Adran o’r blaen
Previous section

Peniarth 218

Cynnwys
Contents

Araith ddichan i'r Gwragedd, Peniarth 218, 79–95.
Ateb i Araith Ddychan i'r Gwragedd, Peniarth 218, 58–73.
llyma yr ymddiddan a fv rhwng yr wttresswr ar Dyllvan, Peniarth 218, 153–78.
Teithie Syr Sion Mandefyl, Peniarth 218, 179–234.



[Ateb i Araith Ddychan i'r Gwragedd, Peniarth 218, 58–73. ]


[td. 58]
Gwrandawed yr holl bobloedd
or mersydd ar mynyddoedd
lle i gwnaed gogan arguoedd
ir merched ar gwrageddoedd
am ddryked i mwrweddiad//
yn nechreuad // yr oesoedd.
Wrth edrych a mynegi
pob llyfrau ag ystori
ni aned i gyd oysi
un heb pechod yw henwi
pawb sy yn heuddu dialedd
ond trugaredd // Dduw keli.
O vlaen barnu darllean
yr wythfed ben o Ifan
lle dowad Duw yn vyan
wrth y bobloedd a ddoethan

[td. 59]
a gwraig atto yn pechu yn drist
yn erbyn krist // i hunan./
Wrthyn Iessu a ddyfod
hwn honoch sy heb pechod
koded garreg rroed ddyrnod
i llybyddio sydd amod
ag euog oedd yr hollwlad
a Duw y tad // yn gwybod
Wrth y wraig doydai yn dyner
does ymaith drwy ffyddlonder
o bechod nag ymarfer
ag erchi ir ynifer
na roed neb varn ddi ddoeth
achos na ddoeth // mor amser
Ef a liwiodd i Efa
i phechod ai tharhusdra
o hon i doeth Mareia

[td. 60]
i ddywgio hyn yma
ai mab tynodd or ffwrn gaeth
holl hiliogaeth // Adda
Siohatsym tad Mair ydoedd
ag Anna i mam a hanoedd
o henwaed y brenhinoedd
o lwyth Siwda ai kenedloedd
o gyff Dafydd broffwyd Krist
nid ydiw drist // yr iachoedd
Pan oedd Mair dair o vlwyddau
ynghaer Selem ddiamau
y kysegrwyd yn ddiau
i Dduw i hun ai wrthiau
ag o honi yr addewid
y genid // y gwr gorau
Morwyn kyn kael Krist helaeth
ag yn veichiog morwyn odiaeth

[td. 61]
morwyn ar i enedigaeth
morwyn wedi yn famaeth
a Iessu i mab ar bren heb drai
a brynai // yr holl genedlaeth
Pum rrinwedd a roe'r drindod
i verch rragor gwr parod
wedi hynny vo ddyfod
ag iawn i bawb gadnabod
y llanwai hil y wraig war
nef a daiar // hynod
Y rrinwedd gynta yn gymwys
oedd greu merch ym Hyradwys
a honno oedd bur a chymwys
a glana a vu mewn eglwys
yno ni chreir yr un byth
or gwehelyth // gwiwlwys.

[td. 62]
Yr ail rinwedd oedd vynny
o Grist yr arglwydd Iessu
y gwr a vynai yn prynnu
ag ef a ddaw i varnu
i eni yn vab o gnawd merch
yr oedd ai serch // yw charu
Y drydedd rinwedd nefol
i verch yn vyw gorfforol
ymddangosses Duw grassol
yn i wir gnawd daiarol
wedi i godi oi vedd dan vaen
o vlaen // ir deuddeg bostol
Pedwerydd rrinwedd helaeth
dwyn merch yn i chorffolaeth
ai rroi yn y nef medd gwybodaeth
dan Dduw yn ben pob kenedlaeth
lle nid ai ond Duw ar gair
ar hon Vair // i vamaeth

[td. 63]
Y bumed rinwedd enwog
gael o Elen lueddog
y groes vendigaid wrthiog
hon nis kae vilwr arfog
ag adnabod or tair kroes
wirgroes // Duw drigarog
Mair Vadlen pawb ai gwybu
er i bod yn gordderchu
yr ydoedd Duw yn i charu
hi a beidiodd drwy divaru
ag ai gwallt ai dagrau i kaed
yn sychu traed // yr Iessu
Saint y Katrin verch rasol
a vu er mwyn krist nefol
ar y rrod ddur afryfol
lle i kladdwyd i chorff dwyfol
oi dwy vron y kad yn vrau
y ddau olew vydol

[td. 64]
Saint Marged wrth weddiau
wedi ir ddraig i llynku hithau
hi a dyfodd yn i genau
ond aeth y ddraig yn ddrylliau
ac a ddoeth hon wrth i bodd
y modd // i biassai orau
Kariadog oedd wr kreulon
am na chae ef Wenfrewy dirion
torri i phen lle i kaed ffynon
a thrwy nerth Iessu gyfion
Beuno a roes arni i phen
a byw vu wen // ag inion
Ni dderfydd ym vynegi
vaint o verched nai henwi
a ddywisodd Duw Keli
yn santessau i oleini
am oddef gynt er i vwyn
gur heb gwyn // ai poini

[td. 65]
Gwraig Eliwed murain dirion
gwnaeth moliant musig kyson
i Dduw prynwr kristnogion
dros foddi ffaro greulon
ag y hi oedd wen a chlaer
ag oedd chwaer // i Aaron/
Pan oedd Dafydd broffwyd gu
gan henaint yn gwanhychu
Beisaets merch oedd yw ymgleddu
gylch saith mlynedd ar untu
ag yw wely main i hael
heb nai chael // nai llygru/
Pan oedd Iohoas wirion
a Ionathas gwr union
yn ffo rrag i gelynion
mewn basged yn y ffynon
Sehosaba gwraig dda i modd
a achubodd // y dynion./

[td. 66]
Sara verch Ragwel addwyn
wrth arch i thad ai dolwyn
a beiriodai rrag achwyn
wr i gadw y gyfraith drylwyn
ai gydfod yw hoes yn gu
a marw a vu // yn vorwyn./
Rebeka gwraig ddigyffro
oedd gyfion yn ym ordrio
wedi i marw ai chiddio
rrag dayed oedd i gorthro
Pedyr a gae gan Dduw an klyw
i chodi yn vyw // i rodio.
Wedi marw Lasar obru
yn y ddaiar ai gladdu
a bod tridiau ar untu
ai gorff yn dechrau llygru
kae Vartha i chwaer gan Dduw tri
yn vyw i godi // i vyny

[td. 67]
Sara a Ragel oedd gyfion
am na phlanten yn bryddion
i amylhau kenedyl ddynion
a ddugant i morynion
at i gwyr nid yw twyllo
ond i geisio // ytifeddion
Pan oedd y proffwyd Dafydd
ai vab Absalon beunydd
yn taro ar i gilydd
heb gymodi ir gwledydd
Hester oedd wraig dda i madrodd
ai kymododd // yn llonydd
Pan vur wybyr pawb ai klowodd
wedi i chau rrag glaw yn ormodd
Eleias broffwyd iownfodd
drwy gyngor gwraig gweddiodd
i ardymeru y byd draw
gwlith a glaw // a gafodd

[td. 68]
Pan oedd wyr fry yn troi kwysau
ar ol erydyr a thidau
heb orffowys na chwarau
yn poeni i traed ai breichiau
defeisiodd san ffraid leian
chwelydyr hardd lan // i moddau
Pan oedd y bobyl yn noithion
heb ddim dillad am ddynion
Palathas gwraig oedd gyfion
a ddyfeisiodd yn inion
o elio gwlan ai nyddu i wlad
i gael ddillad // ddigon
Pan oedd y byd wrth ddechrau
heb na gerddi na llysiau
Seres gwraig or rryw gorau
a ddyfeisiodd bob hadau
i drwsio bwyd yn ddiwael
ag i gael // aroglau

[td. 69]
Merch ai henw Nikostradaf
oedd o lwyth Seth ap Addaf
oi ethrylith yn vwyaf
ag o rad Duw goruchaf
a ddyfeisiodd mewn moddau
lythyrenau // ladin gyntaf
Merch ai henw Eisys wenbryd
a hon oedd ddoeth yw bowyd
a chraff ym hob kelfyddyd
a mawr i chyfrwyddyd
a ddyfeisiodd mewn lliniau
lythrenau // Edsipt hefyd
Naw Sibl dyna i henwau
a wnaython naw llyfyr golau
a doeth un or merchedau
at vrenin Rrufain gaurau
a gofyn trychan talen
o aur hen // am y llyfrau

[td. 70]
Ar brenin ai gwrthododd
achos y pris oedd ormodd
tri or llyfrau a losgodd
yn i dig pan nas kafodd
a cheisio yr un pris yn drech
am y chwech // adawodd
Ar brenin ai gwrthodai
hon eilwaith tri a losgai
o ddig wrtho nas rroddai
achos y boen a gowsai
a cheisio yr un pris yn vri
am y tri // a dowsai
Gorfu ir brenin oedd dynaf
pan aethwyd ir van eithaf
am na vedrai y kais kyntaf
gymryd y vargen dekaf
roi pris y naw drwy vawr gri
am y tri // diwaethaf./

[td. 71]
Ag fo wyddis bod velly
a hyd dydd varn i pery
a oedd yn Rrufain obry
i wared ag i vyny
a chyfrwyddyd ir holl wlad
a gad // or llyfre hynny
Iawn i bawb ganmol Kambria
a dwyn kof kyfraith varsia
merch onest oedd Suwsana
a mawr oedd glod Rrebeka
a Seymeiramys ruddwin
gwraig i vrenin // Siria./
Merch sy deka yn y nefoedd
ond Duw brenin niferoedd
ar y ddayar ar moroedd
ar a aned or holl bobloedd
merch sy dekaf yw blodau
a gorau // i gweithredoedd

[td. 72]
Llawn yw merch o rinweddau
a chwrtais ymhob moddau
ag arafaidd i geiriau
a synhwyrol i champau
a phob amser yn i phwyll
megis kanwyll // olau
Gwraig sy lan a charedig
val gwnynen or goedwig
hi a wna lawer o chydig
hi a geidw i gwr yn ddiddig
i wneuthur oed tan y rriw
nid ydiw wiw // moi chynig
Pei kawn enioes ag iechyd
val Moesen a noe hefyd
a chanu awr ag enyd
nos a dydd heb seguryd
ni dderfyddai ym om serch
ganmol merch // ai glendid

[td. 73]
Pe byw hwn ai oferedd
a wnaeth yr araith chwerwedd
heb synwyr nag ymynedd
na messur na chynghanedd
mi a wnawn iddo gnoi i dafod
am a ddyfod // ar wragedd
O bydd neb a chwenycho
yn y mater ymbletio
ymddangosset heb risio
a doeded pwy a vytho
e gaiff atteb digon kroch
ag och ir kynta a gilio
O daw gofyn a gwiriaw
yn uchel ag yn ddistaw
pwy a wnai yr araith hylaw
ar draethodyl ai mesyraw
Wiliam Kynwal ag nis gwad
pan vytho y wlad // yn gwrandaw./
Terfyn

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section