Atlas Cystrawen Tafodieithoedd y Gymraeg

Arwydd ffordd ysgolPwrpas y prosiect yw pennu maint yr amrywiaeth yng nghystrawen y Gymraeg heddiw, gan gynnwys amrywiaeth yn ôl oedran a chefndir ieithyddol, ynghyd ag amrywiaeth daearyddol. Ei nodau penodol yw:

  • pennu dosbarthiad amrywiadau cystrawennol y Gymraeg drwy ddefnyddio methodoleg systematig
  • pennu patrymau newid drwy astudio amrywiaeth yn ôl oedran
  • archwilio effeithiau adfywiad y Gymraeg ar gystrawen yr iaith
  • darparu deunydd ar gyfer dadansoddiadau pellach o gystrawen y Gymraeg mewn unrhyw fframwaith
  • darparu storfa o ddeunydd fydd ar gael i ymchwilwyr, y cyhoedd a phawb sydd â diddordeb mewn unrhyw agwedd ar amrywiaeth yn yr iaith Gymraeg fel y'i siaredir heddiw

Noddwyd prosiect un flwyddyn i gasglu data gan yr Academi Brydeinig.

Mae SAWD yn rhan o rwydweithiau prosiectau cystrawen tafodieithol Edisyn a REEDS.