Bryttaniaid a gynhaliassant yn gyfan goron
ynys brydain o amser bruttus y brenhin kyntaf
onaddvnt hyd pann ddoeth wlkassar y gwr a vu
gwedi hyny gyntaf amherodr yn rrufain: y 'w darostwng
hwynt yn amser kasswallawn ap beli mawr / ac y 'w
kymell I dalv tyrnged [~ teyrnged ] I Senedd rufain / O hynny
hyd att Seuerws Rrufeinwyr / Eissioes brenhinedd
a vu onaddvnt I hunain / ac o Seuerws hyd yn amsser
grassian pann ddiffygiodd llin frenhinol y brytaniaid
y tyrnassodd rrufeinwyr ynthi yn vynychaf / o 'r diwedd
pann beidiassant y rrufeinwyr a gwladychv / ac ymwrthod ar deyrnged / achos pelled y ffordd / neu oblegid pryssurdeb mewn lleoedd eraill / a chlybod o 'r
ysgottiaid a 'r ffichtiaid hynny, a bod yr ynys gwedi
gwagkav [~ gwacàu ] o / vaxen grevlon / a chynan meiriadawc
o 'i holl varchogion a 'i rryvelwyr / a myned a hwynt
I oresgyn llydaw / a rrufain / hwynt a ddoethant
i ryvelv ar weddillion y genedl y rrai ni bu wiw myned a hwynt allan o 'r tir oblegid i hoedran neu lescedd, namyn i gado gartref I bresswylio ac i lafurio 'r ddayar
[td. 26] Ac velly y buant yn Rryvelv bob un ar i gilydd
hyd pan ddoeth y Saesson i 'r tir yn amser Gwrthefyrn gwrthenav brenhin y brytaniaid: drwy eu gwahawdd o 'r
brenhin i 'r ynys hwynt / val y dywaid ystoria y
Saesson yn nerth iddaw i ryfelv ar y ffichtiaid ar i
kost hwynt / ac wedi bod llawer o gyfrangav kaled
Rrynthunt a gyru y ffichtiaid a 'r sgotiaid drwy nerth y ssaesson
allan o 'r tir / hwynt a ddanvonassant drwy genhiad y brenhin I Siermania i nol ychwanec o
Saesson / ac velly bob ychydic hwynt a gynhwyswyd i 'r tir hyd pann oeddynt ry amyl / Ac o 'r
diwedd yn amsser karedic frenhin hwynt a gymodassant yn ddirgel a 'r ffichtiaid ac a 'r ysgotiaid / ac
a ddanfonassant yn ddissyvyd i nol gormwnt brenhin yr affric: hyd yn y werddon / ac a vuant yn
rryvelv ar y brytaniaid yn hir o amser hyd pann
yrwyd hwynt o 'r diwedd i greigiav a diffeithwch
kymru / a hyny drwy frad a thwyll ac anffyddlonder:
yn vwy no thrwy vilwriaeth a chadernid arfau a
gwedi goresgyn o 'r Saesson holl loegr yn y modd hwnw
hwynt a 'i rranassant hi yn Saith brenhiniaeth
ac weithiav yn wyth / a hwynt a ddoethant o 'r
diwedd olynol yn un frenhiniaeth dann Elystan
frenhin westssex / Gwyr denmark Eissioes a vuant
ynghylch deng mlynedd a naw vgaint / o amsser athulphus
frenin
[td. 27] hyd amser Sant edwart yn rryfelv ar y Saesson
a XXX o flynyddoedd y bu dri brenhin onaddvnt yn gwladychv olynol / ac gwedi hwyntav y gwladychodd Sant Edwart
XXXIII o flynyddoedd ac ychydic mwy / ac wedi hwnw
herald ap godwin Iarll kent IX mis / a wiliam
bastart dvc normandi a 'i lladdodd Ef / ac a dyrnnassodd yn i le / ac o 'i lin Ef y mae brenhinedd lloegr
o 'r amser hwnw hyd att hari Seithved brenin lloegr
a 'r hari hwnw a hari wythved i vab yntav brenhin
lloegr a hanoeddynt o dwyssogion a brenhinedd y bryttaniaid o baladr Oed krist pan ddoeth wiliam bastart
i oresgyn lloegr 1066 neu val hynn M LXVI o flynyddoedd
Or ssaith brenhiniaeth vchod a 'i tervynav
ac o 'i dechrevad a phar hyd y parhassant
Er bod y bryttaniaid, o ddyfodiad y Saesson gyntaf
i 'r tir yn amser gwrthyfyrn hyd y brenhin diwaethaf
o 'r brytaniaid yn arwain y goron / ac yn oruwchaf
frenhinedd ar yr ynys oll / Eissioes yr oedd y Saesson
yn trigo yn y tir / ac yn i goresgyn bob ychydic / ac
weithiav yn rryvelv ar y brytaniaid / ac weithav dann
gyngrair yn talv treth a theyrnged vddynt hyd pann
aethant kyn amled a chyn gadarned yn y tir na
Ellid i gwrthladd o 'r tir namyn gorfod i 'r bryttaniaid
gilio i dir kymru ac i wledydd eraill val i dywedpwyd vchod o 'r blaen —
[td. 28] A chyntaf brenhiniaeth / vu gent kanys hono
a roes gwrtheyrn I hengest twysoc y Saesson
yr hon y Sydd yn Estyn o 'r mor deav hyd afon
demys ac ynthi y dechreuodd Ef bresswylio pann
oedd oed krist 457 o flynyddoedd nev val hynn
CCCC LVII / yr wythfed flwyddyn wedi ddyfodiad
Ef i 'r tir / ar vlwyddyn y doeth Ef i 'r tir oedd
yr ail flwyddyn o dyrnassiad gwrtheyrn / ac
oed yr arglwydd Iessv grist 449 o flynyddoedd
a 'r frenhinaeth honn a barhaodd 368 o flynyddoedd dann / 18 brenhin / hyd pan yrodd Egbert frenhin west Sex
bwrdredus vrenhin allan o 'i frenhiniaeth a 'i
rrwymo hi wrth i frenhiniaeth ef I hun
pan oedd oed krist 825 o flynyddoedd
Sowthsex oedd yr ail frenhiniaeth / ac o 'r tu
dwyrain iddi y mae kent / ac o 'r tu deav y mae y
mor ac ynys wicht / o 'r tv gorllewin y mae
hamsir / ac o 'r tv gogledd y mae Sowth rae
yno y gwladychodd Elle a 'i veibion gyntaf
yr unved flwyddyn ar ddec ar hvgaint gwedi
dyvod y saesson i 'r tir / a gwedi parhav o 'r frenhinieth
honn 231 o flynyddoedd dann bump nev chwech
o frenhinoedd yr aeth hi i frenhin West Sex oed kris[t]
yna 731 nev val hynn D CC XXXI o flynyddoedd
[td. 29] Est Ssex oedd y drydedd frenhiniaeth / ac or tu
dwyrain I hon y mae Ffraink / o 'r tv gorllewin y mae
Gwlad lundain / o 'r tv deav afonn demys / ac o 'r tv
gogledd y mae Sowthffolk a 'r brenhinedd o 'r wlad
honn o Sebertws hyd amsser gwyr denmark yn oes
dec onaddvnt a vuant yn talu teyhyrnged [~ teyrnged ] I frenhinedd Eraill mynychaf Eissioes y buant I
frenhinedd Mers / hyd pann rwymodd egbert frenin
Westsex hi wrth i frenhiniaeth Ef i hun ac
Erkenwinws gyntaf a wladychodd yno pann oedd oed
krist 492 nev val hynn CCCC LXXXXII o flynyddoedd
a 'r frenhiniaeth honn a barhaodd 261 o flynyddoedd
Estenglond y gelwid y bedwaredd frenhiniaeth
a hono yw Northffolk a Sowthffolk ac o 'r tu dwyrain a gogledd
iddi y mae y mor / ac o 'r tv rrwng gogledd a gorllewin
y mae Swydd gambrids / ac o 'r tv gorllewin iddi y
mae klawdd Sant Edmwnd / a Swydd hertffort /
ac o 'r tu deav y mae Est Sex / yn hon y dechrevodd
Offa frenhin wladychv / yr un flwyddyn ac i dechrevodd brenhiniaeth Est Sex / a hi a barhaodd dann XII
o frenhinoedd hyd pan las Edmwnd frenhin a meddianv o wyr denmark y frenhinieth honn a brenhiniaeth
Est Sex hevyd / gwedi hynny y gyrodd Edwart frenhin
Westsex
[td. 30] y kyntaf o 'r henw hwnnw kynn kwngkwest wyr
denmark oddyno allan / ac rwymodd y ddwy
frenhiniaeth hynn wrth i frenhiniaeth Ef i hvn
oed krist yna 921 nev val hynn DCCCCXXI o flynyddoedd
Pumed brenhiniaeth oedd westsex / a pharhevssa[f]
vu o 'r holl vrenhiniaethav / kanys iddi o 'r
diwedd y doethant yr holl frenhiniaethav Eraill / ac o 'r
tv dwyrain iddi y mae Sowth Sex / o 'r tu gogledd y mae afon
demys / ac o 'r tv deav y mae y mor / ac o 'r tv gorllewin hevyd /
yn honn y dechrevodd Karedic nev Sildrik o henw arall
a chynwric I vab wladychv yn gyntaf 60 mlynedd gwedi
dyvodiad y Saesson i 'r tir / ac oed krist 507 mlynedd
Kronigl dukliensis a ddywaid bod llawer o ymlladdav rrwng arthvr a Sildric / ac o 'r diwedd kymrud o
arthur i wrogaeth Ef a 'i law a rroi iddo hamssir a
gwlad yr haf i 'w kynal dano Ef / A gwedi hyny pann
gyvodes medrod yn Erbyn arthvr a chymrvd koron y
deyrnas, Ef a roes I Sildric Er bod yn nerth iddo
Saith o wledydd nid amgen Sowthssex / Sowthray bark
Sir / Wild Sir / dorsedssir / kernyw / a dyfnaint / a hynn
oll a Elwis Ef westssex / ac a vynodd i goroni mewn
modd peganawl [~ paganol ] ynghaer wynt arryssaeth o 'r tvedd
hwnnw a medrod a goroned yn llvndain o dwyll yn frenhin
[td. 31] ar y bryttaniaid / a llyna ddav gydymaith gymhessvr kanys
ni wyddid pwy ffalssaf ohonynt a gwir yw 'r ddihareb
pob kyffelib a ymgais —
Northwmbyrlond oedd y chweched frenhiniaeth
a 'i therfynav oeddynt / O 'r tu dwyrain a gorllewin y mor / o 'r tv deav y mae avon hwmwr yn Estyn
tv a 'r gorllewin drwy dervynav nottingam a 'i Swydd a
[S]wydd dderbi tv ac att afon mers yn Estyn / ac o 'r tv gogledd y
mae mor prydyn a 'r frenhiniaeth honn a ranwyd
gynt yn ddwy rann / tervyn y naill oedd o afon hwmyr hyd yn afon drin a 'r Rrann honno a Elwid
Deifr / a 'r Rrann arall oedd o afon drin hyd ymor [~ ym mor ] a Elwir werydd / a 'r Rrann honno a Elwir
Brynaich / ac weithiav y byddai frenhin ar bob rrann
weithiav Eraill un ar y ddwy a ffann oedd oed krist
47 / a / 500 / / mlynedd / ac ynghylch 100 mlynedd wedi
dyfodiad y Saesson i 'r tir y dechrevodd Ida ap
Eoppa wladychv brynaich / ac ar ddiefr y gwladychodd Alla / pan oedd oed krist 559 neu
val hynn /DLIX/ ac ynghylch ugain o vrenhinoedd o Saesson
a wladychassant yno /321/ neu val hynn
CCCXXI / o flynyddoedd
yn ddiwedd / dim
[td. 32] hyd pann laddodd gwyr denmark Osbert / ac Elle / y IX
vlwyddyn o 'i dyrnasiad ac y bu y tir heb freinhin VIII mlynedd / Eissioes
37 / o flynyddoedd wedi hyny y bu wyr denmark yno yn
tyrnassu / hyd pann ddoeth Ethylstan ap Edwart frenhin y 'w darostwng hwynt a lloegr i gyd dan i veddiant evhvn / ac Ef gyntaf o frenhinedd y Saesson
a wisgodd koron pann oedd oed krist /827/ o flynyddoedd a gwedi dyfodiad y Saesson /378/ o vlynyddoedd
Mers oedd y Seithved frenhiniaeth a mwyaf
oedd onaddvnt a 'i thervynav oedd / O 'r tv gorllewin afon ddyfrdwy ynghaer lleon / a hafren yn
ymwythic / ac velly hyd ymrysto [~ ym Mryste ] / O 'r tv dwyrain
y mor / o 'r tv deav mae temys hyd yn llvndain /
ac o 'r tv gogledd y mae afon hwmyr yn Estyn
tv a 'r gorllewin / ac oddyno hyd yn afon mers / ac
velly ar hyd hono hyd pann drawo yn y mor ger
llaw kilgwri yr honn a Elwir Wiral yn Saessnec
Krida ap Kenwoldws a wladychodd yno gyntaf 7
ugain mlynedd gwedi dyvodiad y saesson i 'r tir / a 'r
frenhiniaeth honn a Sefis /200/ mlynedd dann
bedwar brenin ar ddec / hyd pann yrodd gwyr denma[rk]
mark kolwolphws frenhin allan o 'i frenhinieth
a 'i Rroi I Burdred i 'w chadw hyd pann i gofynynt
[td. 33] Eissioes gwedi hyny y gyrodd Edwart gyntaf kyn
kwngkwest brenhin west Sex, wyr denmark allan
o 'r tir ac a 'i rhwymodd hi wrth i frenhiniaeth Ef i hvn
pann oedd oed krist /901/ nev hynn IXC I o flynyddoedd
Ysteddvae [~ Eisteddfâu ] Penaf yr ynys i archesgyb
Tair o Eisteddvae arch Esgobion oedd gynt yn ynys brydain yn amsser lles ap koel y kristion kyntaf o
vrenhinedd y bryttaniaid nid amgen / un yn llvndain
yr ail yn Iork / y drydedd ynghaer llion ar wysc /
athanvnt yr oedd /28/ o esgyb y rrai a Elwid yna
fflamines / dan arch Esgob llvndain yr oedd gernyw
a lloegr dann i hen dervynav / dann arch Esgob
Iork yr oedd yr alban dann i thervynav / a thann
arch Esgob kaerllion yr oedd gymrv dann hen
dervynav / a Saith Esgob a oedd ynthi / ac Er kanhiadv ac ordinio o Grigor __ o rvfain Eisteddva arch
Esgob lloegr yn llvndain ar ddyvodiad y Saesson
i 'r Ffydd val y bvassai yn amser y brytaniaid / Eissioes wedi marw grigor Ef a smvdodd [~ symudodd ] Saint
awstin y gwr a ddanvones i 'w troi hwynt i 'r ffydd
Eisteddva yr arch Esgob oddyno i gaer gaint Er
mwyn Ethylbert brenhin kent ac o gariad
ar wyr y dinas honno yr rhai a 'i derbyniassai ef
i 'r tir
[td. 34] Ac yno y trigodd yr Eisteddva honno hyd heddiw / Eithr
o vewn hynn o amser Offa vrenhin mers drwy i gedernid [~ gadernid ] a dioddefaint adrian __ o rvfain pann oedd
gynddrygedd rryngtho a gwyr kent, a Symvdodd yr
Eisteddva hyd yn lidssffild o gaer gaint / ac yno i bv
hyd yn amsser Kenuolphus y trydydd brenhin wedi Ef
y smvdwyd [~ symudwyd ] hi drachefn i gaer gaint. —
Eisteddva arch Esgob Iork a Sevis yn i lle yn wastad va[l]
yr ordeiniwyd gynta ond bod prydyn wedi tynnv I hvvudddod oi wrthi [~ oddi wrthi ] —
Eisteddva arch Esgob kaer llion
a Symvdwyd oddyno hyd ymyniw [~ ym Mynyw ] yn amser arthvr
frenhin a dewi Sant / Ac o 'r amser hwnw hyd att
Samsson arch Esgob y bv yno /23/ o arch Esgyb
a ffan vu varwolaeth vawr drwy gymry o 'r haint
melyn: y ffoes ssamsson a 'r palliwm gantho
hyd yn llydaw / ac mewn lle a Elwid dilens y
bv Esgob A 'r palliwm ssydd gyfran o arch Esgobwisc heb yr honn ni all neb rryw arch Esgob wnevthvr amrafael wassanaeth perthynol yw Swydd
a thebic yw i modd hayach I stola a llafn tenav o
blwm a vydd ymhob penn iddi ___ ac Esgob rrvfain a 'i
kysegra i hvn: val nad rryddach i lyc nac i arall
I theimlo hi no 'r karegl nev gorporas, ond a vo
mewn vrdde / ac o amsser Samson hyd amser
[td. 35] henrri vrenhin ap wiliam bastart, Ef a vu ymynyw [~ ym Mynyw ] 21/
o arch Esgyb o lesgedd nev dlodi, heb palliwm / ac Er
hynny Esgyb mynyw a gysegrynt holl Esgyb kymrv: a
hwyntav a 'i kysegrynt yntav: megis Swffraganiaid
iddo heb wnevthur ufudddod na darostwnedigaeth [~ darostyngedigaeth ] i
Eglwys arall o 'r ynys / ac o 'r amsser hwnw allan
drwy gymhelliad a gorchymun yr un henrri frenhin
y gorvu i Esgyb mynyw a holl Esgyb kymru vfvddhav a darostwng a chymryd i hordeiniad a 'i kyssegriad gann arch Esgob kaer gaint Ac velly nid
oes heddiw yn lloegr ond dav arch Esgob nev primat nid amgen / un ynghaer gaint / ac un yn Iork
a 'r kyntaf onaddvnt a Elwir primas holl loegr
a 'r llall a Elwir primat lloegr / Kanys pan dyfodd
ymrysson rryngthvnt yn amser wiliam bastart
pwy onaddvnt a ufuddhae i 'w gilydd: Ef a varnwyd drwy gytssynedigaeth yr un brenhin wiliam
bastart a holl esgolheigion y deyrnas wedi klybod y ddadlwriaeth a 'r rresymav o bob peth y rrai
y Sydd yn ysgrifenedic yn llyfr kronig a wnaeth
Rraniwlff pritton mynach o gaer lleon / uvuddhav
o arch Esgob iork a 'i Swffryganiaid I arch Esgob kaer gaint mewn pob peth perthynol i gadw y ffydd
[td. 36] A braint a dled eglwys dvw / a pha le bynac
yr ordeinio arch Esgob kaer gaint gyngor nev gymanva gyffredin dyvod o arch
Esgob iork a 'i swffryganied hyd yno / Ac ufvddhav
i 'r hynn a ordeinier o 'i kyd gyngor / A phann vo marw
arch Esgob kaer gaint:/ dyvod o arch Esgob iork
hyd yno / a chyssegrv gidac Eraill y neb a ddewisser yn arch / Esgob a phann vo marw arch
Esgob Iork y neb a ddewisser yn i ol Ef: a ddaw att arch
Esgob kaer gaint, ac a gymer i ordeiniad gantho /
ac a rydd lw o 'i broffessiwn ufudddod hyd y perthyn
A bid ysbys i bawb pannyw amlach oeddynt Esgyb
ar ddechrav y ffydd noc ynt heddiw / a llawer o 'i Esteddvaev a ordainissid mewn pentrefi bychain megis
I geissio lleoedd addas i ddvwiolder ac i vyfyrio Eissioes
wedi hynny yn amsser william bastart kwngkwerwr lloegr
o varn a chytvndec [~ chytundeb ] yr arch Esgob a 'r Esgyb hwynt a
ysmudwyd [~ symudwyd ] o 'r pentrefi i 'r dinessydd Enwoc / ac velly
Esgobod dorssiestr Saith milltir o rydychen a Symudwyd
i lingkol / Esgobod lidsffyld I gaer lleon / Esgbod tetfford i norwids Esgobod Sirbwrn I Salyssbri / Esgobod wellys i 'r badd / Esgobod gernyw i Exedr / a Esggobod Salessey i Sidsiestr /
Dan arch Esgob kaer
gaint mae /13/ o Esgyb yn lloegr a /4/ ynghymru [~ yng Nghymru ]
[td. 37] megis Swffraganiaid iddo nid amgen
Esgob
Rochestr a 'i blwyf Ef yw kent esgob llvndain a 'i blwyf yw Est Sex / mydyl Sex / a hanner
Swydd hertffort /
Esgob Sidssiesstr a 'i blwyf yw
Sowthssex / ac ynys wicht
Esgob winchestr a 'i
blwyf yw / Sothrey / a hamsir /
Esgob Salsbri a 'i
blwyf yw / dorssedssir / barksir / wildssir
Esgob
Exedr / a 'i blwyf yw kernyw / a dyfnaint
Esgob
y badd / a 'i blwyf yw / gwlad yr haf
Esgob kaer frangon / a 'i blwyf yw / Swydd gaer frangon / Swydd gaer
loyw / a hanner Swydd warwic
Esgob henffordd /
a 'i blwyf yw / Swydd henffordd / a llawer o Swydd y
mwythic
Esgob kaer lleon / a 'i blwyf yw Swydd
gaer lleon / Swydd ystaffort / Swydd dderbi / a haner
Swydd warwic / a chyfran o Swydd ymwythic / a rrann
o Swydd longkastr / nid amgen o afon mers
hyd avon Rupyl
Esgob lincol / a 'i blwyf yw 'r gwledydd rrvng temys a hwmyr / nid amgen / Swydd
lincol / Swydd laeSedr / Swydd notingam / Swydd northhamtwn / Swydd hwntingtwn / Swydd betffort / Swydd
bwkingam / Swydd rydychen / a haner Swydd hertffort
Esgob Eli a 'i blwyf yw Swydd gambrids Eithr
merlont a hari ap wiliam bastart a 'i hordeiniodd
hi gynta / ac roes y Swydd honn yn blwyf iddi
[td. 38] yr honn oedd gynt o vewn plwyf Esgob lincol / ac
ynghyvair [~ yng nghyfair ] hynny y rhoes yr un brenhin i 'r Esgob hwnnw dref yspalding
Esgob Norwids / a 'i blwyf
yw / Northffolk / a Sowthffolk / a merlond /
Hevyd pedwar Esgob yssydd dan arch Esgob kaer gaint ynghymrv [~ yng Nghymru ] nid amgen Esgob mynyw / Esgob llann daf / yn
y deav / Esgob llan Elwy / ac Esgob bangor ymhywy[s] [~ ym Mhowys ]
a gwynedd
Dan arch Esgob ac arch Esgobod Iork nid oes ond dav Esg[ob]
nid amgen Esgob duram / ac Escob kaerlil / a hari gyntaf ap wiliam bastart a 'i hordeiniodd hi gyntaf