Adran o’r blaen
Previous section


[Cyfrol iii. 165-84, Pregeth am stât Priodas.]



[td. 165]


¶ Pregeth am stât Priodas.


MAe gair yr holl-alluog Dduw yn testiolaethu
ac yn mynegi o ba le y
daeth dechreuad priodas, a phaham
yr ordeiniwyd hi. Hi a ordeiniwyd
gan Dduw o fwriad ar fod i ŵr a
gwraig fyw yn gyfraithlon mewn
cymdeithias gyfaillachgar dragwyddol, i ddwyn
ffrwyth ac i wachelyd goddineb, fel y gallid cadw
cydwybod dda o 'r ddwy blaid, a ffrwyno llygredig
hyblygedd y cnawd o fewn terfynau honestrwydd.


O blegid fe waharddodd Duw bob aflendid a
phuteindra, ac o amser i amser fe a gospodd yn dôst
y gwyniau anllywodraethus ymma, fal y manegodd
pob histori ac oes.

Hefyd fe a ordeiniwyd cynnal a halaethu eglwys
Duw a 'i deyrnas trwy 'r fath fywyd, nid yn
vnig am fod Duw trwy ei fendith yn rhoddi
plant, onid hefyd am fod yn eu dwyn hwy i fynu
gan eu tadau a 'u mammau duwiol yngwybodaeth [~ yng ngwybodaeth ]
gair Duw, fal y gallid yn y modd hyn trwy eppiliaeth
draddodi oddiwrth y naill at y llall wybodaeth

[td. 166]
am Dduw a 'i wir grefydd, fal yn y diwedd
y gallai lawer fwynhau anfarwolaeth dragywyddol.


Am hynny, o herwydd bod priodas yn gwasanaethu
cystadl i wachelyd pechod a bai, ac i halaethu
teyrnas Dduw: rhaid i chwi a phawb eraill a
ddawant i 'r stât honno gydnabod dawn Duw â
meddyliau pur diolchus, am iddo felly reoli eich
calonnau chwi fal nad ydych yn canlyn siampl y
byd drygionus, y rhai a osodant eu meddyliau
ar frynti pechod, er eich bod chwi eich dau yn ofni
Duw ac yn cashau pob brynti.

O herwydd yn siccr, godidawg rodd Duw yw
hyn. Lle mae siampl gyffredin dynnion bydol yn
dangos fod y diawl gwedy rhwymo eu calonnau
hwy, a 'u llindagu hwy mewn llawer o rwydau
fal yn eu stat o weddwdod y maent yn rhedeg i
lawer o ffiaidd bethau cyhoeddus, a 'u cydwybod
heb wrthwynebu hynny. Y fath ddynnion hyn
ac ydynt yn byw mor ddiobeith ac mor frwnt, mae
S. Pawl yn dangos pa farn sydd yn aros ar eu
medr; Ni chaiff na goddinebwyr na phuteinwyr
etifeddu teyrnas Dduw. Yr ydych chwi wedi
diangc rhac yr * erchyll [-: * Echrydus.] farn Duw hon, os chwi
a fyddwch fyw ynghŷd yn ol ordeinhad Duw heb
ymado y naill a 'r llall.

Ond ni fynnwn i chwi fod yn ddiofal heb
wilied, o herwydd fe a brawf diawl bob peth i geisio
rhwystro a lluddio eich calonnau a 'ch bwriadau
duwiol chwi, os rhowch iddo dyppŷn [~ dipyn ] bach
o le: o herwydd naill ai fe a drafaela i dorri y
cwlwm a ddechreuwyd rhyngoch, neu ar y lleiaf
fe a gais ei rwystro ef ag amrafael flinder ac anfodlonrwydd.



[td. 167]
A hyn yw ei ddichel pennaf ef i wneuthur anghytundeb
yn eich calonnau chwi, fal lle mae yn
awr gariad mawr melus rhyngoch, fe a ddwg yn
lle hynny anghytundeb chwerw diflas. Ac yn siccr
mae ein gelyn hwn megis oddiuchod yn ceisio treisio
nattur a chyflwr dŷn: o herwydd mae 'r ffolineb
hyn gwedy tyfu gyda ni o 'n Ieuengctyd, sef dymuno
rheoli, tybied yn dda amdanom ein hunain,
megis nad oes neb yn tybied fod yn addas
iddo berchi arall o 'i flaen ei hun. Mae 'r bai melltigedig
hwn o ystyfnigrwydd ewyllys a 'n rhygaru
ein hunain, yn addasach i dorri ac i wahanu
cariad y galon, nag i gynnal cytundeb.

Rhaid am hyn i bobl briodol roddi eu meddyliau
yn ddifrif i gytundeb, a rhaid iddynt geisio
yn wastad gan Dduw nerth ei Yspryd sanctaidd
ef, i reoly eu calonnau, ac i rwymo eu meddyliau
ynghytundeb [~ yng nghytundeb ].

Mae 'n anghenrhaid i 'r rhai priodol arfer
y weddi hon yn fynych, gan weddio y naill
dros y llall yn fynych, rhag i gasineb ac anghytundeb
gyfodi rhyngthynt. Ac am nad oes ond
rhai yn ystyried hyn, a llai etto yn ei gyflawni
(gweddio dros i gilydd yr ydwyf yn ei feddwl) ni
a welwn pa fodd y mae diawl yn sennu ac yn
gwatwar yr stat hon, mor ambell y mae y rhai
priod heb ymdaeru, ymryson, ymsennu, etifaru,
rhegu chwerw, ac ymladd. Ac Pwy bynnac sydd
yn gneuthur [~ gwneuthur ] y pethau hyn nid ydynt yn ystyried
mai llithiad y gelyn ysprydol ydyw hyn, yr
hwn sydd hoff iawn gantho hynny: o herwydd
oni bai hynny hwy a ymegnient â phob hydr yn
erbyn y drygioni hyn, nid yn vnic trwy weddi
ond trwy bob diwydrwydd ac a allent.


[td. 168]
Ie ni roent le i annogaeth llid, yr hwn a 'u cyffro
hwy i 'r fath airiau neu ddyrnodau gairwon
llymmion, yr hyn yn ddiddau yw hudad diawl,
profedigaeth yr hwn os ni a 'i canlynwn, fe a ddechrau
ac a weua ynom ni yn siccr bob trueni a
thristwch. O herwydd mae hyn yn wir siccr
iawn, y canlyn o 'r fath ddechreuad y torrir gwir
gytundeb yn y galon, trwy 'r hyn ar fyrr ennyd
y dyrrir bob cariad o 'r galon allan.

Yno ni ellir na bytho 'n druan gweled fod yn
rhaid iddynt hwy fyw ynghŷd a hwy heb allel bod
ynghŷd yn gyttun. Ac mae hyn i 'w weled ymmhob
[~ ym mhob ] lle haechen [~ haeachen ] yn arferol. Ond pa beth yw 'r
achos? Yn wir am nad ydynt yn ystyriaid dichellion
twyllodrus diawl, a 'u bod am hynny
heb ymroi i weddio ar Dduw ar fod yn wiw
gantho attal ei allu ef.

Hefyd nid ydynt yn ystyriaid pa fod y maent
yn cynnorthwyo bwriad diawl, gan ganlyn llid
eu calonnau, trwy fygwth y naill y llall, trwy
droi pob peth yn eu ynfydrwydd dibyn dobyn,
trwy beidio a rhoddi i fynu eu cyfiawnder (fal y
tybygant hwy) ie a thrwy beidio 'n fynych a rhoddi
i fynu y rhan gamweddus. Os chwenychi
di am hynny fod heb y trueni hwn, os chwenychi
fyw yn heddychlon ac yn ddiddanus mewn
priodas, dysc weddio 'n ddifrif ar Dduw ar iddo
lywodraethu eich calonnau chwi eich dau â 'i Yspryd
glân, ac attal gallu diawl, trwy 'r hyn y
parha eich cytundeb chwi yn dragywydd.

Ond mae 'n rhaid cydsylltu â 'r weddi hon ddiescaelusrwydd
godidawg: am yr hwn y mae S.
Petr yn rhoddi y gorchymmyn hwn, gan ddywedyd
, Chwi y gwyr cydgyfanneddwch â 'ch

[td. 169]
gwragedd, fel y gwedde i rai gwybodol, gan roddi
anrhydedd i 'r wraig megis i 'r llestr gwannaf,
fel rhai sydd gydetifeddion grâs y bywyd, rhag
rhwystro eich gweddiau chwi.

Mae 'r gorchymmyn hwn yn perthyn yn neilltuol
at y gwr, o herwydd efe a ddylai fod yn arweinydd
ac yn awdur cariad, yr hyn sydd yn
cael lle pan fytho efe rhesymmol ac nid yn rhy
greulon, ac os goddef ef y wraig i gael rhan o 'i
meddwl. O herwydd y wraig yw 'r creadur
gwannaf, ac ni chynyscaeddir hi â 'r fath rym a
chadernid meddwl, am hynny yr aflonyddir hwy
yn gynt, ac maent yn barottach i bob gwyniau
gweinion, ac i bob hyblygedd meddwl nag yw
gwyr, ac maent hwy yn yscafnach ac yn oferach
yn eu ffansiau a 'u hopinioneu.

Rhaid i 'r gŵr ystyriaid y pethau hyn fal na
byddo efe yn rhy afrywog, am hyn rhaid iddo am
ryw bethau na chymero ef arno weled mo honynt,
rhaid iddo ddeongl pob peth yn fwyn.

Ond mae 'r cyffredin bobl yn barnu nad addas
i ŵr fod mor llaryaidd. O herwydd hwy a ddywedant
mai arwydd yw hyn o lyfrdra gwraigaidd:
ac am hynny y tybygant mai rhan gŵr
yw cyffroi ac ymladd â 'i ddwrn a 'i ffon.

Ond beth bynnac a dybygant hwy, mae S.
Petr yn ddiammau yn barnu yn well beth sydd
addas i wr, a pheth sydd resymmolaf iddo ei
wneuthur. O herwydd medd ef, rheswm a ddylaid
ei arfer, ac nid ymladd. Ie mae fe 'n dywedyd
ymhellach y dylai y wraig gael rhyw barch
ac anrhydedd, hynny yw gan ei harbed hi, a
dwyn gydâ hi, yn hytrarch [~ hytrach ] am ei bod hi yn llestr
gwannaf, yn galon frau, ac yn annwadal, ac hi

[td. 170]
a gyffroir â gair yn * ebrwydd [-: Fuan.] i ddigofaint. Ac
am hynny gan ystyriaid ei gwendid hwn hi, hi a
ddylai yn hytrarch [~ hytrach ] gael ei harbed.

Felly ni fegi di gytundeb yn inig, ond ti a gai
ei chalon hi i 'w rheoli yn ol dy ewyllys. O herwydd
fe gedwir naturiaeth honest i wneuthur
ei dlyed yn hytrach wrth airiau mwynion nag
wrth ddyrnodau.

Ond am yr hwn a wnel bob peth trwy greulondeb
a bod yn dôst, ac a arfero 'n wastad o fod
yn llym yn ei airiau a 'i weithredoedd, pa beth
a ennill ef yn y diwedd? yn wir dim, ond ei fod
ef yn hyfforddi gweithred diawl, mae fe 'n gyrru
ar encil gytundeb, cariad, addfwynder peraidd,
ac yn dwyn i mewn anghytundeb, casineb a blinderau
mwyaf ac a allant fod mewn cariad rhwng
y naill a 'r llall a chyfeillach bywyd dyn.

Heb law hyn hefyd, mae hynny yn dwyn drygioni
arall gydag ef, mae 'n dinistr ac yn rhwystro
gweddi: o herwydd yr ennyd y byddir yn cynnal
y meddwl mewn ymryson ac anghytundeb,
ni ellir arfer gwir weddi, O herwydd mae gweddi
'r Arglwydd yn edrych cystadl ar y cwbl yn gyffredinol
ac ar bob dyn o 'r neilltu; yn yr hon yr ydym
yn traethu 'n gyhoedd ein bod ni yn maddau
i 'r sawl a wnaeth yn ein herbyn, fal yr ydym yn
ceisio gan Dduw faddauant o 'n pechodau. Yr
hyn beth pa fodd y gellir ei wneuthur yn inion
pan fyddo eu calonnau hwy mewn anghytundeb?
Pa fodd y gallant weddio y naill dros y llall
pan fo 'r naill yn cashau 'r llall.

Os tynnir immaith [~ ymaith ] nerth gweddi, pa fodd yr
ymgynhaliant mewn diddanwch? O herwydd
ni allant mewn vn modd arall wrthwynebu diawl

[td. 171]
nac etto fod eu calonnau yn sefyll mewn diddanwch
diogel ym-mhob [~ ym mhob ] enbeidrwydd [~ enbydrwydd ] ac anghenrhaidiau
ond trwy weddi.

Fal hyn y mae pob afles cystadl ysprydol a
chorphorol yn canlyn yr arferon afrywog, chwerw,
llym, creulon hyn, y rhai ydynt addasach i anifeiliaid
gwylltion, nag i greaduriaid rhesymmol.

Nid ydyw S. Petr fodlon i 'r pethau hyn, ond
mae diawl yn eu chwennychu hwy yn llawen:
gochelwch chwithau yn fwy am hynny. Ac etto
fe ddichon gwr fod yn wr er nad arfero ef y fath
greulondeb, ie pe byddai weithiau heb gymmeryd
arno weled arferon ei wraig. A rhan gwir
Gristion yw hyn, yr hyn sydd hoff gan Dduw: ac
mae hyn hefyd yn gwasanaethu 'n dda i ddiddanu
stât priodas.

Yn awr o blegid dlyed y wraig pa beth sy weddus
iddi hitheu: a gamarfer hi fwynder a thirionedd
ei gwr, ac a dry hi yn ol ei hewyllys bob
peth dibyn dobyn? Na wnaed ddim o hynny. O
herwydd mae hynny mor gwbl hefyd yn erbyn
gorchymmyn Duw.

O herwydd fal hyn y mae S. Petr yn pregethu
iddynt hwy, Chwi wragedd byddwch ostyngedig
i 'ch gwŷr priod. Nid gorchymmyn a rheoli
yw bod yn ostyngedig, ac etto hwy allant wneuthur
y pethau hyn i 'w plant a 'u * tylwyth [-: Teuleu [~ teulu ].] : Ond
am eu gwŷr rhaid iddynt fod yn ostyngedig
iddynt hwy, a pheidio a gorchymmyn, a chyflawni
gostyngeiddrwydd ac vfydd-dod. O herwydd
yn siccr mae hyn yn magu cytundeb yn
dra rhagorol, pan yw 'r wraig yn barod ar orchymmyn
ei gwr, pan yw hi yn ymroi i 'w ewyllys
ef, pan fytho hi yn ym-egnio i geisio ei fodloni

[td. 172]
ef a 'i lawenhau, pan wachelo hi bob peth ac a
allai ei ddigio ef, O herwydd fal hyn y gwirhair
geiriau 'r bardd yn gywir, y caiff gwraig dda wrth
fod yn ostyngedig i 'w gwr, reoli fal y byddo hoff
a llawen gantho ddyfod yn gynt adref etti [~ ati ]. Ond
o 'r ystlys arall, pan fytho eu gwragedd hwy yn afrywog
ac yn llymion ac yn chwerwon, fe yrrir
eu gwyr hwy trwy hynny i gashau ac i gilio allan
o 'u tai, fal pe bai rhyngthynt ryfel a 'u gelynnion.
Ac etto mae yn odid na chwympo weithiau
ryw wrthwyneb rhyngthynt, o herwydd nad oes
neb yn byw heb fai: ond yn enwedig am fod y
wraig yn llestr gwannaf, gochelant hwy rhag
sefyll yn eu baiau a 'u hatcasrwydd, ond cydnabyddant
hwy yn gynt eu ffolineb a dywedant, fyngwr,
fal hyn y gyrrodd fy-nigofaint [~ fy nigofaint ] fi i wneuthur
hyn ymma neu hyn accw, maddauwch imi,
ac ar ol hyn mi a wachela. A pha parottaf y byddo
gwraig i wneuthur yn erbyn ei gwr, parottaf
y dylai hi fod i wneuthur fal hyn: ac nid er
mwyn ymgadw oddiwrth ymryson a anghytundeb
yn vnic y dylai wneuthur hyn, ond yn
hytrach er mwyn gorchymmyn Duw, fal y mae
S. Pawl yn ei adrodd ef yn y geiriau hyn, y
gwragedd ymostyngwch i 'ch gwyr priod megis
i 'r Arglwydd, oblegid y gwr yw pen y wraig megis
y mae Christ yn ben i 'r Eglwys.

Ymma y gwelwch fod Duw yn gorchymmyn
i chwi gydnabod awdurdod y gwyr a rhoddi iddo
barch vfydd-dod.

Ac mae S. Petr yn dywedyd yn y lle a adroddwydd
o 'r blaen, i fodrabedd sanctaidd gynt ymdrwsio
nid oddi allan o blethiadau gwallt, ac amgylch
osodiad aur, neu wiscad dillad gwychion,

[td. 173]
onid gan obeithio ar Dduw a bod yn ddarostyngedig
i 'w gwr priod, megis yr vfyddhaodd
Sara i Abraham gan ei alw ef yn Arglwydd,
merched yr hon fyddwch chwi, medd ef, o wneuthur
yn dda.

Addas a fyddai i wragedd argraphu yr ymadrodd
hwn yn eu meddyliau.

Gwir yw fod yn rhaid iddynt hwy yn enwedig
oddef poenau a doluriau eu priodas, am fod
yn gorfod arnynt roi heibio rydd-did eu llywodraeth
a bod mewn doluriau escor, ac yn dwyn
eu plant i fynu.

Yn y swyddau hyn maent hwy mewn periglau
mawrion: heb y rhai y gallent fod, pe byddent
heb briodi.

Ond mae S. Petr yn dywedyd mai hwn yw
'r trwsiad pennaf i wragedd santaidd, gobeithio
ac ymddiried yn-nuw [~ yn Nuw ], hynny yw, nad ymgadwasant
rhag priodas oblegid ei gofalon a 'i doluriau,
a 'i henbeidrwydd [~ henbydrwydd ], ond gorchymmyn i
Dduw bob peth a allai ddigwyddo ynddi, gan
obeithio cael ei nerth ef yn siccr yn ol iddynt alw
arno am ei gynnorthwy.

O wraig gwna dithau felly ac yno y trwsir di
'n odidawg ger bron Duw a 'i holl Angylion a 'i
Saint, ac nid rhaid iti geisio ym-mhellach [~ ym mhellach ] am
wneuthur gwaith a fyddo gwell: O herwydd
bydd ostyngedig i 'th wr, synna ar ei ddymuniadau
ef, ac ystyria beth y mae ef yn ei ofyn ar dy
law di, felly y gelli di anrhydeddu Duw, a byw
yn heddychlon yn dy dŷ.

Ac heblaw hyn fe ganlyn Duw di â 'i fendithion,
fal y llwyddo pob peth gydâ thi, cystadl
iti ac i 'th wr, ac fal y dywaid y Psalm, Gwyn

[td. 174]
ei fudd pob vn sydd yn ofni 'r Arglwydd, sef yr
hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef canys mwynhei
lafur dy ddwylo, gwyn dy fyd a da fydd it.
Dy wraig sydd fel gwinwydden ffrwythlon ar
hyd ystlysau dy dŷ: a 'th blant fal planhigion oliwydd
o amgylch dy ford. Wele fel hyn yn ddiau y
bendithir y gwr a ofno 'r arglwydd medd Dafydd.

Bydded hyn ym-meddwl [~ ym meddwl ] y wraig yn wastad
yn hytrarch [~ hytrach ] am fod gwisc ei phen hi yn ei rhybyddio
am y peth hyn, trwy 'r hyn yr arwyddoccair
ei bod hi dan lywodraeth ac mewn vfydddod
i 'w gwr: Ac fel y gosododd natur y wisc honno
i fanegi ei hufydd-dod hi, felly y mae S. Pawl
yn gorchymmyn fod i bob rhan arall o 'i dillad
hi ddangos gŵyledd a sobredd. O herwydd onid
yw gyfraithlon i wraig fod yn bennoeth, ond
dwyn ar ei phen arwydd o 'r gallu sydd erni, pa le
bynnac yr elo hi: mwy y gofynnir ar ei llaw hi
ddangos yr hyn a arwyddocair wrth hynny; Ac
am hynny y galwodd yr hên wragedd o 'r hen
fyd eu gwyr yn Arglwyddi ac a ddangosasant eu
parch yn yfyddhau iddynt.

Ond onid odid hi a ddywaid fod y gwyr hynny
yn gwir garu eu gwragedd. Mi a wn hynny
yn dda, ac yr ydwyf yn ei gyfio yn ddifai. Ond
pan ydwyf yn eich rhybyddio chwi i 'ch dlyed, na
chofiwch chwi eu dlyed hwy tuag attoch. O
herwydd pan fythom ni ein hunain yn dyscu ein
plant i vfyddhau ini, megis i 'w tadau a 'u mammau,
neu pan fythom yn addyscu 'n gweision ac
yn dywedyd wrthynt y dlyent vfyddhau i 'w meistri
nid â llygad wasanaeth, ond fel gweinidogion
Christ: pe dywedent hwy wrthym ninnau

[td. 175]
ailwaith am ein dlyed ninnau ni thybygem ni
eu bod hwy yn gwneuthur hynny yn dda.

O herwydd er bod gan ŵr gyfaill yn ei fai? ni
wnae hynny ei fod ef yn ddifai. Ond hyn sydd
raid iti edrych arno, am fod dy hun yn ddifai. O
herwydd Adda a fwriodd y bai ar y wraig, a hithau
a 'i bwrodd ar y sarph: etto nid escuswyd
yr vn o honynt. Ac am hynny na ddwg attafi
yn awr y fath escuson, ond gosod dy holl ddiwydrwydd
i wrando y dylait ti vfyddhau i 'th ŵr.

O herwydd pan wyf yn rhybyddio dy ŵr i 'th
garu di ac i 'th gysuro, etto ni phaidiaf a gosod allan
y gyfraith a osodwyd i 'r wraig, cystadl ac y
mynnwn i 'r gŵr wneuthur yr hyn a scrifennir yn
y gyfraith iddo yntef.

Dos di am hynny ynghylch y pethau a berthynant
iti yn vnig, a dangos dy hun yn hynaws
i 'th ŵr. Neu yn hytrach os vfyddhau di i 'th ŵr
er mwyn gorchymmyn Duw, yno adrodd pa beth
a ddylai ef ei wneuthur, ond cyflawna di yn ddiescaelus
y pethau y mae gwneuthurwr y gyfraith
yn gorchymmyn iti eu gwneuthur: O blegid fal
hyn yr vfyddhai di i Dduw yn oreu os peidi di a
thorri ei gyfraith ef.

Nid yw 'r hwn sydd yn caru ei gyfaill yn gwneuthur
gorchest yn y bŷd: ond mae 'r hwn a anrhydeddo
y neb sydd yn ei gashau ef ac yn ei ddrygu, yn
haeddu mawrglod. Felly meddwl dithai [~ dithau ] os goddefi
di ŵr anhwaith [~ anhywaith ] y caidi am hynny wobr mawr.

Ond os ceri di ef yn inig am ei fod ef yn dirion
ac yn fwyn: pa wobr y rhydd Duw iti am hynny?
Etto nid ydwyf yn dywedyd hyn fal pe ewyllysiwn
i 'r gwyr fod yn anhowaith tuag at eu gwragedd,
ond annog yr ydwyfi y gwragedd i ddwyn yn ddioddefus

[td. 176]
gydag anhywaithder eu gwyr. O herwydd
pan wnelo pob vn o 'r ddwy ran ei gorau i gyflawni
eu dlyed vn i 'w gilydd, yno yn y man y canlyn
budd mawr i 'w cymydogion, wrth eu siampl hwy.
O herwydd pan fyddo 'r wraig yn barod i oddef
gwr anhywaith, a phan na byddo 'r gwr rhy dost
wrth wraig atgas anhywaith, yno y bydd pob
peth yn esmwyth mewn porthladd ddiogel. Fal
hyn yn yr hen amser y gwnai bob vn ei ddylyed a 'i
swydd ei hun, ac nid oeddynt ofalus i edrych am
ddlyed eu cymydogion. Ystyria adolwg i Abraham
gymmeryd atto fab ei frawd, ac ni faiodd ei
wraig arno ef am hynny. Ef a orchymmynnodd
iddo fyned i daith bell gydag ef, ac ni ddywad hi
ddim yn ei erbyn ef, ond hi a vfyddhaodd i 'w orchymmyn
ef.

A thrachefn yn ol holl flinderau a gofidiau a
phoenau mawrion y daith honno, yn ol gwneuthur
Abraham megis yn Arglwydd o 'r cwbl oll,
etto fe ganniataodd i Lot yr oruchafiaeth: ac fe
a oddefodd Sara hynny mor ddiddig ac yr attaliodd
hi ei thafod rhag yngan vn waith y fath airiau
ac a arfer gwragedd eu dywedyd fynychaf yn
y dyddiau hyn, pan welant eu gwyr yn y lleoedd
isaf, ac yn ostyngedig i rai iauangach nâ hwynt
hwy, yn y man hwy a 'i * dannodant [-: * Edliwiant.] iddynt â gairiau
ymrysongar, ac a 'u galwant hwy yn ffyliaid,
yn llyfron ac yn ddihyder, am wneuthur felly.

Ond yr oedd Sara mor bell oddiwrth ddywedyd
y fath airiau, ac na feddyliodd hi vnwaith
ddywedyd felly, ond bod yn fodlon i ddoethineb ac
ewyllys ei gŵr.

Ie, heb law hyn, gwedy darfod i Lot gael fal
hyn ei ewyllys, a gadel i 'w ewythr y rhan leiaf

[td. 177_T175]
o 'r tir, fe a gwympodd i ddygyn berigl: yr hyn
beth pan wybu y Patriarch hwn, yn y man fe a
osododd ei holl wŷr mewn arfau, ac a ddarparodd
fyned ei hun a 'i holl dylwyth a 'i gymdeithion yn
erbyn llu 'r Persiaid: yn yr hwn gyflwr nis cynghorodd
Sara ef i 'r gwrthwyneb, ac ni ddywad
hi wrtho fal y gallasid dywedyd: fy ngŵr i ba le
yr a'i di mor fyr-bwyll? paham y rhedi fal hyn
lwyr dy ben? paham yr ymgynnygi i 'r fath beriglon
mawrion? Paham yr wyd mor barod i anturio
dy fywyd dy hun, ac i osod mewn enbeidrwydd [~ enbydrwydd ]
fywyd dy holl dylwyth dros ŵr a wnaeth a thi 'r
fath gam? Ar y lleiaf onid oes gennit ofal amdanat
dy hun, cymmer drueni arnafi, a minnau er dy
fwyn di gwedy gadel fy-ngwlâd [~ fy ngwlad ] a 'm cenedl, ac
heb imi na chynnorthwywyr na chenedl, a mi
gwedy dyfod cy [~ cyn ] belled o 'm gwlâd gydâ thi: tosturia
wrthyf, ac na wnâ fi ymma 'n weddw, i ddwyn
arnaf y fath ofalon a blinderau.

Hyn a allasai hi ei ddywedyd. Ond ni ddywad
Sara, ac ni feddyliodd y fath airiau: ond hi a 'i
cadwodd ei hun yn ddistaw ym-mhob [~ ym mhob ] peth.

Hefyd yn yr holl amser ac y bu hi hesp heb ei
phoeni fel gwragedd eraill wrth ddwyn ffrwyth
yn ei dŷ ef, beth a wnaeth ef? fe a achwynodd nid
wrth y wraig ond wrth yr holl-alluog Dduw.

Ac ystyriwch fel y gwnaeth pob vn honynt ei
ddlyed fal yr oedd yn addas iddynt. O herwydd
ni ddiystyrodd ef Sara am ei bod yn hesp, ac ni
* ddannododd [-: * Edliwodd.] iddi hynny. Ystyriwch hefyd y
modd y gyrrodd Abraham y llaw forwyn allan o 'i
dŷ pan ddeisyfodd hi arno wneuthur felly. Fal
wrth hyn y gallaf brofi 'n gywir fod pob vn honynt
yn fodlon i 'w gilydd ym-mhob [~ ym mhob ] peth.


[td. 178_T176]
Ond etto na osodwch eich llygaid ar hyn o beth,
ond edrychwch ymhellach pa beth a wnaethpwyd
cyn hyn, fod Agar yn diystyru ei meistres,
a bod Abraham ei hun gwedy ei gyffro ychydig
yn ei herbyn hi, yr hyn ni allai na bai annioddefus
a dolurus iawn i wraig ddiwair rwydd ei
chalon.

Na fydded gwraig ry bryssur i ofyn yr hyn sy
ddledus ar y gŵr iddi hi, lle dlai hi fod yn barod i
gyflawni ei dlyed ei hun, o herwydd nid yw hyn,
yn haeddu fawr glôd. Ac felly o 'r ystlys arall nag
ystyried y gwr yn inig beth a ddlyai 'r wraig ei
wneuthur, ac na safed yn rhy ddifrif i edrych ar
hynny, o herwydd nid ei ran ef a 'i ddlyed yw hyn.
Ond fal y dywedais, bydded pob vn o 'r dwyblaid
barod ac ewyllysgar i wneuthur yn enwedig yr
hyn sydd yn perthyn atto ei hun. O herwydd os
ydym rhwymedig i droi y rudd aswy at ddieithriaid
pan darawant ni ar y rudd ddeheu, pa faint
mwy y dylem oddef gŵr tost afrywog? Ond etto
nid wyfi 'n meddwl y dyle wr guro ei wraig, ni atto
Duw hynny. O herwydd y cywilydd mwyaf
yw hynny ac a ddichon bod, nid yn gymmaint i 'r
wraig a gurir, ac i 'r gwr sydd yn gwneuthur y fath
orchwyl.

Ond os digwydd fod iti y fath wr, na fydd ry
drist, meddwl di fod gwobr mawr gwedi ei osod
i fynu ar dy fedr ar ol hyn, a bod clod fawr iti yn y
byd hwn os byddi di goddefgar.

Ond etto wrthych chwi y gwyr y dywedaf, na
fydded vn bai mor fawr ac y gyrro chwi i ffusto
eich gwragedd. Ond beth a ddywedaf am eich
gwragedd, peth anreith ei oddef yw i wr honest osod
i law ar ei forwyn i 'w fusto [~ ffusto ] hi. Am hynny os

[td. 179_T177]
yw yn gywilydd mawr i ŵr fusto [~ ffusto ] ei forwyn, oni
ddlyai ef ei geryddu 'n fwy am guro ei wraig
rydd? A hyn a allwn ei ddeall wrth gyfraithiau
a wnaeth Paganiaid, y rhai a roddant rydd-did i 'r
wraig i ymado oddiwrth y gwr a 'i tarawo hi, megis
gwr an-nheilwng o 'i chymdeithas hi ymmhellach.
O herwydd y peth tostaf a ddichon
bod yw iti drin mor wael ie megis vn caeth, gymmar
dy fywyd, yr hon a gydsylltwyd â thi o 'r
blaen, i fod yn gyfaill i ti yn y pethau rheitaf o 'th
fywyd di. Ac am hynny fe a ellir cyffelybu y fath
wr (os gellir ei alw ef yn wr ac nid yn anifeil
gwŷllt) i vn a laddo ei dâd neu fam.

A lle gorchymmynnir ini ymwrthod â thadau
a mammau er mwyn ein gwragedd, ac etto nid
ydym yn gwneuthur vn cam â hwy yn hynny, ond
yr ydym yn cyflawni cyfraith Dduw: pa fodd am
hynny na welidi mai ynfydrwydd annial yw iti
wneuthur yn drahaus â 'r hon y gorchymmynnodd
Duw iti ymadel a 'th dad a 'th fam er ei mwyn?
Ie pwy a all goddef y fath ddirmyg? pwy a ddichon
yn ddigonol ossod allan faint drygioni yw
gweled yn yr heolydd cyhoedd gymydogion yn
rhedeg ynghŷd ynghylch tŷ y fath ŵr afreolus,
megis at fedlem ynfyd a fai yn ceisio dymchwelyd
y cwbl oll sydd gantho? Pwy ni thybygai mai
gwell oedd i 'r fath wr ddymuno i 'r ddaiar agored
a 'i lyncu ef, na 'i weled byth mwy yn y farchnad?

Ond fe allai y gosodi drosot dy hun, i 'r wraig
dy annog di i wneuthur hyn. Ond ystyria dithau
ailwaith mai llestr gwan yw 'r wraig, a 'th wneuthur
di yn rheolwr ac yn ben erni, i gyd-ddwyn â 'i
gwendid hi yn ei gostyngeiddrwydd. Ac am hynny
myfyria di ddangos clod dy awdurdod honest,

[td. 180_T178]
yr hyn ni elli di ei wneuthur yn well nag wrth
beidio a chyhoeddi ei gwendid hi yn ei gostyngeiddrwydd.
O herwydd fel y gwelir y brenin yn bendefigeiddiach,
po godidawgaf a phendefigeiddiaf
y fo ei swyddogion ai raglawiaid ef, y rhai pe dianrhydeddai
ef, a phe diystyrai ei hawdurdod hwy
a 'u braint, fe a 'i dinoethai ei hun o rhan fawr o 'i
anrhydedd ei hun: felly os diystyri dithau yr hon
sydd gwedy ei gosod yn y lle nesaf iti dy hun, yr
ydwyd yn llaihau ac yn peri i odidawgrwydd dy
awdurdod dy hun adfeilo. Cyfrif yr holl bethau
hyn yn dy feddwl a bydd fwyn a thirion: deall
ddarfod i Dduw roddi plant rhyngot ti a hithau
a 'th wneuthur di yn dâd, ac wrth hynny llonydda
di dy hun.

Oni weli di yr llafurwyr, mor ddyfal y maent
yn trin eu tir a ddarfu iddynt eu rhentu vnwaith,
er maint fyddo beiau 'r tir megis yn lle siampl, er
ei fod ef yn rhy sych, er ei fod ef yn dwyn chwyn
lawer, er na allo ef ddioddef gormod gwlybni,
etto mae fe 'n ei aredig ef, ac felly yn ennill ei
ffrwythau ef: felly pe arferiti yr vn dyfalwch i
addyscu ac i drefnu meddwl dy wraig briod, pe ymroiti
i chwynnu bob ychydig y chwyn drygionus
o arferon anaddas allan o 'i meddwl hi trwy addysc
iachus, ni allid na chait ti dderbyn ar fyrr
o hynny ffrwythau melus eich diddanwch chwi
eich dau.

Am hynny, fel na ddigwyddo rhwngoch [~ rhyngoch ] chwi
ymryson, gwnâ 'r cyngor hwn a roddaf iti ymma:
pa beth bynnac anfelus a ddigwyddo gartref: os
gwnaeth dy wraig ddim ar fai diddana hi, ac na
chynydda ei thrymder hi. O herwydd er maint o
ofidiau a fo yn dy flino di, etto ni chaidi ddim a 'th

[td. 181]
flino 'n fwy nag eisiau ewyllys da dy wraig gartref.
Pa wrthwyneb bynnac a elli di ei enwi, etto
ni chaid di vn mor anrhaith ei oddef a bod yn
ymryson a 'th wraig. Ac am hyn yn fwyaf dim y
dylait ti berchi y cariad hwn.

Ac os yw rheswm yn peri i ti oddef rhyw gam
ar ddwylo dynnion eraill, mwy o lawer y dylaid
oddef cam ar law dy wraig. Os bydd hi tylawd
na * ddannod [-: * Edliw.] iddi. Os bydd hi gwirion na watwar
hi, ond bydd di dirionach wrthi. O herwydd
dy gorph di yw hi gwedy ei gwneuthur yn
vn cnawd â thi.

Ond ti a ddywedi onid odid ei bod hi yn wraig
lidiog, yn feddwen, yn anefeilaidd [~ anifeilaidd ], heb synwyr
a rheswm ynddi: am yr achos hyn tosturia wrthi
yn hytrach. Nag ynfyda yn dy lid ond gweddia
ar yr Holl-alluog Dduw, rhybyddia a chynnorthwya
hi â chyngor da, ymegnia di ar ei
rhyddhau hi o 'r holl wyniau hyn: ond os curi di
hi, ti a chwanegi ei gwyniau drŵg hi, o herwydd
ni wellhauir cyndynrwydd ac atcasrwydd trwy
gyndynrwydd, onid trwy amynedd ac addfwynder.


Ystyria pa wobr a gaidi ar law Dduw? O herwydd
lle y galliti ei churo hi, etto os rhag ofn
Duw yr ym-atteli di a dwyn yn oddefgar gyda
ei baiau mawrion hi, yn hytrarch [~ hytrach ] o ran y gyfraith
sydd yn gwahardd i wr droi ymmaith ei
wraig pa fai bynnac a fo erni, ti a gai wobr mawr.
A chyn y derbynnech y gwobr hynny, ti a gai
lawer budd arall. O herwydd trwy hyn y gwnair
hi yn vfyddach, a thithau a wnair er ei mwyn hi
yn fwynach.

Mae 'n scrifennedig mewn histori fod i ryw

[td. 182]
philosophydd diethr [~ dieithr ] wraig felldigedig atgas feddw.
Pan ofynnwyd iddo paham yr ydoedd ef yn
dwyn gydâ ei harferon drwg hi; fe attebodd, Trwy
hyn, eb efe, mae imi gartref athro a siampl i ymddwyn
pan fyddwyf allan. O herwydd, medd ef,
mi a fyddaf gwell fy amynedd ymlhith eraill
gwedy fy nyscu ac ymarfer beunydd i ddwyn gyd
â hi. Yn wir cywilydd yw bod Paganiaid yn
ddoethach nâ nyni, nyni meddaf i 'r rhai y gorchymmynnir
bod yn gyfelyb [~ gyffelyb ] i Angylion, ie i
Dduw ei hun mewn amynedd. O gariad ar
rinwedd ni yrrai y philosophydd hwn Socrates ei
wraig oddiwrtho. Ie rhai a ddywaid mai am
hyn y priododd ef ei wraig, i ddyscu y rhinwedd
hon genthi.

O blegyd hyn, am fod llawer heb fod mor
gall a 'r gwr hwn: fy nghyngor yw, yn gyntaf ac
ym-mlaen [~ ymlaen ] pob peth i ŵr wneuthur ei orau i geisio
gwraig dda rinweddol honest. Ond os digwydda
ei dwyllo ef, ac iddo ddewis gwraig yr hon
nid yw na da nac iawndda, yno canlyned y gwr
y philosophydd hwn, ac addysced ei wraig ymmhob
[~ ym mhob ] cynneddfeu da, ac na chyhoedded y pethau
hyn byth yngolwg [~ yng ngolwg ] y byd.

O herwydd oni bydd y marsiandwr gwedy
cytuno yn gyntaf â 'i oruchwiliwr fal y gallai
arfer ei farchnad-negesau 'n llonydd, ni osod ef
ei long dan hwyl, na 'i law ar ei farsiandiaeth:
felly gwnawn ninnau fal y caffom gyfeillach ein
gwragedd, y rhai yw goruchwiliaid ein gorchwylion
ni gartref yn esmwyth ac yn llonydd ddigon:
a thrwy hyn yr aiff pob peth yn llwyddianus, ac
felly yr awn ni trwy beriglau blin-fôr y byd
hwn.


[td. 183]
O herwydd fe fydd stât ein bywyd ni yn fwy
anrhydedd a diddanwch ini nâ 'n tai, ein gweision,
ein harian, ein tîr, ein meddiannau, ar cwbl
oll ar a ellir eu cyfrif, fal na all yr holl bethau
hynny os bydd ymryson ac anghytundeb,
weithio ini vn diddanwch, felly y troir pob peth
i 'n budd ni, a 'n bodd, os tynnwn y iau hon mewn
vn cytundeb calon a meddwl.

Am hynny ymegniwch i arfer eich priodas fal
hyn, ac felly y 'ch arfogir chwi o 'r ddau ystlys.
Chwi a ddiangasoch rhag maglau diawl a chwantau
anghyfraithlon y cnawd, ac a gawsoch lonyddwch
cydwybod trwy ordeinhâd priodas a ordeiniodd
Duw, am hynny arferwch weddio 'n
fynych arno, ar ei fod ef yn bresennol gydâ chwi,
ac ar iddo efe gynnal cariad a charedigrwydd
rhyngoch chwi. Gwnewch eich gorau o 'ch rhan
chwi i 'ch ymarfer eich hunain a lledneisrwydd
ac ammynedd, a dygwch yn llonydd gydâ 'r camsynnaid
a ddigwyddo; fal hyn y bydd eich ymddygiad
chwi yn hyfryd ac yn ddiddanus iawn.

Ac er ei ryw wrthwyneb ganlyn (yr hyn ni
ddichon bod yn amgen) ac er i aflwydd digwyddo,
weithiau mewn vn ffordd, ac weithiau
mewn ffordd arall: etto yn y trallod a 'r gwrthwyneb
cyffredinol hwn, cyffodwch eich dwylaw
eich dau tuâ 'r nefoedd, gelwch am gynorthwy
a nerth gan Dduw awdur eich priodas chwi,
ac yn siccr fe fydd addewyd eich ymwared chwi
yn agos: O blegid mae Christ yn dywedyd yn
yr efengyl, Os cyduna dau neu dri ohonoch ar y
ddaiar am ddim oll, beth bynnac a ddeisyfant a
roddir iddynt gan fy-nhad [~ fy nhad ] yr hwn sydd yn y nefoedd.



[td. 184]
Paham am hynny yr ydwyd yn ofni perigl,
lle y mae iti addewid mor barod, a chymmorth
mor agos?

Rhaid i chwi ddeall hefyd mor anghenrhaid
yw i Gristion ddwyn croes Christ, o herwydd
heb hon byth ni wybyddwn mor ddiddanus yw
cymmorth Duw ini. Am hynny rhoddwch ddiolch
i Dduw am ei fawr ddawn, gan ddarfod
i chwi gymmeryd arnoch stât priodas, a gweddiwch
yn wastadol ar i 'r holl-alluog Dduw eich
ymddiffyn a 'ch maenteinio ynddi yn llwyddiannus,
fal na ormeiler chwi gan vn profedigaeth,
na gwrthwyneb: Ond vwchlaw pob peth, gochelwch
na roddoch achosion i ddiawl i rwystro
ac i luddio eich gweddiau chwi, trwy ymryson
ac angytundeb. O herwydd nid oes ymddiffynfa
nac atteg gadarnach yn ein holl einioes ni nâ
gweddi, trwy 'r hon y gallwn alw am nerth
Duw a 'i fwynhau, trwy 'r hon y gallwn gael
ei fendith ef, ei rad, ei ymddiffyn, a 'i nawdd, felly
i barhau hyd onis caffom y bywyd sydd well yn
y byd a ddaw. Yr hwn fywyd a ganniatao ef ini
yr hwn a fu farw drosom ni oll, i 'r hwn y byddo
pob anrhydedd a chlod yn dragywydd, Amen.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section