Adran o’r blaen
Previous section

Richmond, Legh. Crefydd mewn bwthyn; neu, Hanes Jane Bach, yn dangos y buddioldeb o egwyddori plant. A adroddwyd ac a gyfieithwyd gan weinidog o Eglwys Loegr. (Bala: Argraffedig ac ar werth gan R. Saunderson; i'w gael hefyd gan Poole a Harding, a Parry, Caerlleon; a T. Gee, Dinbych, 1819), testun cyflawn.

Cynnwys
Contents

Hanes Jane Bach. 3
RHAN I. 3
RHAN II. 8
RHAN III. 17
RHAN IV. 25
RHAN V. 34
RHAN VI. 40


[td. 3]


Hanes Jane Bach.


RHAN I.


JANE S——, oedd ferch i rïeni tlodion yn y Plwyf
lle y gwelodd Duw yn dda fy ngalw i ddechreu fy
ngweinidogaeth—a 'r hyn a 'm dygodd i 'w hadnabod
oedd fel y canlyn: Dechreuais ryw fath o Ysgol yn fy
nhŷ ar brydnawn [~ brynhawn ] ddydd Sadwrn, a gwahoddais blant
y lle i ddyfod iddi; ac ym mhlith eraill daeth Jane S.
Yr oedd hi y pryd hynny ddeuddeg oed. Arferai y
plant hyn ddarllen, ac adrodd neu ddywedyd eu Catecism,
Psalmau, Hymnau, a Phennodau o 'r Bibl [~ Beibl ]. Arferais
hwynt hefyd i ymddiddan yn gyfeillgar â 'u
gilydd, yn ol eu hoed a 'u galluoedd, am y pethau ag
oedd yn perthynu i 'w heddwch. Yn fynych yn yr
hâf cymmerwn y teulu ieuangc hwn allan i fy ngardd,
ac eisteddem yn y cysgod. Oddi yma y gwelem
ddarn mawr o wlad brydferth; ac nid oedd ond clawdd
rhyngom a 'r Fynwent. Yno yr oedd yn gorphwys y
rhan farwol i filoedd, y rhai o oes i oes a roddasid yn
y bedd—“daear i 'r ddaear, pridd i 'r pridd, lludw i 'r
lludw.” Yma y gorwedd yn dawel lwch y gwych a 'r
gwael, y cyfoethog a 'r uchel-radd, yn gystal a 'r tlawd
a 'r angenus, yn disgwyl am adgyfodiad y meirw. Nid
oedd achos i mi fyned ym mhell i ymofyn testun i rybuddio
ac annog y praidd bychan o dan fy ngofal.

[td. 4]
Yr oedd y twmpathau gleision, y rhai oedd yn darlunio
hŷd a lled yr amrywiol feddau, yn destynau
addas i sylwi arnynt. Gallwn ddangos i 'm disgyblion
ieuaingc, nad oedd neb yn rhy ieuangc i farw; canys
fe allai bod mwy na hanner y rhai oedd wedi eu claddu
yn blant. Defnyddiais hyn fel achlysur i lefaru am
natur a gwerth yr enaid, ac i ofyn iddynt i ba le yr
oeddynt hwy yn meddwl myned wedi marw.

Dywedais wrthynt pwy oedd yr “Adgyfodiad a 'r
Bywyd;” a phwy a allai dynnu colyn angeu. Mynegais
iddynt, bod “yr awr yn dyfod yn yr hon y caiff
pawb a 'r sydd yn y beddau glywed ei leferydd Ef: a
hwy a ddeuant allan; y rhai a wnaethant dda i adgyfodiad
bywyd, ond y rhai a wnaethant ddrwg i adgyfodiad
barn.” Byddwn rai troion yn dwyn ar gôf iddynt
farwolaeth ddiweddar rhai o 'u ceraint neu eu cymmydogion.
Yr oedd rhai o 'r plant hyn wedi colli tad,
mam, brawd, neu chwaer—rhai fe allai wedi colli pob
un o 'r rhai'n [~ rhain ], ac wedi eu gadael yn ymddifaid i drugaredd
eu cymmydogion. Yr oedd amgylchiadau fel
hyn weithiau yn fuddiol i gyffroi eu serchiadau tyneraf,
ac yn tueddu i 'w sobreiddio. Mynych yr anfonais
hwynt i 'r Fynwent i ddysgu 'r Englynion ar yr amryw
gerrig beddau yno: ac fel hyn gwnaethym y Fynwent
fel llyfr, a 'r cerrig-beddau fel dalenau 'r llyfr, i hyfforddi
fy nisgyblion.

Yng nghanol y Fynwent yr oedd yr Eglwys. Yr
oedd yn adeilad hen a helaeth. Yn yr adeilad hon y
dechreuais gyhoeddi cennadwri Duw at bechaduriaid.
Ar brydiau, pan y byddai y plant o 'm hamgylch yn
y Fynwent, llefarwn wrthynt am natur a diben gwasanaeth
cyhoeddus—am werth y Sabboth—am y ddyledswydd
o 'i gadw—ac annogwn hwynt i ymarferiad
difrifol o foddion gras. Dywedwn wrthynt am gyflwr
gresynol llawer o wledydd, lle nid oes nac Eglwys na

[td. 5]
Bibl [~ Beibl ]: ac hefyd am gyflyrau truenus llawer yn ein
gwlad ni, y rhai ydynt yn esgeuluso yn bechadurus
addoliad Duw, ac yn dibrisio ei Sanctaidd Air. Fy
ymgais yn hyn oedd eu dwyn i weled gwerth y breintiau
yr oeddynt hwy yn eu mwynhau.

Heblaw hyn, yr oedd o 'm hamgylch wrthddrychau
eraill i sylwi arnynt. I 'r dwyrain i ni yr oedd darn o
fôr yn ymddangos, ac arno yr oedd llongau o amryw
faintioli. I 'r dehau-orllewinol i 'm gardd yr oedd
cefnen wedi ei brithio â channoedd o ddefaid, a 'i
hochrau wedi eu harddu â choedydd. Wrth droed y
gefnen hon yr oedd y Pentref; yr hwn oedd yn raddol
dderchafu at y fan lle yr oedd yr Eglwys. Yr oedd
cymmysgiad y tai, y gerddi, y perllanau a 'r coedydd,
yn gwneuthur gwrthddrych hyfryd i 'r golwg. I 'r
dwyrain a 'r gogledd i 'm gardd yr oedd meusydd, yn
y rhai yr oedd anifeiliaid amryw yn pori. Pe buasai
peraidd ganiadydd Israel yn y lle, buasai yn ysgrifennu
Psalm i osod allan fawredd a doethineb y Creawdwr
yn y pethau oddiamgylch. Er na fedraf ganu
psalmau fel Dafydd, etto dymunwn, yn ol fy ngallu,
foli yr Arglwydd am ei ddaioni, a 'i ryfeddodau tu ag
at feibion dynion. A phe buasai yntau yng nghanol
tyrfa o ddisgyblion ieuaingc, buasai unwaith etto yn
dywedyd, “o enau plant bychain, a rhai yn sugno, y
peraist nerth.”

Y mae cofio am y pethau hyn yn felus i mi; ac y
mae 'n ddyledswydd arnaf eu cofio; o herwydd y bendithion
a dderbyniais y pryd hwnnw—ac nid y lleiaf
o 'r bendithion hynny oedd cael Jane S—— yn ferch
ysprydol.

Nid oedd neb mwy dyfal a chysson yn fy nhŷ ar
amser ysgol na Jane; ond ni sylwais ar ddim yn neillduol
ynddi dros y flwyddyn gyntaf. Nid oedd hi yn

[td. 6]
hynod am un dawn—yr oeddwn yn ei barnu yn arafach
yn ei hamgyffred am bethau na 'r rhan fwyaf o 'i
chyfeillion. Adroddai yr hyn a roddid iddi i 'w ddysgu
yn gywir; ond anfynych y rhoddai attebion i ofyniadau,
oni byddai wedi eu rhag-ddysgu. Nid oedd hi
o ran pryd na gwedd yn serchog, ac nid oedd bywiogrwydd
neillduol i 'w ganfod yn ei hedrychiad. Yr
oedd hi yn medru darllen ychydig; ond trwy boen a
llafur gwellhaodd yn hyn. Tiriondeb a llonyddwch
oedd prif nodau ei hymddygiad cyffredin. Yr oedd
bob Sul yn yr Eglwys, a phob dydd Sadwrn yn fy nhŷ;
etto nid oedd fawr sylw yn cael ei wneuthur o honi.
Pe buasid yn gofyn i mi y pryd hwn, am ba un o 'm
disgyblion ieuaingc yr oeddwn yn meddwl oreu, yr
wyf yn meddwl buasai Jane heb ei henwi. O, leied
yr ym ni yn fynych yn wybod am yr hyn y mae Duw
yn ei wneuthur yng nghalonau dynion eraill! Nid ein
meddyliau ni yw ei feddyliau Ef, ac nid ein ffyrdd ni
yw ffyrdd Duw!

Darfu ei pharodrwydd i gyflawni fy nymuniad ar
un tro, tua diwedd y flwyddyn, dynnu fy sylw atti.—
Anfonais hi i 'r Fynwent i ddysgu ychydig o linellau
yno, y rhai oedd yn fy moddhau. Dychwelodd, a
dywedodd iddi ddysgu rhai heblaw y rhai a enwaswn,
ac ychwanegodd gan ddywedyd, ei bod hi yn meddwl
bod y rhai hynny yn bur dda. Pan y clywais hwynt
daethym o 'r un meddwl a Jane—ac fe allai y bydd y
darllenydd felly hefyd; am hynny rhoddaf hwynt o 'i
flaen. Y llinellau y danfonais hi i 'w dysgu oedd i 'r
ystyr a ganlyn:

Maddeu, O gyfaill, i'm sy 'n brudd,
Os deigryn syrth oddiar fy ngrudd:
Wrth gofio 'th gariad mwyn a 'th hedd,
Pan 'r ochr hyn i 'r duoer fedd.


[td. 7]

Nid wylo mwy a ddylwn i,
Ond meddwl am d' ogoniant di;
Nid mwy yn byw mewn tŷ o glai,
Ond 'n uchel fry yn llawenhau.

Yr hyn a ddysgodd hi o honi ei hun ydoedd yn
debyg i hyn:

Rhaid bod fel hyn ---- ein tad ni oll,
Trwy drosedd mawr, a 'n dug ar goll;
Heb obaith byth y b'asem [~ buasem ] ni,
On' b'ai [~ bai ] dy ras a 'th 'fengyl [~ efengyl ] di.

Ond mae Efengyl Crist yn llawn
O addewidion melus iawn,
I 'n dysgu mewn hyfrydwch fyw,
A myn'd [~ mynd ] i 'r bedd mewn hedd â Duw.

Deallais, ar ol hyn, i 'r llinellau diweddaf hyn
wneuthur argraph dwys ar ei meddwl. Ond yn yr
amser y digwyddodd, nid oeddwn yn gwybod dim am
ei meddwl. Yr oeddwn mewn cymhariaeth wedi ei
hesgeuluso hi—a mynych i [~ y ] 'm ceryddwyd gan fy
nghydwybod o herwydd hynny, pan y deallais wedi'n [~ wedyn ]
yr hyn a wnaethai yr Arglwydd i 'w henaid hi.

Yr oedd ei hymddygiad rheolaidd, a 'i hymwadiad
âg arferion pechadurus a ffol ei chyfoedion yn dwyn
arni lawer o wawd a dirmyg; etto hi a ddioddefai y
cwbl yn amyneddgar. Ond ni wyddwn i hyn y pryd
hwnnw—ieuangc oeddwn yn y weinidogaeth, ac yr
oeddwn yn ieuangach mewn gwybodaeth wirioneddol
o bethau crefyddol. Dysgwr oeddwn y pryd hwn, a
llawer gennyf i 'w ddysgu. Ond beth wyf yn awr?
Dysgwr etto. Ac os dysgais ddim, mi a ddysgais
hyn, bod gennyf bob dydd lawer iawn etto i 'w ddysgu.
Yr wyf yn sicr o hyn, i 'm disgybles ieuangc yn fuan
fyned yn athraw i mi. Gwelais, am y tro cyntaf, beth
a allai gwir grefydd ei wneuthur, wrth sylwi ar ei

[td. 8]
phrofiad hi o honi. Galwodd ein Harglwydd unwaith
atto fachgenyn, ac a 'i gosododd yng nghanol ei ddisgyblion,
er dangos ac egluro ei athrawiaeth. Ond
gwnaeth fwy na hyn yn achos Jane: canys nid yn
unig fe 'i galwodd hi fel plentyn, i ddangos trwy gyffelybiaeth
beth yw troedigaeth; ond Efe a 'i galwodd
hi trwy ei ras, i fod yn llestr trugaredd, a thyst byw
o 'r nerthol weithrediad trwy 'r hwn y trowyd ei chalon
at Dduw.


RHAN II.


Bu Jane yn dyfod i 'm tŷ dros agos i flwyddyn a
chwarter: ond tu a phen y pymthegfed mis mi a 'i
collais hi o 'r Ysgol ac o 'r Eglwys. Disgwyliais am
dair wythnos ei gweled yn rhyw le; yna gofynais am
dani; a dywedwyd wrthyf, nad oedd hi yn bur iach.
Gan ystyried ei hafiechyd yn ysgafn, aeth agos i ddau
fis heibio cyn i mi glywed yn iawn am dani. Yn y
diwedd daeth attaf ryw hen wraig o 'r pentref, am yr
hon yr oeddwn yn meddwl yn dda, a gofynodd i mi
gan ddywedyd, “Syr, a welsoch chwi ddim eisieu
Jane S—— yn eich tŷ ar brydnawn [~ brynhawn ] ddydd Sadwrn?

“Do,” ebe fi, “yr wyf yn meddwl nad yw hi yn
bur iach.”

“Nac ydyw,” eb 'r hen wraig, “ac mae arna'i ofn
na bydd hi felly byth.”

“Beth! a ydych chwi yn tybied ei bod hi mewn
perygl?”

“Syr, y mae hi yn glaf iawn, ac 'rwyf yn meddwl
ei bod yn y darfodedigaeth. Y mae arni hiraeth am
eich gweled chwi; ond y mae yn ofni na ddeuwch

[td. 9]
chwi ddim i 'w gweled hi; canys nid yw hi ond gwael
a thlawd.”

“Ddim i ymweled â 'r tlawd a 'r afiach! paham y
mae hi yn meddwl felly? y'mha [~ ym mha ] le mae hi yn byw?”

“Yn wir, Syr, nid yw ei thŷ ond gwael a thlawd,
ac mae arni g'wilydd [~ gywilydd ] gofyn i chwi ddyfod yno. Hefyd
y mae ei chymydogion yn drwstfawr ac annuwiol. A
rhyw bobl go aflawen yw ei thad a 'i mam. Y maent
oll yn chwerthin am ben Jane druan, am ei bod yn
darllen cymmaint ar ei Bibl [~ Beibl ].”

“Na soniwch wrthyf am dlodi 'r lle, na drygioni 'r
bobl; canys ym mysg y cyfryw y mae galwad a lle i
weinidog yr efengyl wneuthur daioni—mi a ddeuaf
i 'w gweled hi—dywedwch hynny wrthi.”

“Mi wnaf, Syr. 'Rwyf yn myned yno agos bob
dydd i siarad â hi—ac y mae ei chlywed hi yn siarad
yn llonni fy nghalon i.”

“Yn wir! am ba beth y mae hi yn siarad?”

“O, Syr! am ddim ond pethau da—am y Bibl [~ Beibl ]—
am Iesu Grist—am fywyd—am angeu—am ei henaid
—am y nef—am uffern—am eich pregethau a 'ch  ymadroddion
chwi—ac am y llyfrau da yr oeddych yn
arfer ei dysgu ynddynt. Y mae ei thad yn dywedyd
weithiau na fyn ef ddim o 'r fath dduwioldeb yn ei dŷ:
ac y mae ei mam yn ei gwawdio, gan ddywedyd, O, y
mae Jenny yn meddwl ei hun yn well na phobl eraill.
Etto, er hyn i gyd, a llawer mwy, nid yw Jane yn
gadael heibio ddarllen ei Bibl [~ Beibl ], na 'i llyfrau eraill.—
Siaradai yn fedrus hynod â 'i mam, gan ei hannog i
feddwl am ei henaid.”

Wrth glywed hyn dywedodd fy meddwl, “Yr Arglwydd
a faddeuo fy esgeulusdod o 'r eneth dlawd hon.”

Aethym dranoeth i edrych am Jane. Yr oedd ei thŷ
yn un o 'r gwaelaf—yr oedd yn sefyll yn moel gallt—
ac yr oedd gardd fechan y tu cefn iddo. Yn hon ni

[td. 10]
allai ond ychydig bethau dyfu; ac yr oedd yr ychydig
bethau hynny yn dangos dau beth: sef tlodi ei pherchenog,
a daioni Duw yn gofalu gogyfer âg eisieu ei
greaduriaid, hyd yn oed yn yr amgylchiad gwaelaf.—
Yr oedd wyneb y tŷ wedi ei guddio a 'i harddu gan
winwydd. Dringodd hon ar hyd y mur, ac amgylchodd
y drws a 'r ffenestri, ïe, hyd yn oed y simdde, â 'i
changenau ffrwythlon. Yr oedd ei blodau yn arogli
yn beraidd; a llanwyd fy ffroenau gan ei bereidd-dra
ar fy mynediad i 'r tŷ. Ocheneidiais i 'r nef, a meddyliais
y gallai ei ber-arogl amlygu eiriolaeth effeithiol
y Cyfryngwr yn achos yr eneth fechan hon gyd â 'i
Thad nefol.

Pan ddaethym i 'r tŷ, ni chefais neb ar lawr. Yr
oedd Jane, a 'r hen wraig y soniwyd eisoes am dani, i
fynu 'r grisiau. Aethym innau i fynu attynt; a phan
welais Jane, nid allwn lai na sylwi, bod cyfnewidiad
mawr yn ei golwg er pan welswn hi o 'r blaen. Cyn
gynted ag y gwelodd fi, gwenodd arnaf; yna hi a dorrodd
allan i wylo, a dywedodd,

“O Syr, y mae mor dda gennyf eich gweled!”

“Mae 'n bur ddrwg gennyf eich bod chwi mor
glaf, fy anwylyd; ac y mae 'n ddrwg gennyf na buaswn
yn gwybod yn gynt am eich saldra. Ond yr wyf yn
gobeithio bod yr Arglwydd yn bwriadu eich lles yn y
peth hyn.” Dywedodd ei hedrychiad ac nid ei thafod,
“Yr wyf innau yn gobeithio ac yn meddwl hynny.”

“Wel, fy mhlentyn anwyl, gan nad ellwch ddyfod
attaf fi, mi a ddeuaf attoch chwi, ac ni a ymddiddanwn
am y pethau y buoch yn eu dysgu yn fy nhŷ.”

“Yn wir, Syr, fe fydd hyn yn dda iawn gennyf.”

“Felly y bydd, mi a wn,” eb 'r hen wraig; “oblegid
y mae hi yn caru ymddiddan am y pethau a
glywodd yn eich pregethau chwi, ac am y llyfrau a
roddasoch iddi.”


[td. 11]
“Ydych chwi, fy anwylyd, yn hiraethu mewn
gwirionedd am fod yn wir Gristion?”

“O! ydywf, ydywf yn wir, Syr; yr wyf yn sicr
fy mod yn hiraethu am hynny yn fwy nac am un peth
arall. O! Syr, (ebe hi) meddyliais yn fynych yn yr
wythnosau a aeth heibio, wrth orwedd yn y gwely
yma, mor dda oeddech chwi am i chwi hyfforddi plant
tlodion fel fi ac eraill—a pha beth a ddaethai o honom
heb hyn?”

“Yn wir, y mae yn llonni fy enaid i weled nad
aeth fy llafur yn ofer; ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw
am i 'ch afiechyd presennol fod yn offerynol yn ei law
fendithiol ef i 'ch profi, i 'ch darostwng, a 'ch sancteiddio.
Ond, fy anwyl blentyn, y mae gennych enaid,
enaid anfarwol i feddwl am dano; yr y 'ch yn cofio yr
hyn a ddywedais yn fynych wrthych am werth enaid:
'Pa leshad i ddyn os ynnill efe yr holl fyd, a cholli ei
enaid ei hun.”

“Syr, yr wyf yn cofio i chwi ddywedyd, pan y
byddem farw y dychwelai 'r corph i 'r ddaear fel y bu,
a 'r enaid i le da neu i le drwg.”

“Wel, i ba un o 'r ddau le hyn yr ydych chwi fel
pechadur yn haeddu myned?”

“I 'r lle drwg, Syr.”

“Beth! i dân tragywyddol?”

“Ië, Syr.”

“Pa'm felly?”

“Oblegid mai pechadur mawr ydywf fi.”

“A raid i bob pechadur mawr fyned i uffern?”

“Y maent oll yn haeddu hynny; ac yr wyf yn sicr
fy mod i yn haeddu hynny.”

“Ond, a oes un ffordd i ddiangc? a oes un ffordd i
achub pechaduriaid mawrion?”

“Oes; Crist yw 'r Iachawdwr.”

“Pwy y mae Efe yn eu hachub?”


[td. 12]
“Pawb a gredant ynddo.”

“A ydych chwi yn credu ynddo?”

“Yn wir, nis gwn i, Syr; ond yr wyf yn gwybod
fy mod yn ei garu ef.”

“Am ba beth yr y'ch yn ei garu ef?”

“Am ei fod yn dda wrth eneidiau plant tlodion
fel fi.”

“Pa beth a wnaeth ef drosoch chwi?”

“Syr, efe a fu farw droswyf, a pheth mwy a allasai
ei wneuthur droswyf?”

“A pha beth yr ydych yn gobeithio am dano trwy
ei farwolaeth ef?”

“Os credaf ynddo a 'i garu, lle da, Syr, yn ol
marw.”

“A brofasoch erioed ddim anesmwythder a gofid
yn achos eich henaid?”

“O! do, Syr, lawer gwaith. Pan y byddech chwi
yn siarad â ni brydnawn [~ brynhawn ] Sadyrnau o braidd yr oeddwn
weithiau yn gallu dioddef yr ymadrodd, ac yr
oeddwn yn rhyfeddu bod eraill yn gallu bod mor ddiofal.
Yr oeddwn yn ymddangos i 'm fy hun yn anghymmwys
i fyw ac yn anghymmwys i farw. Meddyliais
am yr holl drwg-bethau a wnaethpwyd gennyf,
neu a ddywedasid gennyf erioed; a chredais mewn
gwirionedd bod Duw yn ddig iawn wrthyf: canys dywedasoch
lawer gwaith wrthym, na watwerid Duw, ac
hefyd i Grist ddywedyd, oddieithr ein troi a 'n cyfnewid
na allem fyned i mewn i 'r nef. Weithiau byddwn
yn meddwl fy mod yn rhy ieuangc i feddwl am y
pethau hyn; bryd arall byddwn yn ystyried hyn yn
bechadurus: canys yr oeddwn yn ddigon hen i wybod
gwahaniaeth rhwng da a drwg; am hynny yr oedd gan
Dduw achos cyfiawn i fod yn ddig wrthyf, pan y
gwnawn yr hyn oedd ddrwg. Heblaw hyn, yr
oeddwn yn gweled nad oedd fy nghalon yn uniawn,

[td. 13]
a pha fodd y gallai y fath galon fod yn gymmwys i 'r
nef? Yn wir, Syr, yr oeddwn yn hynod o anesmwyth
o herwydd y pethau hyn.”

“O! fy anwylyd, buasai yn dda iawn gennyf
wybod yn gynt am y pethau hyn. Paham na ddywedasoch
wrthyf ryw bryd neu gilydd am hyn?”

“O! Syr, ni feiddiwn; ac, yn wir, ni fedrwn i
ddywedyd yn iawn beth oedd arnaf; ac yr oeddwn yn
ofni yr ystyriech fi yn hyf iawn, pe buaswn yn siarad
â gwr bonheddig fel chwi am danaf fy hun. Etto, yn
fynych y dymunais eich bod yn gwybod fy nghyflwr.
Weithiau, wrth fyned adref o 'ch tŷ, nid allwn beidio
wylo a llefain; yna byddai y plant eraill yn fy
ngwawdio, ac yn dywedyd, O, y mae hi yn myn'd [~ mynd ]
yn dda, neu y mae hi yn ewyllysio bobl eraill i feddwl
hynny. Yr oeddwn weithiau yn ofni nad oeddech yn
meddwl mor dda am danaf ag am y plant eraill; a
byddai hynny yn peri blinder i mi. Gwyddwn nad
oeddwn yn haeddu un sylw neillduol; oblegid y pennaf
o bechaduriaid oeddwn.”

“Fy anwyl blentyn, paham y dywedodd St. Paul
mai efe oedd y pennaf o bechaduriaid? Ym mha le
o 'r Bibl [~ Beibl ] y mae 'r geiriau? A fedrwch chwi ddywedyd
yr adnod?”

“Gwir yw 'r gair, ac yn haeddu pob derbyniad,
ddyfod Crist Iesu i 'r byd i gadw pechaduriaid:—onid
felly mae 'r geiriau, Syr?”

“Ië, fy anwylyd; ac yr wyf yn gobeithio mai yr
hyn a barodd i St. Paul lefaru y geiriau, sydd yn peri
i chwithau eu dywedyd am danoch eich hun. Crist a
ddaeth i 'r byd i gadw pechaduriaid. Cofiwch hyn, fy
anwylyd, ïe, cofiwch i Grist Iesu ddyfod i 'r byd i gadw
y pennaf o bechaduriaid.”

“O! Syr, nis gallaf ddywedyd mor dda yw gennyf
feddwl am hyn. Y mae hyn yn peri i mi obeithio y

[td. 14]
ceidw ef finnau, er nad wyf ond geneth dlawd a phechadurus.
Yr wyf yn bur glaf, ac nid wyf yn meddwl y
deuaf byth yn iach. Y mae arnaf chwant myned at
Grist yn ol marw.”

“Ewch at Grist yn eich bywyd, ac nis gwrthyd
chwi yn amser marwolaeth; canys efe a ddywedodd,
'Gadewch i blant bychain ddyfod attaf fi,' ac y mae
yn hoffi trugarhau wrthynt.”

“Pa beth a barodd i chwi fod mor ddifrifol yn
achos eich henaid?”

“Eich ymddiddanion chwi yn y fynwent, pan yr
oeddech yn mynegu ac yn dangos i ni, pa nifer o blant
oedd wedi eu claddu yno. Yr wyf yn cofio i chwi
ryw ddiwrnod, er's agos i flwyddyn, ddywedyd wrthym,
 'Blant! p'le byddwch chwi gan mlynedd i heddyw?
Blant! i b'le yr y'ch yn meddwl yr ewch
chwi yn ol marw? Blant! pe byddech farw heno,
a ydych yn sicr yr ewch chwi at Grist a dedwyddwch?'
Syr, ni anghofiaf byth y modd difrifol y
dywedasoch, Blant! Blant! Blant! deirgwaith.”

“A ddarfu chwi erioed cyn hynny feddwl yn ddifrifol
am eich henaid?”

“Do, Syr, yr wyf yn meddwl i mi brofi rhyw ddymuniadau
am iachawdwriaeth yn fuan ar ol dyfod i 'ch
tŷ chwi i 'r ysgol: ond ni bum erioed o 'r blaen fel y
diwrnod hwnnw; ac nis anghofiaf hynny byth. Wrth
fyned adref ar hyd y ffordd, a thrwy 'r holl nos hono
nid oedd dim yn fy meddwl ond y geiriau hyn, Blant,
i ba le yr ydych yn meddwl yr ewch yn ol marw?—
Meddyliais bod yn rhaid i mi adael fy ffyrdd drygionus,
ac onidê pa beth a ddeuai o honof yn ol marw?”

“A pha effaith a gafodd y meddyliau hyn arnoch
chwi?”

“Syr, mi a geisiais fyw yn well, ac a adewais
heibio lawer o arferion drwg; ond po mwyaf yr

[td. 15]
oeddwn yn ceisio hyn, mwyaf anhawdd yr oeddwn yn
ei brofi. Yr oedd fy nghalon yn galed—ac nid allwn
pryd hynny ledu fy achos ger bron neb.”

“A all'sech [~ allasech ] chwi ddim gwneuthur hynny ger
bron Duw; canys gwrandawr gweddi ydyw ef?”

“Syr (ebe hi, dan wridio) nid yw fy ngweddïau
i ond gwael iawn ar y goreu—a 'r pryd hwnnw ni
wyddwn ond ychydig am weddïo: etto gofynais
weithiau am galon newydd gan yr Arglwydd.”

Yn yr holl ymddiddan hyn yr oedd rhyw beth yn
ymddangos ag oedd yn profi didwylldra, ac yn mynegu
am gyflwr goleu ei henaid. Hi a lefarai gyda
diniweidrwydd y plentyn, a difrifoldeb y Cristion.
Ac, yn wir, o braidd yr oeddwn yn gallu credu fy
ngolwg mai Jane S—— oedd hi. Pan yr oedd yn
llefaru am y pethau hyn, yr oedd ei hwynebpryd yn
llawn bywyd a serchowgrwydd—yr oedd hi yn mwynhau
mwy rwyddineb ymadrodd wrth lefaru nac a welswn
erioed ynddi o 'r blaen; etto, er hyn, yr oedd hi
yn wylaidd, yn ostyngedig, a diryfyg. Yr oedd nodau
ei chyfnewidiad yn rhy amlwg i neb eu cam-gymmeryd.
Dyma 'r tro cyntaf i mi fod yn dyst o 'r fath
gyfnewidiad; a phwy all draethu mor annogaethol a
buddiol ydoedd i 'm henaid!

Ond aeth Jane yn y blaen.—“Yr oeddwn ryw
ddiwrnod yn meddwl nad oeddwn gymmwys i fyw nac
i farw: canys nid oeddwn yn cael dim cysur yn y byd
hwn; a gwyddwn nad oeddwn yn haeddu dim yn y
byd a ddaw. A 'r diwrnod hwnnw chwi a 'm hanfonasoch
i 'r fynwent i ddysgu y llinellau oedd ar feddgarreg
Mrs. B——, a darllenais y rhai oedd ar y bedd
nesaf.”

“O, yr wyf yn cofio o 'r goreu, Jane, chwi a
ddaethoch yn ol wedi dysgu y llinellau ar y ddau
fedd.”


[td. 16]
“Yr oedd llinellau yn y diweddaf, y rhai a barasant
i mi feddwl a myfyrio llawer.”

“Pa rai oeddent, Jane?”

“Y rhai hyn, Syr.”

Ond mae Efengyl Duw yn llawn
O addewidion melus iawn,
I 'n dysgu mewn hyfrydwch fyw,
A myn'd [~ mynd ] i 'r bedd mewn hedd â Duw.

Hiraethais am fod yr efengyl ogoneddus hon yn eiddo
i minnau, fel y gallwn fyw mewn hyfrydwch, a marw
mewn heddwch; ac ymddangosodd yn bur debyg i mi
y byddai felly. Ni bûm erioed o 'r blaen mor gysurus
yn achos fy enaid. Mynych, fynych yr oedd y geiriau
hyn yn fy meddwl, O, Efengyl werthfawr!”

“Fy anwylyd, beth yw ystyr y gair Efengyl?”

“Newyddion da.”

“Newyddion da i bwy?”

“I bechaduriaid tlodion.”

“Pwy sydd yn danfon y newyddion da hyn at
bechaduriaid?”

“Yr Arglwydd Hollalluog.”

“Pwy sydd yn cyhoeddi y newyddion da hyn?”

“Chwi a 'i dygasant i mi.”

Wrth yr attebiad hwn torrais i wylo; canys ni allaswn
ymattal. Yr oedd yr attebiad mor annisgwyliadwy
a chyffrous. Teimlais dynerwch a diolchgarwch
tad am gyntaf-anedig. Wylodd Jane hefyd.
Yna, ar ol ychydig ddistawrwydd, hi a ddywedodd,

“O, Syr! gwnewch siarad, da chwi, â nhad [~ fy nhad ] a
mam [~ fy mam ], a 'm brawd bach; canys y mae arnaf ofn eu bod
yn myned ym mlaen mewn ffordd ddrwg iawn.”

“Pa fodd felly?”

“Syr, y maent yn meddwi, yn tyngu, ac yn ymladd,
ac y mae yn gas ganddynt yr hyn sydd dda; ac

[td. 17]
y mae hyn yn peri i mi fwy o ofid nac a allaf ddywedyd.
Os dywedaf air wrthynt y maent yn digio
wrthyf, ac yn fy ngwawdio, ac yn peri i mi dewi, a
pheidio a ryfygu i 'w dysgu hwy. Yn wir, y mae arnaf
gywilydd dywedyd am danynt wrthych; ond gobeithio
nad yw hyn yn ddrwg; eu lles hwy yr wyf yn
ei chwennych.”

“Gobeithio (ebe fi) y bydd eich cynghorion a 'ch
gweddïau er lles iddynt; minnau a wnaf yr hyn a
allwyf.”

Yna gweddïais gyda hi, ac ymadewais, gan addaw
ymweled â hi yn fynych.

Wrth fyned adref, llanwyd fy nghalon â  diolchgarwch
am hyn a welswn ac y [~ a ] glywswn. Yr oedd Jane
yn ymddangos fel blaen-ffrwyth fy ngweinidogaeth;
a rhoddodd hyn nerth a chalondid i'm [~ im ] yn y swydd.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section