Chidlaw, Benjamin Williams, 1811-1892. Yr American: yr hwn sydd yn cynnwys nodau ar daith o Ddyffryn Ohio i Gymru, golwg ar dalaeth Ohio, hanes sefydliadau Cymreig
yn America, cyfarwyddiadau i ymofynwyr cyn y daith, ar y daith, ac yn y wlad. (Llanrwst: Argraffwyd gan John Jones, 1840), testun cyflawn.
Cynnwys
Contents
[td. 3]
YR AMERICAN, &c.
CYNNWYSIAD Y PENNODAU.
I. Dinas Cincinnati—Columbus—Carchardy—Cymanfa—Y Plains—
Llyn Erie—Rhaiadr Niagara—Pentref yr Indiaid—Rochester—Syracuse
—Indiaid Onandago—Utica—Y Llywydd—Cyfarfodydd Blynyddol—
New York—Mordaith—Gweled Llong-ddrylliad—Claddu ar y Môr—
Cyraedd y tir.
II. Talaeth Ohio—Eglurhad ar y gair Ohio—Rhaniadau—Poblogaeth—
Ansawdd y tir—Cynnyrch—Glo—Haiarn—Halen—Cerrig—Camlasau
—Ffyrdd—Climate—Trethi—Llywodraeth—Colegau ac Ysgolion—
Crefydd.
III. Sefydliadau Cymreig—Paddy's Run—Radnor—Welsh Hills—
Columbus—Cincinnatti—Owl Creek—Palmyra—Galia a Jackson—
Putnam a Vanwert, yn Ohio—Utica—Deerfield—Ffloyd—Steuben—
Remsen, a dinas New York, Pittsburg—Ebensburg a Pottsville—Pensylvania,
IV. Cyfarwyddiadau pa gymwysiadau sydd yn ofynol mewn pobl a fyddo
yn debyg o lwyddo, a bod yn gysurus yn America—Liverpool—Cymeryd
Llong—Newid arian—Dillad—Ymborth—Ymarweddiad ar y môr
Cyrhaedd tir America—Teithio—Traul.
PENNOD 1.
MORDAITH
Nid hawdd amgyffred ysgogiadau y meddwl
wrth ymadael â theulu anwyl, eglwys, a chynulleidfa
garedig, i wynebu hir daith dros fôr a thir.
Gyda theimladau na fedr neb eu mynegu, Awst
26, 1839, ymadewais âg ardal Paddy's Run, ac ar
ol teithio 20ain milldir yn nghwmni hynaws gyfeillion,
daethum i ddinas Cincinnati; y ffordd yn
dda, ond y tywydd yn hynod o boeth. Yn yr
hwyr, Areithiais ar Ddirwest, yn Nghapel y
Cymry;—mae 'r achos ar gynydd, a llawer trwyddo
wedi eu hachub o grafangau marwol meddwdod.
Wrth adael y Capel, clywais adsain gorfoleddu
yn treiddio o addoldy y Negroes Wesleyaidd:
ar ol myned iddo, mawr oedd fy llawenydd wrth
[td. 4]
weled tyrfa o bobl dduon wrth eu bodd yn moli
Duw, trwy daer weddio, canu, a gorfoleddu.
Gofynwyd i mi ddweyd ychydig, ac arweiniwyd
fi gan bregethwr dû at yr Areithfa; ac ar ol cael
ychydig ddistawrwydd, dywedodd y dyn dû,
“Come, dear bredren, try be still, de white broder
going to talk to de sinners.” Mor hardd a dymunol
oedd yr olygfa, hen blant duon Ethiopia yn
mhellder y Gorllewin-fyd yn mwynhau rhyddid
meibion Duw. Y mae 5 neu 6 mil o bobl dduon
yn y ddinas, oll yn rhydd, ac yn byw yn gysurus.
Y mae Cincinnati, ar lan Afon Ohio, yn cynnwys
50,000 o drigolion. Yn 1808, nid oedd ynddi
ond 5,000; yn awr yn ddinas fawr, canol-bwynt
masnachol y Gorllewin. Wrth sefyll ar y Landing,
gwelir agerdd-fadau mawrion, rhai yn myned i
fynu i Pittsburg, 500 milldir, ereill i lawr i New
Orleans, 1,500, ac eraill i Raiadr St. Anthony,
1,800 o filldiroedd. Yn y Gauaf y mae o 4 i 5 can
mil o foch tewion, yn pwyso o 2 i 3 chant, yn cael
eu lladd a 'u halltu, a 'u hanfon i 'r gwahanol
farchnadoedd, mewn agerdd-fadau; dyma sydd
yn gwobrwyo yr amaethwyr am eu llafur; maent
yn eu pesgi gyda 'r Indian Corn, ac yn eu gwerthu
am o 2 i 3 ceiniog y pwys. Mae y tai yn gyffredin
o briddfeini, yn hardd a helaeth; yr heolydd yn
sythion ac yn llydain. Y mae yma 30 o gapeli,
a 9 o ysgoldai mawrion. Y maent yn argraffu
20 o Newyddiaduron, rhwng dyddiol a wythnosol;
4 Ariandy, a 4 Marchnad-tŷ, lle y cynnhelir
marchnadoedd bob dydd, ond ar y Sabboth,
a dechreuant ar doriad y dydd, a diweddant am
9 neu 10 y boreu; 2 Goleg, un i feddygon, ac
arall i gyfreithwyr; y mae un dan olygiad y Pabyddion;
[td. 5]
yn nghyda [~ ynghyd â ] llawer iawn o adeiliadau defnyddiol
a godidog eraill. Haner can mlynedd
yn ol, yr oedd y lle yma yn anialwch hollol,
trigfanau creaduriaid, ac Indiaid gwylltion; mawr
y cyfnewidiad a wnaeth amser mor fyr. Awst 27,
1839, teithiais oddiyma mewn cerbyd drwy wlad
hyfryd a ffrwythlon i Columbus, 115 milldir;
yr oedd yr amaethwyr yn hau gwenith, a 'r meusydd [~ meysydd ]
o 'r Indian Corn yn dechreu addfedu; y trefydd
yn lled aml, ac yn dangos eu bod ar gynnydd.
Yn fore yr 28ain, cyrhaeddais Columbus, prifddinas
y dalaeth, ar lan afon Scioto, yr hon sydd
yn cynnwys 7 neu 8 mil o drigolion. Cynnhelir
ynddi Eisteddfod y Llywodraeth. Y mae ynddi
Noddfeydd (Assylums) i 'r deillion, mudion, byddariaid,
a gwallgofion, yn adeiladau mawrion ac
ardderchog o briddfeini a cherig nadd. Gerllaw y
ddinas, ar lan yr afon, y mae carchardy y dalaeth,
(Penitentiary). Wrth weled yr adeilad ardderchog
hwn, a 'r gerddi o 'i amgylch, gellid meddwl mai
palas boneddwr ydyw; ond wrth sylwi ar y drysau
a 'r ffenestri heiyrn [~ heyrn ] sydd arno, deallir yn fuan mai
drwg-weithredwyr sydd ynddo. Yma yr anfonir
yr holl ddrwg-weithredwyr yn mhlith 1,500,000
o drigolion sydd yn nhalaeth Ohio, i 'w cospi trwy
weithio yn galed tros ystod eu carchariad, sef o
flwyddyn hyd eu hoes, yn ol y drosedd. Yr oedd
ynddo y pryd hwn 445 o garcharorion, rhai o bob
Swydd (County) yn y dalaeth, o bob oedran, a
phob gradd mewn cymdeithas. Bu gwaith y carcharorion
y llynedd, ar ol talu traul y carchardy, yn
ennill i 'r dalaeth £3,000, yr hyn a achubodd gymaint
a hyny o dreth oddiar y dinasyddion. Yn
y dydd y maent oll yn llafurio—neb yn cael siarad
[td. 6]
un gair; y nos mewn celloedd, heb ddim ond y Bibl
i 'w difyru. Eu dillad yn frithion—cant ddigonedd o
ymborth iachus, ond pob peth arall yn gosp i 'r
eithaf. Y mae gweinidog yr efengyl yn llafurio
yn eu plith, yn pregethu iddynt ar y Sabbothau, yn
cadw dyledswydd deuluaidd yn ddyddiol, ac yn
ymweled â hwy yn fynych yn eu cellau; ac y
mae y moddion, dan fendith Duw, yn llwyddo i
dynu dagrau o lawer llygad na wylodd erioed o 'r
blaen, ac i ddryllio llawer calon adamentaidd. Y
mae llawer ohonynt yn rhoddi arwyddion boddhaol
o ddiwygiad a theyrnasiad gras yn yr enaid;
a gellir dywedyd fod yr efengyl oedd a 'i chofnodau
o fuddugoliaeth yn mhalas Nero, a 'i cholofnau byw
o fewn muriau carchardy talaeth Ohio.
Pregethais yn yr hwyr yn y dref uchod, i gynnulleidfa
Gymreig. Dranoeth, cyrhaeddais Radnor,
yn swydd Delaware. Y mae yma lawer o
Gymry, a 'u rhifedi yn cynnyddu yn barhaus. Cynnaliwyd
cymanfa yma gan yr Annibynwyr, Medi
1, 1839, sef y gyntaf yn y lle hwn. Nid oedd yno
ond ychydig o bregethwyr, sef Parchedigion H. R.
Pryce, Worthington; S. Howells, Columbus;
M. M. Jones, (gynt o Ebensburg,) a Rees Powell.
Yr oedd y gwrandawyr yn lluosog, yr odfeuon yn
wlithog, a gobeithiwn, er budd i 'n cydwladwyr
mewn gwlad bellenig[.] Medi 4ydd, ymadewais â
Radnor mewn cerbyd, trwy wlad wastad a ffrwythlawn,
85 milldir, i Sandusky, ar lan Llyn Erie.
Y mae y tir yma yn isel, ac weithiau yn wlyb. Y
mae llawer o 'r gwastadtir, a alwant hwy Plains,
yn naturiol heb ddim coed. Mae rhai o 'r Plains
yn 20 milldir o gwmpas, a gwellt gwyllt yn tyfu
ar hyd-ddynt, yn borfa ac yn wair. Y mae y Plains
[td. 7]
sychion yn cael eu haredig, pa rai sydd yn hynod o
ffrwythlawn: maent yn anhawdd iawn i 'w haredig
y tro cyntaf. Gwelais un wedd yn cynnwys tair iau
o ychain [~ ychen ] a dau o geffylau, yn aredig. Ar ol aredig
y tro cyntaf, y mae yn rhydd fel lludw, ac yn
hawdd ei drin. Cyfrifais ar un weirglawdd, dros
gant o ddeisi gwair, o ddwy i dair tunell yr un,
yn barod erbyn y gauaf yn ymborth i 'r anifeiliaid.
Medi y 5ed, gadewais dalaeth Ohio, yn yr agerddfâd
“Erie,” 230 o filldiroedd, i Buffaloe, yn
nhalaeth New York. Yr oedd ar y bâd oddeutu
300 o deithwyr; cefais dywydd hyfryd, a daethum
i Buffaloe y dydd canlynol. Y mae Llyn Erie
yn 270 milldir o hyd, ac o 30 i 40 o led, yn ddwfr
croyw, ac yn nofiadwy i longau 400 tunell; a
rhyfedd y nifer o fâdau a llongau sydd yn mordwyo
arno. Medi 6ed, cymerais eisteddfa yn
y Rail Road Car, am 15 milldir, i ymweled a
Rhaiadr Niagara, rhwng Llyn Erie ag Ontario, lle
y mae holl ddyfroedd y llynoedd Gogleddol yn
treiglo mewn ffrwst a mawredd annhraethol dros
graig serth, 164 troedfedd o uchder. Dyma un
o brif ryfeddodau cyfandir America, yr hwn sydd
a 'i ddyfroedd rhuadwy fel mynegfys tragywyddol,
yn dangos ardderchawgrwydd gweithredoedd y
Bôd anfeidrol a 'i gosododd. Ar ol edrych arno
oddifynu ac oddiwaered a 'm llygaid heb haner eu
boddloni, ymadewais ar y Rail-Road i Lockport,
ac oddiyno ar y gamlas i Utica. Gwelais ar y daith
hon bentref a gwlad gyfaneddol gan lwyth o
Indiaid, (y Tuscaroras,) wedi eu gwareiddio, ac
yn byw fel eu cymydogion gwynion. Yn y pentref
hwn y mae capel, a chenadwr yn llafurio yn eu
plith, a 'r efengyl wedi gwneuthur iddynt bethau
[td. 8]
mawrion. Yr oeddynt unwaith yn llwyth enwog
a lluosog, ond trwy ryfeloedd a meddwdod, y
maent wedi myned gan lleied a 300 mewn rhifedi.
Aethum ar y gamlas oddiyma i Utica, a chefais
fy nghario a 'm hymborth am 10 swllt y can milldir:
hon oedd y daith hyfrydaf o 'r holl ffordd y daethum
i Utica, 234 o filldiroedd mewn 4 diwrnod.
Y mae llawer o drefi mawrion i 'w gweled ar
lenydd y gamlas; ac yn eu plith y mae tref Rochester;
ar lan Afon Gennesse, yr hon sydd hynod
am ei melinau; cyfrifais 16, ac yn mhob un o
honynt o 6 i 12 pâr o gerig, yn malu gwenith, i 'w
ddanfon ar y gamlas i New York. Yn Syracuse
y mae gwaith halen helaethaf yn y wlad. Yma
gwelais lawer o Indiaid wedi eu haner wareiddio,
o lwyth yr Onandagos; y mae ganddynt dir yn
agos i 'r dref, ond trwy eu bod wedi gwrthod yr
efengyl a 'i chenhadau, nid oes cystal golwg arnynt
a 'r lleill a welais; y mae ohonynt dros 400 dan hen
benaeth a elwir Antioga, yr hwn sydd yn 90
mlwydd oed. Yr oedd y dynion yn eu gwisg yn
debyg i 'r bobl wynion; ond y merched a 'r plant
mewn dillad Indiaidd, sef Moccasons o grwyn am
eu traed, peisiau o frethyn yn llawn o dlysau o
wahanol ddefnyddiau a lliwiau, bed-gown callicco,
gwrthban dros eu penau a 'u hysgwyddau, tlysau
arian yn eu clustiau ac ar eu dwylaw. Cyfrifais
haner cant o ddarnau arian fel cadwyn ar wddf
bachgen 5 neu 6 oed. Yr oedd y mamau yn cario
eu plant, y rhai oedd dan flwydd oed, yn rhwymedig
ar ystyllen, fel y byddent yn uniawn ac yn
hardd pan gyrhaeddant oedran dynion. Wrth
fyned trwy y dref, gwelais nifer o 'r Indiaid, rhai o
honynt yn lled afreolus gan waith yr Alchol [~ alcohol ],
[td. 9]
gelyn y coch, du, a 'r gwyn, yr hwn oedd a 'i fachau
yn un ohonynt, ac yn cael ei gymeryd ymaith gan
rai ag oedd yn fwy sobr. Gofynais i Indiad yn fy
ymyl, pwy oedd y meddwyn. Atebodd, gan wenu,
“He no Indian now, white man make him drunk.”
Mae yr Indiaid, o ran maintioli, yn debyg i drigolion
Ewrop; eu lliw fel copr, eu gwallt yn ddu,
hir, a garw, fel rhawn ceffyl. Galarus yw meddwl
am goch drigolion coedwigoedd ëang y Gorllewin,
a fu gynt yn meddiannu y wlad, a 'i theg ddyffrynoedd
yn dir helwriaeth ganddynt; ond yn awr y
mae rhyfeloedd a gwirodydd wedi eu hysglyfaethu
fel nad oes ond gweddillion gwael i 'w gweled, pa
rai sydd yn diflanu fel niwl o flaen pelydrau
tambaid [~ tanbaid ] yr haul: mae llawer o ymdrech yn cael
ei wneyd gan y Cymdeithasau Cenhadol yn eu
hachos; ond fel dynoliaeth yn gyffredin, derbyniad
oeraidd sydd i 'r efengyl, a gwrthodiad o 'i chynghorion
tirion; ei bendithion rhad yw eu maentramgwydd,
a 'u rhwystr i fwynhau eu breintiau
gwerthfawr yn y byd presenol, a 'r hwn a ddaw.
Yn Utica, gwelais Martin Van Buren, llywydd
yr Unol Daleithiau, yn marchogaeth ar geffyl, heb
un gwas yn ei ddilyn, yn edrych yn fwy tebyg i
amaethydd cyffredin na llywydd 15,000,000 o drigolion.
Yn swydd Oneida, treuliais amser hyfryd
yn ardaloedd y Cymry, yn cynnorthwyo fy mrodyr
i gynal eu Cyfarfodydd Blynyddol. Wrth weled
lluosogrwydd y gwrandawyr, helaethrwydd yr
addoldai, ac ysbryd y gwaith, braidd na feddyliaswn
fy mod yn ngwlad fy ngenedigaeth. Ar ol
mwynhau hyfrydlawn gyfeillach gyda hwy, a chyfranogi
yn helaeth o garedigrwydd yr eglwysi, ymadewais
oddiyma Medi 26ain, ar y Rail-Road, 96
[td. 10]
milldir, i Albany; ychydig oriau a fu'm [~ fûm ] yn dyfod
i ben y daith. Yn min yr hwyr, yn yr agerddfâd
Dewit Clinton, ymadewais i fyned lawr Afon
Hudson, 160 milldir, i New York; ac erbyn boreu
dranoeth, gwelwn oddiar fwrdd y bâd, y ddinas
yn ei hardderchogrwydd yn ymddangos o 'm blaen,
yr hon sydd yn cynnwys 320,000 o drigolion. Pregethais
yma i 'r Americaniaid, yn Pearl Street, ac
i 'r Annibynwyr Cymreig, yn Broome Street.
Treuliais yma ychydig ddyddiau, lle y cefais
garedigrwydd anarferol.
Hydref 1af, ar y llong Columbus, (670 tunell,)
yn rhwym i Liverpool, ymadewais, am 10 o 'r gloch
yn y boreu, â thir America, i wynebu y geirwon
dònau. Gan nad oedd dim gwynt pan oeddym yn
cychwyn, bu orfod i agerdd-fâd lusgo ein llestr i
lawr hyd Sandyhook. Yr oedd llawer o longau
ereill yn cyd-gychwyn â ni, ac yn eu plith yr enwog
agerdd-long, British Queen, yr hon oedd yn
saethu heibio gyda chyflymdra y fellten fforchog.
Ar ol cyrhaedd y môr mawr, a 'r bâd ein gollwng,
cododd y gwynt—lledwyd yr hwyliau—a dechreuodd
yr hen Columbus rwygo trwy y tònau ddeg
milldir yn yr awr. Fel ag yr oedd llen y nos
yn ein gorchuddio, collasom olwg ar y tir, heb ddim
ond gwyrdd dònau a glas awyr i 'w gweled. Yr
oedd yn y cabin dri ohonom o Ohio, un o New
York, ac un o Pensylvania, yn cael pob ymborth
ag ymgeledd addas er ein cysur. Yr oedd yn y
Steerage o 70 i 80 o deithwyr, ac yn eu plith amryw
yn afreolus ac anystyriol. Yn y cabin yr
oeddym yn talu (trwy gael pobpeth oedd yn ofynol
i 'r fordaith) £20 yr un. Yn y Steerage yr oeddynt
yn talu, heb gael dim ond eu passage, eu dwfr,
[td. 11]
a 'u tân, £4. Hydref 3ydd, ymwelodd â myfi
glefyd y môr, er fy mlino yn egniol dair mordaith
o 'r blaen; eto ymwelodd â mi y pedwerydd gwaith;
ond trwy gael ymgeledd addas, ni ddyoddefais [~ ddioddefais ]
gymaint ag a ddisgwyliais oddiwrtho.—Cymwynas
mewn rhith anghymwynas ydyw,—drwg fel y
daw da, am fod gwell iechyd i 'w fwynhau ar ei ol.
Hydref 7fed, pan yn mhell ar y gwyrddlas eigion,
clywais un o 'r morwyr yn gwaeddi o ben yr hwylbren,
“Ship in distress.” Yn fuan ar ol hyn,
gwelwn long dau hwylbren, a 'r tònau yn lluchio
yn gynddeiriog-wyllt drosti, a phob peth wedi eu
golchi oddiar y bwrdd. Ni wyddom ei henw—
o ba le y daeth—i ba le yr oedd yn myned—na
beth a ddigwyddodd i 'r morwyr. Efallai iddynt
gael gwaredigaeth; ond mwy na thebyg iddynt oll
suddo i 'r dyfrllyd fedd.
Hydref 14, clywais fod plentyn wedi marw yn
y Steerage, unig blentyn ei fam, a hi yn weddw.
Gwisgwyd y corff mewn darn o hen hwyl, a
rhoddwyd careg wrth ei draed, a daeth un o 'r
morwyr ag ef i 'r bwrdd, a gosododd ef ar ystyllen
ar ochr y llong; a thra yr oeddwn yn darllen rhan
o bennod y claddu, gollyngodd ef i 'r dyfnder mawr,
i orphwys hyd y boreu y rhydd y môr i fynu ei
feirw. Hydref 15, yn y nos, gwelwyd goleu
Goleudy Cape Clear, yn yr Iwerddon; ac ar ol
mordaith gysurus, ar foreu yr 20fed dydd, cyrhaeddasom
Liverpool, heb un ddamwain anghysurus
ein cyfarfod, wedi mordwyo yn agos i 3,500 o filldiroedd.