Adran o’r blaen
Previous section



[td. 230]


PEN. V.


Gweinidogaeth y ddau Sacrafen, sef Bedydd, a
Swpper yr Arglwydd yn y Brif Eglwys. Deiliaid
Bedydd o ddau ryw. Plant bychain, a
rhai mywn oedran. Profir fod yr Eglwys Gatholic
yn bedyddio plant Rhiêni crediniol ym
mhob Oes er amser yr Apostolion. Tadau
Bedydd. Arwydd y Grôg. Y modd y gweinyddid
Bedydd. Trochiad gan mwyaf. Taenelliad
hefyd. Ystori nodedig ynghylch gwr a elwid
Athanasius. Yr Heretic cyntaf a ryfygodd i
ail fedyddio. Y Wisg wen y gwisgid y rhai newydd
fedyddio. Gweinidogaeth y Sacrafen arall,
sef Swpper yr Arglwydd yn y Brif Eglwys.


ER na cheir y fath air a Sacrafen yn
yr holl Destament Newydd, etto
efe a gymhwysir mywn ystyr berthynasol
i arwyddoccau y ddau Ordinhâd
sanctaidd, Bedydd a Swpper
yr Arglwydd. Canys Sacrafen a
gymmerwyd gan y Rhufeiniaid yn y tair ystyr
hyn. 1, Gwystl a roddai gŵr a gwynid arno
mywn cyfraith i'w rwymo ef i atteb tan berygl
o golli'r gwystl. 2, Llŵ a gymmerai'r Milwyr
er bod yn gywir a ffyddlon i'r Câd-pen. 3,

[td. 231]
Toccyn, neu Lifrai gwahanol, fal yr adnabyddid
Milwyr pob Câd-pen wrth eu Llifrai. Ac y mae
rhai yn tybied y gellir galw Bedydd a Swpper yr
Arglwydd yn Sacrafennau yn y tair ystyr hynny.
Canys. 1, Y mae Duw, pan y byddom megis
yn cwyno arno a'r ei Addewidion, yn siccrhau i
ni trwy arwyddion gweledig oddi allan, megis
trwy Wystlon sanctaidd, ei Râs, a'i Drugaredd.
Ac 2, Ninnau a gymmerwn Lŵ (ein Hadduned
Fedydd) i fod yn Filwyr cywir i Ghrist ein
Cad-pen, a'n Tywysog. Ac 3, Nyni a wahenir
wrth y nodau hyn (Arddangosiadau'n Proffes)
oddi wrth bawb eraill, y rhai nid ŷnt yn proffesu
Christ.

Ped ymostyngai dynion i farnu pyngciau dadleugar
wrth Reol yr Ysgrythur, neu wrth Arfer y
Brif Eglwys (cyn i neb llygredigaethau ddyfod
iddi) yr wyf yn meddwi y byddai'r Ddadl ddiweddar
hon ynghylch Deiliaid Bedydd yn ddiddadl;
Sef yw hynny, na ddylai neb betruso (a'r
y sy'n dirnad y 'Sgrythurau, neu yn darllen am
Ddisgyblaeth y Brif Eglwys) a ddylid bedyddio
plant bychain, onid ŷnt yn chwennych fyned
yn Gyssegr-ladron, ac i wrthwynebu Ordinhâd
Duw ei hun. Canys y Cyfammod a wnaeth
Duw ag Abraham oedd yn gyfammod dragywyddol,
nid terfynnedig wrth Hâd Abraham yn unig
yn ôl y Cnawd, ond y Cenhedloedd hefyd a ddycpwyd
i mywn, wedi'r byth bendigedig Jesu dorri
'r canol-fur rhyngddynt. Gwybyddwch felly mae
y rhai hynny sy o ffydd, y rhai hynny yw plant

[td. 232]
Abraham Gal. 3. 7. Ynteu, gan fod Plant bychain
y Cenhedloedd crediniol yn y cyfammod
ac yn Blant i Abraham trwy ffydd, oni ddylid
rhoddi Sêl y Cyfammod iddynt? Sef yw hynny,
oni ddylid eu bedyddio hwy yn-awr tan yr Efengyl,
megis ac yr Enwaedwyd plant yr Israeliaid tan y
Ddeddf? Canys y mae Bedydd yn canlyn Enwaediad,
fal y profir yn helaeth gan holl hên Athrawon
yr Eglwys.

Yn ganlynol i hyn y mae Scrifennadau'r hen
Deidau yn dangos yn eglur, hynny ydyw, cyn amlycced
ac all Tafod fynegi, fod Bedydd plant yn
arferedig yn Eglwys Dduw er Amser yr Apostolion.
Y mae Origen Sanctaidd (yr hwn a Scrifennodd
ynghylch Bl. yr Argl. 230) yn dywedyd fal
hyn. Plant bychain a fedyddir er maddeuant pechodau:
Pa bechodau? Canys pa bryd y pechasant?
Neu pa fodd y gall Bedydd gymmodi a Phlant bychain,
ond yn yr ystyr a ddywedais eusys, Pa beth
yw dŷn i fod yn lân, a'r hwn a aned o Ddŷn i
fod yn gyfiawn? Job. 15. 14. Ynteu gan y purir
aflendid ein Genedigaeth trwy Fedydd, y bedyddir
plant bychain. Ac y mae'r un Tad duwiol
yn ei Esponiad a'r Ps. 51. 5. yn dywedyd etto fal
hyn, O herwydd hyn (eb'r ef), sef y pechod
gwreiddiol hwn, y câdd yr Eglwys Draddodiad oddi
wrth yr Apostolion i fedyddio Plant bychain.
A'r Traddodiad hwnnw oedd un o'r rhai y mae'r

[td. 233]
Apostol yn orchymmyn i'r Thessaloniaid lynu
wrthynt, pan yw yn dywedyd, Am hynny, Frodyr,
sefwch, a deliwch y Traddodiadau a ddyscasoch,
pa un bynnag a'i trwy ymadrodd, a'i trwy
ein Epistol ni. 2. Thess. 2. 15. Wrth ba destun y
mae'n amlwg, mae nid dychymmyg dyn yw pob
Traddodiad, ond Egwyddor Ffydd a gafwyd oddi
wrth yr Apostolion Sanctaidd eu hun. Ac medd
S. Paul mywn lle arall, A'r pethau a glywaist
gennyf trwy lawer o dystion, traddoda y rhai hynny
i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymmwys i
ddysgu eraill hefyd. 2 Tim. 2. 2.

Yn Amser y Merthyr Sanctaidd hwnnw Syprian,
y bu dadl (nid ynghylch a ddylid bedyddio
plant bychain, canys yr oedd hynny yn ddi-ddadl)
ond ynghylch yr Amser y dylid eu bedyddio.
Canys yr oedd rhyw Esgob a'i enw Ffidus yn petruso
a ellid yn gyfreithlawn fedyddio plant bychain
cyn yr wythfed Dydd? Yn-awr rhac bod
hynny yn achos Amrafael a Schism yn yr Eglwys,
fe gynhaliwyd Cymanfa yn Affrica, Bl. yr
Argl. 254 ynghylch hynny, lle'r ymgynnullodd
tri ugain a chwech o Esgobion uniown-gred;
A'i Barn hwy oll un ac arall ydoedd, Na ddylid
cadw Plant bychain cyhyd a'r wythfed Dydd rhac
Bedydd. Yr wyf yn meddwl, na fyddai anghymmwys
pe cymreigwn ryw ran o'r Llythyr a anfonasant
at y Ffidus hwnnw, yr hwn sydd fal y
canlyn.

"Am yr hyn a ddywedaist ynghylch perthynas
Plant, na ddylid eu bedyddio a'r yr ail neu'r
trydydd Dydd, wedi eu genedigaeth, ond a'r
yr wythfed Dydd, megis tan y Ddeddf, Ein
Cymanfa ni a farnodd yn llwyr wrthwyneb.

[td. 234]
Ac ni chyttunodd un o honom a thydi ynghylch
hynny, ond barnasom oll un ac arall,
na ddylid naccau trugaredd a grâs Duw i neb
rhyw ddyn. Canys yn gymmaint ac i'n Harglwydd
ddywedyd yn ei Efengyl, Na ddaeth
Mab y dyn i ddestrywio Eneidiau dynion, ond i'w
cadw. Luc. 9. 56. Felly y mae'n rhaid i ni edrych
attom ein hunain rhag bod un Enaid yn golledig
hyd y mae ynom ni. Canys pa beth sydd yn fyrr
yn yr hwn a luniwyd un-waith trwy allu Duw
yn y Groth? ¶ F'ymddengys [~ fe ymddengys ] i ni fod Plant yn
tyfu, fal y maent yn cynnyddu mywn Oedran:
Ond pa bethau bynnag a greawdd Duw, ydynt
yn berffaith trwy waith a mawrhydi Duw eu
gwneuthurwr.---- Er fod cynnydd corphorol yn
peri gwahaniaeth mywn perthynas i Ddynion,
ond nid yw ê ddim mywn perthynas i Dduw,
oddigerth fod y grâs hwnnw a roddir i'r rhai
wedi eu bedyddio, yn fwy neu yn llai o ran
oedran dynion. Ond yr Yspryd glan a roddir
yn ddiwahan i bawb, nid yn ôl maintioli dynion, ‡
ond yn ol trugaredd ac ewyllys y Tâd nefol.
Canys megis nad yw Duw yn Dderbynniwr
wyneb, felly nid yw efe chwaith yn dderbynniwr
Oedran. Y mae efe yn cynnyg i bawb, fawrion
a bychain, fwynhâd o'i Râs nefol:---- O herwydd
pa ham, ein hanwyl Frawd, ein Barn ni ydyw,
na ddylid llestair un dyn a fo'n addas rhac cael
Bedydd. Ond yn anad neb, bydded i ni ofalu
tros Blant bychain newydd eni, y rhai sy'n

[td. 235]
megis yn ymbil arnom, wrth eu gwaith yn
wylo, ac yn gweiddi, a'r i ni dosturio wrthynt.


Y Llythyr hwn a Ysgrifennwyd, pan oedd Oedran
Christ 254, ac fe osododd tri-ugain Esgob a
chwech eu dwylaw wrtho: A'r achos nad yw'r
Tadau hyn yn amddiffyn Bedydd Plant trwy Resymmau
Sgrythurol, ydyw o herwydd nad oedd
neb yn yr Amser hwnnw yn petruso a ddylid
Bedyddio Plant bychain. Amheuaeth y Ffidus
hwnnw oedd ynghylch Amser, nid ynghylch Deiliaid
Bedydd; Ac i hynny y mae hwythau yn
atteb yn unig. Ac nid oedd hyn ddim peth newydd,
neu weithred a ddychymygasant eu hunain,
ond Cadernid Gwirionedd amlwg a gâdd yr Eglwys
oddi wrth yr Apostolion, fal y mae'r Tad
digymmar hwnnw (o ran dysg a Duwioldeb) S.
Awstin Esgob Hippo, yn traethu'n helaeth.
Ac y mae'r un Tâd Duwiol yn dywedyd yn
eglur, ac yn profi trwy Resymmau di-amheuol
fod yr Eglwys Gatholic yn bedyddio Plant bychain
hyd ei Amser ef ym mhôb gwlâd Ac
efe a Sgrifennodd ynghylch Bl. yr Argl. 408.

Ynghylch Bl. yr Argl. 370 yr ysgrifennodd
Tâd parchedig a elwid Gregori Nazianzen, ac efe
a ddywed fal hyn; Pa beth a ddywedi am Blant
bychain, y rhai ni allant wybod trwy brofiad, y
llesâd sydd o Fedydd, na'r colled trwy ei eisiau. A

[td. 236]
fedyddiwn ni hwynt hwy? Bedyddiwn yn wîr ddiau,
Canys gwell yw iddynt gael eu Sancteiddio, er na
bônt deimladwy o hynny, na myned allan o'r Bŷd
heb sêl Christ'nogaeth. Digon yw y tystiolaethau
hyn i brofi fod Eglwys Dduw yn bedyddio
Plant Rhiêni Christ'nogol er Amser yr Apostolion;
A Digon ŷnt hefyd i wrthbrofi anwybodaeth ac
ynfydrwydd y Dynionach gwrthun hynny, y rhai
a welsant mywn Breuddwyd (neu ysgatfydd mywn
Llesmeir ysprydol) nad oedd yr Eglwys Gatholic
yn bedyddio Neb Plant bychain, hyd yn Amser
Pabyddiaeth. Mi a ewyllysiwn iddynt edrych
attynt eu hunain, ac edifarhau o herwydd eu cyfeiliornad.
 Mywn addfwynder yn dyscu y rhai
gwrthwynebus i edrych a roddo Duw iddynt hwy
ryw Amser Edifeirwch i adnabod y Gwirionedd. 2
Tim 2. 25.

Nid wyf anhyspys fod rhai (a gymmerant arnynt
fod yn Historiawyr da) yn yscrifennu, mae Dychymmyg
a gafwyd allan yn ddiweddar, sef ynghylch
 Bl. yr Argl. 405 yw Tadau Bedydd
Ond y maent yn wir ddiau yn colli yn rhy hagr
yn eu cyfrifon; canys y mae'n orchwyl hawdd i
brofi fod Tadau bedydd yn atteb dros Blant er ys
'chwaneg na thri chant o flynyddoedd cyn yr Amser
hwnnw, hynny ydyw, er Amser yr Apostolion,
fal yr ymddengys oddiwrth dystiolaeth hên
Athraw a elwid Tertulian, yr hwn a scrifennodd
ynghylch Bl. yr Argl. 180. Pa raid i Dadau Bedydd
(eb'r efe) ddwyn eu hunain i berygl, y rhai
allant farw cyn cyflawni yr Addewidion a wnaethant;
neu fe all y rhai y maent yn addaw trostynt,

[td. 237]
fyned yn ddynion ysgeler, gwneler a fynnir iddynt.


Gwir jawn y mae efe yn Scrifennu yn erbyn
Tadau Bedydd, a hynny am ddau achos, fal y
mae'n amlwg wrth ei Eiriau. Etto f'ymddengys
fod Tadau Bedydd yn atteb tros Blant yn yr Amser
hwnnw, ped amgen ni allasai efe ddywedyd
dim yn eu herbyn. Y gwirionedd ydyw, fe wyrodd
yr hen Athraw godidog hwn tua diwedd ei
hoedl oddiwrth y ffydd Apostolic, ‡ ac am hynny
efe a ddyrchafa ei Dŷb neilltuol ei hun o flaen
Athrawiaeth yr Eglwys Gatholic. Felly y gwnaeth
efe ynghylch Bedydd plant hefyd, canys efe
a ddywed, Pa ham y mae'r Oes ddiniweid yn bryssio
i dderbyn maddeuant pechodau, Deuent i'w Bedyddio
wedi iddynt ddyfod i Oedran, &c.
Gwraidd y cyfeiliornad oedd ei anwybodaeth o
Bechod gwreiddiol, canys efe a eilw Plant bychain
yr Oes ddiniweid; Ac am hynny nid oedd raid
iddynt wrth Fedydd yn ei Dŷb ef: Etto y mae
hyn yn dangos fod Bedydd Plant a Thadau Bedydd
yn arferedig yn yr Eglwys Gatholic yn ei Amser
ef, ac am hynny er Amser yr Apostolion.

Wedi'r Tadau bedydd hyn ddyfod ynghyd,
Yr Offeiriad a'i cynghorai hwy i edrych a'r gyflawni
'r Addewid ac oeddynt yn myned i'w wneuthur,
sef a'r iddynt ymegnio hyd eithaf eu gallu i addysgu
'r Plentyn yn y Ffydd Grist'nogol, a'i ddwyn

[td. 238]
i fynu yn Ofn Duw. Ac yno, gwedi gweddio
am nerth yr Yspryd Glân, yr Offeiriad a gymmerai
'r plentyn yn ei Freichiau, a gwedi cael ei
Enw gan y Tadau bedydd, efe a'i trochai dair
gwaith yn y Dwfr yn enw'r Drindod, ond os
byddai'r Plentyn yn wan, efe a daenellid dwfr
arno. A gwedi gorphen hynny, yr Offeiriad a
wnai Groes yn nhalcen y dyn bach, gan arwyddoccau
trwy hynny ei fod efe yn Ddisgybl i Ghrist,
ac yn dwyn ei nod ef arno. Nid yw ef ond gwaith
afreidiol i brofi fod yr hen Grist'nogion, (er
Amser yr Apostolion) yn arfer y Seremoni honno
wrth fedyddio, canys cyn amlycced ydyw hynny,
fal nad all neb a'r a ddarllenodd ond rhyw ychydigyn
yng ngwaith y Teidau fod yn anwybodol o
honaw. Ie y mae Tertulian ei hun yn mawrygu
y Seremoni honno, er ei fod mywn
llawer o bethau eraill yn gwyro. Ac o hynny y
bu dihareb ganddynt, Talcen wedi nodi ag arwydd y
Grôg, * hynny ydyw, Christion wedi ei fedyddio.

Er fod yr hen Grist'nogion yn wir-ddiau gan
mwyaf yn trochi yr holl gorph tan y Dwfr, etto
ni chyfrifwyd un trochiad ddim yn Fedydd oll, fal
yr ymddengys oddi wrth eiriau hen Historiawr a
elwid Sozomen, yr hwn a Scrifennodd hannes yr
Eglwys ynghylch Bl. yr Argl. 430. Canys efe
ddywed, Fod y sawl a drochwyd onid un-waith yn
ei farn ef yn yr unrhyw berygl, a'r Sawl na châdd
Fedydd erioed. Ond Taenelliad dair gwaith a

[td. 239]
gyfrifid cystal a thair trochiad, canys S. Syprian a
ddywed, Nad allai efe ddirnad fod y Dawn nefol
yn cael ei attal ddim llai y ffordd honno, trwy
Daenelliad, nac yn y ffordd arall, o hydd Ffŷdd i'w
dderbyn. Canys ein pechodau trwy Fedydd (eb'r ef)
a olchir mywn modd amgen, na budreddi ein Cyrph
mywn Ffynnon. Ac na ryfedded neb ein bod yn bedyddio
y rhai gweinon trwy daenellu Dwfr arnynt,
gan fod yr Yspryd Glân yn dywedyd, Ac a daenellaf
arnoch ddwfr glân, fal y byddoch lân, oddi
wrth eich holl frynti Ezec. 36. 25. Ac hefyd
Num. 8. 7. Ac fel hyn y gwnei iddynt i'w glanhau,
taenella ddwfr puredigaeth. Wrth hyn y mae'n
amlwg (ebr ef) fod Tanelliad cystal a throchiad.


Pa un a'i yn Faban, a'i mywn Oedran, trwy
Daenelliad, neu Drochiad y bedyddid neb, ni ailfedyddid
hwnnw drachefn, canys yr holl hên
Grist'nogion a lynasant yn ddi-yscog wrth Reol yr
Apostol Un Arglwydd, un Ffydd, un Bedydd.
Eph. 4. 5. Yr ŷm yn cael Ystori nodedig ynghylch
Llangc a Elwid Athanasius, yr hon sydd fal y
canlyn. "Yr oedd Alexander Esgob Alexandria
yn cadw dydd Gwyl S. Petr, yn ôl Arfer yr
Eglwys, a thra fu efe yn aros ei Henuriaid atto,
wedi gorphen yr Wŷl, efe a rodiodd allan i'r
Maesydd, lle y gwelai langciau jeuaingc yn
chwareu; Ond o'r diwedd efe a welai un o honynt
yn tywys y lleill at Afon, ac yn eu bedyddio
hwy yno, fal pe buasai Offeiriad. Pan ddychwelodd
 Alexander adref, efe a fynegodd yr hyn
a welsai i'w Henuriaid, y rhai a synnasant yn
fawr i glywed hynny, ac felly y danfonwyd am

[td. 240]
y Llangciau, a gwedi eu dyfod, y gofynnwyd
iddynt ynghylch yr hyn ag oeddynt yn wneuthur
wrth chwareu yn y Maes. A hwy a ddywedasant,
mae y Llangc a elwid Athanasius a
gymmerodd arno ddynwared yr Offeiriad yn
bedyddio. Ac yno'r Esgob wedi clywed hynny
a ymgynghorodd a'i Henuriaid ynghylch y weithred,
a'i Barn hwy oll, un ac arall oedd, na
ddylid ail-fedyddio mo'nynt, gan fod y ffurf yn
enw'r Drindod yn uniawn.

Yn wîr ddiau nid ellir naccau onid oedd rhai
Hereticiaid aflan yn ail-fedyddio yn y prif Amser
gynt; A'r pennaf o'r gŵyr da hynny a Elwid
Eunomius, yr hwn a wyrdroawdd Draddodiad yr
Apostolion, ac a ddychymygodd Ffurf amgen
wrth fedyddio, nag a orchymmynodd ein Hiachawdwr;
Canys efe a daerodd na ddylid bedyddio
neb yn Enw'r Tâd a'r Mâb a'r Yspryd Glân, ond
y Ffurf a ddylai fod, Yr wyf yn dy fedyddio di i
farwolaeth Christ A pha broselytiaid bynnag
a allai'r Heretic hwnnw i ynnill, efe a'i hail-fedyddiai
(megis y mae ei Ddisgyblion yn gwneuthur
etto) er eu bod wedi eu bedyddio o'r blaen,
pa un a'i yn Fabanod, a'i ynteu mywn Oedran.
A'r un Heretic oedd y Cyfaill a newidiodd
gyntaf y tair trochiad, canys efe a daerodd fod un
yn ddigonol. Ac er ei fod yn Araithydd da, ac yn

[td. 241]
lew mywn ffraethder Ymadrodd, etto efe a gyfrifwyd
gan y Jawn-ffyddiog yn Heretic, ac ni lanheir
yr Enw gwrthun hwnnw oddi wrtho fyth,
canys yn Heretic y cyfrifir ef, tra fo


Gwynt yn chwythu; Dwr yn tarddu;
Sêr yn harddu, sy ran urddas:
Mawn yn llosgi; Mêr yn hoffi;
Môr yn heli, Mawr jawn hylas.

Myfi a dybygwn wrth eiriau Justin y Merthyr,
(yr hwn a Scrifennodd ynghylch Bl. yr Argl.
155) eu bod hwy yn bedyddio y rhai a gredent,
sef y rhai a ddychwelid o eilun-addoliaeth, yn
ddiattreg wedi iddynt ddyfod i gredu. Canys efe
a ddywed, "Pwy bynnag, wedi addyscir iddynt
byngciau'r ffydd, a'r sydd yn ewyllysgar i
fyw yn ôl Rheol (yr Efengyl) a gynghorir i
ymprydio a gweddio, er cael maddeuant pechodau
[sef pechodau eu hanghrediniaeth gynt]
Ac nyni a weddiwn ac a ymprydiwn gyda
hwy. Ac yno, nyni a'i dygwn lle bo Dwfr,
ac fal yr adgenhedlwyd ni, felly yr adgenhedlir
hwythau. Ond tua'r Drydedd oes,
ac o hynny allan yr appwyntiwyd i weinyddu
Bedydd a'r ddau Amser o'r flwyddyn yn unig,
sef y Pasg, a'r Sulgwyn; etto os byddai dim perygl
marwolaeth a'r un, efe a fedyddid y pryd
hwnnw, digwydded hynny a'r ba amser bynnag
o'r Flwyddyn. Ac a'r ddydd yr Arglwydd a
elwir Sulgwyn, y gwisgid y rhai newydd-fedyddio
mywn Gwisg-wen. Ac o'r achos hwnnw

[td. 242]
y galwyd y Sul hwnnw Sul-gwyn, oblegid y byddai
torfeydd o'r rhai newydd-fedyddio yn myned
i'r Eglwys yn eu Gwisgoedd gwynnion y Dydd
hwnnw; A hyn yw meddwl y Bardd, pan yw yn
canu.

Jôr Nef a Daear, Gwel y rhai hygar
A fu'n ddiweddar tan yr Elfen:
Gwel y frwydr-lan sy'n myned allan
O'r Aipht i Ganan, mywn gwisg bur-wen.

Mae peisiau gwynnion y glan Ddyniadon
Yn rhoi Arwyddion meddwl dien:
Hyn sydd lawenydd, a chyssur hylwydd
I'r Bugail jawn-ffydd, Dorf ddisglair-wen.

Fe dybygai dŷn anghyfarwydd fod yr Athraw
a grybwyllwyd ddiweddaf, sef Justin y Merthyr,
yn yscrifennu, fal pe ni fuasent yn bedyddio neb
plant bychain yn ei amser ef. Ond nid yw efe
ddim; Canys. 1, Y rhai a droawdd o Eilun-addoliaeth
y mae efe yn feddwl a dderbynnid felly i'r
Eglwys, fal y mae'n amlwg wrth ei eiriau. 2, Y
mae efe yn crybwyll ei hun mywn lle arall ynghylch
Bedydd plant megis peth arferedig yn ei Amser
ef ym mhob gwlâd. Ac am hynny, ni ddylir
gwyr-droi y fath ymadroddion a'r rhai hynny i
amddiffyn Opiniynau gwrthun. Ond ysywaeth y
mae'r Anyscedig a'r anwastad yn gwyr-droi y
Scrythrau, chwaethach yscrifennadau dynol, i'w dinystr
eu hunain. 2 Pet. 3, 16.


[td. 243]
SOnniwn bellach ryw ychydig ynghylch y Sacrafen
arall, sef, Swpper yr Arglwydd. Ac yma,
mi a ganlynaf y Drefn hon. 1, Yr amser y derbynnid.
2, Y Personau a farnwyd yn gymmwys i'w dderbyn.
3, Y modd yr oeddid yn ei dderbyn.

1, Yr Amser cyffredinolaf a mwyaf arferedig
ydoedd wedi gorphen y Gwasanaeth yn yr Eglwys,
a'r Ddydd yr Arglwydd. Canys Justin y
Merthyr a ddywed, mae'r Amser yr arferent i
fwytta'r Cymmun oedd wedi iddynt, ddarllen,
canu mawl, pregethu, a gweddio. Ond yn wîr
ddiau y mae'n anhawdd i wybod yn berffaithgwbl,
ym mha amser o'r dydd yr oedd yr hen
Grist'nogion yn cymmuno; Mae'n Eglur i'n
Hiachawdwr bendigedig ei ordeinio liw nôs yn
ôl yr amser y cedwid y Pasg Iddewig; Ond a oedd
yr Apostolion, a'r Christ'nogion a'r ôl eu
dyddiau hwy, yn cadw'r un amser, fydd anhawdd
i siccrhau. Etto y mae'n ddiau fod yr Arfer
mywn ambell fan i gymmuno a'r yr amser hwnnw,
sef, Liw nôs. Ond mi a dybygwn mae
Anghenrhaid oedd yn eu cymmell i wneuthur
hynny yn amser Erlidigaeth, pryd ni byddai rydd
iddynt, ymgynnull liw Dydd. Canys y mae'r Teidau
a yscrifennasant tua'r drydedd Oes yn sicrhau
mae yn y boreu y derbynnient y Cymmun:
Ac felly y parhawyd o hynny allan, i ganlyn yr un
amser, oddigerth mywn rhyw leoedd o'r Aipht
gerllaw Alecsandria, p'le yr arferent i gymmuno

[td. 244]
yn yr llwyr, wedi iddynt fwytta ac yfed eu
llonaid.

Yn y Prif Amser yr oedd Yspryd Crist'nogaeth
yn fywiog yng nghalonnau ei Phroffeswyr, a'i
Cariad hwythau oedd yn wresog at eu Harglwydd;
Ac felly hwy a farnasant pa fynyched y deuent i
Fwrdd yr Arglwydd, well-well y byddent, a galluoccach
i wrthsefyll holl Ruthrau'r Fall. Ac
am hynny hwy a dderbynniasant y Cymmun bob
Dydd trwy'r Flwyddyn, yn bendifaddau mywn
Dinasoedd a Threfi, lle byddai pawb yn agos, fal
y mae'n amlwg, oddi wrth eiriau S. Syprian, yr
hwn a ddywed, Yr ŷm yn derbyn y Cymmun bob
dydd, megis Ymborth sŷdd yn ein meithrin i Jechydwriaeth.
Yr arfer hwn i dderbyn y
Cymmun bob dydd a barhaodd yn 'chwaneg na
phedwar Cant o Flynydoedd, yn enwedig yn Eglwysi
'r Gorllewin, oblegid y mae S. Awstin Esgob
 Hippo yn dywedyd yn eglur fod y Christ'nogion
yn cymmuno bob dydd yn ei Amser ef,
hynny ydyw, ynghylch Bl. yr Argl. 415.
Canys Bl. yr Argl. 430, y bu'r Tâd parchedig
hwnnw farw. Ond ym mhen talm o amser wedi
hynny, y cwttogwyd yr amser i fod bedair gwaith
yn yr Wythnos, ac a'r ôl hynny bob Wyth-nos, ac
yno bob Mîs, &c. Pan ballod y Zêl, y cryfhaodd
Diofalwch, pan oerodd y Cariad, y brydiodd amharch,
a phan sychodd grym dwywolder, y ffrydiodd
ysgelerdr a phechod.


[td. 245]
2, Am y Personau a farnwyd yn gymmwys
i dderbyn y Cymmun. Nid pob un a fyddai ag
Enw Christion arno, a dderbynnid i Fwrdd yr
Arglwydd, Canys medd un o'r hen Deidau, Ni
pherthyn i bob un fwytta'r Bara hwn, ac i yfed
o'r Cwppan hwn. Wrth hyn y mae'n canlyn,
nad oedd rydd i Bechaduriaid nodedig, megis
Anudonwyr, Llofruddiaid, Meddwon, &c ddynessau
at fwrdd yr Arglwydd yn y Brif Eglwys;
Eithr yn unig. 1, Y rhai a fyddai o ymarweddiad
da. 2, Yn credu holl byngciau sylfaenol y
Grefydd Grist'nogol. 3, O gynnulleidfa'r Eglwys
Gatholic. 4, Wedi derbyn Bedydd. 5, Wedi
cael Conffirmasiwn gan yr Esgob, neu Fedydd
Esgob, fal y dywedir yn gyffredin. Yr wyf yn
meddwl nad oes neb, a'r a wŷr ddim, a ryfyga
ddywedyd fod Conffirmasiwn yn Ddychymmyg
dyn, gan fod y 'Scrythur lan yn rhoddi tystiolaeth
ddisiommedig fod yr Apostolion eu hunain yn arfer
Arddodiad dwylaw i roddi'r Yspryd Glân
i'r neb a fedyddid. Act. viii. 14, 15, 16, 17.
Ac ni bu'r Esgobion yn yr Oesoedd canlynol yn
ddiffygiol i gyflawni'r Arfer Efangylaidd hon,
fal y gallwn yn hawdd brofi trwy liaws o dystiolaethau
'r hen Athrawon. Ac yn wir ddiau
ni chyfrifwyd neb yn Gristion perffaith ganddynt,
nes cael Conffirmasiwn gan yr Esgob, oblegid eu bod
yn edrych a'r hynny, megis peth hanffodol i Grist'nogaeth.
Y rhai mywn oedran a gonffirmid yn

[td. 246]
ddiattreg wedi eu bedyddio, a phlant bychain,
pan y delent i oedran Gŵyr.

O byddai neb o'r Ffyddloniaid yn gleifion, neu
o byddai rhyw fethiant, neu ddamwain yn eu hattal
rhac dyfod i'r Eglwys, fe ddanfonid Diacon,
a thammaid o'r Bara Cyssegredig wedi wlychu yn
y Gwîn attynt hwy adref; Canys felly y dywed
Justin y Merthyr, Y Diaconiaid a roddant y bara
a'r Gwîn i'r rhai presennol, ac a'i danfonant
adref i'r rhai Absennol. Ond nid pawb
o'r rhai Absennol a gaent y ffafor hwnnw. Canys
gorchymmynwyd mywn Cymanfa a gynhaliwyd
Bl. yr Argl. 314. Yn Ffraingc, na chai un Apostat
(neu'r hwn a ymadawodd a'r ffydd) ei dderbyn
mywn Cymmundeb, os syrthiai yn glâf, ond
y dylid edrych a fyddai gwellhâd Buchedd ynddo.
Ac yn yr un Gymanfa y gorchymmynwyd
hefyd, y dylid attal y sawl a ddygent gam dystiolaeth
yn erbyn eu Cymmydogion, tra fyddent hwy
byw rhac y Cymmun. Gwel Pen. 2. tu. dal. 158.

3, Ynghylch y modd y derbynnid y Cymmun.
Yn gyntaf y Diacon a ddygai ddwfr i'r Esgob
a'i Henuriaid, y rhai a safent o bobtu'r BwrddCymmun,
i olchi eu Dwylaw, gan arwyddoccau
trwy hynny y Purdeb a ddylai fod yn y rhai
hynny sy'n nessau at Dduw, megis y dywed
y Salmydd, Golchaf fy nwylaw mywn diniweidrwydd;
a'th Allor o Arglwydd a amgylchynaf,
Ps. xxvi. 6. Ac yno'r Diacon, a groch-waeddai
Cussenwch eich gilydd. Yr oedd yr arfer hwn o
gussanu eu gilydd, yn gynnar jawn yn yr Eglwys,

[td. 247]
a hynny medd rhai, yw meddwl yr Apostol pan
yw yn dywedyd, Anherchwch yr holl frodyr a chusan
sancteiddiol. Thess. v. 26. A hynny a wnaethant
i arwyddoccau eu bod mywn cariad perffaith
a'i gilydd, a bod pob atgasrwydd a malais wedi
diweddu, yn ôl cynghor ein Hiachawdwr, Gan
hynny, os dygi dy rodd i'r Allor ac yno dyfod i'th gof
fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn, Gad yno dy
rôdd ger bron yr Allor, a dos ymaith: Yn gyntaf
cymmoder di a'th frawd, ac yno tyred, ac offrwm
dy rôdd. Mat. v. 23, 24.

A'r ôl hyn hwy a aent i weddio eu Gweddi
gyffredin am dangneddyf ac undeb gyffredinol yn
yr Eglwys, am lonyddwch a hêdd yn y deyrnas,
am lwyddiant yr Oes, am hîn dymmerus, tros
bob math o ddynion, Brenhinoedd, Ymherodron,
a phawb mywn Awdurdod, tros y Llû, a'r Milwyr,
 tros y rhai Credadwy, ac anghredadwy, tros
gyfeillion, a chydymdeithion, tros y cleifion a'r
blinderus, a'r fyrr eiriau, tros bawb mywn diffyg
ac eisiau cymmorth. [Y weddi gyffredin hon
oedd Ffurf weddi, ac nid yw raid wrth ychwaneg
i brofi hynny, nag y ddau Reswm hyn. 1, Y
mae'r Teidau yn dywedyd mae Ffurf ydoedd,
yr hon sydd i'w chael etto yn eu gwaith.
2, Yr oedd yr holl Gynnulleidfa yn canlyn yr
Offeiriad wrth weddio, yr hyn a fuasai yn amhossibl
iddynt, pe nid ffurf osodedig a fuasai'r
Weddi.

Wedi gorphen hynny, y Gweinidog a ddywedai,
Yr Arglwydd a fô gyda chwi: A'r Bobl a attebai,

[td. 248]
 A chyd-a'th Yspryd ditheu. Yr Offeiriad
a ddywedai drachefn, Dyrchefwch eich calonnau.
Y Bobl a attebai, Yr ydym yn eu dyrchafael
i'r Arglwydd. Yr Offeiriad a ai rhago,
gan ddywedyd y drydedd waith, Diolchwn i'n
Harglwydd Dduw. Ac attebid efe gan y Gynulleidfa,
 Mae yn addas, ac yn gyfiawn gwneuthur
hynny. Ac yno, wedi'r Offeiriad gyssegru
y Bara a'r Gwîn, y rhoddid ef i'r Cymmunwyr,
y rhai fyddent naill yn sefyll, a'i ynteu a'r
eu dau-lin. Ond ni chlybuwyd erioed etto
fod neb o'r hên Grist'nogion yn eistedd wrth
dderbyn, oblegid i fod ganddynt fwy o barch at
yr Arglwydd Jesu, nag y deuent i goffau ei farwolaeth
yn y fath fodd anweddaidd. Ond Pâb
Rhufain yn wir sydd yn eiftedd wrth dderbyn
y Cymmun, oblegid fod chwith ganddo benlynio,
etto y mae hyn (ym mysc nodau eraill) yn dangos
yn eglur mae Anghrist ydyw.

Rhac i neb wrthddadleu fod ein Hiachawdwr
yn eistedd pan yr ordeiniodd efe ei Swpper
Sanctaidd: Yr wyf yn atteb mae dygn-gamsynniad
ydyw tybied hynny: Canys ein Hiachawdwr a
ddilynodd arfer yr Juddewon yn bwytta'r Pasc,
pa rai a orweddent o'r wlaû; byddai tri a'r bob
gwely, a thri gwely, gan mwyaf, a fyddai o amgylch
pob bwrdd. Ond gan na roddes ein
Harglwydd un Gorchymmyn ynghylch hynny, y
Christ'nogion yn ddiattreg a farnasant, mae'r modd

[td. 249]
gostyngeiddiaf a fyddai'r modd cymmeradwyaf;
Ac y mae Histori yn tystio'n eglur eu bod yn
derbyn y Cymmun yn wastadol yn yr un modd ac
y byddent yn gweddio, ac yn gymmaint a bod
arfer ganddynt i weddio bob Dydd Sul gan
mwyaf o'i sefyll, felly hwy a gymmunasant hefyd
o'i sefyll gan mwyaf y Suliau; Ond pa
bryd bynnag y byddent yn gweddio a'r eu daulin,
hwy a dderbynnient y Cymmun yn wastadol yn
yr un modd. Gwelwn ynteu wall-synwyr ac ynfydrwydd
ddigymmar y dynionach hynny y rhai
a welsant (mywn breuddwyd yn ddiammau,
Canys nid oes mo'r fath beth mywn un Histori)
na chlybuwyd sôn erioed am y fath beth a phenlinio
wrth dderbyn y Cymmun cyn y flwyddyn
1226.


[Nodiadau gan yr awdur]
[Notes by the author]


[Td. 78, ll. 27] ] Rhonwen oedd honno
[Td. 87, ll. 25] * [ Saeson
[Td. 99, ll. 20] *Gwaddol
[Td. 99, ll. 21] ‡Dodrefn ty.
[Td. 99, ll. 22] †Dillad priodas.
[Td. 100, ll. 7] * ffîn.
[Td. 120, ll. 25] Anghwrteis.
[Td. 120, ll. 26] Byclau.
[Td. 120, ll. 28] Bargen.
[Td. 120, ll. 29] Cap.
[Td. 120, ll. 31] Clap.
[Td. 120, ll. 32] Anhappus
[Td. 121, ll. 1] Cost.
[Td. 121, ll. 4] Crefft.
[Td. 121, ll. 5] Crwpper.
[Td. 121, ll. 6] Sadler. Teiler,
[Td. 121, ll. 7] Cwcwallt.
[Td. 121, ll. 9] Cwrs.
[Td. 121, ll. 11] Dart.
[Td. 121, ll. 12] Llewpart.
[Td. 121, ll. 13] Egr.
[Td. 121, ll. 16] Ffael.
[Td. 121, ll. 17] Ffals.
[Td. 121, ll. 19] Ffwl.
[Td. 121, ll. 20] Ffair.
[Td. 121, ll. 21] Grân.
[Td. 121, ll. 22] Ingc.
[Td. 121, ll. 23] Gronyn
[Td. 121, ll. 25] Het.
[Td. 121, ll. 27] Hittia
[Td. 121, ll. 29] Hap.
[Td. 121, ll. 31] Lifrai.
[Td. 121, ll. 33] Malais
[Td. 122, ll. 1] Maer.
[Td. 122, ll. 3] Pert.
[Td. 122, ll. 5] Plâs
[Td. 122, ll. 7] Plwm.
[Td. 122, ll. 9] Sad.
[Td. 122, ll. 11] Siwrnai
[Td. 122, ll. 13] Ystryd
[Td. 122, ll. 14] Siop.
[Td. 122, ll. 15] Tasc.
[Td. 122, ll. 17] Tafarn.
[Td. 122, ll. 19] Plwm.
[Td. 122, ll. 20] Tŵr
[Td. 122, ll. 21] Twrn.
[Td. 241, ll. 4] Rhupunt hîr.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section