yn deg hylwydd mae 'r trefniad yn Câlyn,
Am dri chryfion byd ddwys Olud mewn Sulw
Sef Tlodi, a Chariad, ag Angeu tra chwerw.
A Chariad yw'r hynaf o chredir yr hanes
O ran pan gadd gwryw gu fenyw yn ei fynwes
Ac wedi iddo gwympo a 'i rwydo ef o'i rydyd [~ ryddid],
Roedd Cariad yn ddiau 'n cyweirio 'r addewyd.
Ond melldith y pechod trwy hynod trueni,
A 'r noethni dyledus wnaeth nyth i Dlodi,
Na chaffei ddyn fara heb chwysu 'n llafurus
Ag Angau yn y diwedd ag Ing yn ei dywys.
Ond Cryf iawn yw cledi [~ caledi] Tylodi a dyledion
Yn boenus iawn beynydd oer ddeynydd ar ddynion

[td. 8]
Yn gwneud i rai feddwl am waith a Chelfyddyd,
Fel mae gan bawb awydd i gynnal eu bywyd.
Ac eirias o gariad wir fwriad arferol
Yw Elfen Cenhedlaeth naturiaeth daearol
A chariad cyflawndeg y deg waredigaeth
Sy 'n gryfach nag Angau 'n rheolau marwolaeth.
Ac ymma 'n ganlynol allanol ddull hynod
Cewch beth o gwrs bywyd y byd a 'i Gybydddod
Drwy Wraig afrywiogaidd flaen daeraidd flinderus,
A chanddi ddau feibion yn ddigon eiddigus.
Ac un mâb oedd gartre fel hitheu yn ei heitha
Yn Gybydd rhy arw a hwnnw oedd yr hyna
A 'r ail a gae 'r ysgol drwy rwysc a chymeriad
A 'r peth a wneiff arian fe'i rhoed yn Offer'riad [~ offeiriaid].
Nol [~ yn ol] hyn wedi 'r Cwbl y Fam a 'i Mab Cybydd
A gwympodd yn galed allan a 'i gilydd,
Ac at yr Offeiriad hi ae [~ ai i] fyw yn gorphorol
By yno nes marw mewn enw mwyn Unol.
Hi drefnodd ei H'wllys [~ hewyllys] drwy hollawl gydsyniad,
Yn Anwyl ei pherwyl i 'r Mab oedd Offeiriad,
A'r ddau am yr eiddo mewn cyfraith ymroddodd,
A 'r Cybydd gofydus wr gwallus a gollodd.
Fe Syrthiodd wrth erlid i lid a Thylodi
Ac ar ei ddiweddiad fe gadd i argyhoeddi
Mae 'n troi 'n edifeiriol o 'i farwol arferion
'R hyn fydde'i 'n ddaionus i bob gradd o Ddynion.
Ac felly 'r Cwmpeini mae pennaf cychwyniad
Yr Act wael Sydd gynnom os rhowch chwi fwyn gennad
Gosodwn hi o 'ch blaenau ein gorau drwy gariad,
Na ddigiwch cyd ddygwch lle ffaelio 'n ymddygiad.

[Exit.

Entr Sir Tom Tell Truth.
Wel gwir dd'weydodd [~ ddywedodd] Sattan mae 'n hysbys etto
'Bydd [~ ni bydd] dynion fel duwiau er cael ei han'dwyo [~ handwyo],
Mae ffrwyth pren gwybodaeth da a drwg
Yn gwneud cynnwr [~ cynnwrf] amlwg, heno.
Mae Swn am Gyfoeth a mawrhydi
A Swn diawledig ydyw Son am Dlodi

[td. 9]
Heb fawr yn Synniad a'r ferw Saeth
Y bariaeth, Sy 'n ei beri.
Heb law'r hen felldith wreiddiol
Sy 'n peri Tlodi yn Wladol
Balchder gwyr mawr yn gwascu 'r gwan
Mae hynny 'n rhan, erwinol.
Balchder Sy 'n gyrru Bon'ddigion [~ boneddigion] Segurllyd
Tu Ffraingc neu Lloegr i rythu eu llygi'd [~ llygaid]
I ddyscu ffasiwnau a gwario 'n fall
Ddau mwy mewn gwàll, nag ellyd.
Mae ganthynt yn Llundain lawer llawendy
I droi 'r Gath yn 'r Haul i Fon'ddigion [~ foneddigion] Cymru
Play-houses a Lottery's, flawttus ffull
Ac amryw ddull, i ddallu.
Ac yn y Play y Câ'n hwy eu plûo
Rhwng Hoors a Liquors y bydd eu haur yn 'Slaccio
Rhaid canlyn holl egni cwmpeini pur,
'Ran [~ o ran] grandrwydd gwyr, y 'w gwario.
A dyna 'r nod fy 'neidiau [~ eneidiau]
Mae gwyr mawr Stowt yn gwario'u Statiau
Wrth ddilyn balchder a 'u harfer fel hyn,
Peth costus ydyw Canlyn, Castiau.
Ond balchder cyn y collo,
I fywoliaeth, (wrth drafaelio)
Nag a cymro fe ronyn llai na'i raid
Fe geiff y gweiniaid gwyno.
Hèl Sgamers o Lundain a llawer o helynt'odd [~ helyntoedd]
A Landsurveyors i revewio 'r tiroedd,
A 'i mesur hwy drostynt gwlyb a Sych
Y Caenau 'n grych, ar gwrychoedd.
A mynd a Map i 'r gwr bonheddig
O bob cyrrau y coed a 'r Cerig
Pob cae a Ffrîth pob Acr a phren,
A chodi cyn pen, Ychydig.
Cyhoeddi a galw 'r Tenantiaid i 'r goleu
A d'weydud [~ dywedud] mewn eccrwch fod hyn a hyn o Acerau
Ac y myn y Mr. tir gael codi ar y Rhent
Mae hynny 'n gonsent, i ddechreu.
A'n hwytheu [~ A nhwythau] Tenantiaid y bryniau a 'r nentydd
Yn mynd yn anhywaeth at y ffasiwn newydd

[td. 10]
Wrth glywed eu Saes'neg [~ Saesneg] 'n hwy [~ nhwy] 'n hynny o fan
Ymron piso gan anhapusrwydd.
Ac ynteu'r Stewart nid oedd dim Stayo
Ond come forth an answer what else ye cymro
Your Land will be set for better prîs
Doant you be foolish, felow.
Ac ynteu'r hen Denant bron a diwno [~ difwyno],
Heb wybod be' [~ beth] i 'w ddweydyd ond diodde 'i wawdio,
A beggio ar un o wyr ei wlad
Mewn tristwch Siarad trosto.
Ac f'allei hwnnw'r unfath a Haman
Yn cymryd y tyddyn iddo 'i hunan,
A'r dynan, truan gan ffalster trwch,
Yn ei d'wllwch [~ dywyllwch] raid fynd allan.
Ac felly dyna hwnnw 'n gorfod myned
Wedi colli'r fywoliaeth iddo 'i hun a'i nifeilied,
Ac fe allei 'r plant yn mynd ar y plwy
Yn bwysau mwy, ar Denantiaid,
Dyna 'r Mr. A 'i Denant heb gael dim daioni
Ond codi 'r Stewardiaid yn falch ag Ystwrdi,
D' Oes [~ nid oes] ryfedd beynydd yn byd
Fod Cymmaint o lid, a Thlodi.

Entr Gwiddanes Dlothi.
Pwy Sydd Ymma 'n Cadw lòl
Fel G'lyfinir [~ gylfinir] a 'i glòl, i fyny

Tom.
Pwy Ydych chwitheu ai Merch y gwr drwg
A gadd yn y mwg, ei magu.

Gwidd.
Myfy [~ Myfi] Ydyw'r Widdan Sy 'n gwneud i rai Waeddi
Rwy 'n gryfa trwy Wledydd fe'm gelwir i Tlodi.

Tom.
Braidd na Waeddwn i fy hûn,
Wrth edrych fath un, a thydi.

Gwidd.
Myfy [~ Myfi] ydyw'r hynaf Ymhob trueni,
Fe'm ganwyd yn nyth y newyn a 'r noethri,
Pan ddarfu Adda lyngcu damaid
Y fi oedd y gynta Welodd ê a 'i lygaid.
Ac fe i rhoed ef dan berigl na chae [~ châi ef] ddim bara,
Ond trwy Chwys ei wyneb o 'm hachos i Yna,

[td. 11]
Ac byth yn fy magl rwi 'n dàl rhai a 'm dwylo,
Mewn gofyd Ac Angen Oni fyddant trwy 'n gwingo.
Ymffrostied Gwy'r [~ gwyr] mawrion yn ei parch a 'i Cymeried
Roeddynt hwythau 'n dlodion gweinion pan i ganed
Oni pheidiant ag Ymwychu a gyrru a gwario
Fel na allont hwy ateb ant felly etto.

Tom.
Oni ddarfu rai brynnu tiroedd dan godi torau
Erbyn Agor llygaid ni thelynt mo 'r llogau
Achos enw mawr a bychan fûdd,
Mae 'r Aerod bob dydd, yn dioddeu.
Nhw Aethont 'r un fywoliaeth a Gutto felyn,
Ychydig laeth a hynny 'n enwyn,
Oni cheir gwaith corddi fel y d'weydodd [~ dywedodd] fy Nain
Hi a fydd yn o fain, am fenyn.

Gwidd
Ond balchder yn ymgyraedd gormod
A melldith drygioni pechod,
A Wneiff yn ddwys ymhen oes neu ddwy
Feddiannau mwy 'n furddynod

Tom.
Mae aml Blas mawr Ynghymru Heno,
Mae 'n chwith i lawer un fynd heibio
Lle bydde'i f'onddigion [~ foneddigion] hardd eu drych
A gwndogion gwych, yn trigo.

Gwidd.
Hwy lanwent foliau gormeswyr ffeilsion
Yn lle rhoi elusen i bobl dlodion
'D oes ryfedd fod melldith ar dir a thai,
I ddigwydd i rai, Bon'ddigion [~ boneddigion].

Tom.
Wel mae nhw i 'w canmol draw ag Ymma
Am roi cynhalieth i 'w cwn hela
Maen't yn llawnach o flawd a glyw'n i Sôn
Yn eu boliau na thlodion, y Bala.

Gwidd.
Ond anllyfodraeth [~ anllywodraeth] mewn dull anfeidrol
Sy 'n rhoi imi le 'i feistroli pobol
Balchder ag Oferedd Sy 'n cyfeirio
Yn tynnu neiliaid i mi tan fy nwylo.
rhyfedd heno i 'w gofio ar gyfer
Mor ddau Wynebog ydyw balchder,
Gyrru rhai weithio gyrru rhai 'n lladron
'Phob [~ Â phob] Castiau diawledig rhag mynd yn dlodion.

[td. 12]
Fy Ofn i, sy 'n peri rai godi [~ i godi] 'r boreu
Rhai i 'w gorchwylion, rhai i 'w Siwrneuau [~ Siwrneiau]
A 'r plant bach fydd yn llefain rhag llafur fy ngaf'el [~ ngafael],
A 'r hen bobl yn rhedeg bròn colli 'r hoedel.
Myfi ydyw 'r hynotta mewn ffair a Marchnad
Fe edrych pawb arna'i a chornel eu llygad
Rhag f' ofn I y bydd y rhai cryfa
Yn cael bargeinion ar ddwylo rhai gwanna.
Oh! Meistress erwynol ydwyf fi ar Weiniaid
Mi dorrais hyd y Nentydd ymma lawer o Denantiaid,
'Rhai fydde'i 'n meistroli mewn balchder ag Oferedd,
Ond y fi, fydde 'i [~ fyddaf eu] meistress 'nhw yn y diwedd.
Mi a welais ymma Ffarmwyr yn byw 'n drefnus
Yn dilyn Ceiliogod a Cheffylau Raceus
Ond pan ddown I atynt yn f'awdurdod
Fe fyddei melus cael canlyn Mulod.
Ac mi welais rai yn rhwysc eu cywaeth
Yn Wyr Synwyrolaf trwy Cym'dogaeth [~ cymydogaeth]
Ond pan ddown I, unwaith yn feistress arnyn,
Ni fedde nhw Synwyr un briwsionun.
Ac mi welais Wyr gorchestol arw
Yn perchen tiroedd ag yn fawr iawn eu twrw,
Yn mynd rhai ar y plwyf a 'r lleill i 'r Factary
A'r lleill i 'r Iêl i Isel Oesi.
A 'r merched mwyn gymen a 'r llygaid main gwamal
Sydd heddyw mor Sosi yn Caru ag yn Sissial
Pan ddelo'ch i 'r Bwth bâch yn gwla 'ch gwely
Chwi fyddwch yn llafar na thaloch mo 'ch llyfu.
Yrwan mewn Sadrwydd mae i chwi gonsidro
Os y fi a fydd y feistres mi wnaf i chwi fwstro,
Heb ddim Byclau Platted na gywn brith plottiog
Na 'ffedogau [~ arffedogau] gwynnion mi ddalia fi geniog [~ geiniog].
Y Glôg Sidan ddu a 'r Wyer Capiau
Ar Balloon Bonets ar Hatts Ribaneu
Ar Handcerchiefs mawr ar Ruffls dwbwl
O myfi yn y funyd a 'ch gwisca chwi 'n fanwl.
Ac yn lle Tea i 'ch breackwest mi fydda fi 'n eich procio
I gym'ryd [~ gymryd] Pottes gwyn bâch neu laeth wedi dwymno,

[td. 13]
Brywes dwfr a Halen neu Gawl erfin,
Bydd weithiau 'n anodd gael pen W'nionun [~ wnionyn].

Tom.
Wel wfft i 'ch Calon gyda 'ch Ceuled
Onid y'ch yn ddi gwilydd rôi ffare mor galed.

Gwidd.
Os daw ataf I, na mawr na mân
Yn Waelaidd hwy gân, Weled.

Tom.
Mae 'n dost ichwi bwlio 'n hwy 'n Weigion eu boliau.

Gwidd.
Fe alle'i Câ'n hwy fara os Codant yn forau
Ond ni wiw un o honynt edrych yn ddig
Ni ca'n hwy fawr gîg, i 'w cegau.
Hwy ga'n Frwchan i 'w Cinnio a Llîth a chawl Cennin
Uwd a Llymru a Bytattws a Llaeth enwyn,
A chaws gan gletted [~ gyn galeted] a Lledr Clyttio
'Wiw [~ ni wiw] Sôn am emenyn [~ ymenyn] na disgwyl mono.

Tom.
Ateliwch eich tafod; 'd oes ond Sîr Aberteifi,
A pheth o Sîr Gaer fel yna 'n rhagori,

Gwydd.
Mae bywoliaeth galed lawer trô,
Trwy wledydd lle bo, Tlodi.

Tom.
Wel gan i chwi fygwth Cymmaint Aflwydd
Mae rhyw alwedigaeth i bawb yn digwydd,
Rhaid i bawb geisio Offer i ymladd am fwyd
Ar Crydd gael mynawyd, newydd.

Gwidd.
Wel un o chwedlau gw'ir [~ gwir] y Saeson
Necessity is the Mother of Invention,
Ni wnae neb fawr mi wranta fi,
Ond Rhag Tylodi, a dledion [~ dyledion].
Myfi ydyw 'r Fadam rwi fel gwïalen fedw
Mi Chwippia ag a giccia rai ymma ag accw,
Mi wnaf i bawb gychwyn trafod hoedl ag iechyd
Neu os trina'n hwy ddiogi, hwy dro'n i ddygyd,

Tom.
Chwi yrasoch rai i 'w Crogi,
Rhwng balchder a gofydi
Ac rhagoch Chwi mewn Cyni caeth,
Rhyfeddod aeth, i foddi.
A llawer Lodes ledrydd
A aeth i Hwrio O 'ch herwydd
Rhai ledratta [~ i ladrata] gwaetha gwyn
A'r lleill yn Ca'lyn [~ canlyn], Celwydd.

Gwidd.
Ond y'w merched mor aflawen

[td. 14]
Yn eu hynod andwyo 'i hunen
Trwy ddilyn gormod Chwant y Cnawd
Yn Wynebu 'n dlawd, aniben.
A gwagedd gwael'edd rydwy 'n gweled,
Y Cau ar gwascu mae gwisgiad merched
Tra fo 'r Llannerch wantan heb ei chau,
Rhwng eu garrau, nhw yn egored.

Tom.
Wel dyna ddarnluniad Unig
O 'r ffrwythau gwaharddedig
A'r gorchymyn Sydd yn gofyn bod
Ufudddod nod, enwedig.
O ran y peth Sydd wan a meddal
Mae 'n fwy gogoniant iddo gael ei gynnal
Nid rhaid ir jach wrth feddyg drud,
Tra tyfo mewn bywyd, diofal.
Nid rhaid diolch i 'r lladron lledrydd
Os ffaelia'n hwy gael, gan glouau neu gwèlydd
Mwy nag rhaid diolch mewn llawer lle,
I Faeni Meline, am lonydd.
Ond hawdd cadw Cestyll neu Cistiau fo heb daro,
'D oes orchest oruchel ond i 'r hwn ymdrecho,
Ac ymladdo 'n erbun dyn a diawl
Yn ollawl, ag ynnillo.

Gwidd.
Nid pobl ymdrechgar hagar eu hagwedd
Ond rhai pur galon weiniaid Sydd gen I yn fy ngwinedd [~ ewinedd],
Rhai llyrfion ymddygiad a llawer o ddiogi
Sy fynycha 'n cael eu rhwydo a 'i dyludo i Dlodi.
Mae mhobl [~ fy mhobl] i druain bob rhyw drouau,
Yn hawdd eu hadnabod wrth wedd eu Wynebau,
Sef y dua ei grys ar gwynna 'i esgid
Ar Siwrwd ei gefen fydd yn Siarad mewn Gofyd.
Mr. Bwccwl o bob pâr a Mr. Cyscu 'n hir y boreu
A Mr. Clox tinau Oerion, a Mr. Clôs tan ei arrau,
A Mr. di fforcest a Mr. gwag ei ffircen
A Mr. Lled lonydd a Mr. Llwyd Wlanen.
A Gwragedd lled hollawl sef Madam gywn tyllog
A Madam Bess Geglom a Sian Bais Gaglog
A Madam Oer lewyrch a Madam War leuog
A Madam Gaenor ddrewllud, a Madam Gwen ddrylliog.

Tom.
Gwared ni rhagoch gyda 'ch rhigwm

[td. 15]
Ond ydych chwi rywsut yn feistress ddi reswm
Gwae yn y byd fo danoch chwi 'n byw,
'Ran [~ o ran] Caled ydyw, 'ch cwlwm.

Gwidd.
D oes un Frenhines hanes hynod
Na Brenin mewn dewrder gymaint ei awdurdod,
Rwi 'n fwy dychrynadwy yn gwneud i rai och'neidio [~ ocheneidio]
Nag un Rhyfelwr a fu 'rioed [~ erioed] yn trafaelio.
Rwi 'n gryfach na 'r Cornwyd, ar llif mawr yn Carno
Rwi 'n gryfach na 'r Cestyll fu amryw yn eu Costio
Rwi 'n gryfach na 'r tan, na 'r Crocbren neu 'r tenyn,
Ran [~ o ran] fe eir trwy bob niwed rhag tlodi a newyn.
Y Cyfraithiwrs a frathant ag afaelant yn filen,
Ond ni fwy gen i am danynt nag mewn coes rhedynen
Er cyhyd eu gwinedd [~ ewinedd] a chymmaint ei gweniaeth [~ gweniaith]
Ni wnant ar dlodi ond ychydig deiladaeth.

Tom.
Mae Gwyr Cadarn ag aur i 'w Codeu
Yn feistradoedd arnoch chwitheu,

Gwidd.
Yn feistradoedd arna I 'does fawr i gyd,
Pe gwelid y byd, mewn goleu.
Mae llawer o feistradoedd pe rhoid llaw tan eu Strodur
A 'm ffwndwr I, i 'w dilyn pan ffeindir eu dolur
Ond harddwch eu dillad yw eu heddwch nhw 'i dwyllo
Fel nifailiaid [~ anifeiliaid] i 'r Cigydd wrth feirw maent yn Cogio.

Tom.
Mae rhai drwy gamwedd draw ag ymma
Yn mynd yn dlodion heb eu gwaetha
Anlwc yn y byd neu gam gan Wyr mawr
Yn hwthio [~ gwthio] nhw 'i lawr, i 'w heitha.
Ac mae llawer o Stewardiaid mor bell eu Stordun
Yn fil gwaeth na 'u Meister yn Ymledu ag yn Ymestyn
Y nhw Ydyw'r duwiau raid Addoli dan Ser,
Os Mynner byw 'n dyner, danyn.
Mae llawer o boblach Weiniaid
Yn Ofni cael eu Stwrdio gan Ystiwardiaid
Yn fwy nag yr Ofnant mewn odid ràdd,
Hwnw eill ladd, eu Henaid.

Gwidd.
Mae Achos i Ofni gwyr mawr a 'u Stewardiaid
Ran [~ o ran] prin Ceiff rhai Amser i feddwl am enaid
Rhwng Cyfraith Stewardiaid a balchder Gwyr mawrion
Mae Tenant i 'w ganffod [~ ganfod] fel rhwng diawl a 'i gynffon.

[td. 16]
Tom.
Nid oes odid wr o gyfraith heno,
Na bo fe 'n Ystiwart i ddal a Chystwyo,
Ac Ambell Gnaf arall a wneiff y tro,
Neu Shopwr a fedro, Sharpio.
Mae Stewardiaid y Minors yn onest mewn manneu
Yn Pesci flonhegog wrth atal Cyflogeu
Nid y rhai Yslafio fwya un fryd,
Sy 'n cyrraedd y byd; goreu

Gwydd.
Gad lonydd i 'r Stewardiaid a 'r Cyfraithwyr hefyd
Y nhw Sy 'n rhoi neiliaid yn fy nwylo 'i bob ennyd
Oni bae rai 'n pinssio ac yn rhobio 'n rhaibus
Ni fyddei'r Wlad fyth mor Anghenus.

Tom.
Mae balchder Serth echrysnerth a Chroesni
Sy 'n tynnu dial ni Waeth ini dewi,
Ni byddey [~ byddai] 'r Cyfraithwyr ddim Ymhob ffrae,
A 'u gwinedd [~ ewinedd] Oni bae, ddrygioni.
Mae'r diawl fel Melinydd yn troi gelyniaeth,
Olwyn goccys chwant ynrhoell [~ yn nhröell] naturiaeth,
Ni cheir fyth heddwch nag esmwythad
Heb ryw gyfnewydiad, Odiaeth.

Gwidd.
Rwi fi 'n Cyfnewyd [~ cyfnewid] ag yn ystwytho,
Gyrru'r balch heb ei Waethaf a 'r diog i weithio,
Gyrru 'r Afradloniaid i feddwl am gartre
A gwneud i lawer Aflerwyr deimlo'u Cyflyre.

Tom.
Tro ben ar dy chwedle a thaw a chodlo,
Ond e [~ onide] hi â 'n gofrestr hwy na ffair Fristo,
Nid ydwyd rhûo'r unpeth fel hyn,
Bleser i Undyn, Wrando.

Gwidd.
Dymma fel y mae ni waeth i mi dewi
Mae llawer yn flin o Gwmni Tlodi
Ond rhaid i rai heb waetha yn eu gên,
Yn Aml roi pawen, immi.

[Exit.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section