|
A meistrawl ar fawl wiw lamp, |
|
A'r gost lle bu gorau'r gamp, |
|
Gwaith anorphen sydd gennyf, |
|
Caru crefft er curio cryf. |
|
Nid oes Sadler crwpper crach |
|
Neu Deiler anwadalach. |
|
Yn gwcwallt salw i'm galwant |
|
Wb o'r nad am wedd berw nant. |
|
Cerais un dyn cwrs hindeg |
|
Cariad y teirgwlâd teg. |
|
Llym ei ruthr llammwr eithin, |
|
Llewpart a dart yn ei dîn. |
|
Llyn gwin egr llanw gwineugoch, |
|
Lloches lle'r ymolches moch. |
|
Bydd di ffrom n'âd dy siommi, |
|
Glyn heb ffael yn d'afael di. |
|
A'i chrochwaedd aml ei chrechwen |
|
A'i ffals gywyddoliaeth o'i phen. |
|
Wybren wen heb'r un anair |
|
A chwmmwl yw ffwl y ffair. |
|
A'r grân megis y manod, |
|
A'r ael fel ingc a'r liw'r od. |
|
Nid egor hon un gronyn, |
|
Ymddiddan odd' allan ddyn. |
|
Eraill a rydd deunydd dig, |
|
Am y tâl im' het helig. |
|
Noeth hyd twyn, cyd nithyd tal |
|
Ni hittia neb i'th attal. |
|
Dan fy swydd lawer blwyddyn, |
|
Dêl i'm o hap dâl am hyn. |
|
Dy lifrai o'r mwtlai main; |
|
Dy lewys di o liain. |
|
Pan glywais hoyw falais hon, |
|
Tybiais ddalld ei hattebion. |
|
Myfi yw ffraethlyw ffrwythlawn, |
|
Maer dy dda mawr yw dy ddawn. |
|
Fy nuwies bert Fenws ber. |
|
Afal Awst o felyster. |
|
Esgyd ei phlâs a'r lasrew, |
|
Ysgwd o'i flaen esgid flew. |
|
Ystyr di Gruffudd rudd-lwm |
|
Fod blaen dy dafod yn blwm. |
|
Ci glew llafarflew llwfrwlad, |
|
Cawn ddrwg sen cynddeiriog Sad. |
|
Sych nattur creawdur craff |
|
Sereniawg wybr Siwrnai gobraff. |
|
Ac ar ystryd o gyrs drain; |
|
Siopau lawnd fel Siep Lundain. |
|
Haws gennyt drwy naws gynnydd |
|
A'r dasg bôb amser o'r dydd. |
|
Da ufudd hwyl ddisgwyl farn, |
|
Dyfod yn frwysg o Dafarn. |
|
Cariad fel plwm trwm y trig |
|
Cadi mywn twr caedig. |
|
Teyrnaidd waith twrn oedd wiw. |
|
Tyrau troellau fal trilliw. |