Adran o’r blaen
Previous section


Cariad.
Oh gwiliwch iddo gwympo Arnoch.
Ar farch du pryd na ddisgwylioch
Ac Uffern eigion a'i ffwrn eger
Wrth ei Sgîl, a 'i nerth Ysgeler.
Dyna 'r lle mae Angau 'n chwerw,
I 'r dyn anniwiol wrth ei farw;
Ond i 'r duwolion, ar da Waelod
Cymwynasgarwch yw ei ddyrnod.
Canys i 'r rhai, a elwir Sainctiau
Mae ffordd hwy trwy ardaloedd Angau
Ond ni all ei niwed mo 'u gorddiwe's,
Mwy na 'r tan i 'r Llangciau o 'r ffwrnes,
Er hyn mae fflam; drwg Angau 'n hedfan
I Losgi dillad y rhai tu allan,
Ond a fo tu mewn, i 'r Cariad effro
D' oes [~ nid oes] dwfr na thân all ei niweidio.
Yn ol cael golwg trwy Or'chafiaeth [~ oruchafiaeth]
Ar borthladd dymunol, Iechydwriaeth
Ca'nt ddweud yn llawen trwy Orfoledd
P'le mae dy golyn Angau gwaelaidd.
Trwy ddyffryn tywyll cyscod Angau
Mae Cariad beynydd yn dal eu pennau
Fel bo'nt er lles yn Cynnes ganu
Gwyn fyd, a allei ganu felly.

[td. 45]

CAN ar Dorsettshire March.

O bechaduriaid dewch ar dwyn
I wrando cwyn a mwyn ddymuniad
Y gwiwlan Air Sy in [~ yn] galw 'n ôl,
I gyredd grasol Gariad.
Mae llef yn gwaeddi nos a dydd
Yn 'r Heolydd, oh! mor 'helaeth [~ ehelaeth]
Y rhoddir gwa'dd [~ gwaedd] i bawb ar goedd
I diroedd, Iechydwriaeth.
O 'r fath Gariad wiwrad eiriau
Y Carei Dduw, ni pan roe 'n ddiau,
I Fab yn Aberth dros enaidiau
Ow na wele'm ninnau, 'n wiw,
Mae goreu dawn yw Caru Duw.
P'am [~ paham] y Carwn hunan hyder,
Byd, a Chnawd, a Thwyll, a Ffalster,
Caru Elw, Caru Pleser,
Caru Balchder, Ofer yw;
Caru dim, ond Caru Duw.
Pan ddel Angau blaunau blîn,
I 'n treiglo a 'n trin; yn flin Aflonydd,
Beth daleu [~ dalai] Cywaeth, i enaid gwan?
Yn gorwedd dan, ei gerydd;
O! mor Werthfawr ymma Wawr,
Y Cariad mawr, a 'i wirfawr Arfaeth,
Congcweriwr diawl, yn Cario 'r dydd
Ar Wely prydd, Marwolaeth.
Dyna 'r pryd bydd gwynfyd ganfod
Cariad rhad Maddeuant pechod
A Cholyn Angau 'n ddi awdurdod
O faint rhyfeddod, hynod yw;
Trwy gyrraedd dawn, trugaredd Duw.
Derfydd byd, a derfydd traffe'th [~ trafferth],
Derfydd ofn, a derfydd trwblaeth.
Derfydd ffydd, a derfydd gobaith;
O! 'r Or'chafiaeth [~ oruchafiaeth] odiaeth yw;
Angorion teg, ynghariad Duw.
Rhyfedd Gariad Sydd ar goedd,
Rhyfedd filoedd, o Afaelion;
Cariad rhad, yn curo 'n drwm,
I ddatod Cwlwm, Calon.

[td. 46]
Wrth ein drysau mae 'n Ymdroi,
Ninnau 'n ffoi, gan gloi, heb glywed,
Ei Alwad rhyfedd lawer tro,
Mae 'n Achwyn Oh, fynyched,
Pa sawl gwaith mynase'i galon [~ mynasai ei galon]
Dan 'i adenydd dynnu dynion
Fel y Casgl yr Iâr ei Chywion,
Mewn Cynnheslon; raslon ryw,
Oh! 'r Wllys da Sy mynwes Duw.
Dymma 'r Cariad fu 'n rhagori
Patriarchiaid, a Phroffwydi;
Apostolion; a Merthyri, goleini rheiny glana rhyw:
Cywyra dawn, oedd Caru Duw.
Ac Oh! na fydde'i ninneu 'n awr,
Yn fach a mawr, yn ceisio 'i mwared [~ ymwared],
A maint ei Gariad ef heb gôll;
I alw oll, i Wiliaid.
Er bod unfed awr ar ddeg,
Yn hwyr adeg o Anrhydedd,
Sef deg Gorchymyn heb iachad,
Mae cariad ymma 'n Cyrr'edd [~ cyrraedd],
Y Nef ei hun yn bwrw o honi,
Lenlliainwych wedi llennwi,
Rhad Efengyl Anwyl inni, oh 'r daioni hynod yw;
Egoriad hael o gariad Duw.
Gweddied pawb am nerth a theimlad,
I fynd trwy 'r byd a 'i holl gymmysciad,
A 'n golwg hyder ar y Ceidwad
Yn ei gariad, enwog yw,
Gwna ni ymma 'n ddoeth Amen o Dduw.

Entr Rinallt y Cybydd.
Wel Siarad am gariad rwyt ti mor gywren
Mae 'n hapus dy lewyrch fedru bod mor lawen,
Rwi finneu 'n ddyn ped faw'n i haws,
Ymron torri ar fy nrhaws, o Genfigen.
Mi fedrwn fynd ar fy ngluniau 'n lanwaith
I lwyr felldithio 'n Gwyr o Gyfraith,
Hwy aethont gyda 'u Cyfraith gam
Yn filain a'm bywoliaeth.

[td. 47]
Cariad.
Ymgroesa rhag trueni,
Peth rhugas ydyw rhegi.

Rinallt.
Ni fedrai faddeu fyth yn iawn,
Mi a 'u rhegaf pe cawn, fy ngrhogi [~ nghrogi].

Cariad.
Anfeidrol yw ynfydu; nid y Ni Sy farnu,
Mae Gwr cywir yn y Man; a wneiff ei hunan, hynny.

Rinallt.
Wel beth ydwy nes, oni wnaethont hwy 'n gïedd,
I mi dalu 'n union heb waetha yn y [~ fy] nanedd
A goreu po' Cynta genn Inneu am yr hawl,
Y tynno rhyw ddiawl, nhw 'i ddialedd.

Cariad.
Wel beth pe ba'i Cyfiawnder eglur
Yn disgyn ymma ar bob pechadur
Mae 'n dda bod amynedd barn ddiffuant,
Heb wneud a ni heddyw, 'n ol ein haeddiant.
O rhyfedd y Cariad Sydd in Cyrr'edd [~ yn cyrraedd],
Hwyrfrydig lid a mawr drugaredd,
Fe all maddeuant fod ar feder
Y Gwyr o Gyfraith mwya 'i trawster.

Rinallt
Wel os Maddeuir i Wyr o Gyfraith,
Fe wneir ag y'nw [~ ynhwy] lawer o ffaf'raeth [~ ffafraeth]
Ran [~ o ran] ni faddeua nhwi i undyn mewn un Man
Oni fydd yn rhy Wan, i 'Medlaeth.

Cariad.
A'r llathen y mesuront mae 'n wir y Siarad
Y mesurir iddynt hwytheu 'n ddiwad
O ddiffyg derbyn gras ar daith,
O gywrain berffaith, gariad.

Rinallt.
Yr y'ch chwi 'n wraig wedi bod ar drafael
Yn gwybod peth am Dduw a Chythraul
A wnewch 'i wrando heb fod yn ddig
Ryw 'chydig [~ ychydig], ar fy Chwedel.
Mi draetha 'r gwir o 'r dechreu
Fel y bu rhwng fy mrawd a Minneu
Am eiddo Mam trwy natur flin
Ni a aethom i drîn, Cyfraithiau
Mae mrawd [~ fy mrawd] yn Offeiriad ail i Pharo
Gwae fi o 'm gofyd ymhèl ag efo
Ond mi ês i Lanelwy 'n gynta pêth,
Ac a ddarfu 'm [~ im] am Gyfr'eth [~ gyfraith] gwafro.

[td. 48a]
Ac roeddwn yn coelio unwaith o 'm Calon
Fod pobl Llanelwy yn llêd Angylion
A pheth Oeddynt hwythau 'n haid
Ond diawlaid, o hudolion.
Gwrando ar eu Nonsence yno 'n unswydd
A dowch ymma 'r Cwrt nesa chwi gewch drefnusrwydd
O mi weriais arian olwg serth,
Wrth galyn eu hanferth, gelwydd.
Dweud wrtha 'i rai troue [~ troeau], mod [~ fy mod] 'n Siwr o'r treiàl,
Ac na hidiwn mewn Costau gan gael dywad Cystal
A'r Cwrt nesa drachefn fe fydd y Matter i chwi,
Ond eisiau naw Giunea; i 'w gynnal.
Mi fym felly 'n eu dilyn, i dalu, ag i dalu,
O 'r diwedd mi 'es yn hyllig wrth o hyd gael fy nallu
Mi ganlynes arnyn' hwy 'n bur Sound
Yn y funyd am fy nghount i fynu
Ac ni choila'i [~ choeliaf i] na chefais 'i 'r hen Or'chafiaeth [~ oruchafiaeth]
Roedde nhw o 'm Cwmpas fel cwn wrth Ysglyfaeth
'D oedd dim wnae 'r tro fesur dau a 'r tri,
Ond Arian yn ddi, Doraeth.
Roedd Cost eu Papur yn Mynd yn Anferth,
Chwech Swllt a Cheiniog am bob dimmeuwerth
Heb law peth ffiaidd, iddyn hwytheu o ffîs
At yr Office am eu trafferth.
Ond y felldith iddynt, o wir gaethddioddeu,
F' aeth arnai 'n Llanelwy gost Annaeleu
Mi feddyliais gwedi o 'm Cledi [~ caledi] Clir;
Mae Cyfraith y Sîr; Sy Oreu.
Mi eis at Gyfraithwr o flaen y Sessiwn
Wel fe wnae hwnnw 'n fanwl, imi 'r peth fyd a fynnwn,
A rhwygo a dondio; a thyngu 'i fyn diawl,
Yn ollawl, yr ynnillwn.
Minneu yn fy ffoledd, a Werthais fy Ngheffylau
A ngwartheg [~ fy ngwartheg] a f' ychain [~ ychen], gael [~ i gael] arian i 'w fachau
A ffeeo Counsellors ar draws ag ar hyd
D' oedd [~ nid oedd] dim yn y byd, a Safe'i
Ceisio dau wr o Gyfraeth [~ Gyfraith] i golaeth [~ goledd] ag i galyn,
Un o Ddinbych a 'r llall o Ruthin
Ond yn y diwedd y fi a fu r ffwl
Nhw aethon a 'r Cwbwl, rhyngthyn:

[td. 48b]
Calyn Sessiwnau a gwrando Saisoniaid
Yn gwneud tannedd ar eu gilydd, a thyngu 'n galed:
Ni chefais i fatter yn y byd i ben,
Ond Biliau 'r hen, benbyliaid.
Roedd eu Biliau nhw 'n hwy rhwngthyn,
Nag oedd Harry o Lyn ceiriog o 'r Sawdl i 'r Coryn
A'r ffigiwrs yn edrych gan [~ gyn] dewed a niwl,
'R un fath a ffyn riwl, Exicemyn.
Mi allwn bregethu am hyn brygowthen,
Cyd [~ cyhyd] ag o 'r Foelas, i allt y Rhiw felen,
Hwy aethon ag arian, lond fy hen Gob
Jê filoedd rhwng pôb, fulain.
Mae'r cythraul yn gyfrwysach nid rhaid iddo frysio
Bydd Sicr o honynt, ar ol heno
Fe chweru a nhw rwan, am yr hawl
Ond yn Uffern bydd diawl, yn haffio.

Cariad.
Rhyfedd y twrw Sy mewn drwg naturiaeth
Yn cablu ag yn ymladd mewn amlwg elyniaeth,
Och faint o ddrygioni trueni tra hynod
Sydd mewn ariangarwch yn gwyro rhai i bechod.
Dyma chwi 'n rhoi bai ar Gyfraithwyr trawsion
Heb ystyr na gweled beiau 'ch hen galon,
Cariad a'i archwaethiad rhwng eich brawd a chwitheu
Allase'i heb ddim dychryn Gyttuno cyn dechreu.
Ond Cyfoeth fag falchder a balchder o 'i berchi,
Fel dial taledig Sy 'n magu Tylodi
A Thylodi i rai mewn llid a chynddaredd
Sy 'n debyg o dd'wad i fagu drwg ddiwedd.

Rinallt.
A glywch 'i ond wyt yn pregethu ar redeg?
Mor chwyrn a 'r Cyfraithwyr ond eu bod nhw 'n Saesneg
Am ddim Wy 'n ei ddeall o 'th Siarad ti,
Mae 'n Ladin i mi, mor lwyrdeg.

Cariad.
A'i nid ydwyt yn deall mo 'r gwir wrth i wrando?

Rinallt.
Gwell rydw'i 'n deall, mod [~ fy mod] wedi f' andwyo.

[td. 49]
Cariad.
Os Colli di d'Enaid bydd mwy dy drueni.

Rinallt.
Beth ydyw Enaid wrth y byd a 'i ddaioni?
Fy nefaid, a 'm Gwartheg, a 'm haur, a 'm harian,
A 'r Gwair, a 'r Yd o 'r Ysgybor a 'r Ydlan,
A 'm holl Ger Hwsmonaeth Cywaeth cu,
A gollais o 'r ty, ag allan.

Cariad.
O nad alle och holl drueni
Amynedd a chariad ymma 'ch oeri
Er maint Sy o groesau briwiau brad
Mae Cariad, yn rhagori.

Rinallt.
Cariad go wladaidd Sydd lle bo dylodi
Ni edrychir fawr arnai mi alla farw yn 'r oerni
A'r ol mynd yn dlawd, ni fydd gan neb yn y wlad
Ymma dameid o Gariad, immi.

Cariad.
O mae Cariad pur yn Cyrr'edd [~ cyrraedd]
O Ymysgaroedd Tad trugaredd
Derbynniad rhad Sydd mewn addewyd
I'r Tlawd a 'r llwythog isel ysbryd.

Rinallt.
Nid yw f' ysbryd i ddim yn isel etto,
Er fy mod yn eiddil o ran eiddo
Mi felldithia ag a dynga ag alwa 'r diawl
Ac a rega 'r Sawl, a ngrhugo [~ fy nghrugo].

Cariad.
Rhyfedd druenus ydyw dy driniaeth.

Rinallt.
Yr ydwy fel digon Sydd yn y Gymdogaeth.

Cariad.
Ow beth am farw wedi 'r cwbwl,

Rinallt.
Ymgrogi, neu foddi, fydda'i weithiau 'n ei feddwl.

Cariad.
Ymgroesa gweddia rhag drwg ddiwedd
Rwyt yrwan yn deilwng o Uffern a'i dialedd.

Rinallt.
Ond oes arnai beynydd o ran y byd
Ryw ddyrus lid, a chynddaredd.
A barn pawb ar gyfer pa fodd na Wallgofa
Wrth feddwl ryw ddiwrnod y fywoliaeth oedd arna
Ac yrwan heb perchen dim yn y byd,
Ond y gofyd ar llid, yn gyfa.

Cariad.
Cyflwr truenus iawn yw hwnnw
Drwg i fyw a gwaeth i farw.

Rinallt.
Nid oes i mi na hwyl na hedd
Digllonedd, Sy 'n fy llanw.

[td. 50]
Cariad.
Diglloneidd [~ dicllonedd] ysbryd iw [~ yw] 'r gofydi
A 'r pryf cydwybod Sydd byth yn poeni
Edifarhewch a throwch at Dduw,
Rhag Syrthio i 'r cyfryw, drueni.

Rinallt.
A dâl imi droi yn fy ngrhynswrth [~ nghrynswth] fel ymma
Megis pe trown i 'r groes ffordd nesa
Neu droi wrth Aredig yn ddiddig ddwys
A tharo i 'r gwys, agosa.

Cariad.
Rhaid ichwi 'n gyntaf deimlo 'n bwysig
Eich bod mewn cyflwr llwy'r [~ llwyr] ddamnedig
Ac nad oes fodd o 'ch rhan eich hun,
I chwi fod yn ddyn, Cadwedig.

Rinallt.
Wel dyna anobaith felly 'n dechreu
Mi a fydda yn ei chanol yn waeth na chynneu

Cariad.
Na; dyna 'r lle mae 'r meddyg rhad,
Yn datcuddio 'i gariad, goreu.
Y newynog, a 'r Sychedig, a chalon ddrylliad,
A'r tlawd, a 'r blinderog, a 'r llwythog, mewn llithriad,
Dyna 'rhai; mae prynnwr hedd,
Yn ei gyrr'edd [~ gyrraedd], yn ei gariad.

Rinallt.
Rwi finneu 'n ddyn atcas diras dirym,
A chwedi ymrwystro mewn llawer ystym,
Os medr ef newid, un mor anuwiol,
Fe fyddei gymmwys iddo gael ei ganmol.

Cariad.
Gyda pharch dyledus, y dylid ei gofio,
Mae pob rhyw beth, yn bosibl iddo,
'D oes eisiau dim, ond gwir adnabod
Y modd mae fe 'n, Iachawdr pechod.

Rinallt.
Ow beth a wnai rwan a minneu mor euog?

Cariad.
Credu ag edifarhau yn rhywiog.

Rinallt.
Pa beth ychwaneg iw [~ yw] 'r 'cychwynniad?

Cariad.
Gwrando 'r gair a 'i dderbyn drwy gariad.

Rinallt.
Pa le gwrandawa'i oreu dywed?
Pa un ai Dissenters ai Methodistiaid?
Mae achos fy mrawd a ddrygodd fy mrî,
Gasineb rhyngw [~ rhyngof] I, a Phersoniaid
Rwi 'n coelio bydd uffern yn bur ddiffaith,
Rhwng Perssoniaid a Gwy'r [~ gwyr] y Gyfraith,

[td. 51]
Nid aê neb yno ar gount yn y byd
Os gellir diengyd, ymaith.

Cariad.
O taw a chodlo d' ofer chwedlau
Can's anystyriol iawn yw d' eiriau
Os cefaist gam ymhetheu 'r byd,
Meddwl y dylyd [~ dylid], Maddeu.
Gwrando 'r gair lle bo'i berffaithrwydd
Dysc farw i 'r Ddeddf, a byw i 'r Arglwydd
Dyna yw nod sy 'n bod yn bur,
Yn Nuw 'n greuadur [~ greadur], newydd.

Rinallt.
Ond oes gan y Babtise ymma ryw bwtti
A Olchid fy nrhachwant [~ nhrachwant] pe baid yn fy nrhochi [~ nhrochi]
Mae rhai yn rhûo ag yn dwndro ar daith,
Fod Rhinwedd yngwaith, y rheiny.

Cariad.
Ni thal traddodiadau a doniau dynion
Mewn Gwin nag olew heb gyfnewid y galon
Nid yw Elusenau, na Gweddiau maith,
Heb Gariad ond gwaith, gwirion.

Rinallt.
Mi dynna 'r gorchgudd oddiar fy wyneb,
Ac a daflaf yn landeg holl offer creulondeb
Mi ddioscaf wisgiad cybyddod blin
Ac a ildiaf i drin, duwioldeb.

Cariad.
Dyna 'r modd goreu mewn hawddgarwch
Dilyn bur Gariad ar fwriad Edifeirwch
Mae bendith i bawb sydd felly 'n byw,
Cyhoeddodd Duw, cei heddwch.

Exit.

Rinallt.
Wel bobl anwyl mae 'n bryd blino
Ar drwst y byd a 'r cwbl Sydd ynddo
Cariad a Heddwch wrth angenrhaid,
I'm enaid, rwi 'n dymuno.
Rwi 'n profi yn fy nghalon fwy o ddiawlaid
Nag sy ar helw undyn o Nifailiaid [~ Anifeiliaid]
Ni fu Cain a Saul na Suddas ar droed
Nag Esau erioed, mor gased.
Gobeithio Ca'i nerth oddichod [~ oddi uchod],
I ymadel a llygraidd pechod
Ac i edrych ar y ddaear fyddar fud
A'i thrysorau 'i gyd, fel Sorod.
Ni feddwn o 'n rhan ein hunen,
Ond melldith llid a chynnen,

[td. 52]
Oni chawn brofiad o'r cariad gwir
Ni a fygir gan Genfigen.
Dymunwn gael trugaredd
Yn rheol y gwirionedd
Yn ffordd yr Heddwch a 'r mawrhad
Le mae 'r Cariad rhad, yn Cyrr'edd [~ cyrraedd].

Entr Sir Tom.
Name a goodness yr hen Gadno
Ydych chwi 'n dal atti hi etto
Beth a ddarfu rywun Sydyn Sail?
Eich newyd [~ newid] a 'ch ail, renewio.

Rinallt.
Rwi 'n dechreu newid fy ffordd anuwiol
Mi fym ormod Osywaeth [~ ysywaeth] yn was i 'r diafol.

Tom.
Ai ymrafael cyflog sy 'n gwneud i chwi
Ymado 'n ddi ammodol.
Ffei rhyfedd gennyf 'i etto
Na fyddwch yn tynnu, i ail gyttuno;
Mae 'n arw i 'r Gwas, ag ynteu 'n gâr;
Oddiwrth hen feistar fwstro.

Rinallt.
O taw a 'th ynfydrwydd taith anfeidrol
I'w meddwl mynd i fyd tragwyddol.

Tom.
Mae rhai 'n mynd yno mewn chydig [~ ychydig] bâch
A fyddei 'n iâch, ryfeddol.

Rinallt.
Rheitia 'n y byd i bawb ystyriaid
Matter mawr yw cyflwr Enaid.

Tom.
Wel odid o Gybydd hyd yn hyn
A welais i cyn, dduwiolaid,
Ond ymh'le [~ ym mha le] cymerodd hi chwi heb gam eiriau
Yn eich pen ai'ch tin, neu rai o 'ch aelodau,

Rinallt.
Yn fy nghalon Eigion I,
Mae 'r dychryn wedi, dechreu.

Tom.
Fe ddechreuodd felly o ddeheu
Yr unig lannerch yw 'r Caloneu
Cyrr'edd [~ cyrraedd] Cariad a phrofiad ffrî
A'm Enaid y bo chwi, a minneu.
Mae cariad yn cuddio 'n ddiau
Liaws afrifed o bechodau

[td. 53]
Ail ymwisco er llwyddo 'n llon
Yn y fynyd hon, wna finneu.

Rinallt.
Mae 'n bryd inni bellach bwyllo
Ynfydrwydd inni ddal i foedro [~ fwydro]
Oblegid mae 'r amser dymmer dwys
Ag y dyla'i fod pwys, yn passio
Oh! 'r amser gwerthfawr odiaeth
Aeth genny 'n ddi ammeu ymaith
Yn dilyn gwagedd lygraid lid
Drwy hoffi 'r byd, a 'i drafferth

Tom.
Mae dynion ynghymru heno
Lawer wedi lled oleuo
Ac er hynny a bywyd rhydd
Yn ddiffrwyth o grefydd effro.

Rinallt
Dyna yw 'r ddamnedigaeth,
Ddyfod goleuni i 'r byd mor 'helaeth [~ ehelaeth],
A dynion yn caru 'r tywyllwch ffri;
Yn fwy na 'r g'leini [~ goleuni], glanwaith.
'Ran [~ o ran] y Gwas a wybu 'n eglur,
Ewyllys ei Arglwydd ag heb ei wneuthur,
A geiff ei ffonodio a llawer loes,
Ac nid y'w [~ yw] ond moes, gymesur.

Tom.
Mae ymma ddynion a wyr drwy ddoniau,
Mae drwg yw meddwi 'n lle mynd adreu
Ond f' all rhai fod yn moedro [~ mwydro] ag yn pwnnio peth,
Mewn bariaeth, cyn y boreu.
Ac fe alle'i 'r Ifieingctid [~ ieuenctid] hwynteu
Ymroi 'n rhy garedig efo 'u Cariadeu
Ac y bydd rhai 'n barnu mae ni trwy 'r byd,
A 'u tynoedd [~ tynnodd] 'i ymlud, eu tineu.

Rinallt.
Fe ddarfu am hynny inni rannu 'r gwirionedd
Ac ni allwn wrth Dwyll, na Rhagrith na llygredd
Mae llawer dan bregeth fel Suddas eu brawd
Yn drysu yn y Cnawd, a'i drosedd.
Ond fe ddichon y rhai mae Duw 'n eu caru,
Gael y gair yn gweithio drwy ffolineb pregethu
Can's mae pob peth; lle bo Cariad ynglyn,
Yn gweithio mewn dyn, er d'ioni [~ daioni].

[td. 54]
Gwyn ei fyd, a gaffo 'i gyflwr,
Ynghariad y Gwaredwr
Ni waeth pa beth a fo Angau drud
Cwynion y byd, na 'r Cynnwr [~ Cynnwrf].
Peth anhawdd i wraig Anghofio
Ei hanwyl blentyn Sugno
Er i honno ei garu, yn iach a chla,
Mae 'r Cariad ymma, 'n Curo.
Mae hwn yn dal mewn undeb,
I garu ynrhagwyddoldeb [~ yn nhragwyddoldeb]
Pan ballo ffydd a gobaith gwiw
Mae llawenydd Duw, yn ei wyneb.

Tom.
Ymh'le [~ ym mha le] doi'r [~ deuir] o hyd i 'r fath gariad di ddarfod.

Rinallt.
Ynnom ein hunain mewn rhan hynod
Mae pob pechadur gwaetha sy 'n fyw
Ac Elfen Duw, yn y gwaelod.
Anadliad o'r Cariad goreu
Ydyw Enaid pob dyn o 'r dechreu
Ond fe Golled yn Adda ddalfa ddwys
A chadarn bwys, pechodeu.
Ond, mae 'r gareg callestr er y collo,
Mewn dwr, neu ddaear a'i darnio a'i dûo,
Fe ellir yn glir drwy foddion glan,
Ennyn tân, o honno.
Ac felly Pechadur Oerddu
Pan ddechreuo 'r gair gynnhyrfu
Mae fel Corsen ysig yn cael ei drin
Neu megis llin yn mygu.
Mae Eneiniog yr Arglwydd yn ymguddio
Tu hwnt i 'r Dodrefn; ond edrych am dano,
A rhaid chwilio am ddryll arian wedi colli 'n Swrth,
Mewn gobaith wrth; ysgubo.
Yn y Maes mae 'r perl a guddiwyd,
Rhaid Cloddio yn y man lle 'i claddwyd,
Ac mae ymma bridd a cherig bras;
Yn dewdwr cas; lle 'i dodwyd.
O ran fe chwyddodd, pridd Coch Adda
Gan gymaint fu o chwalu wrth balu a chybola

[td. 55]
Ni cheiff neb ffrwyth daear ffress
Lle darfu Foses faesa.
Ond fe aeth rhyw wr a 'i Arad [~ aradr]
Heb droi yn ol; ei edrychiad:
Ac mae ganddo Hadyd, yn ei hau
Sy 'n cyrraedd Cwysau, Cariad.
O lafur hwnnw, roedd y wreigan honno,
Yn cael y blawd i 'w lefeinio,
Ac effaith lefain; ffrwyth y loes,
A dreiddiodd ei thoes, hi drwyddo.
A'r bara hwnnw 'n burion,
Archwaethodd y Mab Afradlon,
Pan oedd ar lwgu [~ lewygu], ymhell o'r wlad
Fe gofiodd eu Dad; oedd gyfion.
Er darfod iddo bechu,
Roedd e 'n blentyn mewn rhan er hynny
Ac nid y Gweision ond y gwir blant
A fyddant, i ettifeddu.

Tom.
Wel mae ymma amryw barnu
Dy fod ti ar y gwaethaf i bregethu
Can's beth a dal pob eitha dysc
'S [~ os] ceiff drwg yn ei mysc, gymmyscu.

Rinallt.
Ond ydyw 'r doethineb wedi thanu [~ ei thaenu],
I adel i 'r Gwenith a 'r Efrau gyd tyfu.
Hyd ness y delo 'r clirio clau,
Diwrnod glanhau, r llawr dyrnu.
A'r hen lawr dyrnu pe bae'ni 'n dirnad
Y cadd Teml Soloman gynt ei Seiliad,
A hen lawr dyrnu yw calon dyn,
Lle dyla'i fod 'r un, adeilad.
Mae calon pechadur, pe coeliem ni 'r chwedel,
'R un fath a Hall Farchnad neu lawr dyrnu i 'r cythrel
Ond awdurdod y gair yn ddiwair dda
Eill wneuthud ymma; Demel.
Ond mae gwneud Temlau o gnawd tomlud,
'Ran [~ o ran] elw 'r gweithwy'r [~ gweithwyr] gael gwthio'u celfyddyd;
Ychydig sy 'n ceisio ymbwyso a byw,
A Theml Duw, yn 'r ysbryd.

[td. 56]
Mae gweniaeth diawl yn gwneuthud Eulyn,
Clwt newydd a'i Wnïo i fritho 'r hen frethyn
Un diawl Pharisead yn gweled gwall
A diawl arall, yn Dailwrun.
Fel hyn mae 'r noeth am wneuthur
Arffedogau o ddail ffigys natur
Yn lle gwneud aberth o gnawd Oên,
A gosod y croen, yn gysur.
Mae duwiau 'r Sarph yn erbun cyflwr,
Hollawl bechadur, a hollawl achubwr;
Yna mae'r Hunan, yn codi mewn rhôch,
Fel y Clywsoch, yn dacluswr.
Gwnaeth Dewiniaid yr Aipht yn fedrus,
Ddarluniad o Wialen Mosus,
Ond roedd gwïalen Cariad er hynny gyd [~ i gyd];
Yn llyngcu 'r bywyd, beius.

Tom.
Wel rwyt yn traethu geiriau
Nid gweddus mae rhai 'n eu goddeu
Oblegid en bod yn Siarad Syn
I ddâl atyn, mewn, Interlutiau.

Rinallt.
P'run [~ Pa'r un] ellir gredu fwyaf gwradwydd [~ gwaradwydd],
A'i Person mewn Gwennwisc yn pregethu celwydd
A'i 'r gwir ger bron mewn gwisciad brîth
'N ddi Ragrith, ar euogrwydd.
Pe bae blentyn mewn Stabl yn cael ei êni,
Raid i hwnnw fod yn Geffyl o ran hynny?
Ac fe dd'weudir [~ ddywedir] weithiau mae 'r goreu gyd [~ i gyd],
A ddaeth i 'r byd, o 'r beudy.

Tom.
Mae natur Balam etto 'n gyndyn,
Er bod cleddyf noeth yn ei erbyn;
Gwell ganddo derfyscu, er gael gwascu ei goes,
Na gwrando noes; gan Asyn.
Ond mae Interlutiau, wiw [~ ni wiw] d'weud [~ dywedud] amgen,
Yn bur debygol i 'r Biogen,
Yn frith ar ei thrô, ag ysgoywedd ei threm;
Ddaw [~ ni ddaw] hi fyth 'r un glem, a 'r G'lomen [~ golomen].

Rinallt.
Wel gwrando di etto atad,
Roedd y Gigfran a 'r Biogen a 'r Glomen 'r un glymiad
Ynghyd, a phob peth; oedd yn haeddu parch;
Y Diluw yn 'r Arch, 'r un dàliad.

[td. 57]
A phob creuadur [~ creadur] yn ol ei gyflwr,
Yn dangos Gogoniant y Creuawdwr [~ creawdwr]
Ond y Llew a'r Oen a'r G'lomen [~ golomen] glau,
Oedd deip o rannau, 'r prynnwr.
Ond gwaelod y dirgelwch,
Sy 'n cyraedd y gwir hawddgarwch,
I'w adnabod y drefn; ydyw 'r un yn dri,
Ynnom Ni, 'n cyhoeddi heddwch.
Dyna lle mae 'r Teyrnasiad hwnnw,
Nid wele ymma, neu wele accw;
Pe pae'd [~ baet] yn gweld fel hynny 'r gwir,
Fe fydde'i ar dir, lai dwrw.
A llai o farnu llygraidd
Gwas un arall; yn gas ag yn oeraidd
Ran [~ o ran] i 'w Arglwydd ei hun, mae pob un lle bô,
Yn Sefyll neu 'n Syrthio, 'n Serthaidd.
Mae pawb wrth natur yn gyd Wastad,
Fel y cauer pob genau rhag un derchafiad,
Rhaid i bob un o dan eu baich,
Gael eu codi gan fraich; y Ceidwad.

Tom.
Wel gad ei chadw ar hyn o chwedel,
A chanu pennill wrth ymadel,
Rhai Safo 'n llonydd yn eu lle,
Cant glywed hoff eirie, o Ffarwell.

Yr EPILOQUE neu 'r diweddglo ar Millers Key.

Y pur wrandawyr diwyd, Sy 'n hyfryd am fwynhau,
Y cnoiad cîl, egniad calon; o Sïon i 'w brashau.
Gobeithio am bawb weithan, yn 'r unfan yn ddi rôch,
Nad ydyw dysc, yn cymmysc ymma
Fel taflu Manna i 'r Môch;
Chwi Welsoch ymma o hyd
Ryw byngciau o ddull y byd
Yn dangos nad yw mawredd
Heb Gariad a Thrugaredd, ond Gwagedd oll 'i gyd;
Mae Tlodi hynod lun,
Fel Deddf yn rhwymo dyn,
Rhaid cael yn rhad fawrhydi,
Neu Weithio rhag Tylodi, trwy boeni 'n gaeth bob un.

[td. 58]
Er maint Sy o drwst a chlebar a thrydar ymma 'thraw [~ a thraw],
Pan ddelo 'r brenin, pur i oresgyn; pob geneu dyn a daw.
Y farn aeth allan eisus [~ eisoes], yn ddawnus o dy Dduw,
Y rhai 'n [~ rhain] y Cariad a gongcweriant, y rhei'ny [~ rheini] fyddant fyw.
Yr ysbryd isel tlawd
Sydd yn Sobreiddio 'r cnawd
Er gwascu c'ledi [~ caledi] arnom,
Ni a gawn lawenydd ynnom, pan brofom pwy i 'w 'n brawd.
Y brawd a wnawd yn un,
I gyd ymdeimlo a dyn,
Er trawster byd ar tristwch,
Er Angau a bedd gwybyddwch; gwnaed heddwch yn gyttun.
Dymunwn am gael profiad o gariad gwir ddi gôll.
Fel byddo 'r Arglwydd a 'i berffaithrwydd,
Llawn arwydd oll yn ôll.
Marwolaeth 'r hwn fu 'n dioddeu
Fo 'n Angau, i 'n Angau Ni,
Fel bo' ni bywiol yn y bywyd,
Mewn rhydyd [~ rhyddid] mwy na rhi;
O rhydyd [~ rhyddid], rhydyd [~ rhyddid] rhad,
Boed diolch fyth i 'r Tad,
A'm rydyd [~ ryddid] yn gyffredin,
I addoli Duw ai ddilyn; drwy 'n Brenin heb ddim brad.
Duw Safo gyda SIOR;
A'r Eglwys gymwys Gôr,
I amddeffyn [~ amddiffyn] er pob cynnen;
R Efengyl lle fo angen, Amen ar Dir a Môr.

DIWEDd

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section