Adran o’r blaen
Previous section

Pen. xv.

1 Saith Angel a' chanthynt saith y pla dywethaf. 3 Caniat yr ei a orchvygasont y bestvil. 7 Y saith phiolae yn llawn o ddigofein Dyw.



[td. 390r]
[1] AC mi weleis arwydd arall mawr yn y nef a' rryfedd, seith Angel a chantynt y seyth pla diwetha: cans trwyddynt hwy llid Dyw y gyflawnwyd.
[2] Ac mi weleis mal by bei mor gwydrol, gwedy y gymysgy a than ar sawl y gawsant y llaw 'n ycha ar yr * enifel [-: * bestvil] , ae ddelw, ac ar y nod, ac ar rrif y enw ef, yn sefyll ‡ ar [-: ‡ wrth] 'lan y mor gwydrol, a thelyney Dyw ganthynt.
[3] Ac hwy ganasant ganiat Moysen gwasnaethwr Dyw, a chaniat yr Oen, dan ddwedyd, Mawr, a' rryfedd ydynt dy weithredoedd, Arglwydd Ddyw hollallyawc: cyfiawn a' chywir ynt dy ffyrdd, Brenin y Seint.
[4] Pwy nath ofna di Arglwydd, a' gogoniantu dy Enw? cans ti yn vnic wyd santeidd, ar holl nasioney y ddont ac aðolant gair dy vron di: cans dy * varney [-: * vrodieu]   di ydynt cohoyddys.
[5] Ac yn ol hynn my edrycheis, a' syna, yrydoedd tem'l ‡ Tabernacl [-: ‡ lluest, tent, tyley] y tustolaeth yn agored yny nef.
[6] A'r seith Angel y ddeythont allan or dem'l, yrrein oeddent ar seith pla ganthynt, ae dillad oedd llien pur * gloyw [-: * claer, dysclaer] , ac wedy ymwregysu ynghylch y broney a gwregysey aur.
[7] Ac vn or pedwar enifel y roedd yr seith Angel seith phiol aur yn llawn o ðigovent [-: ‡ ddicter, llid, soriant] Dyw, yr hwn y sydd yn byw yn * dragywydd [-: * oes oesoeð] .
[8] Ac yrydoedd y demel yn llawn o vwg gogoniant Dyw ae allu, ac ny doedd neb yn abyl y vyned

[td. 390v]
y mewn yr demel, hed yn ðarfod gyflewni seith pla y seith Angel.

Pen. xvj.

1 Yr Angelon yn tywallt ei phiolae yn llawn digofeint. 6 A' pha plae 'sy yn dyvot o hyny. 15 Rybudd y ymochelyd a' gwilied.

[1] AC mi glyweis lleis mawr allan or deml, yn dwedyd wrth yr seith Angel, Ewch * ffwrdd [-: * y fford] , a' thywellwch allan seith phiol digovent Dyw ar y ddayar.
[2] Ar cynta aeth, ac y dywalloedd y phiol ar y ddaiar: a' chornwyd drwc a' dolyrys y gywmpoedd ar y ‡ gwyr [-: ‡ homines dynion] 'oedd a nod yr enifel arnynt, ac ar y rrei y addolsant y ddelw ef.
[3] Ar eil Angel y dowalloedd y phiol ar y mor, ac ef aeth mal gwaed * duyn-vvedy-marw [-: * ceilan] , a phob peth byw yny mor y vy varw.
[4] A'r trydedd Angel y dwalloedd y phiol allan ar yr avonydd a' ffynoneyr dyfroeð, ac hwy aethont yn waed.
[5] Ac mi glyweis angel y dyfroedd yn dwedyd, Arglwydd, Yr wyd yn gyfiawn, yr Hwn wyd, ac yr Hwn y vyost, a' sancteidd, achos * yd [-: * yt] varny y pethey ‡ yma [-: ‡ hynn] .
[6] Cans hwy gollasant gwaed y Seint, a' phroffwydi, ac am hyny ti y rroddeist yddynt gwaed y

[td. 391r]
yfed : cans teilwng yddynt y hynny.
[7] Ac mi glyweis arall or * Cysegr [-: * allawr] yn dwedyd, Iey, Arglwydd Ddyw hollallyawc, cywir a' chyfiawn ydynt dy varney di.
[8] A'r pedwerydd Angel y dwalloedd allan ei phiol ar yr haul a gallu y rroed yddo y * poeni [-: ‡ Gr. caymatisai .i. poethi] dynion trwy wres tan,
[9] A'r dynion y aent yn boeth can ‡ wres [-: * cauma .i. poethder] mawr, ac y * ddwedasant ddrwc am [-: ‡ gablent, ði venwasant] enw Dyw, * oedd [-: * ys ydd] a meddiant gantho ar y plae hyn, ac ny ‡ chymersont eteyfeirwch [-: ‡ ddaethant ir iawn] y rroi gogoniant * yddaw [-: * 'sef y Dduw] .
[10] A'r pymed Angel y dwalloedd y phiol allan ar eisteddle yr ‡ enifel [-: ‡ bestvil] , ae deirnas ef aeth yn dywyll, a' chnoi y wneythont y tafodey gan * ddolyr [-: * 'ovid] ,
[11] A' ‡ difrio [-: ‡ chablu] y wneythont Dyw or nef gan y * poenae [-: * dolyriey] , a chan y cornwydon, ac ny chymersant eteifeyrwch am y gweithredoedd.
[12] A'r chweched Angel y dywalloedd allan y phiol ar yr afon vawr Euphrates, ‡ a'r dwr o honi [-: ‡ ai dwr hi] y sychoedd y vynydd, mal y gellid parottoi ffordd Breninoedd y Dwyren.
[13] Ac mi weleis tri ysbryd aflan yn debic y * ffrogaed [-: * lyffaint] , yn dyfod allan o eney'r dreic, ac allan o eneyr ‡ enifel [-: ‡ bestvil] , ac allan o eney'r proffwydi ffeilsion.
[14] Canys ysbrydion cythreyled ydynt, yn gwneythyr gwrthiey, y vynd at Vrenhinoedd y ddayar, a'r holl vyd, y cascly hwynt y ryfel y dydd mawr hwnw * y bie [-: * yddo ] Dyw holl alluawc.
[15] Syna, yr wyf yn dyfod mal lleidyr, Bendigedic ywr vn y wilio ac y gatwo y ddillad, rrac yddo rrodio yn ‡ hoeth [-: ‡ noeth] , a rrac gweled y * vrynti [-: * gwilydd] ,


[td. 391v]
[16] Ac hwy ymgynyllasant ynghyd y le y elwir yny'r Ebryw, Arma-gedon.
[17] ¶A'r seithfed Angel y dwalloedd allan y phiol ir * awyr [-: * wybr] : a' lleis ywchel y ddeyth allan o deml y nef oddiwrth yr eisteddle, yn dwedyd, Ef y ‡ dderfy [-: ‡ dderyw, ddarvu] .
[18] Ac yr oeð lleisiey, a thraney, a' mellt, ac yroedd crynfa vawr y ddayar, cyfryw na by er pen * mae [-: * vu] dynion ar y ddayar, crynfa'r ddayar cyment.
[19] A' rrany y wneithpwyd y gaer [-: ‡ dinas] vawr yn deir ran, a' syrthio wneithont ceyrydd y nasioney: a' Babylon vawr y ðeyth mewn cof gair bron Dyw, y rroi yddi cwppan gwin ‡ digofeint [-: ‡ baar] y lid ef.
[20] A' phob ynys y ffoedd ymaith, ac ny chad cvvrdd ar ‡ mynydde [-: * glennydd] .
[21] A chwympo y wnaith cenllys [-: ‡ cessair] mawr, mal * pwyse [-: * talentae] , or nef ar y dynion, a'r dynion y ‡ rregasant [-: ‡ gablasont] Ddyw, am plaae yr cenllys: can ys mawr * anianol [-: * dros ben] oedd y phla hi.

Pen. xvij.

3 Yscythrad y putain vawr. 8 Hei phechotae a'i phoenedigeth 14 Goruchafieth yr Oen.

[1] AC vn or seith Angel oeð ar seith phiol gantho y ðoeth, ac ymchwedleyoeð a mi, dan ðwedyd wrthyf, Dyred [-: ‡ Debre, Degle] : mi ðangosaf ytti ðamnedigeth y bytten * vawr [-: [no gloss]] ysydd yn eistedd ar lawer o ddyfroedd,
[2] Gyda'r hon y mae brenhinoeð y ddayar gwedy

[td. 392r]
godineby a deiled [-: ‡ thrigianwyr] y ddayar gwedy meddwi ‡ a gwin [-: ‡ ar win] y godineb hi.
[3] Ac ef ym dygoedd yn yr ysbryd yr diffeith, ac mi weleis gwreic yn eistedd ar * enifel [-: * vestvil] vn lliw ‡ ar scarlla [-: ‡ ac yscarlat] , yn llawn o enwey * enllibiys [-: * cablae] , a seith pen gantho a dec corn.
[4] A gwisc y wreic oedd ‡ pwrpwl [-: ‡ purpur] , a' scarlla, a goreyred ac aur, a mein gwerthfor, a' pherle, a chwppan aur oedd ganthi yny llaw, yn llawn o ‡ wrthweyneb [-: ‡ ffieid betheu] a * brynti [-: * aflendit] y godineb hi.
[5] Ac yny thalcen yrydoedd enw yn escrifenedic, Dirgelwch, Babylon vawr, mam pytteindra, a gwrthweynebe yr ddayar.
[6] Ac mi weleis y wreic yn veddw gan waed y Seint, a' chan waed Merthyron Iesu: a' phan y gweleis hi, mi rryveddeis * a rryvedd mawr [-: ‡ yn aruthrol, yn ddirvawr] :
[7] Ar Angel y ddwad wrthyf, Pa ham yrwydd yn rryfeddu? mi dangosaf yt ðirgelwch y wreic, a'r ‡ enifel [-: * bestfil] ysyð yny dwyn hi, yr hwn ysydd a seith pen gantho, a dec corn.
[8] * Yr enifel [-: ‡ y bestfil] y weleist, y vu, ac nyd ydiw, ac ef y ‡ ddaw [-: [no gloss]] y vynydd or pwll heb waylod, ac ef eiff y * ddinystraeth [-: * gyfergoll, golledigeth ] , a' deiled y ddayar, y rryfeddant (enwey y rrein nyd ynt yn escrivennedic mewn Llyfr y bowyd er dechrey'r bud) pan edrychant ar yr enifel yr hwn ydoedd, ac nyd ydiw, ac eto y mae.
[9] Ll'yma'r meddwl ys ydd a doethinep gantho. Y seith pen seith mynydd ydynt, ac yrrein ymaer wreic yn eiste, ymaent hevyd yn seith Brenin.
[10] Pymp y syrthioedd, ac vn ysydd, ac arall ysydd heb ddyfod etto: a' phan y ddel ef, rreid yddo parhay

[td. 392v]
ychydic o amser.
[11] Ar * enifel [-: * bestfil] yr hwn y ‡ vu [-: ‡ erat .i. oedd] , ac nyd ydiw, ys efe ywr wythfed, ac y mae yn vn or seith, ac ef eiff y ðinystraeth.
[12] A'r dec corn y weleist, dec Brenin ydynt, yrrein ny chawsont etto vrenhiniaeth, ond hwy gant gallu mal Brenhinoedd mewn vn awr gydar enifel.
[13] Yrrein ysydd ar vn meddwl ganthynt, ac hwy rroddant ey gallu, ae awdyrdod ‡ yr enifel [-: * ir bestvil] .
[14] Yrrein y ymladdant ar Oen, a'r Oen y gorchfyga hwynt: cans ef ydiw Arglwydd arglwyddi, a Brenin brenhinoedd, a'r rrey ysydd ar y * rran [-: ‡ du, blaid] ef, ‡ hwy a elwid ac y ddetholwyd, a' ffyddlawn [-: ‡ galwedigion ac etholedigion a' ffyddlonion] ynt.
[15] Ac ef y ddwad wrthyf', Y dyfroedd y weleist, lle mae'r bytten yn eiste, pobl ydynt, a' thyrfae, a nasioney, ac * ieithioedd [-: * tavodeu] .
[16] A'r dec corn y weleist ti ar yr enifel, yrrei ydynt y gasha y buttein, ac y gwna hi yn vnic ac yn ‡ hoeth [-: ‡ noeth] , ac hwy y vwyttant y chig, ac y llosgant hi a than.
[17] Cans Dyw * rroedd [-: * a roes, a ddodoedd] yny caloney y gyflawni y ewyllys ef, ac y wneithur trwy gyfvndeb, ac y roi y teirnas yr enifel, hed yn gyflewnir 'eiriey Dyw.
[18] A'r wreic y weleist, y ‡ gaer [-: ‡ dinas] vawr idiw, yr hon y sydd yn teirnasu ar Brenhinoedd y ddayar.

Pen. xviij.

3. 9 Bot * cariadae y byt [-: * yr ei sy yn caru'r byt ] yn dristion am gwymp y putein o Babylon 4 Rhybudd y bopul Ddew y gilio allan oi

[td. 393r]

‡ chyvoeth [-: ‡ arglwyddieth ] hi, 20 Eithyr yr ei 'syð o Ddew, ysyð ac achos yddynt y lawenechu am y dinistr hi.

[1] AC yn ol hyn, mi weleis Angel arall yn * dyfod [-: * descen] y lawr or nef, a' gallu mawr ganto, a ‡ goleyo [-: ‡ llewychu] wnaeth y ddayar gan y 'ogoniant ef.
[2] A llefen y wnaeth ef yn * rrymys [-: * gadarn, gryf, groch] a lleis ywchel, dan ddwedyd, ‡ E [-: ‡ Neur] syrthioedd, ef syrthioedd, Babylon y gaer vawr hono, ac * y mae hi [-: * hi aeth] yn ‡ drigadle [-: ‡ drigfan] yr cythreiled, a' chadwraeth pob ysbryd aflan, a * nyth [-: * custodia cadwrieth] pob ederyn aflan ‡ cas [-: ‡ a dygasoc] .
[3] Cans yr holl nasioney y yfasont o win digofent y godineb hi, a Brenhinoedd y ddayar y wneythont odineb ynghyd a hi, a marsiantwyr y ddayar eithont yn gyfothogion gan amylder y moythe hi.
[4] Ac mi glyweis lleis arall or nef yn dwedyd, Ewch allan o * hi [-: * hanei] vympobl, rrac ywch vod yn gygyfranawl oe phechodey, ac rrac ywch dderbyn gyfran oe phlae hi.
[5] Can ys y phechodey hi y ddeythont y vynydd hed y nef, a' Dyw y gofioedd y enwiredd hi.
[6] * Telwch yddi mal y taloeð hi y chwi, [-: * Gobrwywch hi mal y gobrwyoeð hi chwi.] a' rrowch yddi yn ddoy ddyblic yn ol y gweithredoedd hi: ac yny cwppan y lanwoedd hi y chwi, llenwch yddi hi ‡ y ddoy ddybllic [-: ‡ ddau cymeint] .
[7] Yn gymeint ac y gogonianoedd hi y hun, ac byw mewn moythe, yn yr vn * modd [-: * veint] rrowch yði poen a ‡ thrymder [-: ‡ thristwch, girad] : cans y mae hi yn dwedyd yn y

[td. 393v]
chalon, yr wyf yn eiste yn vrenhines, ac y nyd wyf yn weddw, ac ny welaf dim * wylofent [-: * 'alar, cwynvan, cwynofain] :
[8] Am hyny yn yr vn dydd y ddaw y phlae hi, 'sef myrfolaeth, a thristwch, a' newyn, a' hi losgir a than: cans cadarn ydywr Arglwydd Ddyw, yr hwn y ‡ barna [-: ‡ damna] hi.
[9] A' brenhinoedd y ddayar y * ochant [-: * wylan] amdeni, ac y cwynant hi, y rrein y wneithont godineb, ac y vuont byw yn voythys ynghyd a hi, pan gwelant mwg ‡ y [-: [no gloss]]   * thanllwyth [-: ‡ chenneu, llosciat, phothiat] hi,
[10] Ac hwy safant ymhell oddiwrthi gan ofn y phoen hi, dan ddwedyd, Gwae ni, gwae ni [-: * Och och] , y gaer vawr hono Babylon, y gaer gadarn: can ys mewn vn awr y ddoeth dy varn di.
[11] A' marsiantwyr y ddayar y wylant ac y cwynant * ddywch [-: * uch] y phen: can ys ny does neb yn pryny y gwar hwy ‡ mwy [-: rrac llaw] navvr,
[12] Marsiandiaeth o aur ac arian, a' maen gwerthfawr, a pherle, a' ‡ lliein-mein [-: ‡ byssi] , a' phwrpul, a' sidan, ac scarlla [-: * scarlet] , a phop rryw o goed * thyin [-: [no gloss]] , ac o bob llestr o ‡ ascwrn morfil [-: ‡ Gr. elephantinon .i. ddaint yr elephant] , a' phop llestr o * goed [-: * bren] gwerthvawrocaf, ac o ‡ bres [-: ‡ elydn] , ac o hayarn, ac o vaen * mynor [-: * marmore]
[13] Ac o * sinamon [-: ‡ canel] , ac erogley, ac * ireyd [-: * wylment] , a' ‡ ffrankynsens [-: ‡ thus] , a' gwin, ac * olew [-: * oyl, yyl] , a ‡ chan man [-: ‡ pheillied, fflwr] , a' gwenith, ac * enifeilied [-: * yscrublieit] , a' defeid, a' ‡ chyphyle [-: ‡ meirch] , a' siaredey, a gwasnaethwyr, ac eneidiey dynion.
[14] (A'r avaley y drachwenychoedd dy eneid ti, ymadawsant a thi, ar holl pethey * breision [-: * tewion] , a gwychion [-: ‡ Gr. lampra .i. claer, dysclaer, rhagorawl] aethant ffwrdd oddiwrthit, ac ny chey gyhvvrdd ac hwynt mwyach)


[td. 394r]
[15] Marsiantwyr y pethey hyn yrrein ymgofoythogasant, y safant ymhell oddiwrthi hi, rrac ofn y phoyn hi, yn wylo ac yn ochein,
[16] Ac yn dwedyd, * Gwae ni [-: * Och, Wban] , gwae ni, y gaer vawr hono, y ddillattawyd mewn llien mein, a' phwrpul, ac ‡ scarlla [-: ‡ scarlat] , a' chwedy goreyro ac aur, a maen gwerthfawr, a pherleu:
[17] Cans mewn vn awr y cyfoeth * mawr [-: * cymeint] y ddiffeith‡oedd [-: ‡ -iwyt, aeth yn ddiffaith] . A phob * llonglywydd [-: * perchen-long] , ar holl pobl ysyð yn ‡ occopio [-: ‡ trino] llongey, ar llongwyr, ar sawl bynac ydynt yn trafaylu ar y mor, y safant ymhell,
[18] Ac y lefant, pan gwelant mwg y * thanllwyth [-: * chenneu, phoethfa] hi, dan ddwedyd, Pa'ry gaer oedd debic yr gaer vawr hon?
[19] Ac hwy vwrant ‡ ddwst [-: ‡ lwch] ar y penney, ac y lefant dan wylo, ac ochein, a dwedyd, Gwae, gwae, y gaer vawr, yn yr hon y cyvothogwyt oedd a llongey gantynt ar y mor, trwy y chost [-: * Gr. timiotes .i. gwerth, gwerthvawredd] hi: cans mewn vn awr hi ddiffeithwyd.
[20] Y nef, llawenha arnei, ar ebostolion santeið, a'r prophwydi: cans Dyw ‡ y roeð ych barn chwi [-: ‡ a roes, 'sef ych dialodd] erni.
[21] Ac yno vn Angel cadarn y * gwnoedd maen [-: * gymerth, gododd vaen ] megis maen melin, ac y bwroedd yr mor, dan ðwedyd, Ar vath ‡ rrym [-: ‡ wth, yrr]   hyn y bwrir y gaer vawr Babylon, ac ny cheir hi mwyach.
[22] Ac ny chlywir yno ti mwy lleis telynorion, a' * chantoried [-: * cherdorion ] , a' phibyðion, a' thrwmpedyddion, ac ny ‡ chyhwrddir ac [-: ‡ cheffir] vn creftwr, pa grefft bynac vo ynoti mwy, ac ny chlywir ‡ lleis [-: * twrwf, sain] maen melin ynoti mwy.
[23] Ac ny welir * 'oleyni [-: ‡ llever, llewych, 'oleuad] canwyll ynoti mwy: ac

[td. 394v]
ny chlywir lleis priodasvab a phriodasverch ynot i mwy: can ys dy varsiandwyr di oeddent * bendevigion [-: * wyr mawr] y ddayar: ac ath ‡ cyfareddion [-: ‡ rinie, swynion, sybeldenweith, wiscrefft] y twyllwyd yr holl nasioney.
[24] Ac yndy hi y ‡ gafad [-: ‡ caffat]   cyvvrdd a gwaed y proffwydi, a'r Seint, a phawb ar y las * yn [-: * ar] y ddayar.

Pen. xix.

1 Roi moliant y Ddew am varnu 'r putein, ac am ddial gwaed ei weision. 10 Ny vynn yr Angel ei addoli. 17 * Galw [-: [no gloss]] 'r ehediait a'r adar ir lladdfa.

[1] AC yn ol hyn, mi glyweis lleis * ywchel [-: * mawr] gan dyrfa vawr yny nef, yn dwedyd, Hallelu-iah, iechyd a' gogoniant, ac anrrydedd, a' gallu y vo yr Arglwydd yn Dyw ni.
[2] Cans cywir a' chyfiawn ydynt y varney ef: cans ef y varnoedd y byttein vawr, yr hon y lygroedd y ddayar ae godineb, ac y ddialoedd gwaed y weison y gollvvyd gan y llaw hi.
[3] Ac eilwaith hwy ddwedasant, Hallelu-iah: ac y mwg hi y ‡ drychafoedd [-: ‡ escennnoð, gododd] yn dragywydd.
[4] Ar pedwar ar ygen o henafied, ar pedwar enifel y syrthiasant y lavvr, ac addolasant Ddyw, oedd yn eistedd ar yr eisteddle, dan ddwedyd, Amen, Hallelu-iah:
[5] A' lleis y ddoeth allan o'r eisteddle, yn dwedyd, Molianwch yn Dyw ni, y holl weision, ar rrei ydych

[td. 395r]
yny ofni ef bychein a' mawrion.
[6] Ac mi glyweis lleis mal tyrfa vawr, a' mal lleis llawer o ddyfroedd, ac mal lleis taraney cedyrn, yn dwedyd, Hallelu-iah: can ys yn Arglwydd Ddyw hollalluawc a deyrnasoedd.
[7] Gwnawn yn llawen a llawenychwn, a' rroddwn gogoniant yddo ef: achos dyfod priodas yr Oen, ae wreic ef y ymbarattoedd.
[8] A' chanattay y wneithpwyd yði, ymwisco a * llien-mein [-: * bysso ]   ‡ pur [-: ‡ 'lan] , a' dysclaer: can ys y llien-mein ydiw cyfiawnder y Saint.
[9] Ac ef y ddwad wrthyf, Escrivenna, Bendigedic ynt y rrei y elwyr y * wledd [-: * swper] priodas yr Oen. Ac ef y ddwad wrthyf, Y geiriey hyn y Ddyw ydynt gywir.
[10] Ac mi syrthieis gair bron y draed ef, y addoli ef: ac ef y ddwad wrthyf, * Gwyl [-: ‡ Ymogel, ymochel, gogel] rrac gwneythur hyny: yr wyfi yn gydwasnaethwr a thi, ac vn oth vrodyr, ysydd gantynt testolaeth y Iesu, addola Ddyw: can ys tustolaeth y Iesu ydiw ysbryd y bryffodolaeth.
[11] Ac mi weleis y nef yn agored, a' syna march gwyn, ar vn y eisteddoedd arno, y elwid, Fyddlawn a' chowir, ac y mae ef yn barny ac yn ymlað yn gyfiawnder.
[12] Ae lygeid ef oeddent mal flam dan, ac ‡ ar [-: ‡ am] y ben ef oeddent llawer o * goraney [-: * daleithieu] : ac yr ydoedd gantho enw yn escrifenedic, yr hwn ny ‡ adnaby [-: * wyddiat] neb ond ef y hun.
[13] Ac ef y ddillattawd a gwisc gwedy * taro [-: ‡ throchi] mewn gwaed, ae enw ef y elwir GAIR DYW.


[td. 394v]
[14] A'r llyeddvvyr oeddent yny nef, y ddilinasont ef ar veirch gwnion, gwedy ymwisco a llien-mein gwyn ‡ glan. [-: ‡ a' phur.]
[15] Ac oy eney ef yr aeth allan cleddey llym, y * daro [-: * y ladd] ac ef, yr ‡ cenedloedd [-: [no gloss]] : can ys ef y rriola hwynt a gwialen hayarn, * ac [-: * cans, o bleit] ef yw yr hwn y sydd yn sathry y winwasc [-: ‡ pwll gwin y winfa]   * ddigofent [-: * cynddareð] , a' llid Dyw hollalluawc.
[16] Ac y mae gantho ‡ yn [-: ‡ ar] y wisc, ac ar y vorddwyd enw escrivenedic, BRENHIN Y BRENHINOEDd, AC ARGLWYDd YR ARGLWYDdI.
[17] Ac mi weleis Angel yn sefyll yny'r haul, ac yn llefen a lleis ywchel, dan ddwedyd wrth yr holl adar oeðent yn * hedec [-: * hedfan] trwy ganol y nef, Dowch, ac ymgynyllwch ynghyd at ‡ swper [-: [no gloss]] y Dyw mawr,
[18] Mal y galloch vwytta cig Brenhinoedd, a' chig pen captenied, a chig gvvyr cedyrn a' chig meirch, ar rrei ydynt yn eiste arnynt, a chig gvvyr ryddion a'r ceithon, a' bychein a' mawrion.
[19] Ac mi weleis yr * enifel [-: * bwystvil] , a brenhinoedd y ddayar, ae rryfelwyr gwedy ymgynyll ynghyd y ryfely yny erbyn ef, oedd yn eiste ar y march ac yn erbyn y vilwyr.
[20] Ond yr ‡ enifel [-: ‡ bestvil] y ddalwyd, ar proffwyd falst ynghyd ac ef yr hwn y wnaeth gwrthiey gair y vron ef, trwyr rrein y siomoedd ef hwynt y dderbynasant nod ‡ yr enifel [-: ‡ y bestvil] , ar rrei addolasant y ddelw ef, Y ddoy * yma [-: * hyn] y vwriwd yn vyw yr pwll tan yn llosgi a brymstan.
[21] A' * relyw [-: * lleill] y las a chleddey'r vn ys ydd yn eistedd

[td. 396r]
ar y march, yr hwn gleddey 'sy yn dyuot allan oe eney, ar holl adar y lenwid yn llawn oe cic hvvy.

Pen. xx.

2 Bot Satan yn rhwym dros dalm o amser, 7 Ac wedy ei ellwng yn rhydd, yn poeni yr Eccles yn athrwm 10. 14 Ac yn ol hyny barnu'r byd, y vwrw ef a'r ei yddaw ir pwll tan.

[1] AC mi weleis Angel yn discin or nef, a' chanto * agoriad [-: * allwydd] y pwll heb waylod, a' chadwyn vawr yny law.
[2] Ac ef y ddalioedd y ddreic yr hen sarff hono, yr hwn ydiw'r ‡ cythrel [-: ‡ diavol] , a Satan, ac y rrwymoeð ef dros vil o vlynyddoedd,
[3] Ac y bwrioedd ef yr pwll heb waylod, ac y goarchaeoð ef, ac y seloedd y drvvs arno, megis na alley siomi'r bobl mwyach, nes cyflewni'r mil o vlynyddey: can ys yn ol hyny rreid yw y ollwng ef dros ychydic o ‡ amser [-: ‡ enbyd] .
[4] Ac mi weleis eisteddleoedd: ac hwy eisteddasant arnynt, a' barn y rroed yddynt hwy, ac mi vvelais eneidiey y rrei, y * dorrwyd [-: * las] y peney am dystolaeth Iesu, ac am eir Dyw, a'r rrei nyd addolasant yr ‡ enifel [-: ‡ bestfil] , nae y ddelw, ac ny chymersont y ‡ nod [-: [no gloss]] ef ar y talceney, ney ar y dwylaw: ac hwy vyont vyw, ac y deirnasasant gyd a Christ mil o vlunyddey.
[5] Ond y gweddil or gwyr meirw ny ‡ vyont [-: ‡ 'sef vyddant] vyw eilweith, nes diweddy y mil vlynyðey: hwn ydiw 'r

[td. 396v]
cyfodiadigeth cyntaf o'r meirvv.
[6] Bendigedic a santeidd ywr vn, ysydd a rran yddo yny cyfodiadigeth cyntaf: can ys nyd oes gan yr eil * myrfolaeth [-: * marwoleth, angeu] veddiant ar ‡ y cyfryvv rei [-: ‡ yr ei hyn] : ond hwy vyðant yn offeirieyd Dyw a' Christ, ac y deirnasant gyd ac ef mil o vlynyddey.
[7] A' gwedy darfod y mil blynyddey, Satan y ellingyr allan oe garchar,
[8] Ac ef eiff allan y dwyllaw'r bobl, yrrein ydynt ym hedwar ban y ddayar: nid amgen Gog a' Magog, y gascly hwynt ynghyd y rryfel, rrif y rrein 'sydd mal * tyuod [-: * twad, swnd] y mor,
[9] Ac hwy ‡ ddrychafasant [-: ‡ escenasont, aethant y vyny] y wastad y ddayar, yr rein ymgylchynesont * pebyll [-: * castra .i. cestyll, lluestai] y Saint, a'r dinas caredic: eithyr tan y ddiscynoedd oddiwrth Ddyw or nef, ac y ‡ llyncoedd [-: ‡ ysodd, bwytaodd, divaodd] hwynt.
[10] * A'r cythrel [-: * A' diavol] yr vn y twylloeð hwynt, y vwrwd y bwyll o dan a' brymstan lle poenir ‡ yr enifel [-: ‡ y bestfil] , a'r proffwyd * ffalst [-: * geuoc] dydd a' nos yn dragowydd.
[11] Ac mi weleis eisteddle mawr gwyn, ac vn yn eistedd arno, oddiwrth ‡ olwc [-: ‡ wynep, wydd] yr hwn y * ffoedd [-: * ciloedd] y ðayar a'r nef, ac ny chafad oe lle hwy mwyach.
[12] Ac mi weleis y meirw, mawrion a' bychein yn sefyll gair bron Dyw: a'r llyfre agorwyd, a' llyfr arall agorwyd, yr hwn ydiw llyfr y bowyd, a'r meirw y varnwyd wrth y pethey oeddent yn escrivenedic yny llyfre, yn ol y gweithredoed hvvynt.
[13] A'r mor y ‡ vwroedd [-: ‡ roes] y vynydd y meirw oeddent * yndi [-: * yntho] , ‡ a' myrfolaeth [-: ‡ ac angeu] ac yffern y rroisont y vynydd y meirw oeddent yndynt hwy: a' barny wneythpwyd ar bawb yn ol y gweithredoedd.


[td. 397r]
[14] ‡ A' myrfolaeth [-: ‡ Ac angeu] ac yffern y vwriwd y bwll tan: hwn ydiwr eil * myrfolaeth [-: * angeu] .
[15] A' phwy bynac ny chafad yn escryvenedic mewn Llyfr y bowyd y vwriwd y bwll y tan.

Pen. xxj.

3. 24. Gwynvydedic cyflwr yr ei dywiol, 8. 27. A thruan helhynt yr ei andywiol. 11 Agwedd y Gaersalem nefawl, ac am wreic yr Oen.

[1] AC mi weleis nef newydd, a' dayar newydd: cans y nef cyntaf, ar ddayar cyntaf eithont heybio, ac ni doedd dim moor mwy.
[2] A' myvi Ioan y weleis y dinas santaidd Caersalem newyð yn discin or nef oddiwrth Ddyw, gwedy y thrwsio mal priodasverch ar vedr y ‡  [-: ‡ eu, ei, i, hi] gwr.
[3] Ac mi glyweis lleis mawr allan or nef, yn dwedyd, Syna, * Tabernacl [-: * lluestyy ] Dyw gyda'r dynion, ac ef y dric gydac hwynt, ac hwy y vyddant bobyl yddo ef, a' Dyw y hun, y vydd y Dyw hwy ynghyd ac ynthwy.
[4] A' Dyw y sych ymaith yr oll ðeigre oddiwrth y llygeid: ac ny bydd dim myrfolaeth mwy, na thristwch, na llefein, ac ny vydd dim poen mwy: cans y pethey cyntaf eithont heybiaw.
[5] Ar vn y eisteddoedd ar yr eisteddle, y ddwad, Syna, yrwyf yn gwneythur pob peth oe newyð: ac ef y ddwad wrthyfi, Escrifena: can ys y maent y geiriey yma yn ffyddlawn ac yn gywir.


[td. 397v]
[6] Ac ef y ddwad wrthyfi, E ðervy, mi wyf ‡ α ac ω [-: ‡ Alpha ac Omega ] , y dechreyad ar diwedd. Mi rrof yr vn y sydd sychedic, o ffynon dwr y bowyd yn * rrydd [-: * rat] .
[7] Yr vn y orchfyga, y geiff etifeðy yr holl pethey, ac mi vyða Ddyw yðo ef, ac ynte vyð mab y miney,
[8] Ond yr ofnoc, ar * anghredadwy [-: * digred, yr ei eb gredu] , ar ‡ casddynion [-: ‡ yr ei sceler] , a'r llyaswyr, ar pyteinwyr, ar ‡ cyfareddwyr [-: ‡ swynwyr, sibyldenwyr] , ar delw-addolwyr, a phob celwddoc y rran hwynt y vydd yny pwll, ysydd yn llosgi o dan a' brymstan, yr hwn ydiwr eil myrfolaeth.
[9] Ac vn or seith Angel, yrrein oeddent ar seith phiol ganthynt yn llawn or seith pla diwethaf y ddoyth attaf, ac ymddiddanoedd a mi, dan ddwedyd, * Dabre [-: * Dyred, Degle] : mi ddangosaf ytti y priodasverch, gwreic yr Oen.
[10] Ac ef ym dugoeð i ymaith ynyr ysbryd y ‡ 'lan [-: ‡ vynydd] ywchel vawr, ac y ðangosoeð y mi y dinas vawr, Caersalem santeidd, yn discin allan or nef oddiwrth Ddyw,
[11] A' gogoniant Dyw genthi, ae discleyrad hi oeð debic y vaen gwerthvawrysaf, megis maen Iaspar * eglaer mal crystal [-: * crystallizanti ] ,
[12] Ac yrydoedd yddi ‡ vagwyr [-: ‡ gaer, vur] vawr ywchel, a' doyddec porth iddi ac wrth y pyrth doyddec Angel, ac enwey yn escrivenedic, yrrein ydynt doyddec llwyth ‡ meybion [-: ‡ plant]   yr Israel.
[13] Ar barth y Dwyrein yr oedd tri phorth, ac ar du y Gogledd tri phorth, ac ar tu y Dehey tri phorth, ac ar y tu Gorllewyn tri phorth.
[14] A' * magwyr [-: * Llat. murus .i. mur, gwal] y dinas oedd a doyddec ‡ gryndwal [-: ‡ sail] yddi, ac yndynt hwy enwey y doyddec ebostolion

[td. 398r]
yr Oen.
[15] Ac yrydoedd gan yr vn y ymddiddanoeð a mi, corsen aur y vessyr y dinas, ae phyrth hi, ae magwyr hi.
[16] A'r dinas y osodwyd yn bedwar ‡ ochrog [-: [no gloss]] , ae * hud [-: * hyd] oedd cymeint ae lled, ac ef y vessyroedd y dinas ar corsen, doyðec mil ‡ ystod [-: [no gloss]] : ae hud, ae lled, ae hywchter 'sy yn ‡ 'ogymeint [-: ‡ gogymetrol] .
[17] Ac ef y vesyroedd y magwyr hi, * pedwar cubyt a seith igein [-: * cant a' .44. cuvydd] , wrth vessyr dun, * yr hwn yw [-: * ys ef] , mesur yr Angel.
[18] Ac adeil y magwyr hi oedd o vaen Iaspar, a'r dinas oedd aur pur, yn debic y wydyr gloyw.
[19] A' gryndwal magwyr y dinas oedd gwedy y thrwsio a' phob rryw vaen gwerthfawr: y gryndwal cynta oedd maen Iaspar: yr eil o Saphir, y trydydd oedd o vaen Chalcedon: y pedwerydd Smaragdus,
[20] Y pymed Sardonix: y chweched Sardius: y seithfet Chrysolithus: yr wythfed Beryl: y nawfed Topazius: y decfed Chrysoprasus: yr vnfed ar ddec Hiacinthus: y doyddecfed, Amethystus.
[21] Ar doyddec porth doyddec perl oeddent, a' phob porth 'sydd o vn perl, a' heol y dinas 'sy aur pur, mal gwydyr disgleyredd.
[22] Ac ny weleis i vn demel yndi: cans yr Arglwydd Ddyw hollallvawc a'r Oen, * yw [-: * est ] y themel hi.
[23] Ac nyd rreid yr dinas wrth yr hayl, na'r lleyad y ‡ 'oleyo [-: ‡ lewychy, dywynu] yndi: cans gogoniant Dyw y goleyoeð hi, a'r Oen yw y goleyni hi.
[24] A'r bobyl cadwedic, y rrodiant yny goleyni hi:

[td. 398v]
a' Brenhinoedd y ddayar y ddugant y gogoniant, ae anrrydedd yddi hi,
[25] Ac ny chayer y phyrth hi can * trwyr [-: * ar hyd] dydd: ny vydd ddim nos yno.
[26] A' gogoniant, ac anrrydedd, y Cenedloedd a dducir yddi.
[27] Ac nyd a y mewn yddi dim aflan, neu beth bynac y weythio * casineb [-: * ffieiddbeth] , ney gelwddey, ond y rei y escrifenwyt ‡ mewn [-: ‡ yn] Llyfr bowyd yr Oen.

Pen. xxij.

1 Auon dwfr y bywyt. 2 Frwythlawndep a goleuni dinas Dew. 6 Yr Arglwydd byth yn rhybyddio ei weision am betheu y ddyvot. 9 Yr Angel eb vynu ei addoli. 18 Gair Dew nyd iawn angwanegu dim arno na lleihau dim o hanaw.

[1] AC ef y ddangosoedd y mi afon pur o dwr y bowyd yn dysclaero mal y crystal, yn dyfod allan o eisteddle Dyw, a'r Oen.
[2] Ynghanol y heol hi ac o ‡ ddwy ochor [-: ‡ bop-parth] yr afon, yrydoedd pren y bowyd, yr hwn oedd yn dwyn doyddec rriw ffrwythey, ac y rroeð ffrwyth pob mis, a' deil y pren a vvasanethei y iachay y nasioney.
[3] Ac ny vydd dim * rrec [-: * melltith] mwy, ond eisteddle Dyw a'r Oen y vydd yndi, ae wasnaethdynion y wasnaethant arno ef.


[td. 399r]
[4] Ac hwy y welant y weyneb ef, ae Enw ef y vyð yny talceni hwynt.
[5] Ac ny vydd yno dim nos mvvy, ac nyd rreid yðynt dim canwyll, na goleyad yr haul: can ys yr Arglwydd Ddyw ysydd yn rroi yddynt goleyni, ac hwy y deirnasant yn dragywydd.
[6] Ac ef y ddwad wrthyfi, Y geiriey hyn ydynt ffyddlawn a' chywir, ‡ ar [-: * a'r] Arglwydd Ddyw y proffwydi sanctaidd y ddanfonoedd y Angel y ddangos yddy wasnaethwyr y pethey ysydd reid y gyflewni ar * vrys [-: ‡ vyr, yn vyan] .
[7] Syna, yr wyf yn dyfod ar vrys, * Bendigedic [-: * Gwynvydedic, dedwydd] yw'r vn y gatwo geiriey proffedolaeth y Llyfr ‡ yma [-: ‡ hwn] .
[8] Ac mi wyf Ioan, yr hwn y weleis, ac y glyweis y pethey hyn: a' phan ddarfoedd ymi y clywed ae gweled, mi syrthies y lawr y addoli gair bron traed yr Angel, yr hwn y ddangosoedd ymi y pethey hyn.
[9] Ac ef y ddwad wrthyfi, Gwyl na vvnelych: cans cydwasnaethwr yrwyfi a thi, ath vrodyr y Proffwydi, ar rrei ydynt yn cadw geiriey y Llyfr hwn: addola Ddyw.
[10] Ac ef y ddwad wrthyfi, Na sela geiriey pryffodolaeth y Llyfr hwn: can ys y mae'r amser yn agos.
[11] Yr vn ysydd anghyfiawn, bid anghyfiawn ‡ eto [-: * yn oystat] : ar vn y sydd * vudr [-: [no gloss]] , bid ‡ vudr [-: [no gloss]] etto: ar vn ysydd cyfiawn, bid cyfiawn etto: ar vn ysydd santeidd, bid sainteið etto.
[12] A' syna, yrwyf yn dyfod ar vrys, am gobrwy y

[td. 399v]
sydd gyd a mi, y rroddi y bob * duyn [-: * vn] yn ol y ‡ vutho [-: ‡ bo] y weithredoedd.
[13] Mi wyf α ac ω, y dechreyad ar diwedd, y cyntaf ac dywethaf.
[14] Bendigedic yvv y rrei, y wnelo y 'orchmyney ef, mal y gallo y cyfiawnder hwy vod ymhren y bowyd, ac y gallont ðyfod y mewn trwyr pyrth * yr [-: * ir] dinas.
[15] Can ys or ty allan y bydd cwn, ar ‡ cyfareddwyr [-: ‡ swynwyr, swynogiwyr, rhinwyr] a' phytteinwyr, a llyaswyr, a' delw-addolwyr, a phob vn y garo ney y wnelo celwydd.
[16] Myvi Iesu y ddanvones vu Angel, y dystolaethu y chwi y pethey hyn yn yr eglwysi: mi wyf gwreiddyn a' chenedlaeth Ddavydd, ar seren vore eglur.
[17] Ar ysbrud ar priodasverch ydynt yn dwedyd, Dabre, A'r vn y wrandawo, dweded, Dabre: A'r vn ysyð sychedic, doed: a'r vn y vyno, cymered dwr y bowyd, yn * rrydd [-: * rrat] .
[18] Can ys yrwyf yn ‡ dangos [-: ‡ cytystio] y bob vn y wrandawo geiriey pryffodolaeth y Llyfr hwn, o * dyd [-: * angwanega]   * vn duyn [-: ‡ neb] ddim at y pethey hyn, Dyw y ddyd atto ef y plae, escrifenedic yny Llyfr hwn.
[19] Ac o thyn vn duyn ymaith ddim o 'eiriey'r Llyfr y proffedolaeth hon, Dyw y gymer ymaith y rran allan o lyfr y bowyd, ac allan or dinas santeidd, ac oddiwrth y pethey y escrifenir yn y Llyfr hwn,
[20] Yr vn y sydd yn tystolaethu y pethey hyn, ysyð yn dwedyd, Yn siccir, yrwyf yn dyfod ar vrys. Amen. Velly dabre, Arglwydd Iesu.
[21] Rrad eyn hArglwyð Iesu Grist y vo gyd a chwi oll, Amen.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section