1. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Caerfyrddin) at Theophilus Rees a'i wraig Elizabeth Thomas (Beulah, PA), 18 Rhagfyr 1797, NLW 14873E.
[td. 1]
Carmarthen Dece.r 18. 1797
Dear Brother and Sister /
I received your Letter Dated the 5. of
Aug.st last, and have given me, great Satisfaction to
hear of your being all well, and it gave me great
Happyness that, y fod Sam, bach mewn uechid, ag euch
bod chwthe wedy Sufidly wrth euch bodd a 'r Hollallyog
a 'ch Benduthyo chwy oll, hyn yw fy Nyminuad, er fy mod
<yn .....>s yn y gnawd, <er hynny y><r> wyf guda chwy yn yr
yspryd yn gweled eych Trefen chwy, <...>
My a Screfenes gopp o 'ch llythyr My a 'u Hales y John Thomas
yn Lyndain, ag y eryll fel ag y gorchyminasoch, y may
Llawer o Llythere wedy ei Sgrefeny o feidrym ag o faney
eryll atoch chwu o bryd ey gulydd, fe ddarfy fy Mrawd
Rees, Scryfenny awst Dywetha, ag mu ddymynais ynne
ar eych Brawd John o Llyndayn y Scryfenny lawer gwaith ag
yr wy yn bwryadi yddo e wneithyr felly — Nyd oes dym cyfnewyda<d> <y>n fy Nheyly y yr yn Ny oll yn yach, ag felly Teyly
fy <mra>wd, y may Richard eto yn Llynden y mey David
yn d<al> gweithyo Rhaffe y may B<e>ttsy yn Tyddy yn fawr —
y mae y try arall yn bwyta bwy<d> Segyr ag yn yach —
y mey Sam.l a William Meibon Re<es> ar Bwrdd Llong y Bunyn
y mey John wedy pryodi a Merc<h .....> Nyd ydych chwy yn
adnabyddys a thylwyth ey wraig e y mae e yn gwaithyo yn
Aberystwith y may Bett yn gwasnaythy a Sall yn Bwyta
Bwyd Segyr — y ddarfych Screfenny yn byr Heleth. on y may
gyda fi Lawer o Gwestwne I ofyn y chwy on Ny chynwis
fy Mhapyr yn bresenol — Pwy mor belled ydych oddy wrth Philidphe
— beth gostodd y Tyr — a oedd e wedy ei arllwys, ney yn, anyalwch
— o beth yr ych yn byldo y Tay — Pwy mor belled ydch oddy
wrth Afon Sydd yn arwen, y 'r Mor, a beth yw y henw hy — a
odych yn dechre cody llafyr — pwy mor belled ydch oddy
wrth Dref Marchnad a beth yw ey henw hy — a ody rhan bena yr coed
ag yr ych y Son amdanyn yn Tyddi ar eych Tyr chwy yn mwya penodol,
y pren Swgir — a dyddyff y pren hwn, yn y wlad hon, pe bay hynny
yn bod fe ayr Taily (Shors) ar 5. ran ohono — Pwy amser y mai
[td. 2]
Gayaf yn dufod y mewn ag felly yr Haf, a Oes llawer o Gyfnewedad yn yr
Hyn, hyny wy yn feddwl, a ody yr gayaf, yn oer yawn, a 'r Haf yn Dwym yawn —
a ody Teyly David fy Nay, wedy chwanegy — y mey dda genym glywed fod
Mary wedy Syfydly yr wy yn gobeythio wrth ei Bodd, a bod ei chydmar yn
Ofny yr Arglwydd, y mei yn deddol gyda ny ofyn a oedd e yn abal yawn gadewch
hynny yn y man yna — a Ode yn rhyw glefyddyd ney grefftwr — pa le may
Martha, Bett, a odyn hwy mewn gwasaneth — pwy mor belled ydch oddywrth yr
Anyalwch lle may cryadyryad Rheibys — a odych chwy yn agos y fyffyne
y Dynion Gwillion — a ody ffouls Gwylltyon yn amal yn y wlad a beth
yw ey henwea — yr ydys yn dwaid fod Nadrodd Mawryon yn eych glad a ody
felly — a Oes Geifyr, Bwch ddanas, Moch gwyllton, da, a cheffyle gwyllton
a pwy ffordd ydys yn ey dala hwy — a Oes defed gyda chwy — a oes
Llwynogod Lawer — a ody yr anyfeliad yn geffredyn yr yn faint an
ag o wahanol Lwyea fel ag y maen yn y wlad hon — y maynt yn
dwaid fod Dufnwnder mawr dail a Mwswn cyn yr eloch ar y ddayar
Bryddlyd a beth yw ey Llyw hi — a oes Clai dan y ddayar ney graig
fel Clos y<r> hen Draskell — a ody Draskell Newydd yn Sefyll ar Lether
a ody y Dwfwr yn Tarddy yn agos at y Ty — Ni ddarfych Son am farlys na
cyrch yn ych Llythyr am hyny yr wy i 'n bwryady nad oes dym, a oes
gyda chwy ddym Cwrw ney ddyod gadarn — beth ydch yn yfed fwyach
O ba le yr ydch yn cal Halen — Tea — a Coffy — pwy fys yr ydch yn Hay
Llafyr, ag ym Mhwy fys yr ydch yn Medy — a Oes n<e>m<or> afaleu
Plwms &c yn y wlad — a Oes potato, Erfyn, Garesh a ffanas — yr ydys yn
dwaid fod Eyra Mawr, a Hwnw yn rhewy, fel gallo wag<ons> fyned drosto
yn y flwyddyn,[1] a <ody> hyny yn bod — a ody yr <ani>felyad yn
mynd y Brys mawr (pob math o anyfeyliad pwy brys yw 'r menyn y Caws a 'r
Cyg o bob Rhyw — a ody ydeufydd gwlan ar Lly<cu> yn ddryd — a Oes
Llyn a Hemp yn Tyddy yn y Wlad — o ba lea yr ydch yn cal rhafe
pwy Mor nesed attoch chwy gall Rope maker wneythyr bwyolyeth
a Oes Nemor o waith y Auctioneer yn eych gwlad chwy — o ba Le yr
ydch yn cal Llider scydeu, a beth y may ych scydea chwy 'n y gosty
Yn awr my ro ychydyg o hanes eyn gwlad nyney — y mae yr
anyfeylied o bob rhyw wedi gostwng yn rhyfedd oddi wrth fel y
byont yn dyweddar [sic], ychen £30 y par yn nawr a<m> £20 — y fywch £16
am £10 Mochyn £5. nawr £2..15..0 — ceffyl £30 nawr £12..12s..0
y cyg eydon a Maharen[2] wedy cwmpo O 6 y 3d/2 a 4d cyg moch o 6d y 3d a 3d/2, Gwenyth o
6 y 7s/6d, Barlys 3s a 3s/9d cyrch 16d y 20 pob yn o 'r rhayn yn
[td. 3]
ddrwg yawn gan Egyn, y Cyniah a fu yn anhemerys yawn y Mae yr
Towydd yn Nawr gyfatal ag yn lwyb yawn — pwy fath dowydd sydd yn
eych gwlad chwy yn gyffredyn — a Oes Llawer o fellt a Tharane — a odyn
Nhw yn gadarn yawn — My ddymynwn roy ychydyg o hanes y Llwodrell
y mae yr papyr yn cwtogy — y mae y trethy yn amalhay, y mae pob ceffyl
ffarmwr yn 6s o dreth yn nawr y mae yr cwn heb gody eto y mae y Llwodrell
medden nhwy yn, resolfo pery y 'w deylyad, Daly y Dreth fawr, y Gole, y cwn
a 'r Ceffyle beder gwaith Drostin y flwyddyn hon ag ar hyny fe fydd £20
ar bob £100. ney 4s ar bob pynt — y may yr Deylyed o bob gradd yn grwgnach
yn rhyfedd ond y mae pethe hyn eto heb gymerid Llea — may yr Stamps
wedy cody yn rhyfedd y mae 6d yn 8d Stamp am fond o £100 yn costy 10s
&c yr ydys yn dwayd fod y dwymyn felen wedy bod yn gadarn yawn yn nghyfynea
Philidelphia ag fod Mylodd wedy cal ey Symyd y dragwyddoldeb — a ody hyn
y [sic] wyr — a oes yn eych gwlad chwy — Trefen y gadw Cyfeillach, yr wy
bwryady Screfeny <a>toch bob Quarter, hyny yw y <cynta a> fydd 25 o Mawrth 2nd. 25 June
3 25 Sepm. 4 25 Decb. yn gyson pa yn y byddaf w<edy> derbyn Llythyr nay beido, ag yr
wyf yn Deisyf arno<ch> scryfeny ateb mor gynted ag y delo hwn y 'ch Llaw, ag wedy hynny yn
gyson fel ag y gwel<wch> Ichod, ag felly chwy fyddwch yn gwybod y dydd y byddaf y yn Screfenny
<ac> felly fyne <yn gwy>bod y dydd y byddwch chwythe <fel> Dwad Agrypa wrth Paul
Received January
26 1799
y fod e wedy ey Enyll o fewn ychydyg y fod yn
Grystion may arnaynne chwant
dwaid fod eych Llythyr chwithe yn agos yn perswadio yne ymadel a 'r wlad ormessog
Hon — beth y mae yr Rhaglynieth yn drefny Nis gwn — dymynaf arnoch Gofyo
amdanaf y a 'm plant amddyfad Ger bron yr Orsedd — yr Arglwydd yr hwn
a bya yr fendyth a 'y cyfrano y 'ch Teyly chwy a fyne byth Amen
Rhowch fy Ngharyad Gwresog y 'ch Blant y gyd, ag y gwraig Dafydd
ych Mab ag y fy anwil chwar, a 'r Nodi ysod nay Sel sydd yn arwydd
y My roddy cysan yddo, ag felly rhodded hythe, dym yn
chwaneg oddy wrth eych anwillaf frawd
y mae y ffryns yn ey cofyo Saml. Thomas
atoch