Adran o’r blaen
Previous section



[td. 291]
Mehefin 4.dd 1754 Walton
Yr anwyl Wilym/ Dyma'ch dau Lythyr wedi dyfod,
ac un oddi wrth bob un o'r ddeufrawd eraill, a phob
un yn unair yn dywedyd yr un Newydd cyssurus
ynghylch y Fuddugoliaeth a gafas y Llew. Iè 'n
wir! ni choeliech chwi mo Sibli; oni wyddech
chwi (chwedl Ioseph gynt wrth ei Frodyr) y medr
Gwr fel myfi Ddewiniaeth? Etto er hyn yr oedd
Sibli wrth holi ac ymofyn, wedi cael gwybod o
dan din, pa Ddiwrnod y byddai'r Gâd, onide nis

[td. 292]
gallasai (mwy nag Alis y Ddewines) mo'r d'wedyd
yn bendant "Cyn nos Gwener" &c. "a chyn terfyn Mai" &c.
for these things are not, can not be reveal'd to
modern Prophets without their being at the trouble
of pumping for 'em, which is an Art they have a
good knack at. Y cebystr i'r Llythyrau, be mae'r
cast sy' ganddynt o fyned a dyfod yngwrthgefn
eu gilydd? Doe y cefais eich diweddaf, gan ddigwydd
o honof farchogaeth i Gaer Nerpwl cyn
Gwasanaeth i edrych am Ginhynion i'm Taelwriaid,
a galw i e'ch yr Aldramon ar ffrwst wrth
fyned heibio. Ac yr wyf yn gyrru hwn yna ar
lawn ffwdan i edrych a gyrhaedd yna cyn i'r
llall gychwyn. Ni yrrwys yr un o'r ddeufrawd
imi gymaint ag un ffrenkyn, ac ofni'r wyf mai
yn eich cost y byddwch am hyn o furgyn. Ni thal
mo'r Dimmai Iwerddonig; ac nis meddaf mo'r
Amser i yrru ei well y tro yma. Er dim a fo gadewch
imi gael Benthyg y Delyn Ledr y cyfleusdra
cyntaf, i gael imi rygnu ambell gaingc arni
tra bo'r Dydd yn hir, a'r hin yn dêg. Odid na
bydd rhyw beth ynddi a wna imi geisiaw ei

[td. 293]
dynwared, neu o'r hyn lleiaf, mi bigaf rai Geiriau
tu ag at helaethu fy Ngeirlyfr, fal yr wyf yn
gwneuthur beunydd o'r hên Walchmai, &c &c. I am
exceedingly surprized to see how Dr. Davies has
past by abundance of good Words without taking
any Notice of 'em, and that he should put a Quære to
others that are as plain as [a] Pikestaff. Amongst
those are Gwerthefin q. Now what Man that has
seen or heard the Word Gwarthaf can be at a loss for
the meaning of Gwerthefin? Does not cyntefin come
from cyntaf? Yes surely, and so does gwerthefin, from
gwarthaf. He has properly enough render'd Gwarthaf
by Vertex, Fastigium, Summitas; and so he should have
render'd Gwerthefin by, Summus, Supremus &c. or in
English, Chief, principal, supreme, sovereign &c. The
like I could observe to you on some Dozen of Words more.
And the Sense tells you the same. What is Brenhin
gwerthefin (as Hywel vab Owain Gwynedd has it)
but Sovereign King? And the Translators of the
Common Prayer Book might with much more Propriety
have said Ein grasusaf Werthefin Arglwydd
Frenin George than Grasusaf ddaionus &c. I had

[td. 294]
made some few Remarks on these things in my Davies'
Dict. before I received Gwalchmai &c. but now shall be
enabl'd to augment them considerably in my Richards'
which I've got interleav'd and neatly bound in two
Vol. for that Purpose. My Compliments to Mr. Ellis
kindly accept of the same to yourself. Gadewch gael
Pwtt o Lythyr gynta galloch. Wyf eich eiddoch fal 'rwyf
Y Bardd Du




[td. 294]
Walton Mehefin y 25. 1754
Yr anwyl Wilym.
Dyma'r eiddoch o'r 14. o'r presennol wedi dyfod
i'm Llaw heddyw; garw o gyd y maent yn cadw
Llythyrau Pobl druain naill ai yn Ghaer Gybi
neu yn Ghaer Nerpwl! Yr Archlod iddynt, a
diddaned cael gafael ar gwrr tippyn o Epistol.
Bendith Dduw a ffynno iwch am fenthyg y Delyn
Ledr, na thybiwch y byddaf mor greulawn angrhist'nogol
a'i chadw 'n rhŷ hir, rhag eich nychu
o Hiraeth. Och fi! onid gwych fyddai gael tippyn
ychwaneg o'r Barddoniaeth yna? Ni flinwn i
byth bythoedd arno. —— — — Ac os gyrrwch
yma rai eraill, yn gyfan, mi a'u copiaf
(os mynnwch) yn y llyfr gyda'u Brodyr yn y llaw
orau a fedrwyf. Ond dywedwch a ddywettoch,

[td. 295]
ni wnewch byth imi hoffi eich câr Dap Gwilym yn
fwy na'r hên Gyrph. Er hynny i gyd ni ddywedais
i erioed (fel yr ŷch chwi 'n haeru) fod Gwalchmai
wedi gwneuthur imi ffieiddio ar Ddeian, ond
ar Gywyddau pwy bynnag a'u gwnelsynt. Anacreon
amongst the Greeks, and Ovid amongst the Latins
give some People (of particular Complexions) the
most exquisite Pleasure and Delight. I don't
condemn those People's Taste; but give me Homer
and Virgil; and, in my poor Opinion, so much does
Gwalchmai excell Dap Gwilym and his Class, as
Homer does Anacreon. But every man to his own
Taste, I claim no Sovereignty over any one's Judgment,
but would be glad to have the Liberty to judge
for myself.  — Dyna ben am hynny. Aiè, Cymro,
oedd Emrys Phylib? f'allai mai è. Ond mi adwaenwn
frawd iddo, oedd yn Werthwr Llyfrau yn GrhoesOswallt,
nas mynnasai er dim ei gyfri'n
Gymro. Pa ddelw bynnag ni wnaeth yr hên Ddeon
mor llawer o Gamwri âg ef. He did but expose
and ridicule the Infantine Style for fear it should
get in vogue as the taste of the Age, and that we
should have Iliads written in it; which is no more
than I would have done, had I liv'd in Dap Iemwnt's

[td. 296] time, pan gaethiwodd y Braidd gyfwrdd ac y dychymmygawdd
Orchest y Beirdd. I own with you, that
The Distress'd Mother (my favourite Tragedy) &c. are
in esteem to this Day and that deservedly, and will
venture further to say they will continue so while
the English Language is esteem'd; But as to the
Preference given him to Pope by Mr. Addison,
I can by no means agree with you, that being
altogether a genteel Sneer and Satyre upon his
Pastorals. Can you read [his commendations of] Mr. Ph._s' Pastorals,
especially where he quotes a Passage with a "How
agreeable to Nature?" &c. without discovering the
Sneer? For my Part, when I compare the Passage
commended with the Commendation, methinks I see
before my Eyes the wry face and the Grin. And if
he had pleas'd he might have said as much of
Mr. Pope's; for in truth I could heartily wish
that neither of 'em had ever attempted Pastoral,
their Geniuses being much better adapted to
greater things. They should have left Pastoral to
gentle Gay, who (notwithstanding all his fustian,
as it is called) is the only English man
that deserves the Name of a Pastoral Writer.
Nid yw'r Hwyntwyr (chwedl chwithau) on'd

[td. 297]
Hanner Cymry, gan eu bod, gan mwyaf, yn hanfodi
o Had Pobyl Fflandrys a Normandi, a rhyfedd yw
allu o naddynt gadw maint yn y Bŷd o'r hên Iaith,
ac o'r achos hwnnw, yn bendifaddeu, mi fynnwn
iddynt adael ymgeleddu'r Iaith i'r sawl a fedrant
yn orau wneuthur hynny, sef Pobl Wynedd; Ac os
ewyllysient ddangos eu Serch i'r Iaith, cymmerent
arnynt ran fawr o'r Gôst, ond na feiddient
roi na Llaw na Throed yn y Gwaith rhag
ei ddiwyno a'u llediaith ffiaidd. Ettwaeth, lle
bai'n y Deheudir ddŷn a chanddo (neu a dybiai
fod ganddo) Ddawn Awenyddiaeth, bid rydd i
hwnnw (o'm rhan i) ganu ei wala, oblegid odid
i ddŷn awenyddgar gyfeiliorni'n gywilyddus,
a diau fod Gwaed Cymröaidd yn drechaf
ymhob un o'r cyfryw, o ethryb mai Dawn arbennig
ein Cenedl ni yw Awen, megys y mae
Dawn yr Eildrem (i.e. Second Sight) yn perthyn
i Fryneich Ucheldir yr Alban. Ac oddiwrth y
cyffredin Hynafiaid, y Derwyddon, yr hanyw
pob un o'r ddeuddawn. Y Derwyddon yn ddiddadl,
oedd Hynafiaid ein Cenedl ni, ond pa
un ai hanfod o honom o Waed Troia nis gwn;

[td. 298]
pur anhawdd yw genyf goelio hynny, hyd oni
welwyf ychwaneg o Eglurdeb nag a welais
etto. Diau genyf nad yw'n Anrhydedd na
Pharch i neb hanfod o'r fath Wibiaid a Chrwydraid;
etto bid i'r gwir gael ei le, ped faem oll yn
feibion i Sion Moi, neu Loli gydau duon, na
atto Duw ini wadu ein Rhieni. But when you
say, "Dyweded Camden a fynno, ni bu'sai 'n
Hynafiaid byth yn dyfeisio y fath chwedl heb
na lliw na llun &c." I can't forbear smiling
(I beg pardon for being so rude) If we have no better
Proof of our Trojan Extraction than the bare
Veracity of our Ancestors, I fear we may drop
the Argument for I'm afraid, if we say our forefathers
neither could or would fib upon Occasion, we
may be reckon'd very great Fibbers ourselves.
Yet I can't see what they could propose to themselves
by inventing such a Thumper, unless it were
to ingratiate themselves with the Romans by
laying Claim to the same common Ancestors,
and indeed that was Temptation enough of
Conscience. But admitting the Story of Brutus

[td. 299]
to be true, and allowing Geoffrey of Monmouth
all the Authority of Authenticity he can desire,
and every other Advantage, but Infallibility,
and I care not much if he had that too, yet it
were absurd and even ridiculous to imagine
the main Bulk of our Nation to be his Descendants.
What would you say were I to affirm
that the good People of England were all descended
from William the Conqueror, or that they are
all Hanoverians because his present Majesty
is one? Brutus was here (and was King, if you
please) but still he and I are nothing akin. —
Oedd, oedd, yr hên Dr. Davies o Fallwyd yn dyall
yr Iaith Gymraeg yn bur dda, heblaw llaweroedd
o Ieithoedd eraill. Ac nid eisiau Deall a
wnaeth iddo adael allan o'i Eirlyfr gymaint o
Eiriau, ond Brys a Blys ei weled wedi dyfod i
ben cyn ei farw. Mae'n ddigon er peri i Galon
o Gallestr wylo'r hidl Ddagrau wrth weled fal
yr oedd yr hên Gorph druan yn cwyno yn ei
Ragymadrodd rhag byrred yw Hoedl Dŷn! Ac
yn mynegi pa sawl cynnyg a roesai lawer

[td. 300]
o Wyr dysgedig ar wneuthur Geirlyfr Cymraeg,
ond bod Duw wedi torri Edau'r Einioes cyn i'r
un o honynt oddigerth un, gael amser i gwblhau
ei Waith. Ac yntef ei hun yn ennyd fawr
o Oedran, gwell oedd ganddo yrru ei Lyfr i'r Bŷd
heb ei gwbl orphen, na'i adael megys Erthyl ar
ei ol, yn nwylaw rhyw rai, agatfydd, na adawsant
iddo byth weled Goleu Haul. A diamhau
mai diolchgar y dylem fod iddo, [am ei waith,] a mi'n anad
neb, oblegid efe a ddysgodd imi fy Nghymraeg,
neu, o'r lleiaf, a'm cadwodd rhag ei cholli yn
Nhir Estron Genedl. Nag ydyw Marwnad
Owain Gwynedd o Waith Cynddelw ddim yn
y Llyfr yma, fal y gellwch weled wrth y Fynegai.
Nid wyf i ddim yn meddwl fod y ddarn a yrrasoch
o honi yma, chwaith anhawdd ei dirnad.
 It is a very pretty Passage, sure enough,
and 'tis a pity if it is imperfect in your Book.
I'm almost certain that most of these Odes
have been corrupted by the Ignorance or Carelessness
of Transcribers, which has been the
common fate of all Authors before the Invention
of Printing, and which at present can no

[td. 301]
otherwise be remedied than by comparing of
various Readings and fixing on that which
carries in it the best Sense and is most agreeable
to the Context. I read this piece as follows
in the modern Orthography.

Gwyrdd Heli Teifi tewychai, The green Water of Tivi grew thick,
Gwaedlanw Gwyr a llyr a'i llenwai. And the Sea being
filled with the streaming blood of Men.
Gwyach rudd gorfudd goralwai, The brown Diver call'd it
the greatest happiness.
Ar Donniar Gwyar gonofiai, And waded o'er Planks of
clotted blood.
Gwyddfeirch Tonn torrent yn Ertrai, The wild Sea Hor-
ses were broken at low Water.
Gwychr ei naws, fel traws, a'u treisiai, The stout-hearted
(i.e. O.G.) like a Tyrant seiz'd or oppress'd 'em.
Gwyddfaau Eingl ynglhadd a'u trychai; Heaps of En-
glish buried (in the Sand) wreck'd 'em.
Gwyddgwn Coed collwyd a'u porthai, The Wild Dogs
of the Woods lost their provider.
Gwyddwal dyfnwal dyfnasai; fy modd, The deep Thic-
Fy meddiant a gaffai. kets were wont (viz. to find 'em meat.)
and wanted neither my Consent or Assistance.


[td. 302]
If that be not the meaning of it I don't know what it
means, or whether it has any Meaning at all, as I
never had the Honor of Mr. Will y Wawch's acquaintance,
I can't tell whether he and Gwyach be the same
or not. Ai rhudd yw lliw W.m y Wawch? Os e, mi dybiwn
Mai'r un Peth yw Wil y Wawch a Wil y Wyach on'd
ei fod heb ei fedyddiaw yn Wil yn Amser Cynddelw.
But as to your observation "Nid hwyrach nad
am Gig y dug yr hen fardd o'i mewn &c." It is very
just. It would have given you a very odd Idea if he had
introduc'd a Parcel of Ducks as picking out the Eyes
of the slain on the field of Battle instead of Crows and
Ravens; but as queer as that would have been, we
are very sure that Ducks (both wild and tame) will
greedily devour both Blood and Guts &c. when they
meet with 'em in the Water, Gobbets of clotted Blood,
Pieces of Lights and Livers, Milts &c being our
usual way of baiting Wild Ducks on the River Severn.
And why might not Wil Wawch delight in such things
as well as they, tho' he should not care to eat raw flesh.
Gyrrwch y Delyn gynta galloch da chwithau,
'rwyf ar y Drain am ei gweled hi. Dyma fi wedi
cael Llythyr o Allt Fadawg yn ddiweddar, mae yno

[td. 303]
bawb yn iach, ond bod y Llew'n drafferthus; mi gaf
glybod etto'n o fuan. Iè, Llongau yw Gwyddfeirch
Tonn, a Saeson yw Eingl; ond nid oddiwrth y Gair
Angl am eu bod gynt yn byw mewn Ongl i.e. Congl
o'r Deyrnas, fal y mynnai'r Dr. Davies. The Plural
of Ongl would be Yngl or Onglau as from Corph
Cyrph, from Môr, Mŷr, &c. But the Plural of Angl
is Eingl as from Arf, Eirf, from Carr, Ceir &c and
who knows not that they formerly called themselves Angles which
in the singular Number is Angle, or in our Orthography
 Angl? Wele, Duw a'm helpo dyma fi
'n myn'd i'm rhwymo fy hun i aros ymysg yr
Eingl tra bwyf byw ysgatfydd. Mae'r Esgob Caer
yn dyfod i gadw ei Ymolygiad cyntefin yn Nerpwl
yr 22.n o'r Mis yma, sef Gorphenhaf, ac yno fe gyst
imi ymddangos a thalu'r Mawrbris am Leisians,
a da os diangaf heb gymeryd dwy, un am y Guwradiaeth
a'r llall am yr Ysgol, nid wyf yn ammau
na wna'r Esgob eitha' Cnafeidd-dra a mi,
oblegid nad all yr un o honynt aros gweled Dŷn
yn dyfod o'r naill Esgobaeth i'r llall. Ond gwnaed
a fynno, 'rwyf i'n barod, a Saeth (debygaf) genyf
i bob Nod, oddigerth Nôd y Bocced lydan honno

[td. 304]
sy wrth ei Glôs ef, a Saeth i honno hefyd os happia.
You make a Quere whether fferis should be written Offeris?
No, say, I, for it comes from the Latin word Ferrum,
Iron or Steel; but whether it be an English word
or a Welsh one I can't tell, for they have no other
Name for it in this County or that of Chester but
Ferris or Ferrice, and I have not heard it so call'd
in any Part of England or Wales but in Anglesey.
When I heard 'em here talk of Ferris, I expected to have
heard of Ysterbwch too, but never did. We have here
many other Words that are familiar to Anglesey
folks, but unknown to all the rest of England and
Wales, except they are us'd in the North of England;
and I shrewdly suspect they are, and were originally
borrow'd of the Scots. Gonofio is not to Duck or dive
but the same as llednofio i.e. rhwng cerdded a
nofiaw, to wade or snudge, obleid mai gwaith
anhawdd yw nofiaw mewn gwaed. I wish with
all my Heart that the Dictionaries of the Tribrawd
should be compared and printed; as for me, I've not
had mine long enough to do any Wonders with
it, yet I've some good Words and some good Number
of them. If I was a Man of Fortune, I would with all

[td. 305]
my heart bestow any Labour in preparing Mr.
L. M's for the Press or any thing else that would contribute
toward the making it public; But I've no time
to do any thing for Preaching &c for a Livelihood.
Wele rhaid cadw Noswyl bellach, Byddwch wych,
ac anherchwch Mr. Ellis. Wyf yr eiddoch (rhyngoch)
yn ddirann Y Bardd Du
Walton Iuly 1.st 1754
O.S. Chwi welwch fy mod wedi bod Wythnos gyfan
yn disgwyl derbyn y Delyn ledr ac etto heb Hanes
o honi. Mae'n debyg na feiddia'r Llongau ddangos
eu pigau gan y Gwynt uchel yma. Dyma'r llew
wrth ffawd wedi gyrru imi ddau ffrenkyn —




[td. 305]
Y diwyd gelfyddgar Gydwladwr.
Dyma'r Delyn Ledr wedi dyfod i Walton, mewn
Cywair odidawg hefyd; diau, er pan fu farw
Gwgawn fawd newydd, na fedrasai neb arall ei
chyweirio fal hyn, namwyn chwychwi. Wele!
Can Hawddammor i Wastrawd y Dollfa! Braidd y
mae ynof Synwyr i ddiolch am y Gymwynas gan
synnu a thysmwyo rhag ei godidocced! Iè, iè,
Gwyn eich byd chwi ac eraill, meddafi etto, wrthyf
i a'm bath! Mwy yw hyn nag a welais i ermoed

[td. 306]
o'r blaen, ond mae'n debyg nad yw draian a welsoch
chwi o Gywreinwaith ein Hynafiaid ardderchog. Mae
genyf yma, yn fy meddiant fy hun, garp o hen Lyfr
MS. o Gywyddau &c, a darewais wrtho yn Grhoes Oswallt,
a yrraf yna i chwi, os nad yw'r Cywyddau
genych eisoes. Chwi gewch Daflen o honynt yn
gyntaf i edrych a feddoch yr un o honynt a'i
peidio. Nid oes yn y Delyn Ledr (am a welaf) ond
un o honynt, sef Cyw.dd "Y Llong tan y fantell hir" o
waith Robin Ddu. Braidd y medraf i ddarllen y
llaw gan ei bod o'r hên ddull, a spelio pur ddrwg.
It was written by one that calls himself Edward
ab David in the year 1639. It seems to have been
afterwards in the hands of his Son who writes
himself, not Iohn ap David (or ap Edward) as
the old fellow did, but Iohn Davies, and his Name
I find written in 1671 and 1672, but with no
Additions worth notice. By this I conclude him
to have been a Shropshire Welshman, and indeed
his Llediaith and Bwnglerdra sufficiently shew it!!
Er hynny Ammor iddo am ei Ewyllys da a'i Gariad
i'r Iaith, er carnbyled oedd ei Waith arni. Yr oedd
genyf un arall o Gymmar i hwn, ond f'aeth

[td. 307]
hwnnw i Law ddrwg, sef y Lleidr o Daeliwr, gan fy
Mrawd Owen, ac yno y trigodd, a dêg i un nad yw
bellach gan faned ag Us o waith y Gwellaif, a'r
hyn diweddaf o honaw'n Eirionyn Mesur o'r culaf
yn barod i'w droi heibio rhag na ddalio un Nicc
ychwaneg. Nid wyf yn cofio pa Bethau oedd yn
hwnnw, am nad oeddwn y Pryd hynny'n bwrw'n
ol y Barddoniaeth gorau oll, mwy nag a wnaethai
Sion Tomas Tudur y Taeliwr gynt am y Delyn
Ledr. "Cynnwysiadau'r Cywyddau a adewir allan."
Y mae aneirif o Englynion go drwsgl yma a thraw
ar bob Congl wâg o'r Dalennau. Cywyddau Pabaidd
yw y rhan fwyaf o'r C. i Dduw, i'r Ebystyl, i'r Bŷd,
i Anna &c &c. gresyn oedd! Mae canu gwych
mewn rhai o naddynt, ond ni ddarllennais i erioed
mo'r cwbl. Cywydd y Llwynog yw un o'r rhai gorau
a ganfum i erioed yn ddiammau. Mae'r hên
Edward ap David yn dywedyd "Nid oes wybod
pwy a'i gwnaeth." Ond y mae'r Mab, neu ryw un
arall, wedi ei dadu o ar Hugh Lloyd Cynvel, Huw
Llwyd Cynwal mae'n debyg. Os caf Hamdden a
Chyfleusdra i yrru hwn i chwi, megis Tammaid
Praw, i edrych a fynnoch ddim ychwaneg o'r

[td. 308]
ffâr sy yma. Mi a'i hysgrifennaf ar Bapur arall rhag
ofn y gwaethaf. Mae'n debyg fod yn rhŷ dda gan fy
Mrawd Brydyddiaeth i ddestrywio'r hên Lyfr hwnnw,
ac os ydyw heb ei ddifrodi mi fynnaf ei gael cyn
Diwedd Hâf. There are more curious old Books of
our Language to be met with in some Parts of
Shropshire than there are in most Parts of Wales;
and that plainly shews that the People some Generations
ago, valued themselves upon being Welsh
and lov'd their Native Country and Language. But
now those Books are not understood and consequently
are not valued. I bought at a Bookseller's Shop at
Oswestry a Drych y Prif Oesoedd (1.st Edit.) Dadseiniad
Meibion y Daran, or a Translation of Bp. Iuel's
Apology (by one Morys Kyffin of Glascoed in the
Parish of Llansilin in Shropshire and formerly a
Fellow of a College Oxon.) into excellent Welsh, and
Bp. Davies's Llythyr at y Cembry prefix'd to Salusbury's
New Testament in Queen Eliza:'s time, and
Prifannau Sanct.dd &c by Dr. Brough Dean of
Gloucester and translated into very bad Welsh by
Rowland Vychan of Caer Gai, and all for 8 pence!
The first Translation of the New Testament by Salusbury,
I met with in a certain Man's hands in

[td. 309]
that Town and had it in Exchange for a very silly,
simple English Book of God's Judgment against Murder &c.
Wrth hynny chwi ellwch weled nad oes nemmawr
o fri ar ein hen Iaith ni yn y wlâd honno. Mi
gefais yno hefyd Eirlyfr y Dr. Davies, nid llawer
gwaeth na newydd, am Chweswllt. Had I, when I
liv'd in Oswestry, been as nice a Critic in valuable
old Books as I was in voluble young Women, I
might have furnish'd myself pretty moderately, but
who can put an old Head upon young Shoulders? —
Nid oedd genyf yr Amser hwnnw ddim Blâs ar
Gymraeg na Phrydyddiaeth, na Dealldwriaeth
na Chelfyddyd yn y Bŷd ynddynt 'chwaith. —
Dyma i chwi Dammaid praw arall ar Iaith
odidog y Wlâd fendigedig yma. Iaith yw hon yn
curo holl Ieithoedd Twr Babel! Iaith nas deall na
Dŷn nag Anifail nag Adar y Coed, onid a enir ac
a fegir yn y Wlâd. 'Tis said of the Chinese that they
have in their Language some Sounds that no European
is capable of pronouncing; but I defy the
Chinese themselves or any Body else, but Lancastrians,
to pronounce bout thowt (for bought, thought)
Cowt &c according to the genuine Lancastr. Pronunciation.
The W in such Words must have it's

[td. 310]
genuine Sound as if it were a Welsh Word. Hai, Hai,
Dyma Lythyr oddi wrth y Llew du o Geredigion newydd
ddyfod i'm Dwylaw, dated at Aberdovey Iuly 3.rd Wft
iddo fo! am fod 9 Nhiwrnod yn dyfod hyd yma. Mae
Huw Roberts yn haeru y mynn ef gael 12 o Gywyddau
am ei boen yn llusgo'r Delyn Ledr hyd yma! Fe geiff
un, ac odid na bydd hwnnw'n ddigon ganddo. Aiè
rhaid talu iddo fo am bob Peth a gludo in Specie?
Pa beth pe ceisid ganto gywain llwyth o Langcesau
hyd yma? — Bellach bellach, chwedl y Barcutt,
rhaid troi hwn heibio ac ysgrifennu at y Llew i
Lundain ac i gant o Fannau eraill; I have added
a good Number of Words to the Glossary, as you'll
find; Now my youngest Son talks this Language
as well as any body, but Robert is too much a
Salopian to learn it, and very often corrects his
Brother for using such ugly Words as he calls
them. When Gronow says Teawn, Cowt, Keaw,
Steel &c Robert says, you must not say those naughty
Words, you should say Town, Colt, Cow, Stile &c.
Gronow could not speak when he came over
hither, but Robert could, so the Lancashire Dialect
is natural to Gronow, being the first that he
learned; which makes me fear that neither of

[td. 311]
them will ever learn Welsh to any Perfection.
Digon yw hyn o Nonsens, Duw gyda chwi; annerchwch
Mr. Ellis yn garedig, Wyf eich rhwymedig
 Wasanaethwr Y Bardd Du o Swydd Gaer Hirfryn.
Walton July 12 1754
Mae'r llew yn dywedyd y dylwn roi rhywun ar waith
i holi ac ymofyn pa leoedd a ddigwyddo 'n wâg o
amser bwygilydd yn Esgobawt Llan Elwy. But I
have neither Friend or Correspondent in it —
What then must I do? I must not apply to any Cler. for
he will play his own Game.




[td. 311]
Walton Hydref y 16. 1754
Yr anwyl Gyfaillt
Dyma'r eiddoch o'r 11.g wedi dyfod i'm llaw ddoe, ac
yn wir rhaid ydyw addef fy mod wedi bod yn
lled ddiog yn ddiweddar am na buaswn yn
gyrru yna ryw Awgrym i ddangos fy mod yn
fyw, cyn hyn. Ond bellach bellach dyma fi yn
ei rhoi hi ar Do, ac mi orphennaf fy Llythyr y foru,
oddigerth i'r Cywion Personiaid yma fy hudo i
allan i ganlyn Llosgyrnau Cwn ac i wylltio
Ceinachod. Maent ar dynnu fy llygaid i ddwywaith
yn yr wythnos o'r lleiaf a phrin y llyfasaf
eu naccau. However a little Exercise does no

[td. 312]
hurt, and the young Gen.ts are very civil. Mi fum
yn brysur ynghylch diwedd y Gorphenaf yn parottoi
i gyfarfod yr Esgob i geisiaw ei dadawl Ganiadhaad
i bregethu &c yr hyn a gefais yn ddigon rhwydd am
fy Arian; ond nis gorfu arnaf gymeryd yr un
Licence am yr Ysgol. Ac er pan glywais y Newydd
o'r Castell Coch, mi fum yn dal wrthi hi
ddycna y gallwn i barottoi ychydig o Bregethau,
tra bai'r Dŷdd yn hir, fal y gallwn gael y
Gauaf i brydyddu wrth olau'r Tân fal arferol. Nid
Gwaith i'w wneuthur wrth Ganwyll ddimmai yw
prydyddu; ac nid mewn undydd unnos yr adeiliedir
y Castell Coch. Dyma'r Llew wedi gyrru imi
rai Defnyddiau tu ag at yr Adeiliad orchestol
honno, ac y mae'n dymuno ei fod yn agos attaf
i gludo Morter, ond, am y Rhelyw, ei fod yn cwbl
ymddiried i Gelfyddyd yr Adeiliadwr. Iè, iè, ond
bychan a ŵyr o, fod yr Adeiliadwr yn rhydd
ac yn freiniawg o'r Gelfyddyd. How do you translate
a free and accepted Mason? Iè, ac yn un
o'r Penmeistraid hefyd. Wele wfft i'r Dŷn! meddwch.
Pa'm hynny? Odid Bwngc yn y byd o Ddysgeidiaeth
y bydd Dŷn gwaeth erddo, o's paid a'i gamarferu.
Fe haeddai'r Gelfyddyd Glôd pe na bai

[td. 313]
ddim Rhinwedd arni ond medru cadw Cyfrinach,
ac [fel] y dywaid y dysgedig Awdur, Mr. In.o Locke, am
dani, "Pe hyn fai'r holl Gyfrinach sydd ynddi, sef,
nad oes ynddi ddim Cyfrinach yn y byd, etto nid
Camp bach yn y byd yw cadw hynny'n Gyfrinach."
Ond y peth pennaf a'm hannogodd i i 'spïo i'r
ddirgel Gelfyddyd hon ydoedd, Fy mod yn llwyr
gredu mai Caingc ydoedd o Gelfyddyd fy Hen Hynafiaid,
y Derwyddon gynt, ac nid drwg y dyfelais.
Ond, dyd! dyd! fe fu agos imi anghofio pwy
a pha beth ydwyf, am hynny rhaid attal fy llaw.
Ond f'allai'ch bod chwi'ch hun yn un o'r freiniawl
Frawdoliaeth.

Aiè mae Elisa Gowper wedi derrio Dannedd y
Monwysion llesgethan? Och o Druain! Drwg
yw'r Byd fod yr Awen cyn brinned ym Môn
nad ellid gwneuthur i'r Carp safnrhwth, tafodddrwg
hwnnw wastattu. Ond, gwir sy' dda, ni
thal i ddifetha Prydyddiaeth wrtho, oddigerth y
ceid rhyw lipryn cynnysgaeddol o'r un Dawn ag
Elis ei hun, sef yw hynny, nid Dawn Awenydd,
ond Dawn ymdafodi ac ymserthu'n fustlaidd,
ddrewedig anaele. Fe debygai Ddyn wrth Dafod

[td. 314]
ac Araith Elisa mai ar laeth Gâst y magesid ef
ynghymysg ag Album Græcum, ac mai Swydd
ei Dafod, cyn dysgu siarad, oedd llyft_n_u, ac
onide na b'asai bosibl iddo oddef blâs ac archwaeth
budreddi ei Ymadroddion ei hun. Mi
fum i unwaith ynghwmni Elis yn Llanrwst
er's ynghylch 14 blynedd i 'rwan yn ymryson
prydyddu extempore, ac fe ddywaid fy mod yn
barottaf Bachgen a welsai erioed, ac etto er
hyn cyn y diwedd, ni was'naethai dim oni chai
o, a lleban arall o Sir Fôn oedd yn ffrind iddo fy
lainio i; a hynny a wnaethent oni b'asai
Glochydd Carnarfon oedd gydâ mi. Tybio 'rwyf
mai prifio'n rhŷ dôst o rychor iddo a wnaethwn
yn ei Arfau ei hun, sef Dychanu, a galw
Enwau drwg ar Gân. One would expect that a
Person so very fond of giving Affronts, should be
as willing or (at least) [able] to bear them in his turn;
but he is not. One would scorn to be the Aggressor,
but if I'm attack'd, I may and must repell force
by force; & se defendo is a good Plea whate'er
be the Event. That was my Case then, and I've
many times afterwards blam'd my Curiosity
for taking notice of such an empty fellow. —

[td. 315]
However send me his Englynion and I promise you,
upon the Word of a Mason, I'll never answer 'em,
unless by a fictitious Name, and hardly so. —
Wel! Dyma hi'n 19 o'r Mis a'r Llythyr yn anorphen.
Yr Andras i'r Milgwn! Ond ar fy ngair
gwych y canodd Gwalchmei i Rodri; ped fai
genyf Amser mi rown gais ar eglurhâu rhyw
faint arno, ond rhaid imi adael hynny heibio
tan y tro nesaf. Gwrda Einion ap Gwalchmei!
Dyn glew iawn yn wir, a Dŷn o Fôn hefyd debygaf.
Na bo fyth ddiffyg ei fath ym Mon rhagllaw.
Ond pwy oedd Nêst ych Hywel? Nid
Geneth i Hywel ap Owain Gwynedd, y Prydydd,
oedd moni, mae'n debyg, e fyddai hynny'n ormod
Anachronism, debygwn i. But I doubt Dr. Davies's
Chronology in his list of Authors is but guess-work
for the most part. And supposing any Remains of
me should have the fortune to be extant 3 or 4 Centuries
hence, 'tis as likely I should be plac'd at 1705 as
at 1755 or perhaps I should face 1795, unless a
Caniad Wyl Ddewi should ascertain the time. The
Dr. generally put some twenty Years between
father and son, and if the time when my eldest
liv'd should be computed by that Rule, he must be

[td. 316]
a Poet at six Years before he was born; and some
future Son of mine (yet unborn and unthought of) would
be still a much forwarder Youth, & perhaps a cotemporary
with his Grandfather. But where do I
ramble? My Sons will never be Poets unless I
come to live in Wales while they are young, which
I see no great likelihood of. My poor Bob Owen is
in Anglesey with Twm Sion Twm of Red Wharf &
has been there since the 1.st of September; but what
Progress he has made in the Language I can't
learn. If he can once learn it, I will take care
he shall not forget it. I expect him home very soon,
because the Piece of Goods that I have in Exchange
is a little unmanageable & therefore must be sent
home by the first Opportunity. Thomas's Son is
too great a fighter to live in Lancashire; that
mischievous Word Taffy makes hur Welch ploot
to caper. Oes rhyw Ganiad yn myn'd ymlaen i ryw
Iarll meddwch? Oes, oes, a phan gynta 'i gorphennir
chwi a'i cewch. Ni anghofiais i m'onoch o'r
Odlau Anacreonaidd, na wnewch mo'r Cam a mi;
ofni 'rwyf mai drwg a fu fy Nghof y Pryd hynny,
ond am frut Sibli yn Saes'neg nid wyf yn cofio i

[td. 317]
chwi erioed ei gofyn genyf. Ydyw, y mae Offeiriad
Walton yn cyweirio Croen y Delyn Ledr bob munud
o Seibiant a gaffo, ond chwi a'i cewch adref cyn
pen hir rhag eich marw o Hiraeth. Er mwyn Dyn
a gaed fyth afael ar yr hên farcutiaid y soniasoch
am danynt gynt? Gwaith Emwnt Prys
&c? Mi welais ers talm o Flynyddoedd pan oeddwn
yn Llŷn holl Ymrysonion a Gorchestion Emwnt
Prys a W.m Cynwal, gan yr hen Berson Price o
Edern (Price Pentraeth gynt, a Pherson Llanfair
yn nhwll Gwimbill, alias Pwll Gwyngyll) yr hwn
oedd Orwyr i'r Archiagon, tho' full unworthy of
such an Ancestor, but those Poems were monstrously
mangl'd and mis-spell'd. I suppose they
might have been copied by old Price of Edern (or
perhaps his father, Price of Celynnog) in his
younger Years before he understood Welsh (and
indeed he never understood it well) & kept for a
family Piece in memory of the learned Progenitor.
Nid hên Ddŷn dwl oedd yr Archiagon, a chonsidrio
'r Amser yr oedd yn byw ynddo; etto 'rwyf i
'n cyfrif W.m Cynwal yn well Bardd, o ran naturiol
Anian ac Athrylith, ond bod Emwnt yn

[td. 318]
rhagori mewn Dysg. Nid oedd Cynwal druan
(ysgolhaig bol clawdd) ond megis ymladd a'r
Dyrnau moelion yn erbyn Tarian a Llurig,
a'r gwanna' ddŷn a gwain ddur, a dyrr nerth
a Dwrn Arthur, chwedl yr hên fardd gynt.
E ddigwydd weithiau i Natur ei hunan (heb
gynnorthwy Dysg) wneuthur rhyfeddodau; etto
nid yw hynny onid Damwain tra anghyffredin,
ac er mai Prydferthwch Dawn Duw yw
naturiol Athrylith, ac mai Perffeithrwydd Natur
yw Dŷsg, etto dewisach a fyddai (genyf i) feddu
rhan gymhedrol o bob un o'r ddwy, na rhagori
hyd yr eithaf yn yr un o'r ddwy'n unig heb
gyfran o'r llall. Mi glywais hên Chwedl a dedir
yn gyffredin ar Ddafydd ap Gwilym, sef  Gwell
yw Awen i ganu, Na phen doeth ac na phin du.
Gwir yw am Brydydd; ac felly y dywedai'r
Lladinwyr, Poeta nascitur, non fit, h.y. Prydydd
a enir, ond nis gwneir, mal pe dywedid, nid
ellir Prydydd o'r Doethaf a'r Dysgediccaf tan
Haul oni bydd wrth Nattur, yn dueddol i hynny,
a chwedi ei gynnysgaeddu gan Dduw ag Awenydd
naturiol yn ei Enedigaeth. Os bydd i Ddŷn

[td. 319]
Synwyr cyffredin, a chyda hynny, Astudrwydd,
Parhâd, ac Ewyllysgarwch, fe ellir o hono Eglwyswr,
Cyfreithiwr, Gwladwr neu Philosophydd. Ond
pe rhoech yr holl Gyffiriau hynny ynghyd, a
chant o'r fath, ni wnaech byth hanner Prydydd. Nid
oes a wna Brydydd onid Duw a Nattur. Ni cheisiaf
amgen Tyst o hyn na M.T. Cicero: Pwy ffraethach
Areithydd? Pwy well a gwyliadwrusach
Gwladwr? Pwy ragorach Cyfreithiwr? Pwy
ddyfnach na doethach Philosophydd? Ar Air,
pwy fwy ei Ysfa a'i ddingc a'i Awydd i brydyddu?
Ac etto pwy waeth Prydydd? Twrstan o Fardd
yn ddiammeu ydoedd! Ac odid o'i gymmar o
Wr o ddysg, oddigerth yr hên Dd Davies o
Fallwyd. Etto, er argymhennu ac ymresymmu
o honof fal hyn, nis mynnwn i neb dybio mai
afraid [i brydydd] fod yn wr o ddysg. Nage, nid felly y
mae 'chwaith. Er na ddichon Dysg wneuthur
Prydydd; etto hi a ddichyn ei wellhau; Cymmerwch
ddau frawd o'r un Anian, o'r un
Galluoedd o Gorph, a Synwyr ac o'r un awenyddol
Dueddiad, a rhowch i'r naill Ddysg a
gommeddwch i'r llall, ac yno y gwelir y Rhagoriaeth.

[td. 319*]
Er na ddichon y Saer maen wneuthur maint y
mymryn o faen Mynor, etto fe ddichon ei 'sgythru,
a'i gaboli, ei lunio a'i ffurfio a gwneuthur Delw
brydferth o honaw, yr hyn ni ddichon byth ei
wneuthur o'r Grut brâs a'r Gwenithfaen. Huzza!
Huzza! Mae Mr. Mosson yn ddŷn da. Dyma Lythyr
oddiwrtho yn mynegi fod Dr. Wynne o
Ddolgelley wedi marw yn gelain. Rhaid taflu hwn
o'm llaw a'i yrru i ffordd i gael Amser i 'sgrifennu
i Allt Fadog, ac at yr Iarll &c. Nid allaf gymeryd mo'r
Amser i dd'wedyd dim 'chwaneg ond bendith Dduw
i chwi am roi Mr. Mosson ar waith, ac iddo yntef
am 'sgrifennu cyn gynted. His is dated Beaumaris
19.th Inst. & I received it this Minute viz.t 22.nd I am,
Dear Sir, yours most sincerely Gronow Owen
P.S. Let me hear from you as soon as possible
I would have sent you some Poetry this time, but I must
not miss this Post, as it is Post Day, so I hope you'll
forgive me. My Compliments to Mr. Ellis. —


I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section