Adran o’r blaen
Previous section

Detholiad o farddoniaeth rydd Tomas ab Ieuan ap Rhys

Cynnwys
Contents

1.Kreawdr y byd a'r nef hefyd, NLW 13081B, 133v-134r ll. 1-20; NLW 13070B, 1 ll. 21-36. (= HG 1)
2.Mab vn Duw byw yw pob Kriston, NLW 13070B, 1-3. (= HG 2)
3.Nid jawn kanmol ond y dwyvol, NLW 13070B, 3-5. (= HG 3)
4.Kreawdr o'r nef, arno e krier, NLW 13070B, 5-7. (= HG 4)
5.Mae vn marchog aurgadwynog, NLW 13070B, 7-9. (= HG 5)
6.Vn gwr i gyd yw'r kadernyd, NLW 13070B, 9-11. (= HG 6)
7.Roed Duw i vawr rhad, NLW 13070B, 11-12. (= HG 7)
8.Duw gwyn a'n gwnaeth, NLW 13070B, 13-15. (= HG 8)
9.Arglwydd Jesu, dros dy garu, NLW 13070B, 15-17. (= HG 9)
10.Y grog yw'r gras, NLW 13070B, 17-18. (= HG 10)
11.O Dduw nef, pa vyd yw hi ar ddynion, NLW 13070B, 18-20. (= HG 11)
12.Kreawdr yn kar, nef a daear, NLW 13070B, 20-3. (= HG 12)
13.Y ddelw auraid ddolurys, NLW 13070B, 23-4. (= HG 13)
14.Gwrandewch ddau air, NLW 13070B, 25-6. (= HG 14)
15.Da oedd edrych ar air Duw, NLW 13070B, 26-7. (= HG 15)
16.Kreawdr pob dim, i ti kredaf, NLW 13070B, 28-9. (= HG 16)
17.Rad Duw a'i ras, NLW 13070B, 29-30. (= HG 17)
18.Moeswch ddodi'n bryd ar Ddewi, NLW 13070B, 30-2. (= HG 18)
19.Ny'm ddireda i dir na da, NLW 13070B, 32-4. (= HG 19)
20.Y gwr a vu ar y groes, NLW 13070B, 34-5. (= HG 20)
21.Pob rhyw Griston glan i galon, NLW 13070B, 35-8. (= HG 21)
22.Duw, n'ad ti gam, NLW 13070B, 38-9. (= HG 22)
23.Kriston wyf j'n kredy Grist, NLW 13070B, 40. (= HG 23)
24.Gwir Duw a'i vab yw, NLW 13070B, 40-1. (= HG 24)
25.Yddwi'n gosod kanu barnod, NLW 13070B, 166-8. (= HG 25)
26.Mae Duw yn dangos i'r byd, Cardiff Free Library 2.619, 21-4. (= HG 26)
27.Gwae vilioedd a sydd mewn gofalon, Cardiff Free Library 2.619, 30-2. (= HG –)
28.Mawr jawn i kerais j'r byd, Cardiff Free Library 2.619, 32-6. (= HG –)
29.Pwy bynag fo gwedy dotio, NLW 13081B, 156v-158r. (= HG 27)
30.Y may dogon ar y gar, NLW 13081B, 160v-162v. (= HG –)
31.Pwy yw'r syr goray oll, NLW 13081B, 162v-164r. (= HG –)
32.Wedy proffer pob man, NLW 13081B, 164v-165v. (= HG –)
33.Gwrandewch arnai bob ryw ddyn, NLW 13081B, 125v-127r. (= HG 29)
34.Rhyfedd ddigon y bob Kriston, NLW 13081B, 127r-128r. (= HG 30)
35.Arglwydd Iesu Grist, er mwyn dy fam, NLW 13081B, 128v-131r. (= HG 31)
36.Y plwyf a'r wlad lle may 'y nghariad, NLW 13081B, 131r-132r. (= HG 32)
37.Yn y pechod 'ddyni yn byw, NLW 13081B, 135v-136v. (= HG 33)
38.F'aeth yn ychel pris yr yd, NLW 13081B, 173v-175r. (= HG 28)
39.Gofyn kwndid ymi y gaf, NLW 13081B, 182r-183v. (= HG 34)
40.Hael blwyfogion harddwych ffyddlon, NLW 13081B, 186r-187v. (= HG 35)

[Kreawdr y byd a'r nef hefyd, NLW 13081B, 133v-134r [ll. 1-20]; NLW 13070B, 1 [ll. 21-36]. (= HG 1)]


[td. NLW 13081B, 133v]
Kreawdr y byd ar nef hefyd
duw ywnaeth tayr iaith yn un gair
yn gyna gryw ar ail ebryw
llading drydy arferwys jesu
ar bedwredd or dialedd
duw wasgarodd yr holl jeythoedd
am bod nin byw yn jaith ebryw
yn doydyd gair byth mynn kredir
ond dewised may duw yn clowed
a hyny y sy ddifai geny
na drwg nada y feddylia
dyn maer drindod duw yny wybod
bwedd y dychyn e wybod hyn
heb y fod ef duw yn y clonef
yddwni yn y tad duw yn wstad
ac may ynte ynonine

[td. NLW 13081B, 134r]
velly may bod yny pechod
ni thrig duw yn hir ond yny cowir
may llid jni yddi ofni
duw yny diawl yn gyndrychawl

[td. NLW 13070B, 1]
grym na gavel yn y kythrel
nyd oes onyd duw 'n y symyd
i mae ynte 'n vrawd i ninne
oddiar y grog yn drigarog
ved yn ddelo 'r dydd i draio
rhwng kam a jawn ve vydd kyviawn
'n y modd i bo 'r dyn pan elo
i 'r bedd o 'r byd velly kyvyd
ond ymolched pawb a 'i waithred
drwg kyn el y ddy bridd wely
pan ddel gairbronn justys kyvion
i hvnan sy 'n kael i varny
nef yn barod i 'r dibechod
i eraill bydd poen dragywydd
ny ddwg vndyn bwys tri gronyn
o bybyr y nef heb daly
Thomas ap jeuann ap Rys a 'i kant 29


[Mab vn Duw byw yw pob Kriston, NLW 13070B, 1-3. (= HG 2)]

Mab vn duw byw yw pob kriston
ag yn byw sydd mewn ffydd ffyddlon
gwyr a gwragedd da a morynion
kyflawn i kred merched maibon
drwy vedydd vry jesu o sain sion
yn oed dauwr mewn dwr avon

[td. NLW 13070B, 2]
[yr] hwnn i kant hwyr plant gwirion
i rhoi 'n y ffydd efrydd mvdion
er i dwyn hwy drwy 'r alldrawon
at i tad dduw yn vywolion
tri chyfaillt sydd nos dydd taeron
gwrthnebwyr duw yw 'r kyvaillon
y knawd a 'r byd ysbryd kroelon
drwg yn troi sy y meddylon
nys gad e y gredy 'n ffyddlon
i kaiff 'n y vyw gan dduw ddigon
kasglad a vydd kebydd kyson
ve gad hwy gyd i 'r byd estron
v' a 'n hoeth lle 'dd oedd gwisgoedd gwychion
gair bronn wrth wys justys kyvion
drwy 'r tan a 'r ja vo gwna gwaison
duw 'n y purdan e 'n lan ddigon
heb vwy o dravl na 'r havl wenngronn
lliw aira nos ne ros gwynion
megis i bu jesu 'r kyvion
yngolwg tri o 'r disgyblon
jeuann ddidro jago simon
pedr i ni yw 'r tri thustion
ve airch duw dad nad y 'th galon
vod llid ynghudd bydd heddychlon

[td. NLW 13070B, 3]
na rho help y 'r traiswyr lladron
na chyngor y 'r twyllwyr ffailston
ro dy dda 'n hu y 'r tylodion
a 'th dir teg rho lle bo kyvion
kar vi na choll o 'th holl galon
os velly gwnav ti gav ddigon
Thomas ap jeuann ap Rys a 'i kant 30


[Nid jawn kanmol ond y dwyvol, NLW 13070B, 3-5. (= HG 3)]

Nyd jawn kanmol ond y dwyvol
anwyvol nyd ody 'n kredy
dall yw a dwl yn y veddwl
byddar a mvd yw e hevyd
ny ad gelyn enaid pob dyn
yddy galon gredy 'n ffyddlon
ny chred e vod mab y drindod
vy ar y grog yn alleog
ag ny chred y 'r ffairad ally
o 'r gairav gna gnawd o 'r bara
na thrwy 'r lladin i try e 'r gwin
yn waed mab rhad vel i dywad
nag i rhwym llen ddwr a halen
i ladd ynghyd y drwg ysbryd
yr hwnn rhagddo maent yn kilo
vel partris rhog yr ysbarog

[td. NLW 13070B, 4]
ny chrede y bax y jesu
dive ganto i vynd e haibo
ny ddychon e i neb i vadde
ag nys govyn yntav i vndyn
yr oen gwirion ymroes dryson
ysy 'n karu yn kusanv
ve rhoes kusan i 'r ysbryd glan
yn ffalst ve gas kusan sidas
pa gyvaillt wyd hebe 'r proffwyd
y 'm kusanv heb vy ngharu
ny char e chwaith vara kyfraith
sy 'n ymdiffyn eneid pob dyn
os kaiff dwyvol o law 'r urddol
v' a i eneid e i 'r nef gole
a 'i gorff yn wir i gysegr dir
bwedd bynnag vo angav yddo
heb ymfoddi nag ymgrogi
ne leas arall megis angall
ny fforffeta gainog o 'i dda
na 'v dir na 'v dy yr wythnos hynny
chwi gewch ddangos Risiart thomas
yr achos ydd wyf j 'n kany
er mwyn erchi rhodd i chwchwi
ny bydd y rhodd hynny /n/ ormodd

[td. NLW 13070B, 5]
pax jesu lwyd i langynwyd
lle nad oes gwell na dryll astell
os rhowch i mi er i erchi
minnav ddweda ywch beth a wna
o daw haibo esgob tailo
na swffrigan i wlad vorgan
mi wnaf yddo i vendigo
a rhoi ar hwnn i bawb bardwn
vel i bo i chwi rhann o 'r weddi
drwy blwyf y llann! vawr a bychan
Thomas ap jeuann ap Rys a 'i kant 31


[Kreawdr o'r nef, arno e krier, NLW 13070B, 5-7. (= HG 4)]

Kreawdr or nef arnoe krier
kredig ir mab jesu kreder
ysbrydawl vn tri nydoes bryder
i ymswyn y groes ar bob amser
a gaisais gan dduw pan ddangoser
mi kevais ystor yw ym kyver
pendevig y wlad penn nad over
dwn rhefn nybo does yn rhyver
a thaliad gan dduw yn lleth alwer
yw gweled dy warr dan aur goler
syr bevys yth gad syr o bwver
syr Ritta gawr wyd ail syr watter

[td. NLW 13070B, 6]
s[y]r lawnslod ir maes lleth sialainsier
sy[r] predyr mae hil hors ny pryder
arevwch na newch yn rhy over
[y]ch keraint ach hvn vwy vwy ych karer
[ll]in harbert ydywch vel llwyn aurber
[a] chedwch ynghyd mawr ywch hyder
a[g] ymborth dy wyr yngwlad gamber
yn llwygys ti gav vrad yn lloeger
oi paido ar hynn ddywad peder
offeren ai throi yn waith fforier
yn gasbeth i ddaeth pylgain gosber
pwy oedi am saith weddir pader
ai mawr chwant ar gig sadwrn mercher
a gwenwyn rhyw ddydd oedd gig wener
nyd rhyvedd na chair mawr waith tryver
na ffrwyth da ar goed ond diffrwythder
llef arythr ywr tir lle llavurier
na chwnnir or yd ywch yr hanner
ve gyvyd ny vysg ydig ever
a maedens a gwyg kyn i meder
ar gwannyd a gan wynt pan gwnner
ny velin ef an dalch ban valer
anevail yw pob dyn or niver
na ymswyn o gair duw vn amser

[td. NLW 13070B, 7]
traeturiaid i ddant ir tarw torer
i pennav ag vyth vwy vwy poener
ail marsia a chwi aml aurser
ych kyty dairoes hir ych katwer
Thomas ap jeuann ap Rys ai kant 32


[Mae vn marchog aurgadwynog, NLW 13070B, 7-9. (= HG 5)]

Mae vn marchog aurgadwynog
Yn rhagori ar arglwyddi
syr siorys sydd harbert ddedwydd
ywchlaw digon o varchogion
o 'ch gwaed y kaid jairll a dvkiaid
ag o wraiddon tywysogion
'dd oedd dduw 'n karu kenedl kymry
pan y 'ch kavad yn lle 'chendad
o rhoes jesu y 'ch tad y ky
glan syr mathias chwi a 'i kavas
i vawr gariad a 'i ddwedvdiad
a 'i ddedwyddyd i mae chwi gyd
mawr oedd ffortyn duw y 'ch kalyn
pan gaich gymryd yn ych jenktyd
vod yn berchen ar ail Elen
verch lan liviog goel godebog
marsia dirion i dylodion
barchys gryaidd arlwyddesaidd

[td. NLW 13070B, 8]
o 'ch dau gorff chwi bo 'n kyvodi
gant aur dorchaid o harberdaid
ny bu berchen dauty hafren
ty o 'ch siwt chwi onyd harri
ny chedwis gwyr gwedy Arthyr
vath gwyr ych llys chwi syr siorys
morgannwg vras tair Gwent, Aeas
a gwyr hevyd a ddichlynyd
kewri gwychion o varchogion
llewod i ladd lle bo ymladd
hwy aent ddwsen a chwi 'n gapden
lle nad elon vil o saeson
mae kapdenni yn kael kodi
gwyr wrth blaked harri wythfed
a pha gwypvn beth a wnelvn
nyd aent o dre dros y trothe
kwnwchwi ych bys bach syr siorys
llyna godi pawb gyda chwi
mae rhai o 'r byd yma 'n dwedvd
mae 'r ffrangod sy yn kinwrychy
ag o disgyn ych mynd atyn
gwae nwy ych dyvod o 'r diwarnod
kymer y 'th law ddvkiaeth llydaw
achos di ddau ty di piav

[td. NLW 13070B, 9]
a gyrr ffrangod megis llygod
i 'r parwydydd a 'i rhoi vynydd
a thi gau 'r byd wrth darfeddyd
a 'th ewyllys di syr siorys
a choroni /r/ wythfed harri
ymharis kynn penn y vlwyddyn
Thomas ap jeuann ap Rys a 'i kant 33


[Vn gwr i gyd yw'r kadernyd, NLW 13070B, 9-11. (= HG 6)]

Vn gwr i gyd yw 'r kadernyd
a brenin ar nef a daear
a hwnn yw 'r tad duw vo kaidwad
ywch syr siorys harbert hapys
sy lew rhywiog hael trigarog
a 'r gair yw dros bell ag agos
wrth gadarn gwych kadarn ydych
ag oen auraid wrth y gwainaid
bardd ywch heddwch o ddigryvwch
a sarff kroelon ych kasogion
mi 'ch kevais chwi ar vy ngweddi
gan dduw i ddwyn aur yn gadwyn
mi gaf ganto ych rhoi chwi etto
lle 'dd oedd ych rhyw chwi 'n jarll kernyw
llyma ddiwedd y deng mlynedd
sydd er pan vy/m/ j yma 'n kany

[td. NLW 13070B, 10]
gwrandewch v' esgys i syr siorys
myn duw meistir mi ddweda 'r gwir
myvi a vy bymp o 'r hainy
yn kael troelo na wrth sywto
a thair ailwaith yn vy llawnwaith
yn taly 'r da vym ny chwyna
ar ddwy eryll gorfod sevyll
lle rhoes ych kar chwi vi yngharchar
yn rhe gynffig sytai yrddedig
ag o vewn gwal kastell tvbal
ag o 'n byse duw katwo e
y jarll da yno i byswn eto
ag y leni vel dyma vi
ailwaith ych llys chwi syr siorys
'dd wyf j 'n ofnys dyvod y 'ch llys
na chair ych bronn ail kaswallon
os chwi a sy yn ddig wrthy
am droi haibo rhag ych blino
gwae vi vlined i mi yn hynged
na bewn wedy kael vy ngladdy
y pendevig 'dd wyf jnnav 'n ddig
wrthychwithe pai gwelwn le
wrth j dwesbwyd yn llan gynwyd
ych ewyllys chwi syr siorys
ddyvod llaidir ailwaith i 'r tir
a dwyn dwy vy oddiwrth vy nhy

[td. NLW 13070B, 11]
bai sy o ladron ved gaer llion
gawr ar ddyfrdwy betai 'n kanmwy
diawl a ddygvn hwy vywch ond vn
oddiarna gwnaen i gwaetha
ag i mae honn yn hen gordon
led hesb ddiog vnllygaidog
tryan oedd hynn bucho i henddyn
dwl byddar hen a dall haechen
onyd dwaised chwi gewch glywed
bwedd i ordra vi hynn yma
maddauwchwi i mi ych oedi
idd wyf jnne yn maddav i chwithe
ni drown waithon yn heddychlon
a chwi vlinwch rhag yr heddwch
os nyd ai 'm hol o nef bydol
i maes o 'ch ty nes vy maeddy
Thomas ap jeuann ap Rys a 'i kant 34


[Roed Duw i vawr rhad, NLW 13070B, 11-12. (= HG 7)]

Roed duw i vawr rhad a llwydd a phen llad
ny twr goler wlad tra gloew i lenn
ty gwyn teg wyd llew ag eryr llwyd
kartre 'r havl wyd kwrt yr hal wenn
kroes dai krist jor mor wynn airw mor
hael a drych jvor hael drychevenn

[td. NLW 13070B, 12]
a gwledd y chwech gwlad yn rhydd ag yn rhad
kael tai adailiad koel tad elen
gwawn grest gwyn ner gra mynnfyr lliw mamoa
gwyn grys o aira gwenn groes seren
ffimrav pob ffenest oes i mwy yn wesmest
yny ywchel hoewfrest ywchlaw hafren
gwydr ar gydfod main nadd liw manod
res myntai lewod rismwnt lawen
parth llawn pyrth ar lled dwrbil diarbed
tramwy a gweled tir mair o gwlen
ynyr hal yn rhoi 'r ych yn byw 'n hir i bych
a rauad aur wych o rhyd ar wenn
graen a gwaed gronw goch ffylib ny ffaeloch
ar berfil eloch ar bel aur velen
wythran aeth ar jav brodyr ar brydiav
rywiowgwaed orav o reged a jrien
naw maes yny maen ar brain awna braen
ewch i chwarav baen ar ych ywch benn
a lladd hyd y llawr plyg kaith palfau 'r kawr
a rhann yn vnawr o hil ronwenn
vn mab yny maes a ladd ag adain laes
gwir jesu byrhaes vu ar y groes brenn
try 'r oes yt ar hyd trychant trwy jechyd
kryston a gwawn ynghyd krist ag Ann wenn
Thomas ap jeuann ap Rys a 'i kant 35


[Duw gwyn a'n gwnaeth, NLW 13070B, 13-15. (= HG 8)]


[td. NLW 13070B, 13]
Duw gwyn a 'n gwnaeth pwy gyhyraeth
i ddyn yw 'r byd am i vywyd
heddiw yn gryf hoenys hainyf
ag yvory yn y gladdy
ddoe ny berthog traws kenedlog
heddiw 'r bobol oll ny ddansiol
ddoe pawb yddo /n/ kryny kapo
heddiw 'n vnig tlawd pallennig
afraid i bydd llawen vndydd
nyd ody 'r byd hynn ond tristyd
ve ddaw govyn ar bob rhyw ddyn
am a rhoes e yn y ene
ag a ddelo ailwaith hano
a grav 'r galon ond yn gyvion
ny ddwg neb dda i 'r byd yma
nyd a ganto ddim pan elo
o vair vorwyn gwrando di 'r kwyn
a 'r llef sy dros bell ag agos
dy vab di sy yn harglwydd jesu
yn wr kroelon wrth dylodion
yn brid i ddaeth pob prydigaeth
ar kydwybod gwedy darfod
kariad perffaith a aeth ymaith
v' aeth rhyw aflwydd ar gredigrwydd

[td. NLW 13070B, 14]
a 'r gwr a vy 'n vawr yn helpy
v' aeth duw ag e ag a 'i pie
och ddydd och nos vynd a thomos
ap willam na chae dair oes Adda
ny ddaeth twrn drwg i vorgannwg
es tair oes waeth nav varwolaeth
mynd ag enaid y llaisonaid
a blodaevn wiliam siankvn
nyd oedd rhyvedd kwyno i vonedd
mae kwyn a sy waeth na hynny
ny chae dduw o sais na chymro
wr o 'i siwt e i gynheddfe
distaw gairwir kredig kywir
doeth a chymen hael a llawen
ny bu 'r bailchon na 'r tylodion
neb na chavas da gan domas
ny wnn j vod gwr o liflod
vath berchen ty en holl gymry
balch ag anfalch bara didalch
kann gwenith gwyn pob rhyw enllyn
pym rhyw ddiod kwrw a bragod
gwin koch a gwyn a meddyglyn
a 'i rhoi 'n ddigost ag yn ddivost
i bob rhyw ddyn heb i wravvn

[td. NLW 13070B, 15]
mwyn a thirion wrth dylodion
rhoi amwisgoedd y /r/ mairw a 'i kladdy
roddi dillad i 'r pedair gwlad
pob priodas a wnai domas
ag os tlawd vai /r/ sawl a 'i kaffai
rhoi dydd hir y allel taly
a phan delid ny ddoe'n hwy gid
yddy bwrs e ond i madde
ble mae heddy a wna velly
ble bu ble bydd byth dragywydd
roed duw dernas nef i domas
ag yddy blant ras a ffyniant
a rhoed jechyd er i thristyd
yddy briod rhoddi kardod
ny chlyw vndyn y weddi hynn
na ddweto e o 'i benn jesu amen.
Thomas ap jeuann ap Rys a 'i kant 36


[Arglwydd Jesu, dros dy garu, NLW 13070B, 15-17. (= HG 9)]

Arglwydd jesu dros dy garu
truan a thost a ni gwnaethost
roi ni ventig gwr yrddedig
a 'i ddwyn rhagon yn ddi ymryson
a thi nyd gwiw ym gyveddliw
ve gyrch pob gwr i wsnaethwr

[td. NLW 13070B, 16]
ond v' arglwydd dad gann dy gennad
rhy vyrr i ddaeth i venthygiaeth
bychan ddigon vysai syr sion
watgin ny byd dair oes ennyd
nyd gnwad yn ol y vath yrddol
gwnny aberth i sant lidnerth
ny bu rygor ywch benn allor
bab nag Awstin well o ladin
kywir i gwnaeth i wsanaeth
i dduw ar hyd i bu vywyd
ar gant ny chaid o 'r vakriaid
well perchen ty en holl gymry
amlach oedd win syr sion watgin
nag esgob llan daf i hvnan
pan ddavth jesu yddy gyrchy
ve wnaeth dolur ar gwmpniwyr
lai lai waeth waeth y gwmpniaeth
vwy vwy 'r diglod a 'r kebydddod
gwae blwyf ylltyd i bod ny byd
a phlwyf a gwlad lidnerth abad
gwae blwyf dewi /r/joed o 'i golli
a phlwyf a llann dydwg dryan
pei rhoe 'r drindod yddo e gyvod
ailwaith i 'r byd yn y jenktyd

[td. NLW 13070B, 17]
ve gae drysto ond i rhivo
ddaigain vikar myn sant jlar
trist yw amdano person krallo
ar hael di bring sion ystradling
ar anhawgwr ffylib lychwr
a lloen ap Rys sy hiraethys
Rys ap siankin aeth at vrenin
nef o 'r blaen y beri gyrchy
ag yntwy sydd 'n y llawenydd
ninnav ny byd hynn mewn tristyd
Thomas ap jeuann ap Rys a 'i kant 37


[Y grog yw'r gras, NLW 13070B, 17-18. (= HG 10)]

Y grog yw 'r gras i govio gavas
jesu rhoe lanas ar i elynion
er poen er penyd drostyn ar dristyd
noswaith y gablyd gyda i ddisgyblon
y modd i maeddwyd o sgwrsiav ysgwrsiwyd
drwy benn i gyrrwyd drain boen goron
rygas i rhakwyd tynn jawn i tynnwyd
gwir jesu hoelwyd ar y groes hoelion
koded yn kaidwad yn duw a 'n jawndad
y barnwr a ddywad brenin jddewon
dallwr a dwyllwyd o 'r karchar kyrchwyd
llaw a gwaew helwyd i holli galon

[td. NLW 13070B, 18]
gwir jesu grasys lawnserch i lonsys
yn rhydd olaigys i rhoddai olygon
da oedd duw dad rhoi vn mab yn rhad
o ddirfawr gariad i 'r yvydd gwirion
i 'r grog ar y groes wrth yn rhaid ni rhoes
er byrhae dainoes i bryny dynion
dy gorff duw yny gair gwir vab gwyry vair
trindod ny gadair troi yn gredigion
dy lvn delw dduw gwyddyn nad gaudduw
rhag kyhoeddir siesuw vo kuddiavr saeson
pa gwyn pa ganiaid pai ddyn pwy ddywaid
ny ddon yn gywiriaid i dduw nar goron
gwelwch vod gelyn eneidav yndyn
y diawl a ffelstyn na dala 'n ffailston
trachwant ny trochi kadarn ny kodi
chwerwach nar geri chwynychy 'r goron
diva mab duw evaeth rhylys rhiolaeth
pilwyr llywodraeth polwyr lladron
kar dduw 'r kywiriaid yddyvion ddevaid
gwainaid llavuriaid ai llevau oeron
Thomas ap jeuann ap Rys a 'i kant 38

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section