[llyma ymddiddan yr enaid a'r korff, Caerdydd 6, 101–106.
]
llyma ymddiddan yr enaid a 'r korff
y korff yn dwydvd
Henffych well foneddigion
gwyr a gwragedd a meibion
a hefvd pob rryw ddynion
i chwchwi i doyda
mi a ddoythvm hyd yma
o herwydd fy mod yn ddoetha
[td. 102]
dyfod i rwy i 'ch rrybiddio [~ rhybuddio]
pawb a 'r sydd yma 'n gwrando
er mwyn duw i neb na ddigio
bid pawb onochi [~ ohonoch chwi] 'n ysbys
ar ymddiddan gwr kamweddvs
a fv gynt yn rryfygvs
Mowredd rryfig ar dda
balch iawn ag ysmala
tra fvm yn y byd yma
Mae fy ysbrvd i 'n kerdded
a 'm korff meawn bedd kayed
ar hynt fo gaiff pawb fy ngweled
Melldigedig fo 'r fam a 'm dygodd
a 'r tad a 'm ynillodd [~ enillodd]
heddiw ni wyfi hyfryd
yr enaid yn twydvd [~ dywedyd]
Pwy a glowa fi mor grevlon
yn dwydvd ymadroddion
duw a wyr kysvr fy nghalon
rwyti yn esmwyth yn gorfedd
meawn bedd o saith droedfedd
er a naethosti [~ wnaethost ti] o gamwedd
nid wyfi 'n kael nos na dydd
am vt dori dy gred a 'th fedydd
haner awr drigo 'n llonvdd
y korff
Tydi oedd i 'm kell nos a dydd
er pen gefais gred a bedydd
gynyt [~ gennyt] ni chawn vn awr lonvdd
yr enaid
O gnawd brwnt melldigedig
arnad ni chawn vnawr ddiddig
na ffasc na gwyl arbenig
[td. 103]
ni roddvti pen ddele 'r tylawd
er krist i geisio kardawd
ni chaid na bwyd na diod
y korff
Tydi oedd arna fi 'n feistres
fal llawforwyn arglwyddes
i 'm harwain i nevthvr [~ wneuthur] afles
yr enaid
Pob rrvw ddyn a fo krevlon
fo ddowaid ymadroddion
wrth ywllvs [~ ewyllys] i galon
y korff
oddima [~ oddi yma] nad elwy fi o 'm gorfedd
er a nevthvm [~ wneuthum] i o gamwedd
ti a wnaeth bob kynddrygedd
ag ar hynt waeth [~ fe aeth] yr enaid oddiwrth y korff
Mihangel a maelodd [~ ymaelodd] yn yr enaid / a 'r kythrel a
maelodd [~ ymaelodd] yn yr enaid
Mihangel a ddowod
Kilia gythrel heibio
a dos ymhell oddiwrtho
beth i rwyt yn i holi iddo
y kythrel
Ni naethe [~ wnaethai] wedi eni
erioed ond yn gorchmynion ni
am hyny rraid imi ddeisyf
mihangel
O 'm golwg gythrel melldigedig
yn enw 'r tad kysegredig
mae arnad olwg ffyrnig
arnad ni bydd neb kyredig [~ caredig]
y kythrel
dowch yn es [~ nes] y kythreiliaid
mae akw angel diriaid
rragom yn kadw 'r enaid
y kythrel
Pwy yw 'r vn a fai kyn howned [~ ehofned]
[td. 104]
arnom in [~ ein] tri a mynd a 'r ened
yn awr pe kaem i weled
bellach byddwn i smala [~ ysmala]
ar gael enaid y gwrda
er duw ni naeth [~ wnaeth] vn twrn da
byddwch lawen y kyfeillion
saeth a yscar fy nghalon
llyma fantais dda ddigon
yn 'y [~ fy] nghalon i bo 'r ffon
oni newch [~ wnewch] garn gystowkon [~ gostowcwn]
er hyn bawb yn fodlon
mihangel
I rwyfi yn gorchymyn yn ddiddig
yn enw 'r tad kysegredig
na neloch [~ wneloch] gam a 'r enaid gwirion
nes dowod ag ef garbron [~ gerbron]
mab duw yr ail person
a ddioddefodd dros enaid pob kristion
y kythrel
Nad el hvn ar fy llygaid
er a nelochi [~ wneloch chwi] o blaid
nes kael onofi [~ ohonof i] yr enaid
mihangel
fo gaiff pawb o wyr tre
ar hynt weled mawr wrthie [~ wyrthiau]
a chida hyny iesv a mair a ddoeth yno
Mair yn doydvd
er llafvr fy nwyfron
a 'r prvder a 'r dolvr krevlon
a ddioddefaisti ag a gefaisti yn dy galon
na fydd wrtho fo grevlon
Iesv
Chwi ellwch wybod yn ysbvs
oni bai fod yn gamweddvs
na byddwni 'n erbyn ych wllvs
Mair
dysyf [~ deisyf] i rwy wrth fy rraid
yn erbyn y kythreiliaid
yn y faentol bwyso 'r enaid
yfo [~ efo] ddowod weddie
ag a gymrodd ydifeirwch [~ edifeirwch] yn awr ange
ag a gafas dy gorff kysegredig dithe
drwy lan gyffes o 'r gene
dysyfv [~ deisyfu] i rwy fine
yn y faentol roi ymhydere [~ fy mhaderau]
[td. 105]
iesv
er a wnaeth erioed yn f' erbyn
tori 'r gyfraith a 'r deg gorchymyn
gan ych bod yn dost drosto 'n kalvn
kymerwchi o yn ddiwrafvn [~ ddiwarafun]
mair
Mihangel archangel o 'r nef
moes y faentol a 'r pydere [~ paderau]
a fv 'n pwyso 'r eneidie
bellach i rvm [~ yr ŷm] yn gobeitho
ple bynag i bo 'n treiglo
i rvmi [~ yr ŷm ni] 'n sikir ohono
llyma ddangos yn amlwg
i bawb y sy meawn golwg
trech gweithred dda na gweithred ddrwg
[td. 106]
Pawb a ddwyto gweddie
ag a gymro difeirwch [~ edifeirwch] yn awr ange
ag a gaffo gorff iesv grist drwy lan gyffes o 'r gene
nid a i enaid byth i 'r poene
a hefvd y sawl a roddo kardod
i 'r tylawd yn fwyd ne ddiod
fo a 'i kaiff i hvn dan amod
y korff
er i 'm henaid gael trigaredd
yma i bydda fi 'n gorfedd
ymhlith llyffaint a nadredd
mi a fvm gynt yn rryfygvs
a balch iawn a chamweddvs
heddiw mi a 'i gwn yn ysbys
llyma rybydd i bob kadarn
i ddechre fydd teg a gorwag yn hen llesc a gwan
myddylied [~ meddylied] pawb am grist a 'r farn
yr ange
pam i dwydi di hyny
kenhiadwr iesv wyfi
mae 'n rraid i bawb bryderv
y gwr kadarn
myn gwaed ryw nis predera
y neb a 'r nis gwelaf fi i weled
ble bynag i bwy 'n kerdded
ange
ange a ddaw 'n ddie rvw ddydd
i bawb a gaffas kred a bedydd
llyma ddigon o rybydd
llyma 'r amser i mado [~ ymado]
pob kadarn doed i wrando
rrag ofn i dduw ddigio
avr ag arian a thlyse
a ffob amriw [~ amryw] bethe
a ddwg yr enaid i 'r poene
onis gesyd i 'r ffordd ore
i 'r tlawd mwya i angenrreidie
y korff
llyma ddiwedd y chware
a duw a ro llywenydd [~ llawenydd] i chwithe
a ne [~ nef] tragwddol [~ tragwyddol] i 'r eneidie
amen