Adran o’r blaen
Previous section


[BWB 358(1): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I Hanes Fel y rhoes Merch Fonheddyg ei ffansi ar Fâb i Hwsmon yn yr Iwerddon ag fel yr enynodd llîd ei Thâd yn eu herbyn or achos ag a geisiodd ei llâd ag a wnaeth benn am dano eî hun. II Cwynfan hên Ferch oedd wedi pasia dyddiau Carwriaeth (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1784), 2-4 (baled 1). ]


[td. 2]

Duw gadwo'r Brenin

CLYWCh hanes mab hwsmon,
O diroedd Iwerddon,
I Ddulyn yn dirion y daeth,
Yn Ystward distawedd i ŵr mawr î fonedd,
Yn rhyfedd dan rinwedd yr aeth,
Fo oedd o ddysg uchel yn landdyn mwyn tawel,
Synhwyrol ei chwedl gwych iawn,
Ag Aeres fonheddig ai hoffodd ô yn unig,
Ddyn ystig nodedig mewn dawn,
Ag atto fo'n brysur y gyrrodd yn eglur,
Yn gywir y Llythyr oi llaw,
Mynega iddo 'n ddiwad fel 'rydoedd oi gariad,
Dan nychiad o brofiad or braw,
Yn llonwych Darlleniodd,
Rhyw foddion rhyfeddodd,
Pa fodd y danfonodd y fun,
Hi yn Aeres ar dyddyn,
Pum Cant yn y flwyddyn,
Ag ynte yn wael lengcyn dwl un,
Ond rhyngddyn nhw'n helaeth,
Y prifiodd Carwriaeth,
Heb neb mewn gwybodaeth ei bod,
Ond truan gwybued ai Thâd a gâdd glywed,
Fel 'rydoedd mynediad ei nôd,
Ysgrifenodd ar fyrder ar frŷs at i feistr,
Iw droi ô'n ddwl egr oi le,
Pan glywe'r wen Eneth hi hwyliodd yn heleth
Iw galyn o dranoeth or drê.

[td. 3]
Fe yrre ei Thâd weision,
A rheini ai daliason,
Dygason nhŵ 'n union yn ol,
Y ferch a glos gadwed,
Ag ynte a garchared,
Fe ai bwried mewn rhediad yn rhôl
Ynghyfraith Iwerddon,
Iw golli yno 'n union,
Drwy lyfon cau dystion oer daith,
Am ddwyn y Ferch honno,
Gwnaent ladrad mawr arno,
Gael iddo ei fyr wyro am ei waith,
Yn fuan doe'r diwrnod i wneud ei ddibendod,
Iw edrych doe rheini am ddwyn y fath ladi,
Gwir ydi iw iawn brofi ryw bryd,
Mewn Coach oi dŷ annedd,
Ei Thâd di drugaredd,
I edrych ei ddiwedd lân ddŷn,
Ar ferch oedd iw garu,
Oedd wedi ei chloi i fynu,
Yn galaru ag yn llygru yno 'n llyn,
Ond Erl o Gilclear a welo'n waith hagr,
Wneud diwedd dŷn howddgar am hyn,
Aeth at y Lord Debit fo fegiodd ei fywyd,
Nad ellid mo'i symyd ô'n synn,
Dros ddeugain dŷdd tyner,
'Rol hyn daeth i Loegr,
At SIOR frenin aur-ber yr aeth,
I Daniel migwear câdd bardwn _wyllysgar
Fo ai tynodd or Carchar blin caeth.

[td. 4]
Pan glywodd yr henddyn,
Na chae ô mor Cortyn,
Fo ymlenwodd yn ddygn o ddig,
Fo b_ifiodd o eilweth mewn llîd at ei Eneth
Fo neidie bob bregwaith iw brig,
Ag iddi gofyne oedd hi fyth or un modde,
Yn dal mo'r ben dene yma ar dir,
Hi attebe iw Thâd hynod,
Fod Cariad heb ddarfod,
Os mynne gaêl gwaelod y gwir,
Fo gippiodd ei Gledde yn sydyn fo ai brathe,
Gwnae hithe oer leisie drwy loes,
Fo redodd yn union oer ofid îr afon,
A boddodd y creulon d_yn croes.
Ni chowse'r lân eneth,
Ddîm briwie marwolaeth,
Ond dychryn di berffaith yn boen,
Y Cledde redase tu allan iw 'senne,
Heb dwtsio ei gwych radde na'i chroen,
Y newydd a yrrodd iw chariad oi gwirfodd,
Ag ynte ai priododd pur yw,
Yn Iwerddon lân hyfryd,
Mae'n etto 'n ddau anwylyd,
Yn unfryd dan fywyd yn fyw,
Pur gariad glân effro pwy ddichon ei rwystro,
Lle tyfo mae'n llwyddo mewn llês,
Nid yw dyfroedd y Moroedd,
Mor digon iw ddiffodd
Lle ennynnodd iawn wreiddiodd i wrês.
Ellis Robets a'i Cant


[BWB 358(2): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I Hanes Fel y rhoes Merch Fonheddyg ei ffansi ar Fâb i Hwsmon yn yr Iwerddon ag fel yr enynodd llîd ei Thâd yn eu herbyn or achos ag a geisiodd ei llâd ag a wnaeth benn am dano eî hun. II Cwynfan hên Ferch oedd wedi pasia dyddiau Carwriaeth (Trefriw: Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1784), 5-8 (baled 2). ]


[td. 5]

Siwsan Lygeid-ddu.

GWRANDEWCh fy nghwynfan anian iw,
Synna son im bron mae briw,
Nid hir ir cledi hwn o hyd,
Yn baeddu'r byd y byddai byw,
My fym handi Ladi lân,
Yn caru Llangcie fawr a mân,
Mi gedwais gwmni llawer dêg,
Mewn croeso têg wrth wrês y tân,
Ar ol hynny ag ymdynnu ir gwely,
A chusanu yno 'n siwr,
Ond misies heb gel gan siwred ar Sêl,
Yn ddirgel ddal gafael mewn gŵr,
Ni chymrwn ar wndwn,
Ni charwn a gowswn i'n gu,
Ag ni chawn un Llangc pêr,
A hoffwn dan ser,
Mae 'n drymder hen fater a fu,
Rwan rydwi yn oer fy nghwyn,
Heb un dyn yn troi mo nhrwyn,
Pawb wedi ngado i dremio draw,
Heb ŵr im llaw im gwyro ir llwyn,
Rwi'n byw mewn siamber bach fy hyn,
Mewn asw daith o eisio dyn,
O eisio cymryd un yn fy oed,
'N ufudda erioed ni feddai run,

[td. 6]
Fe am witsied i yn galed,
I fyned cyn hyned a hyn,
Ow na chawn ddŷn im helw fy hun,
Un melyn iw galyn nid gwyn,
Ni chai bellach on gelach,
Moel afiach go legach ei liw,
Oni chai un cyn yr Hâ',
Ar fyrr mi af yn glaf,
Ag a dynga na byddai ddim byw,
Chwith geni heno ar fy hynt,
Aeth pob hên garwr gyda'r gwynt,
Ond ni base ârnai yn ddigon siŵr,
Ddim eisie gŵr pedfaswn gynt,
Yn cymryd rhywyn brigin brau,
Yn lle nghymendod i naccau,
Och or hiraeth toraeth tynn,
Sy'n hwyr am hyn yn hir barhau,
'Doe Lengcyn lled wrthyn,
Neu henddyn go ddygn ei ddull,
Mi ai cymrwn mi ai gwn.
Heb ddweud yn gair twnn,
Mi ai cymrwn ni hidiwn ddyn hyll,
Ow hyllbeth neu rywbeth,
O helaeth drwch afiaeth drachefn
I fod yn y nghell oni fedre fo 'n well,
I orwedd fel cyfaill im cefn,

[td. 7]
Pob dynes Ifangc downus iawn,
Sydd yn eî blode lliwie llawn,
Ymroed rhag bod fel fi fy hun,
I chware am ddyn a chowyr ddawn,
Rhag bod fel fina amser dryd,
Heb ddim i brynnu blawd nag ŷd,
Am na cheisiaswn ŵr om bodd,
Wel dyna'r modd rwi'n dene myd,
Heb fymryn o Ymenyn brisionyn,
Na Chosyn na Chig,
Fel hyn rydwi 'n siŵr o eisio bod gŵr,
Am cyflwr dan ddwndwr go ddig,
Trwm wŷlo rwy heno am wallgo,
Sy im ledio yn dylawd,
Mewn glyd rydwi yn glâ,
Nis gwn beth a wna,
Mae hefyd ryw gnofa im hen gnawd,
Mwy gwell a fase yn boena ar bant,
Fod gen i naw neu ddeg o blant,
Na bod fel hyn yn ddigon siwr,
Fod daf wych ŵr i ddofi'r chwant,
Rwy'n ffaelio credu bwytta un pryd,
Rwy heb ddifyrrwch yn y byd,
Rwy 'n wylo yn drwm yn llwm fy llaw,
Di arianswm draw ar amser drud,

[td. 8]
Breuddwydio rwy heno 'rol deffro,
Mewn gwallgo am gael gwr,
Fel hyn 'rydwi 'n bod,
Yn ddigon di glod,
Mewn gormod o syndod yn siwr,
Lodesi glan gwisgi sydd heini,
Y leni yn y wlâd,
Cofiwch fel yr wy,
Yn glafedd dan glwy,
Rol dyddie fy nwy 'n cadw nâd,
Ellis Robert ai Cant
DIWEDd


[BWB 359(1): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. O Rybydd i bob Dyn, i ochelyd Cwmpeini yn Siampl ofnadwy fu flwyddyn hon, am un Michael Jaccar, yr hwn a darawodd yn ddiarwybod wrth ddau o Ladron oedd yn dwyn Wates, ag o achos bod yn ei Cwmpeini mis Mowrth fo gafodd golli ei fywyd o achos ei drygioni nhw. II. Ymddiddan rhwng y Ffarmwr ar Tylawd bob yn ail penill (Trefriw: Argraphywd gan Dafydd Jones tros Harri Owen, 1784), 2-4 (baled 1). ]


[td. 2]

New Cast a way care.

W[E]L deued pawb i wrando ar unweth,
Sy o grêd a Bedydd a gwybodaeth,
I wrando ar hanes Michael Jaccar,
A gadd iw galon ddyddie galar,
Ymhell oddi cartre trafaelie fo 'n faith,
Bu'n wâs gŵr bonheddig deg âurfrig y gwaith,
'Rol hyn ae'n Exiscemon mwyn radlon o ryw,
Priododd yn Iorc-Sir un lonbur lan liw,
Ag iddo bu geneth iawn loweth o lun,
Ag efo'i mam etto mae 'n tario'n gyttun,
Ar ol priodi i wraig berydlon,
Fo roes i fynu waîth Exiscemon,
O achos taro dyn tafodrwg,
Wnaeth iddo gilio î ffordd or golwg,
Pan oedd oddi-cartre ai siwrne bell siŵr,
Fo drawodd dygase dda eirie wrth ddau ŵr,
O e nwog fonddigion rai mowrion a maith,
Ond chware go chwerwedd fu diwedd y daith
Yn lle rhaî gonest mewn gorchest yn gall,
Nid oeddynt ond lladron ynfydion y fall,
Brydnhawn dranoeth mewn dewr eryd,
Yn Nhrê Gemrits caen ei cymryd,
Ai rhoi 'n y S_ê mewn gafael gyfan,
Am ddwyn chwech o Watches arian,
Or mowrth 3.dd diwrnod bu darfod ei dâl

[td. 3]
Ai rhoi mewn twll glowddu a gwely min gwal
A Jaccar iw calyn anffortyn di ffô,
Lle cafodd ei ddiwedd bu trymedd y trô,
Troes un or ddau Leidr di glaear o glôd,
Yn aflan gyhoeddwr yn nyfndwr y nod,
Ei lŵ yno ar gam cymerodd,
Yn egr donnog ag a dyngodd,
Oflâen y gwyr yn erbyn Jaccar,
Mae fo hyll ydoedd oedd y lleidr,
A hyn ymhen trydydd oer ddeunydd ar ddeg,
Or Mowrth y cadd yno ei frifo trwm frêg,
Y Cwêst yno ai barnodd ai bwriodd or byd,
O waith Smith creulon anhirion o hyd,
Or Mowrth y Daunaw fed bu'n galed y gost,
Cadd farw o waith celwydd bu'r deunydd yn dost
Aeth at y pren mewn llawen galon,
Dan gywir foli Duw drwy ofalon,
A day berson gyd ag efo,
Oedd yno yn ddiwyd yn gweddio,
Ag wrth y pren diodde gweddie fo'n ddwys,
Gael madde ei bechode ar beie mawr bwys,
Moliannodd yr Iesu dan ganu Hymn gu,
Ag wylo ar ei gyfer roedd llawer or llu,
Dymune ir Oen Nefol oedd rasol o ryw,
Droi calon ei elynion oedd ddynîon di Dduw,
Fo ysgrîfenodd lythyr yno
Iw yrru iw chwaer oedd bell oddiwrtho,
I ddymuno arni na chymera [~ chymerai],
Ddim braw oi ddiwedd o yn ei ddyddie,

[td. 4]
Ai fod gan wirîoned or weithred ddi-ras,
Ar plentyn bach sugno oedd deg yno di-gas
Dymuno na chymre mor briwie yn ei bron,
Fod brenin y Nefoedd ir lluoedd mawr llon,
Yn derbyn ei enaid mewn canaid fodd ou,
I fywyd tragwyddol at lesol fwyn lu,
Roedd hwn iw erbyn ef a dynge,
Wedi crogi un arall oi flaen ynte,
Mae hyn yn achos i bob Cristion,
I ochel cwmni drwg anraslon,
Gweddiodd o droso i ddymuno ar Dduw [mawr]
Am fadde iddo ei gamwedd anwiredd yn awr,
Ag yno gorchmynodd ir Nefoedd ai nerth,
Ei dderbyn o iw mynwes dwys obeth di serth,
Ai gymryd o i fynu i fwynedd Nef wen,
I fyw yn dragwyddol dymunol Amen.
Ellis Robets a'i Cant


[BWB 359(2): Ellis Roberts. Dwy o gerddi newyddion. I. O Rybydd i bob Dyn, i ochelyd Cwmpeini yn Siampl ofnadwy fu flwyddyn hon, am un Michael Jaccar, yr hwn a darawodd yn ddiarwybod wrth ddau o Ladron oedd yn dwyn Wates, ag o achos bod yn ei Cwmpeini mis Mowrth fo gafodd golli ei fywyd o achos ei drygioni nhw. II. Ymddiddan rhwng y Ffarmwr ar Tylawd bob yn ail penill (Trefriw: Argraphywd gan Dafydd Jones tros Harri Owen, 1784), 4-7 (baled 2). ]

Ymddiddan rhwng y ffarmwr ar tylawd ar ffarwel gwyr dyfi,

DYDd dâ fo i chwi'r Ffarmwr
Y gwladwr gwiwlês,
Ag attoch y doethim i ymdeithio os wy nes,
Deîsyf ynghoelio rwi heno yma o hyd,
A hyn yn hoff hwylys am ffioled o ŷd,
Ffarmwr.
Dim Tryst nid oes rwan ir truan un trô

[td. 5]
Aethost ti yn ynfyd neu yn anferth oth go,
Heb arian na o_ y llesol im llaw,
Cais fuan b______a throedio tu a thraw.
Tylawd.
Mae geni blant bychain yn ochain yn awr,
Heb damaid iw fwytta pur gwla ydi gwawr,
Gobeithio yr ystyriwch a byddwch yn bur,
Am helpu y tro yma mae'n gaetha flin gur,
Ffarmwr.
'Does rwan ddim trystio na choelio neb chwaith
Ni Wiw iti geisio di gysur dy daith.
Mae 'n rhaid itti ystyrio a ymlowio 'n o lym,
Neu ddiodde pob dirmyg yn ddiddig heb ddim,
T.
Mae rwan ddrudaniaeth mawr helaeth o hyd,
A phrisie anesgorol garwinol ar ŷd,
Yn para er's dwy flynedd ai tuedd ir tair,
Ag a beru chwech etto os gwirio wna'r gair,
Ff
Os peru hi felly cai wasgu ar dy wep,
Yn llesgedd yn siccir fe glywir dy glep,
Mae 'n debyg y peidi a meddwi yn y man,
Pryd hyn gan dylodi di weiddi yn o wan,
T
Ni fedrwn ddal allan wr hoywlan yn hir,
Mi'ch gwelis heb fedru ddim talu am y tir,
Pan fydd bris saledd ddwy flynedd ddi-les
A chwithe wŷr taeredd yn torri'n un rhes,
Ff.
A chwithe oedd yn feddwon rai llyfrion i lliw

[td. 6]
Heb arnoch na gofid na gafael am fyw,
Chware ac yn chwerthin yn gwilrin mewn gwg,
Ond yn awr fel y dylech cewch dalu am y drwg
T
Pwy sy gan falched a chaned a chwi,
Pan gododd y farchnad sy yn nychiad i ni,
Ach mawrion geffyle hyd y ffeirie mor ffeind
Ach penne yn rubane modd gore 'n bur geind
Ff.
Bu'r dydd arnoch chwithe rhyw fodde rhyfaith
Caech ddigon o ddiogi heb gyfri mewn gwaith,
Ach gwragedd yn dyfod ar draethod ir dre,
I chwilio am ysnisin neu dippin o Dê,
T
A chwitha sy weithan y rwan mae'r ŷd,
Ich cynal i fynu yn fwynedd mae'ch byd,
Yn gyrru ar geffyle hwyr a bore bob un,
A ninne'r tylodion yn llymion ein llun,
Ff
Nid oes fater o ronyn er dirwyn yn dynn,
Fe allasech fyw yn gynil do ganwaith cyn hyn,
Yn lle treilio 'ch dŷddie i chware drwy chwant
A llenwi 'ch gwag fythod o fwythus ddrwg blant
T
Ymhâ le bydd eich arian ŵr hoywlan o hyd,
Ddwy flynedd 'rol gostwn ar wyndwn yr ŷd
'Rol prynnu tegane rubane gryn bwn,
Lle ceiff yr holl eiddo ei gwario mi ai gwn,
Ff
Mae ganddoch chwi gastie,
Yn y dyddie yma dwyn,

[td. 7]
Sef myned ar Blwyfydd rhyw gystudd di gwyn,
A threthi at eich cadw ond garw ydi 'r gwangc
Chwi heddech eich cofi er profi a chael prangc
T
Nid oes gani at eich plwyfydd,
Nac awydd nac aingc,
Ni waeth i ni ein cyrchu ir carchar i Ffraingc,
Rwi 'n coelio fod yno i ymgydio hefo ag ê,
Na bod ar blwy egr fod llawer gwell lle,
Ff
Mae 'n ddigon o gyflog ir diog bob dydd,
Dair ceiniog o arian yn gyfan ddi-gudd,
I brynnu iddo luniaeth i lenwi ei hen fol,
I gene lled amur so segur ei siol,
T
Pa faint am dair ceîniog y rhywiog wr hael,
Sydd gannddoch chwi o wenith,
Yn gyrrith iw gael,
Haner peint bychan mae'n eg wan y rôd,
Sy i gael am yr arian yn burlan yn bod,
Ff
Ffarwel mae o'n ddigon i ddynion di-ddawn,
Heblaw aml gerdod fyth hynod faith iawn,
Ach helpo ymhob angen rhyw ddiben rhu-ddwys
Chwi sydd yngwlad Cymru yn peri bod pwys.
Ellis Robert ai Cant


[BWB 370(1): Ellis Roberts. Balad. Yn Cynnwys Dwy O Gerddi Duwiol. I. Ar Dorriad y Dydd am ddyfodiad CRIST ir Farn. II. Ar Belisle march, o ddull ymddiddan rhwng yr Enaid ar Corph: bob yn ail Pennill (Trefriw: Argraphwyd, 1787), 2-4 (baled 1). ]


[td. 2]

Torriad y Dŷdd.

DEFfROWN daw'r Arglwydd Iesu,
I farny hyn o fŷd.
Cawn weled brenin nefol un breiniol glân i bryd,
Yn eiste ar gymmyle a miloedd gyd ag ê,
a chanddo lyfre cywir darllenir yn y lle.
Gwyn fŷd yr henwau gaed sydd wedi croesi gwaed
Aen yn dragwyddol gyda 'r bywiol,
Ddewisol unol aed,
Gwae rhai ai henwau sydd, ir golwg yn ddi-gudd
Rhain fydd yno yn uchel floeddio,
Dan grynnu yn duo 'r grudd,
Bydd ffarwel yno sai dros fyth rhwng llawer rhai,
Nid oes dim gwynfyd ond fydd hefyd,
ai fyŵyd yn ddifai,
Ni ddown yno bod ag un yn ôl ni erys un,
O flaen ein SILO cawn ympirio,
Gwâe fu mewn gwallgo a gwûn.
Wel yn y Sessiwn yma bydd treial mwya trist,
A chwbl euog farnu
pob un sy heb gredu i Grist,
Nid iw lladd na'i llosgi ond i taflu i dwllni [~ dywyllni] du
I bo ni dros dragwyddol i fysg aflesol lu,
Byd yno helynt fawr, a gweiddi a duo gwawr,
a holl ynfydion dalledd deillion,
Yn llownion hyd y llawr,
Yn ffaelio cael dim llê gan nerth y fflam fydd grê
a'i cariad dirgel hefo'r Cythrel iw nadel byth ir n_
Bydd yno fyd di hedd a newydd godi oi bêdd

[td. 3]
Clywed Iesu iŵ diystyru yn gwasgu ar ei gwêdd,
Yn dweudyd wrthynt Ewch,
Ffwrn Uffern byth a gewch,
am fyw yn aflan buchedd anian,
at Satan cyd nesewch,
Dyma ddiwrnod chwerw ir meirw fawr a man
Pan fotho 'r byd yn fflame fel mor yn donne o dan
Gwae'r cwbl oedd iw bywyd heb gael anwylyd ne
ar ddiwrnod barn y diwedd
Bydd tynnedd fŷd ond te?
Bydd edifer [~ edifar] pan ddaw 'r dŷdd,
Ir dynion ffol di ffŷdd,
Yr amser hynny o flaen yr Iesu,
Wynebe yn barddu y bydd,
Bydd arnyn olwg trist rol codi or dyfn-fedd gist
Ni wiw ceisio yr amser honno,
Er crio ger bron Crist,
Fe ai tru nhŵ ar aswy law yn bruddion yn i braw
Nhw wnaen oer leisie ar y creigie,
Iw cuddio ar droie draw,
Bydd rhain gan wres y tân mynd yn dameidie man
Ni ddaw darfod ar ei trallod a chymod byth ni chan
Ow na feddylia dynion pen ryddion drŵg di râs
Beth am y diwrnod hwnnw ar Ddaear loyw lâs
a gweddio am yspryd gweddi cyn ange i torri or tir
a deisyf help yr Iesu iw dysgu i garu'r gwir,
Yn ei drwg os meirw wnân,
Hyn ydi 'r croeso a gânm
Yr Iôr nefolgu wrth i barnu fe fyn ei taflu ir tân,
Dros fyth iw llosgi ir drwyth,
Y prenie drwg di ffrwyth,

[td. 4]
Run modd ar lluoedd gynta foddodd
Ni adawodd ef ond wyth,
Gobeithio y byddwn ni yn well ein grâs an bri,
Na rhai fu feirw ymarn y Diluw,
Ai boddi ir llanw ar Lli,
Mae un a fu'n ein gwlâd yn Ddadlewr gyda'r Tad
Os nî a mendiwn atto deuwn,
Mae 'n rhoddi pardwn rhâd.
Rhyw ymarfer ddrwg wrth bechu,
Sy'n tynnu bywyd dŷn.
I lwyr angho'r Arglwydd yn ddigwilydd bod ac un
ag yno'r ange 'n dwad di gariad ydi'r gŵr,
Fo'n teru modd y byddwn ni syflwn byth yn siŵr
Bydd dâ gan Satan hyn os cawn ni'r siwrne'n synn
Cyn ini ddyfod i'mgyfarfod am gymod Iesu gwyn,
Fel hyn 'raeth llawer cant i eigion Uffern bant
Gwaith yn diystyru cyngori Iesu,
a charu byw yn i chwant,
Fel hyn 'raeth aml rai ir gwys dan bwys ei bai,
I golli 'r nefoedd dros byth bythoedd,
Oi tîroedd mawr aî tai
Duw rotho yn ddi sen dda synwyr ymhob pen
Fynd cyn ein claddu dan law yr Iesu,
Os bydd Duw yn mynnu Amen.
E Robert ai Cant


[BWB 370(2): Ellis Roberts. Balad. Yn Cynnwys Dwy O Gerddi Duwiol. I. Ar Dorriad y Dydd am ddyfodiad CRIST ir Farn. II. Ar Belisle march, o ddull ymddiddan rhwng yr Enaid ar Corph: bob yn ail Pennill (Trefriw: Argraphwyd, 1787), 4-8 (baled 2). ]

Ymddiddan rhwng yr Enaid ar Corph bob yn ail penill: ar Belisle March.

WEL wel greadur bydew budr
__ natur am y ne,

[td. 5]
Cyn ing a marw cais ymorol am nefol lesol le
Dy boeth enw di beth anian sy'm gado i druan draw
Di am llusgi i benyd tragwyddolfyd,
Dwl embyd yn dy law.
Corphilin cyndyn câs 'does genyt ti ddim blas
I fynd at orsedd Iôr trugaredd i geisio ei ryfedd râs
Pa bleser itti gael mawrhydi yn lysti wisgi wawr
ath enaid unig yn golledig o eisio 'r meddyg mawr
Ow rwan coelia fi cyn del tragwyddol gri,
Dan bridd a cherrig cyn pen ychydig,
Mae'n debyg byddi di,
Ple bydda finne ond mewn gofidie,
O waith ein dryge yn drist,
I aros itti i farn a chyfri ail godi or Ddaear gist
Corph.
Taw a son enaid mewn sain union,
Bydd fodlon ymma i fyw,
Mae priffordd inni o lawn oleuni i dirion foli Duw
Ni ddown or gore i ben ein siwrne,
Cyn delo yr ange du,
Mae gwaed yr Iesu wedi ein prynu,
Fe feddu yr hyn a fu,
Mi drô ag ymro fy mryd âf at Dduwîolion bŷd,
Llaw nefolgu am tyn i fynu,
Er glynu gynt mewn glud,
Drwy nerth tragwyddol tro fi'n dduwiol,
Om pur hyfrydol fron,
Or twyll sy im gwallio arhosai yn effro,
Drwy beidio a butio yn hon,
Ow f' enaid dibaid dwys ni chei mor bod dan bwys
Gan Oen Israel Iesu o Nasreth,
Cawn gywaeth cyn daw'r gwys,

[td. 6]
Mae'n gwâdd y llwythog ar blinderog,
Trugarog tri ag un,
Ni gawn wynfyd bywyd bywiol,
Trwy 'r doniol Dduw a dŷn.
Enaid.
Taw ath barod grefydd dafod,
Cais ganfod gwaelod gwir,
Pedfeit yn caru yr Arglwydd Iesu,
Ceit ganddo ymglymu yn glir,
Cawn ninne siccrwydd yn yr Arglwydd,
a newydd mawr or Nê,
a chanu Clyche om dyfod adre a lleisie mwyn ir lle
Rwi rwan ar ymroi mewn ofne byth na ymroi,
Mae ange ffiedd am dy gyrredd,
Was gwagedd cais ysgoi,
Considra heddyw y byddi farw cafinne groyw grî
Dim terfyn bywyd am un munud,
Ni ymyrryd byth a mi,
Rol treilio can mlwydd maith dîm nes ni fyddai chwaith
am bob seren dan yr wybren dim diben ar y daith,
Dim nes i ddyddie pen y siwrne,
Ow Gorph mae diddoe yn dost,
Haws itti ystyio a throi i Wêddio,
Na mynd î gowntio 'r gôst,
Corph
O fy Enaid anwyl trwm yw 'r perwyl,
Iw disgwyl am y dŷdd;
O wynfyd calon y Crisnogion ymynydd Seion sydd
O anadl bywiol awel nefol yn anherfynol wyt,
Yr Iôr perffeiddlon cofus cyfion,
Yr owron ow ple'r wyt,
Dod help i gorphyn gwael i dreio ceisio cael,

[td. 7]
I roi enaid yn feddianol or nefol fywiol fael,
Oh 'r Pren y bywyd anwyl wynfyd,
Dod ffrwyth dy yspryd ffri,
Yn lle clorian bregus barn gyhoeddus,
Pur waed oth ystlys di,
ar yr unfed awr ddêg o chwyth ddeheu wynt teg
Fel 'rel llong fy enaid drwy afonydd,
I fronydd glan di freg,
I ffoi rhag Pharo help gan Silo,
Im cario drwy 'r môr côch,
ar gibe gweigion mi gês ddigon,
Ym mysc rhyw feirwon foch.
Enaid.
Wel gwilia gilio ar ol ît addo ymrwymo dan i râs
Neu cei weled blin ddiweddiad;
Mawr golled galed gâs.
Os troi 'n ddi ragrith di gei fendith,
ac yn un o dylwyth Duw,
Ca finne lythyr o nef eglur
a fydd immi'n gysur gwiw,
Caf anwyl wledd or ne a ffydd drwy grefydd gre,
a siccrwydd hefyd or ail fywyd a gwynfyd gyd ag e
Caf dystîolaeth jechydwriaeth,
Gwŷbodaeth odiaeth iawn,
Fod ein pechode wedi madde,
Trwy Grist ai ddonie ai ddawn,
Daw'r Bugail mawr ei chwant,
Fu'n gado namun cant.
I gael nol adre 'r Ddafad ddie,
Yr hon aethe er bore i bant,
Daw'r wraig a gafodd y dryll a gollodd,

[td. 8]
Or aur a dreînglodd draw,
ai chyfellesau i ymweld a minne,
Pan ddelwi om briwie am braw.
Corph
Cyn ange ciedd wneud y niwedd a'n llariedd at y lle
I geisio eli un ai oelîon sy'n awr yn nwyfron ne
Fel yr afradlon mi af yn union,
air tirion at Dduw Tâd;
Caf yno ymborthi a phob daioni,
a byw yn oleuni i wlad;
Gwaith lladron eirwon aed;
Rwi yn friwie om pen im Traed,
Oen uchelne or nefoedd ole,
Yw 'r meddyg gore a gaed;
Fy Yspryd ffyddlon cymer galon;
Mae addewidiôn doethion Duw:
Yn dweud ond ceisio heh wrth gilio,
Bydd fy Enaid etto yn fyw,
Nerth nerth yn niwedd fy oes;
I basio ange ai loes.
Ffydd a gallu yn ddi derfynu;
I gredu yn Oen y Groes;
Iôr bendiged cadw fy Enaid;
Ir pur drugaredd pen;
Cael trugaredd y Duw puredd;
Iw 'r mowredd gore Amen.
E Roberts.
DIWEDd.


[BWB 371(1): Ellis Roberts. Tair o gerddi duwiol Yn gyntaf O Rybydd i bawb ymgroesi rhag iddyn wallgofi o achos y Prês diffaeth. Yn ail. Ymherthynas ir Gwragedd melltigol sydd yn gwerthu eu Plant î Wlâd y Barbariaid dinistriol. [...] (Trefriw: Argraphwyd, 1787), 2-3 (baled 1). ]


[td. 2]

Farwel Gwyr-dyfi.

GWRANDEWCh ar Gerdd newydd, Er rhybydd yn rhês;
Rhag i chwi greuloni wrth brofi 'r drŵg Brês
Mae cynwr gerwinol ar Bobl drwy 'r bŷd,
Wrth werthu pôb gronyn o 'r Enllyn a 'r ŷd,
Mae llawer yn dondio ymin [~ ym min] cydio fel Cŵn,
Yn fagad drwy 'r Farchnad mae siarad a sŵn;
Yn erbyn y Delyn mae 'n erwin ei nâd,
Ag ymaith a 'r Ferwig ddiawledig o 'r wlâd,
Ni waeth inni soppen o 'r dommen o dail,
Oni ddigerth hên geiniog Sior enwog yr ail,
A ysbio 'n nhin honno a 'i ffugrio hi 'n ffest,
A gwilio bod arni na chrychni na chrêst.
Mae rhai anllythrennog yn gefnog i gid,
Am ddarllain prês Cochion yn llawnion mewn llid,
Pedfaen am ei Eneidie a 'i geirie mor gall,
Fe fydde lai ohonyn yn fyddin i 'r fall,
Gwae i bob henddyn cibddail ond angall i don,
Sy heb ganfod ei ffigurs yn ffagl y bon,
Er digon o rheini y leni yn ei law,
Ni waeth iddo yn ei bocced grafanged o faw,
Gwae i bob un sy 'n pobi yn maith ddiogi ar i thin
Mae honno ar Brês diffaeth aflanwaith yn flîn
A mwyn wraig y Dafarn fel haiarn bydd hi
Wrth weld ei hwynebe a 'i 'nabod [~ adnabod] ei rhi,

[td. 3]
Mae Harri Ferthgelert a 'i galon yn blwm,
Wrth dderbyn rhyw syrffed gan saled i swm
S[y] 'n gwneuthur wynebe tu a 'r Deheu bob dŷdd,
A 'r lleill at y Gogledd o 'r gwagle draw sydd;
Nhŵ ddiengan yn fuan rai gwantan ei gwawr
Boed rhwydeb cythreilig i 'r hên ferwig fawr
Ag na botho am y Delyn friwsionyn o son
A Dimeue pen rhawie o ryw fanne o Sir Fon,
O waîth y Prês Cochion mae 'r Werddon yn wyrdd
O egin debygwn daeth myrddiwn a myrdd
Dweudant fod Cymry rifedi ryw faint
Yn leicio cyduno i brintio mewn braint.
O wffti 'r Prês gwrthyn hyll erwin i lliw,
Ni thal Ceiniog un Brenhin sy ar fyddin yn fyw
Fe sy yn Rheolwr ymgleddwr i 'n gwlâd,
Ac ni thal un Ddime er[s] dyddie bu i Dâd
Ni chymer y Person a 'r tirion air têg,
Dîm o 'r Prês Cochion sydd fryntion dan freg
Ni chymer y Deepper di ymgleddgar [~ diymgeleddgar] i 'r glôch
Mae 'r Methodist ynte Yn gwneud cichie [~ cuchiau] ar Bres coch,
Ni fynn un Sect newydd yn hylwydd na hên,
Mo 'r gwisgo 'r hardd Ferwig, Sydd glaerwig go glên,
Na 'r Ifangc na 'r hen ŵr mewn cynwr min cant
Yn Sydyn i 'w calyn na Thelyn na thant.
ELIS ROBERTS

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section