Adran o’r blaen
Previous section


Entr Rinallt Arianog y Cybydd.
Wel mawr ydyw gwynfyd rhai 'n byw dan ganu
Nid yw 'r byd yn 'fforddio imi heno mo hynny.

Tom.
Ac ni fynnwch chwi 'n awr fod canu ar neb
Mae 'ch gwyneb, yn Cenfigennu.

[td. 30]
Rinallt.
Pa beth oeddit ti 'n ei ganu ddigonol.

Tom.
Cân, yn erbun godineb dynol
Gwaith Twm o 'r Nant If you Know the name
Un a wydde 'i am y game yn weddol.

Rinallt.
Oni chlywe's yr hanes y bydde'i 'r Gwr hwnnw,
Yn hoffi 'n fynych fwynwych fenyw,
'S [~ os] aeth e' i bregethu 'n erbun gwynt
Naturiaeth mae 'n helynt, arw.

Tom.
Ond ydyw 'r gair mewn llyfrau
Mae hen Leidr ceirw yw 'r parkeeper goreu
A hen bechaduriaid Sy fwya doeth,
A'm wneud yn goeth; bregethau.

Rinallt.
Ond wrth dueddrwydd eu Naturiaethau
Mae llawer yn llywio neu 'n gweithio 'u pregethau
Heb feddu 'n iawn na dawn na dysc,
Ond pwnio Yngwysc, eu pennau.
Bydd person meddw yn pregethu am Sobri.
A pherson tlawd yn Swnnio am Luseni [~ Eluseni]
A pherson C'waethog [~ cyfoethog] yn estyn ei big
Ac yn barnu 'n ddig ar ddiogi,

Tom.
Yr iawn Athrawiaeth araith Oreu
Yn lle gwrando rhai 'n pwnnio wrth eu pennau
Ydyw adrodd y gwir er gwell ag er gwaeth
Wedi profi 'n ffraeth, o'i ffrwythau.
Nid yw 'r holl gwbl ond dall geibio
Bydd dynion dylion dan eu dwylo
Son am y Ne [~ nef] fel rhyw Dre ar droed
Neu Dinas heb 'rioed [~ erioed], fod yno.
A Son a bloeddio a rhybuddio byddi's,
A bwrw tu 'g [~ tuag] Uffern bob drwg Office
A bod yno dân a brwmstan prudd,
Perigl fel Mynydd, Paris.
Ac fe 'i berniff rhai hi 'n Mynydd Aetna
Ond na chymrwn mo 'n Sommi [~ siomi] mae hi 'n llawer nes ymma,
Yn gweithio beynydd yn y byd;
Ymhob ynfyd, ond y boenfa.
A phan elo 'r Corph i 'r ddaiaren
Eiff ysbryd pob un i 'w Elfen
Gan hynny teimled pawb eu taith,
A 'u hynod waith, eu hun'en [~ eu hunain].

[td. 31]
Rinallt.
Yn Siwr mae genti [~ gennyt ti] heddyw
Ryw ryfedd daeraidd dwrw,
Rwi 'n tynnu 'n awr at dri'giain [~ drigain] Oed
Ni fyfyriais erioed, am farw.

Tom.
Wrth gofio mae genn 'i [~ gennyf] chwi newydd chwerw
Mae 'ch Mam anwyl wedi marw,

Rinallt.
Na ddô erioed mi wranta fi
On [~ oni] ddigwyddodd iddi, dorri gwddw [~ ei gwddf].

Tom.
Oni all'se [~ allasai] hi farw fel ei Chym'dogion [~ chymydogion].

Rinallt.
Na; roedd hi 'n wraig iachus a dannedd gw'chion [~ gwychion],
D' oes [~ nid oes] Achos i neb debygwn I
Feirw ond eiff y rheini, 'n fyrrion.
Roedd hi 'n Anghynefin a ffâr fon'ddigedd [~ foneddigaidd]
Têa a rhyw Gigau a bara gwyn gwagedd
Pe Ca'wsei Uwd a Llymru a bara llaeth
Ni f'ase'i [~ fuasai] hi gwaeth; gan mlynedd.
I bwydydd breision Sy 'n gryfion eu Gravee
Wnaeth i 'r hen Wreigan druan Ollwng drwyddi,
A bod ymysc Saeson, mi gymra fy llw,
A'i chrugodd hi farw, i 'w chrogi.

Tom.
Ni wiw i chwi gwyno 'n unmodd
Eich colled hi fy [~ fu] fyw tra gallodd
'Phan [~ a phan] ffaeliodd drin ei hen droell dradl
Ei hanadl, a ddihoenodd.

Rinallt.
Nid oes genny ddim ond ofni weithan
Bydd ei hysbryd hi 'n hyllig yn codi allan
'Ran [~ o ran] roedd ei dichell ar bob tro
'N gynddeiriog am guddio, Arian.

Tom.
Fe allei o's gwnaeth hi felly
Mae accw bydd hi 'n baeddu
Ond mae genny farnad [~ farwnad] yn dweud, yn fwyn,
Eich colled ar dwyn; am dani.

Rinallt.
Mi glywais y bydde'i 'r hen brydyddion,
Yn gwneud barnad's [~ barwnads] i wyr a gwragedd c'waethogion [~ cyfoethogion]
Gad dy glywed ditheu 'n deg
'N ei ganu 'n landeg, Union.

CANU ar Lef caer Wynt.

Gwrandewch ar Alarnad neu farnad [~ farwnad] a fernir
Oer larwm am Lowri mewn Cyni ddatcenir,

[td. 32]
Hen Wreigan rywiog'edd [~ rywiogaidd] wych agwedd i 'w Chegin,
Fy 'n cadw 'i mab Rinallt cyn laned a brenin
Hèl llau 'mhob [~ ym mhob] llain a 'r Chwain o 'r Chwys,
O gylch ei groen a golchi grys,
Gwraig dacclus foddus fuddiol,
A drwsièi gloseu 'n glysol [~ dlysol]
Gwnae 'Saneu [~ hosanau] yn gysonol
A nydde'i lîn Olynol,
A chribe'i 'n bleidiol wlan a blew,
O newydd iddi Lowri lew.
Hi weithia'i 'r Nos wyth awr neu Naw,
Hi gode'i 'r boreu i 'mgydio [~ ymgydio] a 'r baw,
Ni fu a llaw, ar gosun,
Mwy hollawl am ei henllun
Hi drine'i laeth ag Undyn,
A hallte'i 'n fanwl fenyn
Y gadwe'i flwyddyn gyda 'i flew;
O newydd, &c.
Mae 'n chwith i 'r Nifeiliaid [~ Anifeiliaid] mewn dwned am dani,
Ieir Hwyaid a Gwuddau a Moch Sydd yn gwaeddi,
A 'r llouau [~ lloeau] bach anwyl Sy 'n drwm eu hochenaid
A phrin iawn y pora bob buwch nesa 'r pared
Ac mae 'r Ceffylau mewn Coffhâd,
Ar Ychain [~ ychen] oll yn chwerw eu nâd,
A 'u brefiad, yn abl brifo,
'R calonau clau a'u Clywo
Trem galar trwm ag wylo
Wnae gwn a Chathod chwitho,
Wrth aruthr deimlo 'r Anrhaith dew,
A gaed y leni am, &c.
Hi aeth i 'r Nefoedd am wn I,
Ag onide' gwae [~ ei ]Henaid hi,
N iach iddi wedi'n wydun [~ wydn],
Fyth unwaith gael llaeth enwyn,
Na dwr i oeri ei durun
Os aeth i gôl y gelyn,
A'i Chorph yn rholyn fel y Rhew
Ffarwel am dani Lowri lew.

Rinallt.
Wel newydd i 'w henaid hi er hynny
Ond mi a fynna 'i dal gonest iti am ganu
Roedd fy mrawd yn o fawaidd er cyn gwyl fair
Na chawswn air, i 'w chladdu.

[td. 33]
Tom.
Ni wyddoch chwi Rinallt etto ronyn
Na fydd eich brawd yn bloeddio, ymhen [~ ym mhen] undydd a blwyddyn,
Yn gwneud i chwi chwalu 'ch celfi cû,
Ded'wddwch [~ dedwyddwch] eich ty, a 'ch tyddyn.

Rinallt.
Wel mi dalwn yn ddigon dilys
Hollawl, am Goppi o'i hwllys.

Tom.
Rhowch i mi Arian ni fydda 'i hwy,
'N mynd i Llanelwy, 'n hwylus.

Rinallt.
Dymma i ti Giunea 'fedda [~ ni fedda] 'i fawr arian gw'nnion [~ gwynion].

Tom.
'D yw pobl Llanelwy ddim yn haelion
Mae yno Registers a Phroctors a Chynffon glau,
A rhai tyllau tinau, tynnion.

Exit.

Rinallt.
Os cei di 'r Proctoriaid yn wyr tirion,
Yn rhoddi itti gonffwrdd gad rhwng diawl a 'r gynffon,
Mae nhw 'n Gynffonau ac yn dyllau tin,
'N rhai garw am drin, y gwirion.
Mae hyn yn helynt led anhwylus,
Gwnaed dyn a fynno, fe fydd yn gwyn fannus
O Achos rhyw drallodau o hyd
Sy 'n hyn o fyd, gofydus.
Cesglwch arian, mae 'n flinder chwerw
A mwy blinder gwedi 'n [~ gwedyn] yn Ceisio eu Cadw
Os eir yn dlawd mae blinder Siwr,
Hynod yn y Cyflwr, hwnnw.
Ond mae rhai tlodion hyd y Gwledydd,
Os Câ 'nhwy unwaith fynd ar y plwyfydd
Ni Cheisiant ystreifio na gweithio 'n gû,
Rwi 'n gweled hynny 'n gwilydd [~ gywilydd].
Fe fydd rhai 'n dâll-geibio mae drwg bod yn gybydd,
Mae 'n fwy drwg i ddynion fod yn rhy ddiddeunydd
Yr Hwrio a 'r meddwi a 'r diogi diawl,
A dilyn hawl, Anhylwydd.
Ond mae fy nghalon i mor ystyfnig
I wneud dim a 'r allwyf mewn tymmer hyllig
Cyn 'r ymollyngwyf mewn un llûn;
Yn dlawd mi a 'n ddyn; diawledig.

Entr Sir Tom.

Tom.
Wel Rinallt anwyl, mi ddois i mewn dwned.

[td. 34]
Rinallt.
A gefaist ti geffyl Prydydd Llanrhaied,
Ond ê [~ Onide] roedd rhyfedd i ti ar hynt,
Ddw'd fel y gwynt, mor gynted.

Tom.
Mi ddois I yn ollawl a 'r 'wllys i chwi
Roedd pobl Llanelwy 'n Siarad ag yn holi
Mae nhw 'n disgwyl rhagor yn y man,
O 'ch arian, cyn eich oeri.

Rinallt.
Ni cha 'nhw fawr gen I diolchoch.

Tom.
Chwi weriwch eich gallu cyn y Colloch,
Roedd Cythraul yn eich Corddi chwi bob Cam,
Pan yrre'i [~ yrrech] chwi 'ch mam, oddi wrthoch.

Rinallt.
Darllen di 'r wllys yn bwyllus bellach.

Tom.
Ni chlywsoch i Leni ddim Siarad creulonach,
In the name of Côd ag Amen ydyw 'r dechreu
Ond nis gwn I am ei ganol Sut i agor mo 'm geneu.
There is two trustees for apraising present
Mr. John Trimwell a Mr. Hugh Torment,
Y rhainy Sy edrych na fo ddim gwyrhydri,
Ond pob peth yn lanwaith i gael ei gyflawnî.
In the first place for your Brother Evy
There is two Hundred Pounds of clear Money
And three Hundred again for his daughter Fanny,
Mi ddebygwn mae pumcant ydyw hynny.

Rinallt.
Pumcant o ba beth dwed imi 'n lanwêth.

Tom.
Daucant i 'ch brawd a Thrichant i'w eneth,
Ac mae gwmpas [~ o gwmpas] degpunt etto 'n dost
Yn digwydd ar gost, Cyldigaeth [~ claddedigaeth].

Rinallt.
Oh! r felldith greulon trallodion llidiog
Beth wna'i o gynddaredd wrth y mam gynddeiriog
Pe gwelwn i hi 'r fynyd ymma 'n hyn o fan,
Mi a 'i curwn hi 'n anrhugarog.

Tom.
Ow Rinallt anwyl mae 'n erchyll d' enw
Curo dy fam Sydd wedi marw,

Rinallt.
Ni waeth genn'i [~ gennyf i] pe gwelwn yngwydd y plwy
Hi a Llanelwy, 'n ulw.

Tom.
Gwared ni rhagoch, tewch a rhegi',
Ichwi roedd hi 'n perthyn ni all ymma neb wrthi,

Rinallt.
O mi af at Gyfraithwr heddyw brydnhawn,
Yn hwylus iawn; i ymholi.

Exit.

[td. 35]
Tom.
Wel pe 'r ae chwi heno,
Tu 'g [~ tuag] uffern hi fydde'i 'n gwffio,
A digon tebyg y chwelid y tân,
Wrth ichwi ar hen wreigan, rwygo.
Wel dymma 'r helynt ar dymmer halog
Cenfigen a chynnen ynghalonau rhai chwanog
Mae dull eu gweithredoedd ymhob man,
A 'u geiriau 'n hwy [~ nhwy] 'n anrhugarog.
Ac nid yw 'r holl ofydi, ond rhag mynd i dylodi,
Maglu C'lonau [~ calonnau] mawr a mân, mae arian, fel mieri.
A llygaid rhai mewn dûll eger
Sy 'n chwyddo i fynu o fraster
Am gynnal eu balchder yn y byd,
Mae nhw o hyd, a 'u hyder.
Mae ymchwydd y byd yn treiglo,
Fel Histori 'r blaidd a'r Cadno,
Un yn dw'd [~ dyfod] i fynu a 'r llall yn mynd i lawr,
Bob Ffassiwn heb fawr, orffwyso.
Mae trafael gafael gofid
Fel y tonnau fydd ar Lyn-tegid
Daw un i 'r lan drwy ffwdan ffôl,
A 'r llall ar ei hôl, i 'w herlid.
Mae weithiau 'r tlawd yn derchafu
Ar C'waethogion [~ cyfoethogion] yn gwaethygu,
Y gwâliau 'n cwympo 'n isel eu brî,
Ar Tommennydd yn codi, fynu.
Mae 'r holl bethau hyn yn gweithio beynydd,
I ddangos i ddyn beth yw ei ddeynydd,
Ac nad ydyw 'r tlawd yn Colli bob tro,
Na 'r cwbl yn eiddo, 'r cybydd.
Mae olwyn Rhagluniaeth yn troi 'n galynol,
Nid yw rhedfa yn eiddo 'r cyflym nerthol
Na Rhyfel yn eiddo 'r cedyrn câll
Mae damwainiau 'n ddi bâll, amserol.
Ond Sicrwydd ffordd y bywyd,
Ydyw bod yn dlawd yn 'r ysbryd,
Am hyn mae gennyf ganiad glir
Mewn didwyll wir, i 'w d'weudyd [~ dywedud].

[td. 36]

CANU ar Saillors bold, neu King Charles Delight.

Ymholwn gwelwn beth yw gwaelod?
Y tlodi hynod Sydd o hyd;
Ond nerth ein pechod Ni,
A'i rhoes i boeni 'r byd.
Trwy lais a Pharabl Luciferaidd,
Balchder egraidd lygraidd lid
Daeth gwraidd ag effaith grwn, y Gofid hwn, i gyd,
Cynnhyrfiad g'leini [~ goleuni] rheswm
A chwlwm hunant chwant [~ hunan-chwant]
A wyrodd wawr, hen Adda 'i lawr,
Er blinder mawr, i 'w blant
Wrth geisio ffrwyth gwybodaeth ffraeth,
O driniaeth, da a drwg
Melldithion o bob rhyw, dan ddialedd Duw, a ddwg
Gofalu a chwsu [~ chwysu] am fara
A llawer gwascfa gerth,
A dwyn drwy boen y plant i 'r byd
Mae 'n ofyd, ymhob nerth.
Blinderau dwys i dorri dyn
Mewn Amryw lun, Sy ar led
Pob gwae trallodau llawn, gerwinol iawn, a rêd.
Trom Wïalen lidiog yw Tylodi,
I gosbi a phrofi 'r balch ei ffroen,
Dihartru [~ dihatru] 'r gwisgoedd gwych,
A gwneud yn grych, y Croen;
Yr Israeliaid niwaid newyn,
Anrhaith dygun [~ dygn], i 'r Aipht aeth,
I ddioddeu a 'u bronnau 'n brydd
Tan lawer cystydd caeth,
A newyn mawr Samaria,
Cyfyngdra c'letta [~ caletaf] i 'n clyw
Gwaedd fatter blin oedd fwytta 'r plant,
Yn borthiant, o ran byw.
Caersalem wych ceir sulw mawr,
Gae [~ Gai 'i] thorri lawr, trwy lid
Pechodau oedd dalfau [~ dalfa] dynn, ag achos hyn i gyd
Pen Babel fawr ostyng'ed
Er ffraethed oedd ei ffrost.
'Ddaw [~ ni ddaw] dyn i 'w le heb dynnu lawr,
Ei falchder mawr, a 'i fost.
Doethineb Sydd, yn gweithio 'n rhydd

[td. 37]
Beynydd ymhob peth;
Darostwng balch ei dro, a chodi fô, ar fêth.
Fêl Meirch porthianus mae poeth wyniau
Yn ein Calonau oll ynglyn
Rhaid ffrwyn a genfa ffraeth, cyn tori 'n gaeth, ein gwyn,
Trwy boen a llafur erchyll ofyd
T'lodi [~ tlodi] ag adfyd, d'led [~ dyled] oer gwyn;
Trwy blau Carcharau a chûr,
Mae 'n dolur Ymma 'n dwyn.
A 'n hachos oll yw teimled
A gweled beth yw gwaith,
Llaw ddirgel Duw o 'i ergyd ê,
Er mwyn Enaidie [~ Eneidiau] maith,
Lladd hunan chwant, llwydd anian chwith,
Sef grym y felldith, fawr,
Drwy dynnu balchder dyn, ymhob rhyw lûn i lawr.
Derchafu 'r enw Sanctaidd
Pen rhinwedd pob mawrhad
Cael ysbryd gwan, fel publigcan
A chwynfan am iachâd,
Afradlon ym rhaid rhodio 'n ôl
Drwy edifeiriol fyw,
Lle ceir yr ysbryd coedd
Ar wyneb dyfroedd Duw.
Pan ddelo 'r golwg hyn i 'r galon
O mor hyfrydlon fydd y fraint,
Fe geiff pechadur noeth, gysondeb doeth y Sainct,
Fe dderfydd rheswm Cnawd Ymryson,
Barneu croesion beilchion byd,
Ni fydd gan ffydd un ffair, ond yn y gair, i gyd.
Y gair yw 'r Môr anrhaethol,
Mae 'r llestri gwrol gèll,
Mewn dawn a nerth yn dwyn yn Nuw,
Drysorau byw, o bèll,
Fe brawf y dyn ysbrydol doeth
Bob peth yn goeth, eu gwawr,
Drwy Sain was'naethgar [~ wasanaethgar] Swydd, yn moli 'r Arglwydd mawr;
Ond dyn mewn gwyn drygioni,
A balch drueni, byd;
Rhaid curo 'i lawr ei wawr a'i wynn,
Cyn gwelo er hyn i gyd.

[td. 38]
A dymma r gwaith drwy dymmer gwir,
Boed inni ei gywir, gael;
Yn Ifengc ag yn hen,
Amen amen er mael.

Entr Rinallt y Cybydd.

Rinallt.
Wale, nad elwyf i Landilo [~ Landeilo],
Ond dàl rwyd ti, Atti hi ganu etto,

Tom.
Pe caneu chwitheu glod i Dduw,
Chwi alle'ch fyw, 'n ddigyffro.

Rinallt.
D' oes [~ nid oes] achos imi ganu clod i undyn,
A'm ddim a gefais i etto ganddyn.

Tom.
Pwy debyge'ch Sy 'n rhoi 'n ddi feth,
Eich porthiant a phop peth, Sy 'n perthyn.
Mae 'hediad [~ ehediaid] a 'r ymlusciad [~ ymlusgiaid] wrth eu rhywogaeth,
Y Pyscod, a 'r Milod, yn rhoi Canmoliaeth
A 'r Ych, a 'r Asyn, yn adnabod yn glau,
Eu presebau, parhaus Obaith.
A chwitheu Gybyddion yn chwthu ag yn baeddu
Fel Seirph ar eich torrau 'n ymlusco ag yn taeru
Heb feddwl dim yn y byd ar droed,
A'm Greuawdwr [~ greawdwr] erioed; na 'i gredu.

Rinallt.
Mi ddyscais i 'n hogun gwanllud
Y Credo, a 'r Pader hefyd

Tom.
Eich arfer chwi ydyw cyscu 'n Swrth,
Ond odid wrth, eu d'weudyd [~ dywedud].
Mae llawer creuadur [~ creadur] angall
Yn cael bara beynyddiol diwall
Ond am ei wared rhag y drwg
Rhaid gyrraedd golwg, arall.
Ac am faddeu dyledion 'r ydych chwi mor lidiog
A 'ch natur mor gwning na faddeuwch un geniog [~ geiniog].

Rinallt.
Wel wrth fod yn ffyrnig am bob ffee
A gweithio 'r és I, n gywaethog.

Tom.
Wel beth a dal bod yn ffyrnig felly,
Os bydd dyn Sâd olwg [~ ei olwg] ag wllys i dalu
A'r byd yn ei erbun mewn dygun [~ dygn] daith
Trwy ofid maith, yn methu.

[td. 39]
Ond rhaid yw meddwl y dylid maddeu
Os bydd dyn ag wllys i dalu pe galleu [~ gallai]
Y creuawdr [~ creawdwr] piau 'r eiddo fe âll roi 'n ffri,
I'r un fynno a'i chwi, a'i finneu.
A pham y mae rhai 'n cael geni 'n ddeilliaid,
Rhai 'n colli 'r fywoliaeth tir tai neu Nifeiliaid [~ Anifeiliaid]
Ond dangos fod awdurdod gan rywun mwy,
I dorri drwy, 'r Greaduriaid.
A mawr na ddeallem trwy fwyd neu dillad,
Tu hwnt colli bywch, na cheffyl na dafad,
Y d'lae [~ dylai] gyd ymdeimlad i frawd gwan,
Fod yn cyrraedd o ran cariad.

Rinallt.
Mi dd'weuda [~ ddywedaf]'i 'n glir yr gwir fel gwarant
Ni fedra 'i ddim maddeu o's Collai fy meddiant

Tom.
Nid oes i chwitheu Siwrneu Syth,
Addewydd gael byth, faddeuant.
Ond am y dyn dwl a ffaelio dalu
Mae 'n rhydd ei Enaid o ran hynny
Os bydd yn ollawl mae talu wnae
Gyda 'g wllys ped fae, fe 'n gallu.
Mae treigliad y byd yn troi ag yn Symmud
Ni wiw i 'r Cogail fod yn ddig wrth y Werthyd
Helynt flin yw pobi heb flawd
Chwareu teg i 'r tlawd, am ei fywyd.

Rinallt.
Wel mae gennyt heno yn marn pob dynion
Ryw Siarad go lydan i Swcro tylodion,
Na Son am hyn yna o fewn ein plwy Ni,
Mae ymma ddiogi, ddigon.

Tom.
Nid rhai tylotta sy 'n cael talu attyn
Wrth ffreinsip ar gyfer mae 'r dreth 'n cael i gofyn,
Hen forwyn fonheddig neu wâs fo 'n hy [~ hyf]
Gwedi bod yn rhyw deylu 'n dilyn.

Rinallt.
Ffreinsibiant a 'u ffroenau Syber
Mae 'n rhaid i Denantiaid dalu llawer
Rhwng balchder a diogi Syrthni Sâl,
Fe fagwyd ymma amal feger.

Tom.
Wel er hyn i gyd mae 'r byd yn glynu
Rhai yn ei gynnal, a rhai 'n ei oganu
Un yn gryf a 'r llâll yn wan
A phawb yn cael rhan, er hynny.

[td. 40]
Ond y diawl Luciferaidd ni wneiff lai na phori,
Yngweirglodd naturiaeth lle mae trachwant yn torri,
Ond yr hwn Sy 'n cynnal y gwych a 'r gwael
A ddyle'i gael, i addoli.

Exit. Tom.

Rinallt.
Wel rhyfedd Cymaint ymhob Cymmeu,
Mae dynion penweiniaid yn hêl o ympiniwneu,
Ac anodd yw dirnad yn meddwl dyn
Yn Siwr, pa un, Sy oreu.
Mae unffordd ymma a 'r llâll ffordd accw,
Un yn Sobr a'r llall yn feddw
Un yn fawr a 'r llall yn fâch
Ni fu 'rioed [~ erioed] ddim taerach; twrw.
Ond os bydd genny Olud mi gaf i nilyn [~ fy nilyn]
Geraint a ffrindiau 'n Anghyffredin
Ond os âi [~ af i] 'n dylawd mi wranta fi
Y bydda nhw 'n oeri, 'n erwin.
Nid â'i [~ af i] ddim yn dylawd tros fy nhynnu 'n aelodau
Rwi 'n uchel fy Stwmog mi wnaf bob ystumiau,
Mi dwylla ag a gogia ag a floeddia 'n flin,
Ac mi frathaf i drin, Cyfraithiau.
O mi fym yn Llanelwy dyna 'r lle anwyla,
A welais i 'rioed [~ erioed] nag etto nag ymma
Rwi 'n credu bydda'i mhen [~ ym mhen] tipyn bach
Oddiyno 'n iach, ddianâ.
Roedd pawb mor ollawl eu Cyfeilliach
Yn fy ngalw 'i 'n Feistr, er mod [~ fy mod] yn rhyw fustach
Nid alle'i ddyn weled mewn rhedied rh'ol
A'r f' einioes i bobol, fwynach.
Nhw fuont yn eistedd bawb cyn onested,
Yn 'r Eglwys uchaf nes oedd arnynt Syched
'Ag i 'r White-lion Oddiyno ar fyr
Ni aethom yn yrr, i wared.
A dyna lle buom ni bawb am y bywyd
Yn bwyta dan duchan ag yn yfed Iechyd
A phawb yn llanw cwrw cu,
A Liquors hynny leicid.
Roedd y Register a 'r Proctor yn prattio imi 'n greulon
Ac nid allei chwi ganffod [~ ganfod] un mwynach na 'r Gynffon,
Ni ddywedasei mo 'r llawer (mi gymra fy llw)
Pe talaswn 'i am gwrw, Goron.

[td. 41]
Ond peth bynnag a wariwi rwi 'n fodlon mi wiria,
O hyn i ben trichwrt y fi fydd y trecha,
Mi wranta doi [~ dof i] trwyddi hi ni fydda 'i tro
Weithan gwnaed Ianto, i waetha.

Exit.

Entr Cariad yn Canu ar Galon lawen.
Clywch dderchafiad geirwir Gariad
Pur bwyth bwriad pob peth byw
Dechreuol wreiddiol ryw 'd oes unrhyw heb fy Swydd
Rwi fi 'n gynnhyrfiad gwres Cenhedliad
Teimlad cariad magiad mwyn,
A ddeil bob peth i 'mddwyn [~ ymddwyn], I 'w ryw yn addfwyn rwydd.
Yn llwyr Natur noeth,
Pwynt enwog eirias tân o gariad
A 'm bwriad ymma 'n boeth,
Drwy bob creuadur [~ creadur] byw, hynod yw, anian doeth;
Mae 'r llewod mawr eu llid
A phob aflan fwystfil byd
Yn Cynniweir y 'w Cenawon
Yn gyson iawn eu gyd [~ i gyd]
A chariad piau 'r mawl, allu hawl felly o hyd.
Trwy wynt a dyfroedd moroedd mawrion
Trwy beryglon diclon daith,
Mae cariad fwriad faith, yn berffaith ag yn bur,
Er i Sattan anian wyniau,
Fagu 'n grau, Genfigen gre
Y Cariad Sai [~ Saif] 'n ei le, drwy dân ag arfe dur,
Er digwydd fel y daeth,
Drwy 'r cwymp drueni caeth,
Fe gafodd Cariad, fwy amlygiad
A phrofiad ymma 'n ffraeth:
'R addewyd a roe Dduw, cywrain yw, 'n caru wnaeth.
Ac achos unig yw, adnabod hwn yn Nuw,
Caru 'r ffrwythau gwir effeithiol
Ysbrydol radol ryw,
Ran [~ o ran] dyna 'r nerth a 'r nodd, Swydd union fodd Sydd inni fyw.

Entr y Brenin Angau.
Pwy ydyw hon yn rhwysc ei chryfder?
Sy 'n ymdderchafu yn ei Chyfer?

[td. 42]
Cariad.
Ymhob peth Sy a bywyd yntho,
Mae Elfen cariad yn Congcwerio.

Angau.
O taw a Sôn ti gwirion Gariad
Beth yw dy fawredd a 'th hud fwriad
Pan drawy 'r ffryns anwyla 'n farw,
P'le bydd dy hanes di 'r dydd hwnnw.

Cariad.
Rwi fel y tân ymlaen y tynna,
At y byw Sydd heb eu difa,
Mae 'n Elfen Cariad fywiol anian,
Cymmer y meirw i ti dy hunan.

Angau.
Cym'ryd [~ cymryd] a wnaf ni all neb fy rhwystro,
Bob math ar beth Sy a bywyd gantho,
Mae'nt y Cwymp tan oresgynfa
'N ddarostyngedig i 'm dyfodfa.
'Chadd [~ ni chadd] neb erioed ddiangfa o 'm gafel
Oddieithur [~ oddieithr] dau ysbiwyr dirgel
A rhain by orfod trwy fawr helynt
I'w Meichiau dalu 'r eithaf trostynt.
Os Cadd y Pysc ddiangfa 'r diluw,
Mae genny awdurdod ar bob cyfryw,
Ar bob creuadur [~ creadur] brenin ydwy
Mi ges fy nodi 'n ddychrynadwy.
Oh! fel y bydd natur yn och'neidio [~ ocheneidio] ag yn ofni,
Pan fo mhyrth [~ fy mhyrth] haiarnaidd i 'n Cau arni,
Rwi 'n deyrn mor ofnadwy 'n peri dychryndod,
A wna 'i wregys lwynau 'r Cedyrn ymddatod.
Myfi ydyw 'r un mewn gwyn anigonedd
A lwngc o 'r holl ddaear bob peth a 'm Cynddaredd
Mi dd'weuda [~ ddywedaf] am lais Utcorn hâ hâ heb la is Acto
Aroglaf Ryfel o bell, twrf T'wysogion [~ tywysogion] a bloeddio.
Myfi yw 'r Lefiathan 'does le i mi fethu
Mae pob peth yn ollawl i 'm pwyth yn allu
Dwr, Tan, Daear, Awyr, Elfennau naturiaeth
Sy 'mi [~ imi] 'n ymwroli at achos marwolaeth;
Mae Cerig a choed a ffrwyth Gerddi a maesydd,
Bwyd, diod, a dillad Gwres, oerni, a phob tywydd,
Galwedigaeth eu dwylo tu ag at eu Cynnhaliaeth
Sydd genyf i filoedd 'n offerynnau marwolaeth.

Cariad.
Mae lle imi etto godi mhen [~ fy mhen],
Er bod dy Sen, di 'n hagar

[td. 43]
Ni ellaist niweid [~ niwed] a'th law grêf
I Arglwydd Nef, a daear.
Dyna 'mrhiod [~ fy mhriod] hynod I,
Mi allaf Waeddi, allan,
P'le mae dy golyn dygun [~ dygn] di,
Mewn gafael i mi, 'n gyfan.
Er mae Cnawdol oeddwn I,
Ac mewn trueni Cwympo,
Yn y Cnawd Congcweriodd ef,
F' ymddiried gref, Sydd ynddo.

Angau.
Peth mawr ydyw marw a chwerw loes Angau
Fe grynnodd rhai gonest gan ernest fy nyrnau
Ni chadd yr un mawr Wyt ti 'n Son am dano,
Ond triniaeth annelwig pan oedd tan fy nwylo.
Wrth iddo dalu i mi 'n dirwy neu 'r fforffed
Mi a 'i gwesgais, hyd nes y dolefodd mor galed,
Ond oedd y Greadigaeth yn galaru ag yn Cyffro,
A th'wllwch [~ thywyllwch] ar y ddaear fe ddarfu 'r Haul ddûo.

Cariad.
Ymhen y tridiau gwnaeth ê 'r tro
Yn ddilys o' dy ddwylo,
Dyna 'r faner ynddo fe,
Cadd Cariad le, i gongcwerio.

Angau.
Wel congcwerie'd pawb eu goreu
Gwr gonest cywir Wyf fi Angeu
Ni wna 'i er maint fy holl rymuster
Gam ag undyn yn ei fatter.
Ac yn fy llywodraeth ymma beynydd
Y mae 'n Ogyfuwch pawb a 'u gilydd
Yn gymmaint ma'i [~ mae] 'r un dyled a chyfri
Sydd ymma heb Ommedd ar bawb immi.
A thrwy fy ehang fawr lywodraeth,
Nid oes Gariad na rhagoriaeth,
Rhwng un a f'asei [~ fuasai] frenin llydan,
A'r Caethwas mwyaf distadl allan.
Rhai f'asei [~ fuasai] gynt yn gedryn trawsion,
Yn mynnu mwy na 'r hyn oedd gyfion,
Trwy nerth Cleddyfau erchyll driniad
Neu trwy Gyfraithiau gwyr gam frathiad.
Mae'nt yn Cydfraenu 'n wael eu helynt
Ar rhai buont gas Anghyfion wrthynt

[td. 44]
Mor gymmysc na ellir mewn Mynwentydd
Ddidoli eu hesgyrn Oddiwrth eu gilydd.
Oh! rhyfedd y gwastadle eglur,
Mysc [~ ymysg] dynol ryw Wyf fi 'n ei wneuthur,
Hyd onid yw y Tlawd Weinidog
Yn mwynhau 'r un fraint a 'i feistr C'waethog [~ cyfoethog].
Yr hwn fu 'n poeni 'n llwm a gwagfol
Yn cael 'r un bwrdd, a 'r Gwr danteithiol;
Ar un fu 'n rhwym gan gaeth gadwynau,
Yn 'r un rhydid [~ rhyddid] ar hwn a 'i Caethiwaseu.
Gan hynny gweled pawb yn gall,
D' oes ffafor i neb, y naill mwy na 'r llàll,
Meddyliwch mewn pryd, ma'i [~ mae] lle Cwympo 'r pren,
Bydd ei drigfa 'n Syth, heb byth gael pen.

Exit.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section