Pob trwbleth ag adfyd sydd yn
dyfod oddiwrth dduw HYnny oll a gyfriaf
yn adfyd, nev flinder, a 'r y syd' yngwrthwyneb ewyllys, ne ddysyfiad
dyn, megys, aflonyd' ruthrae y cnawd, profedigaeth
y cythraul, clefyd corfforawl, cymar cildynnus, anuwiol, mewn priodas, plant anufuddgar, cymdeithion annaturiol, neu anniolchgar,
colled o dda, caethiwed o ryw hen
fraint, ne rydid, colliant o enw da,
malais neu anfod' dynion, newyn,
drudaniaeth, nodeu, rhyfel, carchar,
ag angeu: ag yn y rhol honn i henwir hefyd, bob bath ar adfyd a chledi, pwy vn bynnag fyd'o, ai perthyn
attom ni ein hunain, ai att ein cyfeillion a 'n cyfnesafieit, ai cyffredin,
ai anghyffredin, ai dirgel a chuddiedig,
[td. 2] ai goleu ag eglur, ai rhyglyddus, ai anrhyglyddus: yn 'r hol' bethau hynn (meddaf) fe ddyle bob
dyn Christnogaid' ystyried yn gyntaf y gwreiddin, 'r achos, a 'r dechreuad, fal hynn: sef, y dylem ni gymryd a derbyn yn ddioddefgar pa
beth bynac, y mae duw yn i anfon:
erwyd' hynn sy wir, mae düw yw
ein creawdr, a 'n gwneuthurwr, a
ninnau, ym waith i ddwylaw ef; ef
yw ein brenin, ein arglwyd', a 'n tad
ag fal nad yw weddus i 'r crochan, fanson yn erbyn y chrochenud', felly
mae 'n anweddeiddiach o lawer i
ni, furmur, ne rwgnach yn erbyn ewyllys, a barnedigaeth ein duw.
Ag er bod gorthrymder ag ing yn
codi, ag yn dyfod yn fynych, drwy
ddrygioni ein gelynion, annogiad y
cythraul, ne drwy ryw fod' aral', etto ni ddylem ni feddwl i bod yn dyfod o ddamwain, heb oddefiad, ordeiniad ag ewyl'ys duw, onid trwy
[td. 3] i ragwybodaeth, i ragordeiniad, a 'i
bwyntmant ef: ag i ddoedyd 'n gymwys, yr vn mod' yw, tu ac att am
ein diogelwch pwy vn bynac fyddom
yn byw, ai mewn tlodi, ai mewn cyfoeth, yn y tan, ai yn y dwfr, ymysc
yn gelynion, ai ymysc yn cyfnesafieit, canys mae duw 'n gweled, yn
gwybod, yn dosparthu, ag yn llywodraethu pob peth, mal i tystia llyfr
I. o Samuel: yr Arglwyd' syd' yn
marwhau, ac yn bywhau, ef syd' yn
dwyn i wared i 'r bed', ac ef a ddwg
i fynu, &c.
A Iob hefyd a destiolaetha yn i
drueni, yr arglwyd' a 'i rhoes, yr arglwyd' a 'i dyg: a Christ i hun a ddyweid, na ddescyn vn o adar y to, ar
y ddayar, heb ewyllys ych tad, ie,
mae gwallt ych penn y gyfrifedig. Gan' fod wrth hynny pob trwbleth
a blinfyd yn dyfod oddiwrth dduw
ni a ddylem ddarostwng ac vfud'hau
[td. 4] ein calonneu a 'n meddylieu, iddaw
ef, gann oddef iddaw ef wneuthyr a
ni, fal i gwelo i sanctawl ewyllys ef
fod yn iawn: pa bryd bynac gann
hynny, y byd' i dowyd' stormus, niweidio ne lad' yd, a ffrwyth y ddaear, ne pann i 'n difenwir gann ddrwgddynion, gann godi gwradwyd', ne
gabl i 'n erbyn, pam y dylem ni rwgnach, ne furmur yn erbyn yr elfynae [~ elfennau ]
ne geisio ein dial ar ein gelynnion?
erwyd', oni dderchafwn ein meddylie, ag ystyriaw mae duw syd' yn gosod i law arnom, ag mae efe syd' i 'n
ceryddu, cyffelib ydym i gwn (eb
ddim gwell) rhain pann i tafler a
cherig, a gnoant y garreg, heb ystyr
pwy sy yn taflu attynt. Ac hefyd ni
ddyle neb fod yn anfoddgar, neu 'n
anwllyscar i aildalu y dalent ne 'r
gwystl, 'rhwn a roddwyd iddaw 'n
vnic er i gadw. Duw sy yn rhoddi
bowyd, iechyd corfforawl, nerth,
gwraig, plant, cymdeithion, cyfoeth
[td. 5] anrhyded', gallu, awdurdod, heddwch, esmwythdra, a diogelwch
dros amser, tra ryngo bodd iddo ef:
yr awrhon, os yr vnrhyw ddüw yma, a ddwg drachefn rai o 'r pethau
hynn, neu 'r cwbl, nid yw ef yn dwyn
dim onid yr eiddaw i hun, a 'r peth
yr ym yn d'ledus iddaw o honaw.
Erwyd' paham, y mae yn bechod anfeidrawl, dialeddus, furmur yn
erbyn ewyllys duw, neu wrthryfela yn erbyn i farnedigaethau ef.
Pen. 2.
Pob trwbleth, gorthrymder, ag adfyd, a ddanfonir arnom ni gann
ddüw, er cospedigaeth am
ein pechodae. YR awrhon beth yw 'r achos sy
yn peri i ddüw anfon adref hyd
attom, ac ymweled a ni drwy orthrymder, ing, a gofyd? am y pwnc yma, ystyr hynn yn dda: pa beth bynac
[td. 6] a hauddod', neu a ryglyddawd'
dyn, hynny oll a ddyle ef i d'erbyn,
a 'i ddioddef yn llawen, ac yn ewyllyscar: Holed, ag ecsamnied, pob
dyn i hunan, oni ryglyddawd' ef i
gospi, a 'i geryddu gan dduw, naill
ai am ryw bechod yspysol, yr hwn
a wnaeth ef yn bresennol, ne am bechodau a wnaeth ef ar amseroed' eraill: yr awrhon, yr arglwyd' ein
duw ni, ymhob bath ar gosbedigaeth, ac ymweliad, a ddengys ac a
fanega, drefn, ne ordr i gyfiawnder
a 'i anfeidrawl ddiclloned', a digofaint, yn erbyn pechod ag anwired':
can's ef a ddyweid yn yr ail gorchymyn, myfi 'r arglwyd' dy dduw di,
wyf d'uw eid'igus, yr hwn a ymwel
a phechodae y tadau ar y plant hyd
y dryded' a 'r bedwared' genedlaeth
os hwy a 'm casant, &c. Ac yn y pumed llyfr o Foeses: i rhifir yr oll
ddialeddau ar ol i gilyd', rhain a
dywelltir ar yr anwir, a 'r anuwiol:
[td. 7] ac yn y trydydd-ar-ddeg o Luc, i
doedir fal hynn, oni wellewch ych
buched' fe a 'ch cyfergollir chwi oll.
Ag fal i galloch weled yn eglurach, ac megys o flaen ych llygaid,
pa fod' y mae cospedigaeth, a phla,
yn ddyledus am bechodau, mae
duw yn gosod, ac yn rhoddi y cospedigaeth, yn gyffelyb i 'r pechod, fal i
gallo 'r ddau gydgordio, yn gystal
mewn ffurf a chyfflybrwyd', ac
mewn llun a chyneddf: er ecsampl:
mal ir halogod' Dafyd' wraig Urias felly ir halogwyd i wraged' ynteu drachefn: ef a barod' lad', Urias,
ac am hynny y lladdod' i fab ynteu
ei frawd ei hun, ag a godod' gynddryged', a digased' yn erbyn ei dad,
gann i hel a 'i ymlid allan o 'i deyrnas,
fal na ddichon neb ddatgan yn ddigonol, y dialed', a 'r trueni, 'rhain, a
fu ar ddafyd', a 'i bobl, am y cwylyddgar anwired', a 'r ffieidd-dra,
rhain a wnathe ef.
[td. 8] Yr awron ystyria, a ffwysa, megys mewn cowir glorian, yr vnionder yr hwn y mae duw o 'r naill du
yn i erfyn arnom, a hol' gwrs ein buched' nineu, o 'r tu aral': pe i buase hiliogaeth dyn, yn vfud'ol i gyfreithie
duw, ac heb yscogi oddiarnynt, e fuasse yn ollawl yn gwbl ddedwyd',
fendigedig, yn dragowyd': ag ni lygrase, ag ni wyfase [~ wywasai ] ymaith, fal
ffrwyth, ne lyssieu y meusyd': euthr
ef a yscogod', ag a gwympod' y tro
cyntaf o 'r dechrevad: yn rhieni, a 'n
henafieid cyntaf, a ddifrawasont, ag
a wnaethont yn ddiystyr, o orchmynnion duw, ac felly nineu trwy
i cwymp hwy, ydym lygredic, a
chlwyfedig, a 'n holl reswm, synnwyr, a 'n deuall a ddallwyd, a 'n ewyl'ys a wenwynwyd: i ddym yn clywed, ag yn cael ynom ein hun, anwireddus wnniae, a thrachwantae,
gan geisio ein chwant, a 'n pleser yn
y byd hwnn, yn erbyn sancteiddiol
[td. 9] air duw: ac fal pe i bae i assyn ymwisco a 'i ad'urnio i hun mewn croen
llew, a mynnu bod yn llew, etto i
hir glustieu sythion yn bryssur
a 'i datguddie, ag a 'i gwnae ef yn hynod: yn yr vn mod', er i nineu yn
trwsiadu, a 'n gosod ein hunain allan,
ag ychydig brydferth, a gogoneddus weithredoed', fal na ddichon neb
d'oedyd na bom ni yn gwbl wirion,
ag yn ddifeius mewn llawer o bynciau, er hynn i gyd, mae ynom galoneu budron, aflan, anwireddus, yn
llawn diofalwch, a dirmig o dduw,
gwedi ein rhoddi yn ollawl, i 'n caru
ein hunain a phob difrawch. Yr awrhon , os ni a ymgylchir, ne os ymwelir a ni, a chlefyd, tlodi, rhyfel, ne
gyfrysedd, ni ddylem ni roddi y bai
o hynn, vn, ar swyd'og, arall ar bregethwr ne wenidog gair duw, ne ar
y ffyd' a 'r crefyd', ne ar yr elfynav [~ elfennau ] a 'r
ser, ne ar dduw i hun, fal pe i bae vn
o rhain yn achos o 'r cyfryw ddialeddau:
[td. 10] megys ag na ddyle neb feiaw ar y Physygwr, (fal pe i bae ef
yr vnic achos, o ddwfrhaintieu llygredig o fewn y corff,) er i fod ef yn
i dwyn ac yn i gyrru allan o 'r cnawd
fal i galler yn eglur i gweled, euthr
drwg ymwreddiad, ac anghymedrawl ddeiad y gwr i hun, yw 'r
iawn achos, a 'r gwreiddyn o hynn,
felly ni ddylem ninneu roddi bai
ar dduw, o denfyn ef arnom ni, dristwch, penyd, a thrwbleth, eythr med'wl fod hynn, yn feddeginiaeth, ac
yn help addas, i 'n pechodae ni: a
ffob dyn a ddyle roddi 'r achos o
hynn, arno i hun, a 'i bechodau i hun,
ac nid ar ddim arall. A 'r ecsampl
hwnn a ddarfu i 'r gwyr sanctaid', a 'r
duwiol henafieit yn y cynfyd, i ddangos, i ddatclario, a 'i adel i ninneu,
gann roddi 'r achos bob amser, o orthrwmderae, ac o 'r cyfryw orthrwm
ofydiae, 'rhain a ddigwyddent yn
i hamser hwy, ar i pechodae i hunain:
[td. 11] mal i llefarod' Daniel y proffwyd:
o herwyd' ein pechodae ni, ag anwireddau ein tadau ni, i dinistriwyd
Caersalem a 'i phobl gann y sawl syd'
amgylch ogylch iddi: erwyd' paham
ny ni a ddylem wylo, ag alaru, a chrio
allan, och och, 'n hytrach 'n erbyn ein
pechodau, a 'n anwireddau ein hunain, nag yn erbyn y gwendid, y clefyd, ne 'r adfyd arall a 'r trwbleth,
'rhain i ddym ni yn i dioddef, o herwyd' ein pechodae. Cans os wylem
ne os tristaem eb fesur, a rheswm, pan
fo duw ddim ond gwneuthur cyfiawnder, ag vniondeb ar i elynion, pa
beth fydde hyn ond bod yn anfodlon i gyfiawnder duw a charu y peth
'rhwn y mae ef 'n i gasau? a beth yw
hyn, eythr gwir gyfiawnder, a daoni [~ daioni ]
duw, pann fo ef yn ceryddu, yn marthyru, yn darostwng, ac yn gorescyn 'n ollawl ynom, y gelynion pennaf
iddaw ef, a ninneu, hynny yw, ein
pechodeu ni? Gann hynny tristhau,
[td. 12] ag alaru heb fesur ynghanol ein ing
a 'n trwbleth, yw, yn dangos ein hunain yn gymdeithion i bechod, yr
hwnn yw y gelyn mwyaf i dduw, a
ninnev: erwyd' paham, ni a ddylem
yn hytrach foliannu duw, ac ymlawenychu yn ddirfawr, nid yn vnic 'n ein adfyd a 'n blinder, ond ynghyfiawn, a graslawn ewyllys duw,
cyfion (meddaf) am iddaw gospi pechod, graslawn, a thrigarog, am iddaw i gospi yn esmwythach o lawer, nac o gyfiawnder yr heuddasom.
Pen. 3.
Mae ein oll orthrymderae a 'n blinfyd, yn llai, ac yn esmwythach
o lawer, nag i mae ein pechodae ni yn heuddu. PA bryd bynac y byddo gwr yn
rhoddi yscafn, ac esmwyth gospedigaeth, ar vn a haeddod' a fae
drymach, y mae 'n rheswm iddaw i
[td. 13] ddioddef, a 'i dderbyn drwy ymyned': mal, vn a fo lladdwr celain, os
caiff ef ddiainc er i guro, ne i fflangellu allan o 'r dinas neu 'r dref, mae
ef yn cymryd hynny mewn rhann
dda, gann iddaw wybod yn dda
ddigon, i fod yn hauddu crog.
Y sancteidd-ferch Iudith, a dybiai fod holl gospedigaethae trancedig, yn esmwythach, ac yn llai nac
yw ein pechodae a 'n anwired'au ni.
Erwyd' paham, o goddefi dlodi,
glefyd, ne ryw wrthwyneb arall
ystyria, a meddwl ynot dy hun fal
hynn.
Dy amryw bechodae a haeddasont fil filioed' o weithiau, mwy
dialeddus cospedigaeth, trymach
dolur, mwy ofnadwy rhyfeloed',
carchar mwy aneirif i oddef: ac pe
i doe oll flinderoed' y byd, ar vnwaith yn vn pentwrr arnat, etto
rhyglyddaist waeth o lawer. Ti a
haeddaist yn dda oddef gwbl allu a
[td. 14] chreulondeb diawl, a damnedigaeth
tragwyddol, 'rhain er hynny a attaliodd, ac a dynnod' duw oddiwrthyt, o 'i wir drigared', yn vnic er
mwyn Iesu Christ: Hefyd, y neb a
gafes bob amser bethau da, llwyddiannus, ni ddyl ef ryfeddu, er
derbyn o honaw weithiau, anffawd,
ac adfyd: ie, plant, y byd hwnn a
ddoedant 'n ddiharebawl.
Ni wn ddyll iawn ddehellwch
i ddewr draw na ddaw awr drwch. Yrawrhon, mor drigarog yw
duw, ac na ad ef neb heb i obrwyo a
rhyw wobr, ne arall, yn gystal o flaen
gorthrymder, ac wedi, ie, ac ynghanol ein blinfyd, mae ef yn rhoddi
llawer rhod' ardderchawg, ac arbenigion ddonieu, yn gystal ar les ein
eneidieu ni a 'n cyrff, ysprydawl a
chorfforawl.
Ac am i ddonieu ef o flaen adfyd, a
gorthrymder, mae i ni siampl odidog o flaen ein llygaid, o Iob, gann
[td. 15] ddoedyd: gan i ni dderbyn cymeint
o lesant, oddi-ar law dduw, pam na
fyddwn ni fodlon hefyd, i dderbyn
y drwg? Hefyd Plinius yr ail, gwr
cenedlig, wrth ddiddanu, vn o 'i gymdeithion a fuase farw i anwylwraig
briod, ymhlith pethau eraill, a escrifenna fal hynn.
Hyn' a ddyle fod yn ddiddanwch
mawr iti (sef) cael, a mwynhau o
honot, berl mor wrthfawr, cyd o amser: can's pedair blyned' a deugain
y bu hi gida thi, ac ni bu erioed ymrafael, ymsennu, nac ymryson rhyngoch: a 'r naill, ni ddigiod' y llall, erioed: ie, ond yr awrhon ti a ddoedi,
mae o hynny y mae yn drymach ac
yn anaws genyt fod hebddi, am i
chwi fyw ynghyd, cyd o amser, mor
heddychol: can's prysur irr anghofiwn y pleser, a 'r cymwynase,
'rhain ni chowson ond tros fyrr
o amser. Ond i atteb hynn yma gochel, a gwilia, rhag dy gael
[td. 16] yn aniolchgar, os ystyri yn vnic pa
beth a gollaist, heb feddwl pa hyd i
cefaist hi y 'w mwynhau.
Ag hefyd mewn amser ac ynghanol ein blinfid, a 'n trwbleth, mae
duw yn rhoddi i ni ras i ystyried,
dawnus, a llwyddiannus bethau eraill, 'rhain sy genym a rhain yddym yn oestadol yn i mwynhau: fal
drwy goffadwriaeth ag ystyrieth o
rheini, ir esmwytheir, y lleiheir, ag
ir anchwanegir ein gofid a 'n poen.
Er ecsampl: bwrw dy fod yn
wann, yn ddirym, ac yn wr clwyfus o gorff, etto fe roddes duw iti
gyfoeth yn ddigonol, a da yn rhesymol i 'th gadw: ne os oes arnat
brinder ag eisieu da, a chyfoeth, nid
oes arnat er hynn ddiffig o iechyd
corfforawl.
Yrawrhon oni osodwn y naill
o hyn yn erbyn y llall, tebig ym i
blant bychain, 'rhain os damwain i
wr ychydig rwystro, ne dorri ar i
[td. 17] chwareu, ne ddwyn rhywbeth oddiarnynt, yn ebrwyd', hwy a esclusant y
cwbl, ac a gwympant i wylo: felly i
byddem ninne debygol i wneuthur,
pann ddigwyd' rhyw anffawd ini, o
digiwn ne o byddwn anfodlon, heb
gennym na chwant, nac ewyllys i
gymryd ac i fwynhau, y da rhwnn
syd' gennym.
Bwrw dy fod 'n ymddifad, ne 'n
ysbailedig, o bob diddanwch corfforawl, etto yn dy ddwyfron a 'th galon,
mae genyt wybodaeth o Iesu
Christ, yr hwn, a 'th ryddhaod' di o
vffern, ac o ddamnedigaeth, rhain
oeddynt ddledus iti: i bwy vn, nid
yw 'r ol' ddialeddae ar y ddayar fwy
mewn cyfflybrwyd', nag yw vn defnyn o ddwfr wrth 'r oll for.
Heb law hynn hefyd, trwy ffyd' i
ddwyd yn clywed ynot, obaith, a sicrwyd' o lawenyd' didranc, tragwyd'ol, fal i scrifenna S. Paul o hynn,
gan ddoedyd: barnu irr wyf nad yw
[td. 18] gofidiae 'r amser hynn, y 'w cystadlu
i 'rr gogoniant, a ddangosir i ni: mae
i ni siampl o hyn, o flaen ein llygaid,
o 'r mab treilgar, anobeithedic, yr
hwn, a 'i vfuddhaod', ac a 'i darostyngod' i hunan, fal na ddysyfai, ef mwyach i gyfri yn lle mab, eythr i droi i
weithiaw, fal gwenidog ne was cyflog, os yn vnic, e gae aros, ynhuy ei
dad. Felly beth bynag y mae duw
yn i anfon, ni a ddylem i gymryd,
yn ddioddefgar, os yn vnic i cenadheir, i ni breswylio ynhuy dduw, yn
y nefoed', gidac ef 'n dragwyddawl.
Yr awrhon, o tybia neb fal hynn,
nid yw duw yn ceryddu eraill, a
wnaethont anwireddau mwy dialeddus, a chymeint o blae echrys, a
doluriae, ag i cerydda ef ni: amarchus, ag anghristnogaid' yw ei feddwl ef o dduw: can's beth os wyd
di dy hun yn fwy anwireddus, na
neb arall? Ond bwrw fod eraill
yn byw yn fwy anwireddus, ac
[td. 19] yn waeth na thi, a wyddost di pa
wed' y mae duw, yn i cospi hwy?
Mwyaf, a gwaethaf poen, a chosb,
a ddichon fod, yw, cystud' oddimewn, a dirgel gosbedigaethae y
meddwl, rhain ni welir a 'r golwg
oddiallan. Ag, er na byddo vn tristwch, na dialed' yspysol yn eglur
yn ymddangos iti, ag er nas gwyddost ba beth y mae duw yn i feddwl
yn hynny, etto ti a ddylit, (mal
plentyn y 'w dad) roddi iddaw ef anrhyded', clod, a moliant, am iddaw
ef ddosparthu pob peth a chyfryw
ddoethineb, ac mewn cyfryw drefn
ac ordr: a phann welo ef i amser, ef a
obrwya, ag a ystyria 'r holl gyfryw
bethae, 'rhain a wnaethwyd ymlaen llaw, yn erbyn i gyfion, a 'i vnion gyfreithiau ef, megys ac ir haeddasont.
[td. 20]
Pen. 4.
Pob bath ar adfyd a ddanfonir, ac sydd
yn dyfod oddiwrth dduw, o feddwl cariadus, tadawl tuac attom. NId yw ddigon i ni wybod fod
pob bath ar flinfyd, yn dyfod
drwy ymyned', a dioddefiad duw, o 'i
gyfiawn farnedigaeth ef am ein pechodae ni: erwyd' yn eithawed' profedigaethae, ag yn yr angenion
mwyaf, fal hynn i bydd y meddylie,
a 'r dychmygion cyntaf ynom. Yn
gymeint ac i mi yn ddialeddus ddigio duw, drwy fy mhechodau, am
hynny i llidiod' ef wrthyf, ag aeth
yn elynn imi, ac a droes i ffafr od'iwrthyf: ac oni byd' i ni ragflaenu, a
thaflu ymaith mewn amser, y cyfryw wag feddylieu, a bwriadae ofer, hwy a wnant i ni ymwrthod, ac
ymadael a duw, gann i gasau ef, a
gryngan y 'w erbyn; megys i gwnaeth Sawl, 'rhwn a gwbl feddyliod'
[td. 21] ynthaw i hun, fod duw yn i geryddu
ef, o lid a digofaint y 'w erbyn: am
hynny calon Sawl a drod' oddiwrth dduw, ac a 'i gadawod' ef, ac a
ddechreuod' i gasau a 'i ffieiddio ef,
megys vn creulon. Gann hynny mae
y rhybyd' hwnn hefyd yn perthynu,
i 'rr cyfryw bynciau, i 'n dyscwyd
hyd hynn: sef, y dylem ni dderbyn
yn ddiolchgar beth bynag i mae
duw o feddwl tadawl, cariadus, ac
nid o ddim digofaint tu-ac attom,
yn i anfon ini, pwy vn bynac fyddo
ai hyfrydlawn, ai dialeddus i 'r
cnawd. Yr arglwyd' dduw, a ymwel a ni ac amserawl, a thrancedic
boenau, o dadawl a gofalus galon,
rhon sy ganthaw tu-ac attom, ac
nid o ddigased' a diglloned' i 'n erbyn. Canys duw a gymodir, ac a
gytunir a ffob Cristion drwy i fab,
ac ef a 'i car hwy o ddyfnder, ac o eigiawn ei galon: erwyd' paham pa
sut bynac, ne pa fod' bynac, i mae
[td. 22] duw i 'n ceryddu, ac i 'n cospi, nid yw
ef yn gwneuthur hynny o gasineb
arnom, fal pe i gwrthode ef ni, gann
ein taflu ymaith yn ollawl, eythr o 'i
fawr dosturi, a thrigared', er 'n derbyn fal ei blant, er yn cadw, a 'n ymddiffyn, er yn meithrin a 'n arfer, er
yn vfuddhau, a 'n darostwng, er yn
symbylu, a 'n gwthio rhag ein blaen,
fal y byddai i weddi, ffyd', ofn duw,
vfud'-dod, a rhinweddae erail' dyfu,
a chynyddu ynom, er anrhyded' iddaw ef, ag iechydwriaeth i ninne. Testiolaethae o hynn: yn gyntaf Ezechiel. 33.
Cynn wiried mae byw fi med' yr
arglwyd', nid oes gennyf bleser ymarwolaeth [~ ym marwolaeth ] pechadur eythr troi o honaw, a bod yn gadwedig. Yma mae
duw yn tyngu, nad yw ef yn cosbi
er 'n difa, ond er yn llithio, yn denu,
a 'n dwyn i edifeirwch.
Hefyd, y sawl a gar duw, ef a 'i cerydda, ac er hynny mae gantho bleser
[td. 23] ynthynt megys tad yn i blentyn.
Hynn sy destiolaeth eglur, nad yw
adfyd, trwbleth, a blinfyd, yn arwyddion o lid, a diglloned' duw, eythr
yn hytrach arwyddion sicr, o 'i rad, o 'i
drigared', a 'i ffafr, drwy bwy rai, y
mae duw yn sicr-hau i ni, i drigarog ewyllys, a 'i dadawl galon, tuac
attom. Drachefn fe a ddoedir, ni a
wyddom fod pob beth 'n cydweithio
i 'rr hynn goreu, i 'rr sawl a garant
dduw. Ac hefyd, fe a 'n cosbir, ac a 'n
ceryddir gann yr arglwyd, rhac yn
barnu yn euog gida 'r byd.
Hynn hefyd i gyd a greffi, ag a
ystyrri drwy holl stori Iob.
Yn yr vn mod', Ioseph a werthwyd gan ei frodur, ac a rod'wyd ynwylaw 'r anffyddloneit, o dwyll, a
chenfigen, drwy annog, a chyngor y
cythraul: eythr y ffyddlonaf dduw a
droes hynn er bud', a lles, yn gystal
i duy yr Israel, ac i holl frenhiniaeth yr Aipht. Cans felly y darfu i
[td. 24] Ioseph i hun ddeongl hynny.
Hefyd eglwys Ghrist, (sef yw
hynny) y gynelleidfa Ghristnogaid'
yr hon yw priodasferch crist, sy raid
iddi ddioddef adfyd a blinder, ar y
ddaear honn, ond yn gymeint a bod
düw yn hoffi priodasferch i anwyl
fab, ('r honn yw cynelleidfa y rhai
ffyddlon) mae ef yn bwriadu i chonfforddio hi, a bod yn ddaionus iddi;
gann hynny, megys ag i cyfodod' ef
i fynyd' o angau, Grist i gwr priod, i
ffenn, a 'i brenin, felly hefyd i gwared ef hithau o bob adfyd, gann roddi
iddi lawenychol fuddigoliaeth, ar
bob peth syd' y 'w gorthrymu: eythr
cyfryw yw gwaeled', a gwendid 'n
golwc ni, ac nas gallwn graffu, a
gweled drigarog, a charedigol ddaioni düw, dann i wialen a 'i scwrs.
Pa bryd bynac gann hynny irr
ymwelir a ni a blinder ne adfyd, yn
wir ein dled yw, yn gyntaf gydnabod a chofio ein pechodae, ac ystyriaw
[td. 25] hefyd iau, a gefynnae diawl am
bechod, ond ni ddylem ni farnu, na
meddwl o 'r cyfryw flinderoed', yn ol
meddwl, ac ewyllys diawl (rhwn o
frad, a meddwl maleisus, tu-ac attom, ni chais ddim oll, onid dinistriad ollawl, a chyfan wradwyd'
pob rhyw ddyn) ond yn hytrach ni
a ddylem farnu ac ystyriaw o 'r oll
flinderoed' a 'r gofydiau hynny, ar
ol meddwl duw, (ac felly i derbyn)
rhwnn o 'i fawr ddaioni, sy 'n i troi
hwy oll, er bud' a llesant i ni, gann
weithiaw drwyddynt hwy, ein perffaith iechydwriaeth ni.
A phle bynac ni ddichon y galon,
dderbyn y diddanwch hwnn (sef
bod duw yn ceryddu, ac yn cosbi, o
wir drigarog ffafr, a chariad arnom)
yna yn angenrheidiol, mae 'r profedigaeth, a 'r dialed' yn drymach, ac
yn fwy, a 'r dyn hwnnw o 'r diwed' a
gwympa, ac a syrth i ddirfawr anobaith.