[14. Huw Morus, Cân a wnaed i ofŷn Ffidil (1680)]
Cân a wnaed i ofŷn Ffidil i Meister Salbri
o Rug dros un Wiliam Probert yr hwnn
a Fuase Ffidler Enwog yn ei Amser.
Y Mesur Tromm Galon.
Yr Esgwier a
'r Wîsg Euraid
Salbri Enwog Sail Barwnniaid
Ni bu, nid oes un Cymmer ichwi
Meister Wiliam yn Meistroli
Ni bŷdd bŷth am bôb daioni
O Dâd i Dâd o hir Gariad yn rhagori
Yn Llywodraeth clydwr clodwŷch
Mŵyn mawledig, deffoledig diffael ydŷch
Colofn Bonedd Mowredd Meirion
A Chadernid ŷ'wch Adernion
Eich Rhŷw odieth a 'ch Mawrhydi
O flaen eraill i flaenori
Yn aned un o Enw downŷs
A Bonegeiddia o hâd Adda 'n anrhydeddŷs
Chwi ŷw Brîf Bennaeth talaith teilwng
Dewr Gwladwrus mŵya Ustus 'rŵy 'n ymostwng
Canu ar Redeg, cŵyno 'r ydŵy
Dros Hên Gerddor o Lann Dyfrdŵy
Wiliam Probert wrth ei henw
A fŷdd yn cynnig Miwsig masw
Goreu Dŷn a gweiria Danneu
Mewn Eisteddfod isel osod Eos leisieu
Yn Sîr Ymhwythig wlâd Seisnigedd
Ped arhoesa Aur a f'ase [~ fuasai] ar ei Fysedd
Yn dŵyllodrus ond Anlladrŵydd
Ni bu mo 'i fâth am Wincian llygaid
Golygŷn Gwlâd a Marchnad Merchaid
Goreu Dŷn ei Lâw a
'i Dafod
i dreuthu Nattŷr ofer Synwŷr i Fursennod
Mae o 'n benchwiben er yn llengcŷn
Chwi ŵyddoch arno fôd y Bendro 'n gŵryo 'i Gorŷn.
Mae o rwan yn Heneiddio
Fe ddarfu 'r grŷm a
'r gwrês oedd ynddo
Fe aeth y Ddeuben yn lledfeddod
Drŵg y mae o 'n dal mewn Diod
Ar Benn pôb twmpath cael codymme
Syrthio 'n glyder ar Fol y dyner Feiol dene
Da 'r ymdrawodd dirŷm droead
Gadw 'i Wddw, ar ôl ei Gwrw reiol Gariad
Dryllio 'r Drebel sâl Gymale
llawer Archoll Sŷ 'n ei ystlyse
[td. 312b]
Sigo ei Dyfron, torri ei Llengig
Anrheithio Osle Moese Miwsig
Ceisio Meddig, case moddion
Mae er ysdyddie, i drwsio Tanne Esgŷrn tynnion
Sŷdd aflawen, ail i Hŵyaden wael ei hediad
Llais Hŵch ar Wŷnt, Llais Llu wrth hogi
Llais Padell Brês yn derbŷn defni
Llais Câth yn canu clŷl y Llygod
Neu ddefni diflas dann y Daflod
Llêsc iawn ydi Llais Ci 'n udo
Neu Lais Olwŷn, neu Lais Morwŷn yn Llysmeirio
Mi gyfflybwn Fŵa ei Feiol
i Lais aniddig Gŵydd ar Farrig gwaedd arferol
Er bôd y Cerddor pêr laferŷdd
Yn Medru ' chanu a chwalu ei Cholŷdd
Mae Diffŷg anadl yn ei ffroene
Yn dŵyn ei Sŵn o dânn ei Assenne
Oer ei pharabl ŷw 'r Offerŷn
Yn Llafaru, gwŷch i ganu 'Gyche Gwenŷn
' Fe Wnae well llais a phricc Edafedd
Hai Lw-luan neu rŷw Driban ar y Drybedd
Ni wrendŷ Nêb mo 'i llais anhawddgar
Ond Rhŷw Feddw, neu Rŷ Fyddar
Haws nag ynill Ceiniog wrthi
O fewn ei Blŵy gael dŵy am dewi
Di-ddeallus ŷw 'r ddŵy ddellten
Ar wahanu yn llysgo canu llais Cacynen.
Erioed ni chlowed Gwrâch yn grwgnach
Pann fae 'n tuchan, neu 'n ystwttian anwasdatach
Caned ffarwel i
'w Gymdeithion
Darfu 'r Goel, fe dŷrr ei Galon
Ni ddâw bŷth i Feiol Serchog
Oni ddâw drŵy 'ch Llâw Alluog
A geir i Wiliam er ei Waeled
Drebel newŷdd, a llawenŷdd ynddi ' lloned
Fe ddâw 'n y Mann o 'i dwstan dristwch
Ond cael yn gelfŷdd Gâs da 'i ddeunydd Gîst diddanwch