Adran o’r blaen
Previous section


[Llyma yr ymddiddan a fv rrwng yr henwr a'r gwr ifaingk, Caerdydd 6, 83–4. ]


[td. 83]


Llyma yr ymddiddan a fv rrwng yr hen[wr] a 'r gwr ifaingk

Ar nawdd duw fy ewyrth heini
mi a mofyn[a] [~ ymofynnaf] chwedle a thi
dowaid vm ple mae dy wlad
gen i mi yn anllad dy holi
Da delych fab pvr enav
kadarn am hawl gwan a dav
afraid iti holi neb
ond am ateb kynghorav
Hyny sy arna fi eisiav
kyngor kall rag peryglav
mi a fvm ymhob [~ ym mhob] gwlad kyn hyn
yn ymofvn er ystyddiav [~ er ys dyddiau]
Pe rrown vt gyngor tyner
pe gwnavti les i lawer
allvt fod yn gras
kas yw 'r gwir ni charer
Dod vm gyngor synhwyrol
er nad wyfi on [~ ond] dyn ffol
fo gerir y gwir ymhob [~ ym mhob] man
heb na gogan na chanmol
na chanmol anllyfodraeth [~ anllywodraeth]
na farn yn erbyn kyfraith
kar dy dduw yn fwy na neb
paid a 'th ateb mabolaeth
beth am garv dyn bydawl
a gadv duw 'n ystronawl [~ estronol]
a rroi arian keimion swrn
wrth bob arddwrn fal hvdawl
beth ond tori gorchmynav
duw a dilid pechodav
mwy lles vt pen favt gwan
i rroi yn arian y fferenav [~ offerennau]
beth on [~ ond] tori llytyfon [~ lletyon]
gwyr a gwragedd priodolion
a 'i gyrynt wy rryd [~ ar hyd] y byd
heb fynd ynghyd tra kerddon
peth i dylvt ymgroisi
rrag na 'i nevthvr [~ wneuthur] na 'i beri

[td. 84]
[rryf]edd os gwnavt yn ddirgel
nad ae gythrel a thydi
[be]th ond kodi gwaed gwirion
digio iesv a 'i greawd [~ gread] a 'i 'rchollion [~ archollion]
a chael melldith yr holl saint
meawn [~ mewn] oer ddigofaint grevlon
na thyng i waed yr arglwydd
vn gair na gwir na chelwydd
na ddwg dyst yn erbyn gwir
rrag kael hir gyfeiliornrwydd
bydd di hygar gariadol
a ffar i bawb dy ganmol
ag na feddwl ddrwg vn dydd
di a gai lywenydd [~ lawenydd] nefol
pathelw [~ pa ddelw] i gwna yn fodlon
yr iesv a roeswyd yn grevlon
fo fv yr vn hoel drwy i draed
heb ddafn gwaed y 'w galon
wyl o difeirwch [~ edifeirwch] ag anian
dy bechod rrybvcha dda i 'r trvan
na fid gasach gynyt [~ gennyt] neb
na 'th wyneb di dy hvnan
hyny oedd dda i henaint
edrych i oedran ar dremaint
a gwnevthvd iawn am bob drwg
ag ydolwg [~ adolwg] maddevaint
nid mawr hwyrach i 'r llwynog
pen fai yn rrodio 'n nwynog [~ newynog]
o doe at iar ar fol bron
ladd y kowion na 'r keiliog
disymla bydd dda dy bwyll
a dibechod na rybvcha i neb dwyll
er mwyn na wn na ffa ddydd
na ffle i derfydd dy ganwyll
mae saith gelyn kyn kwynion
yn arbed yn erben [~ erbyn] fy nghalon
nid amgen na 'r saith bechod
sy yn gorfod y dynion
Er hyn fy ewyrth gwalld lwyd
ti a roist gyngor well na bwyd
er hyd i bon i yn dav ynghyd
ni wn yn y byd pwy ydwyd
O chefaist gyngor kariddol
heb ymliw a neb yn ol
a gwna les vt hyny o swydd
diolch i 'th arglwydd nefol
ag velly i tyrfyna [~ terfyna] hyny


[llyma ymddiddan a fv rrwng yr ysbrvd a'i gydymaith, Caerdydd 6, 85–7. ]


[td. 85]


llyma ymddiddan a fv rrwng yr ysbrvd a 'i gydym[aith]

Er bod yn anodd iawn fy nrrin [~ nhrin]
a 'm wyneb heb fa.. chwerthin
nid oes adwyth i 'm dilin
dy broffwyd wy o 'r vn iaith
a 'th frawd ffydd a 'th gydymaith
er duw na fydd ddrwg d' obaith
Gobeitha yn dda nos a dydd
ar fam y pvm llywenydd [~ llawenydd]
a bair vt nef yn dragowydd
Er bod yn rryfedd gen y byd
a ddoeda yn iaith ddybryd
i mae i bawb ran o 'r penyd
myn y gwr a ddioddefwys
y sy 'n vchel ymradwys [~ ym mharadwys]
mae fy iaith i yn gymwys
y gwr a fv yn y gadair gvr
yn godde gloes a dolvr
a wnel i bawb gymrvd synwyr
pen fo 'r ddwygoes yn ogyd
ag yn vn hosan hefvd
odid mab gwraig gwyn i fyd
a fyno gwnevthvr i les
a gweled mair f' arglwyddes
gwnaed yn fanwl i gyffes
kyffesv 'n llwyr wrth wr llen
a mynych geisio y fferen [~ offeren]
a wna 'r enaid yn llawen
y byb bach fy melldith vt
ti a 'm gedaist i 'm gofid
am fy nrrachwant [~ nhrachwant] yn y byd
ni wyr pen nag ymenydd
na llen na llyfr brith dofvdd
pwy gynta i 'r llywenydd [~ llawenydd]
ai 'r gwr traws anghyfarchvs
ai 'r forwyn falch ryfygvs
ai 'r tylawd gwan angyfnerthvs
ar fy ngair gwir a 'm llwyr gred
o 'r lan bigilidd [~ bwygilydd] a red
ni wyr neb ple mae i dynged

[td. 86]
...ddio merch Joseio
ddydd a nos lle bo 'n trigo
[a] ddengys y lle iddo
Gwae 'r wraig orwag i dillad
er golwg serch a chariad
a ddyko tifedd [~ etifedd] i gam dad
Gwae 'r gwr gorwag wrth rodio
o gwyr mae ef y piefo
er i gost a 'i gwrthoto
llety 'r nos a bwyd wrth raid
helpa dylodion ag ymddifaid [~ amddifaid]
a llyna ystor i 'r enaid
Gore gwascod ar fynydd
rrag glaw a gwynt a thowydd
i ddyn yw dillad newydd
Gore gwascod i 'r enaid
bwyd a diod i weiniaid
a hwnw a gaiff wrth i raid
fo bery dillad y nos
a roes y barwn hirnos
o hyd ddydd brawd ddydd a nos
trafel traed perindode [~ pererindodau]
a mynych ganv pedere [~ paderau]
y nef a ddwg i 'r eneidie
mawr yw 'r llvdded mwy yw 'r haint
gwnaed o hen hyd ifaingk
er duw wsaneth i 'r saint
Gwell keiniog ar dal allor
i wr er kanv yn y gor
na deg i gybydd angor
Odid kyfrwyddvd ar i les
hylithr pawb ar i afles
fo dwenir [~ adwaenir] drwg yn i fonwes [~ fynwes]
Er nad wyf wr safedig
mwy na throwynt blaen seithig [~ seithug]
onid tuw [~ Duw] nid oes feddig
mi a fvm meawn diffeithle
mwy na naw kant o nosie
yn aros vn pedere [~ paderau]

[td. 87]
am wator [~ watwar] yngydgristion [~ fy nghydgristion]
a 'i warthav ef yn wirion
a naeth [~ wnaeth] vm ddwyn penyd ....
nid amgen fy mhynydle [~ mhenydle]
na dwr aylyd ach
rrwng y goldfor a 'r indie
am ddwyn kam dystiolaeth
yr owan [~ awrhon] gwn fod yn gaeth
gwae fy nghalon rrag hiraeth
er bod y[n] meddwl llawer dyn
na henwaf iesv fy hvn
ag na beiddiaf i ofvn
er nas henwaf wrthvti
pena trigaredd yw imi
iesv grist rrag hir boini
ar fy ngair gwir a 'm llwyr gred
nid a kyngor ynghorff [~ yng nghorff] neb
mwy na 'r glaw yn y gareg
ag felly


[Mair Fadlen a'r kreiriwr, Caerdydd 6, 100–101. ]


[td. 100]
Mair fadlen mawr yw d' wrthie [~ wyrthiau]
moes dy gyngor i mine
beth a na [~ wna] tylawd am yscidie [~ esgidiau]
ag am ddillad a 'i kvddie
Y kreiriwr mae vt gydnabod
drvd yleni bwyd a diod
ag anodd kael y geiniog
mae 'n dda kyfarch i 'r drindod
Mair fadlen priod ifan
myddyges [~ meddyges] duw i hvnan
ti a wddost f 'ymddiddan
oes dim kyngor am arian
Y kreiriwr barabl digri
a wnel drwg arhoed o 'i gosbi
o bydd kyfion dy weddi
nid tylodach duw er rroddi
Mair fadlen drigarog
mae arna ofn fy mhechod
ti a 'mddiddenaist [~ ymddiddenaist] a 'r drindod
beth yw rrinwedd y gerdod
Y kreiriwr taer i 'mddiddan [~ ymddiddan]
oes vt gyngor onti [~ ond ti] dy hvnan
pen ddel y ddevdroed i 'r vn hosan
gwell yw 'r gerdod no 'r arian
Mair fadlen deg i ffen
ti a gerddaist dy bresen
ag a welaist beth yw lvsen [~ elusen]
onta [~ ond da] keiniog y fferen [~ offeren]

[td. 101]
Y kreiriwr taer i eirie
duw a gar dy weddie
oni bai gerdod ag yfferene [~ offerennau]
nid ae 'r enaid byth o boene
Mair fadlen o 'r betni
wy i 'th wsaneth yleni
dowaid vm para weddi
sy dda marfer [~ ymarfer] ohoni
Y kreiriwr da yw d' arfer
dowaid bevnvdd XV pader
yn ynwedig [~ enwedig] ar dduw gwener
o 'r pvm harcholl a 'r pvm prvdder
Mair fadlen o frynbvga
iti ferch i kyfarcha
duw a 'th garodd di 'n fwy
oes dim dialedd am draha
Y kreiriwr na fydd grevlon
gwyn i fyd a fo gwirion
ni char duw ddin o 'r dynion
a fo tyrhavs [~ trahaus] ag anghyfion
Mair fadlen da yw dy ffydd
duw a 'th gar di yn dragowydd
beth a dderfydd i 'r kybydd
ni roes gerdod ag nis rrydd
Y kreiriwr kowod [~ cyfod] d' wyneb
gwyn i fyd y gore i weithred
a fo hael a diniwed
y nef a gaiff yn ygored [~ agored]
Mair fadlen forwyn dirion
gwae ni nel [~ wnel] dy orchmynion
gweddi pawb yn i galon
beth a dderfydd i 'r swyddogion
Y kreiriwr gat t' [~ dy] ymofyn
mawr fydd trachchwant [~ trachwant] afradddyn
gwae ni ochelo i dri gelyn
ni ffery swydd ond blwyddyn

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section