Llythyrau gan ymfudwyr Cymraeg o Sir Gaerfyrddin i'r Unol Daleithiau allan o NLW 14873E (1797–1807)

Cynnwys
Contents

1. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Caerfyrddin) at Theophilus Rees a'i wraig Elizabeth Thomas (Beulah, PA), 18 Rhagfyr 1797, NLW 14873E.
2. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Caerfyrddin) at Theophilus Rees a'i wraig Elizabeth Thomas (Beulah, PA), 25 Mehefin 1800, NLW 14873E.
3. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Carllegan) at Theophilus Rees (Beulah, PA), 28 Mai 1801, NLW 14873E.
4. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Carllegan) at Theophilus Rees (Beulah, PA), 13 November 1802, NLW 14873E.
5. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Carllegan), heb ddyddiad 1802/3?, NLW 14873E.
6. Llythyr oddiwrth Moses David (Trelech), 4 Mehefin 1806, NLW 14873E.
7. Llythyr oddiwrth John D. Evans (Beulah, PA) at Theophilus Rees (Seiotha, OH), 5 Mai 1807, NLW 14873E.
8. Manylion bywgraffiadol am Theophilus Rees, NLW 14873E.


1. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Caerfyrddin) at Theophilus Rees a'i wraig Elizabeth Thomas (Beulah, PA), 18 Rhagfyr 1797, NLW 14873E.



[td. 1]
Carmarthen Dece.r 18. 1797
Dear Brother and Sister /
I received your Letter Dated the 5. of
Aug.st last, and have given me, great Satisfaction to
hear of your being all well, and it gave me great
Happyness that, y fod Sam, bach mewn uechid [~ iechyd ], ag euch
bod chwthe [~ chwithau ] wedy Sufidly [~ sefydlu ] wrth euch bodd a 'r Hollallyog
a 'ch Benduthyo chwy oll, hyn yw fy Nyminuad, er fy mod
yn _____s yn y gnawd, er hynny yr wyf guda chwy yn yr
yspryd yn gweled eych Trefen chwy,
My a Screfenes [~ ysgrifennais ] gopp o 'ch llythyr My a 'u Hales y John Thomas
yn Lyndain, ag y eryll [~ eraill ] fel ag y gorchyminasoch, y may
Llawer o Llythere [~ Llythyrau ] wedy ei Sgrefeny [~ ysgrifennu ] o feidrym ag o faney
eryll atoch chwu o bryd ey gulydd, fe ddarfy fy Mrawd
Rees, Scryfenny awst Dywetha, ag mu ddymynais ynne
ar eych Brawd John o Llyndayn y Scryfenny lawer gwaith ag
yr wy yn bwryadi yddo e wneithyr felly - Nyd oes dym cyfnewydad
yn fy Nheyly y yr yn Ny oll yn yach, ag felly Teyly
fy mrawd, y may Richard eto yn Llynden y mey [~ mae ] David
yn dal gweithyo Rhaffe y may Bettsy yn Tyddy [~ tyfu ] yn fawr -
y mae y try arall yn bwyta bwyd Segyr ag yn yach -
y mey [~ mae ] Sam.l a William Meibon Rees ar Bwrdd Llong y Bunyn
y mey [~ mae ] John wedy pryodi a Merch _____ Nyd ydych [~ ydych ] chwy yn
adnabyddys a thylwyth ey wraig e y mae e yn gwaithyo yn
Aberystwith y may Bett yn gwasnaythy a Sall yn Bwyta
Bwyd Segyr - y ddarfych Screfenny yn byr Heleth. on [~ ond ] y may
gyda fi Lawer o Gwestwne I ofyn y chwy on Ny chynwis
fy Mhapyr yn bresenol - Pwy mor belled ydych [~ ydych ] oddy wrth Philidphe [~ Philidelphia ]
- beth gostodd y Tyr - a oedd e wedy ei arllwys, ney yn, anyalwch
- o beth yr ych yn byldo y Tay - Pwy mor belled ydch [~ ydych ] oddy
wrth Afon Sydd yn arwen, y 'r Mor, a beth yw y henw hy - a
odych yn dechre cody llafyr - pwy mor belled ydch oddy
wrth Dref Marchnad a beth yw ey henw hy - a ody rhan bena yr coed
ag yr ych y Son amdanyn yn Tyddi [~ tyfu ] ar eych Tyr chwy yn mwya penodol,
y pren Swgir [~ siwgr ] - a dyddyff [~ tyfiff ] y pren hwn, yn y wlad hon, pe bay hynny
yn bod fe ayr Taily [~ teulu ] (Shors) ar 5. ran ohono - Pwy amser y mai

[td. 2]
Gayaf yn dufod y mewn ag felly yr Haf, a Oes llawer o Gyfnewedad [~ gyfnewidiad ] yn yr
Hyn, hyny wy yn feddwl, a ody yr gayaf, yn oer yawn, a 'r Haf yn Dwym yawn -
a ody Teyly David fy Nay, wedy chwanegy - y mey [~ mae ] dda genym glywed fod
Mary wedy Syfydly [~ sefydlu ] yr wy yn gobeythio wrth ei Bodd, a bod ei chydmar yn
Ofny yr Arglwydd, y mei [~ mae ] yn deddol gyda ny ofyn a oedd e yn abal yawn gadewch
hynny yn y man yna - a Ode yn rhyw glefyddyd [~ celfyddyd ] ney grefftwr - pa le may
Martha, Bett, a odyn hwy mewn gwasaneth - pwy mor belled ydch [~ ydych ] oddywrth yr
Anyalwch lle may cryadyryad [~ creaduriaid ] Rheibys - a odych chwy yn agos y fyffyne [~ bythynau ]
y Dynion Gwillion [~ gwylltion ] - a ody ffouls Gwylltyon yn amal yn y wlad a beth
yw ey henwea [~ enwau ] - yr ydys yn dwaid fod Nadrodd Mawryon yn eych glad [~ gwlad ] a ody
felly - a Oes Geifyr, Bwch ddanas, Moch gwyllton, da, a cheffyle gwyllton
a pwy ffordd ydys yn ey dala hwy - a Oes defed gyda chwy - a oes
Llwynogod Lawer - a ody yr anyfeliad yn geffredyn yr yn faint an
ag o wahanol Lwyea [~ lliwiau ] fel ag y maen yn y wlad hon - y maynt yn
dwaid fod Dufnwnder [~ dyfnder ] mawr dail a Mwswn cyn yr eloch ar y ddayar
Bryddlyd a beth yw ey Llyw hi - a oes Clai dan y ddayar ney graig
fel Clos yr hen Draskell [~ Treasgell ] - a ody Draskell [~ Treasgell ] Newydd yn Sefyll ar Lether
a ody y Dwfwr yn Tarddy yn agos at y Ty - Ni ddarfych Son am farlys na
cyrch [~ ceirch ] yn ych Llythyr am hyny yr wy i 'n bwryady nad oes dym, a oes
gyda chwy ddym Cwrw ney ddyod gadarn - beth ydch [~ ydych ] yn yfed fwyach
O ba le yr ydch [~ ydych ] yn cal [~ cael ] Halen - Tea - a Coffy - pwy fys yr ydch [~ ydych ] yn Hay
Llafyr, ag ym Mhwy fys yr ydch yn Medy - a Oes nemor afaleu
Plwms &c yn y wlad - a Oes potato, Erfyn, Garesh a ffanas - yr ydys yn
dwaid fod Eyra Mawr, a Hwnw yn rhewy, fel gallo wagons fyned drosto
yn y flwyddyn, a ody hyny yn bod - a ody yr anifelyad yn
mynd y Brys mawr (pob math o anyfeyliad pwy brys yw 'r menyn y Caws a 'r
Cyg o bob Rhyw - a ody ydeufydd [~ edafedd ] gwlan ar Llycu yn ddryd - a Oes
Llyn a Hemp yn Tyddy [~ tyfu ] yn y Wlad - o ba lea [~ lle ] yr ydch yn cal [~ cael ] rhafe
pwy Mor nesed attoch chwy gall Rope maker wneythyr bwyolyeth
a Oes Nemor o waith y Auctioneer yn eych gwlad chwy - o ba Le yr
ydch yn cal [~ cael ] Llider [~ lledr ] scydeu [~ esgidiau ], a beth y may ych scydea [~ esgidiau ] chwy 'n y gosty
Yn awr my ro ychydyg o hanes eyn gwlad nyney - y mae yr
anyfeylied o bob rhyw wedi gostwng yn rhyfedd oddi wrth fel y
byont yn dyweddar, ychen £30 y par yn nawr am £20 - y fywch £16
am £10 Mochyn £5. nawr £2..15..0 - ceffyl £30 nawr £12..12s..0
y cyg eydon a Maharen wedy cwmpo O 6 y 3d/2 a 4d cyg moch o 6d y 3d a 3d/2, Gwenyth o
6 y 7s/6d, Barlys 3s a 3s/9d cyrch [~ ceirch ] 16d y 20 pob yn o 'r rhayn yn

[td. 3]
ddrwg yawn gan Egyn, y Cyniah a fu yn anhemerys yawn [~ cynhaeaf ] y Mae yr
Towydd yn Nawr gyfatal ag yn lwyb [~ wlyb ] yawn - pwy fath dowydd sydd yn
eych gwlad chwy yn gyffredyn - a Oes Llawer o fellt a Tharane - a odyn
Nhw yn gadarn yawn - My ddymynwn roy ychydyg o hanes y Llwodrell [~ llywodraeth ]
y mae yr papyr yn cwtogy - y mae y trethy yn amalhay, y mae pob ceffyl
ffarmwr yn 6s o dreth yn nawr y mae yr cwn heb gody eto y mae y Llwodrell [~ llywodraeth ]
medden nhwy yn, resolfo pery y 'w deylyad, Daly y Dreth fawr, y Gole, y cwn
a 'r Ceffyle beder gwaith Drostin [~ drostynt ] y flwyddyn hon ag ar hyny fe fydd £20
ar bob £100. ney 4s ar bob pynt - y may yr Deylyed o bob gradd yn grwgnach
yn rhyfedd ond y mae pethe hyn eto heb gymerid Llea [~ lle ] - may yr Stamps
wedy cody yn rhyfedd y mae 6d yn 8d Stamp am fond o £100 yn costy 10s
&c yr ydys yn dwayd fod y dwymyn felen wedy bod yn gadarn yawn yn nghyfynea [~ cyffiniau ]
Philidelphia ag fod Mylodd wedy cal [~ cael ] ey Symyd y dragwyddoldeb - a ody hyn
y wyr - a oes yn eych gwlad chwy - Trefen y gadw Cyfeillach, yr wy
bwryady Screfeny atoch bob Quarter, hyny yw y cynta a fydd 25 o Mawrth 2nd. 25 June
3 25 Sepm. 4 25 Decb. yn gyson pa yn y byddaf wedy derbyn Llythyr nay beido, ag yr
wyf yn Deisyf arnoch scryfeny ateb mor gynted ag y delo hwn y 'ch Llaw, ag wedy hynny yn
gyson fel ag y gwelwch Ichod, ag felly chwy fyddwch yn gwybod y dydd y byddaf y yn Screfenny
ac felly fyne yn gwybod y dydd y byddwch chwythe fel Dwad Agrypa wrth Paul
Received January
26 1799
y fod e wedy ey Enyll o fewn ychydyg y fod yn
Grystion may arnaynne [~ arnaf innau ] chwant
dwaid fod eych Llythyr chwithe yn agos yn perswadio yne ymadel a 'r wlad ormessog
Hon - beth y mae yr Rhaglynieth yn drefny Nis gwn - dymynaf arnoch Gofyo
amdanaf y a 'm plant amddyfad Ger bron yr Orsedd - yr Arglwydd yr hwn
a bya yr fendyth a 'y cyfrano y 'ch Teyly chwy a fyne byth Amen
Rhowch fy Ngharyad Gwresog y 'ch Blant y gyd, ag y gwraig Dafydd
ych Mab ag y fy anwil chwar, a 'r Nodi ysod nay Sel sydd yn arwydd
y My roddy cysan yddo, ag felly rhodded hythe, dym yn
chwaneg oddy wrth eych anwillaf frawd
y mae y ffryns yn ey cofyo Saml. Thomas
atoch


2. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Caerfyrddin) at Theophilus Rees a'i wraig Elizabeth Thomas (Beulah, PA), 25 Mehefin 1800, NLW 14873E.



[td. 1]
Carmarthen June 25 1800
Anwyl Frawd A 'm Chwar /
yr wy yn gobeithyo y bydd
yr Llythyr hwn ych gwrdd [~ cwrdd ] mewn yechyd chwy a 'ch holl
Dylwyth yn america fel ag y mae yn ein gadel Ny
oll - My a screfenes atoch yn ddywethar yn mys may ag
mi ades Le in y Llythyr y Shon ych Brawd o Lindain
y Sgrifeny intho [~ ynddo ], yn mha yn my a roddes y chwy hanes
y wlad yn byr heleth, ag am ych frynde yn y parthe yma
y rhai a ddymynasant eu cofyo atoch yn fawr, Mr. Wms. Watch
Maker Mr. Watkins, Mr. Morris a 'y deily y Lew ayr, Thos. Jephtha
a 'y wraig, Benjamyn Bon a Llawer o 'r hen frindea
nas gallaf ey henwy, yr wy wedy halu atoch o
o Bryd y gylydd on [~ ond ] wrth eich Llythere nyd yw fy Llythere y
yn dod y 'ch Llaw, peidwch a thybed fy mod yn gollwng yn
ango yr addewyd, o achos fod fy Llythere yn methy dod
y 'ch Law mae hynny yn pery y mi screfeny yr yn pethe mwya
hynod yn y dyddye hin - y llafyr sydd wedy mynd
yn Rhyfedd o brys a Llawer wed [~ wedi ] marw o eyse [~ eisiau ] Bara
y me [~ mae ] newyn yn wyneby ein gwlad y mae yr
gwenyth 17s/ Barlys 9s/5d cyrch [~ ceirch ] 5s/ Wynchester
potatos hene 2/6 ffyoled Rhay newydd 4s/
Gyg eidon 8d Defed 6d. a 7d, Moch 6d, y mae yn dda
y ny fod eych gwlad chwy a llafyr ynthy oblegyd
y mae Llawer yn dod ohony yma o flawd a
Llafyr, mae R yn gwerthy am 5d. y pound ag y mae yn
cal [~ cael ] ey faly am ben Barlys y wneuthyr Bara ag hefyd
maynt yn cymiscy Bran a flwr lloyger y wneythyr Bara
y mae ann o 'r felly, a Mab gyda hy, hy a 'y henwodd
Theophilus o gof amdanoch, y mae Mab Thos. David o
St. Clears wedy cal [~ cael ] plentyn o 'r forwn [~ morwyn ], yr wy wedy hyspysy
hyn y chwy mor , caffwch y yn
dyfal mi screfenaf yno, y mae yn bleser mawr yawn genyf
weled Enw Sam Bach yn eich Llythyr Gofywch
hynny, y mae yn dewydd da yawn ar y cyneia [~ cynhaeaf ] wayr ag
ar ol Llafyr da ar y ddaiar, Menyn Llestry 10d y pound
y mae y Rhyfel yn cael ey garyo yn y blan mewn
forse fawr rhwngom ny a 'r french, may plant Rees yn fyw
ag ynte yn yach may Richard a David fy Meibon yn Lyndain
mae lleyll o 'r tylwyth yn yach ag yn eich anerch, Nid oes genyf ddym
y ddywaid yn Rhagor, on [~ ond ] dymyno fod ystryd yr Hollalluog yn
preswylyo ynoch, cymynt [~ cymaint ] a hynny oddy wrth eych anwyll frawd
Saml. Thomas

[td. 2]
y mae y llythyr hwn yn dod gyda Llong o fryste
y Philedelphia, my weles James Penlan Dydd
Sadwrn dywethaf maynt oll yn yach, y mae Mr
John Williams o fynon Clwyd a myne wedi addo y 'w gylydd ddod
y roy tro ych gweled, ag y mae e yn caryo fy nghost y
yn nol [~ ol ] ag yn mlan [~ ymlaen ].

Mr. Theophilus Rees
Bula State of Pensylvania
/Via/ Harrisburg & Huntingdon
America


3. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Carllegan) at Theophilus Rees (Beulah, PA), 28 Mai 1801, NLW 14873E.



[td. 1]
Carllegan May 28 1801
Anwil frawd yn Berthunas oreu
yr wif yn awr wedu cael y Cufleustra hwn
I 'ch anerch can obeithio y Cuferfudd hyn o leine
a chwi yn iach a 'ch Teilu fel yr udym ni mewn
mesur heleith yn Bresnol [~ presennol ] Rhwyme mawr Sudd
arnom I fod yn dduolchgar i 'r arglwidd am ei fawr
Dirondeb Tiac atom y mae y dwumun wedu bod
yn Teilu ond heb wneithur yn Rwigiad eto y may
Bety fu ngwraig wedu bod yn claf acos [~ agos ] cwrter [~ chwarter ]
blwidd Sef y flwiddun hon ac heb wella fel ar fend
y mae cenif [~ gennyf ] 4 Lluthur yn bresenol o fu mlan ar y ford y 1
chwefrol 15 1799 2 Mawrth 18 1800 3 Hidref 14 1800
4 o philadelphia Ionor 20 1801 yr wif yn ddiolchcar
Iawn I chwi am fod mor Llafuris I cofio am danaf
chwi a ofunsoch yn eich lluthur am fu nglun Dost
ac a ddarllenwn i Heb yn Sbectel y mae fu nglun
a Llai o boen o beth nac oedd ynddi ond yr wif
Corfod [~ gorfod ] Iwso Sbectel yn Cuson chwi ddwedsoch
a Leico'ch [~ leiciwch ] wibod pa rai o ailode Salem Sudd wedi
Sefull at Crefudd yn awr mi ddwedaf
I chwchwi yrudm [~ yr ydym ] ni o 80 100 aelode yn besenol [~ bresennol ] Rhai
wedu cael dicon [~ digon ] ar y Cibei yn troi un ol ac yn tustio
ei bod wedu cael ei twillo y mau y tu cwrdd bob nail [~ yn ail ]
Saboth cuda ni [~ gyda ni ] ar cwrdde erill yn Drassgell [~ Treasgell ]
a 'r Llaell yn Troedurhin y mae John Llwelun
weddol Iach ac yn erchi ei cofio atoch David Rees
yn Buw yn Dreasgell [~ Treasgell ] nid Dafudd Eich brawd ond
y perchen - ac yn erchi ei cofio atoch B
y rhai Sudd wedu ymadel a ni Iw Job Lewis Wm.
John crudd a 'i wraig Wm. Davidd [~ Dafydd ] a 'i wraig meichal [~ Michael ]
a 'i wraig Sioni saer Jinkin [~ Jenkin ] a Davidd [~ Dafydd ] Cof
ana hansel Bety Drefach

[td. 2]
a rhiw ferchetos bach erill o 'r Cumdogeth nad oes
fawr o ran Crefudd arnent [~ arnynt ] Davidd [~ Dafydd ] panturhedn
yn pregethy cuda nhwi [~ gyda nhw ] Thos. William penlan
wedu Bod Cwarter blwiddun yn Claf ac y [~ yn ] cadw yr
cwelu [~ gwely ] yn awr y mae yn Dechre Cwella [~ gwella ] yno
wedu bod yn precethu [~ pregethu ] 3 Saboth ac y mae yn
obeithiol Iawn I fod yn weinidoc [~ weinidog ] Da I Iesu Crist
y mae y rhwiciade ac Sudd wedu Cumrd [~ cymryd ] lle un
yr Eclwysi un Suro ysprudodd Dunion at Ei cilidd un
Dost fel y mae Crefudd wedu mund I cael ei dan
Siencun + Ei celinion [~ gelynion ] ni Does neb o 'r bud un admeuro dim
ar yr athrawieth newidd yn Salem nac yn lle arall + y mae Wm.
Richards o Lynn wedu Rhoi funu acos [~ agos ] yn Lan a
precethu [~ pregethu ] - Leicwn wibod yn eich Lluthur nesaf
a odu yr athrawieth o Ewllus Rhudd yn amal
yn eich cwlad [~ gwlad ] ai nid iw ac os iw pa fodd y mae
yn Llwiddo - y mau yr Cumanfa yr flwiddun hon
yn Llan Clophan + ac y mau crefudd wedu mund
un farwedd Iawn yn Cuffredin yn yr ynus hon yn
bresenol mi a ddumunwn i fod: Seion yn Clafuchu ac
yn Escor ar feibion a merched eto mi a ddwedaf yr
arglwidd a fuwhaio ei waith eto ac a baro fod ffurdd
Seion yn fwu Sathredig - fe ddaeth amriw o Luthre [~ llythyrau ]
i 'r Cumdogeth hon oddiwrthich oddiar pan ymadawsa
Rhai I plwy Llethrach Rhai I Cabrel Rees gun I
Moses Davidd [~ Dafydd ] ac y mae mosus yn bwriadu dod
Trosodd yna mi Bruneis y Leas ar y Cwbwl ac oedd canto [~ ganddo ]
Ef yn felin panthowel ac y maeu [~ mae ] fani fu
merch a 'i Cwr [~ gwr ] yn Buw yno oddiar Dechre
Ebrill Cabrel [~ Gabriel ] yn buw yn panthowel
a chwedu prynu yr Les a 'r Cwbwl ac oedd yn
pant howel Thomas fu mab wedu priodu ac yn

[td. 3]
Buw yn penRhoscain yn plwidd [~ plwyf ] Trlech [~ Trelech ] ac y mae
arno £52 or rent amdano Ei wraig iw merch
Davis o Abrnant [~ Abernant ] yn awr nid oes cenif [~ gennyf ] ddim llawer
newiddion Thos Jephtha a claddwid ddoe yn
Salem ac fe Rhows pencoed bet ei wur a 'r
tu Suddiyn [~ sydd yn ] y Caerfurddin ac yma bet wedu
priodu a Teitus Lewis o blaenuwaen mab
yr hen Lewis Thomas o Cilfowis yr wif
yn barny ei fod heb ddechre precethu [~ pregethu ] pan
ymadawsochwi ni Does un ynghmri [~ yng Nghymru ] o un
parti yn cael Cadel [~ gadael ] fod Custal pregethwr ac
ef yn bresenol - y mau wedu mun [~ mynd ] yn amser
Caled Iawn ar dulodion [~ dlodion ] yr ynus hon yn presenol
y mae 'r Llafur yn ddrud iawn cwenith [~ gwenith ] winsister [~ Winchester ] £1 .s barlis
o 12s I 14s Curch [~ ceirch ] 5s a 5s:6d Winsister [~ Winchester ] Cig Maharen 8
Eidon 8d pound - Symau yr fath B ar
da yn awr nad os neb yn cofio ariod [~ erioed ] I w
fath yr uchen yn mun [~ mynd ] o £15 I £20 r Eidon Cwartheg [~ gwartheg ]
O £8 i £14 aneirod o £6 I £10 y Defed o £1 10s
Leicwn Wibod pa beth Iw eich biwolieth chwi
a pha beth y mau James y Cweudd [~ gweydd ] yn ei wneid
a Thomas ei fab a odu

[td. 4]
nid ym ni yn deall for [~ fod ] Mr. Rhees wedi gwneid dim angyfiawnder a
Mr Griffiths a 'r executors oedd ef i Sefydlu - a 'u fod ef unwaith wedu
roddi yr papurau a 'r Llyfrau cyfrifon Wm Griffith iddynt hwy sef
Mr. Houghton a Mr. Maywell y 'w sefydlu, wedi iddo gymeryd
llawer o boen yn gyntaf i gasclu yr dyledion, eithur yr ym
yn clywed yn awr ei bod hwy heb sefydlu 'r materion a 'u bod hwy
yn meddwl taflu yr boen a 'r drafferth ar Morgan
drachefn - yr a fydd yn niwiedol iddo o herwydd ei sefyllfa

Mr. Theophilus Rees
Bula
Cambria Settlement
by way of Harrisburgc
and Hunting Ton
America Philedelphia


4. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Carllegan) at Theophilus Rees (Beulah, PA), 13 November 1802, NLW 14873E.



[td. 1]
Carllegan Tachwedd 13th 1802
anwil frawd yn y berthunas ore mi dderbenes
eich lluthur cida llawenudd a scrufensoch mihefin
diwetha ac yn dda iawn cenif [~ gennyf ] cliwed eich bod
chwi a 'ch Tlwith [~ tylwyth ] yn iach fel ac yr ydm [~ ydym ] ni yn bresnol
mawr jw rhwyme sudd arnom j cudnabod daioni
athrycaredd yr arclwidd ti atom
yrydum ni er ein calar yn munegu Ichwi I fod
ffani fu merch wedu ei chladdu oddiar dechre
mihefin diwetha a dwu ferch fach a 'r un yn
3 blwidd ar llall yn 3 mis pan farw ei mam -
yn y lluthur dweth [~ diwethaf ] chwi ofunsoch am hanes crefudd
yn Salem y mae yr tucwrdd yn cael ei atal oddiwrth
ym bob yn ail Saboth ond yr yudm [~ ydym ] yn hedduchol
yn ein plith ein hinein trwi ddaioni yr arglwydd ar cwran
dawur yn amalhai a rhai yn chawanegu y mai Tad a
mam cwraic funonlwid [~ Ffynnonlwyd ] wedu ei Beduddio a John
Llwelin Dreasgell ac fe wnath brophes crand
o flan yr eclwis, y mae ein brawd Thomas William
o benlan wedi ei ordaino un weinidoc yn ein plith
ac y mae yn barchus Iawn yn ycmudeth ar
eclwis y mae yr achos yn cwanhu [~ gwanhau ] yn mlith yr
arminied nid oes neb yn dufod I 'w ei cwrando [~ gwrando ]
Wm David ai wraig wedu mund I Carfurddin
I fuw llawer wedu Dufod yn ol atom ni
Ben Philps wedu mund yn Sosinian a chwedu
ei wrthod can [~ gan ] ei bobol ac nid oes yn lle canto [~ ganddo ] fe
yn bresnol I lefaru maent yn ei wrthod yn
Carfurddin ac may yn Debig I fund yn dlawd
arno fe yr wif yn meddwl na feddiliodd ef ariod [~ erioed ]
y deithei arno fel ac y daith

[td. 2]
y mae llawer iawn o achwnion can lawer o bobol ac
a funa fel yr isralied a fu yn spo cwlad [~ gwlad ] canan y mant [~ maent ]
yn rhoddi anair i 'r wlad, budde yn dda Iawn cenyf [~ gennyf ]
cliwed yn eich lluthur nesaf pa beth Iw eich
Calwediceth [~ galwedigaeth ] pa yn ai farmwr ai tfarnwr [~ tafarnwr ] ai
Carier o Dref I Dref fel y mau rhai ac y
fu yna un dweid y meu wedu bod yn flwiddun
oer Iawn yn ein cwlad ni rfliddin [~ y flwyddyn ] hon ond ni cawson
cunhaia [~ cynhaeaf ] dumunol ond y mae 'r crop yn waeth
na llunedd ond y mae llawer hen lafur yn ein
cwlad [~ gwlad ] eto heb ei ddurnu y barlis am 2s. 6d Winscester
y cyrch 1s. 0d Winscester ar Cenith o 6s = 9d Winscester
y da ar defed ar Cuffule ar moch pris
mawr arnunt, y mae Davit Traed yrhiw wed
marw ers 6 withnos a mab wedu priodi a John
howel nantytregl ac fe aned mab iddi nos ar wil ei mam
Beni Howel Salem wedu marw Cwanwn
Diwetha ni does cenif yn Bresenol ddim
llawer o newiddion I rhoddi Ichwi y mau ana
fu merch wedu priodi Wilmhengel [~ Gwyl Mihangel ] 1801 ac
y may mab cuda hi ei phriod iw mab John Lewis
o 'r tu cwun [~ gwyn ] ac maent yn buw y Berllan dow,
ell ac yn cadw 2 fuwch fe un dilin ei creft
crudd mi fues yn disgwl eich cweled [~ gweled ] yn
fawr rha [~ yr haf ] diwetha yn oelei bw
ond mi cefes fu siomi mi fuddwn yn
llawen iawn eich cweled [~ gweled ] yr ochor hun I 'r
Bedd ond nid oes cenif [~ gennyf ] fawr obaith eich
cweled [~ gweled ] ond cobeithio [~ gobeithio ] cawn cwrdd yr ochor
Draw lle na budd rhaid ymadel mwu

[td. 3]
a 'r ddehilw barnr cida [~ gyda ] llaweudd, Leicwn wibod
hnes [~ hanes ] James y cweidd [~ gweydd ] a 'i bobol yn y lluthur nesaf
y me [~ mae ] Gryphudd Morus or Llew auredd a 'i wraig
yn dumno [~ dymuno ] ei cofio atoch -
David Thomas Cilcod [~ Cilcoed ] wedu claddu ei inig
fab ac y may un alarus Iawn efe a 'wraig
yn awr farwl y tro hwn nid
oes cenif [~ gennyf ] ond ei corchmn [~ gorchymyn ] I dduw ei
yr udum y ni oll fel Teilu yn roddi ein
Cwasneth [~ gwasanaeth ] I chwi a 'Teilu
Samuel Thomas

I have opend this Letter in
order to put the other Letter
Inclosd as they will have a better chance to com to hand


5. Llythyr oddiwrth Samuel Thomas (Carllegan), heb ddyddiad [1802/3?], NLW 14873E.



[td. 1]
Carllegan Samuel Thomas
Anwil Frawd yn y Berthunas Ore,
Yr wyf Gwedi Gweled Eich Llythur Chwi
ag yn Llawen Iawn Genuf Glywed Eich Bod Gwedi
Sefudlu Eich hunain Mor Ddumunol - yr wyf
Gwedi Cael y Cyfle hwn I Isgrufenu [~ ysgrifennu ] r ychudig
Leine hun Attoch Gan Obaithio y Byddant ddod yn
Ddiogel I ich Llaw Chwi ag y Cafarfuddan [~ cyfarfyddant ] a Chwi oll
yn Eich Cenfunol [~ cynefinol ] Ieichud [~ iechyd ] fel ag yr ym ni oll yn Bresenol
ag Nid oes yn Cyfnewidad yn ein plith fel Teilu Oddi ar
pan ymadawsoch a ni Mawr Iw r Rhwime Sydd arnom
I Ddiolch yr Arglwydd am Ei ddaioni Tuag Attom
Yn awr Mi Roddaf ychudig hanes Eglwys Salem yr ydym
Mewn Yndeb a Heddwch a 'i Gilydd Trwi Ddaioni Ein
Duw Da - Er Ein Gofid yr yn Gwedi Gorfod Rhoi Rhai
A Dderbuniasom yn Llawen oddi ar yr Enw Rhagorol a Chwi
Arnom Ymusg y Rhai y mai Daniel John wedi Cael Ei
Ddiaelodi ag nid oes un Argoel Iddo Droi Ei aeb yn ol
A Rhai gwedi mund y ffordd yr holl Ddaiar David Thos fu
Mrawd a Thos David Laugharne; Rhai Gwidi Cael Ei
Derbun y 'n plith: Benjn. Davies Gwidi [~ gwedi ] Cael Ei Ddewis yn
Winidog [~ weinidog ] Yn funon will Na Bwch ag mae Llwyddiant
Mawr yno - Y mae Thomas Williams Benlan yn Pregethu
Yn Ein plith - Nid oes fawr Cyfnewidad Etto yn y Gymd-ogaeth
Y mae David Traedyruch Gwidi Marw a 'i wraig
a Blant mewn Tylodi mawr - yn awr mi Rhoddaf hanes
pa fodd yr ymdrawis a 'ch helunt fe orfu arnaf Rhoi £8..10s..6d. at y
£0..10s..6d. a Roisoch y mi yn Lawreni Cyn Cael Gyda John Evans
I Goncern Dim Gyda mi I Derbin yr arian fu yn Ofidus
Iawn arnaf Cyn Ei Cael ag fe aeth £20..0s..0d. o arian parod
I mi Dalu Griffith Evans ag mi fues Ine yn Ei Derbun
Bob yn ychudug o gwmpas Dau fis yn ol sydd oddiar pan
Darfuddes a 'r Count ag mi Golles £0..12s..0d. yn y Count
y ffair y Cwbwl ywf [~ wyf ] y maes o Bocket yw £4..2s..6d. -
Mi Ddymunwn gael gwybod hanes Eich Crefydd yn America
yn y Llythir Nesaf - y mae Michael James wedi priodi a Chwaer
Thos. Thomas Frowen, - y mae Lettie ffynon
Beder Gwedi Cael Plentin o Mr. Williams Ofeirad Meidrim
y mae Jno. Lewis Corngavor [~ Corngafar ] gwidi Priodi - yr ydum ni yn
Dymyno Ein Carid [~ cariad ] I Chwi oll fel Teulu a 'm Gw at Eich Gwraig
yn Benodol / ydwyf Eich Caredig frawd (yn yr Arglwidd
Samuel Thomas


6. Llythyr oddiwrth Moses David (Trelech), 4 Mehefin 1806, NLW 14873E.



[td. 1]
Velindre Trelech, June 4.th 1806
parchedig Sir, Mai yn ddrwg iawn
genif am fy mod wedi eich twyllo
cyhyd ag fy mod yn ffeily cyflawny fy
addewid ag nis gallswn ei chyflawny
am i mi newid fy sefyllfa a symyd o
Llanwinio i 'r felin felindre Trelech ag
amgylchiad mawr arall sef fy merch
Briodi. yr oedd genif feddwl mawr I
ddyfod trosodd y gwanwyn hyn ond mi
ffeiles bartoi [~ paratoi ] erbyn yr amser yr aith y
llong ymaith o milfford, yr ydwyf yn
meddwl Dyfod trosodd atoch y spring nesaf
os gallaf mewn un modd yn y byd yr ydwyf
yn dymuna' [~ dymuno ] arnoch os halwch lythyr i 'n gwlad ni
I hala atteb hwn os gwelwch fod yn dda, a cadwch
y tir i mi os ydy yn ei llaw,
y mae yn bron yn amhosibl i fyw yn y wlad hon
Nis gwelsoch chwi y fath galedi yr ys holl amser
y buoch chwy ynddi a 'r fath brinder nid oes
yma on [~ ond ] ychydig of fara ond sydd yn dyfod o wledydd
erill yn mis mai ag mai y trethe yn codi yn anherfynol.
ar dai bach a mawr: y mai chwech swllt o
dreth ar bob math o geffyl gwaith ag 16s o dreth
ar bob ceffyl cyfryw a 4s o dreth ar bob ci yn ein
gwlad ni nawr onid yw hyn yn gathiwed anrhesymol
a ffein mawr os na rodder y cyfri yn gowir
am bob ci a ceffyl i 'r trethwyr

[td. 2]
A pheth sydd waeth y mai erledigeth
grefyddol yn amalhai yn ofnadwy ag ymraniade
dinistrol rhwng crefeddwyr o 'r un sectau canys
y mai y calfiniested yn cyfri pawb ag sydd yn
whahanol [~ wahanol ] farn a nhwi yn heriticied damniol
ag yn parhay yn anymynol Rhwng cynlleidfa Salem
r hyd yr ydwyf yn eich cyfri chwi yn happys
am eich bod wedi ymadel a 'r wlad hon mewn
ystyr tymorol ag ysprydol, ag yr ydwyf fine
y'n [~ yn ] gobeitho y caf yr yn fraint ag y mai
pawb o 'ch perthnase yn fyw ac yn iach hyd
ddim ag a wn i. Byddwch wych
y mai Richard Richard waynllan yn cofio ei gariad
atoch ag yn dymyno eich bod yn iach ag yn
llawen,
Yr ydywyf eich ewellyswr da ag
yn eich anwyl ffrynd. Moses David

Dear sir if you please Send some account
What sort of employment is there to a
Landsurveyor for I am a young man which
cannot get any good employment here and if please
your honour to send me an account if such
employment is to a Landsurveyor there and how
much is for surveying Land there the Acre
Honoured sir I am your humble servant
William Richard
Landsurveyor
Wein llan [~ Waunllan ] Llanwinio South Wales


7. Llythyr oddiwrth John D. Evans (Beulah, PA) at Theophilus Rees (Seiotha, OH), 5 Mai 1807, NLW 14873E.



[td. cefn]
Mr.
Theophilus Rees
Seiotha,
State of Ohio.

Mi Gamsinies yn y Llythyr
. Nid oedd Ef wedy
Scrifenny attoech
sef David Thomas


[td. 1]
Fy hen Gyfell / Beulah Mai 5fed 1807.
Yr ydwyf an [~ yn ] cofledio
y cyfleistra presenol i ddanfon gyda
James Evans y Llythyr hwn attoch
gan obeithio eich bod Chwi a 'ch Teuly
yn mwynhau eich Cynefenol [~ cynefinol ] iechyd
fel ag yr ydwyf i yn bresenol diolch
i Awdwr pob daioni. - Mi a dderbynies
lythyr nythwr [~ neithiwr ] o Lunden oddiwr [~ oddiwrth ]
Thos. Thomas fy Mrawd yn nghyfreth
a 'ch hen Gymodog chwitheu oedd fe a 'i
deuly yn iach pan yr
yscrifenodd y llythyr, yr hyn oedd Mawrth
10fed 1807 Fe fu Ef ddwy flynedd a
hanner yn lled afiach, a chwech mis o
hynny mor glaf ag iddo fethy Gweithio. fe a
aeth i Gymry Mis Awst, ag yn mhen
chydig amser a ddaeth yn hollol iach.
ag a aeth yn ol i Lunden Nadolig
canlynol. sef y Nadolig dywedda.
yn mhen saith diwarnod wedy mynd
adre. fe aeth yn Glaf a 'r Plurys ag

[td. 2]
a fu yn debig iawn yn ngolwg dinion i ymadel a 'r byd
hwn, ond fe gas ei adferyd y 'w gynefinol iechyd trwy ddaioni
yr hollalluog. fel mai yn debygol i wneud
drosto ei hun a 'i deulu. - Mi Scrifenes lythyr at
Simon James o Attebyad i un a dderbynies i oddiwrtho
fe gyda James James Evans, Yr oeddwn wedi Sulwy yn
hwnnw bod llawer o 'r Cymru yn son am fyned oddi
yma i Dir yr Holand Company, fe aeth rhai ohonynt
ar yr Eira i weld y tir hynny, ag a aethant
yno yr ail waith i pigo y tir goreu yn gynta iddint
ei hunen, a rhai o 'r Saeson gyda nhwy, ond Erbyn
hyn yr oedd yr eira wedi myned i bant, hwy a
ffeilsant a chael gafel yn y tir da a Gwastad
a welsant y tro cynta, hwy a ddychelsant [~ ddychwelsant ] fel Gwyr
Dafydd Canys y Gwyr oedd wedi Cywilyddio yn
Lawr. 2 Sam 10.5 - Ni wn i ddim pa le byddont
yn meddwl o So'n [~ son ] amdano nesa. - Wedi i fyScrifenny
llythyr Simon James dychwelsant i nol yr ailwaith,

Mae yn ddrwg gen i glywad eich boed [~ bod ] mor
anamal o Lefarwyr. Gobeithio cewch y fraint yma.
sef ymarferyd yn Gydwybodol a moddion gras fe
ofala yr Arglwydd am ei achos. ni Edi Efe ei bobl.
Mi a ddyweda yr un peth wrthych ag a ddiwedes i
wrth Simon James, yr ymdrechaf i dyfod i 'ch
gweled cynted ag y Gallwyf, Arwydd dda yw bod
tymlad [~ teimlad ] o 'r dyffyg yn aros, o hireth am weled Custal,
ag os ewyllys Duw gwell na 'r amser gynt.
Ag fel y byoch yn ymdrechgar dros yr Achos goreu
flynyddeu maith, mae lle cryf, ar sail dda i
hyderu, na chewch fo'd [~ fod ] mewn newyn o gael clywed
y Gair yn eich hen dduddieu - Ar amserau mai
llawer o Lyfarwyr mewn rhai manneu a manneu
erill heb neb. mai rhyw ddoeth ddibenion yn hyn

[td. 3]
Yr ydwyf fi custal ag y dymynwn o ran fy Amgylchiadau
temhorol [~ tymhorol ], ond bo'd [~ bod ] arian yn bring iawn
yma yn bresenol, Ni wneuthym i yn burion yn
yr amser, er pan daethym yn ol o Mary land
tair Blynedd i nawr. mae Sefyllfa gusurus yn
dieddol i wneud y meddwl yn llonydd, Pan
bo y meddwl trwy lywodreth gra's yn Sefydlog
ar bethau o bwys, mai yn hawsach lefaru, trwy hyn
rwyf fi yn fwy gusurus i fy hun. ag a fwy lles
i erill, nag oeddwn y tro cynta cyn myned i
Mary land, fel nad wyf o ddim pwys ar y Cymry,
trwy Diriondeb Duw yr ydwyf yn mwynhau iechyd
da yma, dyna un peth sy yn fy nghadw
yma. nghyd [~ ynghyd ] a boed [~ bod ] arwyddion fy mod o les yn
rhai o Cymry. a 'r Saeson yn y Sefylad y [~ yn ]
Brush Valley. ar Black, - Ag etto mai o Bosibl
bydd gwaith y 'w wneud yn eich ardalodd
chwi: yn y Gorllewynol dir.
Cofiwch fy yn Garedig at
Betty a 'r plant, David Thos, a 'i wraig
a Martha Eich Merch. nid wyf yn nabod ei gwr,
ag at Martha eich hen ferch yn Ynghyfreth. [~ yng-nghyfraith ]
Ydwyf Eich Ewyllysiwr Da
John D Evans
Mae Thos Thomas fy Mrawd yn nghyfreth yn
un o 'r Pregethwyr Sefydlog yn Llunden
yn misg y Methodists cymraeg, -
Mi ddymynwn gael llythyr yn ol cynted a
byddo yn gyfleis i chwi, a hanes llawn o 'ch
rhan Chwi o 'r wlad, - Rwyf yn dyall bo'd [~ bod ] David,
Thomas a Bet wedi Scrifeny attochi Mi gweles
E heddyw. maent oll yn iach.


8. Manylion bywgraffiadol am Theophilus Rees, NLW 14873E.



[td. 1]
Mr Theophilus Rhees
Cambria Settlement
near Beula
Pennsulvania


[td. 2]
Theoph Rees o Shir Gaerfyrddin a anwid n Lanwrthginin
ym mhlwif Midrim yn y flwiddin 1747
a fediddiwid n Rhydevelin gan David Thomas n 17 oed

Elizabeth ei wraig anwid n r un Shir n y grove
m mhlwif llanginin n y flwiddin 1743 a fediddiwid
n eglwis abartawe gan Griffith David
y Cyfriw oedd n ailode gwreiddiol n Corffoli eglwis
Salem n Shir Caerfyrddin n y flwiddin 1753

David Rees a anwid n y Dreascell n Shir Gaerfyrddin
ym mhlwif Llanfihangel abar-Cowin n y flwiddin
1773 a fediddiwid n Salem gan Benj Phillips
n y flwiddin 1794

Gwnaethpwyd â / Made with Concordance