Adran o’r blaen
Previous section


Wedi llwyrflino ar y môch abrwysc hyn,
ni aethom yn nês i 'r Porth i spio gwallieu i
ardderchog Lŷs Cariad y Brenhin cibddall,
lle hawdd mynd i mewn, ac anhawdd
mynd allan, ac ynddo aneirif o Stafelloedd.
Yn y Neuadd gyfeiryd a 'r drŵs, yr oedd
Cuwpid bensyfrdan â 'i ddwy saeth ar ei fŵa,
yn ergydio gwenwyn nychlyd a elwir
blys. Hyd y llawr gwelwn lawer o Ferched
glân trwsiadus yn rhodio wrth yscwîr,
ac o 'u lledol drueiniaid o Lancieu
yn tremio ar eu tegwch, ac yn erfyn bob
un am gael gan ei baunes un cil-edrychiad,
gan ofni Cuwch yn waeth nac Angeu;
ymbell un tan blygu at lawr, a roe Lythyr
yn llaw ei Dduwies, un arall Gerdd, a disgwyl
yn ofnus fel 'Scolheigion yn dangos
eu Tâsc i 'w Meistr; a hwytheu a roent ymbell
gip o Wên gynffonnog i gadw eu haddolwyr
mewn awch, ond nid dim ychwaneg,
rhag iddynt dorri eu blŷs, a mynd
yn iâch o 'r Clwy ac ymadel. Mynd ymlaen
i 'r Parlwr, gwelwn ddyscu dawnsio, a
chanu, â llais ac â llaw i yrru eu Cariadeu yn
saith ynfyttach nac oeddynt eusys: Mynd

[td. 26]
i 'r Bwytty, dyscu 'r oeddid yno wersi o gymhendod
mindlws wrth fwytta: Mynd i 'r
Seler, yno cymyscu Diodydd cryfion o
swyn-serch o greifion ewinedd a 'r cyffelyb:
Mynd i fyny i 'r Llofftydd, gwelem un mewn
'stafell ddirgel yn gwneud pob ystumieu
arno 'i hun i ddyscu moes boneddigaidd iw
Gariad; un arall mewn Drŷch yn dyscu
chwerthin yn gymmwys heb ddangos iw
Gariad ormod o 'i ddannedd; un arall yn
taccluso 'i chwedl erbyn mynd atti hi, ac yn
dywedyd yr un wers ganwaith trosti. Blino
ar y ffloreg ddiflas honno, a myned i
gell arall, yno 'r oedd Pendefig wedi cyrchu
Bardd o Strŷd Balchder, i wneud Cerdd
fawl i 'w angyles, a chywydd moliant iddo
'i hun; â 'r Bardd yn dadcan ei gelfyddyd,
mi fedraf, ebr ef, ei chyffelybu hi i bob
côch a gwyn tan yr Haul, a 'i gwâllt hi i gan
peth melynach na 'r aur; ac am eich Cywydd
chwitheu, medraf ddwyn eich Acheu
trwy berfedd llawer o Farchogion, a
Thywysogion, a thrwy 'r dw'r Diluw, a 'r
cwbl yn glîr hyd at Adda. Wel' dyma
Fardd, ebr fi, sy well olrheiniwr na mi:
Tyrd, tyrd, eb yr Angel, mae rhain ar fedr
twyllo 'r fenyw, ond pan elont atti, bid
siccr y cânt atteb cast am gast. Wrth ymadel
 â rhain, gwelsom gip ar gelloedd lle 'r
oeddid yn gwneud castieu bryntach nac y
gâd gwylder eu henwi, a wnaeth i 'm Cydymaith

[td. 27]
fy nghippio i 'n ddigllon o 'r Llŷs
penchwiban yma, i Drysordy 'r Dwysoges
(oblegid ni aem lle chwenychem er na
doreu na chloieu.) Yno gwelem fyrdd o
Ferched glân, pôb diodydd, ffrwythydd,
dainteithion, pob rhyw offer a llyfreu cerdd
dafod a thant, telyneu, pibeu, cywyddeu,
caroleu, &c. pôb mâth o chwareuon tawlbwrdd
ffristial, disieu, cardieu, &c. pôb
llunieu gwledydd, a threfi, a dynion, a
dyfeisieu, a chastieu digrif: pôb dyfroedd,
pêr-arogleu, a lliwieu, a smottieu i wneud
yr wrthun yn lân, a 'r hên i edrych yn
ieuanc, ac i sawyr y buttain a 'i hescyrn
pwdr fod yn beraidd tros y tro. Ar fyrr,
yr oedd yno bôb mâth o gysgodion pleser, a
rhîth hyfrydwch: ac o ddywedyd y gwir,
ni choelia 'i na walliasei 'r fan yma finneu,
oni basei i 'm Cyfeill yn ddiymannerch, fy
nghipio i ymhell oddiwrth y tri Thŵr hudol
i ben ucha 'r Strydoedd, am descyn i
wrth gastell o Lys anferthol o faint, a thirion
iawn yr olwg cynta, ond gwael a gwrthun
arswydus o 'r tu pella, etto ni welid
ond yn anhawdd iawn mor tu gwrthun; a
myrdd o ddryseu oedd arno a 'r holl ddoreu
'n wŷch y tu allan, ond yn bwdr y tu
mewn. Attolwg, f' Arglwydd, ebr fi, os
rhyngai 'ch bodd p'le yw 'r fan ryfeddol
hon? Hwn, ebr ef, yw Llŷs ail Ferch Belial,
a elwir Rhagrith: Yma mae hi 'n cadw

[td. 28]
ei Hyscol, ac nid oes na Mâb na Merch o
fewn yr holl Ddinas, na fu 'n 'Scolheigion
iddi hi, a rhan fwya 'n yfed eu Dysc yn odiaeth,
fel y gwelir ei gwersi hi wedi mynd
yn ail natur yn gyfrodedd trwy eu holl feddylieu,
geirieu a gweithredoedd agos er
ein blant. Wedi i mi spio ennyd ar ffalsder
pob cwrr o 'r Adeilad, dyma Ganhebrwng yn
mynd heibio, a myrdd o wylo ac ochain, a
llawer o ddynion a cheffyleu wedi eu hulio
mewn galarwiscoedd duon; ymhen ennyd,
dyma 'r druan Weddw, wedi ei mwgydu
rhag edrych mwy ar y byd brwnt
yma, yn dyfod tan leisio 'n wann, ac och'neidio
'n llêsc rhwng llesmeirieu: Yn wîr, ni
fedrais inneu nad wylais beth o dosturi:
Iè, iè, eb yr Angel, cedwch eich dagreu at
rywbeth rheitiach: Nid yw 'r lleisieu hyn
ond dŷsc Rhagrith, ac yn ei Hyscol fawr
hi, y lluniwyd y gwiscoedd duon yna.
Nid oes un o rhain yn wylo o ddifri: Mae 'r
Widw, cyn mynd corph hwn o 'i thŷ, wedi
gollwng Gwr arall eusys at ei chalon; pe
cai hi ymadel â 'r gôst sy wrth y corph, ni
waeth ganddi o frwynen pettei ei enaid ef
yn ngwaelod Uffern, na 'i geraint ef mwy
na hitheu; oblegid pan oedd gletta arno,
yn lle ei gynghori 'n ofalus, a gweddio 'n
daerddwys am drugaredd iddo, sôn yr oeddid
am ei Betheu, ac am ei Lythyr-cymmun,
neu am ei Acheu, neu laned, gryfed Gŵr

[td. 29]
ydoedd ef, a 'r cyffelyb: Ac felly rwan nid
yw 'r wylo yma, ond rhai o ran defod ac
arfer, eraill o gwmnhi, eraill am eu cyflog.
Prin yr aethei rhai'n heibio, dyma Dyrfa arall
yn dyfod i 'r golwg, rhyw Arglwydd
gwŷch aruthr, a 'i Arglwyddes wrth ei glun,
yn mynd yn araf mewn stât, a llawer o
Wyr cyfrifol yn eu gapio a myrdd hefyd
ar eu traed yn dangos iddo bôb ufudd-dod
a pharch; ac wrth y Ffafreu, deellais mai
Priodas ydoedd. Dyma Arglwydd ardderchog,
ebr fi, sy 'n haeddu cymmaint parch
gan y rhai'n oll. Ped ystyrid y cwbl, ti a
ddywedit rywbeth arall, eb ef: Un o Stryd
Pleser yw 'r Arglwydd yma, a Merch yw
hitheu o Strŷd Balchder; a 'r henddyn accw
sy 'n siarad âg ef, un ydyw o Stryd yr Elw,
sy ganddo arian ar hôll dîr yr Arglwydd agos,
a heddyw 'n dyfod i orphen taledigaeth:
ni aethom i glywed yr ymddiddan.
Yn wîr, Syr, meddei 'r Codog, ni fynnaswn
i er a feddai, fod arnoch eisieu dim a 'r
a allwn i at ymddangos heddyw 'n debyg
i chwi 'ch hunan, ac yn siccr gan ddarfod
i chwi daro wrth Arglwyddes mor hawddgar
odidog a hon; (a 'r Cottyn hên-graff
yn gwybod o 'r goreu beth oedd hi.) Myn,
myn, myn, eb yr Arglwydd, nesa pleser at
edrych ar degwch hon, oedd wrando 'ch
mwynion resymmeu chwi; gwell genni
dalu i chwi lôg, na chael arian yn rhâd gan

[td. 30]
neb arall. Yn ddiau, f' Arglwydd, ebr un
o 'r pen-cymdeithion a elwid Gwenieithiwr,
nid yw f' ewythr yn dangos dim ond a
haeddechi o barch, ond trwy 'ch cennad,
ni roes ef hanner a haeddei f' Arglwyddes
o glôd. Ni cheisiai, ebr ef, ond gwaetha
ungwr ddangos ei glanach hi 'n hôll Stryd
Balchder, na 'ch gwychach chwithe 'n hôll
Stryd Pleser, na 'ch mwynach witheu
f' ewythr yn Stryd yr Elw. O 'ch tŷb
dda chwi, eb yr Arglwydd, yw hynny,
ond ni choeliai fynd o ddau ynghŷd erioed
trwy fwy o gariad na ninneu. Fel yr
oeddynt yn mynd ymlaen, yr oedd y dyrfa
'n cynnyddu, a phawb yn deg ei wên,
ac yn llaes ei foes i 'r llall, ac yn rhedeg i
ymgyfwrdd a 'u trwyneu gan lawr, fel
dau Geiliog a fyddei 'n mynd i daro.
Gwybydd weithian, eb yr Angel, na welaisti
etto foes, ac na chlywaist yma air, ond
o wersi Rhagrith. Nid oes yma un wedi 'r
holl fwynder, a chanddo ffyrlingwerth o
gariad i 'r llall, iè, gelynion yw llawer o
honynt i 'w gilydd. Nid yw 'r Arglwydd
yma, ond megis cyffclêr rhyngthynt, a
phawb a 'i grab arno. Mae 'r Feinir a 'i
bryd ar ei fawredd a 'i fonedd ef, modd y
caffo hi 'r blaen ar lawer o 'i chymdogesau.
Y Cott sy a 'i olwg ar ei Dîr ef i 'w Fab ei
hun, y lleill i gyd ar Arian ei gynnyscaeth
ef, oblegid ei ddeiliaid ef ydynt oll, sef ei

[td. 31]
Farsiandwyr, ei Daelwriaid, ei Gryddion,
a 'i Grefftwyr eraill ef, au huliodd ac a 'i
maentumiodd e 'n yr holl wychder mawr
hwn, ac heb gael ffyrling etto, nac yn debyg
i gael, ond geirieu têg, ac weithieu fygythion
ondodid. Bellach, pa sawl tô, pa
sawl plŷg a roes Rhagrith yma ar wyneb y
Gwirionedd! Hwn yn addo mawredd iw
Gariad, ac ynteu ar werthu ei Dir; hithe 'n
addo cynnyscaeth a glendid heb feddu, ond
glendid gosod, a 'r hên gancr yn ei Chynnyscaeth
ai Chorph hefyd. Wel'dyma arwydd,
ebr fi, na ddylid fyth farnu wrth y
golwg. Iè, tyrd ymlaen, ebr ef, a dangosaf
i ti beth ychwaneg; ar y air f' a 'm
trosglwyddodd i fynu, lle 'r oedd Eglwysi 'r
Ddinas ddihenydd, canys yr oedd rhîth o
Grefydd gan bawb ynddi hyd yn oed y digrêd.
Ac i Deml yr anghred yr aethom
gynta, gwelwn yno rai yn addoli llun Dyn,
eraill yr Haul, eraill y Lleuad, felly aneirif
o 'r fath Dduwieu eraill, hyd at y Winwyn
a 'r Garlleg; a Duwies fawr a elwid Twyll, yn
cael addoliant cyffredinol; er hynny gwelit
beth ôl y Grefydd Grystianogol ymŷsc y
rhann fwya o 'r rhain. Oddi yno ni aethom
i gynulleidfa o rai Mudion, lle nid
oedd ond ochneidio, a chrynu, a churo 'r
ddwyfron. Dyma, eb er Angel, rith o
edifeirwch gostyngeiddrwydd mawr,
ond nid oes yma ond 'piniwn, a chyndynrhwydd,

[td. 32]
a balchder, a thywyllwch dudew;
er maint y soniant am eu Goleuni oddimewn,
nid oes ganddynt gymaint a Spectol natur pe
sy gan y digrêd y welaist gynneu. Oddiwrth
y cŵn mudion digwyddodd i ni droi
i Eglwys fawr benegored, a myrdd o escidieu
yn y porth, wrth y rhain deellais mai
teml y Tyrciaid ydoedd; nid oedd gan y
rhain ond Spectol dywyll a chymysclyd
iawn a elwid Alcoran; etto trwy hon 'r
oeddynt fyth yn spio 'mhen yr Eglwys am
eu Prophwyd a addawsei ar ei air celwydd,
ddychwel i ymweled â hwynt er's talm,
ac etto heb gywiro. Oddiyno 'r aethom i
Eglwys yr Iddewon, 'r oedd y rhain hwythe
'n methu cael y ffordd i ddianc o 'r
Ddinas ddihenydd, er bod Spectol lwydoleu
ganddynt, am fôd rhyw huchen wrth
spio 'n dyfod tros eu llygaid eisieu i hiro a 'r
gwerthfawr ennaint, ffydd. Yn nesa 'r
aethom at y Papistiaid; dyma, eb yr Angel,
yr Eglwys sy 'n twyllo 'r Cenhedloedd! Rhagrith
a adeiladodd yr Eglwys yma ar ei
chôst ei hun. Canys mae 'r Papistiaid yn
cynnws, ie 'n gorchymyn na chadwer llw
â Heretic, er darfod ei gymmeryd ar y
Cymmun: O 'r Ganghell ni aethom trwy
dylleu cloieu i ben rhyw gell neilltuol,
llawn o ganhwylleu ganol dydd goleu, lle
gwelem Offeiriad wedi eillio 'i goryn yn
rhodio, ac megis yn disgwil rhai atto; yn

[td. 33]
y man, dyma globen o Wraig a Llances
lân o 'i hôl, yn mynd ar ei glinieu o 'i flaen
ef, i gyfadde 'i phechodeu: Fy nhâd ysprydol
ebr y Wreigdda, mae arna 'i faich rhydrwm
ei oddef, oni châf eich trugaredd iw
yscafnhau; mi briodais un o Eglwys Loegr;
ac, pa beth, ebr y Corynfoel, priodi Heretic!
priodi Gelyn! nid oes fyth faddeuant
i 'w gael; ar y gair hwnnw hi a lesmeiriodd,
ac ynte 'n bugunad melltithion arni,
och a phe sy waeth, ebr hi, pan ddadebrodd,
mi a 'i lleddais ef! O, ho! a leddaisti
ef, wel'dyma rywbeth at cael cymmod
yr Eglwys, 'r wyfi 'n dywedyd itti,
oni bai ladd o honot ef, ni chawsit fyth
ollyngdod, na phurdan, ond mynd yn union
i Ddiawl wrth blwm. Ond p'le mae
'ch Offrwm chwi 'r Faeden, ebr ef, tan
'scyrnygu? Dyma, ebr hi, ac estynnodd
gryn-god o arian; wel, 'ebr ynte, 'bellach
mi wnâ 'ch cymmod, eich Penyd yw bôd
bŷth yn weddw, rhag i chwi wneud drwg-
Fargen arall. Pen aeth hi ymaith, dyma 'r
Forwyn yn dyfod ymlaen i draethu ei chyffes
hitheu: Eich pardwn y Nhâd-cyffeswr
ebr hi, mi a feichiogais, ac a leddais fy
Mhlentyn. Têg iawn yn wîr, ebr y Cyffeswr,
a phwy oedd y Tâd? Yn wîr, un
o 'ch Monachod chwi, ebr hi, ist, ist, eb ef,
dim anair i Wyr yr Eglwys: Ple mae 'r
iawn i 'r Eglwys sy gennych? Dyma, ebr

[td. 34]
hitheu, ac a estynnodd iddo euryn. Rhaid
i chwi edifarhau, a 'ch Penyd yw gwilied
wrth fy ngwelu i heno, ebr ef, tan gîlwenu
arni hi. Yn hyn, dyma bedwar o
rai moelion eraill yn llusco dynan at y cyffeswr,
ac ynte 'n dyfod mor 'wllyscar ac
at grogpren. Dyma i chwi geneu, ebr un
o 'r pedwar, i ddwyn ei benyd am ddadcuddio
dirgelion yr Eglwys Gatholic. Pa
beth, ebr y Cyffeswr, tan edrych ar ryw
siêl ddu oedd yno gerllaw? Ond cyffesa
filein beth a ddywedaisti? Yn wîr, eb y
truan, cymydog a ofynnodd i mi, a welswn
i 'r Eneidieu 'n griddfan tan yr Allor
Ddygwyl y Meirw, minneu ddywedais, glywed
y llais, ond na welswn i ddim. Aiè,
Syre, dywedwch y cwbl, ebr un o 'r lleill.
Ond mi attebais, ebr ef, glywed o hono 'i
mai gwneud castieu 'r ŷ chwi, â ni 'r anllythrennog,
nad oes yn lle Eneidieu ond
Crancod y Môr yn 'scyrlwgach tan y carbed.
O Fâb y Fall, o Wyneb y Felltith!
ebr y Cyffeswr, ond ewch ymlaen Fastiff;
ac mai weir oedd yn troi delw St. Pedr, ac
mai wrth weir yr oedd yr Yspryd Glân
yn descyn o lofft y grôg ar yr Offeiriad.
O etifedd Uffernol! eb y Cyffeswr, hai, hai,
cymrwch ef Boenwyr, a theflwch ef i 'r Simnei
fyglyd yna, am ddywedyd chwedleu.
Weldyma i ti 'r Eglwys a fyn Rhagrith ei
galw 'n Eglwys Gatholic, ac mai rhain yw 'r

[td. 35]
unic rai cadwedig, eb yr Angel: Bu gan y
rhain yr iawn Spectol, eithr torrasant hyd y
gwydr fyrdd o lunieu; a bu ganddynt wir
ffydd, ond hwy a gymyscasant yr ennaint
hwnnw a 'u defnyddieu newyddion eu hunain,
fel na welant mwy na 'r anghred.
Oddiyno ni aethom i 'Scubor, lle 'r oedd
un yn dynwared Pregethu ar ei dafod leferydd,
weithieu 'r un peth deirgwaith
olynol. Wel, 'eb yr Angel, mae gan y
rhain yr iawn Spectol i weled y petheu a
berthyn i 'w heddwch, ond bod yn fyrr yn
eu hennaint un o 'r defnyddieu anghenrheitia,
a elwir cariad perffaith. Mae amryw
achosion yn gyrru rhai yma; rhai o ran
parch i 'w hynafiaid, rhai o anwybodaeth, a
llawer er manteisieu bydol. Gwnaent iti
dybio 'u bôd yn tagu ar wyneb, ond hwy
a fedrant lyncu Llyffaint rhag angen: Ac
felly mae 'r Dwysoges Rhagrith yn dyscu
rhai mewn Scuboriau. Ertolwg, ebr fi,
p'le weithian y mae Eglwys Loegr? O, ebr ynteu,
mae honno yn y Ddinas ucha 'frŷ yn
rhann fawr o 'r Eglwys Gatholic. Ond, ebr
ef, mae 'n y Ddinas yma rai Eglwysi Prawf,
yn perthyn i Eglwys Loegr, lle mae 'r Cymru
a 'r Saeson tan brawf tros dro, i 'w cymmwyso
at gael eu henweu 'n Llyfr yr Eglwys Gatholic,
a 'r sawl a 'i caffo, gwyn ei fyd fyth!
Eithr nid oes sywaeth ond ychydig yn
ymgymmwyso i gael braint yn honno.

[td. 36]
O blegid yn lle edrych tuac yno, mae gormod
yn ymddallu wrth y tair Twysoges
obry, ac mae Rhagrith yn cadw llawer, ac
un llygad ar y Ddinas ucha, a 'r llall a'r yr
isa; iè, mae Rhagrith cyn lewed a thwyllo
llawer o 'u ffordd, wedi iddynt orfod y
tair Hudoles eraill. Tyrd i mewn yma,
cei weled ychwaneg, ebr ef, ac a'm cipiodd
i lofft y grôg, un o Eglwysi Cymru,
a 'r bobl ar ganol y Gwasanaeth, yno gwelem
rai 'n sisial siarad, rhai 'n chwerthin
rhai 'n tremio ar Ferched glân, eraill yn
darllen gwisciad eu Cymydog o 'r coryn i 'r
sowdl, rhai 'n ymwthio ac yn ymddanheddu
am eu braint, rhai 'n heppian, eraill
yn ddyfal ar eu dyfosiwn, a llawer o rheini
hefyd yn rhagrithio. Ni welaisti etto,
eb yr Angel, na ddo 'mysc yr anghred,
ddigywilydd-dra mor oleu-gyhoedd a
hwn; ond felly mae sywaeth llygriad y
peth goreu yw 'r llygriad gwaetha' oll
. Yna
hwy a aethant i 'r Cymmun, a phob un yn
ymddangos yn syrn barchus i 'r Allor. Er
hynny (trwy ddrŷch fy nghyfeill) gwelwn
ymbell un gyda 'r bara yn derbyn iw
fol megis llun Mastiff, un arall Dwrchdaiar,
un arall megis Eryr, un arall Fochyn, un arall
megis Sarph hedegog; ac ychydig, o mor ychydig
yn derbyn pelydryn o oleuni disclair
gyda 'r bara a 'r gwin. Dyna, ebr ef,
Rowndiad sy 'n mynd yn Siri ac o ran,

[td. 37]
bod y Gyfraith yn gofyn cymmuno 'n yr
Eglwys cyn cael Swydd, ynte' ddaeth yma
rhag ei cholli: ac er bod yma rai 'n llawenu
ei weled ef, ni bu etto yn ein plith ni ddim
llawenydd o 'i droedigaeth ef; wrth hynny
ni throes ef sywaeth ond tros y tro: ac felly
ti weli fôd Rhagrith yn dra hŷ ddyfod at yr
Allor o flaen IMMANUEL ddisiommedig.
Ond er maint yw hi yn y Ddinas ddihenydd,
ni all hithe ddim yn Ninas IMMANUEL
tu ucha 'r Gaer accw. Ar y gair,
ni a droesom ein hwynebeu oddiwrth y
Ddinas fawr ddihenydd, ac aethom ar i
fynu, tu a 'r Ddinas fach arall; wrth fyned
gwelem ymhen ucha 'r Strydoedd lawer
wedi lled-troi oddiwrth hudoliaeth y Pyrth
dihenydd
, ac yn ymorol am Borth y bywyd,
ond naill ai methent ei gael, ai blinent ar
y ffordd, nid oedd fawr iawn yn mynd
trwodd, oddieithr un dyn wynebdrist oedd
yn rhedeg oddifri a myrdd o 'i ddeutu 'n ei
ffoli, rhai 'n ei watwar, rhai 'n ei fygwth,
a 'i geraint yn ei ddàl ac yn ei greu i beidio
ai daflu ei hun i golli 'r holl fŷd ar unwaith.
Nid wyfi, ebr ynte 'n colli ond
rhan fechan o hono, a phe collwn i 'r cwbl;
Ertolwg pa'r golled yw? O blegid be' sy
yn y Byd mor ddymunol, oni ddymunei
ddyn dwyll a thrais, a thrueni, a drygioni,
a phendro, a gwallco? Bodlonrhwydd a
Llonyddwch, ebr ef, yw happusrwydd dyn,

[td. 38]
ond nid oes yn eich Dinas chwi ddim o 'r
fâth betheu i 'w cael. Oblegid pwy sy
yma 'n fodlon i 'w stât? uwch, uwch y cais
pawb o Stryd Balchder; moes, moes ychwaneg,
medd pawb yn Stryd yr Elw;
melus, moes etto yw llais pawb yn Stryd
Pleser. Ac am Lonyddwch, p'le mae? a
phwy sy 'n ei gael? Os Gŵr mawr, dyna
weniaith a chynfigen ar ei ladd; os tlawd,
hwdiwch bawb i 'w sathru a 'i ddiystyru.
Os mynni godi, dyro dy fryd ar fynd yn
Ddyfeisiwr, os mynni barch bydd Ffrostiwr
neu Rodreswr. Os byddi Duwiol
yn cyrchu i 'r Eglwys a 'r Allor, gelwir di
'n Rhagrithiwr, os peidi, dyna di 'n Anghrist
ne' 'n Heretic: Os llawen fyddi,
gelwir di 'n wawdiwr: os distaw, gelwir
di 'n gostog gwenwynllyd; os dilyni onestrwydd,
nid wyti ond ffŵl di-ddeunydd;
os trwsiadus, balch; os nadè, mochyn; os
llyfn dy leferydd, dyna di 'n ffals, neu ddihiryn
anhawdd dy ddirnad; os garw, cythrel
trahaus anghydfod. Dyma 'r BYD
yr ŷch i 'n ei fawrhau, ebr ef, ac ertolwg
cymrwch i chwi fy rhann i o hono, ac ar
y gair fe a ymescydwodd oddiwrthynt oll
ac ymaith âg e 'n ddihafarch at y Porth cyfyng,
ac heb waetha i 'r cwbl tan ymwthio
f' aeth drwodd a ninne' o 'i ledol; a llawer
o Wŷr duon ar y caereu o ddeutu 'r Porth
yn gwadd y Dyn ac yn ei ganmol. Pwy,

[td. 39]
ebr fi, yw 'r duon frŷ? Gwiliwyr y Brenin
IMMANUEL, ebr ynte, sy 'n enw eu Meistr
yn gwadd ac yn helpu rhai trwy 'r Porth
yma. Erbyn hyn 'roeddym ni wrth y
Porth; isel a chyfyng iawn oedd hwn, a
gwael wrth y Pyrth isa; O ddeutu 'r drws
'roedd y Deg Gorchymyn, y Llêch gynta o 'r
tu deheu; ac uwch ei phen, Ceri DdUW
a 'th holl Galon
, &c. ac uwch ben, yr ail
Lêch; o 'r tu arall, Câr dy Gymydog fel ti dy
hun
; ac uwch ben y cwbl, Na cherwch y
Byd, na 'r petheu sy 'n y byd
, &c. Ni edrychaswn
i fawr nad dyma 'r Gwilwyr yn
dechreu gwaeddi ar y Dynion dihenydd,
ffowch, ffowch am eich einioes! ond ychydig
a droe unwaith attynt, etto rhai a ofynnent,
ffoi rhag pa beth? Rhag Twysog
y byd hwn, sy 'n llywodraethu ymhlant
yr anufudd-dod meddei 'r gwiliwr; rhag
y llygredigaeth sy 'n y byd trwy chwant
y cnawd, chwant y llygad a balchder y
bywyd; rhag y digofaint sy ar ddyfod arnoch.
Beth, ebr gwiliwr arall yw 'ch anwyl
Ddinas chwi ond Taflod fawr o boethfel
uwch ben Uffern, a phettei chwi yma,
caech weled y tân tu draw i 'ch caereu ar
ymgymeryd i 'ch llosci hyd Annwfn: Rhai
a 'u gwatwarei, rhai a fygythiei oni thawent
ai lòl anfoesol, etto ymbell un a ofynnei i
ba le y ffown? Yma, meddei 'r Gwilwyr,
ffowch yma at eich union Frenin sy etto

[td. 40]
trwom ni 'n cynnyg i chwi gymmod, os
trowch i 'ch ufudd-dod oddiwrth y Gwrthryfelwr
 Belial a 'i hudol-ferched. Er gwyched
yr olwg arnynt nid yw ond ffûg, nid
yw Belial ond Tywysog tlawd iawn gartre,
nid oes ganddo yno ond chwi 'n gynnud ar
y tân, a chwi 'n rhôst ac yn ferw i 'ch cnoi,
ac byth nid ewch i 'n ddigon, byth ni ddaw
torr ar ei newyn ef na 'ch poen chwitheu. A
phwy a wasanaethei 'r fâth Gigydd maleisddrwg
mewn gwallco ennyd, ac mewn
dirboeneu byth wedi, ac a allei gael byd
dâ tan Frenin tosturiol a charedig i 'w ddeiliaid,
heb wneud iddynt erioed ond y
Daioni bwygilydd, a 'u cadw rhag Belial i
roi teyrnas i bob un o 'r diwedd yn ngwlâd
y Goleuni! Oh, ynfydion! a gymerwch
i 'r Gelyn echryslawn yna sy â 'i gêg yn llosci
o syched am eich gwaed, yn lle 'r Twysog
trugarog a roes ei waed ei hun i 'ch achub?
Etto ni wyddit fod y rhesymmeu hyn a
feddalhae graig, yn llesio fawr iddynt hwy,
a 'r achos fwya oedd, nad oedd fawr yn cael
hamdden i 'w gwrando, gan edrych ar y
Pyrth, ac o 'r gwrandawyr nid oedd fawr
yn ystyried, ac o 'r rheini nid oedd fawr yn
eu cofio chwaith hir, rhai ni choelient mai
Belial yr oeddynt yn ei wasanaethu, eraill
ni fynnent mai 'r twll bach di-sathr hwnnw
oedd Borth y Bywyd, ac ni choelient mai
hudoliaeth oedd y Pyrth disclair eraill a 'r

[td. 41]
Castell i rwystro iddynt weled eu Destryw
nes mynd iddo. Yn hyn dyma drwp o
bobl o Stryd Balchder yn ddigon hŷ 'n curo
wrth y Porth, ond yr oeddynt oll mor
warsyth nad aent byth i le mor isel heb
ddiwyno 'u perwigeu a 'u cyrn, felly hwy
a rodiasant yn eu hol yn o surllyd. Ynghynffon
y rhai'n daeth attom ni fagad o
Strŷd Elw; ac, ebr un, ai dyma Borth y
bywyd? iè, ebr y Gwiliwr oedd uwch
ben. Be' sy i 'w wneud, ebr ef, at ddyfod
trwodd? darllenwch o ddeutu 'r drws,
cewch wybod; darllennodd y Cybydd y
Dêg-Gorchymmyn i gyd trostynt; pwy,
ebr ef, a ddyweid dorri o honofi un o 'r
rhain? ond pan edrychodd e 'n uwch a
gweled, Na cherwch y Byd, na 'r petheu sy 'n
y Byd
, fe synnodd, ac ni fedrei lyncu mo 'r
Gair caled hwnnw; 'r oedd yno un piglas
cenfigennus a droes yn ôl wrth ddarllen,
Câr dy Gymydog fel ti dy hun, yr oedd yno
Gwestiwr ac Athrodwr a chwidr-droisant
wrth ddarllen, Na ddwg gam Dystioliaeth; pan
ddarllenwyd, Na Lâdd, nid yma i ni, eb y
Physygwyr. I fod yn fyrr, gwelei bawb
rywbeth yn ei flino, ac felly cyd-ddychwelasant
oll i 'studio 'r pwynt, ni welais i 'r
un etto yn dyfod wedi dyscu ei wers, ond
yr oedd ganddynt gymaint o Godeu a Scrif'nadeu
'n dynn o 'u cwmpas nad aethent
fyth trwy grau mor gyfyng pe ceisiasent.

[td. 42]
Yn y fan, dyma yrr o Stryd Pleser yn rhodio
tu a 'r Porth. Yn rhodd, ebr un wrth
y gwilwyr, i ba le mae 'r ffordd yma 'n
mynd? Dyma, ebr gwiliwr, y ffordd sy 'n
arwain i lawenydd a hyfrydwch tragywyddol,
ar hyn ymegniodd pawb i ddyfod
trwodd, ond methasant; canys yr oedd
rhai 'n rhŷ foliog i le mor gyfyng, eraill
yn rhy egwan i ymwthio wedi i Ferched
ei dihoeni, a rheini 'n eu hattal gerfydd eu
gwendid afiach. O, ebr gwiliwr oedd yn
edrych arnynt, ni wiw i chwi gynnyg
mynd trwodd â 'ch teganeu gyda chwi,
rhaid i chwi adel eich Pottieu, a 'ch Dyscleu,
a 'ch Putteinied, a 'ch hôll Gêr eraill o 'ch ol,
ac yna bryssiwch. Ebr Ffidler, a fasei
trwodd er's ennyd, oni bai rhagofn torri 'r
Ffidil, pa fodd y byddwn ni byw? O, ebr
y gwiliwr, rhaid i chwi gymmeryd gair y
Brenin am yrru ar eich ol gynnifer o 'r petheu
yna a 'r a fo da er eich llês. Rhoes
hynny 'r cwbl i ymwrando, Hai, hai, ebr
un, gwell aderyn mewn llaw na dau mewn
llwyn
, ac ar hynny troesant oll yn unfryd
y eu hôl. Tyrd trwodd weithian, eb yr
Angel, ac a 'm tynnodd i mewn lle gwelwn
yn y Porth yn gynta Fedyddfaen mawr,
ac yn ei ymyl, Ffynnon o ddw'r hâllt; beth
a wnâ hon ar lygad y ffordd, ebr fi? Am
fod yn rhaid i bawb ymolchi ynddi cyn
cael braint yn Llŷs IMMANUEL, hi a

[td. 43]
elwir Ffynnon Edifeirwch; uwch ben gwelwn
yn scrifennedig, Dyma Borth yr Arglwydd,
 &c. Yr oedd y Porth a 'r Stryd hefyd
yn lledu ac yn yscafnhau fel yr elid
ymlaen; pan aethom ronyn uwch i 'r Strŷd,
clywn lais ara 'n dywedyd om hôl, Dyna 'r
Ffordd, rhodia ynddi
. Yr oedd y Stryd ar
orufynu, etto 'n bur lân ac union, ac er
nad oedd y tai ond îs yma nac yn y Ddinas
ddihenydd, etto 'r oeddynt yn dirionach, os
oes yma lai o feddianneu mae 'ma hefyd lai o
ymryson a gofalon; os oes llai o seigieu, mae
llai o ddolurieu; os oes llai o drŵst, mae
hefyd lai o dristwch, a mwy 'n siccr o wir
lawenydd. Bu ryfedd genni 'r Distawrwydd
a 'r Tawelwch hawddgar oedd yma wrth i wared.
Yn lle 'r tyngu a 'r rhegu, a 'r gwawdio,
a phutteinio, a meddwi; yn lle balchder ac
oferedd, y syrthni 'n y naill cwrr, a thrawsni
'n y cwrr arall; iè, 'n lle 'r holl ffrio
ffair, a 'r ffrôst, a 'r ffrwst, a 'r ffrwgwd oedd
yno 'n pendifadu dynion yn ddibaid, ac
yn lle 'r aneirif ddrygeu gwastadol oedd
isod; Ni weliti yma ond sobrwydd mwynder
a sirioldeb, heddwch a diolchgarwch;
Tosturi, diniweidrwydd a bodlonrhwydd
yn eglur yn wyneb pôb Dyn; oddieithr
ymbell un a wylei 'n ddistaw o frynti fod
cŷd yn Ninas y Gelyn. Nid oedd yma
na châs, na llid, ond i bechod, ac yn siccr o
orchfygu hwnnw, dim ofn ond rhag digio

[td. 44]
'u Brenin, a hwnnw 'n barottach i gymmodi
nac i ddigio wrth ei ddeiliaid, na dim
sŵn ond Psalmau mawl i 'w ceidwad. Erbyn
hyn ni aethem i olwg Adeilad deg tros
ben, o mor ogoneddus ydoedd! ni fedd neb
yn y Ddinas ddihenydd na 'r Twrc, na 'r Mogul,
na 'r un o 'r lleill ddim elfydd i hon.
Wel' dyma 'r Eglwys Gatholic, eb yr Angel.
Ai yma mae IMMANUEL yn cadw 'i Lys,
ebr fi? Iè, ebr ef, dyma 'i unig Frenhinllys
daiarol ef. Oes yma nemor tano ef o benneu
coronog, ebr fi? ychydig, eb ynte;
mae dy Frenhines di a rhai Twysogion
Llychlyn a 'r Ellmyn, ac ychydig o fân Dwysogion
eraill. Beth yw hynny, ebr finneu,
wrth sy dan Belial fawr, wele Ymerodron
a Brenhinoedd heb rifedi? Er hynny i gyd
eb yr Angel, ni all un o honynt oll symmud
bŷs llaw heb gynnwysiad IMMANUEL;
na Belial ei hunan chwaith. Oblegid
 IMMANUEL yw ei union Frenin
ynte, ond darfod iddo wrthryfela, a chael
ei gadwyno am hynny 'n Garcharor tragwyddol;
eithr mae e 'n cael cennad etto tros
ennyd fâch i ymweled â 'r Ddinas ddihenyd,
ac yn tynnu pawb a 'r a allo i 'r un
Gwrthryfel ac i gael rhan o 'r gôsp; er ygŵyr
ef na wnâ hynny ond chwanegu ei
gôsp ei hun, etto ni âd malis a chynfigen
iddo beidio pan gaffo ystlys cennad; A
chan ddaed ganddo ddrygioni, fe gais ddifa

[td. 45]
'r ddinas a 'r Adeilad hon, er y gŵyr e 'n
hên iawn, fod ei Cheidwad hi 'n anorchfygol.
Ertolwg, ebr fi, f' Arglwydd a gawn
i nesau i gael manylach golwg ar y Brenhinlle
godidog hwn? canys cynnesasei
nghalon i wrth y lle (er y golwg cynta,)
Cei 'n hawdd, eb yr Angel, oblegid yna
mae fy lle a 'm siars a 'm gorchwyl inneu.
Pa nesa yr awn atti mwyfwy y rhyfeddwn
uched, gryfed a hardded, laned a hawddgared
oedd pob rhan o honi, gywreinied y
gwaith a chariadused y defnyddieu, Craig
ddirfawr, o waith a chadernid anrhaethawl
oedd y Sylfaen, a Meini bywiol ar
hynny wedi eu gosod a 'u cyssylltu mewn
trefn mor odidog nad oedd bossibl i un
maen fod cyn hardded mewn unlle arall ac
ydoedd e 'n ei le ei hun. Gwelwn un rhan
o 'r Eglwys yn tâflu allan yn Groes glandeg a
hynod iawn, a chanfu 'r Angel fi 'n spio
arno, a adwaenosti y Rhan yna, ebr ef? ni
wyddwn i beth i atteb. Dyna Eglwys Loegr,
ebr ef, mi gyffrois beth, ac wedi edrych i
fynu, mi welwn y Frenhines Ann ar ben yr
Eglwys, a Chleddy 'mhôb llaw, un yn yr
asswy a elwid Cyfiawnder i gadw ei deiliaid
rhag Dynion y Ddinas ddihenydd, a 'r llall yn
ei llaw ddeheu i 'w cadw rhag Belial a 'i
Ddrygau Ysprydol, hwn a elwid Cleddy 'r
Yspryd
, neu Air Duw, o tan y Cleddyf
asswy 'r oedd Llyfr Statut Loegr, tan y llall 'r

[td. 46]
oedd Beibl mawr. Cleddy 'r Yspryd oedd
danllyd ac anferthol o hŷd, fe laddei
'mhellach nac y cyffyrddei 'r llall. Gwelwn
y Twysogion eraill â 'r un rhyw arfeu
'n amddeffyn ei rhan hwytheu o 'r Eglwys:
Eithr tecca gwelwn i Rann fy Mrenhines
fy hun a gloewa 'i harfeu. Wrth ei deheulaw
hi, gwelwn fyrdd o rai duon, Archescobion,
Escobion a Dyscawdwyr yn cynnal
gydâ hi yn Nghleddy 'r Yspryd: A rhai
Sawdwyr, a Swyddogion ond ychydig o 'r
Cyfreithwyr oedd yn cyd-gynnal yn y
Cleddyf arall. Cês gennad i orphwyso peth
wrth un o 'r dryseu gogoneddus, lle 'r oedd
rhai 'n dyfod i gael braint yn yr Eglwys Gyffredin,
ac Angel tàl yn cadw 'r drws a 'r
Eglwys oddi mewn mor oleu dambaid, nad
oedd wiw i Ragrith ddangos yno mo 'i
hwyneb, etto hi ymddangosei weithiau
wrth y drŵs er nad aeth hi 'rioed i mewn.
Fel y gwelais i o fewn chwarter awr, dyma
Bapist oedd yn tybio mai 'r Pâp a pioedd yr
Eglwys Gatholig, yn cleimio fod iddo ynte
fraint. Be sy gennych i brofi 'ch braint,
ebr y Porthor? Mae genni ddigon, ebr
hwnnw o Draddodiadeu 'r Tadau ac Eisteddfodau
'r Eglwys, ond pam y rhaid i mi fwy
o siccrwydd, ebr ef na gair y Pâp sy 'n
eiste 'n y Gadair ddisiomedig? Yna 'r egorodd
y Porthor lwyth o feibl dirfawr o
faint; Dyma, ebr ef, ein hunic Lyfr Statut

[td. 47]
ni yma, profwch eich hawl o hwn, neu
ymadewch; ar hyn fe 'madawodd. Yn
hyn, dyma yrr o Gwaceriaid a fynei fynd i
mewn a 'u hettieu am eu penneu, eithr
trowyd hwy ymaith am fod cynddrwg eu
moes. Wedi hynny, dechreuodd rhai o
dylwyth y 'Scubor a safasei yno er's ennyd,
lefaru. Nid oes gennym ni, meddent,
ond yr un Statut a chwitheu, am
hynny dangoswch i ni 'n braint. Arhowch,
ebr y Porthor discleirwyn gan graffu ar eu
talcennau hwy, mi a ddangosa i chwi rywbeth;
D'accw, ebr ef, a welwch i ôl y
rhwyg a wnaethoch i 'n yr Eglwys i fynd
allan o honi heb nac achos nac ystyr? ac
y rwan a fynnech chwi le yma? Ewch yn
ôl i 'r Porth cyfyng ac ymolchwch yno 'n
ddwys yn Ffynnon Edifeirwch i edrych a
gyfogoch i beth gwaed Brenhinol a lyncasoch
gynt, a dygwch beth o 'r dwfr hwnnw
i dymmeru 'r clai at ail uno y rhwyg
accw, ac yna croeso wrthych. Ond cyn
i ni fynd rŵd ymlaen tu a 'r Gorllewin, mi
glywn si oddi fynu ymysc y Pennaethiaid,
a phawb o fawr i fâch yn hèl ei arfeu, ac
yn ymharneisio, megis at Ryfel: a chyn i
mi gael ennyd i spio am le i ffoi, dyma 'r
Awyr oll wedi duo, a 'r Ddinas wedi tywyllu
'n waeth nac ar Ecclips, a Taraneu 'n
rhuo a 'r Mêllt yn gwau 'n dryfrith, a Chafodydd
di-dorr o saetheu marwol yn cyfeirio

[td. 48]
o 'r Pyrth isa at yr Eglwys Gatholic; ac
oni bai fod yn llaw pawb darian i dderbyn
y piccellau tanllyd, a bod y Graig sylfaen
yn rhygadarn i ddim fannu arni gwnelsid
ni oll yn un goelceth. Ond och! nid
oedd hyn ond Prolog neu dammeid prawf
wrth oedd i galyn: Oblegid ar fyrr, dyma
'r tywyllwch yn mynd yn saith dduach a
Belial ei hun yn y cwmmwl tewa, a 'i benmilwyr
daiarol ac uffernol o 'i ddeutu, i
dderbyn ac i wneud ei wllys ef, bawb o 'r
neilltu. Fe roesei ar y Pâp a 'i Fab arall o
Ffrainc ddinistrio Eglwys Loegr a 'i Brenhines,
ar y Twrc a 'r Moscoviaid daro y rhanneu
eraill o 'r Eglwys a lladd y bobl, yn enwedig
y Frenhines a 'r Twysogion eraill, a
llosci 'r Bibl yn anad dim. Cynta gwaith
a wnaeth y Frenhines a 'r Seinctieu eraill
oedd droi ar eu glinieu, ac achwyn eu cam
wrth Frenin y Brenhinoedd yn y geirieu
yma, Mae estyniad ei adenydd ef yn lloneid lled
dy dir di oh IMMANUEL
! Is. 8. 8. yn
ebrwydd dyma lais yn atteb, Gwrth'nebwch
Ddiawl ac fe ffy oddi wrthych
; ac yna dechreuodd
y maes galluocca a chynddeiriocca'
 fu 'rioed ar y ddaiar, pan ddechreuwyd
gwyntio Cleddy 'r Yspryd, dechreuodd Belial
a 'i luoedd uffernol wrthgilio, yn y man
dechreuodd y Pâp lwfrhau, a Brenin Ffrainc
yn dàl allan, ond yr oedd ynte ymron digalonni,
wrth weled y Frenhines a 'i deiliaid

[td. 49]
mor gyttunol, ac wedi colli ei Longeu
a 'i Wŷr o 'r naill tu, a llawer oi ddeiliaid
yn gwrthryfela o 'r tu arall; a 'r Twrc ynte
'n dechreu llaryeiddio: yn hyn, och! mi
welwn f' anwyl gydymaith yn saethu oddiwrthifi
i 'r entrych, at fyrdd o Dwysogion
gwynion eraill, a dyna 'r pryd y dechreuodd
y Pâp a 'r Swyddogion daiarol eraill lechu
 a llewygu, a 'r Penaethiaid uffernol syrthio
o fesur y myrddiwn, a phob un cymaint
ei sŵn yn cwympo (i 'm tŷb i) a phe
syrthiasei fynydd anferth i eigion y môr.
A rhwng y sŵn hwnnw a chyffro goll fy
nghyfeill mineu a ddeffrois om cŵsc; a
dychwelais o 'm llwyr anfodd i 'm tywarchen
drymluog, a gwyched hyfryded
oedd gael bod yn Yspryd rhydd, ac yn siccr
yn y fath gwmnhi er maint y perygl. Ond
erbyn hyn, nid oedd genni nêb i 'm cyssuro
ond yr Awen, a honno 'n lled-ffrom, prin
y cês ganddi frefu i mi y hyn o Rigymmeu
sy 'n canlyn.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section