Adran o’r blaen
Previous section


[Pob rhyw Griston glan i galon, NLW 13070B, 35-8. (= HG 21)]

Pob rhyw griston glan i galon
gwrandewch er mwyn duw vi n achwyn
gwae bob henddyn myvi wyr hynn
berchen gwraig kryf jevank hainyf
gwae r anhawgwr gwraigog llwvwr
ar gair yddo er nas haeddo

[td. NLW 13070B, 36]
gwaer gwr a vo a gwraig yddo
a honno n wir arnoe n veistir
or disgin bod dim anghydfod
rhyddyn hi a ar llaw n ywcha
i mae klwtyn o wyndon gwyn
wrth ddrws y ty wi ny rhenty
llai nag erw beth hwnnw
lle mae porfa gwaedde r wraigdda
mae gwyr perchen parav ychen
yddi n addo i lavurio
a minnav sy yn prydery
na chai hadyd yddoe ym bywyd
nychai lonydd na nos na dydd
genti ond a ir vro i ytta
bwrais j honn bob esguson
o ddiogi mynd i erchi
hawraig maen vlin Act y brenin
ag yn rhwystro pawb i gaiso
taw di waithon ath esguson
[t]i gau hadyd nyr vn hwndryd
mi aetho n js jslawr palis
...ni vyo valch o ddyno

[td. NLW 13070B, 37]
beth a ddwedaf o chranfyddaf
ar hen aran du wylmorgan
kerdda vydredd wytin addef
ofni tavod y gogysgod
siars sy arnaf j na chanaf
ddychan ny byd yn vy mywyd
os dechre wna ymddivarcha
na garbed kan ir hen aran
gwna dy neges yn rhe lales
a llangewydd ynyr vndydd
does drwa ir dwr i dir ogwr
ti gesgly had dau lavuriad
a nad vndyn heb vynd atyn
o sant dynod hed ymhytgod
ny phall vndyn o dre golwyn
hed ynharen y dwnrheven
na pherchen yd o lann ylltyd
ir priordy veder pally
maen hwyn saesnig ynghylch y wig
ny wis beth vo j ny gaiso
mith ddysga di ffol i erchi
ond kadw yth go vel yth ddysgo
j prav jow syr ffor lov maestyr
god wil giv mi and owr ladi

[td. NLW 13070B, 38]
pan ddwetoe kom hom syre
jl kwm to yow god redward yow
er peck o od ny ddawr tavod
ny modd i bu r wraig ym dysgi
mawr ywr taeredd vn or gwragedd
bwedd i mae ddyn bally yddyn
kael y trybedd ny chyndaredd
rhoi ergid ar blygiav nwyar
braidd i gellais j gael vymhais
am pig a gwân vymhenn allan
llyma orfod arnai ddyvod
vnwaith ych plith gwyr y gwenith
er mwyn jesu provwch vy helpu
myvi golla dre onys ka
Thomas ap jeuann ap Rys ai kant 49


[Duw, n'ad ti gam, NLW 13070B, 38-9. (= HG 22)]

Duw nad ti gam byth ar vargam
plas dan rhodiad havl a llauad
vel dyma r lle i bu nechre
ag yma i bo niwedd etto
mae arnai chwant kanv moliant
lle llvno j medd ar vy niwedd

[td. NLW 13070B, 39]
lle sainwyd plas gwych o urddas
mam jesu wyn wyr Siohasyn
kraig o wydyr kor krevyddwyr
kroestai krist jaith paradwyswaith
kor i vaibon krist ai waison
kaer gywrain vydd korfrig koedydd
pais ywchel bris plastar paris
plwm plygiav llenn am i cheven
twr arfys main krisial myrain
krysav kalchwydd maran mynydd
kaer loew val ar main barbal
kewch weled honn ar waith avion
jn principio erat sermo
ar ysbryd glan ywr ymddiddan
dav beth a sy ych tebygy
ail nef a llys abad lewys
tri pheth a sy ych kyvanheddy
organ a chlych a chan menych
ny bu bais wenn am dan berchen
lanach dan gred wedy bened
nag mor yddyf yny grevydd
wedy kybi abad a chwi
gwenfair ach gwnaeth ych abadae[t]h
gwneled duw chwi /n/ esgob dewi
Thomas ap jeuann ap Rys ai kant 50


[td. NLW 13070B, 40]

[Kriston wyf j'n kredy Grist, NLW 13070B, 40. (= HG 23)]

Kriston wyf j n kredy grist ag yn drist veddyle
ag yn gweddio r drindod i ddyvod oi bechode
gweled i ddwyf j nadoes pan ddelo gloes yn ange
i ddyn ddim mor dailynged a bod ny gwaithred gore
achos pan ddel yr enaid ar kythraulaid ar pwyse
maen bryderys ony chair gan vair ddodi phadere
i gydbwyso an gelyn yn erbyn yn pechode
am ddelyed kymodog trwm ywr gainog nas tale
chwaethach goludion lawer ag a gasgler drwy okre
a chael i kynvll gan bwyll trwy dwyll ag anvdone
maen hwyn elyn ir enaid ony chaid ai gwasgare
i ventvno eglwysi ag i beri fferenne
ag i waith pynt avonydd a rhoi baunydd gardode
lle bo mwya r kynired ag i wared kawsie
ag i helpy ysgolhaigion tylodion ar i llyfre
ag i ventvno merched amddived yw lletye
gwedy darffo i dad rhoi ai rhoi gymen vn ddime
[l]aia gobrwy oddiwrthyn a vyddai r dyn ai kasgle
[i] dduw i ddwyf j n erchi er ym dorri r gorchmynne
[vo]d vy enaid jn gorffwys yny baradwys ole
Thomas ap jeuann ap Rys ai kant 51


[Gwir Duw a'i vab yw, NLW 13070B, 40-1. (= HG 24)]

[Gwir] duw ai vab yw a vynn bod yn llywydd
[da]ear vndydd yny drindod

[td. NLW 13070B, 41]
ar gair a ddyg mair yn amerod gyvion
i beri gweryddon nef yn barod
ysbryd glan hevyd hyvod yn dolef
duw byw yny nef dyn i myn bod
kreawdr mor mawr myriaw pysgod rhwyd
yn karu ni r ydwyd kreawdr yr ednod
kreav yr holl ymddaith kreod yr engylion
ag or llu'r aigion i grav r llygod
krav Addaf rhydd naf dan rhod ffyrfaven
ag or asen bruddwen ve grav i briod
nawkant i dwedant vod adam yny bod
a thri deg hevyd tra vu r kyvod
pedair mil ai hil i waelod kystydd
jesu wiw ddovydd nes i ddyvod
pan ddel jesu i varny yn vod yny deav
ar y llaw asav ir llu jsod
trwy rhanswm trwm torr amod awnaeth
ny deg kaiff jawn jaith hed y dydd kyfnod
o dwyll trwy amwyll torr amod i doded
yn gloewdeg jechyd hyd yn gwlad ywch[od]
o varglwydd rho i mi vawrglod lawen[ydd]
na ame wiw ddovydd i nef i mi ddyvod
Thomas ap jeuann ap Rys ai kant 52


[Yddwi'n gosod kanu barnod, NLW 13070B, 166-8. (= HG 25)]


[td. NLW 13070B, 166]
Y ddwi n gosod kanu barnod
ag vallai bod genni n barod
mi roesym lw raid ym gadw
ar na chanwy ym bywyd mwy
i mae r achos yddy ddangos
genni gwedy ysgryvenny
mor drwm i ddaeth i varolaeth
y meistr sion yn vynghalon
gwae vy naurydd aros i ddydd
a gwae ddailed byth i glywed
gwr a bia yr amser da
a wyr kalon Marged Sainsion
ai dad hevyd mae mewn tristyd
Mair wenn a ro kynffwrd yddo

[td. NLW 13070B, 167]
bei kelsai er da drigo yma
hwy rysoeddyd dros i vywyd
y ddoedd waison i meistr Sion
a rysoedde vil o vorke
hwy dalysyd dros i vywyd
a thraen pwver brenin lloegr
llyna ganred vawr ar blaned
gwympo mrigyn y blodauyn
ny bu ddwy awr dre ruvain vawr
ar ol i ddydd heb roi vynydd
[]mae ty jago y mronn kwympo
bedd krist hevyd mae mronn symyd
[]vaeth y nywl du dros y koetu
nes symvd jaith a byd ailwaith
[]ny chair klydwr ynghoed mwstwr
na phrenn ar dan gan waith haearn
[]mae yno ffynnonn wrthfawr ddigon
mewn llwyn o gyll dan le r pebyll
[]ny chair gwelliant y mae n y sant
gwedy delo /r/ saeson yno
[]yn jach was glan o hynn allan
yn jach kampav a gwybodav
[]yn jach glendid ag velly bid
yn jach bonedd ef aeth ir bedd
ef a gladdwyd yn llvndain lwyd
mae gorff mewn bedd gwyn yn gorwedd

[td. NLW 13070B, 168]
mae eneide n rodio r graddie
ag yny byd i mae 'r tristyd
o daw govyn pwy ganoedd hynn
mab mewn hiraeth am i vrawdfaeth
Thomas ap jeuann ap Rys ai kant 118


[Mae Duw yn dangos i'r byd, Cardiff Free Library 2.619, 21-4. (= HG 26)]


[td. Cardiff 2.619, 21]
Mae duw yn dangos ir byd
vod yn llawnbryd gweddio
a dangos pam na veddwl
lawer exampl yddo
i gaiso yn garu r eglwys
a bwrwn gorbwys arno
ar golud ym ny garu
a gady r jesu haibo
mae dwedvd a rryvedd yw
vod yn tad dduw yn digio
vaeth y llid gydar kythrel
oedd yn angel kyn syrthio
kyviawnder ywr kyviawn hedd
kaiswn drigaredd ganto
rrag yn trachwant an balchedd
glwth god llesgedd yn damno

[td. Cardiff 2.619, 22]
an gelynion yw r haini
nydym ni n gally ymado
mae n bryderys ny diwedd
yn troi ddialedd pharo
hwnnw gavas kyviawnder
ar holl bwver oedd ganto
om gyhydy ai arglwydd
ef aeth yn aflwydd rragddo
kyviawnder oedd i sodma
a gomorra sinko
y pvmp dinnas diaereb
vy r godineb oedd yno
ny bv grenydd na chwddiaeth
na gasybiaeth heb gydio
nag vn krefyddwr yn bod
na bai wraig briod yddo
velly ddaeth ynys brydain
pan drosbwyd rryvain haibo
heb na gweddi nag ympryd
na phenyd nag ynsoelio
na chyffes nag angeny
na chladdy a na bedyddio
na sens na chwyr bendigaid
na phax nidoedd raid wrtho

[td. Cardiff 2.619, 23]
na chroes igovio r prynwr
na dwr wedy vendigo
na chael kymvn o gorff krist
i ddoedd yn drist yn hebddo
ny ddoi r ffairad ir pylpyd
heb gymeryd igino
o vrwd a rrost i mynnai
a mawnsai wedi dwymo
ef a ddangoeses adda
ag eva i ni ymprydio
a pherchir sul ar gwener
ag arfer o weddio
ir glothineb mae tivedd
ag nidoes diwedd arno
i maen anwyl ny bresen
ag i mae saithbenn yddo
a saith kythrel ywr rrai hynn
a saith gelyn syn twyllo
ar vwyd a llynnoedd kedyrn
tevyrn i maent nym ddyrno
gweddi kardod ag ympryd
a bair ymweglyd rragddo
rrag yddo ladd yr enaid
mae n angenraid ymswyno

[td. Cardiff 2.619, 24]
pan ddel yr arglwydd jesu
i varny ai dilyno
i bwll vffern i tewlir
ag yno i kaujr arno
Thomas ap jeuann ap rrys ai kant


[Gwae vilioedd a sydd mewn gofalon, Cardiff Free Library 2.619, 30-2. (= HG –)]


[td. Cardiff 2.619, 30]
gwae vilioedd a sydd mewn gofalon
tal ydiw gwlad nef ir tylodion
newynog yn bawb ag wainon
a delwau ymhob plas i delon

[td. Cardiff 2.619, 31]
nid kerrig nid koed yn myn karon
ond delwau wnaeth duw yn gnawdolion
ymaros i ddym ymron mairwon
on karchar lle ddym duw an kyrchom
ny gwledydd lle mae r mawr goludion
ny chaffant onyd haeyru a chyffon
o ddial am ddwyn tai r gweddion
ai dinistr mae duw n poeni dynion
ond aryth o waith penadurion
y garu rrai kasb ar y gwirion
y dialedd a gait gan dy alon
a thorri dy gnawd a thi n wirion
ynghyvair yn drwg anghyvion
i dygyd ti r boen vwyn na digion
pan roddyn i ti vwya rrodion
sy ddegwm vae vael ir swyddogon
a sieswn a ffydd vront y saeson
ai llywodraeth awnaeth pawb yn lladron
o gariad ar ddwyn dar gywirion
anweddvs au rroi r sgryvenyddion
ny thykia y pryd kyvoethogion
gwybydded y sawl sydd gebyddion
gynvll da yngham medd y ganon
ar waered i dda r plant ar wyron
a dilyn e ffordd gyda i alon
hwy krylian e mewn poenau kroelon

[td. Cardiff 2.619, 32]
val aries ny rroe vael i wirion
i lasar y tlawd krie laeson
a lasar ef ae oi boen loeson
i vynwes y tad wrth ovynion
ag arias ef ae gan rrai gairwon
ffai nigart ir tan ffyrnigion
gwirionedd yw hynn a gwir vnion
gwageled vo n dwyn diawl yny galon
thomas ap jeuann ap rrys ai kant


[Mawr jawn i kerais j'r byd, Cardiff Free Library 2.619, 32-6. (= HG –)]

Mawr jawn i kerais jr byd
yr hyd i bvm yn tyvy
ve rroes ym wendid a haint
er maint i bvm n gary
nym dwg vy aulodau mainon
sy wainon ag yn kryny
ny chlywai neb yn amlwg
am golwg sy n tywylly
ar bedestr gwedy darfod
bai rann gorfod tryvaely
wedy kwympo mewn methiant
a mogiant a phesychy
ag heb allel yn vynych
or grwn i rrych gychwnny

[td. Cardiff 2.619, 33]
ond bod am kefn yn grwm
yn gwrwm ar y llydy
mi vyo valch rryvygys
trachwantys ag yn kasgly
be kawn nir wlad vy hvnan
rry vychan oedd ym hynny
mi vyo lwth a diog
a chwannog i odineby
yn tyngy over lwon
ag anydon yr hainy
mi vym laitrach nar kadno
yn traiso n kynfigenny
heb rrai llety nachardawd
ir tlawd ond i watwary
o greawdr nef a llawr
min klywai n awr yn ffaely
danfon atai vihangel
ym harddel ag ym kyrchy
ti am prynaist j ar y groes
ti rroesost oes ym bechy
tro di varglwydd vynghalon
j waithon i tivary
ag i vedry gwnaethur jawn
ag i gyviawn gyffesy
megis i bwyf j parod
i ddyvod or lle dauthy

[td. Cardiff 2.619, 34]
a honno yw gwenwlad ef
lle mae ef yn ternasy
merthyri a gweryddon
angylion ny volianny
pan rroir yr en ar y ffrwyn
ag at y trwyn i gwasgy
a gwerchyrio vy llygaid
ar enaid gwedy yngady
a dwyn vy nwylo j waered
ag ar varffed i klymy
a dodi nwy traed ynghud
ag ar vy hyd yngady
ar sawl i bvm j yno
ny kytro ag ny kary
wrth vynd ymaith ny ddaw vn
o hanvn ym kysany
am dodi ar vy niwedd
ym bedd am torr i vyny
heb weled na haul na lloer
yn ddigon oer vyngwely
a mi ddwedaf i chwi wir
yr hwnn ellir i gredy
nid ody r korff pridd ond myd
yr ysbryd a syn traethy

[td. Cardiff 2.619, 35]
mi ga gorff er nas gwelwch
o ddirgelwch y jesy
o bob aulod yn gywraint
yn gymaint ag wyf heddy
mi debygwn yny byd
vyngolud jr pryd hyny
i geffyl gwedy vlyngo
a vaid yny ado i bydry
ar piaued ar kigfrain
ar byrgytain ny dyny
ar kwn yn briwa i gaudod
nes darfod i hwldary
velly r golud vym jn byw
yn vwy na duw ny kary
vynghenedl a ddaw yno
iym gigo wrth i rranny
a minav yn hoeth yn kerdded
am delyed heb daly
a phawb a ddaw ym govyn
i bvm arnyn ny kasgly
ny chair ar gywir yno
gadycho nau oframy

[td. Cardiff 2.619, 36]
na bwgwth i vonklusto
nau sardo nau watwary
rraid yw sevyll ar y gwir
yr hynn ny ellir i wady
onyd addef i bob dyn
ar gelyn yn disgyrny
ef a ir karchar ganto ef
lle gweloe nef ar jesy
ag ve sgryvennwys matho
nadae o ddyno nes taly
gwae e vy valch rryvygys
trachwantys yn kolledy
y llavuriad kywir a vo
yn kaibo ag yn dyrny
thomas ap jeuann ap rrys ai kant


[Pwy bynag fo gwedy dotio, NLW 13081B, 156v-158r. (= HG 27)]


[td. NLW 13081B, 156v]
Pwy bynag fo gwedy dotio
dwl jawn y trig a dotiedig
y ddynir kymry gwedy yn gyry
kyn enfyted a ffoled rhisga
ac ar yn kread gwedy myned
duw yn kyfrwyddo ymhell ar ddidro
ny ni droyson gan ffydd sayson
ni ddaw yn kalone ni byth yn y lle
ond trigo yn ddwl mewn tri meddwl
heb wybod pun gore hanyn
rhai syn doydyd vod duw 'ny byd
yn gorfforol yny bobol
eraill ysy yn gwan gredy
nadoes yn y byd ond yr ysbryd
medder doethon dysk mefyrion
vn achyfan yw duw ymhob man
ychlawr ywch-der dan y dyfn-der
yn y nef yny byd yma hefyd
am nad oydden yn kredy hyn
feddyg rhagom dalam o roddion
feddyg ffrwythydd koed ameysydd

[td. NLW 13081B, 157r]
veddyg pysgod dwr edynod
ac yskryblodd ar fenyddoedd
keyrw jerchod ac ewigod
ve ddyg ymaith gariad perffaith
mynodd ddiffod y gvdwybod
rhows y kythrel y lawn afel
ar yreglwys ynte ay espeiliws
venny fryntyn blasoedd meinin
ve yrws ty dduw yn wak ty
nyd gwell y len fod yn siaplen
heb gael meistir o bechadyr
nyd oes yddo le y weddio
Duw yn y dy heb y bryny
ac saith bechod gan y drindod
saith bechod vn yn saith gelyn
ar saith hyny y sydd heddy
bena ynhemprol ac yn ysbrydol
lle yddoedd yni beth rymedi
nyd ynt ychwaith ar dwy gyfraith
ac er dylysed y for dlyed
ffalst ywystla rhaith ac a ymaith

[td. NLW 13081B,157v]
y tlawd gwirion ny bo gar bron
ve ar ffalst ar lw fo yni helw
bay ran dy fod or saith pechod
ffimar kwyntri / arhydd wyti
llymar flwyddyn ytres duw gwyn
wyn y gallon ar y sayson
hwn yrason dduw yr gwndwn
ve gyr hwynte dan yffyrnne
mayr fam jesu kwd llysay fy
pechadyres / mai yn frenhines
peder ynte pob attwrne
by weddio llawer rhagddo
heddy may was yn y dernas
yn peri amey y tafoday
ac aeth y dy kefnder jesu
jago bostol nyd oedd ffol
efo orfy arnyn gyrchy
ywlad jago sawl ay kroko
nyd oedd bryder / yn vn amser
ar vn kriston fod duw yn ffyddlon

[td. NLW 13081B, 158r]
maer pen tryma am drais athra
ar diale heb yddechre
Thomas ap jeuan ap rhys ay kant


[Y may dogon ar y gar, NLW 13081B, 160v-162v. (= HG –)]


[td. NLW 13081B, 160v]
Ymay dogon ar y gar
gwrando ar addweda
vaeth y byd ar veth y gid
wrth y byd y wela
y syn bwrw yn fawr y fryd
ar y byd hwn yma
bid e ddiogel yny ffydd
ymay yddo rybydd kwta
kanys efo ydiw vn
or tri gelyn gwaytha
sydd ar les yrenayd gwyn
a ffob dyn y dwylla
dyn a gayf gan y byd
vynd yr golyd pena
ac vo gedyr byd e'nhoeth
vel y doeth e yna
wedy darffo ymhob dyll
yddo gynyll kronfa
nyd a gantho bil nachroes
ond aroes yn y fola
vel y karo dyn y byd
vo ddaw yr ysbryd gwaytha

[td. NLW 13081B, 161r]
ac ay rhwstra ywneyth chwaith
or saith weithred pena
pen delo christ atto y hyn
yn y llyn tolota
yddwy fi yn dlawd edrych ddyn
rho ymir pilin gwaytha
gwna di les y ki krach
yddwyti yn jach debyga
ameddylied yddwyti
may myfi yth ddillata
rho ymi fwyd er duw gwyn
ymay newyn arnaf
nyd oedd raid ytt fod yn dlawd
ddiawl dy flawd nath fara
rho ymi ddiod myn fynghred
ymay syched arna
ti ay toryt ymhob nant
ond dy chwant di y gyrfa
rho ymi letty haner nos
yny diddoes yna
does di wers yna fry

[td. NLW 13081B, 161v]
ti kay e ynty nesa
ve'roes duw vi vynghar
yn y karchar blina
mawr dda yt gael hyny yn swrth
wrth dy byteina
yddwy fi yn glaf ynty yna draw
gar dy law dir gwrda
or kywaythog llawen gwych
dare y edrych arna
ti fyddy jach yn yman
nyd wyti wan dybyga
ac nicharaf hanad chwaith
mi wnaf vyngwaith yn gyntaf
a ddoydi gladdy y tlawd yna hwnt
aeth y brwnt o dyna
ny naeth e swydd trafy yny byd
onyd kip rytha
nydoes amdo ym duw amair
oni chayr kinhoka
chwiliar kwd sy dan y ben
ymay yno goden dwba
y may yn ddigon llaes y lyp

[td. NLW 13081B, 162r]
kyfod chwyp affrysta
tyred attai ar dy swyp
ti welyr gip sydd arna
ffrwynar kefful ffroenwyn dy
tyn yr ty kyfrwya
middelya bynt ne'ddwy
mi myna hwy yn gynta
vo vydd yddo ddogon vael
gwedy kael y gosgol va
vo ddaw vn ni rodda nag
ac ay gwasgara
jo yn siompol yni sy
y vy gyfoethoka
gwedy kyfrif pawb y gid
y vy yn y byd yma
efo gollay blasoedd rhydd
yn vn dydd ay holl dda
gwedi kolli hyny y gid
vo ay yny klefyd blina
vo gaer krach yn ayr pur
yw roddi yr kerddwyr pena
er y fod e megis hwch
yn y llwch ar llaka

[td. NLW 13081B, 162v]
am y fod e velly yn byw
yn kary dyw yn bena
efo ay jach yddy dai
ac y gay y holl dda
ac o gwnawninay gud
yn y byd yma
vel y gwnaeth ymae yniwlad
gydar tad gorycha
Thomas ap Ieuan ap Rhys Ay kant

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section