Adran o’r blaen
Previous section


Vy ngharedic bobyl yssbyssv ychwi
mae heddiw yw yr ail ssul o 'r grawys
glan yr hwnn gristnogion da val y byochwi
yn ewyllyssgar y vod yn lan ac yn onest
ymarddel a 'r byd bellach y dlywn ninev vod
yn vwy yn pryssyrdeb y wnaythyr yn henaide
yn lan Yr amsser hwnn a ordainiwyd y lanhav
yn kidwybod rac pob ryw enwiredd ac rac
pechodav brychoylyd [~ brycheulyd ] val y gallom ni dduw
pasc vod yn kidwybod yn lan y gymryd yn
harglwydd ni Iessu grist attom Val y mae

[td. 129]
saint pawl yn dywedyd yn yr abostol
_______________________
hynn yssy ewyllys gan dduw vod ohonochwi
mewn trallod ac yn santaidd y 'ch glanhav
ychvn y haeddy bodd duw ac y weddiaw arno
ar vod yn llestri ni yn lan nid amgenach
no 'nn kalhonne erbyn dyfod yr arglwydd Iessu
grist attom Velly y kawn ni ddwyn ar ddyall
mae yn kidwybod ni yw ef Ac yn wir y
neb a vo a 'i lester yn lan a verkir hyd dydd
brawd ac yno yr agorir dy lester di val
y kaffo yr holl vyd weled beth yssydd ynghadw
gennyd ai tec ai hagr Eithr y neb yssydd
yn dyfod a 'i lester yn lan ger bronn y
brawdwr a gaiff y lywio Pa vodd y gelly dydi
gadw y llestyr hwnn yn lan Yn wir
gwnaythyr val y mae yr eglwys yn y erchi
Ensampyl o wr da bycheddol a elwit
Iacob yr honn ystori yr ydis yn i harver yr
wythnos honn Ac i 'r gwr hwnn yr oedd dad
a elwit Eissac a mam a elwit
rebecka Ac ef a aned iddi ddav vab ar
vnwaith ac vn ohonynt a elwid esaw
yr hwnn a anassid yn gyntaf a 'r llall a
elwit Iacob Eithr gristnogion da yr ystori
honn yssydd hir ond nyni a gymerwn

[td. 130]
yr hwnn yssydd angenraidiol ty ac at
yr enait Eithr ef a roes yr arglwydd
ras mawr y 'r gwr hwnn Eissac megis pa
amsser bynnac y roe ef y vendith y vaibion
y dywgiav [~ diwygiai ] yddynt Ac yn achos bod Eissac
yn hen ac yn wann ac yn ddall ac yn
agos y ddiwedd y oes
Essaw kerdda y hela y mi vwyd val y gallwyf
y vwytta
val y gallwyf i roi y ti vy mendith kynn
vy marw Eithr pan aeth essaw ymaith
y dayth Iacob wrth ddysc y vam ac y kymerth
ef vendith y dad ac y dywad y dad wrtho
___________________
bydd di arglwydd ar dy holl vrodyr Ac y
gwnaeth ef Iacob yn aer iddaw ac a 'i bendigodd
a phawb a 'r a 'i bendigai yntev ||
Eithr pan ddayth essaw y dre y kasshaodd
ef y vrawd Iacob ac a veddyliodd y ladd
Ac y gwnaeth Iacob wrth gynghor y vam
nid amgen myned allan o 'r wlad at ewyrth
oedd iddo a elwit laban Ac val yr
oedd ef yn kerdded mewn gwlad anghyfiaith
a ffobyl velldigedic ni lefaissai ef hir
drigio gidac ef ac ni chai ef ond gorwedd
ar vayssydd ac ar ffyrdd Ac velly y

[td. 131]
roes ef garec dan y ben ac y kysgodd
___________________
A thrwy y hvn ef a welai yssgol yn kyrhayddyd
o 'r ddayar hyd y nef
_______________________
ac engylion o 'r nef yn tramwy ar y hyd
Ac y klywe ef dduw yn dywedyd wrtho myvi
yw arglwydd abram ac eissac a myvi
a ro y ti y wlad honn ac a vyddaf gaidwat
arnad Ac y dyffroes Iacob ac y dywad
________________________________
Yn wir y mae duw yn y lle hwnn ac yn
anwybod y mi Ac velly yr aeth ef ymaith
at y ewyrth ac y by ef gydac ef vgain
mlynedd mwy ac yno y dyweddiodd y ddwy verched
vn a elwid ragel a 'r llall a elwir laia
A chwedy y vod ef yno yn gyhyd a hynny ef
a ddamynodd vyned y dref y wlad ehvn Ac
ef a gymerth gidac ef y wraic a 'i blant a chwbyl
ac yr aeth ymaith Ac yna y dayth
eneirif o engylion y helpv ef Eithr pan
ddayth Iacob o vewn ryd y herchis ef y bawb
ac a oedd gidac ef vyned o 'r blaen ac i
tariodd yntev yn ol yn i weddi Ac val yr oedd
ef yn gweddio yr ymrithioedd angel gair y
vron ar lyn gwr ac a 'maelodd ac ef ar hyd

[td. 132]
y nos hyd yni oedd ddydd ac a 'i kymerth ef
erbyn llyssewyn y vorddwyd ac a 'i gwnaeth
ef yn gloff tra vy vyw Ac y gofynnodd yr
angel y Iacob beth oedd y henw Ac y dywod
yntav mae Iacob y gelwir || Nac ef heb yr
angel ni 'th elwir di velly mwy Eithr Issrael
vydd dy henw di Ac y kroesses ef ac y gadewis
ef yno yn gloff byth o hyny allan Ac er
hynny ef aeth y dre yn anrydeddys Eithr gristnogion
da yr estori honn yr ydis yn i darllain
yn eglwys duw er sampyl y bob kyfryw wassnaethwr
a ddamvno kael bendith y dad
nid amgen no 'r tad o 'r nef Y mae yn raid
y chwi vod yn gyntaf a 'ch enw yn Iacob a
chwedy hynny Issrael Eithr nyni a ddyallwn
mae yr ymaelyd oedd Ac Issrael y wr yn
kaissio gweled duw Kans pwy bynnac ac
aissio [~ a geisio ] gweled duw raid yw iddaw ef ymaylyd
ar y ddayar honn nid amgenach noc
a 'r knawd ac a 'r angel drwc yssydd yn dy
ganlyn Yn enwedic pan wnelych di bechod
y gyrr y kythrayl ynod ti gywilydd
yn dy galhon rac y ddywedyd wrth neb ac
velle [~ felly ] y mae yn raid y ninav ymafael a 'r
kythrayl ar knawd a 'i gorchvygv nid amgen
no dywedyd allan yn pechodav o gwbyl

[td. 133]
Ac yna y bydd kywilyddys y kythrayl ac ofnoc
Ac y mae yn raid yd wnaythyr dy benyd
a chyngor dy dad enait A chymryd sampyl o 'r
wraic hynn val y mae yr evengil yn dywedyt
___________________________
Ac velly y dayth y wraic honn ac y kyfarvy a 'r
arglwydd ac y gofynnodd iddo am help y 'w merch
yr honn oedd y kythreyl gwedy kael gwall erni
Ac y dywad wrtho
____________________________
Iessu mab duw trygaroc dy drygaredd a
archa Ac yr attebodd yr arglwydd hi
____________________________
_____________________ nid ta [~ da ] kymryd y
bara ymborth y 'r hai bychain a 'i vwrw y gwn
nev i gynawan
__________________________
Nac ydiw arglwydd kans ef a gaiff y kwn
a 'r kynawon y briwsson a syrthio dan vyrdde
yr arglwyddi || Ac y dyfod yr arglwydd wrthi
__________________________________
o wraic da yw dy ffydd di a bid y ti val
yr wyd yn i ofyn Ac velly yr aeth yr anysbryd
ymaith o 'r verch a hi a vy Iach Eithr
dwyn ar ddyall ychwi gristnogion da oblegit
y gwr hwnn a 'r wraic dy vod ti yn trafaely
rwng y pechod a 'r kythrayl nid amgenach

[td. 134]
no meddylio am gyffessv wrth dy dad enait
yn llwyr heb arbed dim er kywilydd nac er
rybywck nac er ofn Ac velly y by ef diofal
y mafael a 'r kythrayl A hevyd yn wir pob
kristion a syrthioedd iddaw wnaythyr pechod
ef a ddyly na chymero ef segyryd yn i galhon
yni gyffesso yn lan Ac yno ni bydd trwbyl
arno na rwng y gidwybod a 'r kythrayl Ac
val y kny kenav Ievanck asgwrn velly y kny
y kythrayl bob dyn dayarol a 'r a vo marw y
mewn pechod marwol ac a allo y gyffessv a
heb y wnaythyr val y kaf i mewn ensampyl
o wraic

Mi a gaf yn ysgrifenedic vod gwraic gynt
gwedy gwnaythyr pechod arythr a hi a vynne
gael y gyffessv pei baiddie Ac velly y dayth
yr arglwydd etti yn i gorffolaeth ac y dywad
wrthi vy merch paham nad ydwyd ti yn
kyffessv dy bechod Ac y dywad hithav arglwydd
nis gallaf rac kywilydd A 'r arglwydd a ddywad
wrthi moes y mi dy law Ac y roddes ef
y llaw hi yn yr archoll oedd dan ben y vron
a 'i gwthio y mewn hyd y galhon ef gan ddywedyd
beth wraic a glywy di yna || Ac y krynoedd
hi rac ofn ac y dywad o arglwydd
mi a glywaf dy galhon di Ac yna y dywad
yr arglwydd wrthi na vid arnad ti vwy o

[td. 135]
gywilydd o ddangos dy galhon y mi no minav
y tithav Ac velly yr aeth yr arglwydd
ymaith A 'r wraic honn a edrych ryngti a 'r
gole a hi a welai y llaw yn waedlyd ac y
kaissioedd hi y golchi Ac nid ae ef ddim oddyno
yni aeth hi at y thad ysbrydol y gyffessv
Ac yna yr aeth y llaw hi yn lan val yr oedd
yn y blaen a hithe yn lan o 'i holl bechodav
Ac velly yr aeth hi y 'r llawenydd a bery byth

Vy ngharedic bobyl yssbyssv ychwi
mae heddiw yw y trydydd sul o 'r grawys glan
Val yr wyf i yn darllain yn yr evengil
__________________________
val y byrioedd yr arglwydd gythrayl o wr mvd
A phan aeth y kythrayl allan
ac ymddiddanodd y gwr hwnn Eithr gristnogion
da y gwr mvd hwnn a allaf i y gefflybv
y bob dyn nid oes ally ganto y gyffessv a 'i
enav nac y lanhav ehvn Eithr tario yndynt
o ddydd i ddydd yn hwyaf ac y gallont Kans
y mae llawer dyn o wyr a gwragedd oni
bai rac kywilydd y byd ni chyffessynt y grawys
nac y maes o 'r grawys Ac yn wir yr haini y
mae y kythreyl gwedy kael gwall arnynt
Ac er duw y sawl yssydd heb ddyfod y gyffessv
dowch ych glanhav ac y vwrw y gwr mvd ymaith

[td. 136]
oddiwrthych ac o 'ch meddwl Ac na
veddylied neb na bo arno lawer o vaych yn
enwedic trwy na bo arnad onid pechodav
meddwl Yn wir llawer meddwl llawer atgassrwydd
llawer anydon a ddoyth dros dy enav
Yn wir myvi a wnn na ddaw yn ych kof chwi ddywedyd
y kwbyl kans hir y byoch heb gyffessv
Eithr vy ngharedic bobyl pob pechod anwybod
a 'r a wnaethoch onis kyffesswch
chwi ef ryw amsser ni chewch chwi esgys am
dano ef ddydd y varn Kans yn gyntaf dim
ac y gellych gwedy y gwnelych di yn erbyn
duw a 'r yssydd eniwed y 'r enait yn vyan y
dlywch chwi ddyfod ych glanhav tra vo y pechod
mewn meddwl Ac ni ddowchwi oni el ef dros
gof ac er hynny pan ddeloch chwi a vyddwch
vyd y gyffessv kans yr ysbryd drwc yssydd yn
peri hynny Ac yr ydychwi yn tybiait nad
pechod geirav digrif y beri chwerthin a thyngv
mawrllw Yn wir yr ydychwy yn tybiaid
nad ydiw hynny mewn eniwed y 'r enait
Val y mae sain pawl yn dywedyd
_______________________________
yn wir o dywedaf ychwi y bydd raid ywch
roi kyfrif am bob gair over a 'r a ddywedyssoch
er Ioed ac ni adewir vn haibio heb ddwyn
dialedd amdano ddydd brawd Ac er duw

[td. 137]
paidiwch a 'ch gwatwargerdd a 'ch overedd Ac
os chwi a wna yr hwnn yssy dda gan dduw
chwchwi a dyngwch moliant a moliant y 'r
neb a 'i dywetto Kans y tafod a ddengys
ewllys y galhon yn gyntaf mewn meddwl
a 'r ail mewn gwaithred A hynny a wna
y 'r bobyl syrthio mewn pechod
___________________________
Yn gyntaf ef a demtir y dyn y wnaythyr
wrth ewllys meddwl
A 'r ewllys a gynnyll y pechod
___________________________
Ac yn wir pan ddarffo gwnaythyr y pechod
hynny a 'i pair ef i 'r poenav tragwddawl ac
yn vnwedic yr hai a watwaro y kidgristnogion
Kans mawr yw y pechod hwnnw

Mi a gaf yn yssgrifenedic vod my nnaches
santaidd ac yn lan vorwyn heb ogan
iddi oddiwrth bechod godineb Eithr
na vedrai hi ond son a dywedyd gairav amherthynas
ty ac att hynny Ac velly y nos
gwedy y marw hi y gwelai y chwiorydd hi vagad
o anyssbrydoedd yn dyfod lle y kladdyssid y
korff a 'i godi y vynydd a 'i esgyrio ac ysgyrssiav
tanllyd o 'i harffed y vynydd yni oedd hi
kyn ddyet a 'r glo ac o 'i gwregis y waered kyn

[td. 138]
wnned a 'r eira ac anyssbrydoedd heb allel
aniwed [~ eniwed ] iddi Ac ydd oedd ddwy o 'i chwiorydd hi yn
kadw yr eglwys gwedy kodi y vynydd hanner nos
y wssnaethv duw kyn kodi y llaill y vynydd
A phan glwssant hwy y nad hynn ofnhav a
wnaethant yn vawr Eithr ef a roes pob
vn ohonynt gyssyr y gilydd a dyfod ty ac
etti a wnaethant a gofyn iddi paham yr
oedd hi yn yr agwedd hwnnw Ac y dywad
yr ysbryd wrthynt yn wir chwi a wddoch vy
mod i yn lan oddiwrth bechod yn y byd
Eithr yr oedd yn ewyllyssgar gennyf i son
am bechod ac o 'r achos hwnnw yr wyf i
yn y boen honn oni wneloch chwi ych gweddi
drossof i Kans trwy ych gweddiav chwi y mae
gallel vy helpv ac ymwagelwch chwithav
 rac y kyfryw bechod hwnnw Ac yr ywan y
gellwch chwi weled y perigl yssydd am
dano ac am ddywedyd masswedd ac oferedd
Val y mae yr ebostol heddiw yn dywedyd
______________________
kossba dy gnawd rac anwiredd a bydd yfydd
a char dy dduw yn vwy no dim a bydd heddychlon
a gwna ddayoni a darestwng [~ darostwng ] y 'th
gid gristion Kans yfydd vy grist a llawer o
ysgorn a ddioddefoedd a gwatwar Ac ef a 'i
kymerth yn yfydd ac mewn kariad pryffaith

[td. 139]
er roi enssampyl y 'r kristnogion y wnaythyr
y gyfryw Eithr pwy bynnac a vynnai vyw
yn ddwyfol ac yn gywir nis kayff rac pobl
ddrwc genvigennys A phwy bynnac a ddioddefo
yn yfydd y mae ef yn verthyr ger bronn duw
Ac er dwyn ar ddyall ychwi

Mi a gaf yn ysgrifenedic mewn bychedd
gwr santaidd a elwir Iosseph a ddioddefodd lawer
o vlinder Eithr val y delai vlinder
arno ef a 'i dioddefai yn yfydd Ac o 'r achos
hwnnw yr oedd ef mewn anrydedd mawr val
y kewch y glywed Eithr y mae yr estori
honn yn ry hir ond nyni a gymerwn yr
hwnn yssydd anghenraid ar hynn o amsser
Ac y 'r gwr hwnn yr oedd dad a elwit Iacob
ac y 'r gwr hwnn yr oedd ddayddec o vaibion
yn vrodyr I Iosseph Ond ef a 'i karai y dad
ef yn vwy noc vn o 'r llaill ac am hynny
nis karai y vrodyr ef yn gymaint ac
o achos gweled ohonaw ef vraiddwyd ac y
gwyddiav ef y gorvyddai arnyntwy wnaythyr
iddaw ef anrydedd ac y byddai arglwydd arnyd
Ac velly y kymerssant hwy y kyngor
ac y dywedassant

[td. 140]
Ni awn ac a 'i lladdwn ef ac etto ofni
duw a wnaethan Eithr ni a 'i gwerthwn ef
y iegipt
Ac velly y gwerthassant hwy ef er xxx d
o arian val y gwerthassit yr arglwydd Ac
o 'r achos hwnny y by dduw gidac ef ac
y prynodd pontiffer ef ystiwart brenin tir
egipt Eithr yr oedd genvigen gan y kythrel
wrth Iosseph megis y temtodd y kythreyl
arglwyddes hwnnw y garv ef yn vawr
____________________________
Ac velly yr edrychodd yr arglwyddes ar Iosseph
ac a gymerth afael yn i law ac yn ael
y vantell ac a ddywad wrtho dyred ti ataf i
y gysgv A phan wyby ef y meddwl hi ef a ffoes
ymaith ac adewis yno y vantell Ac
yna pryd na welas y wraic amgenach no
hynny y kriodd hi yn ffest ac y dywad wrth
y gwr wely di val y kaissiai Iosseph gyssgv
gida myvi Ac y peris yr arglwydd roi Iosseph
yngharchar yn y lle I roessai ffaraw y vwtler
a 'i bobydd A phan syrthiassan y gyssgv y gwelynt
vraiddwyd ac y dywad Iosseph y roi
y brenin y vwtler yn y lle y byassai ef
yn y blaen kyn pen y trydydd dydd ac y
krogid y pobydd kyn pen y trydydd [dydd]

[td. 141]
Ac val y dywad ef yddynt y by Ac velly ef
a hapiodd y 'r brenin weled braiddwyd [~ breuddwyd ] ac ni wyddai
neb ddim o 'i dyall na 'i deongl Eithr
wrth gyngor y bwtler y danvones ef yn ol
Iosseph a phan ddywad y brenin y vraiddwyd iddaw
y dywad Iosseph vod tyw yn darbod o
honaw vn vawr ac y doe amlder saith
mlynedd yn ol hynny o bob peth ac wedy
hynny drydaniaeth saith mlynedd eraill ac
y byddai y bobyl heb ddim gantynt Ac velly
y dyfod y brenin ni wnn i neb a vetro roi
kynghor wrth hynny ond tydi a mi a 'th wnaf
di yn orychel ystiwart ar vy mrenhiniaeth I
Ac yna y peris yntav wnaythyr ysgyboriav
mawr kedyrn a chasgly yr yd hyd ymhen saith
mlynedd a llenwi yr esgyboriav yn ffest A phann
ddarvy y saith mlynedd kyntaf yr oedd
yn esgant y ffrwythav yn y byd Ac y klyby
Iacob y dad vod yt ar werth yngwlad egipt
ac y dannvones Iacob ddec o 'i vaibion y brynv
yd A phan ddoethant yno a gweled Iosseph
y syrthiassant y lawr ar y gliniav y anrydeddy
ef val y gwelssai ef y vraiddwyd Ac ni wyddyent
twy nad arglwydd y tir oedd ef Eithr
ef a 'i ddnaby Iosseph hwynt yn hyssbys ac y

[td. 142]
dywad ef wrthynt yn lladin surgite kodwch
y vynydd ysbiwyr ydychi a ddayth yma y vredychv
y tir Ac y gwadassant hwynte yn galed
ac y dywedassant mae plant oeddynt yr vn
gwr a bod yddynt vrawd arall yn re [~ nhref ] a bod
yddynt vn arall heb wybod ble a hwnnw oedd
Iosseph Ac er gwybod gwirionedd ef a beris
rwymo vn o 'i vrodyr a elwid simon ac a ddyfod
y gorvyddai arno drigio gidac ef hyd
pan ddelynt hwy a 'r brawd oedd yn re [~ nhref ] yno
Ac velly y peris ef yn gyddiedic lawn y
ffetanav hwy o 'r yd a roi y harian yn y ffetanav
ymysc yr yd heb wybod yddynt Ac
velly pan ddoythant y dre at y tad a thywallt
yr yd o 'i ffetanav y kawssant y harian Eithr
yr oedd yn drwm gan y dad am simon y vab
adawssent hwy yn ol yngharchar a hevyd trymach
oedd ganto orvod arno ddanvon beniamyn
y gyrchv y vrawd at Iosseph Eithr pan
ddayth beniamyn ger bron y vrawd ni alloedd
y vrawd attal y wylo o achos nad oedd ef
yn kymryd y llaill ond hanner brodyr iddaw
A phann bringhaodd yr yd gida Iacob y gorvy
arno ddanvon beniamyn y gyrchv mwy o 'r yd
Ac yno y dilyfrodd Iosseph y vrawd oedd yngharchar
allan ac y peris ef yddyn vyned y

[td. 143]
vwytta ac y llenwid y ffetanav hwynt o 'r yd
Ac yn gyddiedic ef a barodd Iosseph roi ffiol
arian yn yn [~ un ] o 'r ffetane a vyssai gan y vrodyr
yn yved diod ac y herchis ef yddynt vyned
ymaith Ac wedy hynny y dannvones Iosseph
y bwtler ar y hol ac y dywad wrthynt mae
kam oedd yddynt ddwyn ffiol yn lledrad o 'r lle
y kewssynt sir vawr a chresso Ac yno yr oeddynt
yn brydd ac y dywedassant nad velly y bysse Ac
yno y datodoedd ef y ffetane hwynt ac y kafas
y ffiol yn ffettann beniamyn ac y doethant twy
drychefn at Iosseph dan wylo A phan y gwelas ef
hwynt yn wylo a 'i vrawd ehvn beniamyn
yn wylo yn vwyaf e gyd o achos kael y ffiol gid
ac ef ac yna y herchis ef yddynt gymryd
a sir dda kans myvi yw ych brawd chwi Iosseph
ac na vyddwch ofnoc Y byant hwy yn trigio
gyd a 'i brawd yn hir o amsser Eithr gristnogion
da yr ystorri honn yr ydis yn y darllain yn
eglwys duw yr wythnos honn yn enssampyl
y bawb vod yn yfydd ac yn ostyngedic y gid gristion
a dioddef yn yfydd yr hwnn a ddanvon duw
attom a bod mewn kariad pryffaith er kariad
ar y gwr a ddioddefoedd drossom Eithr pwy bynac
a ddigio wrth dduw er danvon arno vlinder
y mae yn raid iddo gyffessv yn dda a 'i gymryd
yn yvydd Kans ef a ddywaid llawer dyn paham

[td. 144]
y mae duw yn gwnaythyr y chwarav hynn a mi
Beth a wnaythym mi yn erbyn duw Yn wir y
mae yr haini mewn perigl mawr kans y ryw
beth a hynny a wna y ddyn golli gorchafiaeth
nefoedd yn vnwedic a wnelych di yn erbyn duw

Mi a gaf yssgrifenedic ymyched sain ffrait
laian vod gwr gynt yn glaf ac y gweddioedd
ef erni am help ac y gwnaeth y lan vorwyn
honn ef yn holliach Ac wedy hynny y by ef yn
kerdded y vynydd ac y waered ac y diolches ef
y dduw ac y 'r santes vendigedic hynny Ac velly
val yr oedd ef nosswaith yn y wely yn kysgv
ac erbyn trannoeth yr oedd ef yn gwaiddi
ac yn gridvan yn dost val y byddai othrwm
y wrando Ac a ovynnodd iddo pa beth a wnathoedd
pan ddoyth y klefyd arno yr eilwaith
Ac ni ddywad ef ddim Ac yno y gofynnodd
y mynach iddo a vyssai yn kyffessv Ac y
dywad yntav na byssai ac nad oedd raid
kans ni ddygym i na march nac eidion
yn lledrad ac ni veddyliais i bechod arythr
Ac yna y dywad y mynach er na wnaethost
di vn pechod marwol ti a allyd wnaythyr
llawer o van bechode val y gallai yr haini
oll vod yn bechod marwol Kans ti a elly lennwi
ffettan o 'r manyd llaia ac a vo

[td. 145]
val y bo annodd y varch kryf y dwyn Ac
velly y gelly dithav vod yn llawn o van bechode
yr hai a 'th ddwc di y 'r poenav tragwddol
Ac yna yr aeth y gwr hwnn y gyffessv ac y
by ef lan y vychedd o hynny allan

Vy ngharedic bobyl dwyn ar dyall
ychwi mae heddiw yw y Petwryd sul o 'r grawys
glan yr hwnn y mae eglwys duw yn dwyn
ar ddyall o 'r proffwyd moesses yr hwnn wr
oedd yn proffwydo yr arglwydd Iessu grist lawer
blwyddyn kyn y eni ac val yr ydym ni yn
darllain o voesses val yr oedd ef ymynydd [~ ym mynydd ] sinai
ac y dywad yr arglwydd wrtho __________
_______________________________
A phan ddayth ffaraw a dala pobyl yr Issrael
ac val yr oedd ef yn gwnaythyr kam a hwynt
ac yna y kriassant hwyntav ar y gorychaf
dduw am help ac y gwrandewis yntev
arnynt a 'r arglwydd a erchis y voesses vynet
a thynnv plant yr Issrael o 'e kaethiwet a
minav a vyddaf gida thi a dwc di hwynt
y dir diogel ac velly wrth ddysc yr arglwydd
yr aeth moesses yno ac y kassglodd ef broffwydi
a chwbyl o 'r hen bobyl ac a gafas y kyfrwyddo

[td. 146]
hwynt allan o 'r wlad honno ac y dywad wrthynt
val y dysgassai dduw iddaw ac velly
y byant lawen ac yr aethant gydac ef
hen ac Iefainck hyd y mor ac yr oedd dduw
o 'e blaen bob amsser yn i hachyb hwynt rac
gwres yr haul a 'r dydd a 'r nos oedd yn olyni
yddynt ac oedd yn i kadw rac gwenwyn
ac rac pryffed gwenwynic Eithr pan glyby
ffaraw gassgly o voesses y bobyl hynn Y kymerth
yntev drychant o gartweni ac a 'i llenwis
o arvav a thrychant eraill ar gost y tir
a thrychannmil o wyr traet a saith ygainmil
o wyr mairch a phan welas moesses yr aneirif
bobyl hynny gweddiaw ar dduw a wnaethant
am help ac ar hynny y gwelai ef
yr arglwydd Iessu a gwialen yn i law yn
taro 'r mor.

A phan drewis ef y mor y gwelai ef ffordd
iddaw ef a 'i ly ac ymagores y mor yn ddav
hanner ac y safodd y dwr yn llonydd o bob
ty iddaw yn ddav vynydd ac yn briffordd ryngtynt
ac yr aeth moesses a 'i bobyl i 'r dwr
ac yr aeth ffaraw y 'r dwr ar y hol hwynttav
a chwbyl a 'r a oedd ganto a phan oedd
gwbyl o ly ffaraw gwedy myned o vewn
y dwr y gyd ydd ymgymysgawdd y dwr ac y
boddassant heb ado vn gwr a phann glyby

[td. 147]
moesses hynny y diolches ef yn vawr y dduw
ac yno y by ef saith niwarnod a Saith nos
y ffaynydd [~ a pheunydd ] idd aent y 'r dwr y ddiolch am y
diangk y wnaythyr kywyddoliaeth y dduw achos
gwnaythyr o dduw hynny ac hwynt ac er
dwyn kof y ninev oblegid wythnos y pasc
o bob ty y 'r mor nid amgenach nno [~ no ] 'r bedyddvaen
ac yna yr aeth moesses y 'r mynnyddoedd
ac y 'r tir gwyllt oni ddayth ef i vynydd
sinai ac yno y gadewis ef y bobyl oddidano
y gyd ac y safodd moesses ar y mynydd
ychel gida 'r arglwydd ac yno y by ef
yn dwyn dyrwest ar y gorff ddaygain niwarnod
heb na bwyd na diod ac yno y roes
Iessu grist iddo ddwy dabyl vn o vaen a 'r
llall o bridd ac yn yr hai hynny y dec gorchymyn
yn ysgrifenedic o law yr arglwydd
ehvn ac a erchis iddo y ddysgv y 'r bobyl
a phan ddayth moesses y lawr at y bobyl
yr oedd y wyneb kynn wnnet a 'r haul a dav
ysbir ar y ben yn debic i ddav gorn a chyn
oleyed a chyn decked ac na allai y bobyl
edrych arnaw rac y wnnet
______________________
ac y kyddioedd moesses y wyneb a chywrssi
ac yn y llaill dalen yr oedd dri gorchymyn

[td. 148]
yr hai a berthvnai ty ac at dduw
ehvn nid amgen karv dy dduw ywchlaw dim
a 'i anrydeddy a gorchymyn pob anghenraid
yn i ewllys ef ac nid wrth dy ewllys ||

Yr ail gorchymyn yw na chymer di enw dy
dad yn over sef yw hynny ni ellir dy alw
yn gristion oni byddy vab y dduw ac ynn
wir pwy bynnac ni bo velly diffrwyth yw y
henw a hevyd na thwng y dduw nac i vn lle
ar y gorff nac y ddim a 'r a greoedd ef er tyngv
kam lw oni 'th gymhellir yn ffest

Y Trydydd gorchymyn yw y ti gadw dy suliav
a 'th wylav a hynny a ddyaill y ni gofodi yn
vorav ac yn hwyr y vyned y gyssgv Eithr
gweddio duw a 'y wssnaethv yn y modd y byddi
di y dydd gwaith yn gwnaythyr dy waith a 'th
orwyl yn hwyr ac yn vore velly y dly dithav
dduw sul a dydd gwyl yn gwssnaethv
duw || Y Pedwrydd yw karv ohanot dy dad
a 'th vam a 'th ddyc di y 'r byd hwnn a hevyd
dy dad a 'th vam a 'th helpodd di y vod yn
gristion ac yn vnwedic dy dad ysbrydol
yssydd yn dwyn kywr dy enait ti val y
mae yr evengil yn dywedyd anrydedda
dy vam a 'th dad megis y bo yn hir dy einioes
ar y ddayar honn || Y Pvmet gair deddyf
yw pwy bynnac a laddo dyn o 'i vodd onis

[td. 149]
lladd er amddiffin y vywyd ehvn lle ni bo
lle y ochel nac y gilio y mae yn pechv
yn varwol yn amyl ac yn arythyr pai rann
y vod yn iddew nev yn sarssing y neb a laddai
kans ef a ddywaid duw ehvn ni mynnaf i
angav vn pechadyr

Y chweched gair deddyf yw na wna odineb
yn y gair hwnnw y hayrch duw I ddyn na
wnel odineb ac na bo kyd knawd rwng gwr
a gwraic oddieithr priodas achos mae kyntaf
krefydd a 'ssodes [~ osodes ] duw vy briodas ac ef ehvn
a 'i gwnaeth kynn pechod

Saithved gair deddyf yw na wna ledrat yn y
gair hwnnw i hairch duw y ddyn na ddycko
ef dda y gymodoc o 'i annvodd nac o 'i dwyll nac
o 'i annoc a lledrad yssydd warddedic herwydd y
gyfraith gyntaf a roddes duw y ddyn gan
ddywedyd a 'r nas mynnyd yt dy hvn na
wna dithav i arall

Yr Wythved gair deddyf yw na ddywaid ac na
ddwc gam dystoliaeth yn erbyn dy gymodoc
yn y gorchymyn hwnnw y hairch duw y ddyn
na chadarnhao gelwydd trwy dwng megis y kolletter
y gymodoc o 'i dda nev o 'i
glod bydol

[td. 150]
Y nawfet gair deddyf yw na chwenycha na
thv [~ thy ] na thir dy gymodoc Sef yw hynny drwy
dwyll a chamwedd a phwy bynnac a 'i chwenycho
er tristyd a gofyd iddaw yw megis y dywaid
Esseias broffwyd gwae chwi yr hai yssydd yn
kyssyllty y ty wrth y ty a 'r maes wrth y
maes hyd yn hervyn y plas

Y degved gair deddyf yw na chwenycha wraic
dy gymodoc na 'i was na 'i vorwyn na 'i vch [~ ych ]
na 'i varch na nebryw ddim a 'r a vo ar y
helw drwy dwyll nev gamwedd a chyn ddrwc
hayach yw y ddyn chwenychv gwraic y gymodoc
nev y verch y maes o briodas a phai bai
gwedy gwnaythyr y gwaithred kans yn benyd
ynt o achos or da [~ os â ] dyn y yffern am y pechod
llaiaf yssydd ni ddaw ef oddyno yn dragywydd
a hynn yw y dec gorchymyn yn rwymedic y 'w
dysgv ac y 'w kadw ac val hynn y doeth at voesses
oddiwrth yr arglwydd ac y dayth moesses o 'r
blaen yr roi 'r gyfraith ac y dayth Iessu
y [~ i 'w ] chadarnhav ac y roi gras a thrygaredd yn
y modd ac ymddiffynnodd ef bobyl yr Issrael
drwy yr mor y vynydd sinai a hevyd yn yr
vn ffynyd pan ddayth yr arglwydd a 'i wrthav
y dynnv y bobyl o 'r tywllwch ac o 'i kamvychedd
drwy y dwr hwnn ar olchedigaeth y

[td. 151]
bedydd y 'r mynydd rinweddol ac am
hynny pwy bynnac a 'madawo [~ ymadawo ] a 'i gamvychedd
ac a gattwo y dec gorchymyn a wnaethbwyd
o 'i kadw ef a godir yn ywch noc vn
mynydd Sef yw hynny y 'r nef Eithr pwy
bynnac a wnel hynn y mae yn raid iddaw
gymryd ymborth ar bvm torth o vara a dav
vrithill val yr ydwyf i heddiw yn darllain yn
yr evengil val y porthes krist y pvmmil
pobyl a 'r pvm torth bara haidd a 'r dday byscodyn
Y dorth gyntaf adifairwch [~ edifeirwch ] kalhon am
y bechodav | Yr ail yw kyffes lan o 'th enav ||
A 'r drydedd yw gwnaythyr Iawn am y tressbas
Y bedwredd yw na throech yr ailwaith
y 'th bechod kans y neb a ofno pechod
a ddaw y gael trygaredd dduw a 'r ddav byssgodyn
hynn y gweddiav ai roi kardodav a
hynn a 'th ylch di o 'th enwiredd

Mi a gaf yn ysgrifenedic vod gwr kyfoethawc
yr hwnn a elwid pyrs Eithr yr oedd ef mor
galed ac na roe ef ddim y neb a ddelo atto
y gaissio ac yna ve hapion vod llawer o bobl
yn kerdded gwedy ymgassgly y 'r vnlle yn son
am y gwr hwnn pa ddelw y gellynt twy gael

[td. 152]
dim ganto ac y dywad vn a oedd vaistir
arnynt pa beth a ddeliwch chwi a mi na
chaf i beth ganto ef a dala kynglwyst a
wnaethant ag ef na chai ef ddim ganto
a myned y wnaeth y gwr hwnn emyl y ty ac
eistav [~ eistedd ] yn y porth hyd pan welas ef y gwr yn
dyfod ty ac atto ac ef a griodd mor dost
ac mor dryan ac o wir lit ef a 'i tawlodd [~ taflodd ] y
gwr ef a thorth vara gan ddywedyd wrtho
ystopia dy benn a honn ynghengol o ddiawl
ac ysstopo ac velly y kymerth ef y dorth ac
y ffoes at y gyfaillion yn gyntaf byth ac
y galloedd ac a 'i dangosses yddynt ac a
enilloedd y gynglwyst arnynt ac ynna ef
a hapiodd y 'r gwr kyfoethoc hwnn glefychy y
nos nessaf at hynny ac ef a gymerth
y wassanaeth ac a vy varw ac y dayth
anysbrydoedd y gaissio yr enait ac a 'i kymerssant
Eithr yr oedd yr arglwyddes vair yn
barod y achyb yr enait ac y herchis hi
ddwyn yr enait ger y bron hi ac velly y
gwnaethbwyd ac nid oedd dim y helpv y 'r
enait ond y dorth vara a dawlassai [~ taflasai ] ef at
benn y gwr tlawd o 'i annvodd ac y dyfod
yr anysbrydoedd mae yn erbyn y ewllys
y kawssai y dyn gwann honno gan gyfiawnder

[td. 153]
ni ddlyai honno helpv ac yna yr aeth
mair at y harglwydd vab I weddio arno ar
roi yr enaid yn y korff yr eilwaith y edrych
a mendiai ac yna y herchis yr arglwydd
y 'r enait vyned y mywn y 'r korff a ffan aeth
yr enait at y korff y safodd y korff yn i sefyll
ac y roes ef ychenaid trwm ac a
elwis atto gwbyl o 'i genel [~ genedl ] a 'i gydmaithion
ac a ddywad wrthynt mor gadarn a
vyssai y varn arno ac ydd athoedd ef y
yffern oni byssav y dorth vara a dawlassai [~ daflasai ]
ef at benn y kardottwr ac y gwerthodd ef
y rann vwyaf o 'i dda ac a 'i rannodd rwng
tlodion ac ymddifaid a gwaniaid er mwyn
yr arglwydd ac y kymerth yntav grefydd
arno ac yr aeth yn voydwy bycheddol o hynny
allan ac y by ef varw yn dailwng
Eithr gristnogion da llyma lle gellwch
chwi weled vaint yw rinwedd yr elwissenn
ac mor gadarn y mae hi y 'th gadw di rac
y varn galed kans pob kyfryw ddyn a 'r a
wnel elwissen er kariad ar y greawdr dduw
a vydd amddiffynnol oddieithr y vod mewn pechod
marwol

Mi a gaf yn ysgrifenedic vod gwr gynt

[td. 154]
yn llosgi glo mewn fforest a gwnaythyr
tan mawr a wnai ac wrth hwnnw y byddai
ef yn vynych ac velly nosswaith y gwelai
wraic yn rydec [~ rhedeg ] y boparth y 'r tan yn ffesta
byth ac alle a gwr ar y hol a chleddav
noeth yn i law ar gefn march dy yn
ffesta byth ac y gallai varchogaeth yn amgylch
y tan ac o 'r diwedd yn dyfod iddi ac
yn i lladd ac yn y dryllio ac yn y bwrw yn
y tan ac yno myned ymaith yn gyntaf
ac y gallai a wnaeth ac velly pan
welas y gwas hynn yn vynech o waithe y
dywad ef y chwedl wrth y vaistir a gwas
gwych antyrys oedd hwnnw ac ef a vynnai
bryfo y gwas a gwybod beth oedd hyny ai gwir
ai kelwydd ac y gwisgodd amdano yn
arvoc ac yr aeth y 'r fforest ac y gwelas ef
bob peth val y dywedassai y gwas ac yno
y gofynnodd y gwr hwnn y 'r ysbryd oblegid
tyw [~ Duw ] pa beth oedd ac yr atebodd hithav ef
gan ddywedyd myvi yw gwraic hwnn a
a hwnn ac a wnaeth yn erbyn vy ngwr priod
heb wybod iddo a 'r gwr ar y march dy
ydiw y kythrel a hwnnw yssydd yn vy mhoeni
yn vwy no ffai bai holl wres tan y byd yn
vy llosgi ac yn vwy noc vn poen a 'r a ellit

[td. 155]
y veddylio yn yr holl vyd a 'r boen hynn yssy
 raid y mi y ddioddef hyd pan gaffwyf
i help drwy weddie a chardode vy ngharedigion
I drossof ac velly y helpodd y gwr hwnn
hi yn gymaint ac y galloedd ac a 'i dilifoedd
hi o 'r poenav y 'r llawenydd tragwddawl
heb drank a heb orffen

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section